Canllawiau Gweinidogol Proffesiynol
Dyma brif nodau'r Canllawiau:
- sicrhau lles a diogelwch unigolion a grwpiau y mae'r clerigion yn gweithio gyda hwy;
- sicrhau lles a diogelwch y clerigion a'u teuluoedd;
- annog y clerigion i anelu at y safon ymddygiad uchaf posibl;
- darparu ffiniau diogel ac effeithiol ar gyfer gweinidogaeth glerigol;
- annog datblygiad gweinidogaeth bersonol a chorfforaethol;
- annog eraill i gynnig eu hunain i wasanaethu yng ngweinidogaeth ordeiniedig yr Eglwys.
- Rhaid i chi gadw'r Bugail Da bob amser o'ch blaen fel patrwm eich galwad, a’i ddilyn i ble bynnag y mae'n arwain.”
1.1 Rhoddir y fraint a'r cyfrifoldeb i glerigion fod yn weision ac yn arweinwyr yng ngweinidogaeth yr Eglwys. Fel bugeiliaid, arweinwyr ysbrydol a chynrychiolwyr y ffydd Gristnogol, maent mewn sefyllfa o ymddiriedaeth yn eu
perthynas â'r rhai y mae ganddynt ofal bugeiliol drostynt. Mae'r Canllawiau hyn yn darparu'r fframwaith ymddygiad proffesiynol ar gyfer pob clerig fel anogaeth a chadarnhad o arfer da.
1.2 Bydd clerigion yn aml yn eu cael eu hunain yn y sefyllfa bwerus o gyfarfod pobl yn eu bregusrwydd mwyaf. Nod y Canllawiau yw diogelu a rhoi sicrwydd i bobl o'r fath ac ennill eu hymddiriedaeth, sy’n nodwedd na ellir gweinidogaethu hebddi.
1.3 Mae ymddygiad proffesiynol a phersonol yn ddarostyngedig i’r gyfraith a chosbau cyfreithiol. Mae clerigion, sy'n cael eu trwyddedu neu eu sefydlu i gyfrifoldebau newydd, yn gwneud datganiad o Ufudd-dod Canonaidd ac yn cytuno i gael eu rhwymo gan Gyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru.
Fodd bynnag, mae ymateb i alwedigaeth i wasanaethu fel gweinidog ordeiniedig yn dynodi ymrwymiad gwirfoddol i rwymedigaethau hunanddisgyblaeth aberthol uwchlaw a thu hwnt i ofynion cyfraith seciwlar ac eglwysig. Mae'r Ordinalau yn disgrifio'r ymrwymiadau hyn ac felly'n llywio ymddygiad, ac felly'r Ordinalau sydd wedi'u defnyddio i ddarparu'r ysbrydoliaeth a'r fframwaith ar gyfer y Canllawiau hyn. - “Rydych chi i ofalu am bawb fel ei gilydd, yn enwedig pobl dlawd, sâl, anghenus a'r rhai sydd mewn trafferthion.”
2.1 Cyfrifoldeb yr Eglwys gyfan yw gofalu am ein gilydd ac mae'n estyniad o gyfiawnder a chariad y Duw mewn cnawd a ddatgelwyd yn Iesu Grist. Mae tosturi yn hanfodol i ofal bugeiliol. Dylai clerigion alluogi aelodau eraill o'r gymuned addoli i rannu yn y gofal bugeiliol hwn.
2.2 Mae gan glerigion gyfrifoldeb penodol i weinidogaethu'n sensitif ac yn effeithiol i bobl sâl, i bobl yn eu dyddiau olaf ac mewn profedigaeth.
2.3 Yn eu gweinidogaeth, eu gofal bugeiliol a'u perthynas waith, rhaid i glerigion ymdrechu i gynnig parch a chyfle cyfartal i bawb.
2.4 Mae clerigion yn gweinidogaethu drwy eu dyngarwch drylliedig eu hunain, gan fod yn ymwybodol o'u hangen eu hunain i dderbyn gweinidogaeth.
2.5 Dylai clerigion ddirnad a gwneud yn glir eu cyfyngiadau eu hunain o ran amser, cymhwysedd a sgiliau. Ar adegau bydd angen iddynt ofyn am gymorth, cefnogaeth a hyfforddiant priodol.
2.6 Mae'r gwahaniaeth rhwng gofal bugeiliol a chwnsela ffurfiol bob amser i'w gydnabod.
2.7 Dylai clerigion fod yn ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael gan asiantaethau bugeiliol achrededig fel y gellir ei gymeradwyo lle bo hynny'n briodol.
2.8 Mae risg ym mhob gwaith bugeiliol. Mae lle'r cyfarfod, trefniant dodrefn a goleuadau, a gwisg y gweinidog yn ystyriaethau pwysig mewn gofal bugeiliol. Dylid asesu’n ofalus pa mor briodol yw ymweld a chael ymweliad pan fo clerig ar ar ei ben ei hun, yn enwedig yn y nos. Dylai clerigion gydnabod pa mor bwysig yw adnabod eu hunain ac adnabod eu hanghenion emosiynol eu hunain.
