Disgrifiad Swydd Cyffredinol – Archddiacon
I’w ddarllen ar y cyd â’r disgrifiadau swydd cyffredinol ar gyfer yr Esgob, y Deon Bro a’r Periglor.
Swydd: Archddiacon
Diben: Cefnogi’r Esgob fel y Pen Bugail, Bugail a Gweinidog yr Esgobaeth, fel arwydd gweladwy o undod yr Eglwys a’i pharhad yn ei bywyd, ei chenhadaeth a’i gweinidogaeth apostolaidd.
Cyfrifoldeb: Yn gyfrifol am arwain, cydgysylltu a gweinyddu’r Archddiaconiaeth ar y cyd a gyda chydweithrediad llawn yr Esgob, y Deoniaid Bro, y Clerigion a’r Lleygion.
Prif Dasgau a Dyletswyddau
Talaith
- Cyfrannu at faterion y Dalaith yn ôl y gofyn.
- Mynychu cyfarfodydd Archddiaconiaid.
Esgobaeth
- Gweithio’n agos gyda’r Esgob fel ‘cyfaill beirniadol’ gan rannu gweledigaeth gyffredin ar gyfer yr Esgobaeth ac ategu doniau’r esgobion ym meysydd:
- Gofal bugeiliol a chefnogi clerigion a’u teuluoedd
- Darparu hyfforddiant ac adnoddau i’r Eglwys mewn perthynas â thelerau gwasanaeth Clerigion yn y dyfodol
- Adolygiad yr Esgob
- Proffilio plwyfi
- Datblygu a gweithredu strategaeth ar gyfer cenhadaeth a gweinidogaeth yn yr Esgobaeth.
- Bod yn aelod o Staff yr Esgob yn yr Esgobaeth a chyfrannu at y gwaith o ddatblygu, gweithredu, monitro a gwerthuso polisïau a gweithdrefnau’r Esgobaeth
- Cynrychioli’r Esgob a’r Esgobaeth mewn cyfarfodydd a digwyddiadau taleithiol yn ôl y gofyn
- Cymryd rhan yng ngweithdrefnau penodi’r Esgobaeth ar gyfer swyddi gwag
- Cyfrannu at reolaeth ariannol a threfniadaeth yr Esgobaeth trwy gymryd rhan mewn pwyllgorau priodol, helpu i bennu blaenoriaethau, cynorthwyo’r broses ysbrydoli a rhannu gweledigaeth.
Archddiaconiaeth
- Trefnu cyfarfodydd rheolaidd ar gyfer Deoniaid Bro
- Cefnogi a hyrwyddo gwaith y Deoniaid Bro
- Sicrhau bod Deoniaid Bro yn ymwybodol o ddatblygiadau newydd neu newidiol yn yr Esgobaeth a’r Archddiaconiaeth a chefnogi’r Deon Bro i’w gweithredu
- Gweithio’n agos gyda Deoniaid Bro er mwyn hyfforddi, cefnogi a chynnal gofal bugeiliol Cynorthwyo’r Esgob i benodi Deoniaid Bro.
Plwyfi
- Sicrhau bod plwyfi’n cydymffurfio â’r gyfraith mewn perthynas â gweinyddu’r Gofrestr Etholwyr
- Gweithredu fel Llywydd Llys yr Archddiacon wrth ddatrys anghydfodau’n ymwneud â’r Gofrestr Etholwyr
- Ymgymryd â’r swyddogaethau a’r gwaith gweinyddol sy’n gysylltiedig ag ymweliadau
- Derbyn Wardeniaid Eglwys
- Sicrhau bod y stocrestr a’r persondy yn cael eu cynnal a’u cadw
- Cadeirio cyfarfodydd festri plwyf pan fydd y swydd Deon Bro yn wag yn ôl y gofyn
- Cynghori Clerigion, Cynghorau Plwyf Eglwysig a Lleygion ar faterion yn ymwneud â gwaith cynnal a chadw ar yr eglwys, mynwent yr eglwys a neuadd yr eglwys
- Hwyluso adrefnu bugeiliol
- Cefnogi ac arwain plwyfi pan fydd swydd wag yn y plwyf a phan na fydd clerigion yn gallu gweithio
- Sicrhau bod clerigion yn ymwybodol o’u telerau swydd a sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r gweithdrefnau penodedig, gan gynnwys disgyblu clerigion
- Hybu a chefnogi datblygiad gweinidogaethol parhaus ar gyfer clerigion drwy hyfforddiant a mentora.
Gweinidogaeth
- Cyfrannu at weinidogaeth plwyf
- Bod yn aelod o Gabidwl y Gadeirlan