Cyflwyniad i Iacháu Eneidiau (1996)
Yr Eglwys a'i Gweinidogaeth
Mae'r Eglwys gyda’i gilydd ac ar yr un pryd yn gymuned ysbrydol, foesol a sefydliadol. Mae unrhyw ymgais i ynysu un agwedd oddi wrth y lleill yn camliwio ei realiti.
Yr hyn sy'n gwahaniaethu'r Eglwys oddi wrth gymunedau eraill, o leiaf yn ei hunan-ddealltwriaeth ei hun, yw ei bod yn gymuned 'ysbrydol' – yn gymdeithas /cymuned o'r Ysbryd Glân. Hynny yw, mae'n honni ei bod yn cyfranogi yn Ysbryd Duw ac mai Ysbryd Duw a’i sefydlodd fel y mae yn ei hanfod.
Mae yna ddwy ystyriaeth sy’n hynod berthnasol. Yn gyntaf, mae'r Eglwys yn gymuned o bechaduriaid sy’n derbyn a rhoi maddeuant. Mae Duw yn ei galw o fywyd o bechod i fywyd o sancteiddrwydd, ac mae 'sancteiddrwydd' yn dynodi'r berthynas honno rhwng Creawdwr a chreadur, sef y berthynas sy'n rhoi bywyd. Effaith pechod yw torri a gwahanu, gan ddieithrio dynion a menywod oddi wrth Dduw, oddi wrth eu hunain ac oddi wrth ei gilydd, felly mae sancteiddrwydd yn arwydd o adferiad cyfanrwydd a chymuned. Mae efengyl gras Duw yn Iesu Grist a thrwyddo yn efengyl sy’n maddau’r pechod sy'n dryllio a darnio. Felly, yn economi achubiaeth, mae adnewyddu ein dynoliaeth wedi'i wreiddio yng ngras a thrugaredd parhaus Duw yn hytrach nag mewn unrhyw beth yr ydym ni ein hunain yn ei gyflawni. Mae cyfrifoldeb dynol yn ffrwyth ymatebolrwydd dynol.
Yn ail, mae'r gymuned o bechaduriaid sy’n derbyn a rhoi maddeuant yn ymgorffori undod mewn gras. Trwy berthyn i Dduw, yr ydym hefyd yn perthyn i'n gilydd. Mae cymdeithas yn yr Ysbryd Glân yn golygu ein bod yn rhannu llawenydd ein gilydd ac yn ysgwyddo beichiau ein gilydd. Rydym yn cefnogi ein gilydd mewn gweddi ac yn adeiladu ein gilydd mewn cariad.
Yn ei brwydr yn erbyn pechod, yn bennaf oll mae'r Eglwys yn arddel gweinidogaeth iachaol o faddeuant a chymod. Ni all gweinidogaeth o'r fath anwybyddu gofynion gwirionedd a chyfiawnder. Lle bo camweddau, rhaid cyfaddef bai, gwneud iawn (pan fo modd) a chydnabod ac ymdrin â chanlyniadau’r camweddau. Er hynny, mae awydd yr Eglwys am 'gyfiawnder' yn fwy na’r dyhead i gynnal cydbwysedd cyfiawnder. Yn hytrach, mae’n awydd i unioni sefyllfaoedd ac adfer tor-perthynas. Yn hyn mae'n dilyn patrwm cyfiawnder dwyfol: ‘Os dywedwn ein bod yn ddibechod, yr ydym yn ein twyllo ein hunain ac nid yw'r gwirionedd ynom. Os cyffeswn ein pechodau, y mae ef yn ffyddlon ac yn gyfiawn ac felly fe faddeua inni ein pechodau a'n glanhau o bob anghyfiawnder' (1 Ioan 1. 8,9).
Ni ellir ynysu bywyd a gweinidogaeth y clerigion oddi wrth fywyd a gweinidogaeth yr Eglwys yn ei chyfanrwydd. Mae'r clerigion hefyd yn bechaduriaid sy’n derbyn a rhoi maddeuant, ac yn agored i'r un temtasiynau â'u cyd-Gristnogion. Er eu bod wedi eu hordeinio a'u 'gosod ar wahân' ar gyfer eu swyddogaeth a'u gwaith gweinidogol, maent yn parhau'n aelodau o'r un corff, ac mae'r weinidogaeth y maent yn ei harfer ar ran yr Eglwys yn weinidogaeth gynrychioliadol. Er mwyn iddynt beidio â dioddef ymdeimlad o unigedd a'r temtasiynau rhyfedd a ddaw yn sgil hyn, er budd eu gweinidogaeth mae arnynt angen gweddïau a chefnogaeth weithredol eu cyd-aelodau. Un ffordd o'u cynnal fyddai'r arfer anffurfiol a chyfrinachol o hunanarfarnu â chymorth, lle byddai un person dibynadwy, neu grŵp o bobl, yn eu galluogi i adolygu cryfderau a gwendidau eu gweinidogaeth mewn ysbryd o onestrwydd, anogaeth a hyder.
