Cyfrol II: Adran 1.1 – Canonau’r Eglwys yng Nghymru
Taflen Cynnwys
(Dyddiadau Cyhoeddi mewn cromfachau)
- Ar Gyfer Defnyddio’n Arbrofol y Ffurfiau Diwygiedig a A24wgrymir ar Gyfer y Llyfr Gweddi Gyffredin ac a Gymeradwyir Dros Dro gan Fainc yr Esgobion
(29 Medi 1955) - Dileu Amheuaeth ynglŷn ag Afreoleidd-dra Geni fel Rhwystr i Dderbyniad i Urddau Sanctaidd
(28 Medi 1961) - I Ganiatáu Defnyddio yng Ngwasanaethau’r Eglwys yng Nghymru unrhyw Gyfieithiad o’r Beibl a Gymeradwyir gan Fainc yr Esgobion
(2 Mai 1974) - I Alluogi Ordeinio Benywod yn Ddiaconiaid
(16 Ebrill 1980) - Am Ddarparu ar Gyfer Periglorion Methedig
(21 Ebrill 1982) - Darparu Penodi Dyddiau i Ordeinio yn yr Eglwys yng Nghymru
(15 Medi 1982) - I Ddiwygio’r Gyfraith Ganon ynglŷn ag Anallu Clerigion
(19 Ebrill 1990) - I Ddiwygio’r Gyfraith Ganon ynglŷn ag Oed Ordeinio i’r Offeiriadaeth
(19 Ebrill 1990) - I Alluogi Ordeinio Benywod yn Offeiriaid
(19 Medi 1996) - I Ddileu Amheuaeth ynglŷn â Phriodi Wedi Ysgariad fel rhwystr derbyniad i Urddau Sanctaidd
(13 Medi 1998) - 28. Adolygu’r Ddarpariaeth at Amodau Gwaith Deiliaid Swyddi Eglwysig yn yr Eglwys yng Nghymru
(23 Medi 2010) - I Alluogi Ordeinio merched yn Esgobion
(12 Medi 2013) - I Ddiwygio cynlluniau cadeirlannau cyfansoddiad yr eglwys yng nghymru
(12 Medi 2019) - Gwasanaeth Bendithio yn dilyn Partneriaeth Sifil neu Briodas rhwng dau berson o'r un rhyw.
(6 Medi 2021) - I awdurdodi a rheoleiddio mân amrywiadau i litwrgi awdurdodedig.
(28 Ebrill 2022)
CANONAU’R EGLWYS YNG NGHYMRU
RHAN I
1.
AR GYFER DEFNYDDIO’N ARBROFOL Y FFURFIAU DIWYGIEDIG A AWGRYMIR AR GYFER Y LLYFR GWEDDI GYFFREDIN AC A GYMERADWYIR DROS DRO GAN FAINC YR ESGOBION*
(Cyhoeddwyd 29 Medi 1955)
GAN i Gorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru, yn ei gyfarfod ar 13 Ebrill 1950 ofyn i’w Ras yr Archesgob benodi Comisiwn a elwid “Y Comisiwn Litwrgaidd Sefydlog” a fyddai dan ddyletswydd i gyflwyno o bryd i’w gilydd argymhellion i Fainc yr Esgobion ynglŷn â’r diwygiadau a fyddai’n angenrheidiol neu’n ddymunol yng nghyfraith addoliad yr Eglwys.
A CHAN FOD Comisiwn o’r fath wedi’i sefydlu ac y bydd o bryd i’w gilydd yn cyflwyno i Fainc yr Esgobion argymhellion am ddiwygio rhannau o’r LLyfr Gweddi Gyffredin.
A CHAN FOD pennod II o’r Cyfansoddiad yn rhoddi i’r Corff Llywodraethol awdurdod i wneud cyfnewidiadau yn y Llyfr Gweddi Gyffredin ar yr amod na wneir unrhyw gyfnewidiad ond trwy fil a gefnogir ac a gyflwynir yn y Corff Llywodraethol gan fwyafrif o Urdd yr Esgobion.
A CHAN FOD Mainc yr Esgobion o’r farn y dichon fod yn ddymunol, cyn i Fainc yr Esgobion gyflwyno bil ar gyfer diwygio rhan neu rannau o’r Llyfr Gweddi Gyffredin i’w ystyried gan y Corff Llywodraethol, fod defnyddio’r ffurf ddiwygiedig a gynigir yn arbrofol yn y plwyfi dros gyfnod cyfyngedig.
DEDDFER DRWY HYN:
1.
Bydd gan Esgob Cadeiriol hawl i awdurdodi defnyddio’n arbrofol yn yr eglwysi yn ei esgobaeth unrhyw ffurfiau diwygiedig a gynigir ar ran neu rannau o’r Llyfr Gweddi Gyffredin a gymeradwywyd dros dro gan Fainc yr Esgobion, ar yr amod mai dros gyfnod cyfyngedig heb fod yn fwy na deng mlynedd yr awdurdodir y fath ddefnyddio, ac ar yr amod fod y Corff Llywodraethol wedi cydsynio â’r defnydd arbrofol ar y ffurf ddiwygiedig a gynigir, heb ei newid.
2.
Ni chaiff Esgob Cadeiriol weithredu dan gymal 1 o hynyma tan wedi’r cyfarfod nesaf o’r Corff Llywodraethol ar ôl dosbarthu i aelodau’r Corff Llywodraethol gopïau print o’r ffurf ddiwygiedig a gynigir.
2.
DILEU AMHEUAETH YNGLŶN AG AFREOLEIDD-DRA GENI FEL RHWYSTR I DDERBYNIAD I URDDAU SANCTAIDD
(Cyhoeddwyd 28 Medi 1961)
GAN FOD amheuaeth a yw afreoleidd-dra geni yn rhwystr y dylid o’i herwydd wrthod derbyn person* i Urddau Sanctaidd.
A CHAN MAI dymunol yw dileu unrhyw amheuaeth o’r fath.
DEDDFER A CHYHOEDDER DRWY HYN na fydd afreoleidd-dra geni mwyach yn rhwystr canonaidd y dylid o’i herwydd wrthod derbyn person* i Urddau Sanctaidd yn yr Eglwys yng Nghymru.
3.
I GANIATAU DEFNYDDIO YNG NGWASANAETHAU’R EGLWYS YNG NGHYMRU UNRHYW GYFIEITHIAD O’R BEIBL A GYMERADWYIR GAN FAINC YR ESGOBION
(Cyhoeddwyd 2 Mai 1974)
GAN FOD gan Gorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru allu dan ddarpariaethau pennod II o’r Cyfansoddiad i wneud yn y modd a drefnir yno gyfnewidiadau yn y Llyfr Gweddi Gyffredin a ddefnyddir yn yr Eglwys yng Nghymru.
A CHAN FOD gan Esgob Cadeiriol allu i awdurdodi ar gyfer ei defnyddio’n arbrofol yn yr eglwysi yn ei esgobaeth unrhyw ffurf ddiwygiedig ar ran o’r Llyfr Gweddi Gyffredin a gymeradwywyd dros dro gan Fainc yr Esgobion yn unol â’r Canon i’r pwrpas a gyhoeddwyd ar 29 Medi 1955.
A CHAN MAI buddiol yw caniatáu defnyddio unrhyw gyfieithiad o’r Beibl a gymeradwywyd gan Fainc yr Esgobion ar gyfer y rhannau o’r Ysgrythur y gorchmynnir eu darllen, eu dweud neu eu canu, yn y Llyfr Gweddi Gyffredin neu mewn unrhyw wasanaeth diwygiedig megis y dywedwyd eisoes.
