Cynllun Benthyciadau tai Ymddeol i Glerigion
CYNLLUN BENTHYCIAD ECWITI TAI CLERIGION CORFF Y CYNRYCHIOLWYR YR EGLWYS YNG NGHYMRU (2005)
Gall Corff y Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru roi cymorth gyda thai ymddeol ar y telerau a amlinellir yn y ddogfen hon.
Mae'r Cynllun hwn ar gyfer clerigion cyflogedig:
- Sydd yn eu swydd ar ddyddiad y cais ac a oedd yn 50 oed neu'n hŷn ar 31 Rhagfyr 2010;
- a fydd, ar ddyddiad ymddeol, wedi cwblhau deng mlynedd o wasanaeth yn yr Eglwys yng Nghymru;
- clerigion cyflogedig a orfodir i ymddeol yn gynnar oherwydd analluogrwydd parhaol a ardystiwyd er boddhad cynghorydd meddygol Corff y Cynrychiolwyr.
Os yw clerigion yn gymwys o dan gynllun 2005 a'r hen gynllun gallant ddewis pa gynllun y dymunant wneud cais oddi tano.
Os ydych yn gwneud cynlluniau ar gyfer eich llety ymddeol ac os hoffech wybod sut y gallai'r cynllun gyd-fynd â'ch amgylchiadau penodol, mae staff Corff y Cynrychiolwyr bob amser ar gael i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych neu i roi gwybodaeth fanylach i chi. (029 20348200). Nid yw staff Corff y Cynrychiolwyr yn gymwys i roi cyngor ariannol ac ni fyddant yn gwneud hynny, ac ni fyddant yn derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw benderfyniad a wnewch mewn cysylltiad â'r benthyciadau hyn.
Os ydych o fewn tair blynedd i ymddeol ac os hoffech wneud cais am gymorth o fewn telerau'r cynllun hwn, cysylltwch â staff Corff y Cynrychiolwyr. Unwaith y bydd ffurflen gais wedi'i chwblhau, bydd modd cynnig cyngor i chi ynghylch a ydych yn gymwys ar gyfer y cynllun a syniad o swm y benthyciad sydd ar gael.
Ni ellir disodli datblygiadau o dan yr hen gynllun gan ddatblygiadau o dan gynllun 2005.
Bydd cynllun 2005 yn dod i ben ar 31 Rhagfyr 2030.
Mae'r ffigurau a ddyfynnir yn y ddogfen hon yn gywir ar ddyddiad eu hargraffu a byddant yn cael eu diwygio o bryd i'w gilydd.
GWYBODAETH GYFFREDINOL
1.1 Y Cynllun
Amcan y cynllun yw galluogi pob clerig sy'n ymddeol o'r weinidogaeth gyflogedig, ar ôl bod yn meddiannu 'tŷ clwm', i gael eiddo ymddeol addas, o faint cymedrol, pan nad oes ganddo’r adnoddau ariannol i ddarparu llety o'r fath iddo ei hun.
Ni ddarperir tai ymddeol 'fel mater o hawl', ond gellir eu cynnig gan roi sylw i'r adnoddau sydd ar gael i Gorff y Cynrychiolwyr. Bydd y cymorth a ddarperir yn gysylltiedig ag amgylchiadau pob ymgeisydd. Nid yw'n rhan o ddiben y cynllun i gynorthwyo'r rhai sydd â rhai adnoddau eu hunain, naill ai i gaffael eiddo mwy, neu gyda'u cynllunio ariannol ehangach drwy ryddhau cyfalaf at ddibenion eraill. Yn gyffredinol, os ydych yn berchen ar eiddo ni fyddech yn gymwys ar gyfer y Cynllun hwn.
Gall gweddw pensiynwr a oedd yn gymwys ar gyfer y cynllun hwn barhau i gymryd rhan yn y cynllun. Mae cymorth hefyd ar gael i weddwon sy'n gorfod gadael eiddo clwm o ganlyniad i farwolaeth eu gŵr pe bai'n gymwys ar gyfer y cynllun hwn tra ei fod yn gwasanaethu yn y weinidogaeth gyflogedig. (DS: dylid cymryd pob cyfeiriad at weddwon fel y bo'n berthnasol hefyd i weddwon clerigion cyflogedig benywaidd).