Fel cymuned foesol, mae gan yr Eglwys, ynghyd â chymunedau eraill, gonsyrn sylfaenol am urddas pob bod dynol – yn ddynion, menywod a phlant fel ei gilydd – ac mae'n cadarnhau eu bod wedi eu creu ar ddelw Duw a’u galw i dyfu'n debyg iddo. O'r parch hwn at bobl, daw’r alwad am gyfiawnder, sef y dylai pob unigolyn dderbyn yr hyn sy'n ddyledus iddo. Yn negyddol, mae hyn ar ffurf dyletswydd i beidio â niweidio rhywun arall. Yn gadarnhaol, mae ar ffurf dyletswydd i ofalu am bobl eraill a chyfrannu at eu lles. Cyhyd â bod popeth arall yn gyfartal, mae’n gyfrifoldeb moesol ar bob unigolyn i gyflawni'r dyletswyddau hyn
Mae'r ddyletswydd negyddol i beidio â niweidio yn fwy clir na'r ddyletswydd gadarnhaol i ofalu. Mae’r enghreifftiau amlycaf wedi'u hymgorffori yn y gyfraith droseddol, a thrwy weithredu’r gyfraith mae pawb yn cael eu hamddiffyn, yn enwedig y rhai mwyaf agored i niwed. Nid yw'r ddyletswydd gadarnhaol i ofalu mor eglur, ac mae ei diffiniad yn destun trafod. Mae yna ddyletswydd gofal arbennig yn gysylltiedig â pherthynas sy’n cynnwys unigolyn anghenus neu fregus, megis rhiant/plentyn, meddyg/claf, neu gwnselydd/cleient. Y tu hwnt i berthynas o’r math hwnnw fodd bynnag, nid oes diffiniad cyffredinol ar gyfer dyletswydd gofal ac mae ei natur yn benagored.
Wrth ddilyn athrawiaeth Crist, mae'r Eglwys yn cydnabod 'dyletswydd cariad' baradocsaidd, sy’n estyn y tu hwnt i bob perthynas arbennig ac yn cyfeirio at ein 'cymydog'. Gall hyn yn hawdd ddod yn bresgripsiwn ar gyfer perffeithrwydd moesol sy’n twyllo ac yn trechu’r hunan. Yn iaith a chyd-destun dyletswydd foel, mae'n awgrymu bod dyletswydd Gristnogol i wneud yr hyn na ellir disgwyl i neb ei wneud mewn gwirionedd. Fodd bynnag, gall yr hyn sy'n trechu’r hunan yng nghyd-destun gofynion dyletswydd ddechrau gwneud synnwyr yng nghyd-destun posibiliadau cariad. Gall cariad alluogi bodau dynol i fynd y tu hwnt i'r hyn a ystyrir yn ddyletswydd. Felly mae modd deall 'dyletswydd cariad' Cristnogol yn well yn nhermau anogaeth fewnol yr Ysbryd Glân i ymateb â’r galon ac â’r meddwl i wahoddiad a her y cariad dwyfol. Ffrwyth Ysbryd cariad yw ystyr mynd y tu hwnt i ofynion dyletswydd wrth efelychu Crist, nid pennu rhyw arch-ddyletswydd.
Yn y man cwrdd hwn o densiwn rhwng galwad ar sail dyletswydd a galwad ar sail cariad, mae clerigion mewn sefyllfa hynod fregus. Ymddengys fod eu haddunedau ordeiniedig yn rhoi arnynt gyfrifoldebau difrifol a di-ben-draw – sef gofalu am bawb fel ei gilydd, hen ac ifanc, cryf a gwan, cyfoethog a thlawd. Nid oes unrhyw derfynau clir ar eu dyletswyddau gofalu, ac oherwydd eu bod yn syrthio’n brin o'r hyn y credant yw’r ddyletswydd fugeiliol a roddwyd iddynt gan Dduw, maent yn agored iawn i hunan-gondemniad a hunan-dwyll. Wrth ymdrechu i gyflawni eu dyletswydd weinidogol, gallant esgeuluso dyletswyddau eu hymrwymiadau mwy uniongyrchol, megis rhai eu teulu a’u ffrindiau. Fel hyn, mae'r argraff bod disgwyl iddynt gyflawni arch-ddyletswydd yn gwenwyno ac yn dinistrio eu gwir weinidogaeth o gariad a gras.
Nid oes modd cyfyngu 'dyletswydd i garu' na 'iachau eneidiau' i gyfres o ddyletswyddau moesol, ond ni ellir diddymu dyletswyddau moesol o’r herwydd. Mae dilynwyr Iesu wedi ymrwymo i ffordd Crist o fyw, a disgwylir i'r sawl sy'n arfer gweinidogaeth gynrychioliadol yn ei enw, er gwell neu er gwaeth, fod yn esiampl weddus i'w bobl. Disgwylir i glerigion fyw eu proffes; os byddant yn syrthio’n brin o ras, bydd effaith eu cwymp yn fwy niweidiol nag y byddai i eraill. Yn gadarnhaol, disgwylir iddynt adlewyrchu yn eu cymeriad a’u gweithredoedd fod gras a ffrwyth yr Ysbryd ar waith. Yn negyddol, disgwylir iddynt gadw at rai ffiniau moesol na ddylent eu croesi. Byddai proses o hunanarfarnu yn gymorth yn hyn o beth, i helpu clerigion i wahaniaethu rhwng galwadau ar sail dyletswydd a galwadau ar sail cariad, ac i gynnwys y ddwy elfen yn eu dirnadaeth a'u gweinidogaeth gyda mwy o realaeth, sensitifrwydd a dychymyg.
