Absenoldeb A Thâl Tadolaeth
Roedd yr hawliau a ddarparwyd o dan Reoliadau Absenoldeb Tadolaeth a Mabwysiadu 2002 yn berthnasol i “weithwyr cyflog” yn unig, ac nid i weithwyr eraill. Fodd bynnag, yn ôl y darpariaethau a gytunwyd at Delerau Gwasanaeth Clerigion yr Eglwys yng Nghymru, estynnwyd yr hawliau hyn i glerigion.
Mae Rheoliadau Ychwanegol Absenoldeb Tadolaeth 2010 a ddiweddarodd y ddeddfwriaeth gydraddoldeb yn golygu bod hawl i absenoldeb tadolaeth ar gael i dad biolegol plentyn neu briod neu bartner sifil neu bartner mam y plentyn. Mae ar gael hefyd, pan fo cwpl yn mabwysiadu plentyn gyda’i gilydd, i’r unigolyn nad yw’n cymryd absenoldeb mabwysiadu ac i briod, partner sifil neu bartner y sawl sy’n mabwysiadu’r plentyn. Diffinnir “partner” i gynnwys partneriaid o’r un rhyw.
I fod yn gymwys am absenoldeb tadolaeth mae’n rhaid bod gennych, neu eich bod yn disgwyl y bydd gennych, gyfrifoldeb am fagu’r plentyn ac y byddwch yn defnyddio’r absenoldeb i ofalu amdano. Felly, ni fydd absenoldeb tadolaeth ar gael i dadau biolegol y mae’n annhebygol y byddant yn gyfrifol am fagu eu plentyn. Bydd gan dadau/partneriaid hawl i absenoldeb tadolaeth ar ôl geni eu plentyn neu fabwysiadu plentyn dan 18 oed.
Absenoldeb Tadolaeth Arferol ar ôl Geni neu Fabwysiadu
Bydd gan glerigion a chanddynt o leiaf 26 wythnos o wasanaeth parhaol erbyn diwedd y bymthegfed wythnos cyn wythnos ddisgwyliedig geni’r plentyn hawl i absenoldeb tadolaeth arferol a thâl tadolaeth. Pan fabwysiedir plentyn, bydd gan y rhiant na fydd yn cymryd absenoldeb mabwysiadu, hawl i absenoldeb tadolaeth ar ôl cwblhau 26 wythnos o wasanaeth parhaol erbyn diwedd yr wythnos pan gaiff y rhieni eu paru â phlentyn i’w fabwysiadu.
Rhaid i glerigion ddisgwyl y bydd ganddynt gyfrifoldeb am fagu’r plentyn. Pan fabwysiedir, rhaid i’r rhiant sy’n mabwysiadu fod yn gyd-fabwysiadwr neu ddisgwyl y bydd ganddo gyfrifoldeb am fagu’r plentyn.
I fod yn gymwys am absenoldeb tadolaeth ar ôl geni plentyn, rhaid i chi hysbysu’r Adran Gyflogau a’ch Archddiacon o’ch bwriad i gymryd absenoldeb tadolaeth arferol. Rhaid hysbysu’r bwriad hwn cyn 15fed wythnos cyn wythnos ddisgwyliedig y geni, neu cyn gynted ag sy’n ymarferol ar ôl hynny. Pan fabwysiedir, rhaid i chi hysbysu’r Adran Gyflogau a’r Archddiacon o’ch bwriad i gymryd absenoldeb tadolaeth. Bydd angen i bawb sy’n ymgeisio am absenoldeb tadolaeth lenwi ffurflen SC3 (rhiant biolegol) neu ffurflen SC4 (mabwysiadu) CThEM www.gov.uk/government/collections/statutory-paternity-pay-and-leave yn cadarnhau eu hawl i absenoldeb a thâl.
At ofalu am blentyn ar ôl ei eni neu ei fabwysiadu y caniateir absenoldeb tadolaeth. Nis caniateir at fynd i ddosbarthiadau cyn geni baban neu gynadleddau achos cyn gosod plentyn i’w fabwysiadu gan deulu.