2.9 Mewn gofal bugeiliol, mae'n hanfodol cydnabod ffiniau priodol yn gorfforol, rhywiol, emosiynol a seicolegol. Dylid osgoi cyffwrdd yn amhriodol neu ddangos arwyddion o serch.
2.10 Dylai clerigion fod yn ymwybodol o beryglon dibyniaeth mewn perthynas fugeiliol. Dylid osgoi unrhyw ystryw, cystadleuaeth neu gydgynllwynio o’r naill ochr neu'r llall o'r cyfarfod bugeiliol. Dylai hunanymwybyddiaeth fod yn rhan o'r berthynas.
2.11 Dylai clerigion fod yn ymwybodol o'r potensial i gamfanteisio ar eu perthynas freintiedig.
2.12 Os daw cais am gymorth neu gyngor, cyn cymryd nodiadau dylid gofyn am ganiatâd a chofio bod y wybodaeth yn ddarostyngedig i ddeddfau diogelu data.
2.13 Dylai pob unigolyn ordeiniedig gael hyfforddiant priodol mewn amddiffyn plant. Mae’n ofynnol gwybod y canllawiau a’r gofynion taleithiol ac esgobaethol ac ufuddhau iddynt. (Plant a Phobl Ifanc: Cod Ymarfer Da i'w Ddefnyddio gan Blwyfi yn yr Eglwys yng Nghymru a Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan)
2.14 Dylai gwisg clerigion fod yn addas i'w swydd; ac, ac eithrio at ddibenion hamdden neu resymau eraill y gellir eu cyfiawnhau, dylai’r wisg fod yn arwydd clir o'u galwad a'u gweinidogaeth sanctaidd.
2.15 Wrth gynnal addoliad, dylai clerigion wisgo'r wisg litwrgaidd briodol. Os bydd anghytundeb ynghylch yr hyn sy'n briodol, dylid cyfeirio'r mater at yr Esgob i gael cyfarwyddyd. - “Trwy arweiniad yr Ysbryd Glân, gweddïwch yn ddi-baid y bydd eich bywyd yn batrwm o ufudd-dod a sancteiddrwydd a fydd yn datgelu grym Teyrnas Dduw. Ni allwch gyflawni'r weinidogaeth hon trwy eich nerth eich hun. Boed i'r Arglwydd a roes i chi'r ewyllys i ymgymryd â'r gwaith hwn, roi i chi hefyd y nerth a'r grym i’w gyflawni.”
3.1 Nod gofal bugeiliol yw ceisio sicrhau cyfanrwydd tebyg i Grist, yn bersonol ac yn gorfforaethol. Mae datblygu ymddiriedaeth yn hollbwysig er mwyn sicrhau perthynas onest o fewn y weinidogaeth.
3.2 Mae clerigion yn aml yn cael eu rhoi mewn sefyllfa o fod â phŵer dros eraill, mewn perthynas fugeiliol, gyda chydweithwyr lleyg, ac weithiau gyda chlerigion eraill. Mae angen defnyddio'r pŵer hwn i gynnal eraill a manteisio ar eu cryfderau, ac nid i fwlio, cam-drafod neu ddifrïo. Dylent fod yn ymwybodol o bolisi Bwlio ac Aflonyddu'r Eglwys yng Nghymru.
3.3 Mewn perthynas fugeiliol a gofalgar dylai'r clerigion fod yn agored i Dduw ac i anghenion yr unigolyn arall. Mae'n bwysig i glerigion fod yn sensitif i'r sefyllfaoedd lle cânt eu lleoli, yn enwedig o ran gofal bugeiliol plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed.
3.4 Dylai clerigion fod yn ymwybodol y gallai'r rhai y maent yn gofalu amdanynt fod yn ofidus a bregus. Dylid cydnabod y pŵer sydd gan weinidog mewn sefyllfaoedd o'r fath, ei ddefnyddio'n gadarnhaol, ac ni ddylid byth ei gamddefnyddio. Mae'r Eglwys yng Nghymru wrthi'n ystyried polisi ar ofalu am oedolion bregus.
3.5 Mae cam-drafod neu gamfanteisio bob amser yn beth drwg. Mae gofyn cwestiynau amhriodol neu gysylltiad corfforol amhriodol (gweler 2.9) yn gallu bod yn gamdriniaeth emosiynol neu rywiol.
3.6 Rhaid arfer awdurdod ysbrydol yn dyner a sensitif, a dylai'r gweinidog fod yn ymwybodol o'r posibilrwydd o gam-drin ysbrydol.
3.7 Ni ddylai gofal bugeiliol byth geisio dileu ymreolaeth yr unigolyn. Mewn sefyllfaoedd bugeiliol, dylai’r sawl a fugeilir gael y rhyddid i wneud penderfyniadau hyd yn oed os yw’r clerig o'r farn bod y penderfyniad hwnnw'n anghywir.
3.8 Wrth arwain, addysgu, pregethu a llywyddu mewn addoliad, dylai clerigion wrthsefyll pob temtasiwn i ddefnyddio pŵer yn amhriodol.
