Pennod VI: Rheoliadau yn ymwneud â Phenodi ac Enwebu
Yn unol â’i alluoedd o dan Bennod II y Cyfansoddiad, y mae’r Corff Llywodraethol trwy hynyma yn gwneud y rheoliadau a ganlyn o dan y teitl “Rheoliadau’r Corff Llywodraethol yn ymwneud â Phenodi ac Enwebu”, a draethir fel a ganlyn:
Rhan I: Byrddau Enwebu
Bwrdd Enwebu’r Esgobaeth
1.
1.1 Pan ddaw Plwyf sengl yn wag, aelodau Bwrdd Enwebu’r Esgobaeth fydd:
1.1.1 Esgob yr Esgobaeth;
1.1.2 Archddiacon yr archddiaconiaeth lle y mae’r ofalaeth wag;
1.1.3 dau Glerig sy’n aelodau o Gynhadledd yr Esgobaeth, wedi’u hethol bob tair blynedd gan aelodau Clerigol y Gynhadledd;
1.1.4 tri pherson lleyg sy’n aelodau o Gynhadledd yr Esgobaeth, wedi’u hethol bob tair blynedd gan aelodau lleyg y Gynhadledd; a
1.1.5 dau berson lleyg yn cynrychioli’r Plwyf lle mae’r ofalaeth yn wag, wedi’u hethol gan Gyngor Plwyf Eglwysig y Plwyf hwnnw yn unol â Rheoliad 1.4.
1.2 Pan ddaw perigloriaeth sy’n cynnwys dau neu fwy o Blwyfi a Grwpiwyd yn wag, aelodau Bwrdd Enwebu’r Esgobaeth fydd:
1.2.1 Esgob yr Esgobaeth;
1.2.2 Archddiacon yr archddiaconiaeth lle y mae’r ofalaeth wag;
1.2.3 un Clerig i gyfateb i bob Plwyf yn yr uned, a’r Clerigion hynny’n aelodau o Gynhadledd yr Esgobaeth, wedi’u hethol bob tair blynedd gan aelodau Clerigol y Gynhadledd;
1.2.4 tri pherson lleyg sy’n aelodau o Gynhadledd yr Esgobaeth, wedi’u hethol bob tair blynedd gan aelodau lleyg y Gynhadledd; a
1.2.5 un person lleyg yn cynrychioli pob Plwyf lle mae’r ofalaeth yn wag, wedi’u hethol gan Gyngor Plwyf Eglwysig pob un o’r Plwyfi hynny yn unol â Rheoliad 1.4.
1.3 Gwysir pob un o Archddiaconiaid yr esgobaeth i fod yn bresennol yng nghyfarfod Bwrdd Enwebu’r Esgobaeth, i gynghori ac i gynorthwyo’r Bwrdd; ond ni fydd gan yr un Archddiacon, onid yw’n aelod o’r Bwrdd yn y cyfarfod hwnnw, yr hawl i bleidleisio ac eithrio wrth ethol cynrychiolydd lleyg ac aelodau atodol i Fwrdd Enwebu’r Dalaith yn unol â Rheoliad 8.
1.4 Etholir y personau neu’r personau y cyfeirir atynt yn Rheoliadau 1.1.5 ac 1.2.5 gan y Cyngor Plwyf Eglwysig o blith ei aelodau lleyg o fewn wyth diwrnod ar hugain i hysbysu’r Cyngor Plwyf Eglwysig gan Ysgrifennydd Bwrdd Enwebu’r Esgobaeth bod yr ofalaeth y mae’r rheoliadau’n berthnasol iddi yn wag.
1.5 O fewn wyth diwrnod ar hugain i Ysgrifennydd Bwrdd Enwebu’r Esgobaeth hysbysu’r Cyngor Plwyf Eglwysig am unrhyw un o’r digwyddiadau a ganlyn:
1.5.1 bod perigloriaeth y mae Rheoliad 9 yn berthnasol iddi yn wag;
1.5.2 cynnig gan yr Esgob i fynd ati i symud Periglor yn unol â Phennod VI adran 17;
1.5.3 yr Esgob neu’r Esgobion fel y bo’r achos yn cytuno i gyfnewid Bywiolaethau yn unol â Rheoliad 18; neu
1.5.4 yr Esgob yn penderfynu symud ymlaen yn unol â Phennod VI adran 8 i benodi Ficer i Fywoliaeth Reithorol;
bydd y Cyngor Plwyf Eglwysig yn ethol dau aelod lleyg i gynrychioli’r Plwyf ar Fwrdd Enwebu’r Esgobaeth.
