Pennod IX: Tribiwnlys a Llysoedd yr Eglwys yng Nghymru
Rhan I: Cyffredinol
1.
I holl ddibenion Llysoedd a Thribiwnlys yr Eglwys yng Nghymru:
(a) aelod o’r Eglwys yng Nghymru yw un y mae’r Cyfansoddiad yn ei rwymo yn rhinwedd Pennod 1 adran 2; a
(b) pherson cyfreithiol gymwys yw un sy’n aelod o Far Lloegr a Chymru neu’n Gyfreithiwr yn Llysoedd Uwch Lloegr a Chymru.
2.
Bydd yn ddyletswydd ar bob aelod o’r Eglwys yng Nghymru fod yn bresennol a rhoi tystiolaeth, pan wysir ef yn briodol i wneud hynny, mewn unrhyw brawf neu ymchwiliad dan awdurdod y Cyfansoddiad.
3.
Rhaid i bawb a elwir yn dyst mewn prawf neu ymchwiliad a gynhelir fel y dywedwyd uchod, cyn rhoi tystiolaeth, wneud datganiad difrifol y bydd yn dweud y gwir, y holl wir, a dim ond y gwir.
4.
- Os bydd unrhyw Aelod o’r Eglwys yng Nghymru yn fwriadol a heb reswm digonol yn esgeuluso neu yn gwrthod bod yn bresennol a rhoi tystiolaeth, ac yntau wedi’i wysio’n briodol i wneud hynny mewn prawf neu ymchwiliad a gynhelir dan awdurdod y Cyfansoddiad, gall Llys y Dalaith a’r Tribiwnlys trwy orchymyn gyhoeddi’n wag unrhyw swydd yn yr Eglwys yng Nghymru (gan gynnwys aelodaeth o unrhyw gorff yn yr Eglwys yng Nghymru) yr etholwyd neu y penodwyd yr Aelod hwnnw iddi, ac yna llenwir y swydd honno yn ôl y drefn fel pe bai’r Aelod hwnnw wedi marw. Gall Llys y Dalaith a’r Tribiwnlys yn ychwanegol trwy orchymyn gyhoeddi fod y cyfryw Aelod i’w amddifadu neu’i atal rhag pleidleisio yn yr Eglwys yng Nghymru.
- Pan wnelo’r Tribiwnlys neu Lys y Dalaith orchymyn dan is-adran (1), rhaid iddo hysbysu hynny i Ysgrifenyddion y Corff Llywodraethol, Ysgrifennydd Corff y Cynrychiolwyr, Ysgrifennydd unrhyw gorff yn yr Eglwys yng Nghymru y mae’r sawl y mae’r gorchymyn yn effeithio arno yn aelod ohono, ac Ysgrifennydd Cyngor Plwyf Eglwysig unrhyw blwyf y mae naill ai’n dal swydd ynddo neu’n byw ynddo.
5.
Ni fydd pleidleisio gan unrhyw Aelod a ataliwyd rhag pleidleisio dan adran 4(1), 17(a) a 34 yn annilysu’r gweithrediadau y pleidleisiwyd arnynt.
6.
Bydd Pwyllgor Rheolau i Dribiwnlys a Llysoedd yr Eglwys yng Nghymru fel y traethir yn Rhan VI.
7.
Telir pob ffi sy’n daladwy ynglŷn ag achosion a wrandewir gan Dribiwnlys neu un o Lysoedd yr Eglwys yng Nghymru i Gofrestrydd y Tribiwnlys neu’r Llys, a bydd ef yn eu casglu ac yn rhoi cyfrif amdanynt bob chwarter i Gorff y Cynrychiolwyr.
Rhan II: Y Tribiwnlys a’r Llysoedd
8.
- Bydd Tribiwnlys Disgyblu yn yr Eglwys yng Nghymru ac fe’i cyfansoddir fel y darperir yn Rhan III.
- Llysoedd yr Eglwys yng Nghymru fydd:
(a) Llys Esgobaeth ym mhob esgobaeth, wedi’i gyfansoddi fel y darperir yn Rhan IV, a
(b) Llys y Dalaith, wedi’i gyfansoddi fel y darperir yn Rhan V. - Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r Cyfansoddiad bydd o fewn gallu’r Archesgob, Esgob Cadeiriol, Llys y Dalaith, Llys Arbennig y Dalaith a’r Goruchel Lys gyhoeddi dedfryd o rybudd, ataliad neu ddeoliad o swydd yn yr Eglwys yng Nghymru.
Rhan III: Y Tribiwnlys Disgyblu
9.
Bydd Tribiwnlys Disgyblu yn yr Eglwys yng Nghymru a fydd â’r awdurdod i wrando ac i ddedfrydu ar achwyniad ynghylch, un neu fwy o’r canlynol pan fydd yn codi:
(a) dysgu, pregethu, cyhoeddi neu arddel athrawiaeth neu gred sy’n anghydnaws â’r eiddo’r Eglwys yng Nghymru;
(b) esgeuluso dyletswyddau swydd, neu ddiofalwch parhaus neu aneffeithlonrwydd llwyr wrth gyflawni’r cyfryw ddyletswyddau;
(c) ymddygiad sy’n rhoi achos cyfiawn i gywilydd neu dramgwydd;
(d) torri neu anufuddhau’n fwriadol i unrhyw rai o ddarpariaethau’r Cyfansoddiad neu’r Datganiad o Amodau Gwaith a gyhoeddwyd yn dilyn Canon Amodau Gwaith Clerigion 2010;
(e) torri neu anufuddhau’n fwriadol i unrhyw rai o reolau a rheoliadau Cynhadledd yr Esgobaeth y mae’r cyfryw un yn dal swydd neu’n byw ynddi;
(f) anufuddhau i unrhyw ddyfarniad, dedfryd neu orchymyn gan yr Archesgob, Esgob Cadeiriol, y Tribiwnlys, neu unrhyw un o Lysoedd yr Eglwys yng Nghymru;
(g) ethu â chydymffurfio â chyngor Panel Diogelu’r Dalaith heb esgus rhesymol,
a wneir yn erbyn unrhyw un o’r canlynol, a oedd ar ddyddiad yr ymddygiad a achosodd yr achwyniad neu ddyddiad y gŵyn, yn:
(i) Glerig sydd wedi dal trwydded a ganiatawyd gan un o Esgobion yr Eglwys yng Nghymru;
(ii) Clerig sydd wedi dal Caniatâd i Weinyddu a ganiatawyd gan un o Esgobion yr Eglwys yng Nghymru;
(iii) Clerig sy’n derbyn pensiwn neu sydd â hawl i fudd-dal pensiwn gohiriedig gan yr Eglwys yng Nghymru;
(iv) Clerig sy’n derbyn tâl neu fudd ariannol arall gan yr Eglwys yng Nghymru;
(v) unrhyw un sy’n hyfforddi at y weinidogaeth awdurdodedig yn yr Eglwys yng Nghymru a noddwyd ar gyfer y cyfryw hyfforddiant gan un o Esgobion yr Eglwys yng Nghymru, ac sydd wedi cytuno’n ysgrifenedig i gydymffurfio â darpariaethau’r adran hon;
(vi) Warden Eglwys neu Is-Warden sydd wedi dal swydd yn un o blwyfi’r Eglwys yng Nghymru;
(vii) Aelod lleyg o’r Eglwys yng Nghymru sydd wedi dal trwydded, caniatâd i weinyddu neu gomisiwn ar ran neu gan un o Esgobion yr Eglwys yng Nghymru.