Mae'r Eglwys hefyd yn sefydliad. Mae ganddi ei threfniadaeth a'i strwythurau awdurdod ei hun, ei chyfansoddiad a'i rheolau gweithdrefn ei hun, ei datganiadau o fwriad a’i safonau ymarfer ei hun, a phob un ohonynt wedi'u cyfeirio at addoli, gweinidogaeth a chenhadaeth yr Eglwys. Yn y sefydliad hwn, mae'r clerigion yn arfer rôl broffesiynol arbennig, a ddiffinnir o safbwynt dyletswyddau a chydberthnasau arbennig, gan alw am gymhwysedd a gofal arbennig. Eu gorchwyl yw bod yn weinidogion diwyd o’r Gair a’r Sacramentau, yn ymroi i weddi ac astudiaeth a thyfu yng ngwybodaeth a chariad Duw, gan drefnu eu bywydau yn unol â dysgeidiaeth Crist, fel y gallant fod yn enghreifftiau cyflawn a gweddus i'w pobl.
Er nad yw'r rôl glerigol yn ddim os nad yn weinyddiaeth gras – gweinidogaeth sy'n dibynnu ar bŵer creadigol yr Ysbryd Glân ac na ellir ei osgoi yn y pen draw drwy ddadansoddi a rheoli swyddogaethol – serch hynny mae'n cynnwys cyflawni dyletswyddau penodol y mae bywyd sefydliadol yr Eglwys yn dibynnu arnynt. Gan mai'r Eglwys sy'n awdurdodi unigolyn ar gyfer y weinidogaeth ordeiniedig, rhaid i'r Eglwys ddarparu'r amodau sy'n galluogi'r unigolyn hwnnw i gyflawni gweinidogaeth o'r fath hyd eithaf ei allu. Rhaid iddi sefydlu strwythurau, adnoddau a dulliau cyfathrebu digonol. Bydd hyn, er enghraifft, yn cynnwys disgrifiad swydd i glerigion, sy'n nodi cyfrifoldebau, hawliau a dyletswyddau mewn modd sy'n fwy penodol, er yn llai bugeiliol a dwys, na'r disgrifiad o weinyddiaeth ordeiniedig a welir yn y gwasanaethau ordeinio a sefydlu. Lle mae'r disgwyliadau'n weddol glir, byddai rhyw fath o asesiad cyfnodol a rennir o gyflawniadau a dyheadau hefyd o werth wrth gadarnhau a datblygu gweinyddiaeth. O fewn fframwaith a gytunwyd, byddai asesiad o'r fath yn cynnwys ac yn annog amrywiaeth o arddulliau gweinidogaethu.
Gan fod y rôl glerigol yn sefydlu perthynas o ddibyniaeth arbennig a bregusrwydd, megis y berthynas rhwng offeiriad a phlwyfolyn, athro a disgybl, neu oedolyn a phlentyn, mae'r rôl yn ei gwneud yn ofynnol cadw’n agos iawn at egwyddorion moesol sydd fel rheol yn deillio o barch at bobol. Mae angen tynnu sylw at fanylion y broses o gymhwyso'r egwyddorion hyn a chynnwys gweithdrefn ddisgyblu deg ac effeithiol. Mae angen i glerigion ddeall goblygiadau moesol a moesegol eu proffesiwn a chadw at god ymarfer da y cytunwyd arno.
Myfyrdod diwinyddol
Francis Bridger
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae Eglwys Loegr wedi dechrau trafod y lle a roddir i ganllawiau moesegol wrth lunio gweinidogaeth ei chlerigion. Dyma ddatblygiad i'w groesawu er bod y syniad o gyfres neu god o ganllawiau yn chwerthinllyd ac yn sarhaus i rai. Maen nhw’n gweld bod hyn yn awgrymu na ellir ymddiried yn uniondeb gweinidogion a’i fod yn ymyrraeth ar alwedigaeth sanctaidd. Yn waeth byth, mae'n gyfystyr â derbyn yn ddifeddwl y cwlt rheolaethol yr ofnant sy’n goddiweddyd ethos yr Eglwys.
O ganlyniad, mae diben y myfyrdod hwn yn ddeublyg: (1) mynd i'r afael â’r cyfryw bryderon o safbwynt diwinyddol; a (2) nodi'r egwyddorion diwinyddol cadarnhaol sy'n sail i'r canllawiau a geir yn yr adroddiad presennol. Yn sicr, mae rhesymau pragmataidd cadarn sy’n mynnu bod yr Eglwys yn awr yn mynd i’r afael â’r mater o gael cod proffesiynol ar gyfer ei chlerigion (ac efallai ar gyfer ei lleygion). Ond dim ond un rhan o'r ddadl yw hynny. Yn ogystal, rhaid gosod sawl cyfiawnhad diwinyddol sy’n deillio o’r Ysgrythur ac o ddiwinyddiaeth foesol.
Fodd bynnag, mae pragmatiaeth yn bwysig ac mae'n werth datgan tri rheswm pam mae'r adroddiad hwn wedi dod i fodolaeth:
- Yn y lle cyntaf, rhaid ei weld yng nghyd-destun penderfyniad y Synod Cyffredinol yn 2000 i basio Mesur newydd i Ddisgyblu Clerigion. Mae’r mesur wedi ei ysgrifennu, a heb ei roi gerbron y Senedd hyd yma; ond unwaith y daw yn gyfraith, bydd yn rhwymol. Yn rhesymegol, mae’n ofynnol diffinio disgyblu ac mae hyn wedyn yn nodi’r angen am god ymarfer neu gyfres o ganllawiau. Felly, sefydlodd Synodau Caergaint ac Efrog weithgor i gynhyrchu canllawiau drafft ymgynghorol cyn cynnal trafodaeth bellach yn y Synod. Yr adroddiad hwn yw'r canlyniad.