DEDDFER DRWY HYN fel y canlyn:
1.
Pa le bynnag y traethir darn o’r Ysgrythur, neu ei benodi i’w ddarllen, ei ddweud, neu ei ganu, yn y Llyfr Gweddi Gyffredin neu mewn gwasanaeth diwygiedig o eiddo’r Eglwys yng Nghymru a awdurdodwyd i’w ddefnyddio’n arbrofol yn unol â’r Canon ar gyfer Defnyddio’n Arbrofol y Ffurfiau Diwygiedig a awgrymir ar gyfer y Llyfr Gweddi Gyffredin ac a gymeradwyir dros dro gan Fainc yr Esgobion, sef Canon a gyhoeddwyd ar 29 Medi 1955, bydd gan Esgob Cadeiriol allu o fewn ei esgobaeth i awdurdodi defnyddio yn ôl dewis y gweinidog y rhan gyfatebol o unrhyw gyfieithiad o’r Beibl neu o ran o’r Beibl a gymeradwyir ar y pryd i’r pwrpas gan Fainc yr Esgobion, yn lle’r hyn a draethir neu a benodir yn y Llyfr Gweddi Gyffredin neu yn y gwasanaeth diwygiedig y cyfeiriwyd ato.
2.
Yn y Canon hwn mae Y Llyfr Gweddi Gyffredin yn golygu’r Llyfr Gweddi Gyffredin a ddefnyddir ar y pryd yn yr Eglwys yng Nghymru.
4.
I ALLUOGI ORDEINIO BENYWOD YN DDIACONIAID
(Cyhoeddwyd 16 Ebrill 1980)
GAN FOD y gyfraith ganon fel y derbynnir hi gan yr Eglwys yng Nghymru hyd yn hyn wedi gwrthod derbyn benywod i Urddau Sanctaidd.
A CHAN MAI dymunol yn yr Eglwys yng Nghymru fyddai derbyn benywod i Urdd Sanctaidd Diaconiaid.
DEDDFER DRWY HYN fel y canlyn:
1.
O hyn allan yn yr Eglwys yng Nghymru ni chaiff y ffaith mai benyw fo ymgeisydd am Urdd Sanctaidd Diaconiaid fod yn rhwystr canonaidd rhag ei derbyn felly.
2.
Diwygir Canon dileu amheuaeth ynglŷn ag afreoleidd-dra geni fel rhwystr i dderbyniad i Urddau Sanctaidd, a gyhoeddwyd 28 Medi 1961, gan roi’r gair “person” yn lle’r gair “dyn” yn llinell 2 o’r adroddeb gyntaf ac yn llinell 3 o gymal gweithredol y Canon hwnnw.
5.
AM DDARPARU AR GYFER PERIGLORION METHEDIG
(Cyhoeddwyd 21 Ebrill 1982)
GAN MAI dymunol darparu at gynnal y weinidogaeth mewn plwyf a threfnu talu am hynny pan fo’r Periglor yn fethedig, a phenderfynu tâl Periglor methedig yn ystod ei salwch.
A CHAN MAI dymunol paratoi cynllun lle gellid mynnu bod Periglor methedig yn ymddangos gerbron bwrdd meddygol.
DEDDFER DRWY HYN fel y canlyn:
1.
Bydd y Rheoliadau ynglŷn â thaliadau i Beriglorion methedig a’r Rheoliadau ynglŷn â byrddau meddygol a draethir yn yr Atodlen Gyntaf a’r Ail o hynyma yn rhwymo holl Beriglorion yr Eglwys yng Nghymru.
2.
Yn y Canon hwn a’r Atodlenni hyn:
(a) ac eithrio lle mae cyfeiriad penodol at “Periglor bywoliaeth” bydd y gair periglor yn cynnwys ac yn cyfeirio at berson yng ngweinidogaeth amser-llawn yr Eglwys yng Nghymru ond ni chymhwysir darpariaethau yr Ail Atodlen o hynyma at yr Archesgob neu Esgob Cadeiriol;
(b) lle bo’n addas bydd geiriau a fo’n cyfleu’r rhyw wrywaidd yn golygu’r rhyw fenywaidd hefyd.
3.
Dileu’r geiriau “neu ym marn y Bwrdd Nawdd a ddiffinnir yn adran 10 ei fod wedi’i analluogi gan lesgedd dros dro i gyflawni’r dyletswyddau’n ddyladwy,” yn yr ail hyd y bedwaredd linell o adran 56(2) pennod VII[1] y Cyfansoddiad.
YR ATODLEN GYNTAF Y CYFEIRIWYD ATI EISOES
Fel y’i diwygir dan ddarpariaethau’r Canon (Diwygiad) Periglorion Methedig 1985 i ddod i rym o 1 Mehefin 1996 a’r Canon Amwrywiol Newidiadau (Pennod XI[2] a Pheriglorion Methedig) 2006 i ddod i rym o 20 Medi 2006.
Rheoliadau ynglŷn â thaliadau i Beriglorion Methedig
1.
(1) Os bydd Periglor yn fethedig, rhaid iddo ar unwaith hysbysu’r corff neu’r sawl sy’n gyfrifol am dalu ei gyflog am y dyddiad yr aeth gyntaf yn fethedig a natur ei salwch, ond gellir derbyn gwybodaeth i’r perwyl hwn a ddelo ryw ffordd arall, a bod hysbysu’r Periglor mewn ysgrifen o hynny, fel petai’r wybodaeth yn dod oddi wrtho ef ei hun.
(2) Ar dderbyn gwybodaeth yn unol ag is-reoliad (1) o hynyma, rhaid i’r corff neu’r sawl sy’n gyfrifol am dalu cyflog y Periglor anfon ffurflen datgan absenoldeb iddo, a rhaid i’r Periglor lenwi a dychwelyd y ffurflen i’r sawl a’i hanfonodd pan fydd ef yn abl i ymgymryd â’i ddyletswyddau arferol.
(3) Os pery methiant Periglor am fwy na saith niwrnod, rhaid anfon tystysgrif gymwys meddyg i’r corff neu’r sawl sy’n gyfrifol am dalu cyflog y Periglor, ac wedi hynny tystysgrifau meddygol pellach, fel y bo’r cyfryw gorff neu berson yn gofyn, hyd y daw’r methiant i ben.
2.
(1) Os bydd i Beriglor (nad yw’n Beriglor bywoliaeth gysylltiedig â chadeirlan) fynd yn fethedig, hysbyser y Deon Gwlad.
(2) Pan fo’r Periglor methedig yn Ddeon Gwlad, hysbyser yr Archddiacon. Pan fo’r Periglor methedig yn Archddiacon, hysbyser yr Esgob.
3.
Yn ystod chwe wythnos ar hugain gyntaf ei fethiant bydd hawl gan Beriglor i dderbyn ei gyflog yn llawn ynghyd ag unrhyw daliadau cyson am dreuliau, ac eithrio unrhyw fudd-daliadau salwch y mae ganddo hawl iddynt yn ystod y cyfnod hwnnw.
4.
Yn ystod unrhyw gyfnod o fethiant a fo’n parhau yn hwy na’r chwe wythnos ar hugain gyntaf bydd gan y Periglor hawl i hanner y gyflog a fyddai’n daladwy iddo pe na bai’n fethedig, ac eithrio unrhyw fudd-daliadau salwch y mae ganddo hawl iddynt yn ystod y cyfnod hwnnw.
5.