Aelodaeth
10.
- Bydd 17 aelod i’r Tribiwnlys wedi eu penodi fel a ganlyn:
(a) Pedwar aelod wedi eu penodi gan Fainc yr Esgobion;
(b) chwech aelod clerigol, un o bob esgobaeth, wedi eu hethol gan Urdd Clerigion Cynhadledd pob Esgobaeth;
(c) tri aelod gyda chymwysterau cyfreithiol, sef Cangellorion neu rai cymwys i fod yn Ganghellor wedi eu penodi gan Bwyllgor Sefydlog y Corff Llywodraethol;
(d) dau aelod, y ddau gyda naill ai gymwysterau meddygol neu wedi eu hyfforddi’n gynghorwyr, wedi eu penodi gan Bwyllgor Sefydlog y Corff Llywodraethol; a
(e) dau aelod lleyg, Aelodau o’r Eglwys yng Nghymru wedi eu penodi gan Bwyllgor Sefydlog y Corff Llywodraethol. - Mewn unrhyw achos lle y cyfeiriwyd Esgob neu Esgob Cynorthwyol i’r Tribiwnlys bydd aelodau’r Tribiwnlys yn cael eu hystyried i gynnwys Esgob Cadeiriol neu Esgob Cynorthwyol (o Esgobaeth wahanol i’r Esgob neu’r Esgob Cynorthwyol sy’n destun y cyfeiriad) a enwebwyd gan y Llywydd ac a fydd yn aelod llawn o’r Tribiwnlys sy’n delio â’r achos yr enwebwyd ef neu hi ar ei gyfer.
- Yn amodol ar is-adran (4), bydd tri aelod o’r Tribiwnlys, un ohonynt yn aelod clerigol wedi ei ethol dan isadran (1)(b), yn ffurfio cworwm y Tribiwnlys (“Panel y Tribiwnlys”) a’u dedfryd hwy neu ddedfryd y mwyafrif ohonynt fydd dedfryd y Tribiwnlys. Gall Llywydd y Tribiwnlys gynyddu Panel y Tribiwnlys o dri i bum aelod os yw ef neu hi’n credu y bydddai hynny o fudd i’r partïon neu’r Tribiwnlys, ac mewn achos o’r fath bydd un o’r ddau aelod ychwanegol yn aelod clerigol (nid oes angen iddo fod yn aelod clerigol a etholwyd o dan is-adran (1)(b)).
- Mewn unrhyw achos, pan fydd Esgob neu Esgob Cynorthwyol yn destun cyfeiriad i’r Tribiwnlys, bydd pum aelod o’r Tribiwnlys, un ohonynt yr unigolyn a enwebwyd o dan is-adran (2) ac un ohonynt yn aelod clerigol a etholwyd o dan is-adran (1)(b) o esgobaeth wahanol i’r Esgob atebol, yn ffurfio Panel y Tribiwnlys a’u dedfryd hwy neu ddedfryd y mwyafrif ohonynt fydd dedfryd y Tribiwnlys.
- Pan fydd Cynhadledd Esgobaeth yn ethol aelodau clerigol yn unol ag isadran 1(b) rhaid iddi ar yr un pryd wneud rhestr atodol o ddau aelod clerigol i lenwi unrhyw le gwag achlysurol yn y penodiadau a wneir dan isadran 1(b).
11.
- Yn ddarostyngedig i isadrannau (3) a (4) bydd gan y Tribiwnlys Gam Rhagarweiniol i benderfynu a oes, ym mhob achwyniad a gyfeirir, obaith rhesymol o brofi’r materion yn y cyfeiriad ar sail tebygolrwydd mewn gwrandawiad llawn ac a yw’r materion, pe baent yn cael eu profi, yn ddigon difrifol i gyfiawnhau ystyried cosb a nodir yn Adran 18 (c)-(h) (“achos i’w ateb”).
- Bydd y Cam Rhagarweiniol yn cael ei gynnal gan aelod cymwys cyfreithiol a benodwyd o dan 10(1)(c). Pe bai’r aelod yn destun gwrthdaro buddiannau bydd gan y Llywydd yr awdurdod i benodi unigolyn cymwys cyfreithiol priodol i ystyried a oes achos i’w ateb.
- Yn ddarostyngedig i isadran (4) gall y partïon i gyfeiriad gytuno i naill ai cael y Cam Rhagarweiniol wedi’i ystyried drwy gyflwyniadau ysgrifenedig heb wrandawiad neu hepgor y Cam Rhagarweiniol a phenderfynu bwrw ymlaen i wrandawiad llawn yn syth.
- Pan fydd cyfeiriad i Dribiwnlys yn seiliedig ar ffeithiau y mae’r ymatebydd wedi’i gael yn euog o drosedd mewn perthynas â hwy gall y Llywydd, neu aelod cymwys cyfreithiol arall o’r Tribiwnlys a benodir gan y Llywydd at y diben, orchymyn y dylai’r cyfeiriad fwrw ymlaen i wrandawiad llawn yn syth heb fod angen Cam Rhagarweiniol.
- Ni fydd yr unigolyn a benodir i gynnal Cam Rhagarweiniol y cyfeiriad yn gwasanaethu ar Banel y Tribiwnlys y cyfeiriad hwnnw.
(1) Yn ddarostyngedig i isadran (5) gall y personau a gyfeiriwyd gytuno i hepgor ystyriaeth y Pwyllgor o’r achos a dewis mynd ymlaen yn syth i wrandawiad llawn.
