Cyfrol II: Adran 1.2 – Canonau’r Eglwys yng Nghymru
Taflen Cynnwys
(Dyddiadau Cyhoeddi mewn cromfachau)
- Ymddiswyddiad Periglorion
(28 Medi 1949) - Gwell Dosbarthu a Defnyddio ar Adnoddau Clerigol
(25 Medi 1968) - Diwygio Rhan o’r Llyfr Gweddi Gyffredin (Bedydd a Chonffyrmasiwn)
(8 Ebrill 1970) - Ar Gyfer Diwygio Rhan o’r Llyfr Gweddi Gyffredin (Claddedigaeth y Meirw)
(27 Medi 1973) - Ar Gyfer Diwygio Rhan o’r Llyfr Gweddi Gyffredin (Glân Briodas)
(2 Mai 1974) - I Effeithioli Gwelliannau Amrywiol i Gyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru
(26 Medi 1974) - Ar Gyfer Diwygio Rhannau o’r Llyfr Gweddi Gyffredin (Y Calendr, Taflenni a Rheolau)
(28 Medi 1978) - Ar Gyfer Diwygio Rhan o’r Llyfr Gweddi Gyffredin (Diolchgarwch am Eni neu Fabwysiadu Plentyn)
(27 Medi 1979) - Ar Gyfer Diwygio Rhan o’r Llyfr Gweddi Gyffredin (Bendithio Priodas Sifil)
(27 Medi 1979) - I Diwygio Pennod XI Cyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru
(16 Ebrill 1980) - Ar Gyfer Diwygio Rhannau o’r Llyfr Gweddi Gyffredin (Y Priodau, Salmau a Llithoedd)
(16 Ebrill 1980) - I Diwygio Adran 64 Pennod VII Cyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru
(17 Ebrill 1980) - Ar Gyfer Diwygio Rhannau o’r Llyfr Gweddi Gyffredin (Boreol a Hwyrol Weddi)
(17 Ebrill 1980) - I Diwygio Darpariaethau ynglŷn â Threfn Bil
(17 Medi 1980) - Ar Gyfer Diwygio Rhan o’r Llyfr Gweddi Gyffredin (Trefn Gwasanaeth y Cymun Bendigaid A ELWIR HEFYD YR OFFEREN)
(17 Medi 1981) - Ar Gyfer Diwygio Rhan o’r Llyfr Gweddi Gyffredin (Y Catecism)
(21 Ebrill 1982) - Ar Gyfer Diwygio Rhan o’r Llyfr Gweddi Gyffredin Taflen Carennydd a Chyfathrach)
(15 Medi 1982) - I Darparu arfer Galluoedd a Swyddogaethau Metropolitaidd pan fo’r Archesgob yn Fethedig neu’n Absennol o Ynysoedd Prydeinig
(15 Medi 1982) - Ar Gyfer Diwygio Rhan o’r Llyfr Gweddi Gyffredin (Ordeinio Esgobion, Offeiriaid a Diaconaid)
(20 Medi 1983) - Ar Gyfer Amryw Ddiwygiadau i’r Llyfr Gweddi Gyffredin
(21 Medi 1983) - Ar Gyfer Diwygio Rhan o’r Llyfr Gweddi Gyffredin (Gweinidogaeth Iacháu)
(22 Medi 1983) - Canon (Diwygiad) Periglorion Methedig 1985
(19 Medi 1985) - Diwygio’r Gyfraith Ganon ynglŷn â Glân Briodas
(22 Ebrill 1987) - Diwygio Pennod IX y Cyfansoddiad
(24 Medi 1987) - Diwygio Pennod XII y Cyfansoddiad
(15 Ebrill 1993) - Canon (Diwygiad) Pennod XI 1996
(17 Ebrill 1996) - Canon (Diwygiad) Pennod XI 1997
(18 Medi 1997) - Canon Trefn ynglŷn â Biliau (Diwygiad) 1999
(23 Medi 1999) - I Sefydlu Tribiwnlys Disgyblaeth yr Eglwys yng Nghymru ac I WNEUD Diwygiadau I BENNOD XI CYFANSODDIAD yr Eglwys yng Nghymru