(1) Os bydd methiant Periglor bywoliaeth nad yw’n gysylltiedig â chadeirlan yn mynnu hynny, rhaid i’r Deon Bro drefnu cynnal y weinidogaeth yn y cyfryw fywoliaeth. Pan fo’r Periglor methedig yn Ddeon Bro rhaid i’r Archddiacon drefnu cyflawni ei ddyletswyddau. Pan fo’r Periglor methedig yn Archddiacon, rhaid i’r Esgob drefnu cyflawni ei ddyletswyddau.
(2) Ar ddiwedd pob chwarter neu ar ddiwedd methiant Periglor bywoliaeth, pa un bynnag a ddigwydd gyntaf, rhaid i’r Deon Bro neu’r Archddiacon, yn ôl fel y digwydd, anfon i Fwrdd Cyllid yr Esgobaeth fantolen cost cynnal y weinidogaeth, a thelir y cyfryw gost gan Gronfa Cynnal y Weinidogaeth yr esgobaeth honno. Graddfa taliadau a threuliau a ddarparwyd ar gyfer bywiolaethau gwag a ddefnyddir.
6.
Fe fydd yn ddyletswydd ar Beriglor, o fewn y cyfnod penodedig, hawlio pob budd-daliad statudol salwch sy’n ddyledus iddo ac, os gofynnir iddo, rhaid iddo hysbysu Bwrdd Cyllid yr Esgobaeth o faint y swm.
7.
Bernir bod methiant Periglor yn dod i ben naill ai pan allo (ar dystiolaeth llenwi a dychwelyd ffurflen datgan absenoldeb, ac, os bu’r cyfnod pan oedd yn fethedig yn hwy na saith niwrnod, ar dystiolaeth tystysgrif cliriad meddyg) ymgymryd â’i ddyletswyddau arferol, neu pan ymddeolo, pa un bynnag a ddigwyddo gyntaf.
YR AIL ATODLEN Y CYFEIRIWYD ATI EISOES
Rheoliadau ynglŷn â byrddau meddygol
1.
Pan fo Periglor yn fethedig oherwydd afiechyd corfforol neu feddyliol am gyfnod parhaol o fwy na phedair wythnos, neu am gyfanswm o wyth niwrnod ar hugain o fewn unrhyw gyfnod o dri mis, gall yr Esgob fynnu iddo ymddangos gerbron bwrdd meddygol (a elwir yma rhag llaw y Bwrdd), a dynodir aelodau hwnnw isod.
2.
Aelodau’r Bwrdd fydd Archddiacon, a dau leygwr sydd yn feddygon cofrestredig. Bydd y Bwrdd yn ôl ei farn yn cynghori’r Esgob a ydyw’r Periglor yn analluog i gyflawni dyletswyddau ei swydd dros dro neu yn barhaol oherwydd methiant meddwl neu gorff.
3.
Rhaid i bob Esgob Cadeiriol enwebu o’i esgobaeth ef, ar restr (a elwir yma rhag llaw y Rhestr Daleithiol) Archddiacon, a dau leygwr sydd yn feddygon cofrestredig. Erys enwau’r cyfryw dri pherson ar y Rhestr Daleithiol am gyfnod o dair blynedd, a gellir eu hailenwebu. Bydd yr Esgob yn llenwi unrhyw le gwag ar y Rhestr Daleithiol trwy enwebu ymhellach am dair blynedd. Gall unrhyw un ymddiswyddo oddi ar y Rhestr Daleithiol trwy hysbysu Ysgrifennydd Corff y Cynrychiolwyr mewn ysgrifen.
4.
Pan fynnir i Beriglor ymddangos gerbron y Bwrdd rhaid i Ysgrifennydd Corff y Cynrychiolwyr, o weithredu yn Ysgrifennydd y Bwrdd, ddewis o’r Rhestr Daleithiol aelodau’r Bwrdd am y tro hwnnw, eithr ni fydd ar y Bwrdd hwnnw unrhyw un wedi ei enwebu o’r esgobaeth y bo’r cyfryw Beriglor yn gwasanaethu ynddi.
5.
Rhoddir o leiaf bedwar diwrnod ar ddeg o rybudd mewn ysgrifen i Beriglor y mynnir iddo ymddangos gerbron y Bwrdd, a bydd ganddo hawl i gael un person i’w gynrychioli neu fod yn gwmni iddo.
6.
Rhaid i’r Bwrdd, o fewn pedwar diwrnod ar ddeg o ddiwedd ei ymgyngoriadau, draethu ei farn i’r Esgob a’r Periglor ar yr un pryd. Os bydd anghytuno rhwng aelodau’r Bwrdd, barn y mwyafrif a saif. Rhaid i’r Bwrdd ddatguddio’r rhesymau am ei farn i’r Periglor, os dymuna efe hynny.
7.
Os mynn y Bwrdd hynny, rhaid i Beriglor ofyn i’w feddyg ei hun roi gerbron y Bwrdd dystiolaeth am ei gyflwr meddygol perthnasol i’w fethiant, a gall y Bwrdd ofyn i Beriglor gytuno i gael archwiliad meddygol annibynnol.
8.
Telir yr holl gostau yr aeth y Bwrdd a’r Periglor iddynt yn unol â’r Atodlen hon gan Gorff y Cynrychiolwyr.
6.
DARPARU PENODI DYDDIAU I ORDEINIO YN YR EGLWYS YNG NGHYMRU
(Cyhoeddwyd 15 Medi 1982)
GAN MAI buddiol darparu penodi pan fydd yn gynfreithlon ordeinio i’r Weinidogaeth Sanctaidd yn yr Eglwys yng Nghymru
DEDDFER TRWY HYN fel y canlyn:
1.
O’r dyddiad a bennir yma rhag llaw ar gyfer dyfod o’r Canon hwn i rym ac effaith, bydd yn gyfreithlon yn a thrwy holl Dalaith Cymru ordeinio i’r Weinidogaeth Sanctaidd ar y cyfryw ddyddiau a benodir i’r pwrpas o bryd i’w gilydd gan Fainc yr Esgobion.
2.
Diddymir drwy hyn y Canon ar gyfer ychwanegu at nifer y dyddiau y gellir gwneud Diaconiaid ac urddo Offeiriaid yn yr Eglwys yng Nghymru, a gyhoeddwyd ar 27 Medi 1973, ond ni cheir cymryd bod dim o hynyma yn adnewyddu unrhyw Ganon blaenorol a ddiddymwyd gan y Canon hwnnw a gyhoeddwyd ar 27 Medi 1973.
3.
Daw darpariaethau’r Canon hwn i rym ac effaith ar y cyfryw ddiwrnod a benodir gan Fainc yr Esgobion.
7.
I DDIWYGIO’R GYFRAITH GANON YNGLŶN AG ANALLU CLERIGION
(Cyhoeddwyd 19 Ebrill 1990)
GAN FOD Deddf yr Eglwys yng Nghymru, 1914, wedi rhoi galluoedd i’r Eglwys yng Nghymru newid a goleddfu cyfraith eglwysig, gan gynnwys y gallu i newid neu oleddfu y cyfryw gyfraith fel y mae wedi eu hymgorffori mewn Deddfau Seneddol.
A CHAN EI BOD yn ddymunol fod Deddf Anallu Clerigwyr, 1870, yn peidio â ffurfio rhan o Gyfraith Ganon yr Eglwys yng Nghymru a bod darpariaethau yn caniatáu cofrestru yn Swyddfa Cofrestrydd Arglwydd Archesgob Cymru Weithredoedd Ildio Urddau Sanctaidd yn cymryd ei lle.
A CHAN EI BOD yn ddymunol darparu moddion y gellir drwyddynt ddileu am reswm da Weithred Ildio Urddau Sanctaidd.