(2) Pan seilir cyfeiriad i’r Tribiwnlys ar ffeithiau trosedd y cafwyd yr atebydd yn euog ohono gall y Llywydd neu aelod arall cyfreithiol gymwys o’r Tribiwnlys a benodwyd gan y Llywydd i’r diben hwn orchymyn i’r cyfeiriad fynd ymlaen yn syth i wrandawiad llawn heb fod angen ystyriaeth y Pwyllgor.
(3) Ni chaiff unrhyw aelod o Bwyllgor a fu’n trafod cyfeiriad wasanaethu ar y Tribiwnlys a fydd yn trafod y cyfeiriad hwnnw.
12.
Ni ellir diswyddo unrhyw aelod o’r Tribiwnlys ond trwy orchymyn Mainc yr Esgobion wedi’i gadarnhau gan fwyafrif ar wahân yn Urdd Clerigion ac Urdd Lleygion y Corff Llywodraethol.
13.
Bydd aelodau’r Tribiwnlys yn dal eu swydd am bum mlynedd a byddant yn gymwys i’w hailbenodi ond bydd aelodaeth aelodau lleyg yn dod i ben ar eu penblwydd yn bymtheg a thrigain oed ac yn achos aelodau clerigol ar eu hymddeoliad neu ar eu pen-blwydd yn ddeg a thrigain oed, pa un bynnag sydd gynharaf, ac eithrio y gall aelod gwblhau gwrando achos y dechreuodd wrando arno
14.
Llenwir unrhyw le gwag yn yr aelodaeth trwy benodi yn yr un modd ag y penodwyd yn wreiddiol. Bydd y sawl a benodir felly yn gwasanaethu am weddill tymor gwasanaeth yr aelod y mae’n cymryd ei le, a bydd yn gymwys i’w ailbenodi am dymor pellach o wasanaeth yn unrhyw un o’r categorïau a draethir yn adran 10(1).
15.
Gall y Tribiwnlys, os yw’n barnu hynny’n briodol, wysio i’w gynorthwyo un neu fwy o bersonau gyda medr a phrofiad yn y mater y mae a wnelo’r achos ag ef i fod yn aseswyr.
16.
Bydd gan y Tribiwnlys Lywydd wedi’i benodi gan Bwyllgor Sefydlog y Corff Llywodraethol o blith aelodau cyfreithiol gymwys y Tribiwnlys.
Galluoedd
17.
Bydd gan y Tribiwnlys y gallu i:
(a) atal o unrhyw benodiad, swydd, aelodaeth o gorff a’r hawl i bleidleisio yn yr Eglwys yng Nghymru unrhyw un yr achwynwyd yn ei erbyn ac sydd dan archwiliad gan y Tribiwnlys nes bydd gwrando a dedfrydu ynglŷn â’r achwyniad a gall Esgob Esgobaeth un felly wneud trefniadau ynglŷn â chynnal ei ddyletswyddau yn ystod yr ataliad; a
(b) gorchymyn na chaiff Clerig neu ddiacones a ataliwyd fyw mewn Persondy a ddiffinnir ef ym Mhennod VII adran 1(d) , na dal meddiant ar y clastir tra bo wedi’i atal, a bod y cyfryw Glerig neu ddiacones yn trosglwyddo pob llyfrau, allweddi, ac eiddo arall a ddelir ganddo neu ganddi yn rhinwedd ei swydd i’r sawl a benodo’r Tribiwnlys i ddal yr eiddo hwnnw dros ac ar ran Corff y Cynrychiolwyr.
18.
Bydd gallu’r Tribiwnlys yn cynnwys gwneud dyfarniad, dedfrydu neu orchymyn:
(a) rhyddhau diamod;
(b) rhyddhau amodol;
(c) ceryddu;
(d) rhybuddio;
(e) rhwystro;
(f) gwahardd;
(g) atal neu ohirio penodiad, swydd, bod yn aelod o gorff neu’r hawl i bleidleisio yn yr Eglwys yng Nghymru; a
(h) diswyddo o Urddau Sanctaidd a diarddel o swydd clerig yn yr Eglwys yng Nghymru.
19.
Gall Clerig y gorchmynnodd y Tribiwnlys ei ddiswyddo o Urddau Sanctaidd a’i ddiarddel o swydd Clerig yn yr Eglwys yng Nghymru apelio o fewn 28 diwrnod o ddyddiad y dyfarniad trwy anfon hysbysiad ysgrifenedig o apêl at Gofrestrydd Llys y Dalaith.
20.
Penodi Cofrestrydd y Tribiwnlys
Bydd y Tribiwnlys o bryd i’w gilydd yn ôl y galw yn penodi un person cymwys a phriodol i fod yn Gofrestrydd ac un neu fwy i fod yn Ddirprwy Gofrestryddion. Byddant:
(a) yn gyfreithiol gymwys;
(b) yn cael eu talu am eu gwasanaeth y symiau hynny a farno Corff y Cynrychiolwyr yn addas; ac
(c) yn dal eu swydd am bum mlynedd ac yn gymwys i’w hailbenodi ac eithrio y bydd yn rhaid iddynt ymddeol cyn eu pen-blwydd yn ddeg a thrigain.
Rhan IV: Llys yr Esgobaeth
Aelodaeth
21.
- Aelodau Llys yr Esgobaeth fydd y Canghellor, y Dirprwy Ganghellor (os oes un) ac Archddiaconiaid yr esgobaeth.
- Y Canghellor, a benodir fel y darperir yn adran 24, fydd Llywydd Llys yr Esgobaeth.
- Ni chaiff yr Archddiaconiaid fod yn aelodau o’r Llys pan fydd yn ymdrin â chais a ddygir dan adran 22(a).
Awdurdod
22.
Bydd gan Lys yr Esgobaeth y gallu i wrando a phenderfynu:
(a) ceisiadau am hawlebau yn yr esgobaeth;
(b) cwynion yn erbyn Wardeniaid eglwys a Chynghorwyr Plwyf Eglwysig lleyg yn eu gwaith fel y cyfryw, a dadleuon ynglŷn â’u hethol;
(c) materion a gyfeirir ato gan ddarpariaethau’r Cyfansoddiad; ac
(d) unrhyw anghydfod rhwng aelod o’r Eglwys yng Nghymru a Bwrdd Cyllid Esgobaeth, Bwrdd Persondai Esgobaeth, Bwrdd Enwebu Esgobaeth, Cynhadledd neu Gabidwl Deoniaeth Bro, Festri neu Gyngor Plwyf Eglwysig, neu rhwng unrhyw rai o’r cyfryw gyrff, onid yw’r Cyfansoddiad yn trefnu at ei benderfynu’n wahanol.
