Pennod II: Rheoliadau yn Ywmneud â’r Corff Llywodraethol
Rheoliadau yn ymwneud â’r Corff Llywodraethol
Yn unol â’i alluoedd o dan Bennod II y Cyfansoddiad, y mae’r Corff Llywodraethol trwy hynyma yn gwneud y rheoliadau a ganlyn o dan y teitl “Rheoliadau yn ymwneud â’r Corff Llywodraethol” a draethir fel a ganlyn:
Rhan I: Aelodaeth y Corff Llywodraethol
Rhan II: Hyd Aelodaeth
Rhan III: Cyfarfodydd
Rhan IV: Darpariaethau yn dilyn Ethol yr Archesgob
Rhan V: Pwyllgor Sefydlog y Corff Llywodraethol
Rhan VI: Pwyllgorau eraill y Corff Llywodraethol
Rhan I: Aelodaeth y Corff Llywodraethol
1.
Y Deoniaid
1.1 Etholir y tri Deon y cyfeirir atynt ym Mhennod II adran 3(b) gan Ddeoniaid Eglwys Gadeiriol pob Esgobaeth yn yr Eglwys yng Nghymru yn unol â’r weithdrefn a ganlyn:
1.1.1 heb fod yn ddiweddarach na phymtheg mis cyn cychwyn y cyfnod o dair blynedd y mae’r etholiad yn berthnasol iddo, bydd Ysgrifenyddion y Corff Llywodraethol yn hysbysu’r Deon a fu hwyaf yn ei swydd o blith Deoniaid Eglwysi Cadeiriol pob Esgobaeth yn yr Eglwys yng Nghymru fod etholiad i’w gynnal ac o’r nifer i’w hethol;
1.1.2 cynhelir yr etholiad hwn heb fod yn ddiweddarach na 31 Ionawr yn y flwyddyn cyn y cyfnod o dair blynedd y mae’n berthnasol iddo a bydd y Deon a fu hwyaf yn ei swydd, ar ôl ymgynghori â’r Deoniaid i gyd, yn trefnu’r etholiad ac yn penderfynu ym mha fodd i’w gynnal;
1.1.3 bydd y Deon a fu hwyaf yn ei swydd yn hysbysu Ysgrifenyddion y Corff Llywodraethol o ganlyniad yr etholiad o fewn 28 diwrnod i ddyddiad ei gynnal;
1.1.4 os methir cynnal yr etholiad hwn neu hysbysu Ysgrifenyddion y Corff Llywodraethol o’r canlyniad, bydd y Llywydd yn enwebu’r tri Deon y cyfeirir atynt ym Mhennod II adran 3(b); ac
1.1.5 ni fydd methiant ar ran y Deoniaid i ethol tri o’u plith yn aelodau nac i hysbysu Ysgrifenyddion y Corff Llywodraethol o ganlyniad etholiad o’r fath, na methiant ar ran y Llywydd i ddefnyddio ei allu i enwebu, yn rhwystro’r Corff Llywodraethol rhag mynd ymlaen â’i waith nac yn annilysu ei drafodion.
1.2 Bydd y Deoniaid a etholir yn dal y swydd am gyfnod o dair blynedd a byddant yn gymwys i’w hailethol.
2.
Archddiaconiaid
2.1 Bydd yr Archddiaconiaid a enwebir gan Esgobion eu hesgobaethau yn unol â Phennod II adran 3(c) yn dal y swydd am gyfnod o dair blynedd a byddant yn gymwys i’w henwebu am gyfnodau pellach.
2.2 Ni fydd methiant ar ran Esgob esgobaeth i enwebu Archddiacon yn unol â Phennod II adran 3(c) yn rhwystro’r Corff Llywodraethol rhag mynd ymlaen â’i waith nac yn annilysu ei drafodion.
3.
Aelodau yn rhinwedd swydd
Onid ydynt eisoes yn aelodau yn rhinwedd swydd o’r Corff Llywodraethol o dan ryw ddarpariaeth arall yn y Cyfansoddiad, bydd Cadeirydd a Dirprwy Gadeirydd Corff y Cynrychiolwyr yn aelodau yn rhinwedd swydd o’r Corff Llywodraethol.
4.