A CHAN EI BOD yn ddymunol darparu ar gyfer diarddel o Urddau Sanctaidd a deol o swydd glerigion yr Eglwys yng Nghymru a farnwyd yn euog o flaen Llys y Dalaith o ymddygiad oedd yn rhoi achos cyfiawn i gywilydd neu dramgwydd.
DEDDFER DRWY HYNYMA fel a ganlyn:
1.
Bydd i Ddeddf Anallu Clerigwyr, 1870, beidio ar unwaith â ffurfio rhan o gyfraith Eglwysig yr Eglwys yng Nghymru, a bydd i baragraffau (d) i (j) adran 36 pennod XI[3] Cyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru gael ei hailrifo yn (e) i (k) a bydd i baragraff newydd (d) gael ei osod i mewn yn darllen:
(d) Deddf Anallu Clerigwyr, 1870;
2.
(1) Gall unrhywun a dderbyniwyd (cyn neu wedi cyhoeddi’r Canon hwn) i swydd clerig yn yr Eglwys yng Nghymru, wedi iddo ymddiswyddo o’r cyfryw swydd neu o unrhyw a phob penodiad a ddaliwyd ganddo ef neu ganddi hi yn yr Eglwys yng Nghymru gyflawni Gweithred Ildio yn ôl y ffurf a osodir yn yr atodlen i’r Canon hwn.
(2) O fewn wyth dydd ar hugain wedi cyflawni’r cyfryw weithred rhaid i’r dywededig glerig:
(a) beri i’r cyfryw gael ei chofrestru yn Swyddfa Arglwydd Archesgob Cymru;
(b) drosglwyddo copi swyddfa o’r cyfryw gofrestriad i Esgob yr esgobaeth lle’r oedd ef neu hi’n dal penodiad ddiwethaf, neu os nad yw ef neu hi wedi dal unrhyw benodiad yna i Esgob yr esgobaeth lle mae ef neu hi yn byw ar y pryd, gan nodi yn y naill achos a’r llall lle mae ef neu hi in byw ar hyn o bryd;
(c) wedi cyflwyno copi swyddfa i Esgob Esgobaeth yn unol ag is-adran (2)(b) o hynyma roi rhybudd o wneud hynny i Archesgob y dalaith lle mae’r esgobaeth;
oni wneir hyn bydd y Weithred yn cael ei hystyried yn ddiddim.
(3) Ar ddiwedd chwe mis wedi i gopi swyddfa o gofrestriad Gweithred Ildio gael ei drosglwyddo yn y modd hwn i Esgob, bydd iddo ef neu ei olynydd yn y swydd, ar gais ysgrifenedig y sawl sy’n cyflawni’r Weithred, beri i’r Weithred gael ei chofrestru yn Swyddfa Cofrestrydd yr esgobaeth, ac ar hynny ac wedi hynny (ond nid cyn hynny) bydd i’r canlyniadau a ganlyn ddilyn ynglŷn â’r sawl sy’n cyflawni’r Weithred:
(a) ni fydd ef neu hi yn alluog i weinyddu neu weithredu mewn unrhyw fodd fel clerig o’r Eglwys yng Nghymru, nac i gymryd neu ddal unrhyw benodiad ynddi, a bydd yn peidio â mwynhau pob hawliau, breintiau, manteision a rhyddfreintiau sy’n perthyn i swydd clerig yn y Eglwys yng Nghymru;
(b) bydd pob trwydded, swydd, a lle a ddaliwyd ganddo neu ganddi y mae’n gymhwyster anhepgor yn ôl y gyfraith fod y sawl sy’n dal y cyfryw yn glerig o’r Eglwys yng Nghymru ipso facto yn cael eu terfynu a’u gwneud yn ddi-rym;
(c) bydd ef neu hi yn rhinwedd y Canon hwn yn cael ei ryddhau neu ei rhyddhau ac yn rhydd o bob anallu, anghymhwyster, rhwystr a gwaharddiad y byddai ef neu hi, pe na bai’r Canon hwn neu Ddeddf Anallu Clerigwyr, 1870, wedi eu cyhoeddi, drwy rym unrhyw ddeddfiad a nodwyd yn atodlen gyntaf Deddf Anallu Clerigwyr, 1870, neu unrhyw gyfraith arall, yn ddarostyngedig iddynt fel un a dderbyniwyd i swydd clerig yn yr Eglwys yng Nghymru, ac o bob awdurdod, cosb, cerydd, a gweithrediad y byddai neu y gallai ef neu hi, pen na bai’r Canon hwn wedi ei gyhoeddi, dan unrhyw o’r cyfryw ddeddfiadau neu unrhyw gyfraith arall, fod yn atebol neu’n agored iddynt o ganlyniad iddo neu iddi gael ei dderbyn neu ei derbyn yn y cyfryw fodd, ac o unrhyw weithred neu beth a wnaeth neu a adawodd ef neu hi heb ei wneud wedi’r cyfryw dderbyniad.
Dan yr amod os na fydd y cyfryw gais ysgrifenedig wedi ei dderbyn ar ddiwedd naw mis wedi’r cofrestriad, bydd y Weithred yn cael ei hystyried yn ddiddim a’r Weithred wreiddiol yn cael ei chadarnhauyn unol â hynny.
(4) I bwrpas unrhyw achosion cyfreithiol a gychwynnwyd o fewn y dywededig gyfnod o chwe mis yn erbyn un sy’n cyflawni Gweithred Ildio o dan y Canon hwn, dylai gwasanaeth unrhyw wŷs, rhybudd neu ddogfennau eraill yn y lle a nodwyd ganddo neu ganddi yn unol â’r Canon hwn fod yn wasanaeth digonol.
(5) Bydd copi o’r cofnod yn Swyddfa Cofrestrydd esgobaeth o Weithred Ildio dan y Canon hwn, wedi ei gymryd yn briodol a’i ardystio gan y Cofrestrydd, yn dystiolaeth fod y Weithred wedi ei chyflawni, ei chofrestru a’i chofnodi, a bod holl ofynion y Canon hwn wedi eu cwblhau ynglŷn â hynny. Bydd i’r Cofrestrydd, ar gais y sawl sy’n cyflawni’r Weithred, roi iddo neu iddi gopi o’r cofnod ohoni wedi ei gymryd a’i ardystio’n briodol, ar dderbyn taliad am y cofnodi a’r copi o hynny.
(6) Ni fydd i un dim yn y Canon hwn ryddhau unrhywun na’i ystad rhag unrhyw rwymedigaeth ynglŷn ag adfeiliad nac o unrhyw ddyled neu gyfrifoldeb ariannol arall a achoswyd neu a ddigwyddodd na chyn nac wedi iddo neu iddi gyflawni Gweithred Ildio dan y Canon hwn, a gellir gorfodi ac adfeddiannu’r cyfryw fel pe na bai’r Canon hwn neu Ddeddf Anallu Clerigwyr, 1870, wedi eu cyhoeddi.
3.
(1) Gall unrhywun a ildiodd hawliau, breintiau, manteision a rhyddfreintiau swydd clerig yn yr Eglwys yng Nghymru yn y modd a ddarperir gan Ddeddf Anallu Clerigwyr, 1870, neu’r Canon hwn, ar unrhyw adeg wedi i’r Weithred Ildio a gyflawnwyd ganddo neu ganddi gael ei chofnodi yn Swyddfa Cofrestrydd esgobaeth, gyflwyno i Archesgob y Dalaith lle mae’r cyfryw esgobaeth ddeiseb ysgrifenedig wedi ei gwireddu gan ddatganiad statudol yn gosod allan:
(a) yr amgylchiadau a’r rhesymau y cyflawnodd ef neu hi’r Weithred Ildio o’u herwydd;
(b) natur y gwaith neu’r gorchwyl yr oedd ef neu hi’n ymwneud ag ef a’r lle neu’r lleoedd y bu ef neu hi’n byw ynddynt ar ôl cyflawni’r Weithred Ildio;
(c) yr amgylchiadau a’r rhesymau y mae ef neu hi yn dymuno ailafael mewn swydd clerig gweinyddol o’u herwydd.
