Salwch Ac Analluogrwydd Clerigion
NODYN CYNGOR I GLERIGION
SALWCH AC ANALLUOGRWYDD CLERIGION
Mae salwch ac absenoldeb yn sgil salwch yn broblem gyffredin yn y rhan fwyaf o sefydliadau. Mae’n broblem sydd angen ymdrin â hi’n barhaus a chyson. Nid yw’r Eglwys yng Nghymru’n eithriad yn hyn o beth. Fodd bynnag, o fewn yr Eglwys yng Nghymru mae ymdrin â chlerigion sy’n sâl, ac anghenion plwyfi yn sgil hynny’n fwy cymhleth gan nad yw clerigion wedi hysbysu eu Hesgob neu Archddiacon eu bod yn sâl ac nad ydynt ar gael i gyflawni eu dyletswyddau mewn rhai achosion.
Mae’r Eglwys yng Nghymru yn cydnabod mai clerigion yw’r adnodd mwyaf gwerthfawr sydd ganddi, a phan fydd clerigion yn sâl ac yn methu â chyflawni eu dyletswyddau, mae hynny’n effeithio’n uniongyrchol ar gymuned yr eglwys leol, y Ddeoniaeth a’r Esgobaeth. O ganlyniad, mae rheoli absenoldeb yn hanfodol i sicrhau bod gwaith plwyfi’n cael ei wneud yn effeithiol ac i ddatblygu arferion teg a chyson ar gyfer pob clerig.
Mae’r trefniadau canlynol yn ceisio sicrhau bod yr holl glerigion yn cael eu trin â chydymdeimlad ac yn deg.
Hysbysiad am absenoldeb
Os na allwch gyflawni’ch dyletswyddau oherwydd salwch, dylech chi (neu rywun arall ar eich rhan) ffonio’r Arweinydd Ardal Weinidogaeth / Cenhadaeth / Deon Ardal cyn gynted â phosibl. Bydd hyn yn galluogi’r Arweinydd Ardal Weinidogaeth / Cenhadaeth / Deon Ardal i wneud trefniadau ymarferol i sicrhau bod eich dyletswyddau’n cael eu cyflawni yn ystod cyfnod o salwch.
Os yn bosibl, byddai o gymorth pe gallech hysbysu’r Arweinydd Ardal Weinidogaeth / Cenhadaeth / Deon Ardal am y canlynol:
- Y rheswm am yr absenoldeb.
- Y dyddiad dychwelyd disgwyliedig.
- A yw’r absenoldeb i’w briodoli i anaf a ddigwyddodd yn y gwaith.
Bydd yr Arweinydd Ardal Weinidogaeth / Cenhadaeth / Deon Ardal yn cofnodi’r wybodaeth ar y ffurflen enghreifftiol amgaeedig (Atodiad 1) ac yn ei hanfon at yr Archddiacon, a fydd yn ei chadw’n gyfrinachol ar eich ffeil bersonol.
Rhaid i bob absenoldeb oherwydd salwch rhwng 1 a 7 diwrnod gael ei gofnodi ar ffurflen Hunan-ardystio am Absenoldeb. Atodir ffurflen hunan-ardystio am absenoldeb enghreifftiol yn Atodiad 2.
Absenoldeb salwch di-dor – o fwy na 7 diwrnod
Os yw eich salwch yn para am fwy na 7 diwrnod bydd yn rhaid i chi hysbysu’r Archddiacon. Os yn bosibl, byddai o gymorth pe gallech hysbysu’r Archddiacon am y canlynol:
- Y rheswm am yr absenoldeb.
- Y dyddiad dychwelyd disgwyliedig.
- A yw’r absenoldeb i’w briodoli i anaf a ddigwyddodd yn y gwaith.
Bydd yr Archddiacon yn cofnodi’r wybodaeth ar y ffurflen enghreifftiol amgaeedig (Atodiad 3) a’i chadw’n gyfrinachol ar eich ffeil bersonol.
Mae angen Tystysgrif Feddygol o’r enw “Nodyn Ffitrwydd” wedi’i llofnodi gan eich meddyg ar gyfer cyfnodau o absenoldeb dros 7 diwrnod.