Aelodau cyfetholedig
4.1 Bydd aelodau'r Corff Llywodraethol yn cyfethol fel aelodau (drwy etholiad):
4.1.1 Tri Chlerig a oedd (adeg eu cyfethol) naill ai:
(a) wedi bod mewn Urddau Sanctaidd am lai na phedair blynedd; neu
(b) yn gweinidogaethu trwy drwydded gan Esgob ond heb fod yn derbyn tâl gan yr
Eglwys yng Nghymru; a
4.1.2 chwech o leygion o dan ddeg ar hugain oed adeg eu cyfethol.
4.2 Caiff y Pwyllgor Sefydlog benodi'n aelodau o'r Corff Llywodraethol:
4.2.1 hyd at dri Chlerig; a
4.2.2 hyd at chwech o leygion.
4.3 Bydd unrhyw le gwag achlysurol yn sgil ymddiswyddiad, diarddel, anghymwyso neu
farwolaeth aelod a etholwyd yn unol â rheoliad 4.1 yn cael ei lenwi trwy isetholiad.
4.4 Bydd unrhyw le gwag achlysurol yn sgil ymddiswyddiad, diarddel, anghymwyso neu
farwolaeth aelod a etholwyd yn unol â rheoliad 4.2 yn cael ei lenwi gan y Pwyllgor Sefydlog.
4.5 Cyfeirir at aelodau a etholwyd neu a benodwyd yn unol â'r rheoliad hwn fel aelodau
cyfetholedig.
4.6 Bydd Clerig a gyfetholwyd o dan y rheoliad 4 hwn ddim ond yn parhau i fod yn aelod o'r
Corff Llywodraethol tra bo'r cyfryw Glerig yn parhau i fod yn Glerig yn yr Eglwys yng Nghymru.
5.
Aelodau etholedig
5.1 Ar gyfer ethol aelodau clerigol a lleyg, gall Cynhadledd pob Esgobaeth:
5.1.1 ethol aelod o’r esgobaeth yn ei chyfanrwydd; neu
5.1.2 ffurfio rhanbarthau etholiadol yn cynnwys archddiaconiaethau, deoniaethau bro neu blwyfi a dosrannu’r nifer o gynrychiolwyr sydd i’w hethol o bob rhanbarth.
5.2 Bydd Cynhadledd pob Esgobaeth yn llunio rhestrau atodol o Glerigion a lleygion i lenwi unrhyw leoedd gwag achlysurol yn ôl y drefn y gosododd y Gynhadledd hwy ar y rhestrau.
5.3 Cynhelir pob etholiad a gwneir pob rhestr mewn pryd i’r aelodau a etholwyd gymryd eu swydd yn union wedi i dymor swydd yr aelodau sy’n ymddeol ddod i ben, a rhaid i’r Corff Llywodraethol ddarparu yn gymwys ar gyfer hynny.
5.4 Os digwydd i aelod etholedig farw, neu gael ei ddiswyddo neu fynd yn anghymwys, llenwir ei le o’r rhestr atodol briodol o aelodau’r esgobaeth y bu’n eistedd drosti.
6.
Os bydd unrhyw newid yng nghynrychiolaeth esgobaeth ar y Corff Llywodraethol, bydd Esgob yr esgobaeth honno yn hysbysu hynny i Ysgrifenyddion y Corff Llywodraethol.
7.
Ni fydd methiant ar ran unrhyw esgobaeth i ethol neu ddychwelyd aelodau, clerigol na lleyg, nac i lunio neu anfon rhestrau atodol, na methiant ar ran y Corff Llywodraethol i arfer ei allu i gyfethol yn rhwystro’r Corff Llywodraethol rhag mynd ymlaen â’i waith nac yn annilysu ei drafodion.
Rhan II: Hyd Aelodaeth
8.
Bydd unrhyw aelod o’r Corff Llywodraethol sy’n ymuno â chorff crefyddol nad yw mewn cymundeb â’r Eglwys yng Nghymru ac unrhyw aelod yn rhinwedd swydd o’r Corff Llywodraethol sy’n peidio â dal y swydd yr oedd yn aelod o’i herwydd yn peidio o hynny ymlaen â bod yn aelod o’r Corff Llywodraethol.
9.