(2) Bydd i’r Archesgob ar ôl ymgynghori ag Esgob yr esgobaeth, nad yw’n ei esgobaeth ef ei hun, lle cofnodwyd y Weithred Ildio, ac ar ôl unrhyw ymholi ac ymgynghori arall y bydd ef yn ystyried eu bod yn angenrheidiol yn cyfleu ei benderfyniad i’r deisebydd, a gall, os bydd yn ystyried hynny’n gymwys, naill ai ar unwaith neu ymhen ysbaid, mewn ysgrifen dan ei law a’i sêl archesgobol, ofyn am ddileu cofrestru’r Weithred Ildio a gyflawnwyd gan y deisebydd.
(3) Ar dderbyn y cyfryw gais bydd i’r cyfryw gofrestriad, yn ddarostyngedig i gydymffurfio ag unrhyw ddeddfau Llys, gael ei ddileu.
(4) Wedi dileu cofrestriad Gweithred Ildio dan y Canon hwn, neu Ddeddf Anallu Clerigwyr, 1870, bydd i Esgob yr esgobaeth y mae’r cyfryw weithred wedi ei chofnodi yn Swyddfa ei Chofrestrydd beri bod dileu ei chofrestriad yn yr un modd yn cael ei gofnodi yn y cyfryw Swyddfa ac ar hynny, ynglŷn â’r sawl a gyflawnodd y Weithred, bydd i’r canlyniadau a nodwyd ym mharagraffau (1) a (3) adran 4 Deddf Anallu Clerigwyr, 1870, neu baragraffau (a) a (c) adran 2 y Canon hwn, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r Canon hwn, beidio â bod yn effeithiol.
(5) Ni fydd Clerig a gyflawnodd Weithred Ildio, y cofnodwyd dileu ei chofrestriad dan y Canon hwn, yn ystod cyfnod o ddwy flynedd wedi cofnodi’r dilead, yn alluog i ddal unrhyw fywoliaeth na phenodiad arall, gan gynnwys swydd ciwrad a drwyddedwyd dan sêl, ond, yn ddarostyngedig fel y dywedwyd uchod, gall i’r cyfryw raddau a than y cyfryw amodau ag y penderfyno Esgob unrhyw esgobaeth, weinyddu fel clerig yn y cyfryw esgobaeth gyda chaniatâd y cyfryw Esgob.
(6) Wedi’r cyfnod dywededig o ddwy flynedd bydd y cyfryw glerig yn alluog i ddal unrhyw fywoliaeth neu benodiad fel y dywedwyd uchod y mae ef neu hi yn addas i’w dal o fewn darpariaethau Cyfansoddiad neu Gyfraith Ganon yr Eglwys yng Nghymru yn unrhyw esgobaeth, yn ddarostyngedig i dderbyn yn gyntaf ganiatâd Esgob y cyfryw esgobaeth, ac fel y gall y caniatâd a roir dan yr is-adran hon fod naill ai yn ganiatâd cyffredinol neu’n ganiatâd a roddwyd ar gyfer rhyw fywoliaeth neu benodiad neilltuol.
(7) Bydd copi o gofnod yn Swyddfa Cofrestrydd esgobaeth yn dileu dan y Canon hwn gofrestru Gweithred Ildio wedi ei gymryd yn briodol a’i ardystio gan Gofrestrydd yr esgobaeth yn brawf o’r cyfryw ddilead ac o gofnodi’r cyfryw ddilead.
(8) Bydd i Gofrestrydd yr esgobaeth, ar gais y Clerig dan sylw, roi iddo neu iddi gopi o’r cyfryw gofnod wedi ei gymryd a’i ardystio’n briodol, ar dderbyn taliad.
4.
Ailrifer is-adrannau (2) i (4) adran 25[4] Pennod XI Cyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru yn is-adrannau (3) i (5), a gosod i mewn yr is-adran (2) newydd a ganlyn:
(2) Pan fo cyhuddiad dan adran 18(e)(ii) o hynyma am ymddygiad sy’n rhoi achos cyfiawn i gywilydd neu dramgwydd wedi ei ddwyn yn erbyn clerig o’r Eglwys yng Nghymru gan Esgob yr esgobaeth lle mae ef neu hi yn dal swydd neu’n byw, gall dyfarniad, dedfryd neu orchymyn Llys y Dalaith gynnwys argymhelliad i’r dywededig Esgob fod y clerig yn cael ei ddiswyddo neu ei diswyddo o Urddau Sanctaidd a’i ddiarddel neu ei diarddel o swydd clerig yr Eglwys yng Nghymru, a gall yr Esgob wneud y cyfryw orchymyn ar yr argymhelliad fel y barno ef yn gymwys, dan yr amod bob amser os bydd iddo wneud gorchymyn diswyddo a diarddel:
(a) fod iddo gyflawni Gweithred Diswyddo a Diarddel;
(b) fod iddo beri i’r cyfryw gael ei chofrestru yn Swyddfa Cofrestrydd Arglwydd Archesgob Cymru;
(c) fod Cofrestrydd yr Archesgob ar unwaith yn trosglwyddo copi swyddfa o’r cofrestriad i Esgob yr esgobaeth a’r clerig, ac yn rhoi rhybudd i’r Archesgob ei fod wedi gwneud hynny.
O fewn chwe mis wedi cofrestru’r Weithred, gall y clerig apelio mewn rhybudd ysgrifenedig wedi ei drosglwyddo i Gofrestrydd yr Archesgob yn erbyn dyfarniad yr Esgob at Synod Daleithiol yr Eglwys yng Nghymru, a bydd ei dyfarniad hi yn derfynol. Ar ddiwedd y chwe mis wedi cofrestru’r Weithred neu, pe digwyddai apêl yn uniongyrchol wedi dyfarnu’r cyfryw apêl gan y Synod Daleithiol bydd i’r Esgob neu ei olynydd yn ei swydd beri i’r Weithred gael ei chofnodi yn Swyddfa Cofrestrydd yr esgobaeth, ac ar hynny ac wedi hynny (ond nid cyn hynny) bydd i’r un canlyniadau ddilyn ynglŷn â’r sawl a ddiswyddwyd ac a ddiarddelwyd yn y Weithred â phe bai ef neu hi wedi cyflawni, cofrestru a chofnodi Gweithred Ildio.
5.
Gellir dileu Gweithred Diswyddo a Diarddel a gyflawnwyd yn unol ag adran 25(2) [5] pennod XI Cyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru yn yr un ffurf a modd, a chyda’r un effaith, â Gweithred Ildio, yn unol â darpariaethau adran 3 o hynyma.
6.
Dileër adran 34[6] pennod XI y Cyfansoddiad a gosod a ganlyn yn ei lle:
34.
Yn ddarostyngedig I ddarpariaethau’r Cyfansoddiad bydd o fewn gallu’r Archesgob, Esgob Cadeiriol, Llys y Dalaith, Llys Arbennig y Dalaith a’r Goruchel Lys gyhoeddi dedfryd o rybudd, ataliad neu ddeoliad o swydd mewn Urddau Sanctaidd, neu ddiarddel o Urddau Sanctaidd a deol o swydd, glerig yn yr Eglwys yng Nghymru.
7.
