Polisi Rbsenoldeb Rhiant a Rennir
Mae'r Eglwys yng Nghymru yn annog clerigion i gael cydbwysedd rhwng eu gwaith a'u hymrwymiadau teuluol, gan gredu bod hynny’n sicrhau gweithlu mwy effeithiol ac effeithlon.
Datblygwyd y Polisi Absenoldeb Rhiant a Rennir hwn i roi arweiniad i glerigion ynghylch eu hawliau a'r weithdrefn i'w dilyn ar gyfer absenoldeb rhiant a rennir.
Gall clerigion cymwys ddewis cymryd Absenoldeb Rhiant a Rennir (ARhR) pan fyddan nhw (neu eu partner) yn terfynu, neu’n rhoi rhybudd i derfynu yr Absenoldeb Mamolaeth neu Fabwysiadu Statudol. Mae ARhR yn gymwys i fabanod a aned ar neu ar ôl 5 Ebrill 2015.
Mae ARhR yn caniatáu i'r fam/mabwysiadwr a'i phartner rannu'r absenoldeb.
Gellir rhannu'r absenoldeb mewn ffordd 'barhaus’. Byddai hyn yn golygu y byddai un partner yn cymryd cyfnod o absenoldeb, ac yna byddai'r partner arall yn cymryd gweddill yr absenoldeb. Fel arall, gall yr absenoldeb fod yn ysbeidiol. Byddai hyn yn golygu bod un partner yn cymryd rhywfaint o absenoldeb, yna'r llall, ac yna mae'r partner cyntaf yn cymryd mwy o absenoldeb, ac ati. Gallai hefyd olygu bod y ddau bartner yn cymryd rhywfaint o absenoldeb ar yr un pryd.
Ni ddylai'r absenoldeb a gymerir gan y ddau bartner pan gaiff ei gyfrifo’n llawn fod yn fwy na 52 wythnos. Rhaid cymryd absenoldeb mewn unedau gofynnol o un wythnos.
Gweithdrefn
Cymhwysedd
I fod yn gymwys i gymryd ARhR, rhaid i'r clerig fod yn gymwys i gymryd SAL neu SML, neu fod â hawl i Dâl Mamolaeth Statudol (TMS), Tâl Mabwysiadu Statudol (TMS) neu Lwfans Mamolaeth (LM).
Yn ogystal, rhaid i'r fam neu'r mabwysiadwr rannu'r cyfrifoldeb am fagu'r plentyn gyda thad y plentyn neu ei phartner.
Yn ogystal â'r gofynion hyn, ceir 'prawf parhad' a fydd yn cael ei gymhwyso i bennu cymhwysedd:
- Rhaid i un rhiant o'r ddau sy'n gwneud cais i gymryd ARhR fod wedi dal swydd yn yr Eglwys yng Nghymru am o leiaf 26 wythnos erbyn diwedd y 15fed wythnos cyn yr wythnos y mae'r plentyn i fod i gael ei eni (y cyfeirir ati fel yr Wythnos Esgor Ddisgwyliedig – WEDd) neu'r wythnos yr hysbysir y mabwysiadwr ei fod wedi cael ei baru â phlentyn. Rhaid i'r rhiant fod yn dal yn y swydd yn yr wythnos gyntaf y bydd ARhR yn cael ei gymryd.
- Rhaid i'r rhiant arall fod wedi gweithio/dal ei swydd am 26 wythnos yn y 66 wythnos sy'n arwain at y dyddiad y disgwylir/y lleolir y babi a rhaid iddo fod wedi ennill mwy na’r trothwy'r Lwfans Mamolaeth mewn 13 o'r 66 wythnos hynny.
Hawl i Dâl
Bydd Tâl Rhiant a Rennir (TRhR) yn union yr un fath â'r Tâl Mamolaeth Statudol (TMS). Telir y swm i ba bynnag bartner sy'n cymryd yr absenoldeb. Fel gyda TMS a Thâl Mabwysiadu Statudol (TMabS), dim ond am 39 wythnos y bydd yn daladwy, er y gall cyfanswm yr absenoldeb fod hyd at 52 wythnos.
I fod yn gymwys ar gyfer Tâl Rhiant a Rennir (TRhR) rhaid i'r rhiant basio'r prawf parhad a bod wedi ennill cyfartaledd o'r terfyn enillion is neu fwy am yr wyth wythnos cyn y 15fed wythnos cyn WEDd/wythnos yr hysbysir y mabwysiadwr am y lleoliad.
Hysbysu ynghylch absenoldeb
Mae'n ofynnol i'r clerig roi o leiaf 8 wythnos o rybudd i'r esgobaeth ei fod yn bwriadu cymryd ARhR. Cyn belled â bod rhywfaint o AMS neu AMabS yn weddill, gall y clerig ddewis cymryd ARhR unrhyw bryd.
Os derbynnir cais am gyfnod parhaus o ARhR ni all yr Esgobaeth wrthod. Fodd bynnag, gall yr Esgobaeth wrthod cais am gyfnod ysbeidiol o ARhR a gofyn am i'r absenoldeb gael ei gymryd fel cyfnod parhaus o absenoldeb.
Ni all clerig wneud mwy na thri chais am floc o absenoldeb.
