Canllawiau ar y Cyfryngau Cymdeithasol
Diffiniad o’r cyfryngau cymdeithasol
Math o gyfryngau rhyngweithiol ar-lein yw’r cyfryngau cymdeithasol sy’n caniatáu i bobl gyfathrebu â’i gilydd ar unwaith neu rannu data mewn fforwm cyhoeddus. Mae hyn yn cynnwys fforymau cymdeithasol ar-lein fel X, Facebook, Instagram a LinkedIn. Mae’r cyfryngau cymdeithasol hefyd yn cynnwys blogiau a gwefannau rhannu fideos a delweddau fel YouTube, Flickr a Pinterest.
A fyddech cystal â nodi bod yna lawer mwy o enghreifftiau o’r cyfryngau cymdeithasol nag y gellir eu rhestru yma ac mae hwn yn faes sy’n newid yn barhaus. Rydym yn cynnig y canllawiau hyn mewn perthynas ag unrhyw gyfryngau cymdeithasol rydych chi’n eu defnyddio.
Y defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol yn eich rôl o fewn yr Eglwys yng Nghymru
Mae’r cyfryngau cymdeithasol yn ffordd ardderchog o rannu’r newyddion da am Iesu Grist a chysylltu â phobl mewn modd cadarnhaol. Rydym yn eich annog i wneud defnydd rhesymol a phriodol o wefannau cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo gweithgareddau o fewn eich eglwys, eich Ardal Gweinidogaeth/Genhadaeth, a gweithgareddau ehangach yr Eglwys yng Nghymru.
Egwyddorion y Cyfryngau Cymdeithasol
Rhaid i chi fod yn ymwybodol bob amser eich bod yn cynrychioli’r Eglwys yng Nghymru, ac er mwyn bod o help i chi rydym yn cynnig yr egwyddorion canlynol ynglŷn â defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol:
- Ymgysylltwch â’ch cynulleidfa. Mae pobl yn disgwyl i chi ymateb iddyn nhw mewn modd amserol ac os ydych chi’n anwybyddu’ch cynulleidfa fe fyddan nhw yn y pen draw yn dechrau’ch anwybyddu chi.
- Byddwch garedig. Meddyliwch am ryngweithio ar y cyfryngau cymdeithasol fel sgwrs rhyngoch chi, Duw ac eraill. Byddwch glên wrth eraill a stiwardiwch eich presenoldeb ar-lein yn ofalus. Dylech osgoi gael eich tynnu i ddadlau ar-lein a byddwch yn ymwybodol pryd i gamu’n ôl o sefyllfa cyn i bethau waethygu. Peidiwch â gwneud sylwadau difenwol am unigolion neu grwpiau eraill na phostio delweddau amhriodol neu ddolenni i gynnwys amhriodol.
- Os mewn amheuaeth, peidiwch â phostio. Os nad ydych yn siŵr a yw’ch post yn briodol - am ba reswm bynnag - peidiwch â’i bostio. Gofynnwch i ffrind neu gydweithiwr am gyngor ac ystyriwch newid eich neges yn unol â hynny.
- Gwirio’r sillafu. Mae’n swnio’n amlwg, ond does dim yn fwy amhroffesiynol na gramadeg gwael a gwallau sillafu. Paratowch eich negeseuon ar Word a defnyddiwch wirydd sillafu.
- Defnyddiwch hashnodau. Ond peidiwch â gorddefnyddio hashnodau – ceisiwch beidio â defnyddio mwy na thri hashnod a cheisiwch eu defnyddio o fewn brawddegau yn hytrach na’u rhoi i gyd ar ddiwedd eich post.
- Defnyddiwch un proffil. Peidiwch â chreu mwy nag un proffil i bob adnodd cyfryngau cymdeithasol a gwnewch yn siŵr bod eich manylion proffil yn gyflawn.
- Byddwch yn wyliadwrus ynglŷn â rhannu cynnwys. Meddyliwch yn ofalus cyn rhannu cynnwys gan berson neu sefydliad arall. Ydy’r cynnwys yn briodol ac a yw ei ffynhonnell yn briodol? Os nad ydych chi’n siŵr, peidiwch â’i rannu.
- Peidiwch â thorri rheolau hawlfraint, er enghraifft trwy ddefnyddio delweddau rhywun arall neu gynnwys ysgrifenedig heb ganiatâd, neu fethu cydnabod caniatâd sydd wedi’i roi i atgynhyrchu rhywbeth.
- Peidiwch â gwneud dim y gellid ei ystyried yn wahaniaethu yn erbyn rhywun, neu’n fwlio neu’n aflonyddu, er enghraifft trwy:
- gwneud sylwadau ymosodol neu ddifenwol mewn perthynas â rhyw, ailbennu rhywedd, hil (gan gynnwys cenedligrwydd), anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, crefydd neu gred neu oedran;
- defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i fwlio unigolyn arall;
- postio delweddau sy’n gwahaniaethu neu’n sarhaus.
- Y defnydd o ddelweddau a fideo. Mae’n rhaid cael caniatâd i ffilmio a/neu dynnu lluniau o ddigwyddiad. Yn achos pobl, gofynnwch am eu caniatâd i’w ffilmio neu i dynnu eu llun ac eglurwch yn glir sut rydych yn bwriadu defnyddio’r deunydd. Yn achos pobl ifanc, rhaid cael caniatâd y plentyn neu ei riant/gwarcheidwad fel sy’n briodol a dilynwch ganllawiau a gweithdrefnau diogelu bob amser.
- Peidiwch ag anwybyddu eglwysi lleol eraill. Byddwch yn ffrind iddyn nhw, rhannwch eu deunydd, hoffwch nhw! Anogwch undod lleol trwy helpu i hyrwyddo eu digwyddiadau lle bo hynny’n briodol a dathlwch gyda nhw pan fydd ganddyn nhw newyddion i’w rannu.
- Ac yn olaf, peidiwch â bod ofn rhoi cynnig ar adnoddau cyfryngau cymdeithasol newydd. Mae rhaglenni newydd yn ymddangos byth a hefyd ac os ydych am gyrraedd cynulleidfa fwy yna ewch amdani!
Dydy hon, ddim o bell ffordd, yn rhestr gyflawn o egwyddorion cyffredinol ynglŷn â’r defnydd o’r cyfryngau cymdeithasol, ond mae digon o ganllawiau ar-lein ar gael os hoffech ymchwilio ymhellach i unrhyw blatfform penodol.