Polisi Ar Fwlio A Harasiaeth
Rhagarweiniad
Y mae holl glerigion a lleygion yr Eglwys yng Nghymru yn gyfrifol am eu hymddygiad proffesiynol a phersonol eu hunain, a disgwylir iddynt ymddwyn bob amser mewn modd nad yw’n tramgwyddo eraill.
Y mae gennym oll gyfrifoldeb i drin ein gilydd gyda pharch ac i sicrhau nad yw clerigion na lleygion eraill yn cael eu bwlio na’u harasio.
Wrth fabwysiadu’r polisi a’r weithdrefn hon, y mae Mainc yr Esgobion yn:
- cydnabod yr angen am berthynas waith dda a chadarnhaol ar bob lefel yn yr Eglwys yng Nghymru;
- cydnabod yr effeithiau niweidiol ac aflesol y gall ymddygiad amhriodol ei gael ar waith a delwedd yr Eglwys yng Nghymru;
- ymrwymo i rwystro a dileu bwlio a harasiaeth cyn belled ag y mae hynny’n bosibl;
- gwneud trefniadau teg i ddelio ag unrhyw gwynion am fwlio a harasiaeth.
Amcan
Ni oddefir unrhyw ffurf ar fwlio, harasiaeth, cam-drin na bygwth, waeth beth fo’r rheswm a roddir amdanynt.
Y mae’r Esgob yn derbyn y cyfrifoldeb am y ddyletswydd o ofal sy’n ddyledus i’r holl weithwyr cyflogedig, y gweithwyr gwirfoddol ac eraill sy’n cyfrannu at fywyd yr Eglwys yng Nghymru, ac am sicrhau yr amddiffynnir eu hurddas wrth iddynt weithio ar ran yr Eglwys neu gyfrannu at ei bywyd a’i haddoliad. Y mae gan bob un ohonynt yr hawl i amgylchedd lle nad oes bygythiad oddi wrth gydweithwyr ac eraill yn yr Eglwys yng Nghymru.
Y mae’n anghyfreithlon bwlio na harasio neb ar dir rhyw, hil, anabledd na chred. Yn ôl y Ddeddf Amddiffyn rhag Harasiaeth 1997 y mae harasio yn gamwedd sifil ac yn drosedd.
Diffiniad
Ymddygiad yw bwlio a harasiaeth sy’n bygwth, dychryn ac analluogi unigolyn. Mae’n achosi morâl isel, diffyg cymhelliad, cyfradd isel o waith a diffyg canolbwyntio. Mae’n bychanu’r unigolyn ac yn lleihau hyder ac effeithiolrwydd.
Gellir diffinio bwlio, harasiaeth, cam-drin a bygwth fel ymddygiad gan y naill berson at y llall y mae’r derbynnydd yn ei ystyried yn annymunol ac yn atgas.
Gall gwahanol amgylchiadau gynhyrchu gwahanol brofiadau o fwlio, harasio, cam-drin neu fygwth. Gall gwahanol agweddau a diwylliannau olygu nad yw’r hyn a ystyrir gan y naill berson yn fwlio, harasio, cam-drin neu fygwth yn cael ei ystyried felly gan berson arall. Yr hyn sy’n berthnasol yw bod yr ymddygiad yn ymddygiad nas dymunir gan y derbynnydd.
Datganiad Polisi
Dymuna’r Esgob ddarparu amgylchedd lle nad oes bwlio, harasio, cam-drin na bygwth ar neb sy’n arwain bywyd yr Eglwys yng Nghymru nac yn cyfrannu tuag ato, yn glerigion, gwirfoddolwyr na phlwyfolion. Y mae ymddygiad annerbyniol yn cynnwys:
- harasio geiriol neu gorfforol
- bygwth geiriol neu gorfforol
- cam-drin geiriol neu gorfforol
Cymhwyso’r Polisi
Cymhwysir y polisi at bawb yn yr Esgobaeth sy’n gweithio yn yr Eglwys yng Nghymru neu’n cyfrannu at ei bywyd.