(21 Medi 2000) - Canon (Diwygiad) Pennod XI 2001
(20 Medi 2001) - Canon (Diwygiad) Pennod XII 2001
(20 Medi 2001) - I Ymgorffori yn y Llyfr Gweddi Gyffredin Galendr, Llithiadur a Set o Golectau Ychwanegol
(23 Ebrill 2003) - I Ymgorffori yn y Llyfr Gweddi Gyffredin Drefn Ychwanegol ar Gyfer y Cymun Bendigaid
(15 Ebrill 2004) - I Achosi amrywiol newidiadau i Gyfansoddiad Yr Eglwys yng Nghymru (Pennod XI a’r Canon i Ddarpau ar gyfer Periglorion Methedig)
(20 Medi 2006) - I Ymgorffori yn y Llyfr Gweddi Gyffredin Drefn Ychwanegol ar gyfer gwasanaethau Bedydd a Chonffyrmasiwn
(21 Medi 2006) - Cynnwys yn y Llyfr Gweddi Gyffredin Drefn Gwasanaeth ychwanegol ar gyfer y Foreol a’r Hwyrol Weddi
(21 Ebrill 2009) - Diwygio Cyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru
(17 Medi 2009) - Diwygio Pennod IX Cyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru
(23 Medi 2010) - I ymgorffori yn y Llyfr Gweddi Gyffredin Ordinal Amgen
(18 Medi 2014) - I ddiwygio Pennod IX Cyfansoddiad Yr Eglwys yng Nghymru
(22 Ebrill 2017) - I Ymgorffori yn Y Llyfr Gweddi Gyffredin Gwasanathau Angladd Amgen
(2 Mai 2019) - Canon y Tribiwnlys Disgyblu (Aelodaeth a’r Cam Rhagarweiniol) 2020
(4 Tachwedd 2020) - Y Canon Diogelu (Tribiwnlys Atal a Disgyblu) 2020
(4 Tachwedd 2020)
RHAN II
Diwygio penodau yn y Cyfansoddiad neu yn y Llyfr Gweddi Gyffredin yn unig a wna’r canonau sy’n dilyn, ac ni fynnir gan Bwyllgor Sefydlog y Corff Llywodraethol eu hargraffu’n llawn.
1.
YMDDISWYDDIAD PERIGLORION
(Cyhoeddwyd 28 Medi 1949)
Diwygiodd y canon hwn bennod VII o’r Cyfansoddiad drwy ychwanegu geiriau sydd bellach wedi’u corffori yn adran 55[1].
2.
GWELL DOSBARTHU A DEFNYDDIO AR ADNODDAU CLERIGOL
(Cyhoeddwyd 25 Medi 1968)
Gwnaeth y canon hwn amryw ddiwygiadau i adrannau a gynhwysid ym mhenodau IV, VII, VIII, a XII o’r Cyfansoddiad[2], ynglŷn ag (a) ymddeol clerigwyr dan orfod; (b) ffurfio bywiolaethau rheithorol; (c) gallu i’r Esgob fynnu gan Beriglor symud i blwyf arall neu ymddeol; (d) gallu i’r Esgob bennu’r fywoliaeth lle y mae Ciwrad i wasanaethu am gyfnod yn union wedi’i ordeinio; ac (e) safle clerigwyr a benodir i weinidogaethu y tu allan i blwyfi.
3.
DIWYGIO RHAN O’R LLYFR GWEDDI GYFFREDIN (BEDYDD A CHONFFYRMASIWN)
(Cyhoeddwyd 8 Ebrill 1970)
Gosododd y canon hwn ffurfiau newydd ar wasanaeth ar gyfer Bedydd a Chonffyrmasiwn yn lle’r rhai a gynhwysid gynt yn the Book of Common Prayer, ynghyd â ffurfiau newydd ar y gwasanaeth yn yr iaith Gymraeg.
4.
