Polisi a Gweithdrefn Disgyblu y Clerigion
Nodyn i’w gyhoeddi gyda’r Polisi Disgyblu
Nodyn gan Adran Gyfreithiol Corff y Cynrychiolwyr, Chwefror 2024 (d.s. nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Polisi)
Mae’r ddogfen isod yn nodi datganiad polisi cyffredinol o’r safonau disgyblu a ddisgwylir gan glerigion yr Eglwys yng Nghymru. Mae hefyd yn nodi gweithdrefn ar gyfer ystyried ac ymdrin â rhai mathau o gŵynion yn erbyn Clerigion yr Eglwys yng Nghymru, a elwir yn gŵynion ‘Categori 1’.
Rhaid i gŵynion Categori 1:
- bod yn gŵynion ‘Esgeuluso dyletswyddau swydd, neu ddiofalwch parhaus neu aneffeithlonrwydd llwyr wrth gyflawni’r cyfryw ddyletswyddau’; a
- bod yn gymharol annifrifol.
Mae pob cam disgyblu arall yn erbyn Clerigion (materion ‘Categori 2’) yn cael eu trin gan Dribiwnlys Disgyblu yr Eglwys yng Nghymru, yn unol â Phennod IX Cyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru. Nid ydynt yn gymwys i gael eu hystyried o dan y weithdrefn hon. Mae hyn yn cynnwys cwynion am:
- dysgu, pregethu, cyhoeddi neu arddel athrawiaeth neu gred sy’n anghydnaws ag eiddo’r Eglwys yng Nghymru;
- ymddygiad sy’n rhoi achos cyfiawn i gywilydd neu dramgwydd;
- torri neu anufuddhau’n fwriadol i unrhyw rai o ddarpariaethau’r Cyfansoddiad;
- torri neu anufuddhau’n fwriadol i unrhyw rai o reolau a rheoliadau Cynhadledd yr Esgobaeth y mae’r cyfryw un yn dal swydd neu’n byw ynddi;
- anufuddhau i unrhyw ddyfarniad, dedfryd neu orchymyn gan yr Archesgob, Esgob Cadeiriol, y Tribiwnlys, neu unrhyw un o Lysoedd yr Eglwys yng Nghymru;
- methu â chydymffurfio â chyngor Panel Diogelu’r Dalaith heb esgus rhesymol; a
- cwynion mwy difrifol o esgeuluso dyletswyddau swydd, neu ddiofalwch parhaus neu effeithlonrwydd llwyr wrth gyflawni’r cyfryw ddyletswyddau.
Dylid dwyn materion a allai arwain at gŵyn Categori 2 i sylw’r Esgob Esgobaeth perthnasol. Dylid dwyn materion sy’n cynnwys Esgob yr Esgobaeth i sylw’r Archesgob. Dylid dwyn materion sy’n cynnwys yr Archesgob i sylw Cofrestrydd yr Archesgob a’r Uwch Esgob (yr Esgob Esgobaeth sydd wedi bod yn ei swydd am y cyfnod hiraf heblaw’r Archesgob, sef Esgob Llanelwy ar hyn o bryd).
Cyflwyniad
Er mwyn i bob sefydliad weithio’n effeithiol, rhaid wrth ddisgyblaeth dda, ac nid yw’r Eglwys yng Nghymru yn eithriad yn hyn o beth. Mae disgyblaeth dda ymhlith clerigion yn cynnwys:
- gosod safonau ymddygiad disgwyliedig;
- hysbysu’r clerigion am y safonau disgwyliedig a beth a fydd yn digwydd os na fodlonir y safonau hyn;
- cymryd camau priodol os na fodlonir y safonau hynny.
Nod y gweithdrefnau disgyblu yw nodi’r hyn sydd wrth wraidd safonau annerbyniol o ran ymddygiad neu berfformiad, a chynnig cymorth er mwyn annog pobl i wella neu gyflwyno cosbau (lle bo’r angen).
Mewn rhai achosion o ymddygiad annerbyniol neu gamymddwyn, neu berfformiad gwael, y cyfan sydd ei angen yw gair i gall, yn y ffordd iawn ar yr adeg iawn.
Dro arall, efallai y bydd angen hyfforddiant neu gyngor ychwanegol, a dylai’r Esgob a’r Clerig dan sylw fod yn agored i hyn.
Fodd bynnag, os nad yw clerig yn gwella ei ymddygiad neu berfformiad, neu nad yw’n cael ei gynnal, yna bydd angen cychwyn gweithdrefnau disgyblu ffurfiol.