Mae'r ddogfen hon hefyd yn esbonio arian rhodd a delir ymlaen llaw.
1.2 Yr Eiddo
Bydd Corff y Cynrychiolwyr ddim ond yn barod i ystyried gwneud benthyciad ecwiti ar eiddo o adeiladwaith confensiynol, sydd o faint cymedrol, gyda gardd y sy’n hawdd i’r ymgeisydd ei chynnal ar ôl ymddeol.
- Nid yw eiddo a adeiladwyd gan ddefnyddio ffrâm bren yn dderbyniol ar y cyfan.
- Mae'n annhebygol y bydd eiddo sydd angen gwaith adnewyddu, trosi neu foderneiddio mawr yn cael ei ystyried yn addas ar gyfer y cynllun hwn.
- Dylai tai a byngalos fod yn rhai rhydd-ddaliad, a rhaid i fflatiau fod yn rhai lesddaliad.
- Rhaid i eiddo lesddaliad gael cyfnod heb ddod ben o 90 mlynedd o leiaf ar y brydles.
- Fel arfer, dylai fflatiau fod ar y llawr gwaelod neu ar y llawr cyntaf.
- Efallai na fydd llety gwarchod yn addas i'w gynnwys yn y cynllun.
- Yn ddelfrydol, dylai'r eiddo fod o fewn pellter cerdded gwastad i siopau, eglwys, meddyg a thrafnidiaeth gyhoeddus.
Fel arfer, bydd Corff y Cynrychiolwyr yn gwrthod benthyciad ecwiti lle mae'r pris yn fwy nag un gwaith a hanner y pris ym Mynegai Prisiau Tai Cyfartalog Cymru y Nationwide. Mae Corff y Cynrychiolwyr yn cadw'r hawl i bennu addasrwydd eiddo at ddibenion benthyciad ecwiti.
1.3 Benthyciad Ecwiti
Mae'r geiriau 'benthyciad ecwiti', yn y ddogfen hon, yn golygu morgais lle mae'r swm sydd ei angen i ad-dalu'r benthyciad yn gysylltiedig â gwerth yr eiddo y mae'n cael ei sicrhau arno. Bydd yn cynrychioli'r un gyfran o'r gwerth hwnnw ag a wnaeth pan roddwyd y benthyciad, yn amodol ar unrhyw addasiadau a wnaed yn sgil ad-daliadau rhannol neu ragdaliadau yn ystod cyfnod y benthyciad. Mae natur y morgeisi hyn yn eu gwneud yn anaddas ar gyfer benthyca tymor byr ac felly ni ellir ystyried 'cyllid pontio’. Benthyciad Corff y Cynrychiolwyr fydd yr arwystl cyntaf ar yr eiddo.
Gall y rhai sy'n gymwys i gymryd rhan yn y cynllun wneud cais am forgais hyd at dair blynedd cyn eu dyddiad ymddeol cynharaf.
Bydd yn ofynnol i bob ymgeisydd sy'n cael benthyciadau ecwiti feddiannu'r eiddo y maent wedi'i brynu pan fyddant yn ymddeol.
1.4 A all ymgeisydd ddewis ble i fyw?
- Mae'r cynllun yn berthnasol i eiddo yng Nghymru neu yn Lloegr. Yn gonfensiynol, disgwylir i glerigion ddewis rhywle y tu allan i'w hen blwyfi. Os ydynt yn dymuno byw yn eu hen blwyf neu yn ei chyffiniau, bydd sylw'r Esgob neu'r Archddiacon yn cael ei dynnu at y sefyllfa. Os bydd pryder yn cael ei fynegi am achos o'r fath, ni fydd cymorth gyda thŷ yn yr ardal honno ar gael.
1.5 A fydd gweddw a dibynyddion yn ddigartref?
- Y cyngor yw gwneud ceisiadau ar y cyd er mwyn osgoi cais pellach gan briod ar farwolaeth y clerig.
