Telerau Gwasanaeth
Y Datganiad hwn
Cyflwynir y Datganiad hwn yn unol â Chanon Telerau Gwasanaeth Clerigion 2010. Rheolir amodau a thelerau eich penodiad ar gyfer gwasanaeth gyda’r Eglwys yng Nghymru gan:
- Y Datganiad hwn
- Cyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru
- Canllawiau Gweinidogaethol Proffesiynol
- Y Disgrifiad Swydd
Gellir diwygio telerau’r Datganiad hwn yn unol â Chanon Telerau Gwasanaeth Clerigion 2010 a bydd yn cael ei addasu i adlewyrchu penodiadau unigol.
Gweinidogion digyflog
Mae hawl gan Glerig nad yw’n derbyn cyflog i gael yr un amodau a thelerau â Gweinidogion Cyflogedig, ac eithrio lle y penodir yn wahanol yn y Datganiad hwn ac mewn unrhyw ddogfennau eraill sy’n ymwneud â’r penodiad.
Penodiadau rhan-amser
Mae hawl gan Glerig rhan-amser i gael yr un amodau a thelerau â’r rhai a benodir i wasanaeth llawn amser ar sail pro rata, fel y darperir yn y Datganiad hwn ac mewn unrhyw ddogfennau eraill sy’n ymwneud â’r penodiad.
Curadiaid cynorthwyol dan hyfforddiant
Mae’r amodau a’r telerau a amlinellir yn y Datganiad hwn yn berthnasol i guradiaid cynorthwyol yn yr Eglwys yng Nghymru, yn ogystal â’r trefniadau penodol a bennwyd gan Gynllun yr Eglwys yng Nghymru ar gyfer Cychwyn Gweinidogaeth Gyhoeddus.
Cyflog
Adolygir lefelau isafswm cyflog bob blwyddyn ar 1 Ionawr gan Gorff Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru (“Corff y Cynrychiolwyr”) ac fe’u nodir yn y Cyfansoddiad.
Telir cyflog bob mis calendr trwy drosglwyddiad uniongyrchol i gyfrif personol, a dylid cyflwyno manylion y cyfrif i Gorff y Cynrychiolwyr. Cyfrifoldeb y Clerig yw gwirio’r datganiad cyflog eitemedig a rhoi gwybod i Gorff y Cynrychiolwyr os oes unrhyw wall posibl cyn pen chwe mis i ddyddiad y datganiad cyflog eitemedig sy’n cynnwys y gwall. Os na thalwyd digon o gyflog, dylid unioni hynny cyn gynted ag sy’n ymarferol bosibl. Os talwyd gormod o gyflog, byddwn yn adennill yr arian trwy ddidynnu’r swm o’r cyflog dros yr un cyfnod ag y bu gordaliad.
Mae’r Clerig drwy hyn yn caniatáu i Gorff y Cynrychiolwyr ddidynnu unrhyw symiau o’r cyflog sy’n ddyledus i Gorff y Cynrychiolwyr.
Llety
Darperir llety i’r Clerig yn ystod ei gyfnod yn y swydd oni chytunwyd fel arall gyda’r Esgob. Bydd y Clerig yn ddeiliad gwasanaeth ac nid yn denant yn y llety dan sylw. Bydd Corff y Cynrychiolwyr yn trefnu i dalu unrhyw Dreth Gyngor. Nodir telerau a rhwymedigaethau deiliadaeth ym Mhennod VII y Cyfansoddiad. Os nad yw’n derbyn cyflog, nid oes rhwymedigaeth ar y clerig i fyw mewn persondy oni chytunwyd ar hynny’n benodol gyda’r Esgob.
Ymddeol
Gall Clerig ddal swydd tan ei fod yn 70 oed fel arfer.
