Pennod VI: Penodi ac Enwebu
Rhan I: Penodi
Deon, Archddiacon, Canon a Phrebendari
1.
- Yn ddarostyngedig i’r Cyfansoddiad, Esgob yr Esgobaeth fydd yn penodi i swydd Deon, Archddiacon, Canon a Phrebendari.
- Ni phenodir neb yn Ddeon nac yn Archddiacon oni bu am o leiaf chwe blynedd mewn urddau offeiriad.
- Ni phenodir neb yn Brebendari onid yw’n glerig.
- Bydd Canon yn unigolyn lleyg neu glerig wedi’i benodi yn unol â Chynllun y Gadeirlan neu ei Chyfansoddiad a Rheoliadau pa bynnag drefn fydd mewn grym ar y pryd.
Deon Bro
2.
- Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau isadran (2), Esgob yr Esgobaeth fydd yn penodi i swydd Deon Bro.
- Pan fo swydd Deon Bro yn wag, bydd clerigion y Ddeoniaeth sydd mewn bywoliaeth neu’n dal trwydded oddi wrth Esgob yr Esgobaeth i weinyddu, mewn cyfarfod a elwir i’r diben hwnnw trwy rybudd o saith niwrnod clir gan Archddiacon yr Archddiaconiaeth lle mae’r ddeoniaeth, yn dewis tri o’u nifer sy’n gwasanaethu yn y weinidogaeth blwyf yn yr Eglwys yng Nghymru, i’w henwebu i Esgob yr Esgobaeth a bydd yntau’n penodi un o’r rhai a enwebwyd felly i’r swydd wag.
Canoniaid Anrhydeddus, Eciwmenaidd / Metropoliticaidd
3.
- Gall yr Esgob Esgobaethol hawl i benodi Canoniaid Anrhydeddus neu Ganoniaid Eciwmenaidd. Ni chaiff Caniaid Anrhydeddus neu Ganoniaid Eciwmenaidd fod yn aelodau o Gabidwl Cadeirlan oni bai ei fod fel arall wedi’i nodi yng Nghynllun perthnasol y Gadeirlan neu Gyfansoddiad a Rheoliadau’r Gadeirlan.
- Gall yr Archesgob benodi trwy ganiatâd yr Esgobion Ganoniaid Metropolitaidd a all fod yn unigolion lleyg neu’n Glerigion ac na fyddont yn aelodau o unrhyw Gabidwl Cadeirlan oni bai y nodir hynny gan Gynllun neu Gyfansoddiad a Rheoliadau’r Gadeirlan.
Swyddogion Eglwysi Cadeiriol
4.
Cabidwl Cadeirlan pob esgobaeth fydd yn penodi swyddogion clerigol a lleyg y gadeirlan.
Rhan II: Enwebu
Plwyfi a gysylltwyd ag Eglwys Gadeiriol
5.
Lle cysylltir Plwyf ag eglwys gadeiriol, y Deon fydd Periglor y Plwyf hwnnw ac ni chymhwysir at y Plwyf hwnnw y darpariaethau a gynhwysir yma rhag llaw ynglŷn ag enwebu.
Troeon Enwebu
6.
- Yn ddarostyngedig i is-adrannau (2) a (3), gan y rhai hyn ym mhob Esgobaeth y bydd ac y gweithredir, i’r graddau a draethir yma rhag llaw, yr hawl i goladu neu enwebu clerigion i’w sefydlu mewn gofalaethau gweigion, sef
(a) Esgob yr Esgobaeth;
(b) Bwrdd Enwebu’r Esgobaeth;
(c) Bwrdd Enwebu’r Dalaith. - Pan elo unrhyw berigloriaeth yn wag, gall yr Esgob, gyda chytundeb Bwrdd Enwebu’r Esgobaeth, ac ar ôl rhoi cyfle llawn i’r Cyngor Plwyf Eglwysig gyflwyno achos y Plwyf, atal y berigloriaeth twy ddedfryd a arwyddir ganddo a’i gosod yng Nghofrestrfa’r Esgobaeth. Ar derfyn yr atal hwnnw, oni orchmynnir yn wahanol yn ôl darpariaethau Pennod IV D, adferir y berigloriaeth.