Polisi
Nod yr Eglwys yng Nghymru yw sicrhau dull teg a threfnus o orfodi safonau ymddygiad neu lefelau perfformiad, sy’n effeithio ar bob clerig. Ni oddefir ymddygiad annerbyniol neu lefelau perfformiad isel, a byddwn yn ymdrin ag unrhyw achos o ddiffyg disgyblaeth yn unol â’r gweithdrefnau isod, ar ôl cynnal ymchwiliad.
Wrth ymdrin â honiadau ffurfiol o gamymddwyn neu ymddygiad annerbyniol neu lefelau perfformiad isel gan glerig, diben y gweithdrefnau yw mynd i’r afael â’r pryderon hynny mewn modd teg a chyfiawn. Byddwn yn ymdrin â chwynion neu bryderon mewn ffordd:
- sy’n deg i’r holl bartïon perthnasol gan gynnwys yr achwynydd, y Clerig, teulu’r Clerig a’r Eglwys;
- sy’n gymesur â natur a difrifoldeb y materion a godwyd;
- sy’n sicrhau bod yr achwynydd a’r Clerig dan sylw yn ymwybodol o gam gweithdrefnol y gŵyn;
- sy’n osgoi unrhyw oedi diangen;
- sy’n osgoi costau diangen;
- sy’n cydymffurfio â safonau Cod Ymarfer ACAS ar gyfer ymdrin â materion disgyblu.
Nod y Gweithdrefnau Disgyblu yw sicrhau bod safonau ymddygiad a pherfformiad yn cael eu bodloni, a bod dulliau teg a chyson o ymdrin â phroblemau.
Ceir canllawiau clir sy’n cynnwys safonau ymddygiad a pherfformiad yn nogfen yr Eglwys yng Nghymru, Telerau Gwasanaeth Clerigion (yn enwedig yr adran Canllawiau ar gyfer Ymddygiad Proffesiynol Clerigion) ac mewn polisïau a gweithdrefnau cysylltiedig gan gynnwys Ordinal a Chyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru. Dylai pob clerig fod yn ymwybodol o’r gofynion hyn a chael eglurhad gan Esgobion, Archddiaconiaid neu Gynghorwyr Adnoddau Dynol Corff y Cynrychiolwyr, lle bo’r angen.
Cwestiynau Cyffredinol
Pwy ellir ei ddisgyblu o dan y Gweithdrefnau?
Mae’r Gweithdrefnau Disgyblu yn berthnasol i bob Clerig sy’n ymarfer gweinidogaeth yr Eglwys yng Nghymru.
Bydd clerigwyr a gyflogir o fewn strwythurau taleithiol, esgobaethol neu golegol yn ddarostyngedig i’r gweithdrefnau sy’n ymwneud â materion ymddygiad yn eu gweinidogaeth yn ogystal â gweithdrefnau disgyblu’r sefydliad sy’n eu cyflogi ar faterion sy’n ymwneud â’u cyflogaeth.
Ar ba sail y gellir cyflwyno gweithdrefnau disgyblu?
Gellir cychwyn gweithdrefnau disgyblu yn dilyn honiad o gamymddwyn neu berfformiad gwael. Gall un weithred neu un achos o esgeulustod fod yn ddigon difrifol i gyfiawnhau cychwyn y gweithdrefnau.
Disgrifir y seiliau dros gychwyn gweithdrefnau yn Adran 9, Pennod IX y Cyfansoddiad fel a ganlyn:
- dysgu, pregethu, cyhoeddi neu arddel athrawiaeth neu gred sy’n anghytuno â’r eiddo’r Eglwys yng Nghymru;
- esgeuluso dyletswyddau swydd, neu ddiofalwch parhaus neu aneffeithlonrwydd llwyr wrth gyflawni’r cyfryw ddyletswyddau;
- ymddygiad sy’n rhoi achos cyfiawn i gywilydd neu dramgwydd;
- torri neu anufuddhau’n fwriadol i unrhyw rai o ddarpariaethau’r Cyfansoddiad;
- torri neu anufuddhau’n fwriadol i unrhyw rai o reolau a rheoliadau Cynhadledd yr Esgobaeth y mae’r cyfryw un yn dal swydd neu’n byw ynddi;
- anufuddhau i unrhyw ddyfarniad dedfryd neu orchymyn gan yr Archesgob, Esgob Cadeiriol, y Tribiwnlys, neu unrhyw un o Lysoedd yr Eglwys yng Nghymru;
- ethu â chydymffurfio â chyngor Panel Diogelu’r Dalaith heb esgus rhesymol.
