Pennod VII: Persondai
1.
Diffiniadau
Yn y Bennod hon ac yn y Rheoliadau Atodol yn ymwneud â Phersondai golyga:
- (a) “Bwrdd” Fwrdd Persondai yr Esgobaeth lle y mae’r Persondy ac a benodwyd fel y darperir ym Mhennod IV A;
- (b) “Arolygwr” yr Arolygwr Esgobaethol a benodwyd gan Gorff y Cynrychiolwyr ar gyfer yr esgobaeth lle y mae’r Persondy neu, os penodir mwy nag un, yr Arolygwr a benodwyd gan Gorff y Cynrychiolwyr i weithredu yn y rhan o’r esgobaeth lle y mae’r Persondy sydd dan sylw;
- (c) “Periglor” unrhyw un sy’n dal swydd eglwysig yn yr Eglwys yng Nghymru (ac eithrio Esgob Cadeiriol neu Esgob Cynorthwyol); a lle bo perigloriaeth yn wag oherwydd dyrchafu’r Periglor neu oherwydd iddo ymddeol, y cyn-Beriglor neu’r Periglor sy’n ymadael; a lle bo perigloriaeth yn wag oherwydd marwolaeth y Periglor, ei gynrychiolydd neu ei chynrychiolydd cyfreithiol personol;
- (d) “Persondy” unrhyw dŷ annedd (yn cynnwys ei ardd) a ddelir gan Gorff y Cynrychiolwyr ac y mae gofyn iddo yn ôl darpariaethau’r Bennod hon a’r Rheoliadau gael ei feddiannu gan Beriglor ac sy’n cynnwys tai deoniaid a chanoniaid, rheithordai, ficerdai, isganondai a thai curadiaid, ynghyd ag unrhyw adeiladau a thiroedd y bernir eu bod o fewn eu cwrtil ac nas eithriwyd trwy benderfyniad o’r eiddo’r Bwrdd gyda chymeradwyaeth Corff y Cynrychiolwyr;
- (e) “Cyfrif Bwrdd Persondai’r Esgobaeth” y gronfa a ddelir gan Fwrdd Cyllid yr Esgobaeth er budd yr esgobaeth honno, yn unol â rheoliad 3 y Rheoliadau;
- (f) “Cronfa Gwella Persondai’r Esgobaeth” gronfa a neilltuwyd gan Gorff y Cynrychiolwyr er budd esgobaeth, y gellir rhoi grantiau ohoni at godi Persondai newydd, neu at wella persondai sydd eisoes yn yr esgobaeth.
- (g) “Cyflafareddwr” gyflafareddwr a benodwyd fel y darperir yn y Rheoliadau.
2.
Onid yw’r Esgob wedi rhoi trwydded ddibreswyl i’r Periglor, neu ei fod yn dal swydd ddi-dâl yr Eglwys yng Nghymru lle na ddarperir llety ar ei chyfer, rhaid i’r Periglor fyw yn y persondy ar amodau’r Rheoliadau yn ymwneud â Phersondai.