Cyfrol II: Adran 1.3 – Canonau’r Eglwys yng Nghymru
CYFROL II, ADRAN 1.3
CANONAU'R EGLWYS YNG NGHYMRU – PERTHYNAS AG EGLWYSI ERAILL CYNNWYS
1) Cytundebau Rhyngwladol
a. Cytundebau Cymuno 1937-1975
i. Hen Gatholigion (Union of Utrecht) 30 Medi 1937
ii. Eglwys Annibynnol Ynysoedd Philip 29 Medi 1966
iii. Eglwys Esgobol Ddiwygiedig Sbaen 29 Medi 1966
iv. Eglwys Lwsitanaidd 29 Medi 1966
v. Eglwys Syriaidd Mar Thoma 24 Medi 1975
b. Cytundebau Cymuno gydag Eglwysi yn Ne Asia 1973-1976
i. Eglwys De India 26 Ebrill 1973
ii. Eglwys Gogledd India 27 Medi 1973
iii. Eglwys Pacistan 27 Medi 1973
iv. Eglwys Bangladesh 23 Medi 1976
c. Canonau Datganiad Porvoo 1995 & 2016
d. Canon Cytundeb Reuilly 2000
2) Cytundebau Ecwmenaidd yng Nghymru
a. Canon ar gyfer cyfamodi rhwng yr Eglwys yng Nghymru ac Eglwysi Eraill ar gyfer Undeb yng Nghymru 1974 a 1977
b. Canon i Gefnogi Cydberthynas ag Eglwysi Eraill 2005
c. Canon Partneriaethau Ecwmenaidd Lleol 2005
d. Canon i Hyrwyddo Perthynas Ecwmenaidd (Glân Brodias) 1985
CYTUNDEBAU CYMUNO 1937-1975
Mae'r Eglwys yng Nghymru, trwy Ganonau a gyhoeddwyd gan ei Chorff Llywodraethol, wedi ymrwymo i berthynas o gyd-gymuno, fel y nodir yn y datganiad isod, â'r eglwysi a restrir yn yr Atodlen:
Datganiad
(a) Mae pob Cyfundeb yn cydnabod catholigrwydd ac annibyniaeth ei gilydd, ac yn cynnal yr eiddynt eu hunain.
(b) Mae pob Cyfundeb yn cytuno i dderbyn aelodau ei gilydd i gyfranogi o’r Sacramentau.
(c) Nid yw Cyd-gymuno yn gofyn gan y naill Gyfundeb dderbyn y cwbl sy’n nodweddu’r llall mewn tybiaeth athrawiaethol, defosiwn sagrafennol, neu arfer litwrgïol, ond mae’n golygu fod y naill yn credu fod y llall yn arddel holl hanfodion y Ffydd Gristnogol.
Yr Atodlen
YR HEN GATHOLIGION [CYTUNDEB UTRECHT] (cyhoeddwyd 30 Medi 1937)
EGLWYS ANNIBYNNOL YNYSOEDD PHILIP (29 Medi 1966)
EGLWYS ESGOBOL DDIWYGIEDIG SBAEN (29 Medi 1966)
YR EGLWYS LWSITANAIDD (29 Medi 1966)
EGLWYS SYRIAIDD MAR THOMA (24 Medi 1975)
(D.S. mae Eglwys Esgobol Ddiwygiedig Sbaen a'r Eglwys Lwsitanaidd wedi dod yn aelodau llawn o'r Cyfundeb Anglicanaidd, fel eglwysi all-daleithiol dan Oruchwyliaeth Metropoliticaidd Archesgob Caergaint)
CYTUNDEBAU CYMUNO GYDAG EGLWYSI YN NE ASIA 1973-1976
Mae'r Eglwys yng Nghymru, trwy Ganonau a gyhoeddwyd gan ei Chorff Llywodraethol, wedi ymrwymo i berthynas o gymundeb llawn, fel y nodir yn y datganiad isod, gyda'r eglwysi a restrir yn yr Atodlen (pob un yn 'Eglwys Bartner'):
Datganiad
(a) Gellir derbyn Cymunwyr yr Eglwys Bartner i'r Cymun Bendigaid yn yr Eglwys yng Nghymru a gall cymunwyr yr Eglwys yng Nghymru dderbyn y Cymun Bendigaid yn yr Eglwys Bartner;
(b) O fod dan oruchwyliaeth Esgob yr Esgobaeth, caiff Esgobion, Presbyterion a Diaconiaid yr Eglwys Bartner arfer eu gweinidogaeth yn Nhalaith Cymru;
(c) O fod yn ddarostyngedig i Gyfansoddiad yr Eglwys Bartner, gall Esgobion, Offeiriaid a Diaconiaid yr Eglwys yng Nghymru arfer eu gweinidogaeth yn Eglwys Gogledd India.
Atodlen
EGLWYS DE INDIA (cyhoeddwyd 26 Ebrill 1973)
EGLWYS GOGLEDD INDIA (27 Medi 1973)
EGLWYS PACISTAN (27 Medi 1973)
EGLWYS BANGLADESH (23 Medi 1976)
(D.S. mae'r pedair eglwys uchod wedi dod yn aelodau llawn o'r Cymundeb Anglicanaidd wedi hynny)
CANONAU CYHOEDDIAD PORVOO - (28 Medi 1995, 7 Ebrill 2016)
Canon Cyhoeddiad Porvoo 1995
GAN FOD Eglwysi Anglicanaidd Prydain ac Iwerddon ac Eglwysi Lutheraidd y gwledydd Nordic a Baltic wedi cyrraedd dealltwriaeth gyffredin am natur a diben yr Eglwys, cytundeb sylfaenol ar ffydd a chytundeb ynghylch esgobyddiaeth yng ngwasanaeth apostoligrwydd yr Eglwys.
A CHAN MAI dymunol fod yr Eglwys yng Nghymru yn uno gyda’r Eglwysi eraill i wneud cyhoeddiad ynghylch cydnabod ac ymroddiad o’r ddwy ochr.
DEDDFER A CHYHOEDDER DRWY HYNYMA FOD yr Eglwys yng Nghymru yn cytuno i ymuno â’r Eglwysi a restrir yn yr Ail Atodlen i hynyma i wneud y Cyhoeddiad a osodir allan yn yr Atodlen Gyntaf i hynyma.
Canon Cyhoeddiad Porvoo 2016
GAN FOD Eglwysi Anglicanaidd Prydain ac Iwerddon ac Eglwysi Lutheraidd y gwledydd Nordig a Baltig wedi cyrraedd dealltwriaeth gyffredin am natur a diben yr Eglwys, cytundeb sylfaenol ar ffydd a chytundeb ar esgobyddiaeth yng ngwasanaeth apostoligrwydd yr Eglwys
A CHAN FOD yr Eglwys yng Nghymru, dan ddarpariaethau’r Canon i Gyflawni Datganiad Porvoo a gyhoeddwyd ar 28 Medi 1995 (ac y cyfeirir ato wedi hyn fel “Canon Datganiad Porvoo 1995”), wedi cytuno i ymuno â’r Eglwysi a enwir yn yr Atodlen Gyntaf i’r Canon hwnnw i wneud y Datganiad o gydnabod a chydymrwymo a draethir ynddi
A CHAN FOD yn awr ddymuniad i ganiatáu i eglwysi ychwanegol ymuno â’r Eglwys yng Nghymru a’r Eglwysi a enwir yn yr Ail Atodlen i Ganon Datganiad Porvoo 1995 i wneud y Datganiad a draethir yn yr Atodlen Gyntaf i’r Canon hwnnw
DEDDFER A CHYHOEDDER BOD:
- 1.