- Yn ail, mae angen dybryd i'r Eglwys ymateb i'r pwysau presennol o du cymdeithas i sicrhau mwy o reoleiddio ar broffesiynau - rhywbeth a gyflawnwyd cynt drwy hunanreoleiddio yn bennaf. Yn sgil cyfres o sgandalau tra amlwg yn ymwneud â'r proffesiwn meddygol a’r gwasanaethau cymdeithasol (sef Harold Shipman a Victoria Climbie ymhlith y mwyaf nodedig), mae gan y cyhoedd lawer mwy o gonsyrn am onestrwydd a’r ymddiriedaeth y dylid ei rhoi mewn pobl broffesiynol a ystyrid yn barchus cynt. Nid yw pobl bellach yn barod i roi mantais yr amheuaeth yn awtomatig i weithwyr proffesiynol. Maent yn destun craffu a beirniadaeth mewn ffordd nad oedd yn wir genhedlaeth yn ôl. Mae hyn yn her sylweddol i'r Eglwys; oherwydd nid yw'n gredadwy i’r Eglwys ddisgwyl y gall barhau i gael ei heithrio rhag craffu o'r fath
- Ac ni ddylai ychwaith. Mae penawdau papurau newydd tabloid ac astudiaethau academaidd mwy difrifol yn tystio i ochr dywyll bywyd yr Eglwys, ac ni ellir gwadu hynny. Ar un llaw, ceir straeon cyson am ficeriaid yn cael perthynas rywiol gyda phlwyfolion, ac ar y llall, mae sôn am ymchwiliadau i glerigion yn cam-drin plant; mae hyn yn dangos bod yn rhaid i'r Eglwys gymryd ei chyfran o'r bai am ffenomenon y mae cymdeithas wedi bod yn llawer rhy barod i’w gwadu tan yn ddiweddar. Hefyd, mae astudiaethau eraill a gyhoeddwyd yn yr Unol Daleithiau yn tystio i'r peryglon presennol o gamymddwyn rhywiol sy'n fygythiad cyson i weinyddiaeth dduwiol. O ganlyniad, ni ddylai neb danbrisio'r peryglon sy'n rhan annatod o ymarfer gweinidogol – yn enwedig wrth fugeilio. Mewn cymhariaeth â rhai proffesiynau eraill, hwyrach bod pobl yn parhau i ymddiried yn fawr yn eu clerigion ond nid yw hyn yn dweud nad oes angen atebolrwydd a thryloywder.
- Yn drydydd, ceir y 'senario hunllefus' y mae pob clerig yn ei ofni: y plwyfolyn sy'n cyhuddo ei weinidog o gamymddwyn – yn aml yn rhywiol ond weithiau yn fath gwahanol o gamdriniaeth. Dyma'r sefyllfa y mae pob offeiriad yn ei hofni, waeth a yw’n wir ai peidio. Mae'r cyhuddiad ar ei ben ei hun yn ddigon i ddifetha hygrededd a statws gweinidog. Nid gwirionedd y sefyllfa sy’n achosi’r dinistr: mae'r sibrydion lleiaf yn ddigon i danseilio ymddiriedaeth ar unwaith ac yn rhoi’r clerig yn agored i gyhuddiadau o ragrith. Nid yw o bwys y gallai sibrydion o'r fath fod yn gwbl ddi-sail ac yn rhai cwbl faleisus.
Dan amgylchiadau o'r fath, mae'r Gweithdrefnau Disgyblu Clerigion a'r canllawiau a geir yn yr adroddiad presennol wedi'u cynllunio i ddiogelu tri chyfranogwr: y sawl a gyhuddwyd, y cyhuddwr a'r Eglwys. Mae'n bwysig sôn am yr olaf o'r rhain oherwydd gellir anghofio'n hawdd nad mater i unigolion yn unig yw moeseg broffesiynol. Er bod moeseg yn sicr yn bodoli i arwain ac amddiffyn unigolion, mae hefyd yn diogelu'r proffesiwn. Mae’n fynegiant o atebolrwydd a chyfrifoldeb ar y cyd. Pan fydd un clerig yn gweithredu'n amhroffesiynol, mae'n bygwth dwyn anfri ar yr Eglwys yn ei chyfanrwydd – gwelir sgil-effaith sgandalau. Fel y dywedodd Eric Mount: ‘Mae cyfrifoldeb moesol yn cynnwys bod yn bobl gyfrifol o fewn sefydliadau.’ Neu yng ngeiriau Paul, 'yr ydym yn aelodau o'n gilydd' (Effesiaid 4.25).
Mae'r Mesur Disgyblu Clerigion yn darparu mecanwaith ar gyfer cyflawni cyfiawnder a gweld hynny’n digwydd (yn enwedig o blaid y cyhuddedig); cynhyrchwyd y canllawiau gan y Synodau’
Mae'r Gweithgor yn darparu fframwaith ar gyfer ymddygiad fel ei bod yn llai tebygol y gallai senario hunllefus godi o gwbl. Oherwydd, mewn llawer o achosion, nid gweithredoedd bwriadol sy'n ennyn amheuaeth ac yn arwain at gyhuddiadau. Yn hytrach, naïfrwydd syml, megis cyffwrdd neu gofleidio'n serchog ac amhriodol a fwriadwyd fel ystum o gadarnhad ond a ddehonglwyd fel arwydd o ddiddordeb rhywiol. Mae'r canllawiau'n cynnig fframwaith ar gyfer osgoi sefyllfaoedd o'r fath.