(e) unrhyw faterion eraill yr ymdrinnid â hwy gynt gan Lys yr Archddiacon.
Gweithdrefn hawleb
23.
- Bydd y weithdrefn Hawleb yn gymwys i eglwysi a thir cysegredig a freiniwyd yng Nghorff y Cynrychiolwyr, mewn Bwrdd Cyllid Esgobaethol, neu mewn unrhyw ymddiriedolwyr eraill sy'n cytuno i gael eu rhwymo, ac i unrhyw wrthrych neu strwythur isradd neu ategol yn neu ar yr Eglwys honno neu’r tir cysegredig hwnnw neu o fewn ei gwrtil.
- [dilewyd]
- [dilewyd].
- Lle bo gweithdrefn hawleb yn gymwys bydd Rheolau a wneir o dan adran 38 o'r Bennod hon yn datgan yr hyn y caniateir ac na chaniateir ei wneud yn yr eglwys honno neu'r tir hwnnw heb i hawleb gael ei rhoi ac ar ba amodau (os o gwbl).
- Bydd unrhyw gyfeiriad yn yr adran hon at eglwys neu dir yn cynnwys rhan neu rannau o’r cyfryw eglwys neu dir ac unrhyw gyfarpar ynddynt neu arnynt.
Penodi Canghellor yr Esgobaeth
24.
- Bydd yr Esgob o bryd i’w gilydd, yn ôl yr angen, yn penodi person cymwys a phriodol i fod yn Ganghellor yr esgobaeth a Llys yr Esgobaeth.
- Bydd y sawl a benodir yn Ganghellor yn gymunwr, yn gyfreithiol gymwys, a hefyd yn gymwys i fod yn aelod o’r Corff Llywodraethol.
- Gall yr Esgob o bryd i’w gilydd, yn ôl y galw, benodi person addas a phriodol i fod yn Ddirprwy Ganghellor, a bydd gan bob un a benodir felly holl alluoedd a gall gyflawni holl ddyletswyddau’r Canghellor y penodwyd ef neu hi i weithredu drosto, ar yr amod bob amser y bydd pob Dirprwy Ganghellor yn cyflawni gofynion is-adran (2).
- Bydd pob Canghellor a Dirprwy Ganghellor, oni bydd eisoes wedi ymddiswyddo neu wedi ei ddiswyddo, yn ymddeol ar ei ben-blwydd yn pymthegfed a thrigain. bymtheg a thrigain.
- Ni ellir diswyddo na Changhellor na Dirprwy Ganghellor ond ar orchymyn yr Esgob, wedi ei gadarnhau gan Lys y Dalaith.
- Swyddi mygedol fydd swyddi Canghellor a Dirprwy Ganghellor.
- Bydd yr holl alluoedd a dyletswyddau a berthyn i Ganghellor ac a draethir yn y Ddogfen Benodi yn parhau mewn grym er bod yr esgobaeth yn wag, heb angen Dogfen Benodi ychwanegol tra bo’r esgobaeth yn wag.
25.
- Bydd y Canghellor yn gwrando a phenderfynu yn breifat ar bob dadl ynglŷn â ffioedd dyledus i Lys yr Esgobaeth neu i’r Cofrestrydd.
- Gellir apelio i Lys y Dalaith yn erbyn dyfarniad y Canghellor ar unrhyw gwestiwn ynglŷn â’r cyfryw ffioedd, a bydd penderfyniad Llys y Dalaith yn derfynol.
- Rhaid anfon rhybudd ysgrifenedig o unrhyw apêl y cyfeirir ati yn isadran (1) i Gofrestrydd Llys y Dalaith o fewn 28 diwrnod i ddyddiad y penderfyniad yr apelir yn ei erbyn.
26.
Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r Cyfansoddiad, ac mewn perthynas â chaniatáu trwyddedau priodas a phenodi dirprwyon, bydd gan bob Canghellor, yn ogystal ag unrhyw awdurdod neu alluoedd a roddir gan y Cyfansoddiad, yr awdurdod a’r galluoedd (ac eithrio ynglŷn â ffioedd) yr oedd gan Ganghellor hawl iddynt ar 30 Mawrth 1920, a bydd yn arfer yr awdurdod a’r galluoedd hynny yn ôl y gyfraith a’r arfer fel yr oedd y pryd hwnnw.
Penodi Cofrestrydd yr Esgobaeth
27.
- Bydd yr Esgob o bryd i’w gilydd, yn ôl y galw, yn penodi person cymwys a phriodol yn Gofrestrydd yr esgobaeth a Llys yr Esgobaeth.
- Bydd y sawl a benodir yn Gofrestrydd yn gyfreithiol gymwys.
- Gall yr Esgob o bryd i’w gilydd, yn ôl y galw, benodi person addas a phriodol i fod yn Ddirprwy Gofrestrydd, a bydd gan bob un a benodir felly holl alluoedd a gall gyflawni holl ddyletswyddau’r Cofrestrydd y penodwyd ef neu hi i weithredu drosto, ar yr amod bob amser y bydd pob Dirprwy Gofrestrydd yn cyflawni gofynion is-adran (2).
- Bydd pob Cofrestrydd a Dirprwy Gofrestrydd esgobaeth, oni bydd eisoes wedi ymddiswyddo neu wedi ei ddiswyddo, yn ymddeol ar ei ben- blwydd neu ei phenblwydd yn ddeg a thrigain.
- Ni ellir diswyddo unrhyw Gofrestrydd na Dirprwy Gofrestrydd esgobaeth ond ar orchymyn yr Esgob a bydd gan unrhyw Gofrestrydd neu Ddirprwy Gofrestrydd hawl i apelio at Lys y Dalaith yn erbyn y gorchymyn o fewn cyfnod a chwech wythnos wedi ei hysbysu ohono.
- Bydd gan y Cofrestrydd hawl i gyflog a bennir ac a delir gan Fwrdd Cyllid yr esgobaeth.
- Gall yr Esgob, wrth benodi Dirprwy Gofrestrydd, fynegi mewn ysgrifen i Fwrdd Cyllid yr esgobaeth pa gyfran, os bydd cyfran, o gyflog y Cofrestrydd a delir i’r Dirprwy, ac wedi hynny bydd Bwrdd Cyllid yr esgobaeth yn talu i’r Cofrestrydd a’r Dirprwy yn unol â’r gyfran a fynegwyd gan yr Esgob.
- Bydd yr holl alluoedd a dyletswyddau a berthyn i Gofrestrydd ac a draethir yn y Ddogfen Benodi yn parhau mewn grym er bod yr esgobaeth yn wag, heb angen Dogfen Benodi ychwanegol tra bo’r esgobaeth yn wag.