Pensiwn
Gall Clerig sy’n derbyn cyflog ymuno â Chynllun Pensiwn Clerigion yr Eglwys yng Nghymru (heb ei gontractio allan) neu barhau yn y cynllun. Nodir darpariaethau’r Cynllun yn y Cyfansoddiad ac yn yr Arweiniad i Gynllun Pensiwn yr Eglwys yng Nghymru.
Cydbwysedd rhwng Bywyd a Gwaith ac Oriau Gwaith
Nid yw'r terfynau uchaf fel y cânt eu nodi yn y Gyfarwyddeb Amser Gwaith yn berthnasol i 'eraill sydd â phwerau penderfynu annibynnol ac nad yw eu horiau gwaith yn cael eu mesur na’u penderfynu o flaen llaw neu sy'n cael pennu eu horiau gwaith eu hunain'. Mae clerigion yn perthyn i'r categori hwn, a chyfrifoldeb y Clerig yw sicrhau ei fod yn rheoli ei oriau gwaith mewn ffordd iach.
Dylai Clerig sicrhau cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith, fel y bo’r wythnos waith arferol yn cynnwys un diwrnod rhydd rheolaidd dynodedig o bedair awr ar hugain. Unwaith y mis, dylid cymryd diwrnod gorffwys ychwanegol fel bod cyfnod di-dor o 48 awr.
Dylai Clerig drefnu ei ddiwrnod gwaith gan sicrhau bod cyfnod rhesymol o amser ar gyfer gorffwys a hamdden.
Gwyliau
Mae'r hawl i wyliau blynyddol yn chwe wythnos i gynnwys chwe dydd Sul y flwyddyn ynghyd â'r Gwyliau Banc hynny nad ydynt yn disgyn ar Ddydd Nadolig a Gwener y Groglith. Rhaid cymryd un o'r wythnosau hyn o fewn cyfnod o chwe wythnos ar ôl Dydd Nadolig a rhaid cymryd un o'r wythnosau hyn o fewn cyfnod o chwe wythnos ar ôl Sul y Pasg.
Cyn belled ag y bo modd, dylai'r Clerig drefnu dirprwy ar gyfer cyfnodau gwyliau ar gyfer y gwasanaethau arferol. Os nad yw hyn yn bosibl oherwydd bod llawer o glerigion ar wyliau (megis ar ôl y Nadolig a'r Pasg), rhaid i'r Clerig drafod â'i gydweithwyr i sicrhau bod o leiaf un gwasanaeth o'r Cymun Bendigaid yn ei Ardal Cenhadaeth/Gweinidogaeth bob Sul. Mewn achos o anhawster, dylid gofyn am gyngor y Deon Ardal a/neu'r Archddiacon.
Ni ellir cymryd gwyliau blynyddol adeg prif wyliau Dydd Nadolig, Gwener y Groglith neu Sul y Pasg. Dan amgylchiadau eithriadol, dylid trafod a chytuno ar unrhyw gynlluniau gyda'r esgob. Dylid rhoi gwybod i’r Deon Ardal neu swyddog cyfatebol am bob gwyliau.
Mae'r flwyddyn wyliau flynyddol yn mynd o 1 Ionawr i 31 Rhagfyr. Bydd gan glerig a benodir yn ystod y flwyddyn hawl i gyfran gronedig o'r flwyddyn wyliau. Ni ellir cario gwyliau nas defnyddiwyd ymlaen i'r flwyddyn wyliau nesaf heb gael cytundeb ymlaen llaw gan yr Archddiacon.
Nid yw hawl gwyliau blynyddol Clerig anghyflogedig yn llai na chwe Sul y flwyddyn ynghyd â gwyliau banc fel yr uchod a chyfnodau eraill y cytunir arnynt ym mhob achos unigol gan ystyried rhwymedigaethau unrhyw gyflogaeth neu benodiad cyflogedig y mae'r Clerig yn gysylltiedig â hwy ac anghenion y swydd glerigol a gyflawnir.
Absenoldeb Sabothol
Gall Esgob yr Esgobaeth ganiatáu absenoldeb sabothol i’r clerig yn unol â Chynllun Mainc yr Esgobion ar Absenoldeb Sabothol.
