Treuliau Plwyfol Clerigion
Lawrlwythwch:
Cyflwyniad
Bwriedir i'r llyfryn hwn fod yn ganllaw i Glerigion Plwyf, Wardeiniaid Plwyf, Ysgrifenyddion a Thrysoryddion Cynghorau Plwyf Eglwysig (CPE) ynghylch ad-dalu treuliau'r Plwyf. Cynghorir clerigion a'r CPE hefyd i droi at y cyngor a gyhoeddwyd gan CThEM ar Dreuliau a Budd-daliadau – Canllaw Treth (Llyfryn 480) a'r nodiadau yn y Ffurflen Dreth ar gyfer Gweinidogion yr Efengyl SA102M. Mae rhagor o wybodaeth a chyngor ar gael ar wefan CThEM www.hmrc.gov.uk a hefyd gan Wasanaeth Cynghori Deddfwriaeth yr Eglwysi a'i ganllaw Taxation Ministers of Religion yn www.clas.org.uk.
Diffiniad o dreuliau'r Plwyf
Diffinnir treuliau’r plwyf fel y costau cynnal y cytuna’r Clerigion a'u Cynghorau Plwyf Eglwysig sy’n angenrheidiol er mwyn galluogi Clerigion i gyflawni dyletswyddau eu gweinidogaeth. Mae'n ofynnol o dan Gyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru i'r Cyngor Plwyf Eglwysig wneud adolygiad blynyddol o ad-daliad treuliau plwyfol clerigion. Dylai clerigion, cyn belled ag y bo modd, osgoi talu am eitemau sy'n gyfrifoldeb i'r Cyngor Plwyf Eglwysig e.e., angenrheidiau’r allor, atgyweirio neu lanhau adeiladau eglwysig, taliadau i organyddion ac ati. Dylai'r Cyngor dalu'r rhain yn uniongyrchol.
Mae gan glerigion hawl i gael ad-daliad am dreuliau dilys a gododd wrth iddynt gyflawni eu dyletswyddau
Hawlio treuliau
Dylai clerigion hawlio'n fisol am ad-dalu'r holl dreuliau gan ddefnyddio ffurflen hawlio treuliau. Mae ffurflen hawlio treuliau enghreifftiol ar gael yn Atodiad 1. Wrth hawlio treuliau rhaid i glerigion ddarparu anfonebau a derbynebau. Ni ddylai CPE dalu treuliau ar sail lwfans cyfradd sefydlog a delir mewn rhandaliadau gan y gallai hynny arwain at atebolrwydd treth i'r clerig ac o bosibl atebolrwydd i’r CPE orfod talu cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr. Dylai'r CPE gadw'r holl dystiolaeth ddogfennol sy'n ymwneud ag ad-dalu treuliau am gyfnod o saith mlynedd o ddyddiad y taliad. Dylai clerigion hefyd gadw copïau ar gyfer unrhyw ymholiadau treth incwm.
Tra bo’r holl dreuliau y mae’n briodol eu hawlio yn cael eu had-dalu'n llawn, ni ddylai hyn achosi unrhyw atebolrwydd trethiannol
Postio a Deunydd Ysgrifennu
Mae gwariant ar yr eitemau hyn yn gymharol hawdd i'w gofnodi drwy gadw anfonebau neu dderbynebau a chadw llyfr postio. Dylai’r CPE ad-dalu clerigion yn llawn am bob gwariant ar bostio a deunydd ysgrifennu a ddefnyddir ar gyfer busnes y plwyf.
Ffôn
Argymhellir bod y llinell ffôn ar gyfer defnydd busnes yr eglwys yn enw'r CPE ac y gwneir trefniadau i roi enw'r Clerig yn y cyfeiriadur ffôn. Yna, bydd y CPE yn gyfrifol am y taliadau rhent yn llawn a bydd yn ofynnol i'r Clerig ad-dalu'r CPE am ei alwadau personol ei hun. Dylid nodi y gallai atebolrwydd trethiannol personol godi i’r clerig am ddefnydd personol o'r llinell ffôn.
Ffôn Preifat
Hwyrach y bydd clerigion yn dewis rhoi llinell ychwanegol ar gyfer galwadau preifat; fodd bynnag, ni allant hawlio am unrhyw ad-daliad am gostau y gellir eu priodoli i'r llinell breifat.