AR GYFER DIWYGIO RHAN O’R LLYFR GWEDDI GYFFREDIN (CLADDEDIGAETH Y MEIRW)
(Cyhoeddwyd 27 Medi 1973)
Gosododd y canon hwn ffurfiau newydd ar wasanaeth ar gyfer Claddedigaeth y Meirw yn lle’r rhai a gynhwysid gynt yn the Book of Common Prayer, ynghyd â ffurfiau newydd ar y gwasanaeth yn yr iaith Gymraeg.
5.
AR GYFER DIWYGIO RHAN O’R LLYFR GWEDDI GYFFREDIN (GLÂN BRIODAS)
(Cyhoeddwyd 2 Mai 1974)
Gosododd y canon hwn ffurf newydd ar wasanaeth ar gyfer Glân Briodas yn lle’r un a gynhwysid gynt yn the Book of Common Prayer, ynghyd â ffurf newydd ar y gwasanaeth yn yr iaith Gymraeg.
6.
I EFFEITHIOLI GWELLIANNAU AMRYWIOL I GYFANSODDIAD YR EGLWYS YNG NGHYMRU
(Cyhoeddwyd 26 Medi 1974)
Diddymodd y canon hwn y Canon ar Estyn ar Oriau Priodas mewn Eglwys (cyhoeddwyd 26 Medi 1935), cyflwynodd adran (adran 34 bresennol) i bennod II y Cyfansoddiad a diwygiodd adran (adran 43 bresennol) o bennod II ac adran (adran 1) o bennod XII [3].
7.
AR GYFER DIWYGIO RHANNAU O’R LLYFR GWEDDI GYFFREDIN (Y CALENDR, TAFLENNI A RHEOLAU)
(Cyhoeddwyd 28 Medi 1978)
Gosododd y canon hwn ffurf newydd ar y Calendr, Taflenni a Rheolau yn lle’r rhai a gynhwysid gynt yn the Book of Common Prayer, ynghyd â ffurfiau newydd yn yr iaith Gymraeg.
8.
AR GYFER DIWYGIO RHAN O’R LLYFR GWEDDI GYFFREDIN (DIOLCHGARWCH AM ENI NEU FABWYSIADU PLENTYN)
(Cyhoeddwyd 27 Medi 1979)
Gosododd y canon hwn ffurf newydd ar wasanaeth ar gyfer Diolchgarwch yn lle’r un a gynhwysid gynt yn the Book of Common Prayer, ynghyd â ffurf newydd ar y gwasanaeth yn yr iaith Gymraeg.
9.
AR GYFER DIWYGIO RHAN O’R LLYFR GWEDDI GYFFREDIN (BENDITHIO PRIODAS SIFIL)
(Cyhoeddwyd 27 Medi 1979)
Gosododd y canon hwn ffurf ar wasanaeth ar gyfer Bendithio Priodas Sifil yn the Book of Common Prayer, ynghyd â ffurf ar y gwasanaeth yn yr iaith Gymraeg.
10.
I DDIWYGIO PENNOD XI CYFANSODDIAD YR EGLWYS YNG NGHYMRU
(Cyhoeddwyd 16 Ebrill 1980)
Diddymodd y canon hwn y Canon am Dribiwnlysoedd (cyhoeddwyd 20 Ebrill 1922) a gosododd bennod newydd “Llysoedd yr Eglwys yng Nghymru”[4] yn ei le.
11.
AR GYFER DIWYGIO RHANNAU O’R LLYFR GWEDDI GYFFREDIN (Y PRIODAU, SALMAU A LLITHOEDD)
(Cyhoeddwyd 16 Ebrill 1980)
Diddymodd y canon hwn y Canon ar gyfer Defnyddio’r Llithiadur Newydd yn yr Eglwys yng Nghymru (cyhoeddwyd 24 Ebrill 1924) a gosododd ffurfiau newydd ar gyfer y Colectau, Darlleniadau a Salmau i’w defnyddio yn y Cymun Bendigaid, ynghyd â’r Salmau a’r Llithoedd ar gyfer y Foreol a’r Hwyrol Weddi, ar Suliau, Gwyliau ac Achlysuron Eraill; Llithiadur ar gyfer y Foreol a’r Hwyrol Weddi ar Ddyddiau-Gwaith trwy’r flwyddyn; a Thaflen Salmau ar gyfer Dyddiau-Gwaith yn lle’r rhai a gynhwysid gynt yn the Book of Common Prayer, ynghyd â ffurfiau newydd arnynt yn yr iaith Gymraeg.
