Absenoldeb A Thâl Mamolaeth
Polisi’r Eglwys yng Nghymru yw cydymffurfio â’r gyfraith ar hawliau menywod beichiog. I’r diben hwn ceisir hysbysu pob clerig benywaidd o’i hawliau mamolaeth statudol a sicrhau bod y menywod sy’n gymwys yn deall yr hawliau hyn.
Cyffredinol
Anogir clerigion beichiog i:
- Geisio gwybodaeth cyn gynted ag y bo modd ar berthnasedd y darpariaethau mamolaeth hyn. Mae cyngor ar gael naill ai o Adran Adnoddau Dynol neu Adran Gyflogau Corff Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru.
- Rhoi gwybod cyn gynted ag y bo modd i’r Archddiacon am eu beichiogrwydd fel y gellir trefnu asesiad risg.
Gweithdrefn a Rheolau
I fod yn gymwys am absenoldeb a thâl mamolaeth rhaid i chi:
- Hysbysu Adran Gyflogau Corff Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru a’r Archddiacon.
- Cyflwyno i Adran Gyflogau Corff y Cynrychiolwyr dystysgrif mamolaeth MAT B1 a fydd yn cadarnhau’r wythnos y disgwylir geni’r plentyn. Mae’r dystysgrif hon i’w chael gan eich meddyg neu eich bydwraig ar ôl ugeinfed wythnos eich beichiogrwydd.
- Rhoi rhybudd (gweler ffurflen atodedig) i Adran Gyflogau Corff Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru o ba bryd y bydd eich absenoldeb mamolaeth yn dechrau. RHAID rhoi rhybudd o hyn erbyn diwedd y bymthegfed wythnos cyn y disgwylir geni’r plentyn. Os bydd clerig yn newid ei meddwl yn ddiweddarach, mae ganddi’r hawl i wneud hynny, ond bydd yn rhaid iddi hysbysu’r Adran Gyflogau o’r dyddiad dechrau newydd o leiaf 28 diwrnod ymlaen llaw.
- Pan fo geni cynamserol, rhaid i’r clerig roi gwybod i’r Adran Gyflogau cyn gynted ag y bydd yn rhesymol ymarferol a chyflwyno tystysgrif MAT B2 sydd i’w chael gan y meddyg neu’r fydwraig.
- Gall clerig beichiog ddal i weithio mor agos at wythnos ddisgwyliedig y geni ag y myn, ar yr amod ei bod yn abl i ymgymryd â’i dyletswyddau llawn arferol. Os teimlir bod iechyd y clerig neu’r baban heb ei eni yn dioddef o ganlyniad iddi ddal i weithio, efallai y bydd angen i’r clerig gael ei harchwilio gan Feddyg Iechyd Galwedigaethol.
Absenoldeb Mamolaeth
Mae gan bob menyw sy’n gweithio hawl i 52 wythnos o absenoldeb mamolaeth, hynny yw 26 wythnos o absenoldeb mamolaeth arferol a 26 wythnos o absenoldeb mamolaeth ychwanegol.
Ni chaiff menyw gychwyn absenoldeb mamolaeth yn gynharach nag 11 wythnos cyn wythnos ddisgwyliedig y geni oni bai bod y baban yn cael ei eni cyn hynny.
Os yw menyw yn absennol o’r gwaith am reswm sy’n gysylltiedig â’i beichiogrwydd yn ystod y pedair wythnos cyn y disgwylir i’r plentyn gael ei eni, neu fod y plentyn yn cael ei eni cyn iddi fwriadu dechrau ei habsenoldeb, yna bydd yr absenoldeb mamolaeth yn dechrau’n awtomatig. Mae absenoldeb arferol ac ychwanegol yn cyfrif fel gwasanaeth parhaol.
Tâl Mamolaeth
Bydd clerigion sy’n beichiogi yn ystod y 12 mis cyntaf ar ôl eu penodi yn gymwys i dderbyn Tâl Mamolaeth Statudol (SMP) yn unig.
Bydd clerigion sy’n gymwys i dderbyn Tâl Mamolaeth Galwedigaethol, ac sy’n bwriadu dychwelyd i’r weinidogaeth gyflogedig ar ôl eu beichiogrwydd a’u habsenoldeb mamolaeth, yn gymwys i dderbyn y darpariaethau tâl mamolaeth galwedigaethol a statudol canlynol:
- Wythnosau 1-18 yn gynhwysol: Tâl cyfwerth â Chyflog llawn, yn cynnwys tâl mamolaeth statudol.
- Wythnosau 19-39 yn gynhwysol: Tâl yn unol â Rheoliadau Tâl Mamolaeth.
- Wythnosau 40-52 yn gynhwysol: Dim hawl i Dâl Mamolaeth Statudol.
Bydd yn rhaid i glerigion nad ydynt yn dychwelyd i’r gwaith am o leiaf dri mis ad-dalu’r Cyflog llai y Tâl Mamolaeth statudol a dderbyniwyd yn ystod yr absenoldeb mamolaeth.
Dychwelyd i’r Gwaith
Ni chaniateir i fenyw ddychwelyd i’r gwaith yn ystod y pythefnos cyntaf wedi’r geni.