- Gall gweddw aros yn yr eiddo ar ôl marwolaeth ei gŵr, ond byddai angen iddi barhau i ad-dalu'r benthyciad. Byddai'r benthyciad yn enw'r weddw.
- Bydd Corff y Cynrychiolwyr hefyd yn ystyried sefyllfa dibynyddion eraill â chydymdeimlad, ond ni fyddai fel arfer yn parhau i ddarparu cartref iddynt ar ôl marwolaeth y buddiolwr a'r priod.
- Os yw priod sydd â morgais gan Gorff y Cynrychiolwyr yn priodi person lleyg, fel arfer ni fyddai'n cael ei ystyried yn gymwys i gael cymorth parhaus o dan y cynllun. Fodd bynnag, mae gan Gorff y Cynrychiolwyr rywfaint o ddisgresiwn, gan ei alluogi i ystyried amgylchiadau unigol. Pan fydd priod sydd wed ailbriodi’n marw, byddai'n rhaid ad-dalu'r morgais.
- Pan fo clerig wedi marw, gall ei briod wneud cais am fenthyciad os nad yw'n ailbriodi. Bydd cymhwysedd ac amseriad y benthyciad yn berthnasol fel pe bai'r clerig yn dal yn fyw.
BENTHYCIAD ECWITI
Mae'r ymgeisydd yn prynu'r eiddo, gan ddarparu cyfran o'r pris prynu, ac mae Corff y Cynrychiolwyr yn benthyg y balans. Dim ond i brynu eiddo sy'n cael ei feddiannu, neu sydd i'w feddiannu, ar ôl ymddeol gan un o'i bensiynwyr y gellir defnyddio cyllid morgais a ddarperir gan Gorff y Cynrychiolwyr.
2.1 A fydd benthyciad ar gael waeth beth fo adnoddau cyfalaf ymgeisydd?
- Na. Ni fydd yr ymgeiswyr hynny sydd â digon o adnoddau (adnoddau ar y cyd, os ydynt yn briod) i ddarparu eiddo yn eu hymddeoliad heb droi at Gorff y Cynrychiolwyr yn cael cymorth ariannol. Fel arfer, ni fydd y rhai sydd angen cymorth yn gallu cadw mwy na thua £50,000 ar ôl talu eu cyfran o bris prynu'r eiddo.
Er enghraifft: Pe bai clerig am brynu eiddo gwerth £200,000 a bod ganddo gyfalaf o £150,000 yr uchafswm y gallai'r clerig ei gadw o'i gyfalaf yw £50,000 ac felly yn yr achos hwn byddai angen gwneud cais am fenthyciad o £100,000 a defnyddio £100,000 o’i gyfalaf ei hun i brynu'r eiddo
- Gellir gosod amod sy'n gofyn am ad-daliad rhannol o'r benthyciad os yw'r ymgeisydd i dderbyn cyfalaf pellach yn y dyfodol.
2.2 Beth yw'r isafswm cadw cyfalaf ar ôl i'r benthyciad gael ei roi?
- Yr isafswm cadw cyfalaf a ffefrir a gyfrifir gan gyfeirio at yr amser ymddeol yw £15,000.
Er enghraifft: Pe bai clerig am brynu eiddo gwerth £200,000 a bod ganddo gyfalaf o £150,000, yr isafswm y dylai'r clerig ei gadw o'i gyfalaf yw £15,000 ac felly yn yr achos hwn byddai angen gwneud cais am fenthyciad o £65,000 a defnyddio £135,000 o’i gyfalaf ei hun i brynu'r eiddo
- Os rhoddir benthyciad cyn ymddeol, gellir addasu'r isafswm hwn, gan roi sylw i'r cyfandaliad arfaethedig sy'n ddyledus ar ôl ymddeol.
2.3 Beth yw isafswm mewnbwn cyfalaf y benthyciwr?
- O leiaf 10% o werth yr eiddo.