1.6 Os metha’r Cyngor Plwyf Eglwysig ethol cynrychiolwyr yn unol â’r Rheoliad hwn, gellir trafod y digwyddiad a roddodd fod i’r angen am etholiad yn unol â darpariaethau perthnasol y Cyfansoddiad heb i’r cyfryw gynrychiolwyr plwyf gymryd rhan.
1.7 Dim ond ar gyfer yr achlysur a roddodd fod i’r etholiad y bydd y Cyngor Plwyf Eglwysig yn ethol cynrychiolwyr yn unol â’r Rheoliad hwn, ond byddant ar dir i’w hailethol ar achlysur dilynol.
2.
2.1 Yng nghyfarfod cyntaf Cynhadledd Esgobaeth newydd ei hethol, bydd aelodau Clerigol y Gynhadledd yn ethol deuddeg Clerig sy’n aelodau o’r Gynhadledd, a’r aelodau lleyg yn ethol naw person lleyg sy’n aelodau o’r Gynhadledd, a gosodir yr enwau ar ddwy restr yn y drefn y dymunir iddynt weithredu ar Fwrdd Enwebu’r Esgobaeth.
2.2 Aelodau’r Bwrdd am y tro fydd y ddau neu fwy sydd â’u henwau’n uchaf ar restr y Clerigion a’r tri sydd â’u henwau’n uchaf ar y rhestr leyg. Os bydd farw unrhyw un o’r aelodau hyn o’r Bwrdd, cymerir ei le neu ei lle gan y sawl sydd nesaf ar y rhestr Glerigol neu leyg fel y digwydd.
2.3 Os bydd un o aelodau’r Bwrdd yn methu neu’n anfodlon bod yn bresennol, bydd yn ddyletswydd arno roi gwybod hynny yn ddiymdroi i Ysgrifennydd y Bwrdd, a fydd wedyn yn galw’r person nesaf ar y rhestr sy’n gallu bod yn bresennol ac yn fodlon dod, a bydd y person hwnnw’n aelod o’r Bwrdd am y cyfarfod hwnnw.
3.
3.1 Yr Esgob neu ei Gomisari, a benodwyd ganddo mewn ysgrifen, fydd yn llywyddu Bwrdd Enwebu’r Esgobaeth, a bydd ganddo bleidlais fwrw. Os bydd yr Esgob a’i Gomisari yn absennol, bydd y Bwrdd yn ethol cadeirydd o blith ei aelodau, a bydd ganddo bleidlais fwrw.
3.2 Os bydd Bwrdd Enwebu’r Esgobaeth yn cyfarfod tra bo’r Esgobaeth yn wag, yr Archddiacon blaenaf fydd yn llywyddu, a bydd ganddo bleidlais fwrw.
4.
Gall yr Esgob o bryd i’w gilydd alw cyfarfod o’r Archddiaconiaid a’r aelodau Clerigol a lleyg a etholwyd ar Fwrdd Enwebu’r Esgobaeth gan Gynhadledd yr Esgobaeth, i ymgynghori ag ef ar bolisi cyffredinol enwebu yn yr esgobaeth.
5.
5.1 Ni roddir unrhyw ystyriaeth i berigloriaeth sy’n wag neu’n debyg o fynd yn wag, nac enwebu neb i fywoliaeth wag, heb fod rhybudd wedi’i roi i bob aelod o’r Bwrdd, y bydd ei aelodaeth yn unol â Rheoliad 1 o hynyma, bedwar diwrnod ar ddeg clir ymlaen llaw am amser a lle’r cyfarfod ac am bob bywoliaeth wag sydd i’w llanw ac am y bwriad i enwebu ar gyfer hynny.