- Pan elo’n wag berigloriaeth Plwyf a osodwyd ar restr diffygdalwyr yn unol â Phennod IV A adran 25, gall yr Esgob, yn gweithredu gyda chytundeb Bwrdd Enwebu’r Esgobaeth, naill ai goladu offeiriad yn Beriglor y Plwyf, neu atal y berigloriaeth yn y modd a ddarparwyd yma eisoes, am y cyfnod a benderfyno, a gwneud y cyfryw ddarpariaeth arall ar gyfer anghenion ysbrydol y Plwyf ag a farno’n gymwys. Pan fo’r Periglor a goladwyd gan yr Esgob yn gadael y Berigloriaeth, adferir yr hawl i enwebu i’r person neu’r Bwrdd a fyddai â’r hawl i enwebu oni bai i’r esgob weithredu dan y cymal hwn. Pan fo perigloriaeth wedi’i hatal yn unol â darpariaethau’r is-adran hon, adferir y berigloriaeth ar derfyn y cyfnod atal, a bydd gan y person neu’r Bwrdd a oedd â’r hawl i enwebu ar ddyddiad yr atal yr hawl i enwebu cyn pen pedwar mis wedi terfynu’r atal; ac i ddibenion yr adrannau nesaf cyfrifir adeg terfynu’r atal fel y dyddiad yr aeth y berigloriaeth yn wag.
7.
- Bydd yr hawl i goladu neu enwebu i ofalaeth wag ym mhob Bywoliaeth gan yr Esgob un tro mewn pedwar, gan Fwrdd Enwebu’r Esgobaeth ddau dro, a chan Fwrdd Enwebu’r Dalaith y tro arall.
- Pan fo esgobaeth yn wag, gan yr Archesgob y bydd yr hawl a berthyn i Esgob yr Esgobaeth i goladu i fywoliaeth wag ac i benodi i unrhyw swydd eglwysig wag, ar yr amod bob amser y trosglwyddir yr hawl honno, onid arferwyd hi gan yr Archesgob pan oedd y swyddi hyn yn wag, i’w harfer gan Esgob newydd yr esgobaeth, ac os trosglwyddir hi felly fe gyfrifir i’r cyfryw ofalaeth neu swydd eglwysig ddod yn wag ar ddyddiad cadarnhau ethol yr Esgob newydd.
- Bydd trefn neu gylch y troeon y bydd yr Esgob a’r Byrddau Enwebu yn arfer eu hawl i goladu neu enwi i bob bywoliaeth fel a ganlyn:
Esgob
Bwrdd Enwebu’r Esgobaeth
Bwrdd Enwebu’r Dalaith
Bwrdd Enwebu’r Esgobaeth
ac felly yn y blaen yn olynol. - Yn achos:
(a) grwpio neu uno dau neu fwy o Blwyfi dan un Periglor; neu
(b) derfynu’r ataliad ar berigloriaeth yn unol â darpariaethau adran 6(2), ac eithrio i grwpio plwyfi; neu
(c) greu Plwyf newydd; neu
(d) Plwyf a grwpiwyd â Phlwyf arall neu Blwyfi eraill yn dod yn blwyf ar wahân
tro’r Esgob fydd y tro yn y cylch enwebu a gyfrifir ar gyfer yr achlysur hwnnw, a hwnnw’n dro cyntaf mewn cylch newydd o bedwar tro ar gyfer y fywoliaeth honno; a bydd trefn y gweddill o’r cylch enwebu yn dilyn yn olynol megis y darparwyd yn is-adran (3). - Pan fo’r periglor yn cyfnewid Bywiolaethau gyda chydsyniad yr Esgob a’r Bwrdd Enwebu, ni chyfrifir hynny’n un o’r troeon a enwyd yma.