Yr Eglwys yng Nghymru yn cytuno i’r Eglwys Lutheraidd ym Mhrydain Fawr, Eglwys Efengylaidd Lutheraidd Latfia Dramor, Eglwys Denmarc, Eglwys Esgobol Ddiwygiedig Sbaen ac Eglwys Lusitanaidd Portiwgal i ymuno â hi a’r Eglwysi a enwir yn yr Ail Atodlen i Ganon Datganiad Porvoo 1995 i wneud y Datganiad a draethir yn yr Atodlen Gyntaf i’r Canon hwnnw a bod ychwanegu eu henwau at yr Ail Atodlen
- 2.
Yr Eglwys yng Nghymru yn cytuno ymhellach i Eglwysi ychwanegol ymuno â hi a’r Eglwysi a enwir yn yr Ail Atodlen i Ganon Datganiad Porvoo 1995 i wneud y Datganiad a draethir yn yr Atodlen Gyntaf i’r Canon hwnnw
- 3.
Yr Eglwys yng Nghymru yn cytuno ymhellach i ychwanegu Eglwysi a wnaeth yn unol ag adran 2 uchod y datganiad yn Ail Atodlen Canon Datganiad Porvoo 1995 trwy i’r Corff Llywodraethol basio cynnig syml a gynigir ac a eilir gan aelodau o Fainc yr Esgobion
- 4.
Pan fo’r Corff Llywodraethol wedi penderfynu cytuno i’r Eglwys yng Nghymru ymuno ag Eglwys neu Eglwysi ychwanegol i wneud y datganiad a draethir yn yr Atodlen Gyntaf i’r Canon hwnnw, bydd y penderfyniad hwnnw’n ddigonol i ddiwygio Canon Datganiad Porvoo 1995, a ddiwygir i gynnwys yr Eglwys ychwanegol neu’r Eglwysi ychwanegol yn y rhestr o Eglwysi a enwir yn yr Ail Atodlen i Ganon Datganiad Porvoo 1995
- 5.
Gellir galw’r Canon hwn yn Ganon Diwygio Datganiad Porvoo 2016, a gellir ei alw ef a Chanon Datganiad Porvoo 1995 gyda’i gilydd yn Ganonau Datganiad Porvoo
Atodlenni i Ganon Datganiad Porvoo 1995, fel y'i diwygiwyd
YR ATODLEN GYNTAF
CYHOEDDIAD PORVOO
Yr ydym ni, Eglwys Denmarc, Eglwys Loegr, Eglwys Efengylaidd-Lutheraidd Estonia, Eglwys Efengylaidd-Lutheraidd Ffinland, Eglwys Efengylaidd-Lutheraidd Ynys- yr-Iâ, Eglwys Iwerddon, Eglwys Efengylaidd-Lutheraidd Latfia, Eglwys Efengylaidd- Lutheraidd Lithuania, Eglwys Norwy, Eglwys Esgobaethol yr Alban, Eglwys Sweden a’r Eglwys yng Nghymru, ar sail ein dealltwriaeth gyffredin am natur a diben yr Eglwys, cytundeb sylfaenol ar ffydd a’n cytundeb ar esgobyddiaeth yng ngwasanaeth apostoligrwydd yr Eglwys, a gynhwysir ym Mhenodau II-IV The Porvoo Common Statement yn gwneud y cydnabyddiaethau a’r ymroddiadau a ganlyn:
(a) (i) yr ydym yn cydnabod eglwysi’r naill y llall yn eglwysi’n perthyn i Un Eglwys, Lân, Gatholig ac Apostolig Iesu Grist ac sy’n gwir gyfranogi yng nghenhadaeth apostolig holl bobl Dduw;
(ii) yr ydym yn cydnabod fod Gair Duw’n cael ei bregethu’n ddiffuant yn ein holl eglwysi, a sacramentau bedydd a’r cymun bendigaid yn cael eu gweinyddu’n ddyladwy;
(iii) yr ydym yn cydnabod fod ein holl eglwysi’n cyfranogi yng nghyffes gyffredinol y ffydd apostolig;
(iv) yr ydym yn cydnabod fod gweinidogaethau ordeiniedig y naill a’r llall yn cael eu rhoi gan Dduw fel gweithredoedd o’i ras ac yn cynnwys nid yn unig alwad fewnol yr Ysbryd, ond hefyd gomisiwn Crist drwy ei gorff, yr Eglwys;
(v) yr ydym yn cydnabod fod arolygiaeth (episcope) bersonol, golegol a rhanbarthol wedi ei hymgorffori ac yn cael ei gweithredu yn ein holl eglwysi mewn amryfal ffyrdd, er parhâd bywyd, cenhadaeth a gweinidogaeth apostolig;
(vi) yr ydym yn cydnabod fod y swydd esgobol yn cael ei gwerthfawrogi a’i chynnal yn ein holl eglwysi fel arwydd gweladwy yn mynegi ac yn gwasanaethu undod a pharhâd yr Eglwys, mewn bywyd, cenhadaeth a gweinidogaeth apostolig.
(b) Yr ydym yn ymrwymo:
(i) i rannu bywyd cyffredin mewn cenhadaeth a gwasanaeth, i weddïo dros a chyda’n gilydd, ac i rannu adnoddau;
(ii) i groesawu aelodau’n gilydd i dderbyn gweinidogaethau sacramentaidd a bugeiliol eraill;
(iii) i ystyried aelodau bedyddiedig ein holl eglwysi fel aelodau o’n heglwysi ni ein hunain;
(iv) i groesawu cynulleidfaoedd eglwysi a chwalwyd (diaspora) i fywyd yr eglwysi cynhenid, er cyfoethogi’r naill a’r llall;
(v) i groesawu’r rhai a ordeiniwyd gan esgob unrhyw un o’n heglwysi i swydd esgob, offeiriad neu ddiacon, i wasanaethu trwy wahoddiad ac yn unol ag unrhyw reoliadau a allai fod mewn grym o bryd i’w gilydd, yn y weinidogaeth honno yn yr eglwys sy’n eu derbyn heb eu hail- ordeinio;
(vi) i wahodd esgobion y naill a’r llall i gymryd rhan yn rheolaidd mewn arddodiad dwylo wrth ordeinio esgobion fel arwydd o undod a pharhâd yr eglwys;
(vii) i weithio tuag at ddealltwriaeth gyffredin o weinidogaeth ddiaconaidd;
(viii) i sefydlu ffurfiau priodol o ymgynghori ar lefel coleg a chyngor ar faterion pwysig ffydd, trefn, bywyd a gwaith;
(ix) i gefnogi ymgynghori rhwng cynrychiolwyr ein heglwysi, a hyrwyddo dysgu a chyfnewid syniadau a gwybodaeth ar faterion diwinyddol a bugeiliol;
(x) i sefydlu grwp cysylltiol i feithrin ein twf mewn cymundeb ac i gyd- drefnu cyflawni’r cytundeb hwn.