28.
Bydd pob Canghellor a Dirprwy Ganghellor, cyn dechrau ar waith ei swydd, yn gwneud ac yn arwyddo yng ngŵydd yr Esgob neu ei gomisari, ddatganiad yn y ffurf hon:
Yr wyf fi, J ... S ..., trwy hyn yn difrifol ddatgan fy mod yn gymunwr, yn gyfreithiol gymwys a hefyd yn gymwys i fod yn aelod o Gorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru, ac nad wyf yn aelod o’r un corff crefyddol nad yw mewn cymundeb â’r Eglwys yng Nghymru.
Rhan V: Llys y Dalaith
Aelodaeth
29.
- Aelodau Llys y Dalaith fydd pedwar Barnwr eglwysig a chwe Barnwr lleyg a benodir gan Fainc yr Esgobion, a bydd y Fainc yn yr un modd o bryd i’w gilydd yn enwi un o’r Barnwyr i fod yn llywydd Llys y Dalaith.
- Bydd pob Barnwr eglwysig yn Llys y Dalaith yn glerig a fu mewn Urddau Sanctaidd am o leiaf bymtheng mlynedd ac nad yw wedi ymddeol na chyrraedd ei b/phen-blwydd yn ddeg a thrigain mlwydd oed; bydd pob Barnwr lleyg yn gymunwr o dan bymtheg a thrigain oed ac yn gyfreithiol gymwys.
- Rhaid i’r Barnwyr hyn fod yn gymwys i fod yn aelodau o Gorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru neu o Synod Gyffredinol Eglwys Loegr, a chyn dechrau ar waith ei swydd rhaid iddynt wneud ac arwyddo yng ngŵydd Esgob Cadeiriol neu ei gomisari ddatganiad yn y ffurf hon:
Yr wyf fi, J … S …, trwy hyn yn difrifol ddatgan
(a) fy mod wedi fy ordeinio ers mwy na phymtheng mlynedd a fy mod yn gymwys i fod yn aelod o Gorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru (neu o Synod Cyffredinol Eglwys Loegr) ac nad wyf yn aelod o’r un corff crefyddol nad yw mewn cymundeb â’r Eglwys yng Nghymru.
neu
(b) fy mod yn gymunwr, yn gyfreithiol gymwys, a’m bod yn gymwys i fod yn aelod o Gorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru (neu o Synod Gyffredinol Eglwys Loegr), ac nad wyf yn aelod o’r un corff crefyddol nad yw mewn cymundeb â’r Eglwys yng Nghymru. - Mewn unrhyw achos pan fo Esgob neu Esgob Cynorthwyol yn wrthrych apêl at Lys y Dalaith gan y Tribiwnlys bydd aelodaeth Llys y Dalaith yn cynnwys Esgob neu Esgob Cynorthwyol na fu ganddo unrhyw ran flaenorol yn yr achos, wedi ei enwebu gan y Llywydd, a bydd yn aelod llawn o’r Llys a fydd yn ymdrin â’r achos y penodwyd ef ar ei gyfer.
- Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r bennod hon, ni ddiswyddir Barnwr ond ar orchymyn Mainc yr Esgobion, wedi’i gadarnhau gan fwyafrif ar wahân o Urdd Clerigion ac Urdd Lleygion y Corff Llywodraethol.
(a) Yn ddarostyngedig i baragraff (b), bydd pob Barnwr yn dal ei swydd am saith mlynedd neu hyd ymddiswyddo neu ei ddiswyddo, ond bydd ar dir i’w ail-benodi.
(b) Bydd Barnwr eglwysig yn cilio o’i swydd pan fo’n ymddeol neu’n cyrraedd ei b/phen-blwydd yn ddeg a thrigain oed, pa un bynnag fydd gyntaf, a bydd pob Barnwr lleyg yn cilio o’i swydd ar gyrraedd ei b/phen-blwydd yn bymtheg a thrigain oed ac eithrio, yn y naill achos a’r llall, y gall gwblhau gwrando achos y mae a wnelo eisoes ag ef.- Bydd Mainc yr Esgobion yn llenwi pob lle gwag ymysg barnwyr Llys y Dalaith trwy benodi Barnwr eglwysig neu leyg, yn ôl y digwydd, yn yr un modd ac ar yr un amodau ag wrth benodi gyntaf.
30.
Bydd un Barnwr eglwysig a dau Farnwr lleyg yn gworwm Llys y Dalaith, a’u dyfarniad hwy neu ddyfarniad y mwyafrif ohonynt fydd dyfarniad y Llys.
31.
Nid anghymhwysir Barnwr na’i atal rhag gwrando a phenderfynu ar achos gan y ffaith ei fod yn aelod o ryw gorff yn yr Eglwys yng Nghymru sy’n un o’r pleidiau yn yr achos, eithr ni chaniateir, mewn achos yn ymwneud ag aelod o’r Eglwys yng Nghymru, i nac Esgob na Changhellor unrhyw esgobaeth y mae’r cyfryw aelod naill ai’n dal swydd neu’n byw ynddi gymryd rhan.
Awdurdod
32.
- Bydd gan Lys y Dalaith y gallu i wrando a phenderfynu ar:
(a) apeliadau o Lys Esgobaeth;
(b) apeliadau o’r Tribiwnlys Disgyblu;
(c) apeliadau ynglŷn â sefydlu, coladu, enwebu i ofalaethau, methiant a hawliau penodi yn ymwneud â Chlerigion;
(d) unrhyw apeliadau neu faterion eraill a gyfeirir ato yn unol â’r Cyfansoddiad. - Bydd Llys y Dalaith yn cyflafareddu yn achos:
(a) unrhyw anghydfod rhwng Aelod o’r Eglwys yng Nghymru a Chorff y Cynrychiolwyr;
(b) unrhyw anghydfod rhwng Aelod o’r Eglwys yng Nghymru a Chynhadledd Esgobaeth; ac
(c) unrhyw apeliadau neu faterion eraill a gyfeirir ato yn unol â’r Cyfansoddiad. - Cyflwynir rhybudd ysgrifenedig o unrhyw apêl y cyfeirir ati yn is-adran (1) i gofrestrydd Llys y Dalaith o fewn 28 diwrnod i ddyddiad y penderfyniad yr apelir yn ei erbyn.
33.