Hyfforddiant ac Enciliad
Rhaid i Glerig fod yn ymwybodol o’r materion diweddaraf sy’n effeithio ar y weinidogaeth a chymryd rhan mewn Datblygiad Gweinidogaethol Parhaus a chyrsiau hyfforddi a mynychu Ysgolion i Glerigion a Chyfarfodydd Cabidylau, cyn belled â’u bod, yn achos Clerigion digyflog, yn cael eu cynnal ar adegau sy’n addas i ddyletswyddau unrhyw waith cyflogedig neu benodiad y Clerig hwnnw.
Gofynnir i Glerig adolygu a diweddaru ei weinidogaeth (er enghraifft trwy enciliadau a chynadleddau). Anogir Clerig i dreulio hyd at bum niwrnod ar encil blynyddol (dydd Llun i ddydd Gwener). Dylid cael caniatâd Esgob yr Esgobaeth yn gyntaf cyn cael cyfnod absenoldeb o fwy na phum niwrnod. Dylai’r Clerig drefnu cymorth cyflenwi ar gyfer yr ystod arferol o wasanaethau yn ystod absenoldebau o’r fath.
Darpariaethau Absenoldeb Arbennig
Ceir darpariaeth ar gyfer cyfnod absenoldeb arbennig sy’n adlewyrchu’r ddarpariaeth statudol ar gyfer y canlynol yn unig:
- Absenoldeb a Thâl Mamolaeth
- Absenoldeb a Thâl Rhiant
- Absenoldeb a Thâl Mabwysiad
- Absenoldeb mewn Argyfwng
- Absenoldeb ar sail Dosturiol
- Dyletswyddau Statudol e.e. gwasanaeth rheithgor
Mae’r trefniadau absenoldeb arbennig hyn yn berthnasol i Glerigion digyflog hefyd, ar wahân i’r ddarpariaeth yn ymwneud â thâl.
Treuliau
Y Cyngor Plwyf Eglwysig sy’n gyfrifol am dreuliau Clerig wrth gyflawni dyletswyddau’r plwyf, ac am gynnal adolygiad blynyddol o’r treuliau hyn. Mae manylion y gweithdrefnau i’w mabwysiadu yn ogystal â’r cyfraddau a argymhellir i’w gweld yn “Arweiniad – Treuliau Plwyfol Clerigion”.
O ran Clerig sy’n cyflawni gweinidogaeth ddeublyg (h.y. â chyfrifoldeb sector/esgobaethol/taleithiol yn ogystal â phlwyfol, neu sy’n gyfrifol am fwy nag un plwyf) dylai’r esgobaeth/y dalaith fod yn gwbl glir ynghylch treuliau’r swydd.
Iechyd a Diogelwch
Dylai Clerig gydweithio â Chorff y Cynrychiolwyr a’r Esgobaeth o safbwynt unrhyw ddyletswydd neu ofyniad cyfreithiol ynghylch unrhyw ddarpariaeth iechyd a diogelwch statudol.
Salwch
Dylai Clerig sy’n sâl ac sy’n methu cyflawni dyletswyddau arferol oherwydd gwaeledd, ddilyn y gweithdrefnau hysbysu a nodir yn y ddogfen “Salwch ac Analluogrwydd Clerigion”.
Taliadau Salwch
Nodir polisi’r Eglwys yng Nghymru ar dalu cyflog yn ystod cyfnodau absenoldeb oherwydd salwch yn y ddogfen “Salwch ac Analluogrwydd Clerigion” y cyfeirir ati uchod. Nid yw’r ddarpariaeth hon yn berthnasol i Glerig nad yw’n derbyn cyflog.
Disgyblaeth
Cyfeirir at y safonau a ddisgwylir gan Glerig yn y Datganiad hwn, y Canllawiau Gweinidogaethol Proffesiynol a Chyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru.
