Absenoldeb A Thâl Mabwysiad
Datblygwyd y darpariaethau ar gyfer absenoldeb a thâl mabwysiadu i roi arweiniad i glerigion ar eu hawliau a’r weithdrefn i’w dilyn wrth wneud cais am absenoldeb mabwysiadu. Caniateir absenoldeb mabwysiadu i sicrhau bod gan rieni newydd amser i ffurfio perthynas â phlentyn (plant) mabwysiedig sy’n dechrau byw gyda hwy. Mae absenoldeb a thâl mabwysiadu ar gael i unigolion sy’n mabwysiadu neu i aelod o gwpl pan fo cwpl yn mabwysiadu gyda’i gilydd.
Gweithdrefn a Rheolau
I fod yn gymwys am absenoldeb mabwysiadu, rhaid i glerigion fod newydd eu paru gan asiantaeth fabwysiadu safonol â phlentyn i’w fabwysiadu, a bod wedi gwasanaethu yng ngweinidogaeth yr Eglwys yng Nghymru am gyfnod parhaus o 26 wythnos yn arwain at yr wythnos pan hysbysir hwy eu bod wedi eu paru â’r plentyn (plant).
Rhaid i glerig sydd am fanteisio ar y darpariaethau hyn hysbysu’r Adran Gyflogau a’r Archddiacon o’r bwriad i gymryd absenoldeb mabwysiadu cyn gynted ag y bo modd, a heb fod yn hwyrach na 28 diwrnod cyn dechrau’r absenoldeb.
Rhaid cynnwys gyda’r hysbysiad dystysgrif leoli gydnabyddedig gan asiantaeth safonol. Gelwir y dystysgrif hon yn Dystysgrif Baru.
Pan fabwysiedir ar y cyd, rhaid i’r rhieni ddewis pwy fydd yn cymryd yr absenoldeb a’r tâl mabwysiadu.
Ni chaniateir ond un cyfnod o absenoldeb mabwysiadu, hyd yn oed os lleolir mwy nag un plentyn ar y tro.
Disgwylir i glerig ddychwelyd i’r gwaith ar ddiwedd y cyfnod absenoldeb mabwysiadu llawn. Os bydd am ddychwelyd i’r gwaith cyn diwedd y cyfnod llawn, rhaid hysbysu’r Adran Gyflogau mewn ysgrifen o leiaf 8 wythnos cyn y dyddiad pan fwriedir dychwelyd.
Bydd gan glerig hawl i ddychwelyd i’r un swydd, ar yr un telerau ac amodau gwasanaeth, ar ddiwedd y cyfnod o absenoldeb mabwysiadu arferol, sef 26 wythnos.
Bydd gan glerig hawl i ddychwelyd i’r un swydd, ar yr un telerau ac amodau gwasanaeth, os yw hynny’n rhesymol ymarferol, ar ddiwedd cyfnod o absenoldeb mabwysiadu ychwanegol (52 wythnos). Os na fydd yn bosibl dychwelyd i’r un swydd, cynigir i’r clerig waith arall addas i’w sgiliau a’i brofiad, ar delerau ac amodau gwasanaeth heb fod yn llai ffafriol.
Os na all clerig ddychwelyd i’r gwaith ar ddiwedd cyfnod o absenoldeb mabwysiadu llawn (52 wythnos) oherwydd salwch, gweithredir y weithdrefn anallu clerigion.
Os nad yw clerig am ddychwelyd i’r gwaith ar ddiwedd cyfnod o absenoldeb mabwysiadu llawn (52 wythnos), rhaid hysbysu’r Esgob yn unol â darpariaethau telerau gwasanaeth clerigion.
Yn ystod cyfnod o absenoldeb mabwysiadu, bydd gan yr Archddiacon hawl i wneud cyswllt rhesymol â chlerigion i drafod eu dychweliad i’r gwaith.
Absenoldeb Mabwysiadu
Bydd gan glerigion sy’n gymwys am absenoldeb mabwysiadu hawl i:
26 wythnos o absenoldeb mabwysiadu a hyd at 26 wythnos o absenoldeb mabwysiadu ychwanegol.
Tâl yn ystod cyfnodau o absenoldeb mabwysiadu
Yn ystod cyfnodau o absenoldeb mabwysiadu bydd gan glerigion hawl i holl fuddiannau gwasanaeth ac eithrio cyflog. Bydd clerigion ar gyfnodau o absenoldeb mabwysiadu yn derbyn y tâl a ganlyn:
- Wythnosau 1-39 cynwysedig – tâl mabwysiadu statudol
- Wythnosau 40-52 cynwysedig – dim tâl.
Efallai y bydd cefnogaeth ariannol ychwanegol ar gael trwy gredydau treth.
Trosglwyddo absenoldeb mabwysiadu / Absenoldeb Rhiant a Rennir
Lle bo babi i fod i gael ei eni neu blentyn yn cael ei leoli i’w fabwysiadu ar neu ar ôl 6 Ebrill 2015, gall rhieni rannu absenoldeb, yn amodol ar fodloni amodau cymhwysedd. Os yw’r fam neu’r mabwysiadwr yn dychwelyd i’r gwaith yn gynnar, gellir cymryd gweddill y cyfnod absenoldeb fel absenoldeb rhiant a rennir (SPL) hyd at uchafswm o 50 wythnos. Pan fo’r fam neu’r mabwysiadwr yn dychwelyd i’r gwaith cyn diwedd cyfnod y tâl mamolaeth neu fabwysiadu, mae’n rhaid talu Tâl Rhiant a Rennir (ShPP) am weddill y cyfnod hyd at uchafswm o 37 wythnos.
Gall clerig fod yn gymwys am absenoldeb rhiant a rennir yn achos babi sydd i fod i gael ei eni neu blentyn sy’n cael ei leoli i’w fabwysiadu ar neu ar ôl 6 Ebrill 2015. Mae’n rhaid cymryd absenoldeb rhiant a rennir erbyn pen-blwydd cyntaf y babi neu o fewn blwyddyn i’r mabwysiadu. Pan fo mam neu fabwysiadwr yn dychwelyd i’r gwaith cyn diwedd y cyfnod absenoldeb mamolaeth neu fabwysiadu o 52 wythnos, gellir cymryd gweddill y cyfnod absenoldeb fel SPL. Gellir rhannu’r hawl absenoldeb gyda mam neu briod neu bartner sifil y mabwysiadwr, y cyd-fabwysiadwr, rhiant arall y plentyn, partner y fam neu’r mabwysiadwr sy’n byw gyda’r fam neu’r mabwysiadwr a’r plentyn. Gweler y Polisi Absenoldeb Rhiant a Rennir am ragor o fanylion.
Cyflenwi yn ystod Absenoldeb Mabwysiadu
Yn ystod absenoldeb mabwysiadu darperir gwasanaethau a gofal bugeiliol fel pan fo plwyf yn wag.
Gellir cael cyngor ar gymhwyso’r darpariaethau hyn oddi wrth:
Yr Adran Adnoddau Dynol, 2 Sgwâr Callaghan, Caerdydd CF10 5BT
Yr Adran Gyflogau, 2 Sgwâr Callaghan, Caerdydd, CF10 5BT
Yr Archddiacon