Sut y byddwn yn ymdrin â’r gŵyn?
Bydd dau gategori fel a ganlyn:
Categori 1
Yr Esgob a fydd yn mynd i’r afael â chwynion sy’n codi dan (b) yn adran 3(b) uchod yn y lle cyntaf (‘esgeuluso dyletswyddau swydd, neu ddiofalwch parhaus neu aneffeithlonrwydd llwyr wrth gyflawni’r cyfryw ddyletswyddau’). Gellir cyfeirio at yr achosion hyn yn y ddogfen hon o hyn ymlaen fel ‘Cwynion Categori 1’. Gweler enghreifftiau o’r materion hyn yn y Llawlyfr i Glerigion.
Amlinellir y gweithdrefnau i’w dilyn yn adran 4 -6 isod. Mae gan Esgob yr hawl i ymdrin â Chwynion Categori 1 tan y rhybudd ysgrifenedig terfynol. Ar ôl hynny, rhaid cyfeirio pob cwyn i’r Tribiwnlys Disgyblu.
Categori 2
Bydd y Tribiwnlys Disgyblu yn gwrando ac yn penderfynu ar:
- gwynion sy’n deillio o (a), (c), (d), (e), (f) neu (g) yn adran 3(b) uchod, sy’n briodol i’w cyfeirio i’r Tribiwnlys ym marn yr Esgob;
- cwynion sy’n deillio o (b) yn adran 3(b) uchod, sy’n rhy ddifrifol i’w hystyried dan Gategori 1 ym marn yr Esgob.
Bydd yr Esgob yn cyfeirio cwynion Categori 2 at Gofrestrydd y Tribiwnlys Disgyblu. Wedyn, defnyddir rheolau’r Tribiwnlys Disgyblu i bennu pa weithdrefn i’w mabwysiadu.
Sut y gellir gwneud cwynion?
Dylid anfon pob cwyn at yr Esgob yn y lle cyntaf. Os yw’r gŵyn yn ymwneud ag ymddygiad neu berfformiad yr Esgob, yna dylid cyfeirio’r gŵyn at yr Archesgob. Os yw’r gŵyn yn ymwneud ag ymddygiad neu berfformiad Archesgob, dylid cyfeirio’r gŵyn at yr Uwch Esgob nesaf.
Dylid gwneud cwyn ysgrifenedig a, chyn belled ag sy’n ymarferol bosibl, dylai gynnwys manylion union natur yr ymddygiad neu’r perfformiad y cwynir amdano gan gynnwys dyddiadau ac amseroedd y mater dan sylw. Dylid cynnwys manylion unrhyw berson arall a oedd yn bresennol ar y pryd.
Os yw’r gŵyn yn cynnwys honiad o dramgwydd troseddol difrifol neu’n ymwneud ag amddiffyn plant neu oedolion bregus, yna dylai’r achwynydd gyfeirio’r mater at yr heddlu hefyd.
Cwynion Categori 1
Egwyddorion sylfaenol Gweithdrefnau Cwynion Categori 1
Dyma’r egwyddorion allweddol wrth ymdrin â Chwynion Categori 1:
- os yw camau gweithredu anffurfiol yn methu sicrhau gwelliant mewn ymddygiad neu berfformiad neu gynnal unrhyw welliant, neu os yw ymchwiliad pellach yn dangos bod y mater y cwynir amdano yn fwy difrifol nag y tybiwyd yn wreiddiol, yna cychwynnir gweithdrefnau disgyblu;
- ni chymerir camau disgyblu yn erbyn y Clerig hyd nes y bydd y mater dan sylw wedi’i ymchwilio’n llawn;
- rhoddir gwybod i’r Clerig beth yw union natur y gŵyn yn ei erbyn/ei herbyn, bob cam o’r weithdrefn, a rhoddir cyfle iddo/iddi ateb cyn y gwneir unrhyw benderfyniad;
- mae gan Glerig yr hawl i gael cwmni cynrychiolydd undeb llafur neu gydweithiwr gydol y gweithdrefnau disgyblu;
- bydd Cynghorydd Adnoddau Dynol Corff y Cynrychiolwyr yn cynghori’r Esgob gydol y gweithdrefnau disgyblu;
- mae’r weithdrefn yn gyfrinachol a dim ond rhai sy’n gysylltiedig â’r weithdrefn a fydd yn cael gwybodaeth. Gall unrhyw achos o dorri cyfrinachedd danseilio sefyllfa’r rhai dan sylw, gan gynnwys y Clerig a’r Esgob, a gallent gael eu disgyblu eu hunain;
- os oes anghydfod ynglŷn â ffeithiau’r achos, bydd y baich profi sy’n ymwneud â chwynion Categori 1 yn amodol ar farn yr Esgob ynghylch a yw’r weithred neu’r ymddygiad neu’r camymddygiad y cwynir amdano, wedi digwydd mewn gwirionedd;
- efallai y byddai’n briodol hepgor un neu fwy o’r camau dan amgylchiadau eithriadol, ond ni ddylid gwneud hyn heb gyngor Cynghorydd Adnoddau Dynol Corff y Cynrychiolwyr ac ar ôl ymgynghori â’r Clerig dan sylw;
- bydd Cynghorydd Adnoddau Dynol Corff y Cynrychiolwyr yn bresennol gydol y weithdrefn ffurfiol, i’r graddau y bo’n ymarferol bosibl.