12.
I DDIWYGIO ADRAN 64 PENNOD VII CYFANSODDIAD YR EGLWYS YNG NGHYMRU
(Cyhoeddwyd 17 Ebrill 1980)
Diwygiodd y canon hwn benno VII o’r Cyfansoddiad drwy osod adran newydd (adran 66 bresennol)[5] yn lle’r adran flaenorol.
13.
AR GYFER DIWYGIO RHANNAU O’R LLYFR GWEDDI GYFFREDIN (BOREOL A HWYROL WEDDI)
(Cyhoeddwyd 17 Ebrill 1980)
Gosododd y canon hwn ffurfiau newydd ar wasanaeth ar gyfer Boreol a Hwyrol Weddi yn lle’r rhai a gynhwysid gynt yn the Book of Common Prayer, ynghyd â ffurfiau newydd ar y gwasanaethau yn yr iaith Gymraeg.
14.
I DDIWYGIO DARPARIAETHAU YNGLŶN Â THREFN BIL
(Cyhoeddwyd 17 Medi 1980)
Gwnaeth y canon hwn amryw ddiwygiadau i adrannau a gynhwysid ym mhennod II[6] y Cyfansoddiad, ynglŷn â threfn bil, a diwygiad i Ganon ar gyfer Defnyddio’n Arbrofol y Ffurfiau Diwygiedig a awgrymir ar gyfer y Llyfr Gweddi Gyffredin ac a Gymeradwyir dros dro gan Fainc yr Esgobion (cyhoeddwyd 29 Medi 1955).
15.
AR GYFER DIWYGIO RHAN O’R LLYFR GWEDDI GYFFREDIN (TREFN GWASANAETH Y CYMUN BENDIGAID A ELWIR HEFYD YR OFFEREN)
(Cyhoeddwyd 17 Medi 1981)
Gosododd y canon hwn ffurf newydd ar wasanaeth ar gyfer Y Cymun Bendigaid a elwir hefyd Yr Offeren yn lle’r un a gynhwysid gynt yn the Book of Common Prayer, ynghyd â ffurf newydd ar y gwasanaeth yn yr iaith Gymraeg.
Ar wahân i ddarpariaethau’r Canon hwn, ni fydd yn anghyfreithlon defnyddio’r ffurf The Order for the Administration of the Lord’s Supper, or Holy Communion fel y mae yn the 1662 Book of Common Prayer a’i fersiwn Gymraeg gyda’r amrywiadau a ganiataer gan yr Ordinari fel y bu’n arfer yn yr Eglwys yng Nghymru.
16.
AR GYFER DIWYGIO RHAN O’R LLYFR GWEDDI GYFFREDIN (Y CATECISM)
(Cyhoeddwyd 21 Ebrill 1982)
Gosododd y canon hwn ffurf newydd ar gyfer y Catecism yn lle’r un a gynhwysid gynt yn the Book of Common Prayer, ynghyd â ffurf newydd yn yr iaith Gymraeg.
17.
AR GYFER DIWYGIO RHAN O’R LLYFR GWEDDI GYFFREDIN (TAFLEN CARENNYDD A CHYFATHRACH)
(Cyhoeddwyd 15 Medi 1982)
Diddymodd y canon hwn y Canon Taflen Carennydd a Chyfathrach (cyhoeddwyd 27 Medi 1946) a gosododd ffurf Taflen Carennydd a Chyfathrach yn the Book of Common Prayer, ynghyd â ffurf yn yr iaith Gymraeg.
18.
I DDARPARU ARFER GALLUOEDD A SWYDDOGAETHAU METROPOLITAIDD PAN FO’R ARCHESGOB YN FETHEDIG NEU’N ABSENNOL O’R YNYSOEDD PRYDEINIG
(Cyhoeddwyd 15 Medi 1982)
Gwnaeth y canon hwn ddiwygiadau i adrannau a gynhwysid ym mhenodau II a IX[7] y Cyfansoddiad, i ddarparu arfer galluoedd a swyddogaethau metropolitaidd pan fo’r Archesgob yn fethedig neu’n absennol o’r Ynysoedd Prydeinig.