YR AIL ATODLEN
Eglwys Loegr
Eglwys Efengylaidd Lutheraidd
Estonia Eglwys Efengylaidd
Lutheraidd y Ffindir Eglwys
Efengylaidd Lutheraidd Ynys yr Iâ
Eglwys Iwerddon
Eglwys Efengylaidd Lutheraidd
Lithuania Eglwys Norwy
Eglwys Esgobol yr Alban
Eglwys Sweden
Yr Eglwys Lutheraidd ym Mhrydain Fawr*
Eglwys Efengylaidd Lutheraidd Latfia*
Dramor Eglwys Denmarc*
Eglwys Esgobol Ddiwygiedig Sbaen*
Eglwys Lusitanaidd Portiwgal*
[* yn dynodi Eglwys a ychwanegwyd at yr Atodlenni yn unol â Chanon Diwygio Datganiad Porvoo 2016]
CANON CYTUNDEB REUILLY (27 Ebrill 2000)
GAN FOD yr Eglwys o Gyffes Augsburg Alsace a Lorraine, Eglwys Efengylaidd- Lutheraidd Ffrainc, Eglwys Ddiwygiedig Alsace a Lorraine, Eglwys Ddiwygiedig Ffrainc, Eglwys Loegr, Eglwys Iwerddon, Eglwys Esgobaethol yr Alban a’r Eglwys yng Nghymru ar sail eu cytundeb sylfaenol ar ffydd, dealltwriaeth gyffredin ar natur a diben yr Eglwys a chydgyfeiriant ar apostoligrwydd yr Eglwys a’r weinidogaeth a gynhwysir ym Mhenodau II-VI Datganiad Cyffredinol Reuilly wedi gwneud cydnabyddiaethau ac ymrwymiadau penodedig
A CHAN MAI dymunol fod yr Eglwys yng Nghymru yn uno gyda’r Eglwysi eraill i wneud cyhoeddiad ynghylch y cyfryw gydnabyddiaethau ac ymrwymiadau o’r ddwy ochr
DEDDFER A CHYHOEDDER DRWY HYNYMA FOD yr Eglwys yng Nghymru yn cytuno i ymuno â’r Eglwysi eraill y cyfeiriwyd atynt uchod yn hynyma i wneud y cyhoeddiad a osodir allan yn yr Atodlen i hynyma.
YR ATODLEN
(a) Cydnabyddiaethau
(i) Yr ydym yn cydnabod eglwysi’r naill y llall yn eglwysi’n perthyn i Un Eglwys Lân, Gatholig ac Apostolig Iesu Grist ac sy’n gwir gyfranogi yng nghenhadaeth apostolig holl bobl Dduw.
(ii) Yr ydym yn cydnabod fod Gair Duw’n cael ei bregethu’n ddiffuant yn ein holl eglwysi, a sacramentau bedydd a’r cymun bendigaid yn cael eu gweinyddu’n ddyladwy.
(iii) Yr ydym yn cydnabod fod ein holl eglwysi’n cyfranogi yng nghyffes gyffredinol y ffydd apostolig.
(iv) Yr ydym yn cydnabod fod gweinidogaethau ordeiniedig y naill a’r llall yn cael eu rhoi gan Dduw fel gweithredoedd o ras er cenhadaeth ac undod yr Eglwys ac er cyhoeddi’r Gair a gweinyddu’r sacramentau.
(v) Yr ydym yn cydnabod fod gweinidogaeth ordeiniedig y naill a’r llall yn cynnwys nid yn unig alwad fewnol yr Ysbryd ond hefyd gomisiwn Crist drwy’r Eglwys, ac edrychwn ymlaen at yr amser pan fydd undod gweladwy llawnach ein heglwysi yn gwneud cydgyfnewid gweinidogion yn bosibl.
(vi) Yr ydym yn cydnabod fod arolygiaeth (episkope) bersonol, golegol a rhanbarthol wedi ei hymgorffori ac yn cael ei gweithredu yn ein holl eglwysi mewn amryfal ffyrdd, fel arwydd gweladwy yn mynegi ac yn gwasanaethu undod a pharhâd yr Eglwys mewn bywyd, cenhadaeth a gweinidogaeth apostolig.
(b) Ymrwymiadau
Yr ydym yn ymrwymo i rannu bywyd a chenhadaeth gyffredin. Cymerwn gamau tuag at gymdeithas agosach mewn cynifer o adrannau bywyd a thystiolaeth Gristnogol ag sy’n bosibl, fel y gall ein holl aelodau ynghyd symud ymlaen ar hyd y ffordd tuag at undod gweladwy llawn. Fel camau nesaf cytunwn:
(i) i geisio ffyrdd priodol o rannu bywyd cyffredin mewn cenhadaeth a gwasanaeth, o weddïo dros a chyda’n gilydd, ac o weithio tuag at rannu adnoddau ysbrydol a dynol;
(ii) i groesawu aelodau’n gilydd i addoldai ein gilydd a derbyn gweinidogaethau bugeiliol;
(iii) i groesawu aelodau’n gilydd i fywyd cynulleidfaol eglwysi’n gilydd;
(iv) i gefnogi rhannu addoliad. Pan fernir bod addoli ewcharistig yn briodol, gall fynd ymhellach na chroesawu unigolion i’r cymun bendigaid. Byddai cymryd rhan gan weinidogion ordeiniedig yn adlewyrchu presenoldeb dwy neu fwy o eglwysi gan ddatgan eu hundod agosach mewn ffydd a bedydd ac yn profi ein bod yn parhau i ymdrechu tuag at wneud yn fwy gweladwy undod yr Un Eglwys Lân, Gatholig ac Apostolig. Er hynny y mae’r cyfryw gyfranogi yn parhau’n fyr o lwyr ymgyfnewid gweinidogion. Y ddefod i’w defnyddio fyddai un yr Eglwys y mae’r gweinidog sy’n llywyddu yn perthyn iddi, a’r gweinidog hwnnw a ddylai ddweud y weddi ewcharistaidd;
(v) i groesawu gweinidogion ordeiniedig ein heglwysi i wasanaethu yn eglwysi’n gilydd, yn unol â disgyblaeth ein priod eglwysi, i’r graddau a wneir yn bosibl drwy’n cytundeb;
(vi) i barhau trafodaethau diwinyddol rhwng ein heglwysi i weithio ar faterion heb eu penderfynu sy’n rhwystro cymundeb llawnach, pa un ai o’r ddwy ochr ynteu ar fframwaith ecwmenaidd Ewropeaidd ehangach;
(vii) i weithio tuag at berthynas agosach rhyngom ein gilydd mewn eglwysi a chwalwyd (diaspora);
(viii) i gefnogi ymweliadau ecwmenaidd, gefeillio a chyfnewid;
(ix) i sefydlu grwp cysylltu i feithrin ein twf mewn cymundeb, i hyrwyddo cydymgynghori rheolaidd ar faterion o bwys, ac i gyd-drefnu cyflawni’r cytundeb hwn.
AR GYFER CYFAMODI RHWNG YR EGLWYS YNG NGHYMRU AC EGLWYSI ERAILL AR GYFER UNDEB YNG NGHYMRU
[1 Mai 1974, Rhan 2 o'r Ail Atodlen a ddiwygiwyd ar 21 Medi 1977]
GAN FOD rhai Eglwysi yng Nghymru sy’n aelodau o Gyngor Eglwysi Cymru wedi codi Cyd-bwyllgor Cyfamodi, a hwnnw wedi paratoi’r Ffurf ar Gyfamod a draethir yn yr Atodlen Gyntaf i hwn, ac wedi cofnodi ei gytundeb y dylai’r Eglwysi hynny a gynrychiolir ar y Cyd-bwyllgor wneud cyfamod â’i gilydd ar y telerau hyn.