Ffôn Symudol
Os yw Clerig yn defnyddio ei ffôn symudol ei hun ar gyfer galwad swyddogol, dim ond ar ôl gweld datganiad penodol o’r eitemau y dylai'r CPE ad-dalu cost yr alwad.
Cyflogi cymorth gweinyddol
Os penodir rhywun i roi cymorth gweinyddol a/neu ysgrifenyddol i'r Clerig, dylai'r CPE bennu telerau ac amodau cyflogaeth a gweithredu fel y "cyflogwr”. Mae'r CPE yn gyfrifol am dalu'r cyflogai yn uniongyrchol. Cynghorir y CPE i droi at y nodyn cyfarwyddyd a gyhoeddwyd gan Gorff y Cynrychiolwyr ar gyflogi personél. Mae canllawiau ar gael gan Adran AD Corff y Cynrychiolwyr hefyd.
Offeiriaid ar Ymweliad
Mae'n bwysig bod y CPE yn cymryd camau cadarnhaol i sicrhau y cynigir ad-dalu treuliau a wariwyd i unrhyw un sy'n rhoi cymorth ar ba sail bynnag. Ar y cyfan, mae'r rhain yn debygol o fod yn dreuliau teithio y dylid eu had-dalu ar ôl derbyn ffurflen hawlio briodol.
Cynnal a Chadw’r Gwisgoedd
Mae angen rhai gwisgoedd er mwyn cyflawni dyletswyddau Clerigion. Dylai'r CPE sicrhau ei fod yn talu’n llawn am lanhau, golchi ac atgyweirio'r holl wisgoedd a ddefnyddir gan y Clerigion. Pan fo angen gwisgoedd newydd ar Glerigion, gofynnir i’r CPE ddangos haelioni hyd yn oed pe buasai’r Clerig yn mynd â’r wisg gydag efe neu hi wrth adael y plwyf. Disgwylir i glerigion ddarparu eu crysau a'u coler clerigol eu hunain.
Taliadau dŵr, carthffosiaeth ac amgylcheddol
Dylai'r taliadau hyn sy'n ymwneud â'r persondy gael eu talu'n uniongyrchol gan y CPE, nid y Clerig.
Gwresogi, goleuo a glanhau
Cydnabyddir bod rhai rhannau o'r Persondy e.e. y cyntedd a'r stydi yn swyddogol ac felly'n cael eu darparu er mwyn cyflawni dyletswyddau'r swydd. Dylai'r CPE dalu costau gwresogi, goleuo a glanhau mewn perthynas â'r llety swyddogol. Dylai'r gost hon fod yn seiliedig ar gyfran cyfanswm y gwariant ar wresogi, goleuo a glanhau'r persondy. Fel mesur cyffredinol, byddai 25% o gyfanswm cost gwresogi, goleuo a glanhau fel rheol yn cael ei ystyried yn ad-daliad rhesymol.
Cynnal a chadw, ailaddurno ac atgyweirio persondy
Manylir ar ganllawiau llawn cyfrifoldebau'r CPE a chlerigion mewn perthynas â chynnal a chadw, ailaddurno ac atgyweirio persondai yn y ddogfen 'Parsonages – Guidelines to Clerics' a gyhoeddwyd gan bob un o Fyrddau’r Persondai.
Teithio
Trafnidiaeth gyhoeddus – Os bydd clerig yn gwneud taith swyddogol ar drafnidiaeth gyhoeddus, dylid rhoi ad-daliad llawn am y swm a dalwyd.
