Canllawiau cyffredinol ar gyfer Clerigion ar ddiogelwch Persondai
Cyflwyniad
Mae clerigion yn dymuno bod yn hygyrch i'w cymuned fel rhan o'u gofal bugeiliol. Ar yr un pryd, mae ganddynt hwy a'u teuluoedd hawl i fyw mewn tŷ sy'n darparu diogelwch a phreifatrwydd rhesymol.
Polisi Corff y Cynrychiolwyr yw annog Byrddau Persondai Esgobaethol i asesu materion diogelwch a diogelwch personol ar gyfer pob un o'r Persondai dan eu gofal ac i ddatblygu cynlluniau i weithredu mesurau priodol.
At hynny, mae’n ddyletswydd ar bob clerig i ystyried diogelwch cyffredinol a’u diogelwch personol, diogelwch eu teuluoedd ac ymwelwyr eraill â'r Persondy ac mae'r canllawiau hyn yn cynnig rhai argymhellion sylfaenol sy’n rhai 'synnwyr cyffredin'.
Asesu Risg
Yn gyffredinol, mae clerigion yn derbyn mwy o ymwelwyr na'r deiliad tŷ cyffredin. Er y bydd gan fwyafrif helaeth yr ymwelwyr resymau cwbl resymol dros alw yn y tŷ, gall lleiafrif bach arall fod â bwriadau troseddol ac, os felly, mae’n bur debygol y byddant yn cyrraedd yn ddirybudd. Gall y bwriad troseddol hwn fod yn ymwneud â’r adeiladau neu â'r bobl ac mae angen addasu'r ymateb priodol yn unol â hynny.
I raddau helaeth, bydd lladron yn cymryd mantais ar sefyllfa a'r peth gorau iddyn nhw yw gallu cael mynediad hawdd i eiddo. Eu hoff darged yw tŷ lle mae drysau neu ffenestri wedi'u gadael ar agor, os bydd y preswylydd wedi mynd allan am gyfnod byr ac wedi anghofio cloi’r drysau. Yn ôl yr ystadegau, mae 62% o achosion byrgleriaeth yn digwydd yng nghefn yr eiddo a 60% ohonynt yn cael mynediad drwy ffenestri.
Byrddau Persondai Esgobaethol sy’n gyfrifol am lety clerigion y plwyf a bydd y penderfyniadau a wnânt ar faint o ddiogelwch y byddant yn ei ddarparu yn dibynnu ar gymeriad yr ardal benodol ac union leoliad y persondy. Er enghraifft, nid yw ardaloedd canol dinas bob amser mewn mwy o berygl na mannau eraill, er y gall y problemau fod yn wahanol o ran eu natur a'u graddfa.
Gall ymwelwyr digroeso dargedu'r ficerdy os yw wedi'i leoli'n agos i’r eglwys (gall eglwys fod yn yn darged i fyrgleriaeth a fandaliaeth) gan achosi mwy o berygl i’r ficerdy. I'r clerigion hynny sy'n byw ymhellach oddi wrth yr eglwys ac sy’n gallu defnyddio cyfleusterau swyddfa yn adeiladau'r eglwys neu'r plwyf ar gyfer apwyntiadau/ymwelwyr, gall y perygl i'w tŷ a'i ddeiliaid fod yn llai. Fodd bynnag, ni ellir cyffredinoli: pobl sysdd â gwybodaeth a phrofiad lleol manwl yw’r rhai gorau i asesu risg.
Y Byrddau Persondai fydd yn asesu'r risgiau hyn yn ffurfiol, gyda’r Arolygydd Persondai yn cynnal arolwg bob 5 mlynedd a phan ddaw’r adeiladau’n wag, gan gymryd camau priodol. Mae'r arolygon hyn yn mynd i'r afael yn benodol â materion diogelwch a diogelwch personol ac yn nodi gwaith priodol a rhesymol i liniaru'r risgiau.
Wrth asesu eiddo bydd yr Arolygydd yn ystyried y materion canlynol:
- Safle a Thir
- Goleuadau Allanol
- Larymau Tresmaswyr
- Drws ffrynt
- Drws cefn neu Gegin
- Ffenestri Ffrengig
- Drysau Patio llithro
- Ffenestri
- Garejys a Thai Allan
Paratowyd canllawiau manwl ar gyfer Byrddau ac Arolygwyr ar fesurau diogelwch posibl dan amgylchiadau gwahanol. Bydd yn rhaid blaenoriaethu gweithredu mesurau bob amser ar sail angen a brys ond mewn llawer o achosion gellir cychwyn rhaglen o welliannau ar draws pob Esgobaeth.