8.
Bywoliaethau Rheithorol
- Bydd gan Beriglor bywoliaeth Reithorol y teitl Rheithor; ef fydd â gofal eneidiau ledled y Fywoliaeth Reithorol ac ef fydd yn gyfrifol am reoli a chydlynu holl waith y weinidogaeth ynddi. Bydd ganddo’r hawl i gymorth un neu ragor o Glerigion, a drwyddedir gan yr Esgob gyda’r teitl Ficer ac, onid yw yn y weinidogaeth ddi-dâl, ni thelir i’r ficer ddim llai na lleiafswm y cyflog a osodwyd i Beriglorion Plwyfi cyffredin ynghyd â thŷ neu lwfans tŷ. Gall Bywoliaeth Reithorol hefyd gael un neu ragor o guradiaid cynorthwyol.
- Bydd yr hawl i goladu neu enwebu periglor i’w sefydlu mewn Bywoliaeth Reithorol a ddaw’n wag yn unol â’r Bennod hon a Rheoliadau’r Corff Llywodraethol yn ymwneud â Phenodi ac Enwebu.
- Ar yr amod, yn achos ffurfio Bywoliaeth Reithorol, mai tro’r Esgob fydd hi i enwebu am y tro cyntaf (a fydd yn cynnwys penodi’r cyn-beriglor yn Rheithor y Fywoliaeth Reithorol newydd) ond bydd y troeon canlynol ynglŷn â’r fywoliaeth yn unol a’r Bennod hon ac â’r Rheoliadau.
- Penodir Ficer mewn Bywoliaeth Reithorol i’w swydd gan yr Esgob trwy trwydded dan sêl ar ôl ymgynghori â’r Rheithor. Cyn gwneud penodiad o’r fath, bydd yr Esgob, neu’r Archddiacon ar ei ran, yn ymgynghori â’r Ficer neu’r Ficeriaid (os oes rhai) yn y Fywoliaeth Reithorol ac â dau gynrychiolydd y plwyf ar Fwrdd Enwebu’r Esgobaeth.
- Gellir derbyn yn gyhoeddus mewn eglwys yn y Fywoliaeth Reithorol Ficer a benodwyd felly.
9.
Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r Cyfansoddiad:
(a) penodir i bob swydd yn yr Eglwys yng Nghymru na ddarperir yn benodol ar ei chyfer yma gan y sawl a oedd â’r hawl i benodi iddi ar ddyddiad pasio Deddf yr Eglwys yng Nghymru 1914 neu, os bu rhyw newid, gan y sawl a’i holynodd yn swyddogol;
(b) Llys y Dalaith fydd yn torri pob dadl ynglŷn â chan bwy y mae’r hawl i wneud penodiad o’r fath.
Rhan III: Datganiadau
10.
Bydd pawb a dderbynnir i Urddau Sanctaidd diacon neu offeiriad, neu a sefydlir neu a goledir i ofal eneidiau neu a drwyddedir yn Gurad Cynorthwyol neu yn Ddiacones, a phob Clerig a benodir i unrhyw swydd eglwysig yn yr Eglwys yng Nghymru, cyn y cyfryw ordeinio, sefydlu, coladu, trwyddedu neu benodi, yn gwneud ac yn arwyddo, yn ogystal â’r datganiad o ufudd-dod canonaidd i’r Esgob, neu ei Gomisari a benodwyd mewn ysgrifen, y datganiad a’r ymrwymiad a ganlyn, a hwnnw’n unig:
Yr wyf f i, J … S…, yn difrifol ddatgan fy nghred yn y Ffydd a ddatguddir yn yr Ysgrythur Lân ac a draethir yn y Credoau Catholig ac y tystiolaethir iddi yn y ffurfiaduron hanesyddol, sef: y Namyn Un Deugain Erthyglau Crefydd, y Llyfr Gweddi Gyffredin a Threfn Ordeinio Esgobion, Offeiriaid a Diaconiaid, a gyhoeddwyd yn 1664; ac mewn gweddi gyhoeddus a gweinyddu’r sacramentau defnyddiaf y ffurf wasanaethau a ganiateir gan awdurdod cyfreithlon a’r rheini’n unig.
