Pennod V: Rheoliadau yn ymwneud ag ethol Archesgob ac Esgobion Cadeiriol
Yn unol â’i alluoedd o dan Bennod II y Cyfansoddiad, y mae’r Corff Llywodraethol trwy hynyma yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn o dan y teitl “Rheoliadau’r Corff Llywodraethol yn ymwneud ag Ethol Archesgob ac Esgobion Cadeiriol”, a draethir fel a ganlyn:
- Rhan I: Penodi Etholwyr Esgob
- Rhan II: Coleg Ethol Archesgob
- Rhan III: Coleg Ethol Esgobion
Rhan I: Penodi Etholwyr Esgob
1.
Bydd pob Etholwr Esgob yn berson lleyg o dan bymtheg ar hugain mlwydd oed neu’n Glerig o dan ddeg a thrigain mlwydd oed a bydd y naill a’r llall yn gymwys i fod yn aelod o’r Corff Llywodraethol.
2.
2.1 Bydd Cynhadledd pob Esgobaeth yn ei chyfarfod cyntaf, ac wedi hynny yng nghyfarfod cyntaf pob Cynhadledd Esgobaeth newydd ei hethol, yn penodi:
2.1.1 sgobaeth ac sy’n preswylio ynddi; a
2.1.2 chwech o leygion sydd naill ai’n preswylio yn yr esgobaeth neu y mae eu henwau ar rôl etholwyr un o Blwyfi’r esgobaeth neu sy’n dal swydd esgobaethol yn yr esgobaeth;
i fod yn Etholwyr Esgob yn y Coleg Ethol; a phenodir y Clerigion gan aelodau clerigol y Gynhadledd a’r lleygion gan yr aelodau lleyg, a bydd y Gynhadledd yn gwneud rhestr o’r Etholwyr Esgob yn unol a Rheoliad 2.3.
2.2 Ar yr un adeg ac yn yr un modd gwneir rhestr atodol o naw aelod Clerigol a naw aelod lleyg, ac o’r rhestr honno y llenwir bylchau achlysurol yn nifer yr Etholwyr Esgob.
2.3 Penderfynir y drefn y gosodir enwau’r rhai a benodir dan Reoliadau 2.1 a 2.2 ar restr yr Etholwyr Esgob a’r rhestr atodiadol trwy bleidlais gudd a gymerir adeg eu penodi, ac os digwydd bod y pleidleisiau’n gyfartal, Llywydd y Gynhadledd fydd yn penderfynu trefn y rhai a gafodd bleidleisiau cyfartal.
3.
3.1 Yn amodol ar Reoliadau 5.5 a 16.4, bydd Clerig, a benodwyd yn Etholwr Esgob yn parhau fel y cyfryw yn unig tra bo’n dal trwydded oddi wrth yr Esgob i weinyddu yn yr esgobaeth ac yn preswylio ynddi, ar yr amod y bydd Etholwr Esgob, a oedd ar adeg ei ethol yn Glerig yng ngweinidogaeth gyflogedig amser-llawn yr Eglwys yng Nghymru, yn peidio â bod yn Etholwr Esgob pan beidio â dal swydd yng ngweinidogaeth gyflogedig amser-llawn yr Eglwys yng Nghymru, eithr ni chaiff hynny fod yn rhwystr iddo fod ar dir i’w ailethol yn Etholwr Esgob.
3.2 Yn amodol ar Reoliadau 5.5 a 16.4, ni chaiff person lleyg a benodwyd yn Etholwr Esgob barhau yn y swydd honno ond tra bydd yn byw yn yr esgobaeth a’i penododd, ac eithrio pan fo’r Etholwr Esgob yn dal swydd esgobaethol neu pan fo’i enw’n ymddangos ar rôl etholwyr plwyf yn yr esgobaeth honno.
4.
4.1 Bydd Ysgrifennydd Cynhadledd pob Esgobaeth yn anfon rhestr o Etholwyr Esgob yr esgobaeth i’r Archesgob, i bob Esgob Cadeiriol ac i Gofrestrydd yr Archesgob yn union wedi penodi’r etholwyr hynny.