9.1 Bydd aelodaeth aelod etholedig neu gyfetholedig o’r Corff Llywodraethol sy’n berson lleyg yn dod i ben ar ei ben-blwydd yn bymtheg a thrigain oed, a bydd aelodaeth aelod etholedig neu gyfetholedig o’r Corff Llywodraethol sy’n Glerig yn dod i ben pan fo’n ymddeol neu pan fo’n cyrraedd ei b/phen-blwydd yn ddeg a thrigain oed, pa un bynnag a ddaw gyntaf, ond os digwydd ymddeoliad neu ben-blwydd o’r fath yn ystod cyfarfod o’r Corff Llywodraethol neu unrhyw un o’i bwyllgorau bydd yr aelodaeth yn parhau hyd ddiwedd y cyfarfod. At bwrpas y rheoliad hwn, ystyrir bod cyfarfod a ohiriwyd hyd ddyddiad pellach na thrannoeth yn gyfarfod a ddaeth i ben.
9.2 Pan fo gofyn i rywun, er mwyn dal swydd, fod yn “gymwys i fod yn aelod o’r Corff Llywodraethol”, ni fydd y ffaith bod y cyfryw un dros bymtheg a thrigain mlwydd oed os yw’n berson lleyg neu dros ddeg a thrigain oed os yw’n Glerig yn ei atal rhag dal y swydd honno.
9.3 Ni chymhwysir paragraph 9.1 at aelodau yn rhinwedd swydd.
10.
10.1 Ni fydd aelod clerigol o’r Corff Llywodraethol, a etholwyd dros yr esgobaeth yr oedd yn gwasanaethu ynddi ar y pryd, yn dal yn aelod ond tra bydd yn gwasanaethu yn yr esgobaeth honno neu’n preswylio ynddi.
10.2 Ni fydd aelod lleyg o’r Corff Llywodraethol, a etholwyd dros yr esgobaeth yr oedd yn preswylio ynddi ar y pryd, yn dal yn aelod ond tra bydd yn preswylio yn yr esgobaeth honno, ac eithrio na chymhwysir y paragraff hwn at un sy’n dal swydd yn yr esgobaeth neu y mae ei enw ar rôl etholwyr un o’i phlwyfi.
11.
Yn unol â Rheoliadau 4, 9.1 a 10, bydd pawb a etholwyd neu a gyfetholwyd yn aelod o’r Corff Llywodraethol yn dal y swydd am gyfnod o dair blynedd.
12.
Yn unol â gofynion Rheoliadau 4, 9.1 a 10, yn ôl fel y digwydd, bydd person a benodir i lenwi lle gwag achlysurol ymhlith yr aelodau etholedig neu gyfetholedig yn dal y swydd, ni waeth beth fo darpariaethau’r rheoliadau hynny hyd at y dyddiad pan oedd yr aelod y mae’r person hwnnw yn cymryd ei le i fod i ymddeol.
13.
Ar 3l Rhagfyr bob blwyddyn bydd traean yr aelodau a etholwyd gan bob esgobaeth a thraean yr aelodau cyfetholedig yn ymddeol, ac yn eu lle etholir gan bob esgobaeth a chyfetholir gan y Corff Llywodraethol yr un nifer o aelodau, ar yr amod bob amser yr etholir Clerig i olynu Clerig a pherson lleyg i olynu person lleyg.
14.
Gall unrhyw aelod etholedig, trwy hysbysu mewn ysgrifen Esgob yr esgobaeth yr etholwyd ef drosti, ymddiswyddo o’i sedd ar y Corff Llywodraethol, a phan dderbynia’r Esgob ymddiswyddiad o’r fath daw sedd yr aelod hwnnw yn wag ac fe’i llenwir o restr atodol briodol yr esgobaeth honno.
15.
Gall unrhyw aelod cyfetholedig, trwy anfon hysbysiad mewn ysgrifen wedi ei gyfeirio at Ysgrifenyddion y Corff Llywodraethol, ymddiswyddo o’i sedd ar y Corff Llywodraethol.
Rhan III: Cyfarfodydd
16.
Cynullir holl gyfarfodydd y Corff Llywodraethol yn enw’r Llywydd a thrwy ei awdurdod, a bydd ef yn cyflwyno’i orchymyn i Ysgrifenyddion y Corff Llywodraethol i alw’r Corff Llywodraethol trwy wŷs ar gyfer yr amser ac i’r lle a bennir gan y Corff Llywodraethol, gan ei Bwyllgor Sefydlog neu gan y Llywydd, yn ôl fel y digwydd.