3.9 Dylai clerigion gydnabod yn ddiolchgar y rhywioldeb personol a roddwyd iddynt gan Dduw. Dylent fod yn ymwybodol o'r perygl o geisio mantais rywiol, yn emosiynol neu'n gorfforol, wrth arfer eu gweinidogaeth.
3.10 Yn eu bywyd personol dylai clerigion osod esiampl o onestrwydd mewn perthynas, ffyddlondeb mewn priodas a chyfrifoldeb wrth rianta a chynnal bywyd teuluol
3.11 Gelwir ar glerigion i fod yn ddiwair yn eu perthynas rywiol. Nid yw agwedd amlgymharus yn gydnaws â gweinidogaeth ordeiniedig. Mae pornograffi yn diraddio unigolyn sy’n blentyn Duw a’i wneud yn wrthrych tafladwy.
3.12 Mae gan rywun sy’n gofyn am arweiniad bugeiliol a chyngor gan glerig yr hawl i ddisgwyl na fydd y clerig hwnnw’n trosglwyddo gwybodaeth gyfrinachol a gafwyd felly i drydydd parti. Yn unol â hynny, nid yw clerigion yn rhydd i rannu gwybodaeth gyfrinachol gyda'u priod, eu teulu na’u ffrindiau.
3.13 Dan rai amgylchiadau, hwyrach y bydd clerigion am rannu cynnwys a phroses perthynas fugeiliol gyda goruchwyliwr neu grŵp goruchwylio. Mewn achosion o'r fath, rhaid i'r clerig gael caniatâd yr unigolyn i rannu’r wybodaeth a sicrhau bod y goruchwyliwr neu'r grŵp goruchwylio yn deall bod angen cadw cyfrinachedd.
3.14 Dylai clerigion fod yn ymwybodol o'r amgylchiadau lle y gellir neu y dylid datgelu gwybodaeth gyfrinachol i drydydd parti, yn enwedig lle mae diogelwch plant yn y cwestiwn. O dan yr amgylchiadau hyn, dylai clerigion gyfeirio at y canllawiau yn y polisïau amddiffyn plant taleithiol ac esgobaethol. Bydd angen i blant neu oedolion agored i niwed sy'n datgelu tystiolaeth o niwed sylweddol wybod y bydd eu pryderon yn cael eu cymryd o ddifrif a'u cyfeirio at yr asiantaeth statudol briodol (Gwasanaethau Cymdeithasol fel arfer) fel y gellir cynnal ymchwiliad priodol a chael cymorth ymarferol. Mewn achosion o'r fath, dylid ystyried bod lles y plentyn neu'r oedolyn sy'n agored i niwed o'r pwys mwyaf. Mae ystyriaethau arbennig yn gymwys pan ddatgelir gwybodaeth yng nghyd-destun cyfaddefiad ffurfiol (gweler paragraffau 7.2 a 7.3).
3.15 Mae'n bwysig diogelu hawl plwyfolion i rannu gwybodaeth bersonol gydag un gweinidog ac nid un arall. Mewn sefyllfa o weithio fel tîm, neu mewn ardal lle mae clerigion yn ceisio cydweithio, efallai y byddai'n ddoeth creu polisi i osgoi'r perygl i weinidogion o fewn tîm o gael eu cam-drafod a'u rhannu drwy rannu gwybodaeth bersonol ag un ac nid y llall. Dylai clerigion cynorthwyol mewn swyddi hyfforddi ei gwneud yn glir i'r rhai y maent yn gweinidogaethu iddynt y bydd gwybodaeth a roddir iddynt fel arfer yn cael ei rhannu gyda’u hyfforddwr.
3.16 Mae unrhyw wybodaeth am unigolyn byw, a gedwir ar gyfrifiadur neu mewn system ffeilio ar bapur, yn ddarostyngedig i Ddeddf Diogelu Data 1998. Felly, dylai clerigion ymgyfarwyddo â gofynion y ddeddfwriaeth honno a Chanllawiau'r Eglwys yng Nghymru ar y Ddeddf Diogelu Data. Rhaid i glerigion weithredu'n unol â hynny a gofyn am gyngor gan y swyddog diogelu data esgobaethol neu daleithiol pan fo angen. Er mwyn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth gall fod yn ofynnol, ymhlith pethau eraill, i'r Comisiynydd Gwybodaeth orfod cael ei hysbysu pan gedwir gwybodaeth am unigolyn byw ar gyfrifiadur.
3.17 Dylai'r rhai sy'n crynhoi cofnodion fod yn barod i fod yn atebol am eu cynnwys. - “Gelwir ar bawb i wneud Iesu Grist yn hysbys i ddynion a menywod fel Gwaredwr ac Arglwydd. Eich tasg yw cyhoeddi efengyl Iesu Grist i bawb. Addysgwch y ffydd a ddaw atom drwy'r Apostolion a'i chyhoeddi o'r newydd.”
4.1 Mae cenhadaeth yn alwad sylfaenol. Mae'n perthyn i'r eglwys gyfan ac mae gan glerigion gyfran flaenllaw o gyfrifoldeb yn ei hyrwyddo.