4.2 Gall Etholwr Esgob ymddiswyddo trwy hysbysiad ysgrifenedig i Ysgrifennydd Cynhadledd yr Esgobaeth.
4.3 Os bydd lle gwag yn nifer yr Etholwyr Esgob, gosodir yr enw cyntaf sydd ar y rhestr atodol ar ddiwedd rhestr yr Etholwyr Esgob, a daw’r person hwnnw yn Etholwr Esgob, a bydd Ysgrifennydd Cynhadledd yr Esgobaeth yn hysbysu hynny yn unol â Rheoliad 4.1.
4.4 Os bydd (a) lle gwag yn nifer yr Etholwyr Esgobol a (b) dim enwau ar y Rhestr Atodol berthnasol, gall Cynhadledd yr Esgobaeth (boed hynny mewn cyfarfod neu drwy'r post a/neu ddulliau electronig) benodi etholwyr pellach i lenwi'r lle gwag neu’r lleoedd gwag achlysurol. Bydd Rheoliad 2.3 yn berthnasol i'r bleidlais a gynhelir i lenwi'r lle gwag neu leoedd gwag achlysurol, ac eithrio y bydd pob un a benodwyd yn y bleidlais bellach hon yn eistedd o dan y rhai a benodwyd yn unol â Rheoliad 2 ar y rhestr o Etholwyr.
4.5 Gall Cynhadledd Esgobaethol wneud darpariaeth i ddirprwyo etholiadau i lenwi swyddi gwag achlysurol ar y rhestr o Etholwyr Esgobol a'r rhestr atodol i'w Phwyllgor
Sefydlog. Fel arall, bydd etholiadau o'r fath yn mynd rhagddynt fel y nodir yn Rheoliad 4.4.
4.6 Os penodwyd Etholwr i gynrychioli mwy nag un esgobaeth, bydd Cofrestrydd yr Archesgob yn hysbysu’r cyfryw Etholwr mewn ysgrifen ac yn galw arno i nodi mewn ysgrifen cyn pen un diwrnod ar hugain pa esgobaeth y mae am ei gwasanaethu. Os bydd Etholwr yn methu â nodi dewis, symudir ei enw oddi ar restr Etholwyr pob esgobaeth lle’r ymddengys.
Rhan II: Coleg Ethol Archesgob
5.1 O fewn deng niwrnod ar hugain i’r archesgobaeth fynd yn wag, bydd yr Esgob Cadeiriol blaenaf, yn gwysio pob aelod o’r Coleg Ethol Archesgob i gyfarfod a gynhelir heb fod cyn pedwar diwrnod ar ddeg nac ar ôl deng niwrnod ar hugain wedi dyddiad postio’r llythyr i ethol Archesgob.
5.2 Eithr os digwydd i unrhyw esgobaeth neu esgobaethau fod yn wag neu fynd yn wag ar y dydd yr â’r archesgobaeth yn wag neu o fewn pedwar diwrnod ar ddeg wedi hynny, ni ddechreuir gweithredu i lenwi’r archesgobaeth ac, os dechreuwyd gweithredu fe’i diddymir, nes bod etholiad Esgob neu Esgobion y cyfryw esgobaeth neu esgobaethau wedi’i gadarnhau/eu cadarnhau, ac ar hynny dilynir y drefn a orchmynnir ym mharagraff 5.1 at wysio’r Coleg, gan gymryd dyddiad cadarnhad yr etholiad olaf yn lle’r dyddiad yr aeth yr archesgobaeth yn wag.
5.3 Ac eithrio fel y darparwyd yma, nid rhaid bod pob esgobaeth yng Nghymru yn llawn cyn ethol Archesgob.
5.4 Gall y Pwyllgor Sefydlog benderfynu diwygio’r terfynau amser a bennwyd yn y rheoliad 5 hwn mewn perthynas â swydd wag unigol cyn belled nad yw’r cyfryw ddiwygiadau yn newid trefn cynnal cyfarfodydd Coleg Etholiadol yr Archesgob ac unrhyw Golegau Etholiadol Esgobion eraill.