Costau car – Rhaid i glerigion gadw cofnod o filltiroedd pob taith a gyflawnir yn unig er mwyn cyflawni eu dyletswyddau. Dylai'r CPE ad-dalu'r holl filltiroedd ar gyfer busnes swyddogol yn ôl y gyfradd milltiroedd a argymhellir gan CThEM – mae'r cyfraddau cyfredol i'w gweld yn Atodiad 2 y llyfryn hwn ac yn cael eu diweddaru’n rheolaidd a’u hysbysu i bob Clerig a CPE. Mae'r cyfraddau presennol hefyd i'w gweld ar wefan yr Eglwys yng Nghymru yn www.churchinwales.org.uk. Dylid nodi yr asesir cyfradd milltiroedd CThEM i dalu am holl gostau rhedeg cerbyd newydd gan gynnwys gwasanaethu, yswiriant, traul ac ati. Fodd bynnag, nid yw'r gyfradd milltiroedd yn talu costau eraill fel ffioedd parcio a thollau ffyrdd; dylid ad-dalu'r ffioedd hyn ar wahân. Cyfrifoldeb y clerigion yw unrhyw ddirwyon neu gosbau y bydd clerig yn eu hwynebu. Ni ddylid talgrynnu hawliadau milltiroedd a dylent nodi diben y daith. Os yw clerig yn byw y tu allan i'r ofalaeth lle cafodd ei benodi, ni fydd treuliau'n cael eu talu am deithio rhwng ei gartref a'r ofalaeth.
Beiciau modur – Fel gyda threuliau ceir, rhaid i glerigion gadw cofnod o filltiroedd pob taith a gyflawnir er mwyn cyflawni eu dyletswyddau. Dylai'r CPE ad-dalu'r holl filltiroedd ar gyfer busnes swyddogol yn ôl cyfradd milltiroedd argymhellol CThEM – mae'r cyfraddau cyfredol i'w gweld yn Atodiad 2 y llyfryn hwn ac yn cael eu diweddaru’n rheolaidd a’u hysbysu i bob Clerig a CPE.
Beiciau – O bryd i'w gilydd gall clerigion ddefnyddio beic fel ffordd o deithio i gyflawni dyletswyddau swyddogol. Mae cyfraddau cynghori a lwfansau teithio CThEM yn gwneud darpariaeth ar gyfer ad-dalu'r milltiroedd busnes gan ddefnyddio beic. Mae'r gyfradd gyfredol i'w gweld yn Atodiad 2 y llyfryn hwn ac yn cael eu diweddaru’n rheolaidd a’u hysbysu i bob Clerig a CPE.
Rhannu Ceir – O bryd i'w gilydd bydd clerigion o ofalaethau grŵp, rheithordai tîm neu hyd yn oed blwyfi cyfagos yn mynd i’r un cyfarfodydd, ymweliadau neu ddigwyddiadau. Lle bo'n bosibl ac yn ymarferol, anogir clerigion i rannu cerbyd. Mae CThEM yn argymell taliad teithiwr o 5c y teithiwr fesul milltir fusnes am gario cyd-glerigion fel ad-daliad milltiroedd cysylltiedig â gwaith.
Lletygarwch
Dylai'r CPE ad-dalu gwariant rhesymol am westeia swyddogol. Dylai hawliadau nodi nifer y mynychwyr ac, os yw'n berthnasol, pwy y maent yn eu cynrychioli.
Eitemau eraill
Llyfrau a Chyfnodolion – Cyfrifoldeb y CPE yw llyfrau a ddefnyddir ar gyfer cynnal gwasanaethau yn ogystal â llyfrau a roddir i baratoi at Briodasau, Bedydd neu Gonffyrmasiwn. Dylai clerigion sy'n prynu eitemau o'r fath hawlio ad-daliad. Gellir hawlio ad-dalu am gyfnodolion gyda chytundeb y CPE.
Encil a hyfforddiant mewn swydd – Anogir pob Clerig i fynd ar encil a chyflawni hyfforddiant mewn swydd yn rheolaidd a disgwylir i'r CPE gefnogi trefniadau o'r fath.
Materion eraill
Tŷ am Ddyletswydd – Mewn rhai achosion, gellir rhoi tŷ am ddyletswydd i glerigion anghyflogedig neu glerigion sydd wedi ymddeol ac yn ôl y drefn honno, dylai'r CPE ad-dalu treuliau fel ar gyfer clerigion cyflogedig yn amodol ar ganllawiau penodol sydd ar gael gan Gorff y Cynrychiolwyr sy'n cwmpasu trefniadau tŷ am ddyletswydd.
Gofalaeth Luosog – Pan fo clerig yn gyfrifol am fwy nag un plwyf, cyfrifoldeb y plwyfi yw cytuno sut y dylid ymdrin â threuliau yn unol â'r Canllaw hwn.