Bydd penderfyniad Llys y Dalaith ar apêl neu gyflafareddiad yn derfynol a rhaid iddo ei hysbysu i Ysgrifenyddion y Corff Llywodraethol, Ysgrifennydd Corff y Cynrychiolwyr, Ysgrifennydd unrhyw gorff yn yr Eglwys yng Nghymru y mae’r sawl y mae’r gorchymyn yn effeithio arno yn aelod ohono, ac Ysgrifennydd Cyngor Plwyf Eglwysig unrhyw blwyf y mae naill ai’n dal swydd neu’n byw ynddo.
34.
Gall Llys y Dalaith atal unigolyn neu unrhyw gorff yn yr Eglwys yng Nghymru (ac eithrio’r Corff Llywodraethol neu Gorff y Cynrychiolwyr) am esgeuluso neu wrthod ufuddhau i unrhyw ddyfarniad, dedfryd neu orchymyn, fel y digwydd, o eiddo’r Archesgob, Esgob Cadeiriol neu unrhyw Lys, eithr ni fydd gorchymyn i atal Cynhadledd Esgobaeth yn ddilys heb gydsyniad yr Esgob.
Penodi Cofrestrydd Llys y Dalaith
35.
- Bydd Llys y Dalaith o bryd i’w gilydd yn ôl y galw yn penodi person cymwys a phriodol i fod yn Gofrestrydd y Llys.
- Rhaid i’r sawl a benodir yn Gofrestrydd fod yn gymunwr, yn gyfreithiol gymwys a hefyd yn gymwys i fod yn aelod o’r Corff Llywodraethol.
- Bydd gan y Cofrestrydd hawl i gyflog i’w bennu a’i dalu gan Gorff Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru.
- Rhaid i Gofrestrydd nad yw eisoes wedi ymddiswyddo neu wedi ei ddiswyddo ymddeol ar ei ben-blwydd neu ei phen-blwydd yn ddeg a thrigain.
- Ni ellir diswyddo Cofrestrydd ond trwy orchymyn Llywydd Llys y Dalaith a bydd gan y Cofrestrydd hawl i apelio yn erbyn y cyfryw orchymyn.
- Bydd y weithdrefn i’w dilyn ynglŷn ag unrhyw apêl o’r fath fel a ganlyn:
(a) rhoddir rhybudd o’r apêl mewn ysgrifen i Gofrestrydd yr Archesgob o fewn 28 diwrnod wedi i Gofrestrydd Llys y Dalaith dderbyn hysbysiad o’r gorchymyn;
(b) gwrandewir yr apêl gan banel o bum aelod wedi eu penodi gan yr Archesgob yn unol â’r is-baragraff dilynol nesaf wedi iddo ymgynghori ag aelodau eraill Mainc yr Esgobion;
(c) bydd y panel yn cynnwys aelodau cymwys i fod yn aelodau o’r Corff Llywodraethol, dau ohonynt yn glerigion a thri yn aelodau lleyg, a dau o’r cyfryw aelodau lleyg gyda chymwysterau cyfreithiol;
(d) bydd y panel yn penderfynu ar ei reolau trefniadaeth ei hun; a
(e) bydd dyfarniad y panel yn derfynol. - Bydd y Cofrestrydd yn dal ei swydd yn ddarostyngedig i’r rheolau uchod ac yn ddarostyngedig hefyd i unrhyw delerau neu amodau pellach a osodir gan Lys y Dalaith.
36.
- Os bydd y Cofrestrydd yn glaf neu’n methu gweithredu dros dro, gall Llys y Dalaith benodi person cymwys a phriodol i weithredu’n Ddirprwy Gofrestrydd yn ystod y cyfryw afiechyd neu anallu; a bydd gan y sawl a benodir felly bob gallu a bydd yn cyflawni pob dyletswydd a berthyn i’r Cofrestrydd y penodwyd y Dirprwy i weithredu yn ei le, ar yr amod bob amser bod pob Dirprwy Gofrestrydd yn cyflawni gofynion adran 35(2).
- Telir i’r Dirprwy Gofrestrydd am ei wasanaeth neu ei gwasanaeth y swm hwnnw a farno Corff y Cynrychiolwyr yn gymwys.
37.
Bydd Cofrestrydd Llys y Dalaith ac unrhyw Ddirprwy Gofrestrydd iddo, cyn dechrau ar waith ei swydd, yn gwneud ac yn arwyddo yng ngŵydd un o Farnwyr Llys y Dalaith, ddatganiad yn y ffurf hon:
Yr wyf fi, J..S.. trwy hyn yn difrifol ddatgan fy mod yn gymunwr, yn gyfreithiol gymwys a hefyd yn gymwys i fod yn aelod o Gorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru, ac nad wyf yn aelod o’r un corff crefyddol nad yw mewn cymundeb â’r Eglwys yng Nghymru..
Rhan VI: Y Pwyllgor Rheolau
Pwyllgor Rheolau Tribiwnlys a Llysoedd yr Eglwys yng Nghymru
38.
- Bydd Pwyllgor Rheolau i Dribiwnlys a Llysoedd yr Eglwys yng Nghymru, a chanddo’r gallu i wneud a chyhoeddi rheolau at roi mewn grym ddarpariaethau’r Cyfansoddiad, yn cynnwys darpariaethau yn ymwneud â hawlebau ac â rheoleiddio pob mater y mae a wnelo â gweinyddu, arfer neu drefn gweithredu’r Tribiwnlys neu unrhyw un o Lysoedd yr Eglwys yng Nghymru.
- Gall y Pwyllgor Rheolau o bryd i’w gilydd newid neu amrywio’r rheolau a bydd ganddo bŵer(yn ddarostyngedig i'r cyfansoddiad ac unrhyw gyfarwyddyd gan y Pwyllgor Sefydlog) i reoleiddio ei weithdrefn ei hun.
- Aelodau’r Pwyllgor Rheolau fydd yr aelodau hynny y gellir eu penodi o bryd i'w gilydd gan y Pwyllgor Sefydlog. Bydd y Pwyllgor Sefydlog yn sicrhau y bydd aelodaeth y Pwyllgor Rheolau yn cynnwys o leiaf un aelod o Lys y Dalaith, un aelod o'r Tribiwnlys Disgyblu ac un Canghellor neu Ddirprwy Ganghellor Esgobaethol.
- Ni fydd methiant aelod o’r Pwyllgor Rheolau i fod yn bresennol yn un o’i gyfarfodydd yn rhwystro’r Pwyllgor rhag mynd ymlaen â’i waith nac yn annilysu’i weithrediadau.