Gweithdrefnau ar gyfer ymchwilio i Gwynion Categori 1
Mater i’r Esgob yw penderfynu a yw’n briodol ceisio cymodi, cyn cychwyn gweithdrefnau disgyblu. Wrth gychwyn y weithdrefn hon felly, tybir bod pob ymgais i gymodi, os yw’n briodol, wedi methu.
Atal
Dylai’r Esgob ystyried p’un ai atal y Clerig am gyfnod byr tra cynhelir ymchwiliad i’r gŵyn. Nid yw atal rhywun dan yr amgylchiadau hyn yn golygu cosb, ac ni ddylid ei drin felly. Dim ond o dan un (neu fwy) o’r amgylchiadau canlynol y dylid atal rhywun o’r gwaith:
- er mwyn hwyluso unrhyw ymholiadau neu ymchwiliad;
- er mwyn osgoi difrod/niwed i bobl neu eiddo;
- os yw’n amlwg ei bod ddigon difrifol i’w hystyried yn gŵyn Categori 2;
- lle byddai hynny er lles, neu er mwyn diogelu, Clerigion eraill neu weithwyr lleyg, gwirfoddolwyr neu bobl fregus.
Cam 1- sut y bydd yr Esgob yn ystyried y gŵyn
Ar ôl derbyn cwyn ysgrifenedig bydd yr Esgob yn penderfynu a oes achos yn y lle cyntaf. Os daw’r Esgob i’r casgliad nad oes achos i’w ateb, yna bydd yr Esgob yn hysbysu’r achwynydd a’r Clerig dan sylw na fydd yn cychwyn y gweithdrefnau disgyblu, ac y dylid ymdrin â’r mater trwy gymodi.
Ar y llaw arall, efallai y bydd yr Esgob yn ei hystyried yn gŵyn mor ddifrifol fel ei fod yn cychwyn y gweithdrefnau disgyblu. Dan yr amgylchiadau hyn, bydd yr Esgob yn hysbysu’r Clerig a’r achwynydd y bydd yn ymchwilio i’r mater.
Cam 2 – Ymchwiliad
Bydd yr Esgob yn cychwyn ymchwiliad i’r mater y cwynir amdano. Cynhelir yr ymchwiliad gan Gynghorydd Adnoddau Dynol Corff y Cynrychiolwyr. Os bydd yr ymchwiliad yn datgelu bod y mater y cwynir amdano yn ddigon difrifol i’w ystyried yn gŵyn Categori 2, yna bydd yr ymchwiliad yn dod i ben – a bydd y gŵyn ac unrhyw ddeunyddiau eraill a gasglwyd yn ystod yr ymchwiliad cychwynnol yn cael eu hatgyfeirio’n syth i’r Tribiwnlys Disgyblu, a rhoddir gwybod i’r achwynydd a’r Clerig dan sylw am hyn.
Cam 3 – Ar ôl Ymchwiliad
Ar ôl cwblhau’r ymchwiliad, bydd Cynghorydd Adnoddau Dynol Corff y Cynrychiolwyr yn cynghori a oes achos i’w ateb. Os yw’r Esgob yn penderfynu bod achos i’w ateb a bod y mater y cwynir amdano yn perthyn i Gategori 1 y gellir ymdrin ag ef gyda rhybuddion, yna bydd yr Esgob yn ymdrin â’r mater ei hun – ar yr amod bod gan y Clerig hawl i apelio yn erbyn ei benderfyniad i’r Panel Apelio (gweler Cam 4 isod).