5.2 Yn ddarostyngedig i’r hyn a ddywedwyd eisoes ac i Reoliadau 5.3 a 5.4, bydd y Bwrdd yn cyfarfod bedair gwaith y flwyddyn, yn ystod pythefnos cyntaf misoedd Ionawr, Ebrill, Gorffennaf a Hydref.
5.3 Oni bydd, wythnos cyn y cyfarfod chwaterol, unrhyw blwyf gwag i’w lenwi, bydd yr Ysgrifennydd, onis cyfarwyddir i’r gwrthwyneb gan yr Esgob, yn hysbysu’r aelodau bod y cyfarfod wedi’i ddiddymu.
5.4 Gall yr Esgob gynnull cyfarfodydd rhwng y cyfarfodydd chwarterol, a bydd yn rhaid iddo eu cynnull ar gais ysgrifenedig dau aelod o’r Bwrdd.
6.
Ysgrifennydd Cynhadledd yr Esgobaeth fydd Ysgrifennydd Bwrdd Enwebu’r Esgobaeth a bydd yn bresennol yn ei gyfarfodydd.
7.
Yn ddarostyngedig i alluoedd y Corff Llywodraethol a Chynhadledd yr Esgobaeth, bydd Bwrdd Enwebu’r Esgobaeth yn rheoli ei fusnes a’i weithdrefnau ei hun trwy reolau sefydlog.
Bwrdd Enwebu’r Dalaith
8.
8.1 Aelodau Bwrdd Enwebu’r Dalaith fydd:
8.1.1 yr Esgobion Cadeiriol;
8.1.2 Cadeirydd Corff y Cynrychiolwyr (os yw’n berson lleyg) neu berson lleyg a enwebodd neu, os bydd cadeirydd Corff y Cynrychiolwyr yn Glerig, berson lleyg a enwebodd; a
8.1.3 pherson lleyg yn cynrychioli’r Esgobaeth lle y mae’r plwyf gwag, ac a benodir yn unol â Rheoliad 8.3.
8.2 Y cworwm fydd tri pherson, sef:
8.2.1 yr Archesgob neu, yn ei absenoldeb, yr Esgob Cadeiriol blaenaf a fydd yn barod i weithredu, ond nid Esgob yr esgobaeth lle y mae’r plwyf gwag;
8.2.2 Esgob yr esgobaeth lle y mae’r plwyf gwag; a
8.2.3 pherson lleyg, sef Cadeirydd Corff y Cynrychiolwyr neu un a enwebodd neu gynrychiolydd lleyg yr esgobaeth;
ar yr amod, os bydd y plwyf gwag yn esgobaeth yr Archesgob, y bydd y cworwm yn cynnwys yr Esgob Cadeiriol blaenaf a fydd yn barod i weithredu.
8.3.1 Yn ei gyfarfod cyntaf ar ôl pob etholiad tair blynyddol yn unol â Rheoliad 1, bydd Bwrdd Enwebu’r Esgobaeth yn ethol person lleyg i gynrychioli’r Esgobaeth ar Fwrdd Enwebu’r Dalaith ac yn enwebu tri pherson lleyg arall, a gosodir eu henwau ar restr atodol yn y drefn y dymunir iddynt weithredu.
8.3.2 Os bydd farw’r person lleyg etholedig, cymerir ei le ar Fwrdd Enwebu’r Dalaith gan y person lleyg sydd â’i enw’n uchaf ar y rhestr atodol.
8.3.3 Os bydd y person lleyg etholedig yn methu neu’n anfodlon mynd i gyfarfod y galwyd ef iddo, bydd yn ddyletswydd arno roi gwybod hynny yn ddiymdroi i Ysgrifennydd Bwrdd Enwebu’r Dalaith, a fydd wedyn yn galw’r person lleyg nesaf ar y rhestr sy’n gallu bod yn bresennol ac yn fodlon dod, a bydd y person hwnnw’n aelod o Fwrdd Enwebu’r Dalaith am y cyfarfod hwnnw.