Rhaid cymryd Absenoldeb Tadolaeth Arferol o fewn 56 diwrnod ar ôl geni’r plentyn neu o fewn 56 diwrnod ar ôl gosod plentyn i’w fagu gan deulu. Gallwch ddewis pa bryd i ddechrau absenoldeb tadolaeth, ond dylid nodi’r dyddiad ar Ffurflen SC3 CThEM.
Os bydd angen newid dyddiad dechrau absenoldeb tadolaeth, dylech roi gwybod am hynny cyn gynted ag y bo modd, a heb fod ddim hwyrach na 28 diwrnod cyn dyddiad dechrau’r absenoldeb tadolaeth.
Ni fydd geni neu fabwysiadu mwy nag un plentyn yn effeithio ar hyd absenoldeb tadolaeth.
Absenoldeb Tadolaeth Ychwanegol
Cyflwynwyd Absenoldeb Rhiant a Rennir yn lle hwn bellach.
Absenoldeb Rhiant a Rennir
Cynlluniwyd Absenoldeb Rhiant a Rennir i roi mwy o hyblygrwydd i rieni o ran sut i rannu’r gofal am eu plentyn yn y flwyddyn gyntaf ar ôl y geni neu fabwysiadu. Bydd rhieni’n gallu rhannu’r cyfnod absenoldeb, ac yn gallu penderfynu bod i ffwrdd o’r gwaith yr un pryd a/neu gymryd eu tro i gael cyfnodau o absenoldeb i ofalu am y plentyn.
I fod yn gymwys, mae’n rhaid i’r fam neu’r mabwysiadwr fod yn gymwys i dderbyn rhyw fath o hawl mamolaeth neu fabwysiadu, fod wedi rhoi rhybudd i gwtogi’r cyfnod ac mae’n rhaid rhannu’r prif gyfrifoldeb am ofalu am y plentyn gyda’r partner a enwyd. Gweler y Polisi Absenoldeb Rhiant a Rennir am ragor o fanylion.
Hawliau wrth ddychwelyd i’r gwaith ac wedi hynny
Wrth ddychwelyd i’r gwaith ar ôl absenoldeb tadolaeth bydd gan glerig hawl i ddychwelyd i’r swydd a oedd ganddo cyn dechrau’r absenoldeb tadolaeth, ac ar yr un telerau ac amodau â phe bai heb fod yn absennol.
Absenoldeb Mabwysiadu
Caniateir trefniadau ar gyfer absenoldeb mabwysiadu yn unol â’r trefniadau uchod.
Crynodeb
Absenoldeb Tadolaeth
Mae gan glerigion hawl i bythefnos o absenoldeb tadolaeth arferol.
Gallant ddewis cymryd absenoldeb tadolaeth fesul wythnos neu fel dwy wythnos olynnol.
Os dewisant gymryd un wythnos o absenoldeb tadolaeth, ni fydd yn bosibl cymryd wythnos arall yn ddiweddarach.
Gall absenoldeb tadolaeth ddechrau ar unrhyw ddiwrnod o’r wythnos, a gall gynnwys diwrnod geni’r baban neu ddiwrnod gosod plentyn i’w fabwysiadu.
Rhaid cymryd absenoldeb tadolaeth o fewn 56 diwrnod o ddyddiad y geni neu’r mabwysiadu.
Tâl Tadolaeth
Arferol
Bydd clerigion sy’n cymryd absenoldeb tadolaeth arferol yn derbyn cyflog llawn am gyfnod eu habsenoldeb tadolaeth.
Cyflenwi yn ystod Absenoldeb Tadolaeth
Rhaid i glerigion drefnu gyda’r Archddiacon bod rhywun yn gwneud eu gwaith dros gyfnod yr absenoldeb tadolaeth. Bydd y Plwyf yn gyfrifol am dalu am ddarparu gwasanaethau a gofal bugeiliol yn ystod cyfnodau o absenoldeb tadolaeth.
Mae cyngor ar gymhwyso’r darpariaethau hyn ar gael gan:
Yr Adran Adnoddau Dynol, 2 Sgwâr Callaghan, Caerdydd, CF10 5BT
Yr Adran Gyflogau, 2 Sgwâr Callaghan, Caerdydd, CF10 5BT
Yr Archddiacon