Disgrifiad Swydd Cyffredinol – Periglor
Swydd: Periglor
Diben: Cefnogi’r Esgob fel y Pen Bugail, Bugail a Gweinidog yr Esgobaeth, fel arwydd gweladwy o undod yr Eglwys a’i pharhad yn ei bywyd, ei chenhadaeth a’i gweinidogaeth apostolaidd.
Cyfrifoldeb: Yn gyfrifol am y canlynol ar y cyd a gyda chydweithrediad llawn yr eglwys leol yn yr Esgobaeth a’r Plwyf:
- Pobl
- Cenhadaeth
- Dysgeidiaeth
- Pregethu
- Cyllid
- Adeiladau ac eiddo
Prif dasgau a dyletswyddau (ar y cyd a gyda chydweithrediad eraill)
Pregethu a Dysgeidiaeth
- Pregethu’r Gair
- Gweinyddu’r Sacramentau
- Arwain pobl i foli a diolch i Dduw drwy drefnu addoliad parchus, rheolaidd, gofalus ac ysbrydoledig
- Arwain pobl ym meysydd cenhadaeth ac efengylu
- Dysgu’r Ffydd
- Cyflwyno aelodau newydd i’r Eglwys drwy Fedydd gan gynnwys paratoi ymgeiswyr, rhieni a rhieni bedydd yn briodol
- Paratoi a chyflwyno ymgeiswyr ar gyfer conffyrmasiwn
- Paratoi pobl ar gyfer glân briodas a gweinyddu yn y gwasanaeth.
Gofal bugeiliol
- Gweinidogaethu i’r sawl sy’n sâl ac yn marw
- Gweinyddu mewn angladdau
- Gweinidogaethu i’r sawl sydd mewn profedigaeth
- Cynnig gweinidogaeth fugeiliol i bawb sy’n byw yn y Plwyf
- Rhannu gwasanaeth Cristnogol ag eraill
- Gweinidogaethu i bawb sydd angen cymorth a chyngor ysbrydol
- Cyhoeddi cyfiawnder, trugaredd a maddeuant Duw i’r rhai sydd mewn trallod
- Ceisio’r rhai sydd wedi crwydro
- Rhyddhau a meithrin pobl Duw er budd pawb a gogoniant Duw.
Gweinyddiaeth
- Annog a galluogi’r Cyngor Plwyf Eglwysig i ystyried a diffinio polisi cenhadaeth ar gyfer yr eglwys, gan ystyried:
- galwad Duw
- anghenion y gymuned leol
- anghenion y Plwyf, yr Esgobaeth a’r Dalaith
- anghenion yr eglwys ehangach
- anghenion y gynulleidfa
- hyrwyddo pob agwedd ar Stiwardiaeth Gristnogol
- Cydymffurfio â chyfraith gwlad a rheoliadau’r eglwys mewn perthynas â’r canlynol:
- priodasau a marwolaethau
- amddiffyn plant
- atebolrwydd ariannol
- iechyd a diogelwch
- Rhannu’r gwaith o weinyddu’r Plwyf mewn ffordd effeithiol, gymwys a chwrtais
- Ymgynghori a chydweithio â wardeniaid eglwys a’r Cyngor Plwyf Eglwysig ar faterion pwysig a materion sy’n peri pryder yn y Plwyf
- Cadw’r cofnodion perthnasol ar gyfer gwasanaethau bedydd, conffyrmasiwn, priodas, claddu a gwasanaethau eraill (lle bo hynny’n berthnasol)
- Cefnogi gwaith Swyddog y Gofrestr Etholwyr
- Hyrwyddo, cefnogi a chyfranogi yng ngwaith gweinyddol y Cyngor Plwyf Eglwysig, gan gynnwys:
- apwyntiadau
- trefnu cyfarfodydd
- cadw cyfrifon
- stocrestr o ddodrefn, ffitiadau ac arteffactau
- gofalu am adeiladau’r eglwys
- Sicrhau bod cyd-weinidogaeth a rennir yn cydymffurfio â gofynion statudol y gyfraith, y gwasanaethau a’r gweithdrefnau a gymeradwywyd gan yr Eglwys yng Nghymru.
Yr Eglwys a’r gymuned
- Hyrwyddo cysylltiadau da a chwrtais gydag aelodau Eglwysi a chymunedau Ffydd eraill.
- Cefnogi gweithgareddau cymdeithasol, bugeiliol a chodi arian lleygion sy’n hybu cenhadaeth yr Eglwys yn y gymuned leol a’r gymuned ehangach.
Apwyntiadau yn y Plwyf
Bydd anghenion a chyfleoedd lleol hefyd yn berthnasol, er enghraifft:
- galluogi ac annog aelodau’r Eglwys i ddatblygu eu bywydau gweddi a’u haddoliad
- annog aelodau’r Eglwys i fod yn genhadon i Grist
- cryfhau’r cysylltiadau rhwng y Plwyf ac ysgolion lleol
- datblygu cysylltiadau cryf â grwpiau cymunedol a hyrwyddo eu cyfranogiad yn addoliad a bywyd y plwyf.