Pennod IV A: Cynhadledd yr Esgobaeth
Rhan I: Cyffredinol
1.
Bydd ym mhob Esgobaeth Gynhadledd Esgobaeth (“y Gynhadledd”).
2.
Bydd y Gynhadledd yn ddarostyngedig i unrhyw reoliadau a wneir gan y Corff Llywodraethol.
3.
Bydd y Gynhadledd yn cydymffurfio ag unrhyw orchymyn neu gyfarwyddyd oddi wrth y Corff Llywodraethol ac yn ei gyflawni.
4.
Ni ddehonglir dim yn y Bennod hon i olygu rhoi hawl i’r Gynhadledd i basio unrhyw gynnig na dod i unrhyw benderfyniad ar unrhyw fater y mae a wnelo â disgyblaeth na ffydd na seremoni.
Rhan II: Aelodaeth
5.
Bydd yr Esgob neu, yn ei absenoldeb, Gomisari a awdurdodwyd yn arbennig ganddo mewn ysgrifen, yn aelod o’r Gynhadledd.
6.
Bydd y Gynhadledd yn cynnwys:
(a) aelodau clerigol;
(b) aelodau yn rhinwedd swydd;
(c) aelodau enwebedig;
(d) aelodau cyfetholedig; ac
(e) aelodau etholedig.
7.
Bydd holl aelodau’r Gynhadledd yn Gymunwyr dros un ar bymtheng mlwydd oed.
8.
- Yn ddarostyngedig i is-adran (2), aelodau Clerigol y Gynhadledd fydd yr holl Glerigion cyflogedig a’r holl Glerigion eraill sy’n dal trwydded gan yr Eesgob.
- Daw aelodaeth Clerigion y Gynhadledd i ben yn achos Clerig cyflogedig ar ei ymddeoliad o’r weinidogaeth gyflogedig ac, yn achos pob Clerig arall sy’n dal trwydded gan yr Esgob, pan beidia â dal unrhyw benodiad fel clerig yn yr esgobaeth neu pan ildir neu ddiddymu’r drwydded neu pan gyrraedd ddeg a thrigain oed, pa un bynnag a fydd yn digwydd gyntaf.
9.
Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r Cyfansoddiad, bydd pob Cynhadledd yn penderfynu drosti ei hun:
(a) nifer a natur yr aelodau yn rhinwedd swydd a’r aelodau cyfetholedig ac enwebedig, ar yr amod na fydd nifer y cyfryw aelodau yn rhinwedd swydd, cyfetholedig ac enwebedig gyda’i gilydd yn fwy nag un rhan o chwech o nifer yr holl aelodau;
(b) nifer yr aelodau lleyg sydd i’w hethol, ar yr amod na fydd yr aelodau clerigol yn fwy o ran nifer na’r aelodau lleyg ac nad etholir llai na thri aelod o bob Deoniaeth; a’r
(c) cymwysterau angenrheidiol ar gyfer aelodau lleyg, yr adeg pan etholir aelodau o’r fath ac ym mha fodd y gwneir hynny, ac ai gan Gynhadledd y Ddeoniaeth ai gan y Cyrddau Festri yr etholir hwy.
10.
Bydd pob aelod lleyg o’r Gynhadledd, cyn gweithredu fel y cyfryw, yn arwyddo datganiad mewn cofrestr a gedwir at hynny gan yr Ysgrifennydd, yn y ffurf hon:
Yr wyf i, J … S … o … drwy hyn yn difrifol ddatgan fy mod yn Gymunwr dros un mlwydd ar bymtheg oed, ac yn gymwys i fod yn aelod o Gynhadledd Esgobaeth ac nad wyf yn aelod o’r un corff crefyddol nad yw mewn cymundeb â’r Eglwys yng Nghymru.
Rhan III: Trafodion
11.
Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau Deddf yr Eglwys yng Nghymru 1914, y Cyfansoddiad ac unrhyw reoliadau a wnaed gan y Corff Llywodraethol, bydd gan y Gynhadledd y gallu i wneud rheoliadau at:
(a) ei chynnull;
(b) ei busnes a’i thrafodion;
(c) ei haelodaeth, galluoedd a gweithdrefnau ei holl bwyllgorau; a
(d) hyd aelodaeth.
12.
- Yr Esgob fydd Llywydd y Gynhadledd.
- Os digwydd i’r Esgob farw neu ymddeol, neu ei fod yn methu gweithredu neu ei fod yn absennol ac yntau heb benodi Comisari i’r pwrpas, yna Llywydd y Corff Llywodraethol, neu, os digwydd ei fod yntau wedi marw neu ymddeol, neu ei fod yn methu gweithredu neu ei fod yn absennol, yr Esgob Cadeiriol nesaf ei flaenoriaeth fydd y Llywydd, neu bydd yn penodi mewn ysgrifen Gomisari a fydd yn Llywydd; bydd y Llywydd hwnnw’n arfer yr holl hawliau a arferir yn gyffredin gan Esgob yr esgobaeth yn y Gynhadledd, ond heb amharu ar hawliau’r Archesgob.