17.
Yn ddarostyngedig i unrhyw ofynion penodol yn y Cyfansoddiad, Cadeirydd y Corff Llywodraethol fydd:
17.1 y Llywydd neu, yn ei absenoldeb, yr Esgob Cadeiriol nesaf ei flaenoriaeth sy’n bresennol ac yn fodlon gweithredu; neu
17.2 y sawl a ddewisir gan y Llywydd neu, yn ei absenoldeb, gan yr Esgob Cadeiriol nesaf ei flaenoriaeth sy’n bresennol, o blith nifer o Gadeiryddion a gymeradwywyd gan y Corff Llywodraethol.
18.
Bydd o leiaf un cyfarfod cyffredin o’r Corff Llywodraethol ymhob blwyddyn ar yr amser ac yn y lle a benodir o bryd i’w gilydd i’r diben hwnnw gan y Corff Llywodraethol.
19.
Bydd gan y Pwyllgor Sefydlog y gallu i newid yr adeg a’r lle a bennwyd ar gyfer cyfarfod nesaf y Corff Llywodraethol, ac i osod adeg a lle arall yn eu lle.
20.
[Dilëwyd]
21.
Cyn pen wythnos ar ôl etholiad bydd Ysgrifennydd Cynhadledd pob Esgobaeth yn anfon i Ysgrifenyddion y Corff Llywodraethol enw a chyfeiriad pob aelod a etholwyd ynghyd ag enw a chyfeiriad pawb a osodwyd ar y rhestrau atodol o aelodau.
22.
Os digwydd bod aelod wedi’i ethol dros fwy nag un esgobaeth, bydd Ysgrifenyddion y Corff Llywodraethol yn rhoi rhybudd ysgrifenedig i’r aelod hwnnw yn galw arno i hysbysu mewn ysgrifen cyn pen un diwrnod ar hugain pa esgobaeth y mae’n dewis gwasanaethu drosti. Os digwydd i’r aelod fethu â hysbysu ei ddewis, bydd y Llywydd yn dewis yr esgobaeth y caiff wasanaethu drosti; ac yna llenwir sedd neu seddi yr aelod hwnnw yn unrhyw esgobaeth arall yr etholwyd ef drosti o restr atodol briodol yr esgobaeth honno.
23.
23.1 Saith wythnos cyn cyfarfod cyffredin o’r Corff Llywodraethol bydd yr Ysgrifenyddion yn anfon gwŷs y Llywydd mewn ysgrifen at bob aelod ohono yn gorchymyn iddynt fod yn bresennol ar yr amser ac yn y lle a benodwyd.
23.2 Bydd unrhyw aelod neu aelodau sy’n dymuno cyflwyno cynnig yn y cyfarfod hwnnw, ac eithrio trwy ganiatâd arbennig y Corff Llywodraethol, yn rhoi rhybudd ohono, ynghyd ag enw aelod sydd wedi cytuno i eilio’r cynnig, i’r Ysgrifenyddion o leiaf bum wythnos cyn dechrau’r cyfarfod. Os yw’r cyfryw gynnig yn cael ei gyflwyno yn unol â phenderfyniad Cynhadledd Esgobaethol, gall Ysgrifennydd y Gynhadledd honno roi rhybudd yn unol â gofyniad y paragraff hwn, ynghyd ag enwau’r aelodau sydd wedi cytuno i gyflwyno ac eilio’r cynnig ar ran y Gynhadledd.
23.3 Anfonir agenda cyfarfod cyffredin o’r Corff Llywodraethol at bob aelod ohono bedwar diwrnod ar ddeg cyn dechrau’r cyfarfod hwnnw.
24.
Bydd Ysgrifenyddion y Corff Llywodraethol yn bresennol ym mhob cyfarfod ohono; byddant yn cadw cofnodion o’i weithrediadau, yn derbyn rhybuddion o filiau a gynigir a rhybuddion o gynigion a materion eraill, ac yn paratoi agenda ar gyfer y cyfarfodydd yn ôl cyfarwyddyd y Llywydd.
25.