Gweithdrefnau Disgyblu Ffurfiol ar gyfer Cwynion Categori 1
Cam 1 – Cyn y Cyfarfod Disgyblu
Bydd yr Esgob yn:
- darparu datganiad ysgrifenedig sy’n cyflwyno’r materion y cwynir amdanynt neu unrhyw amgylchiadau eraill a arweiniodd yr Esgob i gychwyn y gweithdrefnau disgyblu;
- gwahodd y Clerig i gyfarfod gan roi 7 diwrnod o rybudd i’r trefniadau;
- hysbysu’r Clerig am ei hawl i ddod â chynrychiolydd undeb llafur neu gydweithiwr i’r cyfarfod gydag ef/hi.
Rhaid i’r Clerig gymryd pob cam rhesymol i fynychu’r cyfarfod. Os na all wneud hyn oherwydd amgylchiadau eithriadol (e.e. nid yw’r cydweithiwr yn gallu dod i’r cyfarfod) yna bydd gan y Clerig yr hawl i aildrefnu’r cyfarfod cyn pen 7 diwrnod i ddyddiad y cyfarfod gwreiddiol.
Bydd Cynghorydd Adnoddau Dynol Corff y Cynrychiolwyr yn cydlynu a hwyluso’r cyfarfodydd hyn.
Cam 2 – Y Cyfarfod Disgyblu
Bydd yr Esgob yn mynychu’r cyfarfod gyda pherson addas a fydd yn gweithredu fel cynghorydd proffesiynol, ac nad oes a wnelo o gwbl â’r ymchwiliad. Bydd yr unigolyn hwnnw’n gyfrifol am gadw trefn yn y cyfarfod a pharatoi nodyn/cofnod o’r cyfryw gyfarfod.
Bydd yr Esgob yn gofyn i’r ymchwilydd ddatgan natur y gŵyn a chyflwyno’r dystiolaeth a gasglwyd yn ystod yr ymchwiliad gan gynnwys galw ar unrhyw dystion.
Gwahoddir y Clerig i ateb unrhyw gwestiynau gan yr ymchwilydd ac unrhyw dystion.
Bydd yr Esgob yn gofyn i’r Clerig ymateb i’r gŵyn, a gall hyn gynnwys cyflwyno tystiolaeth neu dystion.
Bydd yr ymchwilydd wedyn yn gofyn cwestiynau i’r Clerig ac unrhyw dystion.
Bydd yr Esgob a’r cynghorydd proffesiynol yn gofyn cwestiynau i’r ymchwilydd ac unrhyw dystion, ac i’r Clerig ac unrhyw dystion.
Yna, gofynnir i’r ymchwilydd a’r Clerig grynhoi’u hachos.
Pan fydd yr Esgob yn fodlon fod yr holl wybodaeth sy’n ymwneud â’r gŵyn ac ymateb y Clerig yn gyflawn, bydd yr Esgob yn gadael i ystyried ei ymateb ac yn gofyn am gyngor y cynghorydd proffesiynol fel bo’r angen.
Cam 3 – Ar ôl y Cyfarfod Disgyblu
Cyn pen 7 niwrnod i’r cyfarfod, bydd yr Esgob yn hysbysu’r Clerig am ei benderfyniad a all gynnwys un o’r canlynol:
- nid oes unrhyw achos i’w ateb (ac felly nid oes angen camau disgyblu);
- rhybudd ar lafar, a fydd yn parhau yng nghofnodion y Clerig am dri mis;
- rhybudd ysgrifenedig cyntaf a fydd yn parhau yng nghofnodion y Clerig am chwe mis;
- ail rybudd ysgrifenedig a fydd yn parhau yng nghofnodion y Clerig am chwe mis;
- rhybudd ysgrifenedig terfynol a fydd yn parhau yng nghofnodion y Clerig am ddeuddeg mis.
Cynghorir y Clerig ynglŷn â’i hawl i apelio i’r Panel Apelio (gweler cam 4 isod).
Cam 4 – Y Panel Apelio – Ymarfer Hawl i Apelio
Bydd y Panel Apelio (sy’n cynnwys aelodau’r Tribiwnlys Disgyblu) yn cyflawni swyddogaeth debyg i’r Tribiwnlysoedd Cyflogaeth mewn swydd seciwlar.