Ac yr wyf drwy hyn yn cytuno i’m rhwymo gan Gyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru, ac i dderbyn a chyflawni ac ymostwng i unrhyw ddedfryd neu ddyfarniad a roddir arnaf ar unrhyw adeg gan yr Archesgob, Esgob Cadeiriol neu unrhyw un o Lysoedd yr Eglwys neu’r Tribiwnlys yng Nghymru.
Rhan IV: Darpariaethau Eraill
Gwrthod Sefydlu
11.
- Os bydd yr Esgob yn gwrthod sefydlu Clerig a enwebwyd gan Fwrdd Enwebu, bydd yn anfon hysbysiad ysgrifenedig am y gwrthod hwnnw, ynghyd â’r rhesymau drosto, at y Clerig dan sylw ac at Ysgrifennydd y Bwrdd, a fydd ar hynny yn cynnull cyfarfod arbennig o’r Bwrdd.
- Gall Clerig y gwrthododd yr Esgob ei sefydlu neu, gyda chaniatâd y Clerig, naill ai Fwrdd Enwebu’r Dalaith neu Fwrdd Enwebu’r Esgobaeth, trwy benderfyniad mewn cyfarfod arbennig, apelio at Lys y Dalaith o fewn un mis yn erbyn y gwrthod hwnnw.
- Os bydd Llys y Dalaith yn penderfynu bod y Clerig a enwebwyd yn berson cymwys a phriodol i’w sefydlu, bydd yr Esgob, neu ryw Gomisari a benodwyd ganddo mewn ysgrifen, yn sefydlu’r Clerig hwnnw.
- Os bydd Llys y Dalaith yn penderfynu nad yw’r Clerig yn berson cymwys a phriodol, arferir eilwaith yr hawl i enwebu i’r fywoliaeth wag, cyn pen mis o ddyddiad dyfarniad y Llys, gan y Bwrdd y gwrthodwyd ei enwebiad cyntaf. Os bydd yr Esgob eilwaith yn gwrthod sefydlu, a’r Llys ar yr apêl yn penderfynu nad yw’r Clerig a enwebwyd yn berson cymwys a phriodol, yna fe â’r hawl i benodi i’r ofalaeth wag honno i’r Esgob.
Canlyniad Sefydlu
12.
Pryd bynnag y bo Clerig a enwebir i ofalaeth eisoes yn Beriglor rhyw ofalaeth arall yng Nghymru, yna bydd sefydlu’r Clerig yn yr ofalaeth newydd yn gweithredu’n ymddiswyddiad o’r ofalaeth a ddaliai o’r blaen, oni fydd yr Esgob gyda chydsyniad yr Archesgob yn rhoi caniatâd i ddal y ddwy ofalaeth gyda’i gilydd.
Yr angen i ymddiswyddo o’r penodiad presennol
13.
- Pan fo Clerig a enwebir i ofalaeth yn dal swydd heb fod yng Nghymru sydd, ym marn Esgob yr esgobaeth, yn anghyson â’i benodiad i’r ofalaeth neu y mae’n annymunol iddo ei dal, gohirir sefydlu’r Clerig yn yr ofalaeth nes ei fod wedi ymddiswyddo o’r swydd honno a dangos i’r Esgob dystiolaeth ddigonol i’w fodloni ei fod wedi ymddiswyddo.