Os bydd menyw yn cymryd ei habsenoldeb mamolaeth llawn, hynny yw 52 wythnos, ni fydd yn rhaid iddi hysbysu o flaen llaw ei bwriad i ddychwelyd, dim ond dychwelyd i’r gwaith ar y diwrnod a hysbyswyd i’r Adran Gyflogau. Fodd bynnag, byddai’n fuddiol pe bai’n cysylltu â’r Archddiacon ynglŷn â’r dyddiad dychwelyd tebygol.
Os bydd menyw yn dychwelyd i’r gwaith cyn diwedd ei habsenoldeb mamolaeth, bydd yn rhaid iddi roi rhybudd o wyth wythnos ei bod yn dychwelyd yn gynnar (gweler ffurflen).
Os bydd menyw yn bwriadu dychwelyd i’r gwaith ar ôl 26 wythnos o absenoldeb mamolaeth arferol, mae ganddi’r hawl i ddychwelyd i’r un swydd ar yr un telerau gwasanaeth â phe bai hi heb adael.
Os bydd menyw yn dychwelyd i’r gwaith ar ôl absenoldeb mamolaeth llawn (52 wythnos), bydd ganddi’r hawl i ddychwelyd i’r un swydd ar yr un telerau gwasanaeth, oni ellir dangos nad yw hynny’n rhesymol ymarferol. Onid yw’n ymarferol iddi ddychwelyd i’r un swydd, bydd yr Archddiacon yn gyfrifol am drafod â hi waith arall addas ar delerau gwasanaeth heb fod yn llai ffafriol.
Os bydd menyw’n methu â dychwelyd i’r gwaith oherwydd salwch, bydd yn rhaid iddi hysbysu’r Deon Bro/Archddiacon o’r rheswm am hynny a gweithredir y weithdrefn anallu clerigion.
Trosglwyddo Absenoldeb Mamolaeth – Absenoldeb Rhiant a Rennir
Os bydd menyw yn bwriadu dychwelyd i’r gwaith cyn diwedd ei 52 wythnos o absenoldeb mamolaeth ac wedi rhoi hysbysiad priodol o’i dychweliad cynnar yn unol â’r rheolau, fe all y bydd ganddi’r hawl i drosglwyddo ei habsenoldeb mamolaeth dyledus (ac SMP dyledus) i’w phriod, ei phartner sifil neu bartner, neu i dad ei phlentyn, i’w gymryd fel absenoldeb rhiant a rennir ar ôl iddi ddychwelyd i’r gwaith.
Gwyliau Blynyddol
Yn ystod cyfnod absenoldeb mamolaeth bydd pob hawl cytundebol yn parhau mewn grym, ac eithrio’r hawl i gyflog a bydd yr hawl i wyliau blynyddol yn dal i gronni.
Cysylltiad yn ystod Absenoldeb Mamolaeth
Cyflwynodd Deddf Gwaith a Theuluoedd 2006 ddiwrnodau ‘cadw mewn cysylltiad’ i fenyw ar absenoldeb mamolaeth. Caniatâ’r rheolau i fenyw – os yw’n dderbyniol i’r Eglwys yng Nghymru – weithio am hyd at 10 diwrnod yn ystod ei habsenoldeb mamolaeth heb i hynny effeithio ar ei hawl i absenoldeb na thâl mamolaeth.
Os bydd clerig yn dymuno gweithio yn ystod absenoldeb mamolaeth bydd yn rhaid trafod a chytuno ar y trefniant â’r Archddiacon.
Colli Plentyn a Phlentyn Marw-anedig
Mae hwn yn faes neilltuol o emosiynol, ac mae darpariaethau arbennig ar gyfer menyw sy’n colli ei phlentyn neu y mae ei phlentyn yn farw-anedig. At bwrpas y Rheoliadau, y diffiniad o enedigaeth yw genedigaeth plentyn byw (ni waeth pa mor gynamserol) neu blentyn byw neu farw ar ôl 24 wythnos o feichiogrwydd. Yn yr amgylchiadau hyn bydd gan y fenyw hawl i’r un absenoldeb a’r un absenoldeb mamolaeth statudol ag a fyddai ganddi pe bai’r baban wedi byw.
Ond os bydd menyw yn colli ei phlentyn cyn 25ain wythnos ei beichiogrwydd ni fydd ganddi hawl i absenoldeb mamolaeth na thâl mamolaeth. Dylid trin ei habsenoldeb fel salwch yn unol â’r darpariaethau at anallu clerigion.
Cyflenwi yn ystod Absenoldeb Mamolaeth
Yn ystod absenoldeb mamolaeth darperir gwasanaethau a gofal bugeiliol fel pan fo plwyf yn wag.
Absenoldeb Mabwysiadu
Caniateir trefniadau ar gyfer absenoldeb mabwysiadu yn unol â’r trefniadau uchod.
Cyngor ac Arweiniad
Gellir cael cyngor ar gymhwyso’r darpariaethau hyn oddi wrth:
Yr Adran Adnoddau Dynol, 2 Sgwâr Callaghan, Caerdydd, CF10 5BT
Yr Adran Gyflogau, 2 Sgwâr Callaghan, Caerdydd, CF10 5BT
Yr Archddiacon