4.2 Mae gan glerigion y fraint o arwain eu cynulleidfaoedd i gyhoeddi o’r newydd y newyddion da am Iesu Grist a hyrwyddo cenhadaeth Duw, gan gynnwys efengyliaeth.
4.3 Gall pob ysgol, ynghyd â sefydliadau eraill y plwyf, fod yn gyfle i genhadu a gweinidogaethu, ac mae ysgol eglwys yn gyfrifoldeb penodol i'r clerigion. Dylai clerigion geisio gwella cyfleoedd iddynt hwy eu hunain ac i leygion dawnus a hyfforddedig i gyfrannu at addoli, addysg grefyddol, gofal bugeiliol a gwaith llywodraethu mewn ysgolion eglwysig, a bod yn barod i gefnogi pob lleoliad addysg o fewn eu plwyfi.
4.4 Dylai clerigion sicrhau, lle y bo'n briodol, fod cyrsiau a grwpiau trafod hygyrch dan arweiniad da ar bob agwedd ar y ffydd Gristnogol ar gael yn rheolaidd i blwyfolion sy'n awyddus i archwilio, dyfnhau neu adnewyddu eu ffydd.
4.5 Cyfrifoldeb clerigion yn bennaf yw sicrhau paratoad addas ar gyfer Bedydd, Conffyrmasiwn a Phriodasau. Dylai pwysigrwydd plant, pobl ifanc a phawb sy'n newydd i'r ffydd Gristnogol fod yn flaenoriaeth i'r Eglwys ac i'w chlerigion.
4.6 Dylai clerigion gydnabod, cadarnhau ac annog gweinidogaeth a thystiolaeth lleygion yn eu gweithleoedd a'u cymunedau, yn ogystal ag o fewn yr Eglwys. - “Eich tasg yw addysgu. Chi fydd cyd-weithwyr Crist wrth iddo adnewyddu'r byd. Ystyriwch fentrau newydd wrth genhadu a gweithiwch dros heddwch a chyfiawnder.”
5.1 Mae addysg ddiwinyddol barhaus yn ddisgyblaeth hanfodol ar gyfer pregethu ac addysgu, yn ogystal ag ar gyfer twf personol. Dylai clerigion fod yn ymwybodol o argaeledd a'r angen i gymryd rhan mewn rhaglenni addysg parhaus i weinidogion.
5.2 Dylai clerigion neilltuo amser ar gyfer addysg weinidogol barhaus, gan gynnwys ystyried materion cyfoes a datblygiadau diwinyddol, fel bod eu ffydd yn ymgysylltu â chanfyddiadau a phryderon y genhedlaeth hon.
5.3 Mae bod yn gyfarwydd ag amrywiaeth o sgiliau cyfathrebu yn hanfodol i'r broses effeithiol a pharhaus o gyhoeddi'r efengyl.
5.4 Rhan o alwedigaeth clerig wrth bregethu ac addysgu yw diffuantrwydd gweddigar i fod yn broffwydol a heriol yn ogystal â bod yn galonogol a dadlennol.
5.5 Rhaid gofalu nad yw deunydd eglurhaol o brofiad personol yn tarfu ar gyfrinachedd neb. - “Chi sydd i lywyddu yn y Cymun Bendigaid ac i gyflawni’r gweinidogaethau eraill yn eich gofal. Astudiwch ddysgeidiaeth Crist a myfyriwch arni, fel y galloch annog ei bobl yn ffordd sancteiddrwydd. Chi sydd i arwain pobl Dduw i sancteiddrwydd bywyd, ac i annog gweinidogaeth holl bobl Dduw.”
6.1 Gelwir ar glerigion i fod yn arweinwyr yn yr Eglwys ac yn y gymuned ehangach.
6.2 Dylai clerigion ddatblygu'r rhodd hon o arweinyddiaeth o fewn eu gweinidogaeth eu hunain drwy weddi a hyfforddiant, gan fod yn ymwybodol o'u harddull naturiol eu hunain wrth arwain.
6.3 Dylai clerigion hyrwyddo gweinidogaeth gydweithredol ar draws yr holl amrywiaeth o fywyd a gweithgarwch yr eglwys. Mae'n bwysig cydnabod a chadarnhau gweinidogaeth leyg sydd eisoes yn bodoli ac annog gweinidogaethau newydd, yn lleyg ac ordeiniedig. Dylai clerigion fod yn barod i gynorthwyo eraill i ddirnad a chyflawni eu galwedigaeth ac i gydnabod a pharchu amrywiaeth y profiad sy’n bodoli ymhlith aelodau’r eglwys.
6.4 Dylai clerigion sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu paratoi'n feddylgar, yn sensitif i angen a diwylliant y plwyf neu'r sefydliad a thraddodiad yr Eglwys yng Nghymru.
6.5 Lle y bo'n briodol, dylai clerigion gynnwys eraill i arwain wrth addoli, gan ddarparu hyfforddiant a pharatoad yn ôl yr angen i'w cefnogi.