2.4 Beth yw uchafswm y benthyciad?
- Uchafswm y benthyciad y gellir ei gynnig yw £100,000*, ar yr amod nad yw hyn yn fwy na 90% o werth yr eiddo neu saith gwaith a hanner incwm ymddeol gros y benthyciwr. (*wedi'i fynegeio o fis Mehefin 2003 i Fynegai Prisiau Tai Cyfartalog Cymru y Nationwide ac yn amodol ar asesiad gan Gorff y Cynrychiolwyr)
- Bydd uchafswm y benthyciad a'r paramedrau cadw cyfalaf yn cael eu diwygio ac yn gymwys o fis Ebrill bob blwyddyn.
- Bydd y blaensymiau'n seiliedig ar yr isaf o'r pris prynu neu'r prisiad.
- Er y bydd Corff y Cynrychiolwyr yn asesu'r swm y mae'n barod i'w roi fel rhagdaliad, cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw penderfynu a all dalu’r ad-daliadau a chyflawni ymrwymiadau ariannol eraill. Yn gyffredinol, ni ddylai cyfanswm y costau tai a fyddai'n daliadau llog, eitemau ym mharagraff 2.9 ac yswiriant eiddo fod yn fwy na 30% o'r incwm gros.
2.5 Pwy sy'n talu'r ffioedd cyfreithiol ac arolygu?
Bydd Corff y Cynrychiolwyr angen adroddiad a phrisiad llawn prynwyr cartrefi RICS ar bob eiddo. Bydd Corff y Cynrychiolwyr yn rhannu gyda'r benthyciwr, yn yr un gyfran â'r benthyciad i werth yr eiddo, y ffioedd sy'n gysylltiedig â phrynu llwyddiannus (ar gyfer y pryniant cyntaf).
2.6 Sut mae'r llog yn cael ei gyfrifo gan fenthyciwr?
- Cyfrifir llog amrywiol ar hanner cyfradd sylfaenol Banc Lloegr o 1 Ebrill 2007. Bydd y gyfradd yn cael ei hadolygu ym mis Ebrill bob blwyddyn ar ôl ystyried y cyfraddau cyfredol a'u heffaith ar fenthycwyr.
- Bydd Corff y Cynrychiolwyr yn casglu llog sy'n ddyledus bob mis drwy ddidyniad o bensiwn yr Eglwys yng Nghymru (neu gyflog cyn ymddeol).
2.7 Sut mae yswirio eiddo morgais?
- Rhaid i'r benthyciwr yswirio'r eiddo ar ei gost ei hun gyda chwmni cymeradwy sy'n trefnu i'r gwerth sydd wedi'i yswirio gael ei addasu bob blwyddyn yn unol â chwyddiant costau adeilad.
- Dylid ei yswirio i ddechrau am swm i dalu am atgyweirio neu adfer yr eiddo yn llawn, ynghyd â lwfans ar gyfer ffioedd a chostau proffesiynol a fyddai'n cael eu hysgwyddo pe bai colled (gan gynnwys, lle y bo'n briodol, clirio safleoedd), a'i hadolygu i lefel o yswiriant a awgrymwyd gan Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig ar gyfer yr eiddo, gan ystyried ei oedran a'i arddull.
- Mae Corff y Cynrychiolwyr yn mynnu bod ei fuddiant yn cael ei nodi yn y polisi yswiriant adeiladau a’i fod yn derbyn cadarnhad cyn rhyddhau'r benthyciad ecwiti. Bydd angen cadarnhad bob blwyddyn bod y polisi yn dal mewn grym.
2.8 Pwy sy'n gyfrifol am ofalu am yr eiddo?
- Mae'r benthyciwr yn cadw cyfrifoldeb uniongyrchol am gyflwr yr eiddo a chost ei gynnal a'i gadw. Dylid cynnal a chadw'r eiddo'n dda.
- Mae Corff y Cynrychiolwyr yn ei gwneud yn ofynnol i Syrfëwr Siartredig archwilio'r eiddo bob pum mlynedd er mwyn darparu prisiad yswiriant ac adroddiad cynnal a chadw. Bydd Corff y Cynrychiolwyr yn rhannu'r gost gyda'r Benthyciwr yn yr un gyfran â'r benthyciad gwreiddiol i werth yr eiddo.