Bydd y Llywydd, gyda chyngor y Pwyllgor Sefydlog, yn penderfynu ym mha drefn y gosodir ar agenda pob cyfarfod cyffredin y materion y mae’n dymuno eu dwyn gerbron y Corff Llywodraethol a’r materion y derbyniwyd rhybudd amdanynt gan aelodau; a gall benderfynu bod trafod unrhyw fater arbennig o’r fath ar ddiwrnod arbennig o’r eisteddiad.
26.
Yn ddarostyngedig i Bennod II, y Rheoliadau hyn ac unrhyw reolau sefydlog a wneir o bryd i’w gilydd mewn perthynas â:
26.1 rheolir gwaith a threfn pob cyfarfod o’r Corff Llywodraethol gan y Cadeirydd; a
26.2 bydd gan y Cadeirydd y gallu i benodi aseswyr, os barna’n addas.
27.
Deugain fydd corwm y Corff Llywodraethol, ac ymhlith y rheini bydd o leiaf un Esgob Cadeiriol, deuddeg clerig ac un ar bymtheg o aelodau lleyg. Os geilw unrhyw aelod sylw at y ffaith y gall nad oes corwm yn bresennol, bydd y Cadeirydd yn cyfrif y Corff Llywodraethol ac os bodlonir ef nad oes corwm bydd naill ai:
27.1 yn gohirio’r Corff Llywodraethol hyd amser ar yr un diwrnod neu drannoeth fel y barno yn addas; neu
27.2 yn gohirio’r Corff Llywodraethol yn gyffredinol fel y gall y Llywydd benderfynu sut i gynnal y cyfarfod yn y dyfodol.
Os gohirir y Corff Llywodraethol fel y dywedwyd uchod, bydd y Llywydd wedyn yn penderfynu ei fod wedi ei ohirio naill ai hyd ddiwrnod (o leiaf saith wythnos yn ddiweddarach) mewn lle a benodir ganddo ef ac y rhoddir rhybudd ohono i aelodau’r Corff Llywodraethol yn y modd a osodir yn Rheoliad 23, neu heb enwi diwrnod, fel y barno ef yn addas.
28.
Penderfynir pob cwestiwn nad oes a wnelo ond â’r rheolau sefydlog neu weithdrefnau gan fwyafrif o’r Corff Llywodraethol. Cadeirydd y cyfarfod fydd yn penderfynu a yw cwestiwn arbennig yn dod o dan y Rheoliad hwn.
29.
Gall unrhyw aelod godi cwestiwn dan y Rheoliad diwethaf trwy roi i’r Cadeirydd yn ystod y cyfarfod rybudd ysgrifenedig o gynnig.
30.
30.1 Gall y Llywydd, yn ôl ei ddoethineb ei hun, gyflwyno’i orchymyn i Ysgrifennydd y Corff Llywodraethol i alw trwy wŷs gyfarfod arbennig o’r Corff Llywodraethol i unrhyw ddiben a enwir; a bydd yn rhaid iddo wneud hynny pan gaiff gais ysgrifenedig oddi wrth Esgob Esgobaeth, neu gais ysgrifenedig wedi’i arwyddo gan o leiaf draean aelodau clerigol a thraean aelodau lleyg y Corff Llywodraethol.
30.2 Cynhelir cyfarfod arbennig o’r fath ar ddiwrnod heb fod yn gynharach na’r pedwerydd dydd ar ddeg ar ôl cyflwyno’r mandat ac yn y lle a benderfyno’r Llywydd.
30.3 Bydd y wŷs ar gyfer cyfarfod arbennig o’r fath yn enwi’r materion sydd i’w trafod ynddo, ac fe’i hanfonir at yr aelodau o leiaf saith niwrnod cyn y diwrnod a bennwyd ar gyfer ei gynnal.
31.
Ni thrafodir mewn cyfarfod arbennig ddim ond y materion a enwyd yn y rhybudd a’i cynullodd, ond yr un fydd trefn a galluoedd cyfarfod arbennig â threfn a galluoedd cyfarfod cyffredin o’r Corff Llywodraethol.
32.
Ar derfyn gwaith y Corff Llywodraethol, dilysir y trafodion a’r cofnodion gan lofnod y Cadeirydd.
Rhan IV: Darpariaethau yn dilyn Ethol yr Archesgob
33.