- Oni ddangosir y dystiolaeth honno i’r Esgob cyn pen deufis wedi’r enwebu, bydd yr enwebu ar hynny’n mynd yn ddi-rym, a bydd y Bwrdd Enwebu yn symud i enwebu rhyw Glerig arall i’r fywoliaeth fel petai’r fywoliaeth wedi mynd yn wag drannoeth terfyn y cyfnod hwnnw o ddeufis.
14.
Pryd bynnag y bo Clerig sy’n dal swydd eglwysig neu ofalaeth yng Nghymru yn derbyn swydd eglwysig neu ofalaeth y tu allan i Gymru, bydd ei waith yn ei derbyn, oni bydd yr Esgob yn penderfynu i’r gwrthwyneb, yn gweithredu’n ymddiswyddiad o’i swydd eglwysig neu ofalaeth yng Nghymru, ac â ei swydd neu ofalaeth gan hynny yn wag.
Llys y Dalaith
15.
- Bydd gan Lys y Dalaith awdurdod i benderfynu pob cwestiwn a gyfyd ynglyˆn ag enwebu Clerig i unrhyw ofalaeth, ar gais Esgob yr esgobaeth, neu ar ddeiseb neu gyngaws y Clerig hwnnw neu unrhyw ddau aelod o Fwrdd Enwebu’r esgobaeth lle y mae’r ofalaeth.
- Bydd y ddeiseb neu’r gyngaws honno’n ddarostyngedig i reolau a rheoliadau’r Llys, ond ni cheir cyflwyno deiseb na chyngaws wedi terfyn cyfnod o fis ar ôl sefydlu’r Clerig hwnnw.
- Os bydd y Llys yn barnu nad oedd yr enwebu’n briodol, bydd yn cyhoeddi’r ofalaeth yn wag megis er dyddiad ei ddyfarniad, a hefyd yn rhoi’r gorchmynion ychwanegol a ymddangoso’n gyfiawn yn yr amgylchiadau.
Swyddi heb fod mewn plwyf
16.
Bydd pob Clerig a benodir gan Esgob Cadeiriol, trwy drwydded dan sêl, i swydd amhlwyfol yng ngweinidogaeth yr Eglwys yng Nghymru a fernir yn angenrheidiol gan yr Esgob yn derbyn braint Ficer.
Symud Periglor
17.
- Cyfrifir Clerig a sefydlwyd yn ddyladwy mewn gofalaeth yn Beriglor y Fywoliaeth, ac ni ellir ei symud heb ei gydsyniad ond fel y darperir yma rhag llaw, sef:
(a) gall yr Esgob symud Periglor i Fywoliaeth arall neu i swydd eglwysig arall yn yr Eglwys yng Nghymru pan fo’r Esgob, ar ôl ymgynghori â Bwrdd Enwebu’r Esgobaeth, a chyda chydsyniad y Bwrdd, yn barnu fod y newid hwnnw’n angenrheidiol, ar yr amod, wrth newid, yr ychwanegir at gyflog y Fywoliaeth neu’r swydd eglwysig arall y symudir y Periglor iddi fel y penderfyno Bwrdd Cyllid yr Esgobaeth mewn ymgynghoriad â’r Esgob;
(b) gall yr Esgob ddiswyddo Periglor am unrhyw reswm sydd, ym marn y Tribiwnlys, yn peri y byddai i’r periglor barhau yn ei swydd yn ddifrifol niweidiol i les yr Eglwys, ar yr amod, onis cyflogir mewn modd arall, y caiff y gynhaliaeth, os bydd y cyfryw, a argymhella’r Llys i Fwrdd Cyllid yr Esgobaeth;
(c) gall yr Esgob beri i Beriglor ymddeol o wasanaeth amser-llawn yng ngweinidogaeth yr Eglwys yng Nghymru mewn unrhyw achos lle y mae’r fath ymddeol yn angenrheidiol ym marn yr Esgob, ar yr amod, wrth ymddeol felly, y bydd gan y Periglor hawl i bensiwn yn unol â’r Cynllun Pensiwn a Buddgedau Clerigion;
(d) mewn unrhyw achos a drafodir gan yr Esgob dan adrannau 21 a 22 neu yn rhinwedd ei awdurdod cynhenid. - Ni bydd yr Esgob yn arfer yr hawliau a roddir ym mharagraffau (a) ac (c) uchod heb roi o leiaf chwe mis o rybudd mewn ysgrifen i’r Periglor; a bydd gan y Periglor, os dymuna, hawl i apelio at Lys y Dalaith cyn pen chwech wythnos ar ôl derbyn y rhybudd.