Bydd i bawb barchu hawliau pawb arall ac ymgadw rhag:
- ymddygiad corfforol nas dymunir ac sydd o natur annerbyniol
- ymddygiad geiriol nas dymunir ac sydd o natur fygythiol, yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol
- ymddygiad heb fod yn ymddygiad geiriol sydd o natur fygythiol
- ymddygiad sy’n bychanu neu’n dychryn neu’n cam-drin unigolyn
- harasio geiriol neu mewn ysgrifen
- ynysu a gwrthod cydweithredu.
Bydd Esgobion, Archddiaconiaid, Deoniaid, Deoniaid Bro a Pheriglorion yn gyfrifol am sicrhau bod pawb yn yr Esgobaeth sy’n gweithio yn yr Eglwys yng Nghymru neu’n cyfrannu at ei bywyd yn gwybod am y polisi. Byddant yn gyfrifol am sicrhau ymwybyddiaeth gyffredinol bod bwlio, harasio, cam-drin neu fygwth eraill yn fater difrifol y gellid ei gyfeirio at Dribiwnlys Disgyblaethol yr Eglwys yng Nghymru ac a allai fod yn achos ymchwiliad troseddol gan yr heddlu.
Rhaid i bawb sydd mewn safleoedd o gyfrifoldeb weithredu ar unwaith i atal bwlio, harasio, cam-drin neu fygwth cyn gynted ag y daw’r peth i sylw neu y dywedir amdano.
Bydd pawb sydd mewn safleoedd o gyfrifoldeb yn gyfrifol am sicrhau:
- nad oes dim bwlio, harasio, cam-drin na bygwth yn y lleoedd y maent hwy yn gyfrifol amdanynt, e.e. Esgobaeth, Cadeirlan, Deoniaeth, Bywoliaeth, Plwyf;
- bod gan bawb y mae a wnelo â bywyd a gwaith yr Eglwys yng Nghymru gyfrifoldeb arbennig am gynnal amgylchedd lle nad oes bwlio, harasio, cam-drin na bygwth.
Tramgwyddo yn erbyn y Polisi ar Fwlio a Harasiaeth
Gall personau a ddioddefodd fwlio, harasio, cam-drin neu fygwth, neu sy’n credu y gallant fod wedi bod yn dystion o hynny, dderbyn cyngor a chymorth cyfrinachol yn y lle cyntaf oddi wrth yr Archddiacon. Os am yr Archddiacon y mae’r gŵyn, dylid hysbysu’r Esgob. Mae’r polisi’n caniatáu cwyno ffurfiol ac anffurfiol. Os derbynnir cwyn ysgrifenedig ffurfiol am glerig yn yr Eglwys yng Nghymru, dilynir gweithdrefn ddisgyblu yr Eglwys yng Nghymru.
Bydd yr Esgob yn cymryd golwg ddifrifol ar unrhyw fwlio, harasio, cam-drin neu fygwth ac os, ar ôl ymchwiliad cychwynnol, y penderfynir y gall fod hynny wedi digwydd, gweithredir fel a ganlyn:
Yn achos clerigion: cymhwysir Gweithdrefnau Disgyblu yr Eglwys yng Nghymru a gellir disgyblu o ganlyniad.
Gall honiadau ffurfiol neu anffurfiol o fwlio, harasio, cam-drin neu fygwth gyda’r bwriad o niweidio enw da rhywun neu y ceir iddynt gael eu gwneud gyda malais, beri, yn dilyn ymchwiliad i weithdrefnau disgyblu yr Eglwys yng Nghymru ddod i rym.
Gellir cael gwybodaeth, cyngor a chymorth ynglŷn â’r Polisi ar Fwlio a Harasiaeth a sut y cymhwysir ef oddi wrth eich Archddiacon.
BWLIO A HARASIAETH GWEITHDREFN GWYNO I GLERIGION
Rhagarweiniad
Cynlluniwyd y weithdrefn hon i alluogi delio’n fuan, yn deg ac yn bwyllog â chwynion gan glerigion am fwlio, harasio, cam-drin neu fygwth. Mae’n ymwneud â’r achwynwr a’r harasiwr honedig fel ei gilydd.