- Os bydd eiddo'n mynd yn anniogel neu'n afiach i fyw ynddo ac nad oes gan y meddianwyr yr adnoddau i atgyweirio'r eiddo bydd gan Gorff y Cynrychiolwyr yr hawl i wneud unrhyw waith atgyweirio sy'n angenrheidiol ac ychwanegu'r swm hwn at y benthyciad ecwiti
2.9 Pa alldaliadau eraill y mae'n rhaid i'r benthyciwr eu talu?
- Y trethi dŵr, nwy, trydan a chostau cyfleustodau eraill.
- Y Dreth Gyngor a'r premiymau ar gyfer Yswiriant Cynnwys, ond mae'r rhain yn gyfrifoldeb personol nad yw'n uniongyrchol gysylltiedig â'r eiddo.
2.10 A oes unrhyw oblygiadau treth i'w hystyried?
- O dan y ddeddfwriaeth dreth bresennol, mae darparu benthyciad cyfradd isel yn arwain at fuddiant asesadwy sy'n agored i Dreth Incwm. Cyfrifir y buddiant asesadwy fel y gwahaniaeth rhwng y llog sy'n daladwy ar y benthyciad a'r 'gyfradd swyddogol' a bennir gan CThEM o bryd i'w gilydd. Mae hyn yn berthnasol i bob benthyciad i glerigion lle mae balans y benthyciad yn fwy na £10,000 a chodir llog ar gyfradd sy'n is na "chyfradd swyddogol" CThEM. Mae'r buddiant asesadwy, a'r dreth incwm dilynol sy’n ddyledus, yn deillio o ddyddiad blaenswm y benthyciad ac yn parhau i mewn i ymddeoliad. Yn dilyn marwolaeth clerig, byddai'r weddw hefyd yn ddarostyngedig i dreth incwm ar y buddiant asesadwy.
2.11 A ellir gwneud gwelliannau i eiddo â morgais?
- Wrth gaffael eiddo, anogir benthycwyr i ofyn am fenthyciad o swm addas i dalu am falans y pris prynu a chost unrhyw waith sydd ei angen i sicrhau ei fod mewn cyflwr da. Bydd yr angen am waith dilynol mawr yn cael ei ddiddymu wedyn yn y dyfodol rhagweladwy cyn belled ag y bo modd.
- Os oes angen gwaith yn ddiweddarach, neu os yw benthyciwr yn dymuno newid yr eiddo mewn unrhyw ffordd, mae'n hanfodol ei fod yn cysylltu â Chorff y Cynrychiolwyr cyn bwrw ymlaen. Gall gwelliannau i'r eiddo effeithio ar y swm sy'n ddyledus i Gorff y Cynrychiolwyr wrth werthu. Mae nodiadau manylach ar welliannau neu addasiadau ar gael gan Gorff y Cynrychiolwyr a dylid cyfeirio atynt cyn gwneud gwaith o'r fath.
2.12 Beth sy'n digwydd os ydw i am symud?
- Yn ystod oes y benthyciad ecwiti, gall y clerig neu'r weddw, mewn achos o werthu, yn ôl disgresiwn Corff y Cynrychiolwyr, gario gwerth ecwiti llawn Corff y Cynrychiolwyr ymlaen i'r eiddo newydd. Bydd yr holl gostau yn cael eu talu gan y benthyciwr. Caiff hyn ei drin fel benthyciad ecwiti newydd a byddai'r cynllun ar y pryd yn gymwys. Mae'r canlynol yn enghraifft:
- Mae clerig a phriod yn prynu tŷ ar ôl ymddeol ger cartref eu plentyn sydd, ar ôl 5 mlynedd, yn symud gyda’i swydd i ran wahanol o'r wlad. Mae'r clerig a'r priod am symud i fod yn agos ato.
- Costiodd yr eiddo cyntaf £100,000 ac roedd y benthyciad ecwiti am £90,000. Wrth werthu mae'r eiddo yn sicrhau £200,000. Felly, y gyfran ecwiti sy’n cael ei gario ymlaen yw £180,000. Mae’r ail eiddo yn £220,000 a'r blaendal yn £22,000 sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r benthyciad gael ei gynyddu i £108,000. Y gyfran ecwiti newydd wedyn fyddai £198,000 (neu 90% o werth yr eiddo)
2.13 Pa dystiolaeth ddogfennol o incwm a chyfalaf fydd ei hangen?
- Mae Corff y Cynrychiolwyr yn cadw'r hawl i ofyn am unrhyw ddogfennau sy'n angenrheidiol i nodi incwm a chyfalaf yr ymgeisydd/ymgeiswyr. Byddai hyn yn cynnwys ffurflenni treth.