8.4 Cyn pen saith niwrnod wedi ei hysbysu bod bywoliaeth y mae gan Fwrdd Enwebu’r Dalaith hawl i enwebu iddi yn wag, rhaid i Ysgrifennydd Bwrdd Enwebu’r Esgobaeth hysbysu hynny i Gofrestrydd yr Archesgob, a fydd yn Ysgrifennydd Bwrdd Enwebu’r Dalaith. Rhaid i’r hysbysiad ddatgan:
8.4.1 y rheswm pam bod y fywoliaeth yn wag;
8.4.2 dyddiad penodi’r cyn-beriglor;
8.4.3 nifer y curadiaid (os oes rhai) a nifer y gwasanaethau Cymraeg (os oes rhai);
8.4.4 cyflog penodedig y Fywoliaeth; ac
8.4.5 a oes persondy neu ynteu lwfans tŷ (ac os felly, faint).
8.5 Cyn pen tri diwrnod ar ôl derbyn hysbysiad o’r fath bydd Cofrestrydd yr Archesgob yn anfon copi ohono at bob aelod o Fwrdd Enwebu’r Dalaith.
8.6 Os bydd angen mwyafrif o’r Bwrdd i wneud penderfyniad, bydd yr Archesgob yn penderfynu ym mhob achos y weithdrefn y bydd Bwrdd Enwebu’r Dalaith yn ei dilyn i enwebu i’r Fywoliaeth wag, a bydd yn hysbysu’r Cofrestrydd o hynny, a’r Cofrestrydd yn hysbysu aelodau eraill y Bwrdd.
9.
Ni bydd yr Esgob na Bwrdd Enwebu’r Dalaith yn arfer unrhyw hawl i goladu nac enwebu nes bod enwau’r sawl y cynigir eu coladu neu eu henwebu wedi’u cyflwyno i’r rhai a fyddai’n cynrychioli’r Plwyf ar Fwrdd Enwebu’r Esgobaeth pe bai’r hawl i enwebu gan y Bwrdd hwnnw, a’r rhai hynny wedi cael cyfle llawn i ddatgan eu barn.
Methiant i Enwebu
10.
Os bydd Bwrdd Enwebu’r Esgobaeth heb arfer ei hawl i enwebu i fywoliaeth cyn pen chwe mis wedi i’r fywoliaeth y perthyn yr hawl hwnnw iddi fynd yn wag, bydd yr hawl i benodi i’r fywoliaeth yn mynd i’r Esgob.
11.
Os bydd gan yr Esgob yr hawl i goladu i unrhyw fywoliaeth naill ai yn unol ag adran 7(3) neu yn dilyn methiant Bwrdd Enwebu’r Esgobaeth i enwebu yn unol â Rheoliad 10, a’i fod heb enwebu Clerig i’w benodi i’r fywoliaeth honno cyn pen chwe mis wedi iddi ddod yn wag neu i’r hawl i benodi iddi ddod iddo ef, bydd yr hawl i enwebu i’r fywoliaeth wag yn mynd i Fainc yr Esgobion ac ystyrir ddarfod gwneud y cyfryw enwebiad gan yr Esgob neu Fwrdd Enwebu’r Esgobaeth ar y dyddiad pan wneir ef.
12.
Os bydd Bwrdd Enwebu’r Dalaith heb arfer ei hawl i enwebu i fywoliaeth cyn pen chwe mis wedi i’r fywoliaeth y perthyn yr hawl hwnnw iddi fynd yn wag, bydd yr hawl i enwebu i’r fywoliaeth wag yn mynd i Fainc yr Esgobion, a chyfrifir i Fwrdd Enwebu’r Dalaith enwebu ar y dyddiad yr enwebwyd gan y Fainc.
Gweithdrefn yn dilyn Enwebu
13.
Bydd Ysgrifennydd y Bwrdd Enwebu priodol yn:
13.1 anfon i’r Esgob fanylion llawn am bob enwebiad a wnaed mewn unrhyw gyfarfod o’r Bwrdd cyn pen saith niwrnod;
13.2 hysbysu pob Clerig a enwebwyd i Fywoliaeth gan y Bwrdd am yr enwebu hwnnw trwy lythyr y cofnodwyd ei anfon ac a anfonwyd i’w gyfeiriad hysbys diwethaf cyn pen saith niwrnod; ac
13.3 ar dderbyn llythyr oddi wrth y Clerig yn derbyn y Fywoliaeth, yn hysbysu’r Esgob ar unwaith o hynny.
14.