Rhaid i bob rhiant sy'n bwriadu cymryd ARhR roi'r wybodaeth ganlynol i'w Archddiacon wrth roi hysbysiad o'i fwriad:
- faint o absenoldeb sydd ar gael
- faint o absenoldeb y mae ganddynt hawl i'w gymryd
- faint o absenoldeb y mae eu partner yn ei gymryd
- sut maen nhw'n disgwyl cymryd yr absenoldeb
- enw eu partner, a chadarnhad eu bod yn rhannu cyfrifoldeb gofal plant am y plentyn hwn
- datganiad wedi'i lofnodi gan y partner yn nodi ei enw, ei gyfeiriad a'i rif Yswiriant Gwladol, eu bod yn bodloni'r gofynion ar gyfer ARhR a TRhR a'u bod yn cytuno y caiff y cyflogai gymryd ARhR a TRhR.
Unwaith y bydd y wybodaeth hon wedi'i rhoi, gall yr Archddiacon ddewis gofyn am y wybodaeth ganlynol: (Rhaid gwneud y cais o fewn 14 diwrnod ar ôl derbyn yr hysbysiad.)
- copi o dystysgrif geni'r plentyn
- enw a chyfeiriad cyflogwr y partner.
Os gofynnir am y wybodaeth hon, rhaid i'r clerig ei darparu o fewn 14 diwrnod.
Tynnu'n ôl o Absenoldeb Rhiant a Rennir
Gall y fam/mabwysiadwr dynnu'n ôl o'r penderfyniad i gymryd ARhR os:
- yw dyddiad gorffen arfaethedig yr AMS/AMabS heb gyrraedd eto
- a’u bod hefyd heb ddychwelyd i'w dyletswydd.
Yn ogystal, rhaid i un o'r canlynol fod yn berthnasol:
- mae'r clerig wedi darganfod yn ystod y cyfnod rhybudd o wyth wythnos nad yw'r naill riant na'r llall yn gymwys i gael ARhR neu Gyflog Rhiant a Rennir (CRhR)
- mae partner y fam/mabwysiadwr wedi marw
- mae'r fam yn dweud wrth ei chyflogwr/ yr Archddiacon ei bod yn tynnu'n ôl o ARhR lai na chwe wythnos ar ôl yr enedigaeth (mae hyn yn rhagdybio ei bod wedi rhoi rhybudd o'i bwriad i gymryd ARhR cyn yr enedigaeth).
Newid bwriadau
Gellir gwrthod cais am absenoldeb ysbeidiol. Yn ogystal, gall yr Esgobaeth benderfynu peidio ag ymateb i hysbysiad absenoldeb.
Yn y naill sefyllfa neu'r llall, gall y clerig dynnu'n ôl yr hysbysiad o'u bwriad i gymryd ARhR ar neu cyn y 15fed diwrnod ar ôl i'r hysbysiad gael ei wneud yn y lle cyntaf. Os byddant yn gwneud hyn, ni fydd yn cyfrif fel un o'u tri hysbysiad. Os nad ydynt yn gwneud hyn, rhaid iddynt gymryd cyfanswm yr absenoldeb a hysbyswyd ganddynt mewn un bloc parhaus. Gall y clerig ddewis pryd i ddechrau'r cyfnod absenoldeb hwn, cyn belled â'u bod yn gwneud hynny o fewn 19 diwrnod i'r dyddiad a chyn belled nad yw'r absenoldeb yn dechrau o fewn 19 diwrnod i'r hysbysiad gael ei roi i'r Archddiacon a chyn belled nad yw'n dechrau'n gynharach na'r dyddiad a roddodd y clerig yn y lle cyntaf fel y dyddiad cychwyn arfaethedig. Os nad yw'r clerig yn rhoi dyddiad cychwyn newydd yna bydd yn dechrau ar y dyddiad cychwyn a roddir yn yr hysbysiad gwreiddiol.
Dyddiau Cyswllt Absenoldeb Rhiant a Rennir
Mae gan y rhai sy'n cymryd AMS neu AMabS yr hawl i gymryd hyd at ddeg diwrnod 'Cadw mewn Cysylltiad' (neu ddyddiau CMC). Gellir gweithio'r dyddiau hyn yn ystod AMS neu AMabS heb unrhyw effaith ar hawl i TMS neu TMabS. Nid yw'n orfodol gweithio diwrnod CMC, ac ni all clerig fynnu bod yr Esgobaeth yn caniatáu iddi weithio diwrnod CMC. Nid yw'r gyfraith yn datgan bod yn rhaid talu cyflog am ddiwrnod CMC, ond gall yr Esgobaeth ddewis gwneud taliad. Bydd y dyddiau CMC hyn yn parhau.
Yn ogystal, bydd gan bob partner sy'n cymryd ArhR yr hawl i gymryd hyd at 20 o ddyddiau 'Cyswllt Absenoldeb Rhiant a Rennir'. Mae rheolau perthnasol yr un fath ag ar gyfer dyddiau CMC – mae dyddiau Cyswllt Absenoldeb Rhiant a Rennir yn ddewisol, ac nid oes hawl i gyflog.
Dychwelyd i'r Gwaith
Mae gan glerig sy'n dychwelyd o gyfanswm o 26 wythnos neu lai o ARhR yr hawl i ddychwelyd i'w swydd wreiddiol.
Mae gan glerig sy'n dychwelyd o gyfanswm o fwy na 26 wythnos o ARhR yr hawl i ddychwelyd i'w hen swydd neu, os nad yw hyn yn bosibl, i rôl o'r un statws sydd â'r un telerau ac amodau â'u hen rôl.
Gellir cael cyngor ar gymhwyso'r darpariaethau hyn gan y canlynol:
Adran Adnoddau Dynol 2 Sgwâr Callaghan, Caerdydd, CF10 5BT
Adran Cyflogau 2 Sgwâr Callaghan, Caerdydd, CF10 5BT