5.5 Bydd Etholwr Esgob a benodwyd yn briodol ac sy’n gymwys i weithredu ar y diwrnod ar ôl i’r esgobaeth archesgobol fynd yn wag (oni bai bod dyddiad wedi’i ddisodli yn unol â rheoliad 5.2, ac os felly’r diwrnod ar ôl y dyddiad sydd wedi’i ddisodli) yn gymwys i weithredu fel Etholwr Esgob yng Ngholeg Etholiadol yr Archesgob.
6.
Os bydd unrhyw Etholwr yn methu neu’n anfodlon gweithredu, llenwir ei le gan yr aelod nesaf, clerigol neu leyg yn ôl y galw, ar restr Etholwyr yr esgobaeth.
7.
7.1 Ni fydd methiant i wysio unrhyw aelod nac absenoldeb unrhyw aelod yn annilysu’r cyfarfod.
7.2 Y cworwm i’r cyfarfod fydd dwy ran o dair o gyfanswm y nifer y mae ganddynt hawl i fod yn bresennol, yn cynnwys o leiaf un Esgob, ar yr amod nad oes yr un Esgobaeth heb gynrychiolaeth ac ar yr amod hefyd nad yw’r un Esgob sy’n bresennol yr unig gynrychiolydd o’r cyfryw Esgobaeth.
8.
8.1 Oni bai a nes bod y Corff Llywodraethol yn penderfynu fel arall, bydd y cyfarfod i ethol yr Archesgob yn gyfarfod corfforol a gynhelir yn Eglwys y Drindod Sanctaidd, Llandrindod ac os nad yw’r eglwys honno ar gael, mewn eglwys arall a ddewisir gan Bwyllgor Sefydlog y Corff Llywodraethol.
8.2 Gall y Coleg Ethol Archesgob gynnal un neu ragor o gyfarfodydd paratoadol cyn y cyfarfod yn y cnawd y cyfeirir ato yn Rheoliad 8.1. Y cworwm ar gyfer cyfarfodydd paratoadol o’r fath yw’r hyn a nodir yn Rheoliad 7.2. Bydd cyfarfod(ydd) o’r fath yn breifat.
9.
9.1 Ar y dydd a’r awr, ac yn y man a benodwyd ar gyfer yr etholiad, ac wedi gweinyddu’r Cymun Bendigaid, bydd y Llywydd yn datgan bod y Coleg Ethol Archesgob wedi’i gynnull i ethol Archesgob. Bydd y cyfarfod hwn yn breifat.
9.2 Bydd y Coleg Ethol Archesgob yn ethol Cadeirydd o blith aelodau’r Coleg.
10.
10.1 Pleidleisir trwy bleidlais gudd.
10.2 Ni phleidleisir yn ôl urddau.
10.3 Ni fydd gan yr un aelod bleidlais fwrw.
10.4 Cyfeirir unrhyw anghydfod ynglŷn â phleidlais at y Cadeirydd, a bydd ei ddyfarniad ef yn derfynol.
11.
Ni chaniateir i’r Coleg Ethol Archesgob ddirprwyo’i allu i ethol Archesgob.
12.
Os caiff unrhyw un ddwy ran o dair o bleidleisiau’r rhai sy’n bresennol ac yn pleidleisio, bydd yr esgobion yn.
13.
13.1 Os, ar derfyn y cyfarfod, na fydd yn parhau am fwy na thri diwrnod olynol, na fydd neb wedi derbyn dwy ran o dair o bleidleisiau’r rhai sy’n bresennol ac yn pleidleisio, trosglwyddir yr hawl i ethol i’r Esgobion a byddant hwythau’n cyhoeddi yn Archesgob Etholedig y sawl a etholir ganddynt.
13.2 Os bydd y Coleg heb ethol neb yn Archesgob cyn pen tri mis wedi’r dydd cyntaf y gellid gwneud hynny, trosglwyddir yr hawl i ethol i’r Esgobion a byddant hwythau’n cyhoeddi yn Archesgob Etholedig y sawl a etholir ganddynt.
14.
14.1 Os bydd yr Archesgob Etholedig yn derbyn y penodiad, bydd yr Esgobion yn ei gyhoeddi’n Archesgob ac yn anfon dogfen yn hysbysu ei etholiad a’i gydsyniad i Ysgrifenyddion y Corff Llywodraethol.
