Canllawiau ar gyfer gweinyddu Cynllun gan Esgobion Esgobaethol
Diffiniad
Diffinnir Absenoldeb Sabothol fel absenoldeb â thâl gyda’r clerig yn cael ei ryddhau o’i ddyletswyddau gweinidogol er mwyn bwrw iddi i astudio, encilio a chyflawni datblygiad personol. Rhaid i Esgob yr Esgobaeth gyd-weld y bydd yr absenoldeb o fudd i'r clerig ac i’w weinidogaeth ac felly i'r Eglwys yn ehangach.
Ni fydd cyfnod Absenoldeb Sabothol fel arfer yn llai na chwe wythnos neu’n fwy na thri mis.
Lle bo modd, dylai’r absenoldeb fod yn ddi-dor ac ni ddylai clerigion plwyfi fel arfer fod yn eu plwyfi trwy gydol neu am y rhan fwyaf o'r amser.
Rhoddir Absenoldeb Sabothol yn ôl disgresiwn yr Esgob ac ni ddylid ei ystyried yn hawl
Cymhwysedd
Bydd Absenoldeb Sabothol ar gael i glerigion sydd wedi cwblhau o leiaf ddeng mlynedd yng ngweinidogaeth gyflogedig yr Eglwys yng Nghymru, neu sydd wedi cwblhau o leiaf bymtheng mlynedd mewn gweinidogaeth gyflogedig gydag o leiaf bum mlynedd ohonynt yn yr Eglwys yng Nghymru.
Gall yr awydd i wneud cais am Absenoldeb Sabothol godi yn sgil y broses MDR (Adolygiad Datblygu Gweinidogol) neu o ddyhead y clerig ei hun.
Ni roddir Absenoldeb Sabothol fel arfer os yw clerig wedi ymgymryd â'r cyfryw Absenoldeb o fewn y deng mlynedd blaenorol.
Yn gyntaf, mae'n ofynnol i glerig ymgynghori â'r Swyddog Datblygiad Gweinidogol Parhaus (DGP) gan amlinellu sut y mae am ddefnyddio’r cyfnod Sabothol. Dylai gynnwys tair prif elfen (a) cyfnod o adnewyddiad corfforol, (b) cyfnod o astudio (a all fod yn academaidd neu'n anacademaidd) ac (c) cyfnod o fyfyrio ysbrydol megis ar encil. Yna, bydd y Swyddog DGP yn cyflwyno'r cynnig a'i argymhelliad i'r Esgob i'w gymeradwyo.
Dylai ymgeiswyr roi (a) amlinelliad i'r Swyddog DGP o'u defnydd arfaethedig o'r Absenoldeb, (b) nodau ac amcanion yr astudiaeth, ac (c) nodi'r canlyniadau y maent yn gobeithio amdanynt.
Gall y Swyddog DGP gynghori rhai clerigion i gael ymgynghorydd i'w cynorthwyo i drefnu rhaglen ac awgrymu gwaith darllen a pharatoi priodol.
Dylai clerigion gyfarfod â'r Swyddog DGP cyn dychwelyd at ddyletswyddau’r plwyf (neu'n fuan ar ôl hynny) i drafod buddioldeb a’r hyn y maent wedi'i ddysgu yn ystod yr Absenoldeb Sabothol ac i fesur y canlyniadau yn erbyn eu cynnig gwreiddiol. Gall y myfyrdod fod ar ffurf papur ysgrifenedig neu sgwrs lafar.
Ni ddylid defnyddio Absenoldeb Sabothol fel cyfle i ennill arian
Gweinyddiaeth
Dylai clerigion plwyf wneud trefniadau addas ar gyfer darpariaeth a gwasanaethau bugeiliol yn ystod eu habsenoldeb. Dylid rhoi manylion y cyfryw ddarpariaeth i'r eglwys, deon yr ardal a'r archddiacon.
Gall clerigion fod yn gymwys i gael grant ychwanegol i gynorthwyo gyda'u treuliau Absenoldeb Sabothol, a dylid gwahodd eu CPE i wneud cyfraniad ariannol. Ni fydd clerigion yn cael treuliau plwyfol yn ystod eu Habsenoldeb Sabothol er y disgwylir i blwyfi barhau i dalu eu cyfraniad arferol tuag at drethi dŵr, rhent y ffôn, a chyfraniadau tuag at wresogi a goleuo.
Dylai Swyddogion DGP annog clerigion addas i gymryd Absenoldeb Sabothol. Dylent hefyd fonitro canlyniadau'r rhai sydd wedi cwblhau eu Habsenoldeb Sabothol a sicrhau bod cofnod addas o'r Absenoldeb Sabothol yn cael ei roi yn eu ffeiliau personol.
Dylid gwneud ceisiadau erbyn diwedd y flwyddyn am Absenoldeb Sabothol y flwyddyn ar ôl y flwyddyn nesaf e.e. erbyn diwedd 2011 ar gyfer Absenoldeb Sabothol yn 2013.