6.6 Dylai clerigion fod yn ymwybodol o anghenion eu cynulleidfa a chymryd unrhyw gamau ymarferol sy'n angenrheidiol i sicrhau bod yr addoli’n wirioneddol gynhwysol heb eithrio neb ar sail anabledd neu anfantais. Dylai clerigion fod yn gyfarwydd â’r Canllaw i Blwyfolion yr Eglwys yng Nghymru ar y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd.
6.7 Dylai clerigion wneud eu gorau i sicrhau bod yr addoliad y maent yn gyfrifol amdano, lle bo hynny'n bosibl ac yn briodol, yn adlewyrchu natur ddwyieithog yr Eglwys yng Nghymru. Dylai clerigion fod yn gyfarwydd â Pholisi Iaith yr Eglwys yng Nghymru.
6.8 Dylai clerigion annog perthynas eciwmenaidd dda.
6.9 Dylai clerigion gynnal perthynas dda a chwrtais gydag aelodau o gymunedau ffydd eraill.
6.10 Ni ddylai gweinidog newydd danseilio cyn-weinidogaeth drwy asesiad beirniadol, ond dylai ganolbwyntio ar waith cadarnhaol rhagflaenydd.
6.11 Ar ôl ymddiswyddo neu ymddeol, dylai clerigion roi’r gorau i’w harweinyddiaeth ar unwaith a thorri pob perthynas broffesiynol â'r rhai a arferai fod o dan eu gofal bugeiliol. Dylai unrhyw eithriad i'r canllaw hwn gael ei drafod yn ffurfiol gyda'r esgob.
6.12 Ar ôl ymddiswyddo neu ymddeol, dim ond trwy wahoddiad gan y clerig sydd â goruchwyliaeth fugeiliol y dylai cyn glerig weinidogaethu mewn hen eglwys, plwyf neu sefydliad, neu gyda'u caniatâd. - “Yr ydych i alw pobl i edifeirwch ac yn enw Crist i faddau i’r edifarydd.”
7.1 Mae gweinyddu cymod, fel estyniad o weinidogaeth Iesu ei hun, yn ganolog i alwad yr offeiriad. Dylid ei arfer yn dyner ac amyneddgar a’i ategu gan gyd-ymddiriedaeth.
7.2 Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau paragraffau 7.3 a 7.4, ni ddylid dadlennu'r hyn a ddatgelir pan fydd person yn cyffesu wrth Dduw ym mhresenoldeb offeiriad –'sêl y gyffesgell’. Mae'r egwyddor hon yn dal hyd yn oed ar ôl marwolaeth yr edifarydd. Ni all yr offeiriad gyfeirio at yr hyn a ddysgodd trwy gyffes, hyd yn oed i'r edifarydd, oni chaniateir hynny’n benodol gan yr edifarydd. Efallai y bydd angen rhai camau edifeirwch a gwneud iawn cyn y gellir rhoi maddeuant. Gall offeiriad atal maddeuant. Darperir canllawiau ar gymod yn yr atodiadau i'r ddau Orchymyn ar gyfer y Cymun Bendigaid, 1984 a 2004.
7.3 Pan geir cyfaddefiad i gam-drin plant neu oedolion bregus yng nghyd-destun cyffes, dylai'r offeiriad annog yr unigolyn i roi gwybod i'r heddlu neu i'r gwasanaethau cymdeithasol am ei ymddygiad, a dylai hefyd wneud hyn yn amod ar gyfer maddeuant, neu atal maddeuant nes bod y dystiolaeth hon o edifeirwch wedi dod yn amlwg.
7.4 Os yw ymddygiad edifarydd yn bygwth ei les ei hun neu les pobl eraill, yn enwedig plant neu oedolion bregus, dylai'r offeiriad fynnu bod yr edifarydd yn gweithredu.
Dylid nodi, yn ôl y gyfraith, nad oes unrhyw ddyletswydd absoliwt o ran cyfrinachedd.
Gall Llys neu'r heddlu fynnu datgeliad. Dan amgylchiadau eithriadol, hefyd, gall fod dyletswydd gor-redol i dorri cyfrinachedd, yn enwedig os oes perygl i ddiogelwch plant, neu oedolion bregus, neu, ar adegau prin, pan fo lles y sawl sy'n rhannu’r gyfrinach mewn perygl.
Pe bai offeiriad yn credu bod posibilrwydd y gall gwybodaeth o'r fath gael ei datgelu, dylai egluro i’r edifarydd ymlaen llaw, y gallai fod yn ofynnol i’r offeiriad ddadlennu’r wybodaeth.
Noder: Canon 1604: ‘we do not any way bind the said Minister . . . . but do straitly charge and admonish him, that he do not at any time reveal and make known to any person whatsoever any crime or offence so committed to his trust and secrecy (except they be such crimes as by the laws of this realm his own life may be called into question for concealing the same), under pain of irregularity’. - “Gweddïwch yn ddi-baid y bydd eich bywyd yn batrwm o ufudd-dod a sancteiddrwydd. A wnewch chi dderbyn disgyblaeth yr Eglwys a rhoi parch dyledus i'r rhai a osodwyd mewn awdurdod drosoch?”
