Pennod I: Cyffredinol a diffinio a dehongli
Rhan I: Cyffredinol
1.
- Traethir Cyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru, a ysgrifennwyd yn Gymraeg ac yn Saesneg, yn y Bennod hon a’r Penodau sy’n dilyn; ac
(a) ym mhob Pennod ychwanegol a phob gwelliant a wneir i unrhyw Bennod gan y y Corff Llywodraethol;
(b) yn holl ganonau’r Eglwys yng Nghymru; ac
(c) ym mhob rheol a phob rheoliad a wneir o bryd i’w gilydd gan y Corff Llywodraethol neu dan ei awdurdod neu gyda’i gydsyniad, ac a ardystir fel y cyfryw gan y Corff Llywodraethol. - Bydd i fersiynau Cymraeg a Saesneg y Cyfansoddiad ddilysrwydd cyfartal.
- I ddiben dehongli ac er datrys amwysedd, y Saesneg fydd y testun diffiniol.
2.
Bydd y Cyfansoddiad yn rhwymo pob Aelod o’r Eglwys yng Nghymru a ddiffinnir yn Rhan II y Bennod hon.
3.
Cyhoeddir y Cyfansoddiad (ac eithrio canonau i newid naill ai’r Llyfr Gweddi Gyffredin neu unrhyw bennod o’r Cyfansoddiad) ar wefan yr Eglwys yng Nghymru dan gyfarwyddyd y Pwyllgor Sefydlog.
4.
Bydd copi o unrhyw ran o’r Cyfansoddiad yr ardystiwyd gan ysgrifenyddion y Corff Llywodraethol ei fod yn gopi cywir o’r rhan honno o’r Cyfansoddiad yn dystiolaeth olwg gyntaf o’r rhan honno o’r Cyfansoddiad ac fe’i derbynnir fel y cyfryw yn dystiolaeth yn holl lysoedd a Thribiwnlys yr Eglwys yng Nghymru.
5.
Bydd y gyfraith eglwysig, fel yr oedd yn Lloegr ar 30 Mawrth 1920, ac eithrio:
(a) Deddf Ordeinio Clerigion, 1804;
(b) Deddf Disgyblaeth yr Eglwys, 1840;
(c) Deddf y Comisiynwyr Eglwysig, 1840;
(d) Deddf Tanysgrifiad Clerigion, 1865;
(e) Deddf Anallu Clerigion, 1870;
(f) Deddf Clerigion y Trefedigaethau, 1874;
(g) Deddf Rheoli Addoliad Cyhoeddus, 1874;
(h) Deddf Gwerthu Clastiroedd, 1888;
(i) Deddf Disgyblu Clerigion, 1892;
(j) Deddf Bywoliaethau, 1898;
(k) Y Deddfau Cyd-ddal Bywoliaethau;
(l) Y Deddfau Ymddiswyddiad Periglorion;
yn rhwymo Aelodau (gan gynnwys unrhyw gorff o Aelodau) yr Eglwys yng Nghymru, ac fe’i cymhwysir i ddatrys unrhyw gwestiwn neu anghydfod rhyngddynt fel Aelodau o’r fath, cyn belled ag nad yw’n gwrthdaro â dim a gynhwysir yn y Cyfansoddiad nac ag unrhyw gytundeb arbennig ynglŷn â chlastir rhwng Corff y Cynrychiolwyr a Pheriglor, ar yr amod na rwymir Llysoedd yr Eglwys yng Nghymru gan unrhyw benderfyniad gan Lysoedd Lloegr ar faterion yn ymwneud â ffydd, disgyblaeth na seremoni.
6.
- Oni chyfarwyddir yn wahanol yn y Cyfansoddiad, gellir anfon neu roi yn y post unrhyw wŷs y gorchmynnwyd ei hanfon neu ei rhoi. Bydd prawf postio yn dystiolaeth olwg gyntaf bod y cyfryw wŷs wedi ei hanfon neu ei rhoi.
- Pryd bynnag y bo’r Cyfansoddiad yn gofyn postio dogfen trwy ddanfoniad cofnodedig neu lythyr trwy ddanfoniad cofnodedig, bydd yn ddigon rhoi’r cyfryw ddogfen neu lythyr yn bersonol yn llaw’r derbynnydd a chael derbynneb ganddo amdani neu amdano.
Part II: Diffinio a Dehongli
7.