Fel arfer mae tystysgrif o’r fath yn nodi na ddylech weithio am gyfnod penodol. Bydd hyn yn ddigon i gadarnhau eich bod yn ddigon iach i ddychwelyd i’r gwaith pan ddaw’r cyfnod meddygol i ben.
Os nad yw’r Dystysgrif Feddygol yn cynnwys dyddiad dychwelyd i’r gwaith, bydd yn ofynnol i chi, cyn ail-ddechrau’ch dyletswyddau, gael tystysgrif bellach gan eich meddyg. Diben y gofyniad hwn yw sicrhau nad ydych yn dychwelyd i’r gwaith cyn i’ch meddyg farnu eich bod yn ddigon iach i wneud hynny. Rhaid dychwelyd Tystysgrifau Meddygol i’r Tîm Gwasanaethau Pobl yn 2 Sgwâr Callaghan, Caerdydd, CF10 5BT
Dychwelyd i’r gwaith – ar ôl 7 diwrnod neu fwy o absenoldeb
Pan fyddwch yn gallu dychwelyd i’r gwaith, disgwylir i chi gysylltu â’ch Archddiacon. Bydd yr Archddiacon yn penderfynu a oes modd trefnu cymorth i chi ar ôl i chi ddychwelyd. Os ydych yn dychwelyd i’r gwaith yn dilyn cyfnod hir o absenoldeb, mae’n gwbl hanfodol fod y broses hon yn cael ei rheoli’n gywir. Y peth diwethaf y mae’r Eglwys yng Nghymru am ei weld yw unigolyn yn mynd yn sâl eto oherwydd diffyg gofal wrth ddychwelyd i ddyletswyddau arferol mewn modd priodol. Bydd yn ofynnol i’r Archddiacon gwblhau adroddiad byr trwy ddefnyddio Atodiad 4, a’i gadw ar ffeil gyfrinachol. Bydd yr adroddiad yn nodi pa drefniadau a gytunwyd rhyngoch i’ch cynorthwyo i ddychwelyd i’r gwaith.
Gall hyn gynnwys un o’r argymhellion canlynol:
- Dim gweithredu pellach
- Atgyfeirio at Wasanaethau Iechyd Galwedigaethol yr Eglwys yng Nghymru
- Ystyried cymorth cynghori
- Atgyfeirio i Wasanaeth Cynghori’r Eglwysi
- Unrhyw ofynion cymorth eraill
Cydnabyddir y gall amgylchiadau godi lle, oherwydd natur eich salwch, ei bod yn well gennych drafod dychwelyd i’r gwaith â rhywun o’r un rhyw â chi. Mewn achosion o’r fath, bydd trefniadau priodol yn cael eu gwneud drwy eich Archddiacon.
Pan fyddwch chi’n gallu dychwelyd i weithio bydd gofyn i chi hysbysu’r Tîm Gwasanaethau Pobl drwy gwblhau’r ffurflen absenoldeb yn Atodiad 5.
Gwasanaethau Iechyd Galwedigaethol
Mae gan yr Eglwys yng Nghymru drefniadau gyda Gwasanaethau Iechyd Galwedigaethol ledled Cymru. Gallwch gael eich atgyfeirio at y Gwasanaethau Iechyd Galwedigaethol ar unrhyw adeg yn ystod eich cyfnod o salwch. Gall hyn ddigwydd er mwyn cael barn annibynnol ar eich addasrwydd meddygol i gyflawni dyletswyddau penodol neu, os oes gennych gyflwr sy’n eich gwneud yn anabl, er mwyn nodi mesurau priodol i’ch cynorthwyo i gyflawni eich dyletswyddau.
Ymgynghorir yn llawn â chi cyn eich atgyfeirio at y Gwasanaethau Iechyd Galwedigaethol, a rhoddir ystyriaeth i’r cam hwn gan amlaf lle bo’r salwch yn para am fwy na 28 diwrnod olynol neu 28 diwrnod mewn cyfnod o 3 mis. Y cyfnod hwyaf o absenoldeb salwch a ganiateir cyn gwneud trefniadau atgyfeirio at y Gwasanaethau Iechyd Galwedigaethol yw 6 mis.
