Cyfrol I: Nodyn Rhagarweiniol
Cymdeithas o esgobaethau o fewn i’r Eglwys Lân Gatholig yw’r Eglwys yng Nghymru, wedi ei sefydlu yn Dalaith o’r Cymundeb Anglicanaidd. Y mae’n cadw’r urdd driphlyg a dderbyniodd – esgobion, offeiriaid a diaconiaid – ac yn cydnabod yr Ysgrythur Lân yn ben awdurdod iddi ym materion ffydd fel y dehonglir hi yn y Credoau Catholig ac yn y ffurfiaduron hanesyddol Anglicanaidd, hynny yw, yn y Namyn Un Deugain Erthyglau Crefydd, y Llyfr Gweddi Gyffredin ac Urddo Esgobion, Offeiriaid a Diaconiaid fel y cyhoeddwyd hwy yn 1662. Ei galwedigaeth yw meithrin gwr a benywod yn ffydd Iesu Grist a’u cynorthwyo i dyfu yng nghymdeithas yr Ysbryd Glân, fel y gellir cyhoeddi’r newyddion da am ras Duw yn eglur yn y byd ac y gellir anrhydeddu a hyrwyddo Teyrnas Dduw.
Y mae ar bob cymdeithas, eglwysig neu seciwlar, angen ei rheolau ei hun ar gyfer trefnu ei materion. Hanfod y Cyfansoddiad sy’n rheoli’r Eglwys yng Nghymru yw gweinyddu cywirdeb sacramentaidd a threfn dda yr Eglwys a chynorthwyo ei chenhadaeth a’i thystiolaeth i’r Arglwydd Iesu Grist. Y mae’n deillio o nifer o ffynonellau yn cynrychioli parhâd hanesyddol a hefyd bethau newydd.
Lluniwyd y Cyfansoddiad gyntaf wedi i esgobaethau Cymru wahanu oddi wrth Eglwys Loegr yn 1920. Ynghyd â’r rheolau a etifeddodd oddi wrth Eglwys Loegr adeg y datgysylltu – rheolau a dynnwyd yn rhannol o Ddeddfau Seneddol, o ganonau Eglwys Loegr wedi’r Diwygiad Protestannaidd ac o gyfraith ganon ganoloesol, rheolau y mae gan yr Eglwys yng Nghymru yn awr y gallu i’w newid neu eu diddymu – y mae’r Cyfansoddiad yn ffurfio cyfraith fewnol yr Eglwys yng Nghymru. Y mae’n rhwymo holl aelodau’r Eglwys yng Nghymru, yn glerigion a lleygwyr, ond nid yw’n rhwymo pobl Cymru’n gyffredinol, ac, fel gyda rheolau cymdeithasau gwirfoddol eraill, bydd mewn grym mewn amgylchiadau neilltuol yn y llysoedd sifil. Y mae’n gynnyrch y rhyddid a roddwyd i’r Eglwys yng Nghymru gan Ddeddf yr Eglwys yng Nghymru 1914 i reoli ei materion ei hun.
Er nad yw cyfraith eglwysig gyfredol Lloegr i’w chymhwyso ati, y mae’r Eglwys yng Nghymru yn parhau i gael ei rhwymo gan gyfraith seciwlar Lloegr a Chymru yngln â materion fel perchen a rheoli eiddo, gweinyddu priodasau a’r hawl i gladdu mewn mynwentydd.
Y mae prif nodweddion cyfraith yr Eglwys yng Nghymru – llywodraeth synodaidd, arolygiaeth esgobol, gweinidogaeth ganonaidd, cyfraniad lleygwyr, a rhyddid i ddefnyddio gweinidogaethau’r Eglwys – yn nodweddion y cyfranogir ohonynt gydag eraill o fewn y Cymundeb Anglicanaidd byd-eang ac yn darparu canolbwynt hanfodol undod.
Y mae’r Cyfansoddiad, a dderbyniwyd gan y Corff Llywodraethol, wedi ei gyhoeddi mewn dwy gyfrol, Cyfrol I yn cynnwys Penodau’r Cyfansoddiad a Chyfrol II y Canonau a’r Rheolau a’r Rheoliadau.
Y mae cymalau allweddol Deddf yr Eglwys yng Nghymru 1914 sy’n cyfeirio at hanfodion ffydd a threfn, a’r penderfyniad sy’n deillio o hynny ac a dderbyniwyd yng nghyfarfod cyntaf y Corff Llywodraethol 8 Ionawr 1918 fel a ganlyn:
Mae adran 3(2) o Ddeddf yr Eglwys yng Nghymru 1914 yn deddfu “o ddyddiad datgysylltiad [31 Mawrth 1920], bydd y gyfraith eglwysig sy’n bod y pryd hwnnw, a’r erthyglau, athrawiaethau, defodau, rheolau, ac ordeiniadau sy’n bod y pryd hwnnw yn Eglwys Loegr…gyda’r goleddfu a’r newid a wneir yn briodol ynddynt yn ôl y cyfansoddiad a’r rheoliadau sy’n bod ar y pryd yn yr Eglwys yng Nghymru…yn rhwymo’r rhai sydd ar y pryd yn aelodau o’r Eglwys yng Nghymru yn yr un modd â phetaent wedi cytuno â’i gilydd i gymryd eu rhwymo felly.” Mae Cyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru yn traethu pob goleddfu a phob newid o’r fath, neu’r awdurdod drostynt.
Mae adran 13(1) o Ddeddf yr Eglwys yng Nghymru 1914 yn deddfu “Ni chaiff dim sydd mewn Deddf na chyfraith nac arfer rwystro esgobion, clerigion, a lleygwyr yr Eglwys yng Nghymru rhag cynnal synodau neu ethol cynrychiolwyr iddynt, na’u rhwystro, naill ai drwyddynt eu hunain neu drwy eu cynrychiolwyr a etholwyd yn y modd a farnont yn gymwys, rhag llunio cyfansoddiadau a rheoliadau ar gyfer rheolaeth gyffredinol a llywodraeth dda yr Eglwys yng Nghymru, ei heiddo a’i materion, boed fel cyfangorff neu yn ôl esgobaethau, ac ar gyfer cynrychiolaeth ei haelodau yn y dyfodol, mewn synod gyffredinol neu synodau esgobaeth, neu fel arall”.
Yn y cyfarfod cyntaf o’r Corff Llywodraethol, a gynhaliwyd 8 Ionawr 1918, penderfynwd “fod y Corff Llywodraethol drwy hynyma yn derbyn yr erthyglau, datganiadau athrawiaethol, defodau a seremonïau, hefyd, ac eithrio hyd y mae Deddf yr Eglwys yng Nghymru 1914 o raid yn amrywio arnynt, ffurfiaduron Eglwys Loegr fel y derbynnir hwy gan yr Eglwys honno a’u traethu yn The Book of Common Prayer of the Church of England neu a atodwyd wrtho”.