Cydbwysedd Gwaith/Bywyd ac Oriau Gwaith
Disgwylir i glerigion drefnu eu hwythnos weinidogol i fodloni gofynion anghenion penodol y cymunedau y maent yn eu gwasanaethu. Cydnabyddir hefyd fod yn rhaid i glerigion gael digon o amser i ffwrdd er mwyn sicrhau cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith.
Ymateb i alwad Duw y mae clerigion ac mae hyn wrth wraidd eu bodolaeth a byddant am ymateb gyda'u holl galon i'r alwedigaeth hon. Gan fod bod yn ddiacon, offeiriad neu esgob yn ymwneud â "bodolaeth" a hunaniaeth, yn ogystal â swyddogaeth, mae'n amhosibl diffinio gweinidogaeth fel y bydd rhywun yn diffinio gwaith. Serch hynny, rhaid trefnu gweinidogaeth clerig yng nghyd-destun cyfarwyddebau ac arferion gwaith bywyd bob dydd.
Nid yw terfynau uchaf y Gyfarwyddeb Oriau Gwaith yn berthnasol "i eraill sydd â phwerau gwneud penderfyniadau annibynnol nad yw eu horiau gwaith yn cael eu mesur na'u pennu ymlaen llaw neu sy'n gallu pennu eu horiau gwaith eu hunain”. Mae clerigion yn perthyn i'r categori hwn.
Mae'n bwysig bod clerigion yn cymryd cyfrifoldeb am drefnu'r wythnos weinidogol er mwyn sicrhau cydbwysedd iach rhwng bywyd a gwaith. Felly, anogir clerigion, wrth drefnu'r wythnos waith, i edrych ar yr arferion gorau a fabwysiadwyd gan weithwyr proffesiynol eraill. Dylai clerigion sicrhau digon o amser i ffwrdd a bod yn rhaid i'r wythnos weinidogol arferol gynnwys un diwrnod pendant yn rhydd am bedair awr ar hugain.
Wrth drefnu'r wythnos weinidogol, dylai clerigion gofio bod angen i weinidogaeth fod yn amser cynhyrchiol. Dylid cofio bod yna dystiolaeth o gynnydd mewn peryglon i iechyd a diogelwch a lleihad mewn cynhyrchiant yn sgil gweithio oriau rhy hir.
Fel rheol gyffredinol, dylid rhannu'r diwrnod gwaith yn dair sesiwn sef bore, prynhawn a nos a dylai clerigion fod ar gael i ymgymryd â dyletswyddau ar gyfer 2 allan o 3 sesiwn bob diwrnod gwaith. Felly, os yw clerig wedi cynnal gwasanaeth angladd yn y bore a bod y CPE yn cyfarfod gyda'r nos, dylai’r clerig weithio bore a nos h.y. dwy sesiwn yn ystod y diwrnod gwaith.