Yn y Cyfansoddiad hwn, gan gynnwys y Rheoliadau, ac eithrio pan ddarperir yn wahanol, bydd i’r geiriau a’r cymalau a ganlyn yr ystyron a ganlyn:
- “Aelod o’r Eglwys yng Nghymru”
(a) unrhyw un sy’n dal swydd yn yr Eglwys yng Nghymru;
(b) unrhyw glerig neu ddiacones sy’n derbyn pensiwn oddi wrth Gorff y Cynrychiolwyr;
(c) unrhyw un y mae ei enw ar rôl etholwyr plwyf; ac
(d) unrhyw Aelod o’r Corff Llywodraethol, Corff y Cynrychiolwyr ac unrhyw un o’u pwyllgorau. - “Archddiacon” Archddiacon archddiaconiaeth ac, mewn perthynas â phlwyf, archddiacon yr archddiaconiaeth y mae’r plwyf ynddi.
- “Archesgob” Archesgob Cymru ar y pryd.
- “Ardal Weinidogaeth/Ardal Genhadaeth” sef plwyf neu grŵp o blwyfi a ffurfiwyd er cyhoeddi’r Efengyl yn effeithiol mewn ardal benodol gyda gweinyddiaeth gyffredin fel y’i diffinnir gan unrhyw Orchymyn Esgobaethol.
- “Bwrdd Cyllid yr Esgobaeth” Bwrdd Cyllid Esgobaethol a benodwyd gan Gynhadledd Esgobaethol yn unol â Phennod IV A adran 24.
- “Bwrdd Enwebu’r Dalaith” y Bwrdd Enwebu a gyfansoddwyd yn unol â Rheoliad 8 Rheoliadau’r Corff Llywodraethol ar Benodi ac Enwebu.
- “Bwrdd Enwebu’r Esgobaeth" Bwrdd Enwebu a gyfansoddwyd yn unol â Rheoliad 1 Rheoliadau’r Corff Llywodraethol ar Benodi ac Enwebu.
- “Bywoliaeth” Plwyf neu grŵp o blwyfi y gellir sefydlu clerig yn beriglor iddo.
- “Bywoliaeth Reithorol” Bywoliaeth a sefydlwyd yn unol â Phennod IV D adrannau 3(j) a 4(3).
- “Canghellor” (ac eithrio yn achos Cynllun Cadeirlan) canghellor esgobaeth a benodwyd gan yr esgob yn unol â Phennod IX adran 28.
- “Clerig” clerc mewn Urddau Eglwysig.
- “Cofrestrydd yr Esgobaeth” Cofrestrydd esgobaeth a benodwyd gan esgob esgobaeth yn unol â Phennod IX adran 31.
- “Corff Llywodraethol” Corff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru a gyfansoddwyd fel y darperir ym Mhennod II.
- “Cyfansoddiad” Cyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru, fel y diffinnir ef yn adran 1.
- “Cyfarfod” (oni bai ei fod yn golygu “cyfarfod corfforol”) Unrhyw un o’r canlynol:
(a) cyfarfod corfforol;
(b) fideogynhadledd, cyfleuster fideo rhyngrwyd neu ddull electronig tebyg sy’n galluogi cyfranogiad gweledol a sain yr un pryd;
(c) ffôngynhadledd neu ddull electronig tebyg sy’n galluogi cyfranogiad sain yr un pryd;
(d) cyfuniad o’r uchod cyn belled â bod pob mynychwr yn gallu siarad â phob mynychwr arall a bod y mynychwyr eraill yn gallu ei glywed. - “Cyfarfod ar-lein” Cyfarfod gwahanol i gyfarfod corfforol a bydd lleoliad cyfarfod ar-lein yn cael ei benderfynu ar sail y lleoliad corfforol lle mae’r nifer uchaf o aelodau yn bresennol (os oes llai na 5 o aelodau’n bresennol yn yr un lleoliad corfforol):
(a) swyddfa gofrestredig Corff y Cynrychiolwyr yn achos unrhyw gyfarfod arlein a lywodraethir gan Bennod II neu Bennod III;
(b) swyddfa gofrestredig y Bwrdd Cyllid Esgobaeth perthnasol yn achos unrhyw gyfarfod ar-lein a lywodraethir gan Bennod IV A, Pennod IV B neu Bennod VI;
(c) cyfeiriad Cadeirydd y cyfarfod yn achos unrhyw gyfarfod arall a lywodraethir gan y Cyfansoddiad hwn. - “Cyfarfod corfforol” Cyfarfod lle mae’r holl fynychwyr yn yr un lleoliad corfforol.