14.2 Os bydd yr Archesgob Etholedig yn gwrthod y swydd, neu os bydd heb dderbyn y penodiad cyn pen wyth diwrnod ar hugain mewn ysgrifen wedi’i chyfeirio at yr Esgobion, cynhelir etholiad arall mewn modd cyffelyb; ar yr amod, i bwrpas yr etholiad hwnnw, y cyfrifir yr archesgobaeth yn wag o’r dydd y gwrthodwyd y swydd neu’r wythfed dydd ar hugain wedi ethol yr Archesgob Etholedig, pa un bynnag a ddaw gyntaf.
15.
Gorseddir yr Archesgob o fewn tri mis i’w ethol, neu cyn gynted ag y bo modd wedi hynny, mewn lle yng Nghymru a benodir ganddo ef.
Rhan III: Coleg Ethol Esgob
16.
16.1 Pan fo Esgob neu’r Archesgob yn rhoi rhybudd o drigain diwrnod o leiaf o’u bwriad i ymddeol o’u hesgobaeth, bydd y Llywydd, yn gwysio pob aelod o’r Coleg Ethol Esgob i gyfarfod i’w gynnal heb fod yn hwy na thrigain diwrnod wedi’r dyddiad y mae’r cyfryw ymddeoliad i ddod i rym er mwyn ethol esgob i’r esgobaeth dan sylw.
16.2 Pan fo lle gwag o’r fath yn digwydd heb roi rhybudd ymlaen llaw o drigain diwrnod o leiaf i’r Llywydd, bydd y Llywydd yn gwysio pob aelod o’r Coleg i gyfarfod i’w gynnal na phedwar ugain a deg diwrnod ar ôl y dyddiad y daw/daeth yr esgobaeth yn wag er mwyn ethol Esgob i’r esgobaeth wag.Gall y Pwyllgor Sefydlog benderfynu diwygio’r terfynau amser a bennwyd yn y rheoliad 16 hwn mewn perthynas â swydd wag unigol cyn belled nad yw’r cyfryw ddiwygiadau yn newid trefn cynnal cyfarfodydd Coleg Etholiadol yr Archesgob ac unrhyw Golegau Etholiadol Esgobion eraill.
16.3 Bydd Etholwr Esgob a benodwyd yn briodol ac sy’n gymwys i weithredu ar y diwrnod ar ôl i’r esgobaeth fynd yn wag yn gymwys i weithredu fel Etholwr Esgob yng Ngholeg Etholiadol yr Esgob.
17.
Os bydd unrhyw Etholwr yn methu neu’n anfodlon bod yn bresennol mewn cyfarfod o’r Coleg, llenwir ei le yn y cyfarfod hwnnw gan yr aelod nesaf, clerigol neu leyg yn ôl y digwydd, ar y rhestr neu’r rhestr atodol yn ôl y digwydd.
18.
18.1 Ni fydd methiant i wysio unrhyw aelod nac absenoldeb unrhyw aelod yn annilysu’r cyfarfod.
18.2 Y cworwm i’r cyfarfod fydd dwy ran o dair o gyfanswm y nifer y mae ganddynt hawl i fod yn bresennol, yn cynnwys o leiaf un esgob, ar yr amod nad oes yr un Esgobaeth heb gynrychiolaeth ac ar yr amod hefyd nad yw’r un Esgob sy’n bresennol yr unig gynrychiolydd o’i Esgobaeth honno.
19.
Ni chaniateir i’r Coleg Ethol Esgob ddirprwyo’i allu i ethol Esgob ac eithrio'r amod a nodir yn Rheoliad 23.
20.
20.1 Bydd yr etholiad yn digwydd yn y cnawd yn Eglwys Gadeiriol yr esgobaeth wag neu unrhyw le arall o fewn yr Esgobaeth fel y nodir gan y Llywydd.