19.
AR GYFER DIWYGIO RHAN O’R LLYFR GWEDDI GYFFREDIN (ORDEINIO ESGOBION, OFFEIRIAID A DIACONIAID)
(Cyhoeddwyd 20 Medi 1983)
Gosododd y canon hwn ffurfiau newydd ar y gwasanaeth Ordeinio yn lle’r rhai a gynhwysid gynt yn the Book of Common Prayer, ynghyd â ffurfiau newydd ar y gwasanaeth yn yr iaith Gymraeg.
20.
AR GYFER AMRYW DDIWYGIADAU I’R LLYFR GWEDDI GYFFREDIN
(Cyhoeddwyd 21 Medi 1983)
Gwnaeth y canon hwn amryw ddiwygiadau i the Book of Common Prayer a’r Llyfr Gweddi Gyffredin, a darparodd am gywiro gwallau mewn sillafu, atalnodi, gosod allan neu argraffu gan y Cyhoeddwyr. Y mae’r cyfarwyddiadau ynglŷn ag argraffu a materion eraill a osodir yn Atodlen 2A a 2B i’r Canon hwn i’w cymhwyso at unrhyw Ganon dilynol o’r Eglwys yng Nghymru a fydd yn diwygio y Llyfr Gweddi Gyffredin neu the Book of Common Prayer, oni nodir yn benodol ei fod i’w anwybyddu.
21.
AR GYFER DIWYGIO RHAN O’R LLYFR GWEDDI GYFFREDIN (GWEINIDOGAETH IACHÁU)
(Cyhoeddwyd 22 Medi 1983)
Gosododd y canon hwn ffurfiau newydd ar gyfer Gweinidogaeth Iacháu yn lle’r rhai a gynhwysid gynt yn the Book of Common Prayer, ynghyd â ffurfiau newydd yn yr iaith Gymraeg.
22.
CANON (DIWYGIAD) PERIGLORION METHEDIG 1985
(Cyhoeddwyd 19 Medi 1985)
Y mae’r Canon hwn yn diwygio’r Rheoliadau a draethir yn yr Atodlen Gyntaf i’r Canon am ddarparu ar gyfer Periglorion Methedig (Cyhoeddwyd 21 Ebrill 1982) ac yn darparu y gall y Rheoliadau yma, o hyn allan, gael eu diwygio gan Gorff y Cynrychiolwyr neu Bwyllgor perthnasol ohono, ac ni fydd adrannau 37 a 43 pennod II[8] y Cyfansoddiad i’w cymhwyso at y cyfryw ddiwygiad.
23.
DIWYGIO’R GYFRAITH GANON YNGLŶN Â GLÂN BRIODAS
(Cyhoeddwyd 22 Ebrill 1987)
Diddymodd y Canon hwn y Canon ut nullus filiam suam a gyhoeddwyd yng Nghyngor Caer-Wynt yn y flwyddyn 1076, a diwygiodd ffurf-wasanaethau Holy Matrimony yn the Book of Common Prayer a Glân Briodas yn Y Llyfr Gweddi Gyffredin er mwyn caniatáu i ddiaconiaid wasanaethu.
24.
DIWYGIO PENNOD IX Y CYFANSODDIAD
(Cyhoeddwyd 24 Medi 1987)
Diwygiodd y Canon hwn adrannau 27 a 27A (adran 27 bresennol) pennod IX Cyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru[9].
25.
DIWYGIO PENNOD XII Y CYFANSODDIAD
(Cyhoeddwyd 15 Ebrill 1993)
Diwygiodd y Canon hwn adrannau 1, 2 a 3, pennod XII Cyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru[10].
26.
CANON (DIWYGIAD) PENNOD XI 1996
(Cyhoeddwyd 17 Ebrill 1996)
Diwygiodd y Canon hwn adrannau 7 i 12 pennod XI Cyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru[11].