- “Corff y Cynrychiolwyr” y corff a ymgorfforwyd trwy Siarter Brenhinol ar 24 Ebrill 1919 (fel y diwygiwyd ef) ac y cyfeirir ato yn Neddf Eglwys Cymru 1914 a Phennod III.
- “Cyfarfod Cynulleidfaol” cyfarfod a gynhaliwyd yn unol â Rheoliad 6 Rhan II Rheoliadau’r Eglwys yng Nghymru ar Weinyddiaeth Plwyf.
- “Cymunwr conffyrmiedig” sef rhywun a dderbyniodd ddefnod sacramentaidd conffyrmasiwn.
- “Cyngor Plwyf Eglwysig” y corff a gyfansoddwyd fel y darperir ym Mhennod IVC.
- “Cymru” Talaith yr Eglwys yng Nghymru.
- “Cymunwr” un a dderbyniodd y Cymun Bendigaid yn gyfreithlon yn yr Eglwys yng Nghymru neu mewn Eglwys sydd mewn cymundeb â hi ac y mae ganddo hawl i dderbyn y Cymun Bendigaid yn yr Eglwys yng Nghymru.
- “Cynhadledd yr Esgobaeth” Cynhadledd esgobaethol esgobaeth a gyfansoddwyd fel y darperir ym Mhennod IV A.
- “Deoniaeth” ardal mewn archddiaconiaeth sydd dan arolygiaeth gyffredinol deon bro.
- “Esgob Cadeiriol” ac Esgobaeth” Esgob esgobaeth yn yr Eglwys yng Nghymru
- “Esgob Cynorthwyol” Esgob a benodwyd i gynorthwyo’r archesgob neu esgob esgobaeth yn unol â Phennod V adran 15.
- “Etholwr Cymwys” un y mae ei enw ar rôl etholwyr plwyf yng Nghymru.
- “Gweithiwr Lleyg" person lleyg sy’n gweithredu yn unol â thrwydded gan esgob esgobaeth neu gyda’i ganiatâd.
- “Mainc yr Esgobion” Yr archesgob ac esgobion yr esgobaethau eraill.
- “Panel Diogelu’r Dalaith” y panel a benodir gan y Pwyllgor Sefydlog i adolygu a chynghori ar waith achos sy’n ymwneud â diogelu plant ac oedolion sydd mewn perygl o fewn yr Eglwys yng Nghymru
- “Periglor” clerig a sefydlwyd neu a goladwyd i ofal eneidiau bywoliaeth.
- “Plwyf” unrhyw un o’r mannau eglwysig a ganlyn yng Nghymru:
(a) unrhyw blwyf, hynafol neu newydd;
(b) ywoliaeth reithorol;
(c) pob plwyf mewn grŵp o blwyfi;
(d) plwyf unedig;
(e) plwyf y cyfunwyd ag ef blwyf arall (neu ran neu rannau o blwyf neu gyn-blwyf). - “Plwyfi wedi eu Grwpio” dau neu fwy o blwyfi sy’n dal yn unedau ar wahân dan un periglor yn unol â Phennod IV D.
- “Pwyllgor Sefydlog” Pwyllgor Sefydlog y Corff Llywodraethol.
- “Tribiwnlys” Tribiwnlys Disgyblaethol yr Eglwys yng Nghymru a sefydlwyd yn unol â Phennod IX Rhan III.
8.
Golyga pob cyfeiriad yn y Cyfansoddiad:
(a) at Bennod, y Bennod honno yn y Cyfansoddiad;
(b) at rif adran neu is-adran neu at Ran mewn Pennod, rif yr adran neu’r is-adran neu’r Rhan honno o’r Bennod honno; ac
(c) at rif Rheoliad neu baragraff, rif y Rheoliad neu’r paragraff hwnnw o’r Rheoliad.
9.
At dibenion Deddf Priodasau 1949 (ac unrhyw ddeddfwriaeth ddilynol neu a ddawyn ei lle at ddibenion gweinyddu priodasau), mae Clerc yn Urddau Sanctaidd yr Eglwys yng Nghymru yn golygu unigolyn mewn urddau diaconiaid, offeiriaid neuesgobion sydd â'r canlynol:
(a) swydd eglwysig yn yr Eglwys yng Nghymru; neu
(b) trwydded eglwysig a roddwyd gan Esgob Esgobaeth; neu
(c) caniatâd i weinyddu a roddwyd gan Esgob Esgobaeth.