Os yw barn y Gwasanaethau Iechyd Galwedigaethol am eich cyflwr yn argoeli’n dda a’i bod yn debygol y gallwch ddychwelyd i’r gwaith, bydd trefniadau priodol yn cael eu gwneud i’ch galluogi i wneud hynny.
Fodd bynnag, os penderfynir nad ydych yn ddigon iach i barhau â’ch dyletswyddau, mae’n bosibl, ar ôl ymgynghori â chi, y caiff eich trwydded ei therfynu ar sail analluogrwydd parhaol.
Os nad ydych chi a’ch Esgob yn cytuno eich bod yn analluog yn barhaol, atgyfeirir eich achos i’w ystyried gan Fwrdd Meddygol.
Bydd y Bwrdd Meddygol yn cynghori ar y camau gweithredu mwyaf priodol, gan gynnwys:
- Analluogrwydd parhaol
- Adolygiad i ganiatáu amser i wella
- Dychwelyd i’r gwaith
- Atgyfeirio at Wasanaeth Cynghori ac adolygiad pellach
Os penderfynir eich bod yn analluog yn barhaol, gweithredir ar unwaith i derfynu’ch trwydded gyda chyfnod o rybudd, a chymerir camau i sicrhau mynediad i’r Cynllun Pensiwn Clerigion lle bo hynny’n briodol.
Os penderfynir eich bod yn debygol o wella’n llwyr, bydd y Bwrdd Meddygol yn pennu amserlen debygol i chi ddychwelyd i’r gwaith. Os na allwch ddychwelyd i’r gwaith yn unol â’r amserlen a bennir, bydd angen i’r Bwrdd Meddygol dderbyn adroddiad iechyd galwedigaethol arall i’w helpu i benderfynu ar eich achos.
Os penderfynir y gallwch ddychwelyd i’r gwaith yn syth, bydd y Bwrdd Meddygol yn gofyn i Esgob yr Esgobaeth gynnal y cyfweliad dychwelyd i’r gwaith angenrheidiol.
Os yw clerig yn methu â chydymffurfio â phenderfyniad y Bwrdd Meddygol, caiff y mater ei ystyried fel camymddwyn ac atgyfeirir eich achos at y Tribiwnlys Disgyblu.
Lles a chyswllt
Hysbyswyd yr Archddiaconiaid fod yn rhaid iddynt gadw mewn cysylltiad â chi yn ystod unrhyw gyfnod o absenoldeb, ac yn yr un modd dylech chithau gadw mewn cysylltiad â nhw, pe na bai ond i helpu i sicrhau y parheir i gyflawni eich dyletswyddau yn ystod eich absenoldeb. Mae cadw mewn cysylltiad yn galluogi’r Eglwys yng Nghymru i’ch helpu chi os oes angen, ac mae’n gyfle i sicrhau fod cydweithwyr yn cyfathrebu.
Taliadau salwch galwedigaethol
Nid yw’r broses o gyflwyno’r weithdrefn hon yn effeithio ar hawl clerigion i dâl salwch (gweler y manylion yng Nghanonau’r Eglwys yng Nghymru).
- Telir cyflog llawn a thaliadau rheolaidd eraill ar gyfer treuliau, llai unrhyw hawl i fudd-dal salwch statudol am 26 wythnos.
- Ar gyfer unrhyw gyfnod o absenoldeb di-dor dros 26 wythnos, hanner y cyflog, llai unrhyw fudd-dal salwch statudol y byddai ef/hi wedi bod â’r hawl iddo.
- Ar ôl 52 wythnos nid oes hawl i daliadau cyflog, ond gall yr Esgob ymestyn y cyfnod o dalu hanner cyflog mewn amgylchiadau eithriadol iawn.
Cofnodi absenoldeb
Cofnodir pob absenoldeb gan Gorff y Cynrychiolwyr ar ffurflenni hunan-ardystio a Nodyn Ffitrwydd. Fel rhan o’r ymrwymiad parhaus i fonitro a chefnogi clerigion pan fônt yn sâl, cyflwynir adroddiad bob chwe mis i bob Esgob ar lefelau salwch yn yr Esgobaeth, a chyflwynir adroddiad blynyddol i Is-bwyllgor Cynllun Cynnal y Weinidogaeth ar lefelau absenoldeb oherwydd salwch.
- Download Ffurflenni Hysbysu (Word)