A CHAN FOD Corff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru wedi penderfynu gwneud y cyfamod hwnnw yn y modd a ymddengys yma rhag llaw.
DEDDFER DRWY HYN fod yr Eglwys yng Nghymru yn y ffurf a draethir yn yr Atodlen Gyntaf i hwn yn difrifol gyfamodi â’r cyfryw Eglwysi hynny ag a enwir yn Rhan Gyntaf yr Ail Atodlen i hwn ac â’r Eglwysi hynny sy’n perthyn i’r Undeb a enwir yn Ail Ran yr Atodlen honno ac sydd eisoes wedi cyfamodi, neu a fydd rhag llaw’n cyfamodi, i’r un perwyl â’r Eglwys yng Nghymru. Eithr ni chaiff dim a gynhwysir yma effeithio ar ffydd, disgyblaeth, erthyglau, datganiadau athrawiaethol, defodau, seremonïau neu ffurfiaduron o eiddo’r Eglwys yng Nghymru na’i gyfrif yn effeithio arnynt.
YR ATODLEN GYNTAF Y CYFEIRIWYD ATI EISOES Y CYFAMOD
Gan gyffesu ein ffydd yn Iesu Grist fel Arglwydd a Gwaredwr, a chan adnewyddu ein hewyllys i’w wasanaethu ef mewn cenhadaeth yn y byd, y mae ein gwahanol eglwysi wedi eu dwyn i berthynas newydd â’i gilydd. Gyda’n gilydd diolchwn am y cwbl sydd gennym yn gyffredin rhyngom. Gyda’n gilydd yr ydym yn edifarhau am y pechod o barhau ein hymraniad. Gyda’n gilydd gwnawn yn hysbys pa fodd yr ydym yn deall yr ufudd-dod y’n gelwir iddo.
- 1.
(a) Cydnabyddwn yn ein gilydd yr un ffydd yn efengyl Iesu Grist yr hon a geir yn yr Ysgrythur Lân, yr hon y bwriadwyd i gredoau’r Eglwys gynnar a chyffesiadau hanesyddol eraill ei gwarchod. Cydnabyddwn yn ein gilydd yr un awydd i gynnal y ffydd hon yn ei chyflawnder.
(b) Bwriadwn weithredu, llefaru a gwasanaethu gyda’n gilydd mewn ufudd-dod i’r efengyl yn y fath fodd ag i ddysgu mwy o’i chyflawnder a’i gwneuthur yn hysbys i eraill mewn iaith gyfoes a thrwy dystiolaeth gredadwy.
- 2.
(a) Cydnabyddwn yn ein gilydd yr un ymwybyddiaeth o alwad Duw i wasanaethu ei bwrpas grasol ar gyfer dynoliaeth oll, gyda chyfrifoldeb arbennig am y wlad a’r bobl hyn.
(b) Bwriadwn gydweithio er mwyn cyfiawnder a heddwch gartref ac oddi cartref ac er mwyn ffyniant ysbrydol a materol a rhyddid personol yr holl bobloedd.
- 3.
(a) Cydnabyddwn ein gilydd ein bod o fewn i un Eglwys Iesu Grist, wedi ymdynghedu i wasanaethu ei Deyrnas, ac yn cyfranogi o undeb yr Ysbryd.
(b) Bwriadwn drwy gymorth yr un Ysbryd oresgyn yr ymraniadau sy’n niweidio ein tystiolaeth, yn llesteirio cenhadaeth Duw, ac yn cuddio efengyl iechydwriaeth dyn, a bwriadwn amlygu’r undeb hwnnw sy’n unol ag ewyllys Crist.
- 4.
(a) Cydnabyddwn aelodau ein holl eglwysi yn aelodau o Grist yn rhinwedd eu bedydd cyffredin a’u galwad gyffredin i gyfranogi yng ngweinidogaeth yr holl Eglwys.
(b) Bwriadwn geisio ffurf ar fywyd cyffredin a alluoga bob aelod i arfer y doniau a roddwyd iddo yng ngwasanaeth Teyrnas Crist.
- 5.
(a) Cydnabyddwn weinidogaethau ordeiniedig ein holl eglwysi yn weinidogaethau gwirioneddol y gair a’r sacramentau, trwy y rhai y cyhoeddir Cariad Duw, y cyfryngir ei ras, ac y gweinyddir ei ofal Tadol.
(b) Bwriadwn geisio patrwm o weinidogaeth ordeiniedig y cytunir arno, yr hwn a wasanaetha’r efengyl mewn undeb, a arddengys ei pharhad drwy’r oesoedd, ac a dderbynnir cyn belled ag y gellir gan yr Eglwys drwy’r byd oll.
- 6.
(a) Cydnabyddwn yn ein gilydd batrymau o addoliad a bywyd sacramentaidd, arwyddion sancteiddrwydd a sêl sydd yn amlwg yn rhoddion Crist.
(b) Bwriadwn wrando ar ein gilydd a chydastudio tystiolaeth ac arfer ein gwahanol draddodiadau, fel y diogeler ar gyfer yr Eglwys unedig a geisiwn y trysorau a ymddiriedwyd inni pan oeddem ar wahân.
- 7.
(a) Cydnabyddwn yn ein gilydd yr un gofal am iawn lywodraeth yn yr Eglwys er cyflawni ei chenhadaeth.
(b) Bwriadwn geisio ffurf ar lywodraeth Eglwysig a fydd yn diogelu y gwerthoedd cadarnhaol y mae pob un wedi sefyll drostynt, fel y bydd i’r Eglwys ffurfio meddwl cytûn a gweithredu arno fel un corff ar bob lefel o gyfrifoldeb drwy offerynnau cyfansoddiadol.
Ni wyddom eto pa ffurf a gymer undeb. Down at ein tasg yn agored i’r Ysbryd. Credwn yr arwain Duw ei Eglwys i ffyrdd gwirionedd a thangnefedd, gan ei chywiro, ei chyfnerthu a’i hadnewyddu yn unol â meddwl Crist. Am hynny yr ydym yn cymell ein holl aelodau i dderbyn ei gilydd yn yr Ysbryd Glân fel y mae Iesu Grist yn ein derbyn ni, ac i ddal ar bob cyfle i gyd-dyfu drwy gydweddïo a chydaddoli gyda dealltwriaeth a chariad o bob tu fel yr adnewydder hwy ym mhob lle ar gyfer cenhadu.
Gan hynny gwnawn y Cyfamod difrifol hwn yn awr gerbron Duw a chyda’n gilydd, i weithio a gweddïo, mewn ufudd-dod unol i’n Harglwydd Iesu Grist, fel y caffom drwy’r Ysbryd Glân ein dwyn i un Eglwys weledig i wasanaethu gyda’n gilydd mewn cenhadaeth er gogoniant Duw Dad.
YR AIL ATODLEN Y CYFEIRIWYD ATI EISOES
RHAN 1
Eglwys Methodistiaid Calfinaidd Cymru neu Eglwys Bresbyteraidd Cymru. Yr Eglwys Fethodistaidd.
