Tiwtor mewn Addoliad a Datblygiad Gweinidogol
Teitl y Swydd: Tiwtor mewn Addoliad a Datblygiad Gweinidogol
Cyflog: £42,998
(Costau bendant ar gael)
Lleoliad: Caerdydd – Athrofa Padarn Sant, Llandaf, CF5 2YJ
Mae'r rôl yn disgwyl i chi deithio ledled Cymru, ac ambell arhosiad dros nos.
Math o Gontract: Parhaol
Yn adrodd: Y Cyfarwyddwr Datblygiad Gweinidogol Parhaus
Oriau Gwaith: Llawn amser (34.75 awr yr wythnos)
Cyd-destun
Padarn Sant yw athrofa’r Eglwys yng Nghymru ar gyfer ffurfiant, addysg ddiwinyddol, datblygiad gweinidogol, ac ymchwil. Mae'n athrofa fywiog sydd wedi ymrwymo'n llwyr i ymgysylltu'n gyfannol â’r broses o hyfforddi rhywun ar gyfer y weinidogaeth (hyfforddiant cychwynnol a pharatoi ar gyfer ordeinio neu weinidogaeth drwyddedig leyg), a datblygiad gweinidogol parhaus trwy annog, galluogi, a meithrin dysgu gydol oes ac aeddfedrwydd ysbrydol a diwinyddol.
Mae hyfforddiant ar gyfer y weinidogaeth, cyn ac ar ôl ordeinio/trwyddedu, wedi'i leoli yng nghyd-destun ehangach meddwl ac ymchwil diwinyddol, law yn llaw â buddsoddiad yn nisgyblaeth a gweinidogaeth lleygion. Drwy ddwyn y cyfrifoldebau hyn ynghyd fel rhan integredig o'r Eglwys ehangach yng Nghymru, mae Padarn Sant wedi ymrwymo i wneud cyfraniad cryf i fywyd a datblygiad diwinyddol ac ysbrydol yr Eglwys. Mae ein his-bennawd - ‘Ffurfiant mewn Cymuned ar gyfer Cenhadaeth’' - yn crisialu hanfod Padarn Sant. Ein prif nod yw creu cymuned o ddysgu Cristnogol, a gynhelir trwy feithrin ac addoliad dilys, sy'n cyfoethogi ac yn cyfrannu at ddatblygiad pellach cenhadaeth a gweinidogaeth ledled Cymru, drwy'r amrywiaeth gyfoethog o ddiwrnodau hyfforddi, cynadleddau, a rhaglenni aml-flwyddyn y mae'n eu cynnig.
Hanfodol
- Wedi’i ordeinio fel offeiriad yn yr Eglwys Anglicanaidd.
- Profiad eang yn y weinidogaeth Gristnogol.
- Gradd mewn diwinyddiaeth neu weinidogaeth.
- Dealltwriaeth gydymdeimladol ddatblygedig iawn o'r ystod eang o addoliad a’r arferion a geir yn eglwysi'r Eglwys yng Nghymru.
- Y gallu i hwyluso ac annog cydweithio a pharch y naill at y llall ynghylch addoliad ymhlith staff a dysgwyr.
- Y gallu i ddatblygu sgiliau ymarferol eraill wrth arwain addoliad.
- Dealltwriaeth o natur ffurfiant Cristnogol a'r gallu i gynorthwyo taith ffurfiant unigolion.
- Y gallu i roi adborth ac arweiniad effeithiol ar faterion academaidd a mwy personol/ysbrydol.
- Sgiliau bugeiliol i gynnig her a chefnogaeth i ddysgwyr, gan gynnwys ar adegau o argyfwng personol.
- Y gallu i ymarfer lletygarwch Cristnogol, a chreu cyd-destunau y mae gweinidogion yn teimlo sy’n adferol ac yn ysbrydol adfywiol.
- Y gallu i oruchwylio’r gwaith o drefnu amrywiaeth o gyrsiau, digwyddiadau, cynadleddau, cyfnodau preswyl, a rhaglenni dysgu
- Y gallu i uniaethu ag amrywiaeth eang o gyd-destunau gweinidogol
- Y gallu i ddangos sgiliau cyfathrebu rhagorol
- Gallu profedig fel siaradwr cyhoeddus diddorol a hwylusydd trafodaeth
- Y gallu i weithio'n annibynnol ac ar y cyd fel rhan o dîm ehangach
- Yn gyfarwydd â phecynnau TGCh safonol, a pharodrwydd i ddefnyddio technoleg fodern i hwyluso gweithio a dysgu gwasgaredig.
- Y gallu i reoli llwyth gwaith cymhleth o ofynion cystadleuol, a blaenoriaethu yn unol â hynny.
- Empathi â chenhadaeth a gweinidogaeth yr Eglwys yng Nghymru.
- Y gallu i weithio'n hyblyg gyda rhywfaint o waith gyda'r nos ac ar benwythnosau pan fo angen
Cais
I wneud cais am y swydd hon, anfonwch eich llythyr eglurhaol yn amlinellu sut rydych yn bodloni pob un o'r meini prawf hanfodol ynghyd â'ch CV i: hr@cinw.org.uk
Dyddiad cau
29 Gorffennaf 2024 am 10:00 am
Dyddiadau Cyfweliad
8 & 9 Awst 2024 wyneb yn wyneb yng Nghaerdydd
Rhagor o wybodaeth
Os hoffech gael sgwrs anffurfiol am y rôl hon, cysylltwch â'r Parchedig Chris Burr ar hr@cinw.org.uk
Lawrlwytho