13.
Rhwymir y Gynhadledd, a phob aelod arall o’r Eglwys yng Nghymru yn yr esgobaeth, gan bob gweithred o’r eiddo’r Gynhadledd y cydsynnir iddi gan ei Llywydd a chan fwyafrif o’r clerigion a’r lleygion a fo’n bresennol ac yn pleidleisio ar y cyd, neu os mynnir hynny trwy i ddeg ar hugain o aelodau godi yn eu lle gan fwyafrif o’r aelodau clerigol a mwyafrif o’r aelodau lleyg a fo’n bresennol ac yn pleidleisio yn ôl urddau.
14.
Os digwydd i’r Llywydd wrthod ei gydsyniad i benderfyniad, bydd yn rhydd i unrhyw aelod ail-gyflwyno’r penderfyniad yng nghyfarfod blynyddol nesaf y Gynhadledd, ac os pasir ef trwy fwyafrif o ddwy ran o dair o’r aelodau clerigol ac o’r aelodau lleyg a fo’n bresennol ac yn pleidleisio yn ôl urddau, anfonir y penderfyniad i Synod Talaith yr Eglwys yng Nghymru, a bydd dyfarniad y synod yn rhwymo’r Gynhadledd a phob aelod arall o’r Eglwys yn yr Esgobaeth.
Rhan IV: Galluoedd a Dyletswyddau
15.
Yn ddarostyngedig i gyfarwyddyd a rheolaeth y Corff Llywodraethol, bydd y Gynhadledd yn trefnu ei materion ei hun, a’i heiddo os bydd eiddo, a phob arian a ymddiriedir iddi gan Gorff y Cynrychiolwyr i’w ddosbarthu; yn unol ag unrhyw reoliadau a wnaed neu amodau a osodwyd gan Gorff y Cynrychiolwyr neu unrhyw ymddiriedaethau arbennig.
16.
Bydd y Gynhadledd o bryd i’w gilydd yn ethol yn ddyladwy gynrychiolwyr yr esgobaeth i wasanaethu ar y Corff Llywodraethol ac ar Gorff y Cynrychiolwyr, ac aelodau atodol i’r ddau Gorff.
17.
Bydd y Gynhadledd yn penodi Etholwyr Esgob yn unol â darpariaethau’r Cyfansoddiad.
18.
Bydd y Gynhadledd yn ethol aelodau clerigol a lleyg i Fwrdd Enwebu’r Esgobaeth, ac aelodau atodol iddo, yn y modd a drefnir yn Rheoliadau’r Corff Llywodraethol yn ymwneud â Phenodi ac Enwebu ac, yn ddarostyngedig i’r Cyfansoddiad, bydd yn penderfynu drosti ei hun y dull o ethol aelodau i’r Bwrdd.
19.
Os, ym marn yr Esgob a’r Gynhadledd, y bydd Deoniaeth am unrhyw reswm wedi peidio â bod yn effeithiol, cymerir y cyfryw gamre (os cymerir camre o gwbl) ag y mae’r amgylchiadau yn eu cyfiawnhau dan Bennod IV D adran 2.
20.
- Bydd gan y Gynhadledd, neu ei Phwyllgor Sefydlog os galluogwyd ef i hynny gan y Gynhadledd, y gallu i orchymyn unrhyw Blwyf, Grwˆp o Blwyfi, bro neu ardal i gyfrannu at wariant gwir neu wariant disgwyliedig gan yr esgobaeth ac, wrth ymarfer y gallu hwn, bydd yn ystyried unrhyw gwˆyn a osodir ger ei bron.
- Bydd gan y Gynhadledd y gallu i ddeddfu, os digwydd i ryw fro neu ardal beidio â chyflawni rhyw ymrwymiad a wnaeth â’r Gynhadledd, neu beidio â thalu unrhyw swm yr aseswyd hi amdano gan y Gynhadledd neu y galwyd arni gan y Gynhadledd i’w dalu, na dderbynnir i’r Gynhadledd yr aelodau a etholwyd dros y fro neu’r ardal honno, ac na chaniateir i etholwyr cymwys y fro neu’r ardal honno anfon cynrychiolwyr tra bo’r diffyg hwnnw’n parhau.
21.
- Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r Corff Llywodraethol yn ymwneud â Chynhadledd y Ddeoniaeth, gall y Gynhadledd reoli materion Cynhadledd Deoniaeth.
- Bydd gan Gynhadledd yr esgobaeth y gallu i reoli, newid, diddymu, neu ddisodli unrhyw reol neu reoliad a wnaed gan Gynhadledd Deoniaeth Bro, Cwrdd Festri a Chyngor Plwyf Eglwysig, os bydd angen hynny (ac ar hynny bydd barn Cynhadledd yr Esgobaeth yn derfynol) i rwystro derbyn unrhyw egwyddor sy’n anfuddiol er lles cyffredin yr Eglwys yng Nghymru yn yr Esgobaeth.
22.