Eglwys Unedig Ddiwygiedig Lloegr a Chymru (Gynulleidfaol a Phresbyteraidd).
RHAN 2
Undeb yr Annibynwyr Cymraeg.
Undeb Bedyddwyr Prydain Fawr ac Iwerddon [ychwanegwyd gan Ganon a Gyhoeddwyd ar 21 Medi 1977]
I GEFNOGI CYDBERTHYNAS AG EGLWYSI ERAILL (7 Ebrill 2005)
GAN FOD y broses ryng-eglwysig yn cael ei mynegi’n ymarferol ar lefel leol yn ymrwymiad yr Eglwysi i’w gilydd.
A CHAN FOD yr Eglwys yng Nghymru wedi cyfamodi ag Eglwysi eraill i weithio a gweddïo am undeb yng Nghymu.
A CHAN EI BOD yn ddymunol gwneud darpariaeth ar gyfer addoli ecwmenaidd drwy’r holl Dalaith.
DEDDFER DRWY HYNYMA fel a ganlyn:
- 1.
(1) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau is-adran (3) o hynyma o fewn a thrwy’r Eglwys yng Nghymru gall gweinidog neu berson lleyg sydd wedi ei fedyddio ac sy’n aelod cymeradwy o Eglwys arall sy’n addef y Ffydd Drindodol ac yn gweinyddu Sacramentau Bedydd a Chymun Sanctaidd gael ei wahodd gan beriglor plwyf i gyflawni’r cyfan neu unrhyw rai o’r dyletswyddau a ganlyn o fewn y plwyf hwnnw:
(i) arwain y Foreol neu’r Hwyrol Weddi neu unrhyw wasanaeth di- sacrament arall;
(ii) darllen yr Ysgrythur Lân mewn unrhyw wasanaeth;
(iii) pregethu mewn unrhyw wasanaeth;
(iv) darllen y Litani, arwain yr ymbiliau yn y Cymun Bendigaid ac arwain gweddïau mewn gwasanaethau eraill;
(v) cymryd gwasanaeth Bedydd Sanctaidd;
(vi) cynorthwyo mewn gwasanaeth Glân Briodas, ac eithrio gweinyddu’r briodas;
(vii) cymryd gwasanaeth claddedigaeth y meirw;
(viii) cynorthwyo gyda gweinyddu’r elfennau yn y Cymun Bendigaid;
(ix) llywyddu mewn gwasanaeth o’r Cymun Sanctaidd yn ôl y ffurf neu’r ffurfiau gwasanaeth a awdurdodwyd gan Gomisiwn yr Eglwysi Cyfamodol;
Dan yr amod:
(a) fod y gweinidog neu’r person lleyg a nodwyd uchod wedi ei awdurdodi i gyflawni’r un ddyletswydd neu ddyletswydd gyffelyb yn ei Eglwys ef neu ei Heglwys hi ei hun;
(b) yn achos is-baragraffau (v), (vi) a (vii) uchod, fod y personau dan sylw wedi gofyn i’r periglor roi’r gwahoddiad;
(c) yn achos is-baragraff (ix) uchod, mai un neu fwy o weinidogion y Gair a’r Sacramentau fydd yn llywyddu mewn gweinyddiad o’r Cymun Sanctaidd; a bod hysbysrwydd am gynnal y cyfryw wasanaeth wedi ei roi, hyd y mae’n ymarferol, ar y Sul nesaf o’i flaen, gan nodi i ba enwad y mae’r gweinidog neu’r gweinidogion sydd i lywyddu yn perthyn;
(d) yn achos is-baragraffau (i), (viii) a (ix) uchod, os yw’r cyfryw ddyletswydd i’w chyflawni’n aml fod caniatâd yr esgob esgobaethol wedi ei dderbyn.
(2) Yn ddarostyngedig i ddarpariaethau is-adran (3) o hynyma, gall periglor plwyf wahodd aelod cymeradwy o Gymdeithas Grefyddol y Cyfeillion neu Fyddin yr Iachawdwriaeth i gyflawni o fewn y plwyf hwnnw unrhyw rai neu’r cyfan o’r dyletswyddau a nodir yn is-adran (1) uchod, ac eithrio is-baragraffau (v), (viii) a (ix), dan yr amod:
(a) yn achos aelod o Fyddin yr Iachawdwriaeth ei fod ef neu ei bod hi wedi ei awdurdodi neu ei hawdurdodi i gyflawni’r un ddyletswydd neu ddyletswydd gyffelyb ym Myddin yr Iachawdwriaeth;
(b) yn achos dyletswyddau a nodir yn is-baragraffau (1)(vi) a (vii) uchod, fod y personau dan sylw wedi gofyn i’r periglor roi’r gwahoddiad;
(c) yn achos paragraff (1)(iii) uchod, os gwahoddiad i bregethu mewn gwasanaeth o’r Cymun Sanctaidd neu Fedydd Sanctaidd ydyw, fod yr esgob esgobaethol wedi ei fodloni fod amgylchiadau arbennig ym mhob cyfryw achlysur sy’n cyfiawnhau rhoi’r cyfryw wahoddiad;
(d) os yw’r cyfryw ddyletswydd i’w chyflawni’n aml, fod caniatâd yr esgob esgobaethol wedi ei dderbyn.
(3) Dim ond esgob esgobaethol a all roi gwahoddiad i gyflawni dyletswydd dan isadrannau (1) neu (2) uchod mewn perthynas â gwasanaeth ordeinio neu gonffyrmio a dim ond os bydd caniatâd y periglor a’r cyngor plwyf eglwysig wedi ei dderbyn.
- 2.
Gall esgob sy’n derbyn gwahoddiad i gymryd rhan mewn gwasanaeth ecwmenaidd neu wasanaeth enwad arall yn ystod y gwasanaeth hwnnw gyflawni unrhyw ddyletswydd a neilltuir iddo dan yr amod:
(a) fod y ddyletswydd yr un neu’n gyffelyb i un yr awdurdodwyd ef i’w chyflawni yn yr Eglwys yng Nghymru; a
(b) ei fod, cyn derbyn y gwahoddiad, wedi ymgynghori â pheriglor y plwyf lle mae’r gwasanaeth i’w gynnal, ac yn achos gwahoddiad i gymryd rhan mewn gwasanaeth mewn esgobaeth arall ei fod wedi derbyn caniatâd esgob yr esgobaeth honno; a
(c) yn achos gwahoddiad i gymryd rhan mewn ordeinio neu gysegru gweinidog o Eglwys arall, neu gymryd rhan mewn gwasanaeth o gonffyrmasiwn, neu lywyddu mewn Cymun Sanctaidd heblaw’r ffurf neu’r ffurfiau gwasanaeth a awdurdodwyd gan Gomisiwn yr Eglwysi Cyfamodol, ei fod wedi derbyn caniatâd esgobion esgobaethol yr Eglwys yng Nghymru.
- 3.