- Rhaid i dri neu fwy o aelodau’r Pwyllgor Rheolau arwyddo copi o unrhyw reol newydd a wneir gan y Pwyllgor a’i osod gyda Chofrestrydd Llys y Dalaith, a rhaid iddo yntau, cyn gynted ag y gellir wedi hynny, anfon copi wedi’i ardystio o’r cyfryw reol newydd i bob un o Farnwyr Llys y Dalaith, pob aelod o’r Tribiwnlys, Cofrestrydd y Tribiwnlys, Canghellor pob esgobaeth a Chofrestrydd pob esgobaeth. I ddiben yr is-adran hon cyfrifir unrhyw reol y gwneir newid ynddi yn rheol newydd.
Rhan VII: Amrywiol alluoedd a darpariaethau yn ymwneud ag Esgobion Esgobaethau a Chofrestrydd yr Archesgob
39.
- Bydd gan yr Esgob yr Esgobaeth yr hawl i atal o’i swydd unrhyw un sy’n dal swydd yn ei esgobaeth ac y gwnaed cyhuddiad yn ei erbyn nes bod yr achos yn ei erbyn wedi’i wrando a’i benderfynu.
- Bydd gan yr Esgob yr Esgobaeth yr hawl i atal o’i swydd unrhyw un sy’n dal swydd yn ei esgobaeth os yw’r Esgob wedi cael ei gynghori i wneud hynny gan Banel Diogelu’r Dalaith.
- Bydd gan Gofrestrydd yr Archesgob yr hawl i atal o’i swydd unrhyw un sy’n dal swydd yn y Dalaith os yw Cofrestrydd yr Archesgob wedi’i gynghori i wneud hynny gan Banel Diogelu’r Dalaith.
- Cyn defnyddio’r hawl yn is-adran (3), bydd Cofrestrydd yr Archesgob yn ymgynghori â’r canlynol:
- Esgob yr Esgobaeth berthnasol; ac
- Archesgob (neu, os mai’r Archesgob yw Esgob yr Esgobaeth berthnasol, Uwch Esgob yr Esgobaeth).
- Yn ystod unrhyw ataliad, bydd gan:
- Esgob yr Esgobaeth; neu
- (yn achos atal Esgob yr Esgobaeth neu anallu Esgob yr Esgobaeth) yr Archesgob
yr hawl i wneud trefniadau ar gyfer cyflawni’r dyletswyddau’r swydd honno yn ystod y cyfryw ataliad.
40.
- Bydd gan Esgob yr Esgobaeth y gallu i orchymyn na chaiff Clerig neu ddiacones a ataliwyd fyw mewn Persondy fel y diffinnir ym Mhennod VII adran 1(d) na gadw meddiant ar y clastir tra bo wedi’i atal, a gall orchymyn i’r cyfryw Glerig neu ddiacones drosglwyddo pob llyfr, allwedd, ac eiddo arall a ddelir ganddo neu ganddo neu ganddi yn rhinwedd ei swydd i’r sawl a benodir gan yr Esgob i ofalu am yr eiddo hwnnw dros dro ac ar ran Bwrdd Cyllid yr Esgobaeth o fewn 14 diwrnod.
- Gall Clerig neu ddiacones a ataliwyd apelio yn erbyn gorchymyn o dan is-adran (1) i Lywydd Llys y Dalaith drwy roi rhybudd ysgrifenedig i Gofrestrydd Llys y Dalaith o fewn 14 diwrnod i gael ei hysbysu am y cyfryw orchymyn ac os oes apêl o’r fath yn cael ei gwneud bydd y gorchymyn yr Esgob yn cael ei atal nes penderfynu’r apêl.
41.
- Bydd yn gyfreithlon i Esgob yr Esgobaeth drwy ysgrifen dan ei law neu ei llaw orchymyn atafaelu unrhyw gyflog, neu ryw ran o’r cyfryw gyflog a fyddai fel arall yn daladwy i Glerig neu ddiacones a ataliwyd, dros y cyfryw gyfnod (gan ddechrau ddim llai 14 diwrnod o ddyddiad y gorchymyn) ac ar yr amodau a fo’n gymwys ym marn yr Esgob, a rhaid i’r Esgob anfon copi o’r gorchymyn i Ysgrifennydd Bwrdd Cyllid yr Esgobaeth ac Ysgrifennydd Corff y Cynrychiolwyr, a fydd ac Ysgrifennydd Corff y Cynrychiolwyr yn cyflawni amodau’r gorchymyn.
- Gall Clerig neu ddiacones a ataliwyd apelio yn erbyn gorchymyn o dan is-adran (1) i Lywydd Llys y Dalaith drwy roi rhybudd ysgrifenedig i Gofrestrydd Llys y Dalaith o fewn 14 diwrnod i gael ei hysbysu am y cyfryw orchymyn ac os oes apêl o’r fath yn cael ei gwneud bydd y gorchymyn yr Esgob yn cael ei atal nes penderfynu’r apêl.
42.
- Pan ddaw cyfnod rhoi rhybudd am unrhyw apêl i ben neu pan wrthoda Llys y Dalaith apêl gan Glerig y gorchmynnwyd ei ddiswyddo o Urddau Sanctaidd a’i ddiarddel o swydd Clerig yn yr Eglwys yng Nghymru, bydd Esgob yr esgobaeth y mae’r Clerig yn dal swydd neu’n byw ynddi yn :
(i) cyflawni Gweithred Diswyddo;
(ii) peri cofrestru’r cyfryw yng Nghofrestrfa Archesgob Cymru. - Bydd Cofrestrydd yr Archesgob ar unwaith yn trosglwyddo copi swyddfa o gofrestriad y Weithred i’r Clerig ac i Esgob yr esgobaeth ac yn rhoi rhybudd i’r Archesgob ei fod wedi gwneud hynny.
- Wedi derbyn y copi swyddfa am gofrestru’r Weithred, bydd Esgob yr esgobaeth yn peri cofnodi’r Weithred yng Nghofrestrfa’r Esgobaeth, ac ar hynny ac wedi hynny (ond nid cyn hynny) bydd yr un canlyniadau’n dilyn parthed y sawl a ddiswyddwyd ac a diarddelwyd yn y Weithred â phe bai ef neu hi wedi cyflawni, cofrestru a chofnodi Gweithred Ildio.