Fodd bynnag, nid yw rhesymau pragmataidd ynddynt eu hunain yn ddigon. Maent yn gyfiawnhad angenrheidiol ond nid yn ddigon o gyfiawnhad dros y newid diwylliannol sy'n ofynnol o fewn yr Eglwys os yw am gael ei pharatoi at y math o graffu sy'n ddisgwyliedig gan gymdeithas gyfoes. Dyma ble y daw diwinyddiaeth o gyfrifoldeb proffesiynol yn ganolog. A dyna ble y mae'n rhaid inni droi'n awr.
Y man cychwyn ar gyfer unrhyw drafodaeth ar broffesiynoldeb yw'r egwyddor o alwedigaeth:
- Mae’n wireb fod gweinidogaeth ordeiniedig yn bennaf yn alwad sy'n tarddu o ddibenion Duw. I’r clerig, mae’r ymdeimlad ei fod yn ymwneud â galwedigaeth yn hytrach na gyrfa yn hanfodol i’w hunaniaeth a’i hunan-ddealltwriaeth. Ac eto, defnyddir hyn weithiau fel math o ddadl ganlyniadol yn erbyn cyflwyno canllawiau neu god ymarfer proffesiynol ar y sail fod 'proffesiynoli’ gweinidogaeth fugeiliol yn cyfyngu’r gwaith i dasgau ac yn anwybyddu’r dimensiwn ysbrydol, a throsgynnol. Ynghyd â hyn, fel y mae nifer o awduron yn nodi, mae angen cofio:
- yn hanesyddol, mae gan y syniad o broffesiwn ei wreiddiau mewn cysylltiad crefyddol rhwng proffesiwn a galwedigaeth;
- ystyr professio (sef tarddiad y term 'proffesiwn') yw 'sefyll dros rywbeth' neu 'yn dwyn gwerth’;
- mae nodi proffesiynoldeb gydag arbenigedd technocratig yn ddatblygiad cyfoes sydd wedi peri bod cyfyngu gormodol ac anniwinyddol ar y cysyniad;
- drwy gyfrwng diwinyddiaeth galwedigaeth, daw modd i ail-fuddsoddi’r syniad o broffesiwn gyda dimensiwn moesol, trosgynnol a thrwy hynny dynnu colyn y beirniad ar un ystyr, o leiaf.
Yng ngeiriau Richard Gula, 'Mae cyfochri "cael galwedigaeth" â "bod yn broffesiynol” . . . i gadarnhau'r cyfan a wnawn yn y weinidogaeth yn ymateb i bresenoldeb Duw yn y gymuned a thrwy'r gymuned sy’n ein galw i weithredu ar ei rhan fel arwyddion ac asiantau cariad Duw.’
Yng ngoleuni hyn, mae’r feirniadaeth bod cod ymarfer yn gyfystyr â chonsesiwn i reolwriaeth o reidrwydd yn gyfeiliornus. Gellir ystyried sefydlu canllawiau sy'n dangos yr hyn y mae'n ei olygu i weithredu mewn modd sy'n gyson â galwad i weinidogaethu fel ymgais i weithio allan mewn termau pendant yr arfer o alwedigaeth mewn lleoliad cyfoes. Felly, rhaid ystyried bod gan 'proffesiwn', yn y cyd-destun clerigol, ddau ystyr: ar y naill law mae’n disgrifio realiti cymdeithasegol grŵp o bobl sy'n gweithredu yn unol â chonfensiynau ac arferion a ddatblygwyd gan y grŵp at ddibenion swyddogaethol; ac ar y llall, mae’n arwydd bod y grŵp hwn yn sefyll dros – yn proffesu – cyfres o werthoedd ac egwyddorion trosgynnol sy'n deillio o ddiwinyddiaeth galwedigaeth. Rhaid cadw mewn cof ddau ystyr y term 'proffesiwn'.
O'r egwyddor o alwedigaeth daw’r cwestiwn: galwedigaeth i beth? Yr ateb amlycaf yw 'gwasanaethu’. Ond i wasanaethu pwy? Yn ddiwinyddol, mae'r gwasanaeth yn gyntaf tuag at Dduw a dim ond yn ail tuag at fodau dynol. At hynny, dim ond drwy berthynas y mae gwasanaeth o'r fath yn bosibl. Mae hyn, yn ei dro, yn gofyn am sefydlu clwstwr o gysyniadau sy'n llywio cysyniadau perthynas a pherthynoldeb. Ac yng nghanol y clwstwr hwn mae'r syniad o gyfamod.
Cyfamod
Gellid dadlau bod athrawiaeth y cyfamod yn cynrychioli'r ffynnon y mae diwinyddiaeth cyfrifoldeb proffesiynol yn llifo ohoni. Gellir dangos ei harwyddocâd drwy ei chyferbynnu â'r cysyniad sy'n rheoli modelau perthynas broffesiynol seciwlar, sef contract. Fel y nododd Richard Gula, er eu bod yn gefndryd agos, mae gwahaniaethau hanfodol i’w gweld. Mae contractau'n diffinio natur benodol y berthynas a'r union hawliau a dyletswyddau a ddaw yn eu sgil. Ni all unrhyw barti ddisgwyl i'r llall fynd y tu hwnt i'r dyletswyddau cytundebol penodedig, ac mae gan bob un y rhyddid i wrthod unrhyw gais i wneud hynny. Yn wir, nid oes disgwyl i neb ofyn na chaniatáu ceisiadau o'r fath ac eithrio in extremis. ‘Mae'r model contract yn cydnabod cyfyngiadau dynol y partïon contractio gan ei fod yn amlwg yn gwahaniaethu’n glir rhwng hawliau a dyletswyddau. Mae'n cyfyngu ar y math o wasanaeth sy'n cael ei geisio a'i gynnig.’ Ar y llaw arall, mae cyfamod yn ôl y model beiblaidd a ddangoswyd mor bwerus drwy’r berthynas gyfamodol rhwng Duw a'i bobl – yn seiliedig ar ras. Mae partneriaid y cyfamod wedi'u rhwymo ynghyd nid gan gyfres o ofynion cyfreithiol ond gan y cysylltiad cydberthynol o gymhelliad graslon ac ymateb diolchgar. Mae Cyfamod yn mynd y tu hwnt i rwymedigaethau a ddiffiniwyd yn ofalus mewn contract, ac yn ystyried camau gweithredu pellach y gallai fod eu hangen ar sail cariad. ‘Pan fyddwn yn gweithredu yn ôl cyfamod, byddwn yn edrych y tu hwnt i'r camau lleiaf. . . Mae partneriaid mewn cyfamod yn barod i fynd yr ail filltir i wneud i bethau lwyddo’.