8.1 Mae clerigion yn tyngu llw o ufudd-dod canonaidd i'r esgob ac yn cytuno i gael eu rhwymo gan Gyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru.
8.2 Dylai clerigion gymryd rhan lawn ym mywyd a gwaith deoniaeth, archddiaconiaeth, esgobaeth a thalaith, gan roi cymorth a pharch i'r rhai sy'n gyfrifol am arwain a goruchwylio.
8.3 Dylai clerigion wybod sut y mae cyfraith eglwysig a chanon a Chyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru yn llywio eu harferion gwaith a’u gweinidogaeth, a dylent barchu'r rheoliadau hynny a roddir ar waith gan yr Eglwys.
8.4 Dylai clerigion gydnabod a pharchu meysydd gweinidogaeth clerigion eraill.
8.5 Mae awdurdod y wardeiniaid eglwysi a lleygion a etholir neu a benodir i swydd yn yr eglwys leol i'w barchu a'i gadarnhau - A fyddwch chi'n weinidog dyfal o Air Duw? A wnewch chi gysegru eich bywyd i weddi ac astudiaeth? A wnewch chi barhau i hyfforddi eich hun ar gyfer gweinidogaeth yn yr Eglwys?”
9.1 Wrth gyflawni eu gweinidogaeth, mae clerigion yn ymateb i alwad ein Harglwydd Iesu Grist. Mae datblygiad eu dirnadaeth yn cynnwys y ddisgyblaeth o weddïo, addoli, astudio’r Beibl ac ymwybyddiaeth o anogaeth yr Ysbryd Glân. Dylai clerigion sicrhau bod amser ac adnoddau ar gael ar gyfer eu bywyd personol ac ysbrydol eu hunain gan gymryd cyfrifoldeb am eu hyfforddiant a'u datblygiad parhaus eu hunain.
9.2 Gellir hwyluso dirnadaeth ysbrydol drwy rannu taith ffydd gydag unigolyn arall.
Fel arfer, dylai gweinidog gael rhywun y tu allan i'r sefyllfa waith i droi ato am gymorth.
9.3 Dylai clerigion gymryd rhan lawn mewn addysg weinidogol barhaus ac yn Adolygiad yr Esgob, gan wybod bod atebolrwydd yn cynnwys adolygu rheolaidd yn bersonol a gydag eraill.
9.4 Gall fod yn briodol i glerigion gyfarfod yn rheolaidd ag ymgynghorydd gwaith i adolygu eu gweinidogaeth barhaus.
9.5 Dylid cynnwys yr amser sy’n cael ei neilltuo i fywyd teuluol, cyfeillgarwch, hamdden, adferiad ac iechyd personol ym mhob adolygiad. Bydd y myfyrdod hwn yn fwy defnyddiol os caiff ei gynnal fel rhan o adolygiad ffurfiol a hefyd mewn trafodaeth gyda chyfarwyddwr ysbrydol a/neu ymgynghorydd gwaith. - “A wnewch chi, gyda'ch teulu, drefnu eich bywyd yn unol â dysgeidiaeth Crist? A wnewch chi arwain drwy anogaeth ac esiampl?
10.1 Gelwir ar glerigion i ddilyn safonau ymddygiad moesol uchel.
10.2 Dylai clerigion sydd wedi priodi gofio bod priodas hefyd yn alwedigaeth. Ni ddylid ystyried priodas yn eilbeth i'r alwedigaeth weinidogol. Yn yr un modd, dylai clerigion dibriod, yn cynnwys clerigion a alwyd i ddiweirdeb, gymryd y camau angenrheidiol i ddatblygu eu bywydau, eu cyfeillgarwch a'u perthynas gyda’u teulu. Mae angen i glerigion sydd wedi priodi clerigion gymryd gofal arbennig i ddatrys unrhyw anawsterau posibl a allai godi.
10.3 Mae gweinyddiaeth dda yn galluogi gofal bugeiliol da. Mae delio â gohebiaeth ac ymholiadau yn effeithlon a chwrtais yn hanfodol. Rhaid cyflawni’r weinyddiaeth yn unol â chyfraith yr Eglwys a'r gyfraith sifil gan ddilyn canllawiau’r Llawlyfr Gweinyddu Plwyf yn y plwyfi.
10.4 Mae cadw cofrestrau plwyfol a chofnodion i safon uchel yn ofynnol yn gyfreithiol yn ogystal â bod yn rhan o ofal bugeiliol.
10.5 Mae angen i glerigion sicrhau bod eu holl drafodion ariannol, boed yn bersonol neu'n gorfforaethol, yn bodloni'r safonau moesegol uchaf. Rhaid cael ffiniau llym rhwng cyllid eglwysi ac arian personol er mwyn osgoi'r posibilrwydd o amheuaeth neu amhriodoldeb.