27.
CANON (DIWYGIAD) PENNOD XI 1997
(Cyhoeddwyd 18 Medi 1997)
Diwygiodd y Canon hwn adran 7, pennod XI Cyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru[12].
28.
CANON TREFN YNGLŶN Â BILIAU (DIWYGIAD) 1999
(Cyhoeddwyd 23 Medi 1999)
Gosododd y Canon hwn adrannau newydd yn lle adrannau 38-42 a diwygio adran 44 pennod II Cyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru[13].
29.
I SEFYDLU TRIBIWNLYS DISGYBLAETH YR EGLWYS YN NGHYMRU AC I WNEUD DIWYGIADAU I BENNOD XI CYFANSODDIAD YR EGLWYS YNG NGHYMRU
(Cyhoeddwyd 21 Medi 2000)
Darparodd y canon hwn ar gyfer sefydlu Tribiwnlys Disgyblaeth i weithredu fel llys gwrandawiad cyntaf mewn achosion sy’n codi o adran 18 pennod XI y Cyfansoddiad.
Gosododd y canon hwn adrannau newydd 18-28[14] a gwnaeth amryw ddiwygiadau eraill i adrannau o bennod XI y Cyfansoddiad. Gwnaeth hefyd ddiwygiadau i adrannau o benodau I, II a VII y Cyfansoddiad.
30.
CANON (DIWYGIAD) PENNOD XI 2001
(Cyhoeddwyd 20 Medi 2001)
Darparodd y canon hwn ar gyfer gostwng oed ymddeol i Gangellorion a Chofrestryddion Esgobaethol a Chofrestrydd Llys y Dalaith i ddeg mlwydd a thrigain a gwnaeth ddarpariaethau hefyd ar gyfer y modd y gellir eu diswyddo.
Gwnaed diwygiadau i adrannau 3, 11 a 33[15].
31.
CANON (DIWYGIAD) PENNOD XII 2001
(Cyhoeddwyd 20 Medi 2001)
Darparodd y canon hwn ar galluogi clerigion sydd wedi cyflawni deugain mlynedd o wasanaeth mewn urddau sanctaidd i gael ymddeol ar bensiwn llawn cyn cyrraedd 65 oed.
Gwnaed diwygiadau i adran 2(2)[16].
32.
I YMGORFFORI YN Y LLYFR GWEDDI GYFFREDIN GALENDR, LLITHIADUR A SET O GOLECTAU YCHWANEGOL
(Cyhoeddwyd 23 Ebrill 2003)
Awdurdododd y canon hwn ddefnyddio ffurfiau ychwanegol ar y calendr, y llithiadur a’r colectau a darparodd iddynt ddod yn rhan o’r Llyfr Gweddi Gyffredin.
33.
I YMGORFFORI YN Y LLYFR GWEDDI GYFFREDIN DREFN YCHWANEGOL AR GYFER Y CYMUN BENDIGAID
(Cyhoeddwyd 15 Ebrill 2004)
Awdurdododd y canon hwn ddefnyddio Trefn Ychwanegol ar gyfer y Cymun Bendigaid a darparodd iddo ddod yn rhan o’r Llyfr Gweddi Gyffredin.
34.
I ACHOSI AMRYWIOL NEWIDIADAU I GYFANSODDIAD YR EGLWYS YNG NGHYMRU (PENNOD XI A’R CANON I DDARPAU AR GYFER PEROGLORION METHEDIG)
(Cyhoeddwyd ar 20 Medi 2006)
Yr oedd y canon hwn yn newid y ddarpariaeth at dalu cofrestryddion ac yn gwneud mân newidiadau i’r canon sy’n darparu ar gyfer Periglorion Methedig.
35.
I YMGORFFORI YN Y LLYFR GWEDDI GYFFREDIN DREFN YCHWANEGOL AR GYFER GWASANAETHAU BEDYDD CHONFFYRMASIWN
(Cyhoeddwyd ar 21 Medi 2006)
Yr oedd y canon hwn yn awdurdodi defnyddio Trefn ychwanegol ar gyfer gwasanaethau Bedydd a Chonffyrmasiwn.