Y graslonrwydd hwn – y parodrwydd 'i wneud lle i'r rhadlon, yn ogystal â’r rhoddion' – sy'n dangos y gwahaniaeth rhwng cyfamod a chontract ac yn rhoi gwerth arbennig i weinidogaeth. Yn greiddiol i gariad cyfamod Duw, mae gweinidogaeth gyfamodol clerigion yn adlewyrchu gweinidogaeth Crist ei hun a roes ei hun yn hael er lles y byd ac 'er ei fod ar ffurf Duw, ni chyfrifodd fod cydraddoldeb â Duw yn beth i'w gipio ond fe’i gwacaodd ei hun, gan gymryd ffurf caethwas’
(Philipiaid 2.6-7). Mae'r model cyfamod, yn y pen draw, yn Gristolegol neu nid yw'n ddim.
Goblygiad hyn yw bod yn rhaid i'r rhai sy'n cael eu galw i weinidogaeth ordeiniedig weithredu o feddylfryd a chymhelliant cyfamodol yn hytrach na chytundebol. Rhaid iddynt fod yn 'barod i fynd yr ail filltir' sy'n golygu bod yn rhaid iddynt fod yn barod i ganiatáu i'w gweinidogaeth gael ei llunio gan anghenion pobl eraill yn hytrach na'u rhagdybiaethau eu hunain o ymreolaeth. Ond sut mae modd rhoi hyn ar waith? Mae hyn yn ein harwain at ddwy egwyddor arall: agape a rhinwedd.
Agape
Mewn trafodaeth ddiweddar ar agape a gofal bugeiliol, mae Simon Robinson yn nodi bod cysylltiad agos rhwng agape a chyfamod mewn sawl ffordd: yn gyntaf, mae'r ddau yn seiliedig ar rodd, fel y mae cyfamod yn rasol felly y mae agape yn fater o gariad dwyfol. Mewn termau bugeiliol, nid yw agape 'yn seiliedig ar unrhyw delerau cytundebol' ond mae'n 'fodd i adnabod yr arall, yn sail i ofalu am yr arall’. Felly, mae perthynas fugeiliol yn cael ei rheoli gan agape. Yn ail, mae agape yn cynnwys ffyddlondeb a sefydlogrwydd. Mae'r gweinidog yn parhau i fod yn driw i'r unigolyn arall beth bynnag y mae ef neu hi wedi'i wneud, gan fod 'agape yn addo bod yno beth bynnag yw ymateb y llall’. Yn drydydd, mae agape yn caniatáu rhywfaint o ryddid yn hytrach na gosod cyfyngiadau anhyblyg ar dwf perthynas fugeiliol. Nid yw hyn yn gwadu pwysigrwydd ffiniau; eto, ar yr un pryd, mae'n 'meithrin yn hytrach na therfynu perthynas' ac 'mae bob amser yn ystyriol o les y llall . . . bob amser yn agored i bosibiliadau'r llall’. O hyn gellir gweld nad yw cariad agapeig yn cael ei gyflyru gan atyniad na chyflawniad y llall ond yn 'caru'r llall yn unig am mai ef yw’r llall’. Mae'n 'gariad nad yw'n seiliedig ar weithredoedd y llall, yn gariad diduedd nad yw wedi'i wreiddio mewn ffordd rannol ar y llall’.
Sut mae modd cymhwyso'r ddiwinyddiaeth hon? Ym maes cwnsela bugeiliol seciwlar (sy’n adeiladu ar waith mewn biofoeseg) datblygwyd pum egwyddor weithredol yn sail ar gyfer cod proffesiynol. Trwy eu gwisgo â chysyniad diwinyddol agape, mae modd eu dehongli fel fframwaith egwyddorol ar gyfer ymarfer moesegol mewn gweinidogaeth ordeiniedig:
- hyrwyddo ymreolaeth i'r sawl a gynghorir;
- dyletswydd y cynghorwr i weithredu er lles cadarnhaol y sawl a gynghorir (yr egwyddor o gymwynasgarwch);
- cyfrifoldeb y cynghorwr i wneud dim niwed (yr egwyddor o beidio ag achosi drwg);
- y rhwymedigaeth i weithredu’n gyfiawn er lles gorau'r sawl a gynghorir (yr egwyddor o gyfiawnder);
- ymrwymiad y cynghorwr i ddidwylledd (yr egwyddor o ffyddlondeb).