Y mae’r Canon hwn i’w ddyfynnu fel Canon Anallu Clerigion, 1990.
Yr Atodlen
Ffurf Gweithred Ildio
Bydded hysbys i bawb drwy’r presenolion hyn, fy mod i
A.B o
wedi cael fy nerbyn i swydd offeiriad (neu ddiacon fel y bo’r achos) yn yr Eglwys yng Nghymru ac wedi ymddiswyddo (yma gosoder disgrifiad o’r penodiad diwethaf, os oedd un) drwy hynyma, yn unol â’r Canon Anallu Clerigion, 1990, yn datgan fy mod yn ildio pob hawliau, breintiau, manteision a rhyddfreintiau y swyddi sydd drwy gyfraith yn perthyn iddi.
YN DYST I HYN yr wyf yn gosod fy llaw a’m sêl ar hynyma
y dydd hwn o 20
(Arwyddwyd) A.B.
(Seliwyd)
Cyflawnwyd gan A.B. ym mhresenoldeb
C.D.
8.
I DDIWYGIO’R GYFRAITH GANON YNGLŶN AG OED ORDEINIO I’R OFFEIRIADAETH
(Cyhoeddwyd 19 Ebrill 1990)
GAN FOD Deddf yr Eglwys yng Nghymru, 1914, wedi rhoi galluoedd i’r Eglwys yng Nghymru newid a goleddfu cyfraith eglwysig, gan gynnwys y gallu i newid neu oleddfu y cyfryw gyfraith fel y mae wedi ei hymgorffori mewn Deddfau Seneddol.
A CHAN EI BOD yn ddymunol fod Deddf Ordeinio Clerigwyr, 1804, yn peidio â ffurfio rhan o gyfraith ganon yr Eglwys yng Nghymru ac y dylid ystyried iddi beidio â ffurfio rhan o gyfraith ganon yr Eglwys yng Nghymru oddi ar adeg y Datgysylltiad.
A CHAN EI BOD yn ddymunol awdurdodi Archesgob Cymru i gyhoeddi Caniatâd fel y gall rhai sydd heb gyrraedd pedair blwydd ar hugain oed gael eu hordeinio i’r offeiriadaeth dan yr amod eu bod wedi cyrraedd tair blwydd ar hugain oed.
DEDDFER DRWY HYN fel y canlyn:
1.
(1) Bydd Deddf Ordeinio Clerigwyr, 1804, yn peidio â ffurfio rhan o gyfraith eglwysig yr Eglwys yng Nghymru, ac ystyrir iddi beidio â ffurfio rhan o gyfraith eglwysig yr Eglwys yng Nghymru oddi ar 30 Mawrth 1920.
(3) Ailrifer paragraffau (a) i (k) adran 36[7] Pennod XI Cyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru yn (b) i (l) a gosod i mewn baragraff newydd (a) yn darllen:
(a) Deddf Ordeinio Clerigwyr, 1804;
2.
Bydd yn gyfreithlon i Archesgob Cymru ganiatáu Hawleb i’r sawl sydd dros dair ar hugain oed gael ei dderbyn yn Offeiriad mewn unrhyw Esgobaeth yn Nhalaith Cymru a phregethu a gweinyddu’r Sacramentau er nad yw’r cyfryw wedi cyrraedd yr oed llawn o bedair blwydd ar hugain.
3.
Dyfynner y Canon hwn fel Canon Oed Ordeinio, 1990.
9.
I ALLUOGI ORDEINIO BENYWOD YN OFFEIRIAID
(Cyhoeddwyd 19 Medi 1996)
GAN FOD y gyfraith ganon fel y derbynnir hi gan yr Eglwys yng Nghymru yn gwrthod derbyn benywod i Urddau Sanctaidd.
A CHAN FOD yr Eglwys yng Nghymru wedi darparu ar gyfer derbyn benywod i Urdd Sanctaidd Diaconiaid.
A CHAN MAI priodol yn awr yn yr Eglwys yng Nghymru fod benywod yn cael eu hordeinio yn Offeiriaid.
A CHAN MAI bwriad yr Eglwys yng Nghymru yw parhau gweinidogaeth yr Eglwys yn ei hurdd driphlyg Esgobion, Offeiriaid a Diaconiaid a pharhau’n rhan o’r Un Eglwys Lân, Gatholig ac Apostolig.
A CHAN FOD Mainc yr Esgobion yn ymrwymo’n unfrydol i weithredu ynghyd er mwyn sicrhau lle parhaol ym mywyd yr Eglwys yng Nghymru i bobl gydag argyhoeddiadau cydwybodol gwahanol ar y mater hwn, ac wedi cyhoeddi egwyddorion bugeiliol i’r perwyl hwn.
A CHAN FOD yr Eglwys yng Nghymru, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r gyfraith sifil ynglŷn â chamwahaniaethu rhywiol, yn dymuno parchu’r rhai sydd oherwydd cydwybod yn methu derbyn ordeinio benywod yn Offeriaid.
DEDDFER DRWY HYNYMA fel a ganlyn:
1.
O hyn allan yn yr Eglwys yng Nghymru gellir ordeinio benywod yn Offeiriaid.
2.
Ni fydd yn orfodol ar unrhyw Esgob ddod ag achosion o flaen Llys y Dalaith dan ddarpariaethau adran 18(e)(i) na (ii) Pennod XI[12] y Cyfansoddiad ynglŷn â chlerig neu aelod arall o’r Eglwys yng Nghymru a fydd yn anghydsynio oherwydd cydwybod â thelerau adran 1 o hynyma.
3.
Pa le bynnag yng Nghyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru, y Llyfr Gweddi Gyffredin i’w arfer yn yr Eglwys yng Nghymru neu unrhyw ffurf wasanaeth a awdurdodwyd yn gyfreithiol i’w arfer yn yr Eglwys yng Nghymru y bydd cyfeiriad at Offeiriad, ystyrir bod y cyfeiriad yn cynnwys benywod a ordeiniwyd yn Offeiriaid lle bo’r cyfryw ddehongliad yn unol â dibenion adran 1 o hynyma.
4.
Daw darpariaethau’r Canon hwn i rym ac effaith ar y cyfryw ddiwrnod ag a benodir gan Fainc yr Esgobion.
10.
I DDILEU AMHEUAETH YNGLŶN Â PHRIODI WEDI YSGARIAD FEL RHWYSTR DERBYNIAD I URDDAU SANCTAIDD
(Cyhoeddwyd 13 Medi 1998)
GAN FOD amheuaeth a yw priodi yn dilyn ysgariad a’r cyn-briod yn dal yn fyw neu briodi â pherson a gafodd ysgariad a chyn-briod y person hwnnw yn dal yn fyw yn rhwystr pam na ddylai person o’i herwydd gael ei dderbyn i Urddau Sanctaidd ai peidio.
A CHAN MAI dymunol yw dileu unrhyw amheuaeth o’r fath.
DEDDFER A CHYHOEDDER DRWY HYNYMA o’r dydd a benodir gan Fainc yr Esgobion i’r Canon hwn ddod i rym ac effaith y bydd:
(a) priodi yn dilyn ysgariad yn ystod bywyd cyn-briod; a
(b) priodi â pherson a gafodd ysgariad yn ystod bywyd cyn-briod y person hwnnw,
yn cael eu cydnabod yn rhwystrau canonaidd yn yr Eglwys yng Nghymru na ellir o’u herwydd dderbyn person i Urddau Sanctaidd;
dan yr amod y bydd gan Fainc yr Esgobion y gallu i ganiatáu eithriadau i’r rhwystrau hyn yn dilyn trafodaeth gyda phanel taleithiol o gynghorwyr wedi ei benodi dan awdurdod y Canon hwn ac yn cynnwys cynrychiolaeth o bob esgobaeth.