20.2 Gall y Coleg Ethol Esgob gynnal un neu ragor o gyfarfodydd paratoadol cyn y cyfarfod yn y cnawd y cyfeirir ato yn Rheoliad 20.1. Bydd cworwm cyfarfodydd paratoadol o’r fath yn unol â Rheoliad 18.2. Bydd cyfarfod(ydd) o’r fath yn breifat.
21.
21.1 Ar y dydd a’r awr, ac yn y man a benodwyd ar gyfer yr etholiad, ac wedi gweinyddu’r Cymun Bendigaid, bydd y Llywydd yn mynd i’r gadair ac yn cyhoeddi bod y Coleg wedi’i gynnull i ethol Esgob i’r esgobaeth. Bydd y cyfarfod hwn yn breifat.
21.2 Bydd y Llywydd yn gweithredu fel Cadeirydd y Coleg. Os na fydd yn awyddus i weithredu, gall y Coleg ethol Cadeirydd o blith yr aelodau.
21.3 Pleidleisir trwy bleidlais gudd.
21.4 Ni phleidleisir yn ôl urddau.
21.5 Ni fydd gan yr un aelod bleidlais fwrw neu ail bleidlais..
21.6 Cyfeirir unrhyw anghydfod ynglŷn â phleidlais at y Cadeirydd, a bydd y cyfryw ddyfarniad yn derfynol.
22.
Os caiff unrhyw un ddwy ran o dair o bleidleisiau’r rhai sy’n bresennol ac yn pleidleisio, bydd y Llywydd yn ei gyhoeddi yn Esgob Etholedig.
23.
23.1 Os, ar derfyn y cyfarfod, na fydd yn parhau am fwy na thri diwrnod olynol, na fydd neb wedi derbyn dwy ran o dair o bleidleisiau’r rhai sy’n bresennol ac yn pleidleisio, bydd y Coleg Ethol yn pleidleisio naill ai i gynnull o’r newydd am ail gyfarfod (i’w gynnal rhwng 21 a 60 diwrnod ar ôl diwedd y cyfarfod cyntaf) neu i drosglwyddo’r hawl i lenwi’r lle gwag i Fainc yr Esgobion.
23.2 Os ar ddiwedd ail gyfarfod, nad yw eto’n estyn y tu hwnt i dri diwrnod yn olynol, nad oes un unigolyn wedi derbyn dwy ran o dair o bleidleisau’r sawl sy’n bresennol ac yn pleidleisio, bydd yr hawl i lenwi’r lle gwag yn trosglwyddo i Fainc yr Esgobion.
24.
Os bydd y Coleg heb ethol neb yn Esgob Etholedig cyn pen chwe mis wedi i’r esgobaeth fynd yn wag, llenwir y lle gwag gan Fainc yr Esgobion..
25.
Os bydd yr Esgob Etholedig yn gwrthod y swydd, neu os bydd heb dderbyn y penodiad cyn pen wyth diwrnod ar hugain mewn ysgrifen wedi’i chyfeirio at y Llywydd, cynhelir etholiad arall mewn modd cyffelyb; ar yr amod, i bwrpas yr etholiad hwnnw, y cyfrifir yr esgobaeth yn wag o’r dydd y gwrthodwyd y swydd neu’r wythfed dydd ar hugain wedi ethol yr Esgob Etholedig, pa un bynnag a ddaw gyntaf.
26.
26.1 Os bydd yr Esgob Etholedig yn derbyn y penodiad, bydd y Llywydd yn anfon ei enw a t bob aelod o Fainc yr Esgobion, ac os byddant hwy neu fwyafrif ohonynt wedi ymgynnull mewn Synod wedi’u bodloni fod yr unigolyn yn gymwys, bydd y Llywydd yn cymryd y camre angenrheidiol i ddwyn yr etholiad i rym.
26.2 Oni bydd Mainc yr Esgobion neu’r mwyafrif ohonynt wedi’u bodloni, cynhelir etholiad arall mewn modd cyffelyb, ar yr amod i ddiben y cyfryw etholiad yr ystyrir i’r esgobaeth ddod yn wag ar ddyddiad y Synod lle nad oedd Mainc yr Esgobion neu’r mwyafrif ohonynt wedi’u bodloni, a chymhwysir Rheoliad 16.2.