Bydd yr enwebiad yn ddi-rym:
14.1 os bydd y Clerig hwnnw heb gytuno i’r enwebiad trwy lythyr a gyfeiriwyd at yr Esgob cyn pen pedair wythnos o’r dydd y gallai’r cyfryw lythyr y cofnodwyd ei anfon fod wedi cyrraedd ei gyfeiriad; neu
14.2 os bydd wedi cytuno, ond ei fod oherwydd rhyw fai o’r eiddo’i hun heb ei sefydlu yn ystod y cyfnod a bennwyd gan yr Esgob;
ar yr amod y gall yr Esgob estyn y cyfnod uchod o bedair wythnos a’r cyfnod a bennwyd ar gyfer y sefydlu.
15.
Os â unrhyw enwebiad yn ddi-rym yn unol â Rheoliad 14, rhaid i’r Esgob roi gwybod ar unwaith i Ysgrifennydd y Bwrdd Enwebu priodol. Os â enwebiad gan y Bwrdd yn ddi-rym felly, bydd yr Ysgrifennydd yn cynnull cyfarfod arbennig o’r Bwrdd i enwebu o’r newydd, ac yna estynnir y cyfnod o bedwar mis a roddir i’r Bwrdd at enwebu hyd fis ar ôl y rhybudd sy’n galw’r cyfarfod.
16.
Ni sefydlir Clerig mewn gofalaeth tra bo deiseb neu gyngaws ar droed ynglŷn â’i enwebiad.
Rhan II: Sefydlu
Sefydlu yn dilyn derbyn
17.
17.1 Pan fo Esgob wedi sefydlu Clerig a enwebwyd gan Fwrdd, bydd yn hysbysu Ysgrifennydd y Bwrdd hwnnw ar unwaith, a bydd Cofrestrydd yr Esgobaeth yn rhoi gwybod ar unwaith i Ysgrifenyddion Corff y Cynrychiolwyr a Bwrdd Cyllid yr Esgobaeth am bob coladu a sefydlu.
17.2 Bydd cyflog y Clerig, os oes cyflog, yn cychwyn ar ddiwrnod ei sefydlu neu ar ryw ddiwrnod cynharach y gall Bwrdd Cyllid yr Esgobaeth ei benodi mewn unrhyw achos arbennig.
Rhan III: Cyfnewid Bywoliaethau
18.
18.1 Pan fo dau Beriglor yn dymuno cyfnewid Bywiolaethau, rhaid i bob un ohonynt wneud cais ysgrifenedig at Esgob ei esgobaeth am ganiatâd i wneud hynny.
18.2 Gall yr Esgob, neu os yw’r ddwy Fywoliaeth mewn gwahanol esgobaethau, y naill neu’r llall o’r Esgobion, wrthod rhoi caniatâd.
18.3 Os bydd yr Esgob neu’r Esgobion yn cydsynio i’r cyfnewid, rhaid i bob Esgob gynnull Bwrdd Enwebu ei Esgobaeth cyn pen mis wedi’r dyddiad y gwnaed y cais am gyfnewid. Aelodau Bwrdd Enwebu i’r pwrpas hwn fydd yr Esgob, Archddiaconiaid yr archddiaconiaethau lle y mae’r Bywoliaethau hynny, aelodau’r Bwrdd a etholwyd gan Gynhadledd yr Esgobaeth, a chynrychiolwyr y ddau Blwyf.
18.4 Os bydd y Bwrdd neu’r Byrddau Enwebu yn cydsynio i’r cyfnewid, daw’r cyfnewid i rym yn unol â hynny, a bydd yr Esgob neu’r Esgobion yn pennu dyddiad i’r ofalaeth ym mhob Bywoliaeth fynd yn wag, ac yna’n sefydlu pob Clerig yn ei briod ofalaeth.
18.5 Ni chymhwysir y pedair adran ddiwethaf at achos lle y bo Periglor plwyf neu ardal y tu allan i Gymru yn dymuno cyfnewid Bywoliaeth am Fywoliaeth yng Nghymru. Mewn achos o’r fath, bydd Esgob yr esgobaeth y mae’r periglor hwnnw’n dymuno symud iddi yn penderfynu beth sydd i’w wneud.