Er gwaethaf unrhyw ddarpariaeth unrhyw Ganon, gall clerig neu weinidog lleyg trwyddedig neu aelod arall o’r Eglwys yng Nghymru sy’n derbyn gwahoddiad i gymryd rhan mewn gwasanaeth ecwmenaidd neu wasanaeth enwad arall, yn ystod y gwasanaeth hwnnw gyflawni unrhyw ddyletswydd a neilltuir iddo neu iddi, dan yr amod:
(a) fod y ddyletswydd yr un neu’n gyffelyb i un y mae ef neu hi wedi ei awdurdodi neu ei hawdurdodi i’w chyflawni yn yr Eglwys yng Nghymru; a
(b) ei fod ef neu ei bod hi, cyn derbyn y gwahoddiad, wedi cael caniatâd periglor y plwyf lle mae’r gwasanaeth i’w gynnal; a
(c) yn achos gwahoddiad i gymryd rhan mewn ordeinio neu gysegru gweinidog o Eglwys arall, neu i lywyddu yn y Cymun Sanctaidd heblaw’r ffurf neu’r ffurfiau gwasanaeth a awdurdodwyd gan Gomisiwn yr Eglwysi Cyfamodol, ei fod ef neu ei bod hi wedi derbyn caniatâd esgob yr esgobaeth lle mae’r gwasanaeth i’w gynnal; a
(d) yn achos gwahoddiad i gymryd rhan mewn unrhyw wasanaeth yn aml, ei fod ef neu ei bod hi wedi derbyn caniatâd esgob yr esgobaeth a pheriglor a chyngor plwyf eglwysig y plwyf lle mae’r gwasanaeth i’w gynnal.
- 4.
Ni chaiff esgob neu offeiriad sydd wedi derbyn gwahoddiad i gymryd rhan mewn ordeinio neu gysegru gweinidog o Eglwys arall, drwy arddodi dwylo neu unrhyw ffordd arall, wneud unrhyw weithred sy’n arwydd cyflwyno urddau sanctaidd, oni bai fod yr Eglwys honno’n Eglwys esgobol y mae’r Eglwys yng Nghymru mewn cymundeb llawn â hi.
- 5.
Gall periglor plwyf, gyda chaniatâd y cyngor plwyf eglwysig a’r esgob esgobaethol, wahodd aelodau o Eglwys arall neu Eglwysi eraill i ddefnyddio adeilad eglwysig yn y plwyf i addoli’n unol â ffurfiau gwasanaeth ac ymarfer yr Eglwys arall honno (neu’r Eglwysi eraill hynny) ar y cyfryw achlysuron ag a nodir yn y caniatâd a roddir gan yr esgob.
- 6.
Bydd i ganiatâd a roddir gan esgob esgobaethol dan y Canon hwn fod mewn ysgrifen ac yn unol ag unrhyw gyfarwyddiadau a wneir o bryd i’w gilydd gan Fainc Esgobion yr Eglwys yng Nghymru.
- 7.
Yn y Canon hwn y mae’r ymadrodd “periglor” yn cynnwys:
(i) mewn perthynas â phlwyf gwag (a lle nad yw paragraff (ii) isod i’w gymhwyso) y Deon Bro, a
(ii) mewn perthynas â phlwyf gwag lle mae perigloriaeth y cyfryw wedi ei dileu, yr offeiriad mewn gofal a benodwyd gan yr esgob esgobaethol.
- 8.
Dyfynner y Canon hwn fel Canon i Gefnogi Cydberthynas ag Eglwysi eraill, 2005.
I GANIATÁU SEFYDLU A CHEFNOGI PARTNERIAETHAU ECWMENAIDD LLEOL (7 Ebrill 2005)
GAN FOD y Canon Prosiectau Ecwmenaidd Lleol 1991 yn gwneud darpariaeth ar gyfer sefydlu prosiectau ecwmenaidd lleol (a adwaenir yn awr fel partneriaethau ecwmenaidd lleol), a bod cydberthynas ecwmenaidd yng Nghymru wedi elwa oddi wrth nifer o gyfryw bartneriaethau y mae’r Eglwys yng Nghymru wedi cymryd rhan ynddynt dan awdurdod cyfiawn.
A CHAN FOD yr Eglwys yng Nghymru wedi ymrwymo i gyfamodi ag Eglwysi eraill i weithio a gweddïo am undeb yng Nghymru, a thrwy hynny yn cydnabod aelodau yr holl gyfryw Eglwysi yn aelodau yng Nghrist yn rhinwedd eu bedydd cyffredin a galwad gyffredin i gyfranogi yng ngweinidogaeth yr holl Eglwys.
A CHAN EI BOD yn ddymunol parhau i sefydlu a chynnal partneriaethau ecwmenaidd lleol dan drwydded yr esgob esgobaethol i hyrwyddo undeb llwyrach ymhlith yr holl Gristnogion yng Nghymru.
DEDDFER DRWY HYNYMA fel a ganlyn:
- 1.
(1) Bydd yn gyfreithlon i esgob esgobaethol yn yr Eglwys yng Nghymru awdurdodi drwy ddatganiad mewn ysgrifen sefydlu partneriaeth ecwmenaidd leol mewn plwyf neu blwyfi neu mewn rhan neu rannau o’r cyfryw o fewn ei esgobaeth, wedi dod i gytundeb gydag awdurdodau priodol pob Eglwys sy’n cymryd rhan sy’n addef y Ffydd Drindodol ac yn gweinyddu Sacramentau Bedydd a Chymun Sanctaidd.
Dan yr amod fod yr esgob esgobaethol wedi derbyn caniatâd mewn ysgrifen:
(a) Mainc Esgobion yr Eglwys yng Nghymru;
(b) Cynhadledd Esgobaethol yr esgobaeth lle mae’r bartneriaeth i’w sefydlu;
(c) Cyngor neu Gynghorau Plwyf Eglwysig y plwyf neu’r plwyfi lle mae’r bartneriaeth i’w sefydlu; a
(d) periglor neu beriglorion y plwyf neu’r plwyfi y mae’r bartneriaeth i’w sefydlu ynddo neu ynddynt.
(2) Bydd i bob cyfryw bartneriaeth ecwmenaidd leol gael cyfansoddiad neu gyfamod mewn ysgrifen wedi ei gymeradwyo gan yr esgob esgobaethol.
- 2.
Bydd yn gyfreithlon i esgob esgobaethol yn yr Eglwys yng Nghymru wedi ymgynghori ag awdurdodau priodol pob Eglwys sy’n cymryd rhan awdurdodi’r canlynol i weinyddu o fewn partneriaeth ecwmenaidd leol:
(i) clerigion, gweinidogion lleyg trwyddedig ac aelodau eraill o’r Eglwys yng Nghymru yn unol ag adran 6 o hynyma;
(ii) gweinidogion neu aelodau bedyddiedig eraill o Eglwysi sy’n cymryd rhan yn unol ag adran 8 o hynyma.
- 3.
Wedi ymgynghori ag awdurdodau priodol pob Eglwys sy’n cymryd rhan, gall Mainc Esgobion yr Eglwys yng Nghymru, o bryd i’w gilydd, wneud rheoliadau ynglŷn â gweinyddu partneriaeth ecwmenaidd leol.
- 4.
Bydd i’r esgob esgobaethol, mewn cydweithrediad ag awdurdodau priodol pob Eglwys sy’n cymryd rhan, gynnal arolygiadau cyfnodol o bob partneriaeth ecwmenaidd leol.
- 5.