33.1 Yn y cyfarfod nesaf o’r Corff Llywodraethol ar ôl ethol a gorseddu’r Archesgob, bydd yr Esgob a fu hwyaf yn ei Esgobaeth, ac sy’n bresennol ac yn barod i weithredu, yn cymryd y gadair ac yn galw ar un o’r Ysgrifenyddion i ddangos a darllen y ddogfen sy’n hysbysu ethol a gorseddu’r Archesgob.
33.2 Wedi i’r ddogfen hon gael ei darllen, bydd yr Archesgob yn cymryd y gadair ac yn dweud gweddïau, yn cynnwys Gweddi’r Arglwydd a Chredo’r Apostolion.
33.3 Ar derfyn y gweddïau, bydd yr Archesgob yn mynd ymlaen â gwaith y Corff Llywodraethol.
Rhan V: Pwyllgor Sefydlog y Corff Llywodraethol
34.
Aelodaeth
34.1 Bydd y Corff Llywodraethol yn penodi Pwyllgor Sefydlog o’i aelodau bob tair blynedd, a byddant yn dal eu swyddi ar ôl 1 Ionawr yn y flwyddyn berthnasol.
34.2 Aelodau’r Pwyllgor fydd:
34.2.1 yr Esgob Cadeiriol a dau aelod (un clerig ac un aelod lleyg) o bob esgobaeth, y ddau aelod i’w penodi gan Bwyllgor Sefydlog y Gynhadledd Esgobaethol o blith aelodau’r esgobaeth honno ar y Corff Llywodraethol;
34.2.2 Cadeirydd a Dirprwy Gadeirydd Corff y Cynrychiolwyr;
34.2.3 aelodau o’r Corff Llywodraethol (heb fod yn fwy na dau mewn nifer) y gall y Corff Llywodraethol benderfynu eu penodi ar enwebiad y Pwyllgor Sefydlog, yng nghyfarfod y Corff Llywodraethol yn union cyn dechrau cyfnod teirblwydd newydd; ac
34.2.4 aelodau (heb fod yn fwy na dau mewn nifer) y gall y Pwyllgor Sefydlog benderfynu eu cyfethol.
34.3 Llenwir unrhyw le gwag achlysurol ymhlith yr aelodau sydd wedi’u penodi neu eu cyfethol gan y corff sydd â’r hawl i wneud y penodiad hwnnw.
34.4 Yn y cyfarfod cyntaf o bob cyfnod o dair blynedd, ac fel y bo angen wedi i’r naill swydd neu’r llall fynd yn wag, bydd y Pwyllgor Sefydlog yn ethol Cadeirydd ac Is-Gadeirydd o blith ei aelodau. Wedi hynny, os digwydd i’r Cadeirydd a’r Is-Gadeirydd fod yn absennol o unrhyw gyfarfod, bydd y Pwyllgor yn penodi aelod arall i lywyddu’r cyfarfod hwnnw.
35.
Cyfarfodydd
35.1 Bydd y Pwyllgor Sefydlog yn cyfarfod o leiaf dair gwaith ym mhob blwyddyn a gall y Llywydd hefyd ei gynnull neu ymgynghori ag ef os bydd a phan fydd ef yn barnu hynny’n addas.
35.2 Ysgrifenyddion y Corff Llywodraethol fydd Ysgrifenyddion y Pwyllgor Sefydlog, a byddant yn bresennol ym mhob cyfarfod o’r Pwyllgor, a chadw cofnodion ohono.
35.3 Bydd Ysgrifennydd Corff y Cynrychiolwyr yn bresennol ym mhob cyfarfod o’r Pwyllgor Sefydlog, a chaiff siarad ond ni chaiff bleidleisio.
36.
Galluoedd a Dyletswyddau
36.1 Bydd y Pwyllgor Sefydlog yn cynghori’r Corff Llywodraethol ar faterion o bolisi, gan gynnwys:
36.1.1 cynllunio hir-dymor a pherthynas cynllunio o’r fath ag adnoddau;
36.1.2 sefydlu blaenoriaethau mewn defnyddio adnoddau;
36.1.3 cymeradwyo cyllidebau a baratowyd gan Gorff y Cynrychiolwyr.
36.2 Bydd gan y Pwyllgor Sefydlog y gallu i wneud rheoliadau ar gyfer yr Eglwys yng Nghymru yn unol â’r weithdrefn at wneud rheoliadau a bennir o bryd i’w gilydd gan y Corff Llywodraethol.