10.6 Ni ddylai clerigion byth geisio unrhyw fantais neu enillion personol yn rhinwedd eu safle clerigol.
10.7 Dylai clerigion fod yn hynod ofalus ynghylch derbyn rhoddion personol gan y rhai sydd dan eu gofal ysbrydol. Rhaid i glerigion beidio ag annog pobl i roi, benthyg neu i roi arian neu anrhegion a fydd o fudd uniongyrchol neu anuniongyrchol iddynt hwy neu eu teulu. Os bydd clerigion yn derbyn rhoddion neu gymynroddion sylweddol (dros £500 mewn gwerth), neu'r addewid o gymynrodd gan y rhai sydd dan eu gofal ysbrydol, dylent hysbysu'r Esgob. Yn yr un modd, pan fydd Esgobion yn derbyn rhoddion neu gymynroddion personol sylweddol (dros £500 mewn gwerth) gan y rhai sydd yn eu gofal ysbrydol, dylent hysbysu Cofrestrydd yr Archesgob, a bydd yntau’n cadw cofrestr ohonynt.
10.8 Ni ddylai clerigion gyflawni unrhyw ddyletswyddau proffesiynol os cânt gyngor meddygol i beidio, na gweithredu dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau.
10.9 Rhaid i glerigion fod yn ymwybodol bod eu hymddygiad personol yn adlewyrchu nid yn unig ar eu gweinidogaeth ond hefyd ar enw da ac uniondeb yr Eglwys a’r Eglwys yng Nghymru yn benodol. Nid yw'r ymddygiad canlynol yn dderbyniol:
- Defnyddio cyffuriau anghyfreithlon nad ydynt yn rhai presgripsiwn
- Camddefnyddio alcohol neu feddwdod
- Defnyddio iaith gableddus, faleisus a allai fod yn dramgwyddus
- Ymddygiad treisgar neu anweddus
Os amheuir bod clerig yn camddefnyddio alcohol neu gyffuriau, rhaid iddynt o’u gwirfodd ddilyn llwybr adferiad. Os na chaiff camau adferiad eu dilyn neu os bydd camddefnydd yn parhau ar ôl i glerigion ddilyn llwybr adferiad, bydd hyn yn gyfystyr â thorri'r canllawiau gweinidogol ac felly gellir disgwyl i'r mater gael ei gyfeirio at Dribiwnlys Disgyblu'r Eglwys yng Nghymru.
10.10 Disgwylir i glerigion ofalu am eu hiechyd, eu lles a'u diogelwch eu hunain. Dylai pawb warchod eu hunain a'u teulu rhag straen gormodol. (Fel gweinidog, mae'n bwysig gwahaniaethu rhwng pwysau sy’n cael canlyniadau cadarnhaol a straen all gael effaith andwyol ar iechyd a lles.) Dylai clerigion roi sylw dyledus i ddiogelwch personol gan osgoi unrhyw risg ddiangen. - “Pobl Dduw yw’r Eglwys, Corff Crist, a Theml yr Ysbryd Glân. A wnewch chi ymdrechu i hyrwyddo undod, heddwch a chariad ymhlith y rhai rydych chi'n eu gwasanaethu?”
11.1 Mae cynnal enw da'r Eglwys yn y gymuned i raddau helaeth yn dibynnu ar esiampl ei chlerigion. Dylent hwy gydnabod eu rôl fel cynrychiolwyr cyhoeddus yr Eglwys a dylai eu bywydau gyfoethogi ac ymgorffori’r gwaith o gyhoeddi’r Efengyl.
11.2 Mae clerigion yn cael eu cynghori i drysori eu gofod personol a theuluol, serch hynny, rhaid i glerigion ddeall bod gan eu plwyfolion neu'r sawl sy’n derbyn eu gofal bugeiliol hawl i lefel gymwys o argaeledd a hygyrchedd. Dylid rhoi hysbysiad cyhoeddus ynghylch argaeledd clerigion ar gyfer ymholiadau nad ydynt yn rhai brys. Fodd bynnag, disgwylir i glerigion ddelio ag argyfyngau wrth iddynt godi. Ym mhob amgylchiad, mae ymateb prydlon a graslon i bob cais am gymorth yn dangos gofal. Dylai rhifau ffôn a, lle y bo'n briodol, cyfeiriadau e-bost fod ar gael yn hawdd.
11.3 Mae gan glerigion rôl a galwad benodol i fod yn gyfrwng i wella a chymodi ar gyfer y rhai sydd dan eu gofal.
11.4 Dylai’r alwad ar glerigion i fod yn weision i'r gymuned gynnwys eu gweinidogaeth broffwydol i'r rhai sydd mewn perygl ysbrydol a moesol. - “Ydych chi'n ymddiried eu bod, drwy ras Duw, yn deilwng i gael eu hordeinio? A wnewch chi eu cefnogi yn eu gweinidogaeth?”
12.1 Mae 'Gofal i ofalwyr' yn sylfaenol. Mae angen cefnogi clerigion ac mae gan leygion rôl benodol a sylweddol yng ngofal bugeiliol clerigion.