Er nad yw’r term 'agape' yn ymddangos uchod, o safbwynt diwinyddol, mae’n bresennol fel y meta-egwyddor diwinyddol sy’n sail i’r pum egwyddor. Ac wrth osod 'plwyfolyn' yn lle 'y sawl a gynghorir' a 'gweinidog' yn lle 'cynghorwr', gall y gyfres o egwyddorion gael ei newid i fod yn gyfres ar gyfer gweinidogaeth Gristnogol
Fodd bynnag, mae hefyd yn amlwg, er mai un o ddibenion y fframwaith hwn yw diogelu'r cynghorwr/gweinidog, mae ei bwyslais sylfaenol ar anghenion y cleient/plwyfolyn. Yn iaith Robinson, mae'r egwyddorion wedi'u hanelu at les y Llall. Mae hawliau'r cynorthwyydd yn ail i les yr un sy'n ceisio cymorth. O ganlyniad, rhaid i'r rhai yn ein plith y gelwir arnynt i gynnig gofal gweinidogol fod yn barod i ganiatáu i'n hannibyniaeth fod yn gymwys wrth i ni brofi ein gweinidogaeth yn erbyn gofynion canllawiau proffesiynol sy'n cael eu llywio gan agape.
Mae corff yr adroddiad hwn yn ategu hyn.
Yr adeg amlycaf y gwelir pwysigrwydd egwyddorion agapeig yw wrth ddefnyddio pŵer. Yn y berthynas rhwng clerigion a phlwyfolion, mae'n hanfodol gwerthfawrogi bod pŵer yn cael ei ddefnyddio'n anghymesur. Hynny yw, mae'r clerig yn fwy pwerus na'r sawl sy'n gofyn am gymorth. O ystyried, mae hynny’n reit amlwg, ond eto, mae’n ffaith hynod hawdd ei hanghofio. Ar ei waethaf, wrth ddefnyddio pŵer anghymesur, gall arwain at gam-drin, yn rhywiol ac fel arall. Mae'r offeiriad sy'n defnyddio ei bŵer i orfodi’n ystrywgar neu i fwlio unigolyn i gytuno yr un mor sarhaus – er mewn ffordd wahanol – ag offeiriad sy'n defnyddio ei statws i fodloni ei ddymuniadau rhywiol. Mae'r ddau yn defnyddio pŵer i gyflawni eu dibenion eu hunain yn groes i'r egwyddorion uchod. Mae Rollo May wedi datblygu teipoleg o bŵer sy'n ein galluogi i nodi pa fath o bŵer sy'n cael ei ddefnyddio ar unrhyw adeg benodol. Yn ôl May, gellir dadansoddi pŵer o dan bum pennawd:
- pŵer camfanteisiol sy'n dominyddu drwy rym a gorfodaeth;
- pŵer ystrywgar sy'n rheoli drwy ddulliau seicolegol mwy cynnil a chudd;
- pŵer cystadleuol sy'n amwys gan y gellir ei ddefnyddio'n adeiladol lle mae partïon yn gymharol gyfartal ond yn ddinistriol lle maent yn anghyfartal (fel mewn perthynas fugeiliol gan amlaf);
- pŵer cynhaliol sy'n cynnal ac yn grymuso;
- pŵer integreiddiol sy'n cymryd rhyddid pobl eraill o ddifrif ac sy'n ceisio
- defnyddio cryfderau (posibl) y person arall.
Mae teipoleg o’r fath yn darparu grid ar gyfer asesu dulliau gweinidogion o arfer eu pŵer. Mae'n amlwg nad yw’r ddau deip cyntaf yn perthyn i ddealltwriaeth gyfamodol/agapeig o weinidogaethu gan nad ydynt yn ymwneud ag anghenion neu les y person arall o gwbl. Gallai’r trydydd o bosibl fod yn ddefnyddiol mewn rhai sefyllfaoedd. Mae'r pedwerydd a'r pumed yn cyd-fynd yn dda â diwinyddiaeth cyfamod ac agape am eu bod yn deillio o awydd i hyrwyddo buddiannau gorau'r llall.
O safbwynt gweinidogol, felly, 'yr her foesol yw gweld, yn ein hymwneud ag eraill, fod y defnydd cywir o bŵer yn symud i ffwrdd oddi wrth ddominyddu eraill drwy gam-fanteisio a gweithredu ystrywgar, gan symud at ryddhau eraill drwy weithredoedd meithringar ac integreiddiol o bŵer’. Wrth geisio cyflawni ein hamcanion - boed hynny gyda grŵp o bobl neu mewn perthynas un-i-un - rhaid i ni ofyn i ni'n hunain pa fath o bŵer yr ydym yn ceisio ei ddefnyddio ac er lles pwy. Os yw'r ateb i'r naill gwestiwn neu'r llall yn cyfeirio atom ni ein hunain, mae angen inni ddychwelyd at y pum egwyddor agapeig.
Felly, i grynhoi, gellir gweld, os mai’r bwriad yw seilio gweinidogaeth ar gysyniad o gyfrifoldeb cyfamodol y mae arfer agapeig yn llifo ohono, rhaid cael cyfres fwy sylweddol o feini prawf proffesiynol na dim ond apelio’n syml at y gwynfydau neu rywedd syniad cyffredinol arall. Fel y dengys yr enghraifft o bŵer, mae angen dull mwy cymhleth os ydym am ddeall natur ddiwinyddol cydberthynas weinidogol a'r goblygiadau ar gyfer ymarfer a ddaw yn ei sgil.