36.
CYNNWYS YN Y LLYFR GWEDDI GYFFREDIN DREFN GWASANAETH YCHWANEGOL AR GYFER Y FOREOL A’R HWYROL WEDDI
(Cyhoeddwyd ar 21 Ebrill 2009)
Awdurdododd y canon hwn ddefnyddio Trefn Gwasanaeth ychwanegol ar gyfer y Foreol a’r Hwyrol weddi a darparodd Weddïau ychwanegol i’w defnyddio yn ystod y dydd.
37.
DIWYGIO CYFANSODDIAD YR EGLWYS YNG NGHYMRU
(Cyhoeddwyd ar 17 Medi 2009)
Diwygiodd y canon hwn Gyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru trwy osod set newydd o Benodau a rifwyd I i XI gyda Rheoliadau ychwanegol i rai Penodau yn lle Penodau I i XII a oedd mewn grym cyn hynny.
38.
DIWYGIO PENNOD IX CYFANSODDIAD YR EGLWYS YNG NGHYMRU
(Cyhoeddwyd ar 23 Medi 2010)
Diwygiodd y canon hwn Gyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru trwy osod Pennod IX newydd yn lle’r un a oedd mewn grym cyn hynny.
39.
I YMGORFFORI YN Y LLYFR GWEDDI GYFFREDIN ORDINAL AMGEN
(Cyhoeddwyd ar 18 Medi 2014)
40.
I DDIWYGIO PENNOD IX CYFANSODDIAD YR EGLWYS YNG NGHYMRU
(Cyhoeddwyd 22 Ebrill 2017)
Diwygiodd y canon hwn Gyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru trwy osod Adran 9 newydd yn lle’r un a oedd mewn grym cyn hynny.
41.
I YMGORFFORI YN Y LLYFR GWEDDI GYFFREDIN GWASANATHAU ANGLADD AMGEN
(Cyhoeddwyd 2 Mai 2019)
42.
CANON Y TRIBIWNLYS DISGYBLU (AELODAETH A’R CAM RHAGARWEINIOL) 2020
(Cyhoeddwyd 4 Tachwedd 2020)
Roedd y Canon hwn yn diwygio Adrannau 10 ac 11 o Bennod 9 Cyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru, mewn perthynas ag aelodaeth o’r Tribiwnlys Disgyblu, a thrafod camau rhagarweiniol y cwynion y cyfeirir ato.
43.
Y CANON DIOGELU (TRIBIWNLYS ATAL A DISGYBLU) 2020
(Cyhoeddwyd 4 Tachwedd 2020)
Roedd y Canon hwn yn diwygio Adran 7 o Bennod I Cyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru i gynnwys diffiniad o “Banel Diogelu’r Dalaith” a diwygio Adrannau 9, 39, 40 a 41 o Bennod IX Cyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru mewn perthynas â’r Tribiwnlys Disgyblu ac Atal Clerigion a diaconesau.
[1]
Yn awr adran 25 Pennod VI
[2]
Y penodau cyfatebol yn awr yw IV A, VI, V a VIII
[3]
Yn awr adran 33 Pennod II ac adran 1 Pennod VIII
[4]
Yn awr Pennod IX
[5]
Yn awr adran 10 Pennod VI
[6]
Ym Mhennod II o hyd yr ymdrinnir â’r weithdrefn bil
[7]
Yn awr Penodau II a V
[8]
Yn awr adran 11 Pennod II
[9]
Yn awr adran 9 Pennod V
[10]
Yn awr adrannau 1 i 3 Pennod VIII
[11]
Yn awr adrannau 23, 24 a 27 Pennod IX
[12]
Yn awr adran 23 Pennod IX
[13]
Yn awr adrannau 27, 28, 29, 30, 31 a 32 Pennod II
[14]
Yn awr adrannau 8 i 18, 20 a 38 Pennod IX
[15]
Hepgorwyd adran 3 yn awr. Mae gweddill y darpariaethau yn adrannau 24, 27 a 35 Pennod IX
[16]
Yn awr adran 2(2) Pennod VIII