Disgrifiad Swydd Cyffredinol – Deon Bro
I’w ddarllen ar y cyd â’r disgrifiadau swydd cyffredinol ar gyfer yr Archddiacon a’r Periglor.
Swydd: Deon Bro
Diben: Cefnogi’r Esgob a’r Archddiacon fel arwydd gweladwy o undod yr Eglwys a’i pharhad yn ei bywyd, ei chenhadaeth a’i gweinidogaeth apostolaidd.
Cyfrifoldeb: Yn gyfrifol am arwain, cydgysylltu a gweinyddu’r Ddeoniaeth ar y cyd a gyda chydweithrediad llawn yr Esgob, yr Archddiacon, y Clerigion a’r Lleygion.
Prif Dasgau a Dyletswyddau
Deoniaeth
- Cydgysylltu â’r Esgobaeth ynglŷn â materion polisi a strategaeth cenhadaeth yr Esgobaeth.
- Hwyluso cyfathrebu effeithiol rhwng y Ddeoniaeth a’r Esgobaeth.
- Galw a llywyddu cyfarfodydd Cynhadledd y Ddeoniaeth.
- Trefnu a chadeirio cyfarfodydd Cabidwl y Ddeoniaeth.
- Trefnu a/neu wneud cyfraniad allweddol at ddigwyddiadau’r Ddeoniaeth.
- Hyrwyddo mentrau fel rhan o’r diwylliant mentro mewn cenhadaeth.
- Gweithio gyda’r Esgob a’r Archddiacon i hyrwyddo cenhadaeth y Ddeoniaeth.
Plwyfi
- Rheoli materion plwyfi â swyddi gwag gan gynnwys:
- Cadeirio cyfarfodydd festri plwyf mewn plwyf gwag, yn ôl yr angen
- Gweithredu fel ceidwad y persondy gyda Wardeniaid yr Eglwys pan fydd swydd yn wag
- Gwrando ar achosion apêl yn ymwneud â’r hawl i fynychu cyfarfod festri a’r hawl i siarad a phleidleisio mewn cyfarfod festri
- Galluogi Wardeniaid Eglwys i gyflawni eu swyddogaethau pan fydd swyddi heb eu llenwi gan gynnwys ymgynghori ar drefniadau ar gyfer gwasanaethau
- Penodi Warden Eglwys pan fydd swydd heb ei llenwi os oes angen.
- Cyfrannu at y broses o ddewis staff newydd a threfnu gwasanaethau croeso a sefydlu ar ôl ymgynghori â’r Archddiacon.
- Cynorthwyo’r Esgob neu’r Archddiacon gydag ymweliadau, yn ôl yr angen.
- Cynorthwyo’r Archddiacon yn ôl yr angen i hwyluso a monitro’r gwaith o ad-drefnu plwyf.
Clerigion
- Cynorthwyo Clerigion y Ddeoniaeth yn eu gweinidogaeth trwy ddiwylliant o ddysgu gydol oes a datblygiad proffesiynol.
- Darparu cymorth bugeiliol i Glerigion a sicrhau bod unrhyw broblemau sy’n codi yn cael eu rheoli’n effeithiol mewn ymgynghoriad â’r Archddiacon.
- Sicrhau bod Clerigion y Ddeoniaeth yn ymwybodol o’r rheolau a’r safonau disgwyliedig ac yn cydymffurfio â nhw, yn enwedig mewn perthynas ag analluogrwydd clerigion.