Rhinwedd
Fodd bynnag, nid dim ond mater o lynu wrth reolau neu egwyddorion yw ymddygiad moesegol. Mae adfywiad 'moeseg rinweddol' ymhlith athronwyr moesol a diwinyddion yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn ein hatgoffa bod cymeriad y gweithiwr proffesiynol yr un mor bwysig â'r cod y mae'n glynu wrtho. Rhaid i foeseg ymddygiad gael ei llunio gan foeseg cymeriad a moeseg uniondeb.
Beth mae hyn yn ei olygu? Yn ôl William Willimon, gellir diffinio cymeriad fel y 'cyfeiriadedd moesol sylfaenol sy'n rhoi undod, diffiniad a chyfeiriad i'n bywydau drwy ffurfio ein harferion yn batrymau ystyrlon a rhagweladwy sydd wedi'u pennu gan ein prif argyhoeddiadau’.
Mae'r hyn a wnawn yn cael ei lywodraethu gan bwy ydym ni.
Fel y noda Stanley Hauerwas, mae pob un ohonom yn gwneud dewisiadau moesol sy'n deillio o’r 'anian, y profiad, y traddodiadau, y dreftadaeth a'r rhinweddau y mae ef neu hi wedi'u coleddu’
O hyn, daw dau bwynt yn amlwg: yn gyntaf, rhaid i'r gweinidog Cristnogol yn fwriadol feithrin cymeriad a rhinweddau Cristnogol a pheidio â'u gadael i siawns. Yn iaith yr Apostol Paul, rhaid iddo ef neu hi geisio ffrwyth yr Ysbryd: cariad, llawenydd, tangnefedd, goddefgarwch, caredigrwydd, daioni, ffyddlondeb, addfwynder, hunanddisgyblaeth (Galatiaid 5.22-23). Pan ofynnwn beth allai hyn ei olygu o ran moeseg broffesiynol, mae Karen Lebacqz yn dadlau dros ddau rinwedd canolog: didwylledd a doethineb. Mae'r cyntaf yn fater o onestrwydd neu anrhydedd fel bod y gweinidog yn cael ei gydnabod fel 'ymddiriedolwr dibynadwy’. Rhaid i'r olaf ddibynnu ar farn neu ddirnadaeth ddoeth. Mae angen cyfuniad o'r ddau er mwyn i'r gweinidog ddatblygu greddf i weithredu’n gyfiawn.
Yn ail, cawn ein dwyn yn ôl at y syniad o 'arferion y galon' a awgrymir (ymysg pethau eraill) gan Willimon. Gan fod y rhain yn codi o'r math o bobl ydym ni, mae ein hargyhoeddiadau diwinyddol a'n harferion ysbrydol yn hanfodol i fywyd proffesiynol. Cawn ein ffurfio gan y credoau sydd gennym a'r ffyrdd yr ydym yn ymwneud â Duw. Mae athrawiaeth, moeseg ac ysbrydolrwydd yn mynd law yn llaw ‘i'r graddau o ymddwyn yn foesegol y rhan fwyaf o'r amser fel pe bai drwy reddf.’ Mae trafodaeth yr adroddiad ar yr Ordinal yn cydnabod hyn ac yn ein hatgoffa nad mater o siawns yw cynnal rhinwedd. Mae bywyd ysbrydol y gweinidog yn hollbwysig.
Ond rhaid cofio bod gras wrth wraidd pob fersiwn Gristnogol o foeseg rinweddol. Mae'r pŵer i fod ac i weithredu’n gyfiawn yn llifo o hunan-roddi diarbed Duw yng Nghrist. Trwy ymbreswyliad yr Ysbryd Glân, cawn ein galluogi i dyfu mewn cymeriad a rhinwedd. Rydym yn dod yn ymddiriedolwyr dibynadwy ac yn cael ein cynnal mewn gweinidogaeth gan weithgarwch Duw ynom. Gall codau neu ganllawiau i weinidogion osod y ffiniau ond trwy ras yn unig y gallwn eu rhoi ar waith. Yng ngeiriau Richard Gula, 'Os ydym am weinidogaethu yn ysbryd Iesu a pharhau yn ein hamser ein hunain ei genhadaeth o gyhoeddi teyrnas Dduw, yna rhaid inni fod yn ddigon rhydd ynom ein hunain i dderbyn cynnig Duw o gariad ac felly bod yn rhydd i eraill i'w galluogi i ryddhau eu hunain o ba beth bynnag sy'n eu cadw rhag derbyn cariad dwyfol hefyd’.
Casgliad
O reidrwydd, dim ond braslun sydd yma o'r materion canolog sy'n sail i'r adroddiad presennol: mapio'r dirwedd yn hytrach na gwneud taith gynhwysfawr drwyddo. Gwelsom nad oes modd i’r Eglwys bellach osgoi’r mater o weithredu'n broffesiynol yn yr hinsawdd gymdeithasol sydd ohoni. At hynny, rydym wedi nodi, er mwyn datblygu diwylliant o foeseg broffesiynol, y bydd yn ofynnol cael cyfres o ganllawiau ar gyfer ymarfer yn ogystal â meithrin cymeriad rhinweddol yn seiliedig ar ddiwinyddiaeth, moesoldeb ac ysbrydolrwydd. Yn anad dim, fe'n hatgoffir mai'r gwerth sylfaenol ar gyfer yr holl foeseg Gristnogol yw'r rhodd Gristnogol unigryw o agape. Heb y rhodd honno, nid ydym yn ddim mwy na symbalau’n tincian, yn broffesiynol neu fel arall.