Symud Ficer mewn Bywoliaeth Reithorol
18.
- Ni ellir symud Ficer mewn Bywoliaeth Reithorol na therfynu ei benodiad heb ei gydsyniad, ond fel y darperir yma rhag llaw, sef:
(a) gall yr Esgob symud Ficer mewn Bywoliaeth Reithorol i Fywoliaeth Reithorol arall neu i fywoliaeth neu swydd eglwysig arall yn yr Eglwys yng Nghymru mewn achos lle y mae hynny’n angenrheidiol ym marn yr Esgob;
(b) gall yr Esgob ddiswyddo Ficer mewn Bywoliaeth Reithorol am unrhyw reswm sydd ym marn y Tribiwnlys yn peri y byddai iddo barhau yn ei swydd yn ddifrifol niweidiol i les yr Eglwys, ar yr amod, onis cyflogir mewn modd arall, y caiff y gynhaliaeth, os bydd y cyfryw, a argymhella’r Llys i Fwrdd Cyllid yr Esgobaeth;
(c) gall yr Esgob beri i Ficer mewn Bywoliaeth Reithorol ymddeol o wasanaeth amser-llawn yng ngweinidogaeth yr Eglwys yng Nghymru mewn unrhyw achos lle y mae’r fath ymddeol yn angenrheidiol ym marn yr Esgob, ar yr amod, wrth ymddeol felly, y bydd gan y Ficer hawl i bensiwn yn unol â’r Cynllun Pensiwn a Buddgedau Clerigion. - Ni bydd yr Esgob yn arfer yr hawliau a roddir ym mharagraffau (a) ac (c) uchod heb roi o leiaf chwe mis o rybudd mewn ysgrifen i’r Ficer mewn Bywoliaeth Reithorol a bydd gan y Ficer, os dymuna, hawl i apelio at Lys y Dalaith cyn pen chwech wythnos ar ôl derbyn y rhybudd.
Gofynion Trigiannol
19.
Bydd pob Periglor, Ficer mewn Bywoliaeth Reithorol, curad cynorthwyol trwyddedig a diacones yn byw o fewn terfynau’r Plwyf neu’r Grŵp o Blwyfi oni roddwyd trwydded ddibreswyl gan yr Esgob am reswm digonol.
Absenoldeb Periglor
20.
Ni bydd yr un Periglor yn absennol o’i Fywoliaeth heb ofalu am ddirprwy cymwys a phriodol, oni chafodd ganiatâd arbennig mewn ysgrifen gan yr Esgob ei hun.
21.
Os bydd Periglor yn absennol o’i Fywoliaeth heb ganiatâd yr Esgob am gyfnod di-fwlch o ddau fis, bydd gan yr Esgob y gallu i alw arno i ddychwelyd. Os bydd yn parhau’n absennol ar derfyn mis wedyn, bydd gan yr Esgob y gallu i gyhoeddi’r Fywoliaeth yn wag.
22.
Os bydd Periglor yn absennol o’i Fywoliaeth heb ganiatâd yr Esgob am gyfnodau bylchog yn gwneud cyfanswm o wyth wythnos mewn unrhyw gyfnod o chwe mis, bydd gan yr Esgob y gallu i alw arno i breswylio’n fwy cyson, ac os bydd yn anufudd, i gyhoeddi’r Fywoliaeth yn wag.
Curadiaid Cynorthwyol
23.