12.2 Dylai swyddogion y plwyf, yn enwedig wardeiniaid yr eglwys, gyda chyngor swyddogion yr Esgobaeth, chwarae eu rhan, wrth sicrhau bod gan eu clerigion:
- amgylchedd diogel i fyw a gweithio;
- digon o amser i ffwrdd ar gyfer gorffwys, hamdden a gwyliau priodol; (Efallai y bydd angen hyblygrwydd o ran darparu ac amseru gwasanaethau er mwyn i hyn fod yn bosibl.)
- cyfle blynyddol i encilio;
- cymorth gweinyddol priodol;
- ad-dalu treuliau gweinidogol yn llawn;
- rhyddhau priodol ar gyfer dyletswyddau plwyfol ychwanegol;
- anogaeth i weinidogaethu i'r gymuned gyfan ac nid i'r gynulleidfa yn unig.
12.3 Yr esgob fydd yn gyfrifol am les clerigion pan fydd yn gwneud Datganiad o Ufudd-dod Canonaidd. Mae'n rhannu'r cyfrifoldeb hwn gydag esgobion cynorthwyol, archddiaconiaid a deoniaid ardal.
12.4 Dylid annog clerigion i ddatblygu’r cyfle i gefnogi ei gilydd a rhoi gofal bugeiliol o fewn cabidwl, grŵp cell, neu grwpiau cyfoed eraill. Dylid annog pob clerig hefyd i gael cyfarwyddydd ysbrydol, enaid cytun neu gyffeswr i gefnogi ei fywyd ysbrydol a helpu i ddatblygu ei dwf mewn hunan-ddealltwriaeth. Os oes angen, dylid rhoi cymorth i ddod o hyd i berson o'r fath.
12.5 Bydd cyfeiriadur neu restr o adnoddau Gofal Bugeiliol a Chwnsela yn cael eu llunio a'u darparu i'r clerigion ac i'w teuluoedd, fel y gallant wneud eu trefniadau eu hunain i ddod o hyd i gymorth a chefnogaeth yn ôl eu dymuniad. Dylai cymorth ariannol fod ar gael yn yr esgobaeth (neu'r dalaith) i gynorthwyo'r clerigion i dalu am gymorth priodol os oes angen.
12.6 Dylid sicrhau cyfrinachedd ar bob lefel. Felly, dylai'r ffiniau rhwng gwahanol bobl sy'n ymwneud â gofal o'r fath gael eu cydnabod gan bawb yn strwythurau'r esgobaeth, yn enwedig lle mae materion cymorth ariannol yn gysylltiedig. Mae angen i gynghorwyr mewn gofal bugeiliol fod yn hynod ofalus i gynnal y ffiniau hyn wrth wneud atgyfeiriadau neu wneud adroddiadau i'w cydweithwyr esgobaethol.
12.7 Dylai'r esgob, neu ei gynrychiolwyr hyfforddedig, gynnal adolygiad rheolaidd o waith pob gweinidog a dylai hyn fod yn amlwg yn gysylltiedig â datblygiad gweinidogaeth yr unigolyn, yng nghyd-destun anghenion yr Eglwys.
12.8 Os oes rhyw fath o ymgynghoriaeth gwaith ar gyfer clerigion ar gael, dylai gael ei gynnig gan bersonél hyfforddedig y mae eu gwaith yn cael ei fonitro a'i adolygu gan yr esgob.
12.9 Dylid darparu cytundeb gwaith i glerigion sydd wedi'u trwyddedu o dan sêl ond nad ydynt yn cael cyflog, sy'n nodi’n glir ffiniau amser a chyfrifoldeb y cytunwyd arnynt.
12.10 Mae gan bob esgobaeth ddyletswydd i ddarparu addysg weinidogol barhaus drwy gydol gweinidogaeth clerigion. Dylai hyn gynnwys hyfforddiant digonol ac addas mewn materion ariannol, gweinyddol a rheolaethol.
12.11 Mewn gweinyddiaethau deuol, lle mae gan glerigion gyfrifoldeb plwyfol a 'sector', dylid cael dealltwriaeth ysgrifenedig glir rhwng esgobaeth, plwyf(i) a gweinidog ynghylch ble mae'r ffiniau.
12.12 Dylai cymorth a chyngor ar y materion ymarferol, seicolegol ac emosiynol dan sylw fod ar gael yn rhwydd i glerigion sy'n nesáu at ymddeol ac i'w teuluoedd.
12.13 Dylai'r esgob a'r rhai gyda gofal bugeiliol am glerigion, trwy air a gweithred, annog y clerigion i fabwysiadu ffordd iach o fyw. Dylai hyn gynnwys digon o amser ar gyfer hamdden ac adloniant, drwy gymryd diwrnodau i ffwrdd a'u hawl gwyliau llawn, datblygu diddordebau y tu allan i'w prif faes gweinidogaeth, a chynnal ymrwymiad i ddatblygu a gofalu amdanynt eu hunain ac am eu perthynas bersonol ag eraill. Dylid blaenoriaethu’r dasg o gynorthwyo clerigion i ddeall a goresgyn unrhyw ddisgwyliadau afrealistig sydd ymhlyg ynddyn nhw eu hunain, ac sydd gan y byd y tu allan. Dylid nodi a mynd i'r afael ag anghenion penodol clerigion priod a chlerigion sengl.