Fe gymerir o ddifrif gwynion gan glerigion sy’n ystyried eu bod yn dioddef bwlio, harasio, cam-drin neu fygwth. Bydd unrhyw erlid neu ddial ar glerig a gwynodd yn fater difrifol a gyfeirir at y Tribiwnlys Disgyblaethol.
Dylai clerigion sy’n teimlo iddynt brofi neu fod yn dystion i fwlio, harasio, cam-drin neu fygwth gysylltu â’u Hesgob neu gall cydweithiwr neu gyfaill gysylltu ag ef ar eu rhan.
Gellir cael gwybodaeth, cyngor a chymorth ynglŷn â’r Polisi ar Fwlio a Harasiaeth a sut y cymhwysir ef oddi wrth eich Archddiacon.
Cwynion Anffurfiol
I sicrhau cyfrinachedd, bydd yr Esgob yn penodi * person â chymhwyster addas i weithredu fel canolwr rhwng yr achwynwr a’r harsiwr honedig. Ceisir eglurhad ar y pethau a ganlyn:
- pa ymddygiad a ystyriai’r derbynnydd yn dramgwyddus;
- a ystyrid yr ymddygiad yn dramgwyddus gan y sawl a gyflawnodd y weithred.
Ar ôl cael esboniad ar ymddygiad yr unigolion, bydd y sawl a benodwyd gan yr Esgob, os ystyrir bod angen am hynny, yn trefnu cyfarfod anffurfiol rhynddynt mewn lle cyfleus ac ar ddyddiad ac amser cyfleus. Rhaid cynnal y cyfarfod hwn o fewn pum niwrnod i’r gŵyn gyntaf. Gall y naill barti a’r llall ddod â rhywun gyda hwy os dymunant. Diben y cyfarfod fydd gwneud cymod a:
- chaniatáu trafodaeth anffurfiol
- gwneud yn glir beth oedd y digwyddiad neu’r weithred annerbyniol
- datrys y sefyllfa mewn modd priodol
Bydd y sawl a benodwyd gan yr Esgob yn cofnodi’r cyfarfod, ac unrhyw ganlyniadau neu gasgliadau iddo. Gofynnir yn y cyfarfod i’r ddau barti arwyddo bod y cofnod yn wir ac yn gywir. Cedwir y ddogfen hon mewn ffeil gyfrinachol gan yr Esgob. Nis ychwanegir at ffeil bersonol y naill barti na’r llall y mae a wnelo â hwy.
Lle bo angen, bydd y sawl a benodwyd gan yr Esgob yn monitro’r sefyllfa rhwng y ddau barti nes ei fod yn ystyried nad oes angen am hynny, ond nid am fwy na blwyddyn ar ôl y gŵyn gyntaf.
Bydd yr Esgob yn derbyn adroddiadau llafar cyson gydol y trafodaethau. Os bydd y bwlio, harasio, cam-drin neu fygwth yn dod i ben, ni fydd unrhyw weithredu pellach.
Os bydd a wnelo’r gŵyn â’r Esgob, rhaid cysylltu â’r Archesgob. Bydd ef wedyn yn dod o hyd * i unigolyn a chanddo gymwysterau addas i ymgymryd â’r dyletswyddau a nodir uchod.
Cwynion Ffurfiol
Dilynir y weithdrefn ffurfiol pan:
- na ellir datrys y mater yn anffurfiol;
- fo’r gwyn yn un mor ddifrifol fel bod yn rhaid ei dilyn trwy’r sianelau ffurfiol;
- sefydlir bod achos i’w ateb a bod gweithdrefn ddisgyblaethol yr Eglwys yng Nghymru i’w dilyn.
Fel rheol, dylid gwneud cwyn o fewn tri mis i’r harasiaeth honedig.
Cwynion Maleisius
Lle sefydlir i unigolyn wneud cwyn faleisus neu iddo gwyno gyda’r bwriad o ddinistrio enw da rhywun, gallai hynny, yn dilyn ymchwiliad, gael ei gyfeirio i’r Tribiwnlys Disgyblaethol.
person annibynnol sy’n arbenigo mewn cyflafareddu mewn amgylchiadau sensitif megis honiadau o fwlio a harasiaeth.