AD-DALU'R BENTHYCIAD
3.1 Beth sy'n digwydd os yw'r tŷ yn werth mwy nag y mae'n ei gostio pan ad-delir benthyciad?
- Bydd y swm sydd ei angen i ad-dalu'r benthyciad yn cynrychioli'r un gyfran o werth yr eiddo ag a wnaeth pan wnaed y benthyciad, yn amodol ar unrhyw addasiad dilynol sy'n deillio o welliannau cyfalaf neu ad-daliadau rhannol o'r benthyciad.
- Er enghraifft, tŷ a brynwyd am £80,000 gyda chymorth benthyciad o £50,000. Mae gan Gorff y Cynrychiolwyr, ar ôl cyfrannu pum wythfed o'r gwerth gwreiddiol, yr hawl i gyfran gyfatebol o'r gwerth, felly, os yw'r tŷ yn werth £90,000
Mae Corff y Cynrychiolwyr yn derbyn pum wythfed: £56,250
Mae'r Benthyciwr (neu ei ystâd) yn cael tair wythfed: £33,750
Cyfanswm: £90,000
Byddai'r dull cyfrifo uchod hefyd yn berthnasol i ad-daliadau rhannol (isafswm o £10,000). Er enghraifft os prynir eiddo am £100,000 gyda benthyciad o £90,000 ac ar ôl ychydig flynyddoedd bod y clerig yn dymuno ad-dalu rhan o'r benthyciad pan fydd gwerth yr eiddo wedi codi i £200,000. Gwerth ecwiti Corff y Cynrychiolwyr bryd hynny fyddai £180,000 (90% o'r gwerth) Os caiff £30,000 ei ad-dalu o'r benthyciad, y benthyciad sy'n weddill y byddai llog yn cael ei godi arno fyddai £60,000 ond dim ond £150,000 fyddai llog ecwiti Corff y Cynrychiolwyr (75% o werth yr eiddo).
3.2 Ond beth sy'n digwydd os yw eiddo morgais yn werth llai nag y mae'n ei gostio?
- Pe bai hyn yn digwydd, heb unrhyw fai ar y benthyciwr, bydd Corff y Cynrychiolwyr yn rhannu'r golled.
- Er enghraifft, pe bai'r tŷ yn yr adran flaenorol wedi'i brisio am ddim ond £60,000:
Byddai Corff y Cynrychiolwyr yn derbyn pum wythfed: £37,500
Mae'r benthyciwr (neu ei ystad) yn cael tair wythfed: £22,500
Cyfanswm: £60,000
3.3 Pwy sy'n talu'r ffioedd sy'n ymwneud â'r gwerthiant terfynol?
- Ystad y benthyciwr neu'r benthyciwr.
3.4 Beth sy'n digwydd os nad yw'r eiddo wedi'i gynnal a'i gadw'n dda?
- Bydd Corff y Cynrychiolwyr yn ceisio addasiad ariannol i'w enillion gwerthu i liniaru unrhyw golled a gafwyd am nad yw'r eiddo wedi sicrhau pris priodol.
Blaensymiau Arian Rhodd
Mae blaensymiau di-log ar gael i bob clerig, waeth a ydynt yn gymwys ar gyfer y Cynllun Benthyciad Tai Ecwiti ai peidio, fel a ganlyn:
- Hyd at dair blynedd cyn y dyddiad ymddeol cymwys i helpu i brynu eiddo ymddeol.
- Hyd at ddwy flynedd cyn y dyddiad ymddeol cymwys i wneud gwaith atgyweirio ar eiddo sy'n eiddo i'r clerig, er mwyn iddo fod yn addas ar gyfer ei ymddeoliad.
Ebrill 2016