- Pan fo amgylchiadau’n gofyn hynny, a’r Esgob yn barnu y gellir gwarantu cynhaliaeth ddigonol, bydd gan y Periglor hawl i enwi, i’w gymeradwyo gan yr Esgob, glerig (i weithredu’n gurad cynorthwyol trwyddedig) neu ddiacones. Ni ellir symud y cyfryw gurad neu ddiacones o’i swydd heb ei gydsyniad ef neu hi ond ar benderfyniad yr Esgob neu pan elo’r Fywoliaeth yn wag.
- Bydd Cofrestrydd yr Esgobaeth yn hysbysu Ysgrifennydd Corff y Cynrychiolwyr ac Ysgrifennydd Bwrdd Cyllid yr Esgobaeth o bob trwydded a roddwyd i guradiaid cynorthwyol.
24.
Gall yr Esgob, yn ystod y pedair blynedd yn dilyn ordeinio diacon, orchymyn o bryd i’w gilydd ym mha Fywoliaeth y mae’r diacon i wasanaethu fel curad cynorthwyol trwyddedig.
Ymddiswyddo
25.
- Gall Periglor neu Ficer mewn Bywoliaeth Reithorol, gyda chaniatâd yr Esgob, ymddiswyddo o’i Fywoliaeth neu ei benodiad fel y digwydd trwy roi i’r Esgob rybudd ysgrifenedig yn pennu amser pendant heb fod yn gynharach na dau fis nac yn ddiweddarach na chwe mis i’r ymddiswyddiad ddod i rym.
- Gall yr Esgob ganiatáu tynnu’r rhybudd hwnnw’n ôl cyn pen mis ar ôl ei dderbyn; ond os bydd y rhybudd heb ei dynnu’n ôl yn ystod y cyfnod hwnnw, a’r Esgob wedi derbyn yr ymddiswyddiad, bydd y Fywoliaeth yn mynd yn wag neu’r penodiad yn terfynu ar yr amser a bennwyd yn y rhybudd.
- Ar yr amod bob amser mewn amgylchiadau arbennig, y bydd yr Esgob yn unig yn eu barnu, y gall yr Esgob, ar gais Periglor neu Ficer mewn Bywoliaeth Reithorol, ganiatáu iddo neu iddi ymddiswyddo o’r Fywoliaeth neu’r penodiad ar unwaith neu ar ddyddiad cyn pen deufis wedi’r cais hwnnw; ac os digwydd hyn, daw’r ymddiswyddiad i rym trwy weithred gyfreithiol a wnaed yn briodol, a bydd y Fywoliaeth yn mynd yn wag neu’r penodiad yn terfynu ar y dyddiad a bennir yn y weithred i’r ymddiswyddiad ddod i rym.
26.
Offeiriad mewn gofal
- Pan fo gofalaeth wedi’i hatal bydd gan yr Esgob hawl i benodi Clerig mewn urddau offeiriad i gyflawni dyletswyddau yn yr ofalaeth, neu i benodi Clerig, darllenydd neu ddiacones i gymryd gwasanaethau. Bydd yr esgob yn penderfynu pa gyflog, os bydd cyflog, a delir i Glerig sy’n cyflawni dyletswyddau yn yr ofalaeth.
- Pa bryd bynnag yr atelir Clerig o’i swydd neu y bo’n absennol heb drwydded fel y nodwyd yn adrannau 21 a 22, bydd gan yr Esgob hawl i benodi Clerig mewn urddau offeiriad i gyflawni dyletswyddau yn yr ofalaeth neu’r swydd am gyflog, os bydd cyflog, y penderfynir arno gan yr Esgob.
27.
Bydd Wardeniaid neu ymddiriedolwyr pob eglwys yn caniatáu i unrhyw Glerig a benodwyd gan yr Esgob yn unol ag adran 26 i’w defnyddio’n ddirwystr i wasanaethu ynddi.