Dylai clerigion a meddianwyr hefyd sicrhau bod Arolygwyr a Byrddau yn ymwybodol o bryderon diogelwch a diogelwch personol fel y gellir ystyried mesurau rhesymol.
Mesurau diogelwch personol o ddydd i ddydd
Yn ogystal â'r mesurau ffisegol y gellir eu gweithredu mewn Persondy, mae nifer o ragofalon syml y gall clerigion eu cymryd er mwyn sicrhau diogelwch eu cartrefi. Er enghraifft:
Dylech osgoi gadael arwyddion sy’n dangos eich bod wedi mynd i ffwrdd
- Pan fydd angen gadael y tŷ yn wag am fwy na diwrnod, dywedwch wrth gymydog neu ffrind dibynadwy bob amser, ond dim ond dweud wrth y rhai sydd angen gwybod.
- Ceisiwch osgoi cyhoeddi'ch absenoldeb mewn cylchlythyrau a hysbysiadau – mae modd i eraill heblaw’r gynulleidfa eu darllen.
- Dylech ganslo unrhyw eitemau sy’n cael eu cludo i’ch cartref, llaeth, papur newydd a gofynnwch i rywun wirio nad oes post neu daflenni heb eu casglu i’w gweld o’ch blwch llythyrau. Fel arall, gofynnwch i'r swyddfa didoli post gadw eich post.
- Peidiwch â gadael nodiadau ar gyfer masnachwyr. Ffoniwch nhw yn lle hynny.
- Gofynnwch i gymydog neu ffrind ddyfrio'r ardd a phlanhigion yn y tŷ, torri'r lawnt a thorri'r gwrych. Gallech hefyd ofyn i rywun barcio eu car yn achlysurol ar y dreif neu o flaen y tŷ a rhoi'r bin allan ar y diwrnod priodol.
- Os yw pawb ar yr aelwyd i fod allan tan ar ôl iddi dywyllu, gadewch olau ymlaen mewn ystafell, nid yn y cyntedd. Mae switsh awtomatig neu sensitif i olau yn syniad da.
- Yn y tŷ cofiwch fod llenni a bleinds sydd ar gau yn ystod y dydd yn denu'r lleidr.
- Gwnewch yn siŵr mai dim ond o'r tu mewn y gallwch glywed cloch y drws – gwell gadael i bobl feddwl nad yw'r gloch yn gweithio na bod neb yn ateb.
- Dylech ddatgysylltu ffôn os gellir clywed y ffôn yn dal i ganu (yn enwedig ffôn ar sil y ffenestr). Hefyd, cofiwch roi neges ateb sy’n dweud bob tro "Ni allwn ateb y ffôn ar hyn o bryd", yn hytrach na "Dydyn ni ddim yma”.
- Cadwch ddrysau'r garej ar gau a'u cloi. Os oes ffenestri yn y garej, rhowch len neu fleinds drostynt fel na all neb edrych i mewn. Os nad oes car yno, fel arfer mae hyn yn dangos nad oes neb gartref.
Cadw'n Ddiogel
- Lle bo modd, gwiriwch fanylion unrhyw ddieithryn a ddaw at eich drws. Gofynnwch am ID os ydyn nhw'n honni bod yn swyddogion – peidiwch â chael eich twyllo gan iwnifform. Mae rhai sefydliadau'n defnyddio cyfrinair i helpu i adnabod eu cynrychiolwyr.
- Gofynnwch i'r heddlu lleol am gyfarpar i farcio pethau gwerthfawr. Gall yr heddlu ddarparu sticeri i’w rhoi ar eich ffenestr i nodi eich bod wedi gwneud hyn.
- Cofiwch gloi’r drysau, hyd yn oed wrth bicio allan am funud neu ddwy.
- Peidiwch byth â chuddio allwedd sbâr y tu allan.
- Os nad oes neb yn y tŷ, wrth adael, galwch "Hwyl fawr" wrth berson dychmygol a gadewch y radio ymlaen tra bo'r tŷ yn wag gan ddewis gorsaf gyda rhaglenni sgwrsio fel Radio Cymru, Radio 4 neu 5.
- Os gwelwch chi rywun yn ymddwyn yn amheus, mae gofyn "Alla’ i’ch helpu chi?" yn aml yn gwneud y tric. Dydy lladron ddim yn hoffi tynnu sylw neb.
- Os ydych mewn ardal Gwarchod Cymdogaeth, dangoswch sticer yn ffenestri blaen a chefn y tŷ.
Offer Diogelwch
- Cofiwch osod larymau bob tro wrth adael y safle.
- Os oes teledu cylch cyfyng ar gael, gwnewch yn siŵr ei fod yn gweithio fel y dylai.
- Defnyddiwch yr offer sydd ar gael.