Pennod IV B: Cynhadledd y Ddeoniaeth
Rhan I: Cyffredinol
1.
Ym mhob Deoniaeth bydd Cynhadledd Ddeoniaethol (“y Gynhadledd”).
2.
Bydd y Gynhadledd yn cydymffurfio ag unrhyw orchymyn neu gyfarwyddyd oddi wrth Gynhadledd yr Esgobaeth ac yn ei gyflawni.
3.
Bydd y Gynhadledd yn ddarostyngedig i’r rheoliadau a wnaed gan y Corff Llywodraethol.
Rhan II: Aelodaeth
4.
- Bydd y Gynhadledd yn cynnwys:
(a) aelodau yn rhinwedd swydd, y traethir eu swyddi yn Rhan I Rheoliadau’r Corff Llywodraethol yn ymwneud â Chynhadledd y Ddeoniaeth;
(b) aelodau etholedig, wedi eu hethol yn unol â darpariaethau Rhan I y Rheoliadau; ac
(c) aelodau cyfetholedig, wedi eu cyfethol yn unol â darpariaethau Rhan I y Rheoliadau. - Os nad ydynt eisoes yn aelodau o’r Gynhadledd caiff cynrychiolwyr y ddeoniaeth ar fyrddau esgobaethol, aelodau o’r Corff Llywodraethol sy’n preswylio o fewn y Ddeoniaeth ac aelodau o Gorff y Cynrychiolwyr sy’n preswylio o fewn y Ddeoniaeth, ar wahoddiad y Gynhadledd, fod yn bresennol yn unrhyw gyfarfod ohoni a siarad ond ni chânt bleidleisio.
Rhan III: Cymwysterau Aelodaeth
5.
Bydd holl aelodau’r Gynhadledd yn Gymunwyr a thros ddeunaw mlwydd oed.
6.
Bydd pob aelod lleyg o’r Gynhadledd, cyn gweithredu fel y cyfryw, yn arwyddo datganiad mewn cofrestr a gedwir at hynny gan Ysgrifennydd y Gynhadledd, yn y ffurf hon:
Yr wyf fi, J … S … o … trwy hyn yn difrifol ddatgan fy mod yn Gymunwr dros ddeunaw mlwydd oed, ac yn gymwys i fod yn aelod o Gynhadledd Deoniaeth yn unol â Phennod IV Cyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru, ac nad wyf yn aelod o’r un corff crefyddol nad yw mewn cymundeb â’r Eglwys yng Nghymru.
Rhan IV: Galluoedd
7.
Yn ddarostyngedig i reolaeth y Corff Llywodraethol a Chynhadledd yr Esgobaeth, bydd y Gynhadledd yn rheoli ei materion ei hun.
8.
Gall y Gynhadledd benodi pwyllgor gwaith.
9.
Bydd y Gynhadledd yn penodi Ysgrifennydd.
10.
Bydd swyddogaethau’r Gynhadledd yn cynnwys:
(a) hyrwyddo holl genhadaeth yr Eglwys: yn fugeiliol, efengylaidd, cymdeithasol, ac eciwmenaidd;
(b) asesu anghenion y Ddeoniaeth ynglŷn â chyllid, personél ac adeiladau;
(c) cynllunio strategol at addoli a gofal bugeiliol ledled y Ddeoniaeth;
(d) cynghori ar unrhyw fater a gyfeiriwyd yn briodol i’r Gynhadledd;
(e) gweithredu ar unrhyw ohebiaeth oddi wrth Gynhadledd yr Esgobaeth neu unrhyw Gyngor Plwyf Eglwysig o fewn y Ddeoniaeth ar y cyfryw faterion ag a ystyria’r Gynhadledd yn gymwys;
(f) rheoli a chodi cyllid i’r Ddeoniaeth;
(g) ethol Is-Gaderiydd lleyg o blith aelodau’r Gynhadledd ac, fel y bo angen, pan fydd y swydd honno’n wag; ac
(h) trafod materion yn ymwneud â’r Eglwys yng Nghymru, neu sydd o ddiddordeb crefyddol neu gyhoeddus arall, ac eithrio na chaiff trafod unrhyw faterion athrawiaethol gan y Gynhadledd fynd mor bell â llunio neu ddatgan athrawiaeth.