11.
ADOLYGU’R DDARPARIAETH AT AMODAU GWAITH DEILIAID SWYDDI EGLWYSIG YN YR EGLWYS YNG NGHYMRU
(Cyhoeddwyd 23 Medi 2010)
GAN FOD Corff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru wedi penderfynu y dylid adolygu sail Amodau Gwaith deiliaid Swyddi Eglwysig yn yr Eglwys yng Nghymru yn unol ag amodau’r Canon hwn.
DEDDFER TRWY HYNYMA fel a ganlyn:
DALIADAETH GYFFREDIN
1.
(1) Y mae’r amodau gwaith y deil y personau y mae a wnelo’r Canon hwn â hwy eu swyddi danynt i’w hadnabod fel Daliadaeth Gyffredin.
(2) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r adran hon, bydd a wnelo’r Canon hwn â phob un o’r deiliaid swyddi eglwysig a ganlyn a fydd yn achos unrhyw berson y cyfeirir ato ym mharagraffau (a) i (h):
(i) wedi’i benodi i swydd ar ôl i’r adran hon ddod i rym, ac
(ii) yn dal swydd pan ddaw’r adran hon i rym ac wedi cytuno bod y Canon hwn i’w gymhwyso ato ef neu ati hi yn unol ag isadrannau (5) a (6)
(3) Y deiliaid swyddi eglwysig y cyfeirir atynt yn isadran (2) yw:
(a) Archesgob Cymru (y cyfeirir ato wedi hyn yn y Canon hwn fel “yr Archesgob”);
(b) unrhyw esgob esgobaeth;
(c) unrhyw esgob cynorthwyol;
(d) unrhyw ddeon, canon neu berson arall mewn urddau sanctaidd sy’n dal swydd daledig mewn eglwys gadeiriol;
(e) unrhyw archddiacon;
(f) unrhyw beriglor;
(g)unrhyw berson arall mewn urddau sanctaidd sy’n ymarfer swydd neu weinidogaeth yn unol â thrwydded oddi wrth esgob yr esgobaeth y gweithredir y swydd ynddi; ac
(h) unrhyw ddiacones, darllenydd neu weithiwr lleyg sy’n ymarfer swydd neu weinidogaeth yn unol â thrwydded oddi wrth esgob yr esgobaeth y gweithredir y swydd ynddi ac sy’n derbyn tâl neu enillion eraill (yn cynnwys llety) am ei swydd.
(4) Bydd pob un y cymhwysir ato Ddaliadaeth Gyffredin yn dal ei swydd yn unol â’r Datganiad Amodau Gwaith dan Ddaliadaeth Gyffredin a wneir o dan Adran 2.
(5) Cyn gynted ag y bo modd wedi i’r is-adran hon ddod i rym:
(a) bydd yr Archesgob yn hysbysu, mewn ysgrifen, bob esgob esgobaeth a fydd yn dal swydd yn yr Eglwys yng Nghymru ar y dyddiad hwnnw,
(b) bydd yr Esgob Hynaf yn hysbysu’r Archesgob mewn ysgrifen, a
(c) bydd pob esgob esgobaeth yn hysbysu, mewn ysgrifen, bob esgob cynorthwyol a phawb y cyfeirir atynt yn isadrannau (3)(d) i (h) sy’n dal swydd yn ei esgobaeth ar y dyddiad hwnnw,
ac yn gofyn iddynt fynegi mewn ysgrifen a ydynt yn cytuno i’r Ddaliadaeth Gyffredin ac, os felly, i ddatgan hynny mewn ysgrifen.
(6) O’r dyddiad pan dderbynia’r Archesgob, yr Esgob Hynaf neu Esgob yr Esgobaeth, yn ôl y digwydd, y datganiad ysgrifenedig y cyfeirir ato yn isadran (5) yn datgan bod person yn cytuno i gymhwyso Daliadaeth Gyffredin ato neu ati, fe’i cymhwysir felly o’r dyddiad hwnnw.
GWEITHREDU
2.
(1) Bydd Corff y Cynrychiolwyr yn paratoi ac yn cyhoeddi Datganiad o Amodau Gwaith dan Ddaliadaeth Gyffredin a fydd, heb beryglu cyffredinolrwydd yr ymrwymiad hwn, yn cynnwys darparu at:
(a) amodau a thelerau gwaith;
(b) datrys anghydfod;
(c) datblygu a chynnal staff; a
(d) chyhoeddi gwybodaeth ac ymgynghori ar hyn.
(2) Gosodir y Datganiad o Amodau Gwaith y cyfeirir ato yn isadran (1) ac unrhyw welliant a gynigir iddo gerbron y Corff Llywodraethol ac ni ddaw i rym nes i’r Corff Llywodraethol ei gymeradwyo.
TEITL BYR
3.
Gellir cyfeirio at y Canon hwn fel y Canon Amodau Gwaith Clerigion 2010.
CYCHWYN
4.
Daw’r Canon hwn i rym ar y diwrnod a benodir gan Fainc yr Esgobion a gellir penodi diwrnodau gwahanol at wahanol ddarpariaethau.
12.
I ALLUOGI ORDEINIO MERCHED YN ESGOBION
(Cyhoeddwyd 12 Medi 2013)
GAN NAD YW Cyfraith a Chyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru hyd yma wedi caniatáu ordeinio merched yn Esgobion
A CHAN EI BOD yn awr yn briodol yn yr Eglwys yng Nghymru bod merched yn gymwys i’w cysegru i Urdd Sanctaidd Esgob
A CHAN MAI bwriad yr Eglwys yng Nghymru yw parhau gweinidogaeth yr eglwys gyffredinol yn ei thair urdd o Esgobion, Offeiriaid a Diaconiaid a pharhau’n rhan o’r Un Eglwys Lân Gatholig ac Apostolig
A CHAN FOD yr Eglwys yng Nghymru, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau’r gyfraith sifil ar gydraddoldeb a materion perthnasol eraill, yn dymuno parchu’r rhai hynny na allant o gydwybod dderbyn bod merched yn gymwys i’w cysegru i Urdd Sanctaidd Esgob
DEDDFER TRWY HYNYMA fel a ganlyn:
1.
O hyn allan yn yr Eglwys yng Nghymru bydd yn gyfreithlon cysegru merched yn esgobion.
2.
Lle bynnag yng Nghyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru, y Llyfr Gweddi Gyffredin i’w ddefnyddio yn yr Eglwys yng Nghymru neu unrhyw drefn gwasanaeth a awdurdodwyd yn gyfreithlon i’w defnyddio yn yr Eglwys yng Nghymru y cyfeirir at esgob, ystyrir bod y cyfeiriad yn cynnwys merched a gysegrwyd yn esgobion.
3.
Daw darpariaethau’r Canon hwn i rym flwyddyn ar ôl cyhoeddi’r Canon hwn.
4.
Wrth gymeradwyo’r Canon hwn, mae’r Corff Llywodraethol yn ymddiried i Fainc yr Esgobion i gytuno yn ddi-oed ar Gôd Ymarfer a fydd yn rhwymo’r Fainc i wneud darpariaethau i sicrhau holl aelodau’r Eglwys yng Nghymru, gan gynnwys y rhai hynny sy’n gwrthwynebu o gydwybod ddarpariaeth Adran 1, fod yr Eglwys yng Nghymru yn eu derbyn a’u gwerthfawrogi.
13.