Dyma’r gweithdrefnau dan sylw:
- rhaid i Glerig sy’n dymuno ymarfer ei hawl i apelio yn erbyn penderfyniad disgyblu yr Esgob gyflwyno ei apêl i’r Esgob cyn pen 7 diwrnod i dderbyn penderfyniad disgyblu ysgrifenedig gan nodi’r rhesymau dros apelio;
- bydd yr Esgob yn atgyfeirio’r apêl at gynghorydd Adnoddau Dynol Corff y Cynrychiolwyr a fydd yn gyfrifol am drefnu cyfarfod y Panel Apelio;
- bydd Llywydd y Tribiwnlys Disgyblu yn ystyried yr apêl cyn penodi Panel Apelio sy’n cynnwys 3 aelod o’r Tribiwnlys Disgyblu: 1 â chymhwyster cyfreithiol,1 Clerig ac 1 aelod lleyg;
- bydd y Panel Apelio yn ymgynnull cyn gynted ag sy’n ymarferol bosibl (a chyn pen 14 diwrnod i dderbyn yr apêl);
- bydd yr apêl yn ystyried yr un ffeithiau a ystyriwyd yn y cyfarfod disgyblu gwreiddiol; ni dderbynnir tystiolaeth newydd yn ystod y cam hwn.
Os yw’r Panel Apelio yn fodlon bod ganddo’r wybodaeth angenrheidiol i ystyried yr apêl, bydd yn gadael i wneud ei benderfyniad. Gall y penderfyniad gynnwys un o’r canlynol:
- caniatáu’r apêl (mae’r apêl yn llwyddiannus);
- gwrthod yr apêl (mae’r apêl wedi methu);
- lleihau’r gosb disgyblu;
- cynyddu’r gosb disgyblu.
Bydd y Panel Apelio yn hysbysu’r Clerig a’r Esgob o’i benderfyniad cyn pen 7 diwrnod i ddyddiad cyfarfod y Panel Apelio.
Mae penderfyniad y Panel Apelio yn derfynol.
Cam 5 – Gweithredu’r Penderfyniad
Bydd yr Esgob yn gweithredu penderfyniad y Panel Apelio.
Cwynion Categori 2
Y Weithdrefn ar gyfer Cwynion Categori 2
Bydd y Tribiwnlys Disgyblu yn gwrando ac yn penderfynu ar:
- gwynion sy’n deillio o (a), (c), (d), (e) neu (f) yn adran 3(b) uchod, sy’n briodol i’w cyfeirio i’r Tribiwnlys ym marn yr Esgob;
- cwynion sy’n deillio o (b) yn adran 3(b) uchod, sy’n rhy ddifrifol i’w hystyried o dan Gategori 1 ym marn yr Esgob.
Bydd yr Esgob yn cyfeirio cwynion Categori 2 at Gofrestrydd y Tribiwnlys Disgyblu. Wedyn, defnyddir rheolau’r Tribiwnlys Disgyblu i bennu pa weithdrefnau i’w dilyn.
Materion Eraill
Gofal Bugeiliol wrth weithredu’r Gweithdrefnau Disgyblu
Cyfrifoldeb yr Esgob yw rhoi gofal a chymorth i’r clerig. Cyfrifoldeb yr Esgob hefyd yw cynnal disgyblaeth dda. Wrth weithredu’r Gweithdrefnau Disgyblu, rhaid i’r Esgob sicrhau ei fod yn osgoi pob cysylltiad bugeiliol â phawb sy’n ymwneud â’r achos. Bydd hyn yn sicrhau na chyfaddawdir ar allu’r Esgob i fod yn ddiduedd cyn belled ag sy’n ymarferol bosibl. Tra bo’r gweithdrefnau disgyblu ar waith, bydd yr Esgob yn penodi uwch aelod arall o’r glerigiaeth o fewn yr Esgobaeth i gyflawni’i gyfrifoldebau bugeiliol.
Cod Ymarfer
Cynlluniwyd y gweithdrefnau hyn i fodloni’r gofynion arfer gorau sydd yng Nghod Ymarfer ACAS ar gyfer Gweithdrefnau Disgyblu, ac er mwyn bodloni gofynion yr Adran Busnes, Arloesedd a Sgiliau o ran ymestyn i Glerigion, o fewn fframwaith gwirfoddol, hawliau penodol a ganiateir dan adran 23 o Ddeddf Cysylltiadau Cyflogaeth 1999; yn enwedig yr hawl i beidio â chael eich diswyddo’n annheg.