Gellir terfynu ymrwymiad yr Eglwys yng Nghymru mewn partneriaeth ecwmenaidd leol a sefydlwyd fel y deddfir yn hynyma ar unrhyw amser drwy benderfyniad yr esgob esgobaethol wedi ymgynghori ag awdurdodau priodol pob Eglwys sy’n cymryd rhan, a bydd i’r cyfryw benderfyniad gael ei gyfleu i bob un a phawb a awdurdodwyd i weinyddu o fewn y bartneriaeth ac i bob un neu bob corff yr oedd angen ei ganiatâd er mwyn ei sefydlu.
- 6.
Bydd yn gyfreithlon o fewn partneriaeth ecwmenaidd leol i glerig, gweinidog lleyg trwyddedig neu aelod arall o’r Eglwys yng Nghymru a awdurdodwyd yn unol â darpariaethau adran 2(i) o hynyma, weinyddu neu gyflawni unrhyw ddyletswydd a neilltuwyd iddo neu iddi mewn gwasanaeth ecwmenaidd neu wasanaeth enwad arall sy’n cymryd rhan.
Dan yr amod:
(a) fod y ddyletswydd yr un neu’n gyffelyb i un y mae ef neu hi wedi ei awdurdodi neu ei hawdurdodi i’w chyflawni o fewn yr Eglwys yng Nghymru; a
(b) yn achos gwasanaeth y Cymun Sanctaidd, y ffurf wasanaeth i’w ddefnyddio fydd defod awdurdodedig unrhyw Eglwys sy’n cymryd rhan neu Gomisiwn yr Eglwysi Cyfamodol; a
(c) yn achos gwahoddiad i gymryd rhan mewn ordeinio neu gysegru gweinidog o Eglwys arall, neu i lywyddu yn y Cymun Sanctaidd heblaw un sy’n unol ag amod (b) o hynyma, ei fod ef neu ei bod hi wedi derbyn caniatâd esgob yr esgobaeth.
- 7.
Gall clerig, gweinidog lleyg trwyddedig neu unrhyw aelod o’r Eglwys yng Nghymru a awdurdodwyd yn unol â darpariaethau adran 2(i) o hynyma fod yn bresennol, siarad a phleidleisio mewn cyfarfodydd o’r Eglwys neu’r Eglwysi arbennig sy’n cymryd rhan.
- 8.
Bydd yn gyfreithlon o fewn partneriaeth ecwmenaidd leol i weinidog neu aelod bedyddiedig arall o Eglwys sy’n cymryd rhan a awdurdodwyd yn unol â darpariaethau adran 2(ii) o hynyma gyflawni’r cyfan neu unrhyw rai o’r dyletswyddau a ganlyn:
(i) arwain y Foreol neu’r Hwyrol Weddi neu unrhyw wasanaeth di- sacrament arall;
(ii) darllen yr Ysgrythur Lân mewn unrhyw wasanaeth;
(iii) pregethu mewn unrhyw wasanaeth;
(iv) darllen y Litani, arwain yr ymbiliau yn y Cymun Bendigaid ac arwain gweddïau mewn gwasanaethau eraill;
(v) cymryd gwasanaeth Bedydd Sanctaidd;
(vi) cynorthwyo mewn gwasanaeth Glân Briodas, ac eithrio gweinyddu’r briodas;
(vii) cymryd gwasanaeth claddedigaeth y meirw;
(viii) cynorthwyo gyda gweinyddu’r elfennau yn y Cymun Bendigaid;
(ix) llywyddu mewn gwasanaeth o’r Cymun Sanctaidd yn ôl y ffurf neu’r ffurfiau gwasanaeth a awdurdodwyd gan Gomisiwn yr Eglwysi Cyfamodol neu unrhyw un o’r Eglwysi sy’n cymryd rhan;
(x) gweinyddu Cymun y Claf.
Dan yr amod:
(a) fod y person a nodwyd uchod wedi ei awdurdodi neu ei hawdurdodi i gyflawni dyletswydd gyffelyb yn ei Eglwys neu ei Heglwys ei hun;
(b) mai gweinidog ordeiniedig y Gair a’r Sacramentau fydd yn llywyddu dros weinyddu’r Cymun Sanctaidd;
(c) mae’n ymarferol, ar y Sul nesaf o’i flaen, gyda gwybodaeth am ffurf y gwasanaeth sydd i’w ddefnyddio a’r enwad y mae’r gweinidog sydd i lywyddu yn perthyn iddo;
(d) fod yr esgob yn sicrhau mai gwasanaeth y Cymun Bendigaid yn unol â defod yr Eglwys yng Nghymru fydd i’w weinyddu ar Ddydd Nadolig, Dydd y Pasg, Dydd Iau’r Dyrchafael a’r Pentecost o fewn y plwyf neu’r plwyfi dan sylw lle gofynnir am hyn gan gymunwyr o fewn y bartneriaeth;
(e) fod awdurdod neu awdurdodau Eglwys y sawl a nodwyd uchod wedi cydsynio iddo ef neu iddi hi gael caniatâd i weinyddu yn y cyfryw fodd;
(f) fod y person a nodwyd uchod wedi cytuno i gael ei ymrwymo neu ei hymrwymo gan gyfansoddiad neu gyfamod y bartneriaeth ecwmenaidd leol dan sylw, fel y cytunwyd arno gan esgob yr esgobaeth.
- 9.
(1) Gall Mainc Esgobion yr Eglwys yng Nghymru, o bryd i’w gilydd, wneud rheoliadau ynglŷn â gweinyddu plwyf neu blwyfi lle mae gweinidog neu aelod bedyddiedig arall o Eglwys wedi ei awdurdodi i weinyddu yn unol â darpariaethau adran 2(ii) o hynyma, lle mae’r cyfryw blwyf neu blwyfi yn neu’n rhan o bartneriaeth ecwmenaidd leol, gan ddarparu ar gyfer:
(a) ei hawl ef neu ei hawl hi i fod yn bresennol, siarad a phleidleisio yng nghyfarfod y Festri, Cyngor Plwyf Eglwysig, Cynhadledd Deoniaeth, Cabidwl Deoniaeth a chyrff eraill o’r fath;
(b) enwebu warden sydd i’w benodi gan y periglor yn unol ag adran 17 Pennod VI y Cyfansoddiad;
(c) dyletswyddau byw yn y persondy a chynnal y cyfryw;
(d) cymhwyso rheolau a rheoliadau ynglŷn â chladdu a chladdfeydd o fewn y plwyf;
(e) y cyfryw faterion eraill ynglŷn â gweinyddu’r plwyf ag a ystyria Mainc yr Esgobion, o bryd i’w gilydd, yn fuddiol.
(2) Ni fydd rheoliadau a wnaed yn unol ag is-adran (1) o hynyma yn gyfreithlon ond pan gymeradwyir hwy gan Gorff Llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru, eithr ni fydd adrannau 36, 37 a 43 Pennod II y Cyfansoddiad i’w cymhwyso at drefn cais am y cyfryw ganiatâd.
- 10.
Gall esgob esgobaethol ar unrhyw adeg mewn ysgrifen dynnu’n ôl awdurdod a roddwyd yn unol ag adran 2 o hynyma.
- 11.