- Pan orchmynno’r Tribiwnlys amddifadu neu atal a phan ddaw’r cyfnod rhoi rhybudd o apêl i ben neu i Lys y Dalaith wrthod apêl gan Glerig y gwnaed gorchymyn o’r fath yn ei erbyn, rhaid i Esgob yr esgobaeth, wrth orchymyn yr amddifadu neu’r atal, hysbysu hynny i Ysgrifenyddion y Corff Llywodraethol, Ysgrifennydd Corff y Cynrychiolwyr, Ysgrifennydd unrhyw gorff yn yr Eglwys yng Nghymru y mae’r sawl y mae’r gorchymyn yn effeithio arno yn aelod ohono, ac Ysgrifennydd Cyngor Plwyf Eglwysig unrhyw blwyf y mae naill ai’n dal swydd neu’n byw ynddo.
Rhan VIII – Ymweliadau
43.
- Cynhelir Ymweliadau Archesgobol megis cynt, a’r un fydd y gyfraith a’r arfer ynglŷn â hwy ag a oedd mewn grym ar 30 Mawrth 1920.
- Cynhelir Ymweliadau Esgobol ym mhen y cyfryw gyfnodau ag a benderfynir gan yr Esgob, a’r Esgob fydd yn penderfynu ffurf y cyfryw Ymweliad.
- Bydd Archddiaconiaid yn cynnal Ymweliadau cyson â holl blwyfi’r archddiaconiaeth, a’r Archddiacon fydd yn penderfynu ffurf yr Ymweliad yn ddarostyngedig i unrhyw gyfarwyddyd gan y Corff Llywodraethol.
Rhan IX: Cofrestrydd yr Archesgob
Penodi Cofrestrydd yr Archesgob
44.
- Bydd yr Archesgob, o bryd i’w gilydd yn ôl y galw yn penodi un person cymwys a phriodol i fod yn Gofrestrydd yr Archesgob.
- Gall Cofrestrydd yr Archesgob, ar ôl cael cydsyniad yr Archesgob, o bryd i’w gilydd, yn ôl y galw, benodi person cymwys a phriodol i fod yn Ddirprwy Gofrestrydd yr Archesgob, a bydd gan bob un a benodir felly holl alluoedd a gall gyflawni holl ddyletswyddau Cofrestrydd yr Archesgob.
- Bydd y sawl a benodir yn Gofrestrydd neu Ddirprwy Gofrestrydd, oni bydd eisoes wedi ymddiswyddo neu wedi ei ddiswyddo, yn ymddeol ar ei ben-blwydd yn ddeg a thrigain.
- Ni ellir diswyddo Cofrestrydd neu Ddirprwy Gofrestrydd yr Archesgob ond ar orchymyn yr Archesgob a bydd gan unrhyw Gofrestrydd neu Ddirprwy Gofrestrydd hawl i apelio i Lys y Dalaith yn erbyn y gorchymyn o fewn cyfnod o chwe wythnos wedi ei hysbysu ohono.
- Bydd yr holl alluoedd a dyletswyddau a berthyn i Gofrestrydd yr Archesgob yn parhau mewn grym er gwaethaf bod yr Archesgobaeth yn wag.
- Bydd yr holl alluoedd a dyletswyddau a berthyn i Gofrestrydd yr Archesgob yn parhau i gael eu cyflawni gan Ddirprwy a benodwyd o dan is-adran (3) os daw swydd Cofrestrydd Archesgob yn wag.
Rhestr Cofrestrydd yr Archesgob
45.
- Yn ddarostyngedig i’r darpariaethau a ganlyn yr adran hon, dyletswydd Cofrestrydd yr Archesgob fydd cadw rhestr ("y Rhestr") o bob Clerig a chyn Glerig sy’n dal yn fyw:
(a) sydd ar unrhyw adeg wedi bod yn destun cosb o gael ei atal neu ei anghymhwyso am bum mlynedd neu fwy, neu ei ddiswyddo o Urddau Sanctaidd (am ba reswm bynnag);
(b) sy'n ddarostyngedig ar hyn o bryd i unrhyw gosb arall a restrir yn adran 18 (c)-(h) o'r Bennod hon (am ba reswm bynnag), neu sydd wedi bod yn destun cosb o'r fath o fewn y tair blynedd diwethaf;
(c) sydd wedi ymddiswyddo o'i swydd neu o’i ganiatâd i weinyddu yn yr Eglwys yng Nghymru o fewn y tair blynedd diwethaf ar ôl i gŵyn ysgrifenedig gael ei wneud yn ei erbyn i'r Esgob neu yn dilyn ymchwiliad gan yr heddlu neu asiantaeth statudol arall; neu
(d) sydd ar unrhyw adeg wedi ildio Urddau Sanctaidd yn wirfoddol yn unol â Chanon Anableddau Clerigol 1990. - Bydd Cofrestrydd yr Archesgob yn cadw'r Rhestr mewn pedair adran ar wahân gyda phob adran yn cynnwys yr unigolion yn isadrannau 1(a), (b), (c) a (d) yn y drefn honno.
a) Bydd pob cofnod yn adrannau (a) a (b) o'r Rhestr yn cynnwys disgrifiad byr o'r gosb a roddwyd a'r ymddygiad y mae’r gosb yn berthnasol iddo ar ffurf a gymeradwyir gan Lywydd y Tribiwnlys Disgyblu.
b) Bydd pob cofnod yn adran (c) o'r Rhestr yn cynnwys disgrifiad byr o'r gŵyn neu'r ymchwiliad a ragflaenodd yr ymddiswyddiad ar ffurf a gymeradwyir gan Lywydd y Tribiwnlys Disgyblu.- Caiff unigolyn sy'n ymddangos ar y Rhestr ofyn i Gofrestrydd yr Archesgob am gopi o'r cofnod perthnasol a chaiff ofyn i Lywydd Llys y Dalaith adolygu geiriad y disgrifiad a gofnodir o dan is-adran 3 uchod os cred ei fod yn anghywir neu'n gamarweiniol. Bydd Cofrestrydd yr Archesgob yn diwygio’r cyfryw ddisgrifiad yn unol â chyfarwyddyd Llywydd Llys y Dalaith.
- Bydd Rhestr Cofrestrydd yr Archesgob ar gael i'w harchwilio gan Esgobion, Esgobion Cynorthwyol, Cofrestryddion Esgobaethau, Archddiaconiaid a Phanel Diogelu’r Dalaith. Bydd hefyd ar gael i weithwyr cyflogedig Corff y Cynrychiolwyr a awdurdodir gan Gofrestrydd yr Archesgob o bryd i'w gilydd.
- Caiff Cofrestrydd yr Archesgob, yn ychwanegol at ei bwerau i benodi dirprwy yn unol ag Adran 44(2)[1], ddirprwyo unrhyw un o'i swyddogaethau o dan yr adran hon i weithiwr cyflogedig arall Corff y Cynrychiolwyr gyda chydsyniad yr Archesgob.