I DDIWYGIO CYNLLUNIAU CADEIRLANNAU CYFANSODDIAD YR EGLWYS YNG NGHYMRU GWASANATHAU ANGLADD AMGEN
(Cyhoeddwyd 12 Medi 2019)
GAN FOD Corff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru wedi penderfynu diwygio’r Cynlluniau Cadeirlannau yn Adran 3 Cyfrol II Cyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru ar gyfer Cadeirlan Llanelwy, Cadeirlan Bangor, Cadeirlan Tyddewi,
Cadeirlan Llandaf, Cadeirlan Mynwy a Chadeirlan Aberhonddu yn y modd a ymddengys o hyn ymlaen.
DEDDFER TRWY HYN YMA fel a ganlyn:
Ni fydd Cynlluniau Cadeirlannau yr Eglwys yng Nghymru yn rhan o Gyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru mwyach.
Yn lle Adran 3 Cyfrol II Cyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru gosoder y testun a draethir yn yr Atodlen i’r Canon hwn.
Daw’r Canon hwn i rym ar unwaith.
Mae’r Canon hwn i’w adnabod fel Canon (Diwygio Cynlluniau Cadeirlannau) Cyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru 2019.
Yr Atodlen y cyfeiriwyd ati
(Y ffurf newydd i’r Cynllun Cadeirlannau)
14.
I AWDURDODI DEFNYDD ARBROFOL O DDIWYGIADAU ARFAETHEDIG o’ LLYFR GWEDDI GYFFREDIN (gwasanaeth Bendithio yn dilyn Partneriaeth Sifil neu Briodas rhwng dau berson o'r un rhyw)
GAN FOD Urdd Clerigion ac Urdd Lleygion Corff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru wedi dangos eu barn trwy bleidlais anffurfiol ar 12 Medi 2018 'ei bod yn fugeiliol anghynaliadwy i'r Eglwys beidio â gwneud unrhyw ddarpariaeth ffurfiol ar gyfer y rhai mewn perthnasoedd o'r un rhyw' .
A CHAN FOD Mainc yr Esgobion yn credu ei bod yn ddymunol, cyn i fil i adolygu rhan o'r Llyfr Gweddi Cyffredin gael ei gyflwyno gan yr Esgobion i'w ystyried gan y Corff Llywodraethol, defnyddio math arfaethedig o wasanaeth yn arbrofol yn eglwysi’r Eglwys yng Nghymru am gyfnod cyfyngedig.
DEDDFER TRWY HYN:
- Y bydd gan Esgobion Esgobaethol y grym i awdurdodi at ddefnydd arbrofol yn yr eglwysi yn eu hesgobaeth y ffurflen a nodir yn yr Atodiad ar gyfer gwasanaeth Bendithio yn dilyn Partneriaeth Sifil neu Briodas rhwng dau berson o'r un rhyw am gyfnod o bum mlynedd o 1 Hydref 2021, yn ddarostyngedig i'r amodau anodir isod.
- Ni fydd gorfodaeth ar unrhyw Glerig i weinyddu mewn gwasanaeth o'r fath.
15.
CANON I AWDURDODI A RHEOLEIDDIO MÂN AMRYWIADAU I LITWRGI AWDURDODEDIG
(Cyhoeddwyd 28 Ebrill 2022)
MAE Mainc Esgobion yr Eglwys yng Nghymru yn dymuno egluro pryd y gellir gwneud mân amrywiadau i'r mathau o wasanaeth sydd wedi'u hawdurdodi i'w defnyddio yn y Dalaith,
DEDDFIR DRWY HYN:
- Caiff Clerig sy'n cael iacháu eneidiau, yn ôl ei ddisgresiwn, wneud a defnyddio mân amrywiadau mewn unrhyw ffurf awdurdodedig ar wasanaeth yn unol ag amgylchiadau penodol a gall awdurdodi gweinidogion eraill sy'n gweinyddu i ddefnyddio amrywiadau o'r fath mewn unrhyw wasanaeth o fewn eu hiachâd.
- Rhaid i bob amrywiad o'r fath mewn ffurfiau gwasanaeth fod yn barchus a gweddus ac ni ddylai fod yn groes i athrawiaeth yr Eglwys yng Nghymru, nac yn arwydd o unrhyw wyriad oddi wrth athrawiaeth yr Eglwys yng Nghymru.
- Caiff y Corff Llywodraethol (drwy gynnig) neu Orchymyn yr Esgobion gymeradwyo mân amrywiadau i unrhyw ffurf awdurdodedig ar wasanaeth i'w ddefnyddio gan weinidogion sy'n gweinyddu yn unol ag adran 1 o'r Canon hwn.
- Bydd gan Esgob yr Esgobaeth bŵer i benderfynu a yw unrhyw amrywiad (ac eithrio amrywiad a awdurdodir o dan adran 3 o'r Canon hwn):
- yn fân amrywiad;
- yn barchus a gweddus;
- yn groes i athrawiaeth yr Eglwys yng Nghymru, neu'n arwydd o unrhyw wyriad oddi wrth yr athrawiaeth,
a bydd y gweinidog yn ufuddhau i gyfarwyddyd Esgob yr Esgobaeth yn hyn o beth.
- Ni ellir ystyried bod unrhyw amrywiad i unrhyw ffurf ar wasanaeth (neu ran ohono) a restrir yn yr Atodiad yn fân amrywiad oni bai bod yr amrywiad wedi'i gymeradwyo yn unol ag adran 3 o'r Canon hwn.
- Ni fydd unrhyw beth yn y Canon hwn yn effeithio ar bwerau presennol Esgob Esgobaethol i wneud darpariaeth litwrgaidd ar gyfer achlysuron na wneir darpariaeth ar eu cyfer yn y Llyfr Gweddi Gyffredin.
- Yn y Canon hwn, ystyr "Clerig sy'n cael iacháu eneidiau" yw Clerig sy'n Beriglor, yn Offeiriad â Gofal, yn Rheithor neu’n Ficer mewn Bywoliaeth Reithorol, neu’n Glerig trwyddedig sy’n cael iacháu eneidiau neu sydd â chyfrifoldeb bugeiliol penodol am eglwys yn eu trwydded.
ATODIAD
Ffurf(iau) y Gwasanaeth - Rhan(nau) neu Adran(nau) perthnasol
Pob Gwasanaeth Bedydd awdurdodedig - Fformiwla bedyddio
Pob Gwasanaeth Priodas awdurdodedig - Gwahoddiad i wneud honiad o rwystr, Datganiadau ac Addunedau
Pob Ewcharist/Gwasanaeth Cymun Bendigaid Awdurdodedig - O'r Sursum Corda ("Codwch eich calonnau") tan ddiwedd dosbarthiad y Cymun Bendigaid
Ordinal - Tâl, Gweddïau Ordeinio
Unrhyw ffurf ar wasanaeth sydd wedi'i awdurdodi am gyfnod arbrofol - Cyfanrwydd
[1]
Yn awr is-adran 26(2) Pennod VI ac wedi ei weithredu’n barod
[2]
Yn awr Pennod IX
[3]
Yn awr adran 5 Pennod 1
[4]
Yn awr adrannau 18, 19, 40 a 42 Pennod IX
[5]
Yn awr adran 18 Pennod IX
[6]
Yn awr adrannau 8 ac 18 Pennod IX
[7]
Yn awr adran 5 Pennod 1
[8]
Yn awr adran 13 a Rheoliad 14 Pennod IV C
[9]
Yn awr adran 11 Pennod II
[10]
Yn awr adran 10 Pennod VI
[11]
Hepgorwyd adran 4
[12]
Yn awr adran 9 Pennod IX
[13]
Yn awr adran 10 Pennod VI