36.3 Yn ddarostyngedig i uwch reolaeth y Corff Llywodraethol a darpariaethau’r paragraff hwn a pharagraffau 36.4 a 36.5, bydd gan y Pwyllgor y gallu i reoli ei weithdrefnau, gan gynnwys penodi gweithgorau ac is-bwyllgorau o’i aelodau, a chaiff y Pwyllgor, o bryd i’w gilydd ac fel y mae’n barnu’n addas, gyfethol unrhyw berson neu bersonau i wasanaethu ar weithgor neu is-bwyllgor o’r fath.
36.4 Bydd y Pwyllgor yn penodi Is-Bwyllgor Penodiadau a Busnes, a’i aelodau fydd Llywydd y Corff Llywodraethol, Cadeirydd y Pwyllgor Sefydlog, tri chlerig a etholwyd gan y Pwyllgor Sefydlog o blith ei aelodau a thri aelod lleyg a etholwyd gan y Pwyllgor Sefydlog o blith ei aelodau. Gwahoddir Cadeiryddion unrhyw Gomisiwn, neu Is-Bwyllgor o’r Pwyllgor Sefydlog i gyfarfodydd y Pwyllgor Sefydlog pan drafodir gwaith y Comisiwn neu Is-Bwyllgor hwnnw, a chânt siarad mewn cyfarfod felly ond nid pleidleisio.
36.5 Bydd y Pwyllgor Sefydlog, dan ddarpariaethau paragraff 36.3, yn penodi, Is-Bwyllgor Drafftio a Chadeirydd Is-Bwyllgor Cyfreithiol a fydd, mewn ymgynghoriad â Chadeirydd y Pwyllgor Sefydlog, yn penodi aelodau eraill yr Is-Bwyllgor hwnnw pan fo angen.
37.
37.1 Bydd y Pwyllgor Sefydlog yn peri gwneud cofnod priodol o drafodion a chofnodion y Corff Llywodraethol ac argraffu yn Gymraeg a Saesneg at ddefnydd cyffredinol yr Eglwys yng Nghymru y rhannau hynny ohonynt y gorchmynnwyd eu cyhoeddi neu y credant hwy y dylid eu cyhoeddi.
37.2 Gall y Pwyllgor Sefydlog awdurdodi Ysgrifenyddion y Corff Llywodraethol i roi copi i unrhyw un o unrhyw ran o fersiwn Cymraeg neu Saesneg y Cyfansoddiad ar y telerau a farnont yn addas.
37.3.1 Bydd gan y Pwyllgor Sefydlog y gallu i fynd i unrhyw draul a fydd yn rhesymol angenrheidiol i gyflawni’r dyletswyddau a ymddiriedir iddo neu a osodir arno trwy hyn neu trwy unrhyw reol a wneir gan y Corff Llywodraethol yn y dyfodol.
37.3.2 Bydd Corff y Cynrychiolwyr yn digolledu aelodau’r Pwyllgor Sefydlog am unrhyw draul yr eir iddi felly.
37.4 Bydd y Pwyllgor Sefydlog yn gwneud yr holl drefniadau angenrheidiol at gadw’n ddiogel lyfrau a dogfennau a phob eiddo arall o’r fath a berthyn i’r Corff Llywodraethol.
Rhan VI: Pwyllgorau eraill y Corff Llywodraethol
38.
Bydd gan y Corff Llywodraethol y gallu i benodi pwyllgorau eraill o’i aelodau, ac i wneud rheolau a rheoliadau ynglŷn â galluoedd a gweithdrefnau pwyllgorau o’r fath; ar yr amod, oni roddwyd awdurdod ymlaen llaw, na bydd unrhyw weithred na phenderfyniad gan bwyllgorau o’r fath yn ddilys nes i’r Corff Llywodraethol ei ategu a’i gadarnhau.
39.
Ac eithrio fel y trefnir yn benodol yma, os digwydd i aelod o bwyllgor beidio â bod yn aelod o’r Corff Llywodraethol, fe ystyrir bod yr aelod hwnnw wedi cilio trwy hynny o’i le ar y pwyllgor, a gall y Pwyllgor Sefydlog lenwi’r lle hwnnw a bydd yr aelod a benodir yn y dull hwn yn gweithredu hyd gyfarfod nesaf y Corff Llywodraethol.