(1) Wedi ymgynghori â pheriglor neu beriglorion a Chyngor neu Gynghorau Plwyf neu Blwyfi Eglwysig partneriaeth ecwmenaidd leol, a chydag awdurdodau priodol pob Eglwys arall sy’n cymryd rhan, gall esgob esgobaethol gydnabod cyfarfod lleol o Gymdeithas Grefyddol y Cyfeillion neu gynulliad o Fyddin yr Iachawdwriaeth fel aelodau cyswllt o’r bartneriaeth honno.
(2) O fewn partneriaeth ecwmenaidd leol lle mae cydnabyddiaeth wedi ei rhoi dan yr adran hon, gall aelod cymeradwy o Gymdeithas Grefyddol y Cyfeillion neu o Fyddin yr Iachawdwriaeth gyflawni o fewn y bartneriaeth rai neu’r cyfan o’r dyletswyddau a nodwyd yn adran (8) o hynyma, ac eithrio is-baragraffau (v), (viii), (ix) a (x), dan yr amod:
(a) yn achos aelod o Fyddin yr Iachawdwriaeth ei fod ef neu ei bod hi wedi ei awdurdodi neu ei hawdurdodi i gyflawni’r un neu gyffelyb ddyletswydd ym Myddin yr Iachawdwriaeth;
(b) yn achos y dyletswyddau a nodwyd gan is-baragraffau (vi) a (vii) adran 8 fod y personau dan sylw wedi gofyn i’r periglor roi’r gwahoddiad;
(c) fod awdurdod neu awdurdodau Cymdeithas Grefyddol y Cyfeillion neu Fyddin yr Iachawdwriaeth, fel y bo’r achos, wedi cydsynio iddo ef neu iddi hi gael caniatâd i weinyddu; a
(d) ei fod ef neu ei bod hi wedi cytuno i gael ei ymrwymo neu ei hymrwymo gan gyfansoddiad neu gyfamod y bartneriaeth ecwmenaidd leol arbennig, fel y cymeradwywyd gan yr esgob esgobaethol.
- 12.
(1) Lle bydd clerig, gweinidog lleyg trwyddedig neu aelod arall o’r Eglwys yng Nghymru wedi ei benodi neu ei phenodi gan esgob esgobaethol drwy drwydded i swydd amhlwyfol o fewn gweinidogaeth yr Eglwys yng Nghymru, bydd yn gyfreithlon i’r esgob esgobaethol, wedi dod i gytundeb ag awdurdodau priodol pob Eglwys sy’n cymryd rhan, drwy ddatganiad mewn ysgrifen, awdurdodi o fewn yr esgobaeth sefydlu partneriaeth ecwmenaidd leol yn cynnwys y cyfryw weinidogaeth amhlwyfol.
(2) Bydd i baragraffau (a) a (b) yr amod i adran 1(1) o hynyma, ac adrannau 2 i 10 o hynyma, ac eithrio is-adrannau (b), (c), (d) ac (e) adran 9 o hynyma, gael eu cymhwyso mewn perthynas â phartneriaethau ecwmenaidd lleol a awdurdodwyd yn rhinwedd yr adran hon.
- 13.
Nid yw dim a gynhwysir yn y Canon hwn i’w gymryd yn effeithio ar neu i’w ystyried yn effeithio ar
(i) y datganiad o ufudd-dod canonaidd a wneir gan glerig yn yr Eglwys yng Nghymru;
(ii) y datganiad a wnaed ac a arwyddwyd gan glerig yn yr Eglwys yng Nghymru yn unol ag adran 66 Penod VII [Yn awr adran 10 Pennod VI] Cyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru;
(iii) ffydd, disgyblaeth, erthyglau, datganiadau athrawiaethol, defodau, seremonïau a ffurfiaduron yr Eglwys yng Nghymru.
- 14.
Dileir y Canon i Ganiatáu Sefydlu Prosiectau Ecwmenaidd Lleol 1991 drwy hynyma.
- 15.
Yn y Canon hwn y mae’r ymadrodd “periglor” yn cynnwys:
(i) mewn perthynas â phlwyf gwag (a lle nad yw paragraff (ii) isod i’w gymhwyso) y Deon Bro; a
(ii) mewn perthynas â phlwyf gwag lle mae perigloriaeth y cyfryw wedi ei dileu, yr offeiriad mewn gofal a benodwyd gan yr esgob esgobaethol.
- 16.
Dyfynner y Canon hwn fel Canon Partneriaethau Ecwmenaidd Lleol, 2005.
I HYRWYDDO PERTHYNAS ECWMENAIDD (GLÂN BRIODAS) (19 Medi 1985)
GAN FOD yr Eglwys yng Nghymru wedi ymrwymo i gyfamodi gydag eglwysi eraill i weithio a gweddïo er undeb yng Nghymru, a thrwy hynny yn cydnabod aelodau yr holl gyfryw eglwysi yn aelodau yng Nghrist yn rhinwedd eu bedydd cyffredin a’r alwad gyffredin i gyfranogi yng ngweinidogaeth yr holl Eglwys.
A CHAN ei bod yn awr yn ddymunol hyrwyddo perthynas ecwmenaidd trwy ganiatáu i glerigion yr Eglwys yng Nghymru weinyddu mewn gwasanaethau priodas yn y cyfryw addoldai a nodir isod.
DEDDFER TRWY HYN FEL Y CANLYN:
- 1.
Ar ac o’r dydd cyntaf o Hydref 1985, bydd yn gyfreithlon o fewn a thrwy holl Dalaith Cymru i glerig o’r Eglwys yng Nghymru weinyddu mewn gwasanaeth priodas mewn addoldy a gofrestrwyd fel adeilad cofrestredig i ddiben gweinyddu priodas yn unol â Deddf Priodas 1949 neu unrhyw Ddeddf sy’n diwygio neu’n ail-ddeddfu y cyfryw.
Dan yr amod:
(a) bod gan y clerig drwydded oddi wrth Esgob ei esgobaeth yn rhoi caniatâd iddo weinyddu yn y cyfryw wasanaethau yn y plwyf lle mae’r adeilad cofrestredig wedi ei leoli;
(b) bod y ffurf-wasanaeth sydd i’w ddefnyddio wedi ei gymeradwyo gan Esgob yr esgobaeth;
(c) bod ymddiriedolwyr neu gorff llywodraethol yr adeilad cofrestredig yn caniatáu i’r clerig weinyddu yn y cyfryw fodd;
(d) bod y clerig wedi ei awdurdodi i weinyddu yn y cyfryw fodd yn yr adeilad cofrestredig dan ddarpariaethau Deddf Priodas 1949 neu unrhyw Ddeddf sy’n diwygio neu’n ail-ddeddfu y cyfryw, neu ynteu ei fod yn gweinyddu’r briodas ym mhresenoldeb cofrestrydd y dosbarth cofrestriad lle mae’r adeilad cofrestredig wedi ei leoli;
(e) nad oes unrhyw rwystr i briodas y ddeuddyn yn unol â chyfraith ganon yr Eglwys yng Nghymru.
- 2.
Gall Esgob yr esgobaeth dynnu’n ôl drwydded yn caniatáu i glerig weinyddu yn unol â chymal 1 y Canon hwn trwy rybudd ysgrifenedig ar unrhyw adeg.
- 3.
Ni ellir ystyried na dehongli bod un dim yn y Canon hwn yn caniatáu gweinyddu priodas mewn adeilad cofrestredig yn dilyn cyhoeddi gostegion neu’n unol â defodau na’r Eglwys yng Nghymru nac Eglwys Loegr.