Bydd Clerig sy’n ymddwyn yn groes i’r safonau yn destun ymchwiliad a Pholisi a Gweithdrefnau Disgyblu’r Eglwys yng Nghymru (atodedig). Gall gweithredoedd neu esgeulustod difrifol arwain at symud clerig o’i swydd a’i ddiswyddo o’i Urddau Sanctaidd.
Cwynion
Mae gan Glerig yr hawl i gwyno yn unol â’r Weithdrefn Gwyno atodedig, os yw’n credu ei fod wedi’i drin yn annheg.
Bwlio a Harasiaeth
Nid yw’r Eglwys yng Nghymru yn goddef bwlio neu harasiaeth o unrhyw fath. Mae gennym Bolisi ar Fwlio a Harasiaeth a Gweithdrefn Gwyno.
Adolygu Datblygiad Gweinidogaethol
Rhaid i Glerig fynychu cyfarfod adolygu gyda’r Esgob neu gynrychiolydd yr Esgob wedi chwe mis yn y swydd. Wedyn, rhaid i’r Clerig gymryd rhan mewn Cynllun Esgobaethol ar gyfer Adolygu Datblygiad Gweinidogaethol. Ceir copi o’r cynllun hwn gan yr Esgob.
Gofynion Medrusrwydd
Os gwelir bod angen i Glerig feddu ar sgil penodol, mynychu cwrs hyfforddi neu ailhyfforddi mewn maes arbennig o’r Weinidogaeth, rhad i’r Clerig fodloni’r gofynion hynny o fewn amser rhesymol y cytunwyd arno gyda’r Esgob. Dylid darparu’r cyfryw adnoddau sy’n briodol yn nhyb yr Esgob, fel y gall y Clerig gydymffurfio â’r gofynion hyn. Ystyrir methiant i gydymffurfio â hyn yn fater disgyblu.
Swydd neu Benodiad arall
Ni ddylai Clerig cyflogedig dderbyn unrhyw swydd neu benodiad arall – gwirfoddol ai peidio – heb ganiatâd yr Esgob.
Rhaid i glerig digyflog roi digon o rybudd ymlaen llaw i’r Esgob ynglŷn â’i fwriad i dderbyn swydd neu benodiad arall, gwirfoddol ai peidio. Dylai’r Esgob benderfynu a yw’r swydd neu’r penodiad arfaethedig, yn gydnaws â dyletswyddau’r Clerig.
Darpariaethau Rhybudd
Rhaid i Glerig sy’n bwriadu ymddiswyddo neu ymddeol o’i waith roi tri mis o rybudd i’r Esgob, oni chytunwyd ar gyfnod llai o rybudd.
Mae hawl gan Glerig i dderbyn chwe mis o rybudd os yw’r Esgob yn bwriadu aildrefnu cyfrifoldebau’r plwyf.
Os penderfynwyd cyflwyno cosb ddisgyblu o Wahardd, Atal, Diarddel neu Ddiswyddo, yna bydd y ddaliadaeth swydd yn dod i ben heb rybudd.
Aelodaeth Undeb Llafur
Mae hawl gan Glerig i ymuno ag undeb llafur.
Hysbysiad o Newid
Mae’r Telerau Gwasanaeth a amlinellir yn y Datganiad hwn yn cael eu hadolygu o bryd i’w gilydd er mwyn diwygio, amrywio, dileu ac ychwanegu fel bo’r angen.
Gwneir hysbysiadau o unrhyw newidiadau a gymeradwywyd gan y Corff Llywodraethol trwy lythyr neu drwy gyflwyno dogfen arall (e.e. diwygio Cyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru).
Cyflwynir Datganiad newydd pan fydd Clerig yn symud i swydd/benodiad newydd yn unig.
Cydnabod Derbyn
Trwy lofnodi a dychwelyd y Datganiad hwn, mae’r Clerig yn cydnabod ei fod wedi’i dderbyn ac yn deall y darpariaethau sydd ynddo.