Bydd y Gynhadledd yn penodi Ysgrifennydd i ddal y swydd am gyfnod y bydd y Gynhadledd yn penderfynu arno.
Rhan V: Byrddau a Phwyllgorau
Y Pwyllgor Sefydlog
23.
- Bydd y Gynhadledd yn penodi Pwyllgor Sefydlog y bydd ganddo’r galluoedd hynny a roddir iddo gan y Gynhadledd trwy reoliadau neu benderfyniad.
- Bydd y Pwyllgor Sefydlog hwnnw yn cydweithredu â’r Esgob i greu ardaloedd confensiynol a bydd yn adrodd bob blwyddyn i’r Gynhadledd ac i’r Corff Llywodraethol pa ardaloedd confensiynol, os oes rhai, a grewyd.
Bwrdd Cyllid yr Esgobaeth
24.
- Bydd y Gynhadledd yn penodi Bwrdd Cyllid yr Esgobaeth (“y Bwrdd”), y bydd ei gyfansoddiad a’i alluoedd yn unol â’r Cyfansoddiad a’u traethu yn y dogfennau perthnasol sy’n creu’r Bwrdd.
- Bydd y Bwrdd yn paratoi cynllun i archwilio pob eglwys yn yr Esgobaeth o leiaf unwaith bob pum mlynedd, a bydd y cynllun yn darparu ar gyfer:
(a) sefydlu cronfa o gyfraniadau o ffynonellau plwyfol, esgobaethol neu ffynonellau eraill;
(b) talu o’r gronfa honno, neu trwy ryw fodd arall, gostau archwilio’r eglwysi n yr Esgobaeth;
(c) penodi penseiri neu syrfewyr siartredig cymwys i archwilio’r eglwysi yn yr Esgobaeth;
(d) bod y pensaer neu’r syrfëwr siartredig yn gwneud adroddiad i’r Bwrdd ar bob eglwys a archwiliwyd ganddo, a bod copïau o’r adroddiad a wnaeth yn cael eu hanfon i’r Archddiacon ac i Gyngor Plwyf Eglwysig y plwyf lle y mae’r eglwys;
(e) unrhyw fanylion heb fod yn anghyson â’r adran hon fel y barno’r Bwrdd yn addas.
25.
Bydd gan y Bwrdd, gyda chymeradwyaeth yr Esgob, y gallu i osod ar restr diffygdalwyr Blwyf neu Grŵp o Blwyfi neu ardal a fo’n beius esgeuluso cyflawni ei rwymedigaethau ariannol. Cyn gweithredu bydd y Bwrdd yn rhoi i’r Cyngor neu’r Cynghorau Plwyf Eglwysig gyfle llawn i gyflwyno achos y Plwyf neu’r Grŵp o Blwyfi. Pan ddigwydd i berigloriaeth y fath Blwyf neu Grŵp o Blwyfi fynd yn wag, gellir gohirio penodi iddi, neu ynteu benodi Periglor newydd yn ôl y drefn a osodir ym Mhennod VI adran 6.
Bwrdd Persondai’r Esgobaeth
26.
Bydd y Bwrdd yn penodi Bwrdd Persondai’r Esgobaeth (“y Bwrdd Persondai”), a’i ddyletswydd ef fydd:
(a) arolygu a rheoli’n gyffredinol Bersondai’r Esgobaeth (fel y diffinnir ym Mhennod VII); a
(b) gofalu bod cyflawni’n briodol bob atgyweirio neu waith yr awdurdodir ei wneud i’r Persondai hynny neu mewn cysylltiad â hwy.
27.
- Ni bydd y Bwrdd Persondai yn cynnwys llai na chwech aelod, a bydd nifer cyfartal o aelodau clerigol ac aelodau lleyg a fydd yn gymwys i fod yn aelodau o’r Gynhadledd. Bydd aelodau’r Bwrdd Persondai yn dal eu swydd am dair blynedd o ddyddiad eu penodi a byddant ar dir i’w hail-benodi.
- Ni bydd methiant ar ran y Bwrdd i benodi’r nifer o aelodau i’r Bwrdd Persondai a osodir yn is-adran (1) yn rhwystro’r Bwrdd Persondai rhag mynd ymlaen â’i waith nac yn annilysu ei benderfyniadau.
- Bydd y Bwrdd yn llenwi lle gwag achlysurol yn aelodaeth y Bwrdd Persondai a bydd y sawl a benodir i le gwag o’r fath yn dal ei swydd hyd at ddiwedd tair blynedd cyfnod penodiad yr aelod y mae’n cymryd ei le.
28.
Bydd y Bwrdd Persondai yn cydymffurfio â chyfarwyddiadau Corff y Cynrychiolwyr a bydd dan ei reolaeth.
Rhan VI: Amrywiol
29.
Gall y neb sy’n tybio iddo neu iddi gael cam trwy weithred o’r eiddo’r Gynhadledd apelio, os oes a wnelo’r achos ag eiddo a ddelir neu a weinyddir gan y Gynhadledd, at Lys y Dalaith; a bydd dyfarniad y llys hwnnw’n derfynol.