Cyfrol II: Adran 3 – Cynlluniau
Taflen Cynnwys
- Cynllun Cynnal y Weinidogaeth yn yr Eglwys yng Nghymru 2007
Yr Atodlen - CYNLLUN CYNNAL Y WEINIDOGAETH
Rheoliadau a Wnaed gan Gorff y Cynrychiolwyr:
Rhan 1 Darpariaethau Cyffredinol
Rhan 2 Cronfeydd Cynnal y Weinidogaeth
Rhan 3 Clerigion Plwyf Lleiafswm Cyflog
Rhan 4 Urddasolion a Chlerigion Esgobaeth
Rhan 5 Darpariaethau Ariannol Eraill
Rhan 6 Bwrdd y Persondai
Rhan 7 Buddgedau Clerigion
Rhan 8 Materion Amrywiol
Yr Atodlen:
Rhan I Maint Symiau, Dyfarniadau, Grantiau, Taliadau, Cyfraniadau, Cyflogau a Buddgedau y Cyfeirir Atynt yn y Cynllun Hwn
Rhan II Cynllun Pensiynau Buddgedau Clerigion - CYNLLUNIAU CADEIRLANNAU
CYNLLUN CYNNAL Y WEINIDOGAETH YN YR EGLWYS YNG NGHYMRU 2007
(1) O 1 Ionawr 2007:
(a) Yn ddarostyngedig i isadran (3), bydd Corff y Cynrychiolwyr yn darparu bob blwyddyn swm o arian (“y Grant”) a amcangyfrifwyd drwy gyfeirio at gost dybiedig yr eitemau a restrir yn yr atodlen i hynyma (“yr Atodlen”) yn 2006 ond wedi ei gyfyngu i’r rhan honno o gost y cyfryw eitemau a ddarparwyd gan Gorff y Cynrychiolwyr yn 2006;
(b) Yn ddarostyngedig i isadran (1)(a) ac is-adran 2(b), ni fydd Corff y Cynrychiolwyr bellach yn gyfrifol am ddarparu ar gyfer unrhyw ran o gost yr eitemau a restrir yn yr Atodlen;
(c) Yn ddarostyngedig i Gyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru ac i unrhyw delerau neu amodau a bennir dan isadran (5), bydd pob esgobaeth yn penderfynu drosti ei hun y gwariant i’w wneud ar yr eitemau a restrir yn yr Atodlen.
(2) (a) O 1 Ionawr 2009 newidir is-baragraff (g) y Cynllun i ddarllen fel a ganlyn:
“25% o’r ysgoloriaethau a’r grantiau i ymgeiswyr”.
(b) O 1 Ionawr 2009 bydd Corff y Cynrychiolwyr yn gyfrifol am 75% o’r ysgoloriaethau a’r grantiau i ymgeiswyr.
(3) Cyn 31 Rhagfyr 2008 a phob blwyddyn wedi hynny bydd Corff y Cynrychiolwyr yn adolygu’r Grant ac yn penderfynu a ddylid ei addasu ac i ba raddau y dylid ei addasu, dan yr amod bod y Grant i barhau heb fod yn llai na’r lefel a nodir yn isadran (1)(a) hyd 31 Rhagfyr 2008.
(4) (a) Dosrennir y Grant rhwng yr esgobaethau bob blwyddyn drwy gyfeirio at gyfran pob esgobaeth o gyfanswm gwariant Corff y Cynrychiolwyr yn 2002 ar yr eitemau a nodir yn yr Atodlen (“y Fformiwla”).
(b) Cyn 31 Rhagfyr 2008 bydd Corff y Cynrychiolwyr yn adolygu’r Fformiwla a phenderfynu a ddylid ei newid. Ni ddaw unrhyw newid o’r fath i rym cyn 1 Ionawr 2009.
(5) Gall Corff y Cynrychiolwyr, wedi ymgynghori â phob esgobaeth, roi telerau ac amodau i bob esgobaeth ynglyn â dal a defnyddio’r swm a delir i bob esgobaeth.
(6) Ar ddiwedd pob chwarter, bydd i bob esgobaeth ad-dalu i Gorff y Cynrychiolwyr unrhyw daliadau a wnaed gan Gorff y Cynrychiolwyr ar ran yr esgobaeth a chyda’i chytundeb gyda golwg ar unrhyw un o’r eitemau a restrir yn yr Atodlen.
YR ATODLEN
Yr eitemau y cyfeirir atynt yn rhan 1 y cynllun hwn yw:
Budd-daliadau Clerigion
(a) Cyflogau Archddiaconiaid, tŷ a chostau (lle nad oes gofal plwyf)
(b) Cyflogau Deon, Canon Trigiannol ac Is-Ganoniaid pob Eglwys Gadeiriol
(c) Cyfraniadau at Gronfeydd Caledi Esgobion
(d) Cyfraniadau at Gronfeydd Gweddwon, Amddifaid a Dibynyddion
(e) Caplaniaid a delir ar hyn o bryd o Gronfa Cynnal y Weinidogaeth
Hyfforddi Clerigion
(f) Ysgoloriaethau a Grantiau i Ymgeiswyr am Urddau
(g) Grantiau i Gyrff Addysgol (yn bennaf Coleg Mihangel Sant)
Eiddo
(h) Treuliau cynnal persondai
(i) Treuliau yswirio tai clerigion
(j) Darpariaeth ar gyfer tai Ciwradiaid
Grantiau
(k) Grantiau Corff y Cynrychiolwyr i Eglwysi Cadeiriol
(l) Treuliau Cofrestryddion Esgobaethol ac Archddiaconiaid
Corff Llywodraethol
(m) Treuliau Cyfarfod y Corff Llywodraethol
2.
CYNLLUN CYNNAL Y WEINIDOGAETH
RHEOLIADAU A WNAED GAN
GORFF Y CYNRYCHIOLWYR
Rhan I
DARPARIAETHAU CYFFREDINOL
1.
(1) Y mae’r cynllun hwn i’w adnabod fel Cynllun Cynnal y Weinidogaeth, a chymerir bod pob cyfeiriad at Gynllun Cynnal y Weinidogaeth neu at Gynllun Ail-lunio yng Nghyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru yn cyfeirio at y Cynllun hwn.
(2) O 1 Ionawr 2007 mae’r cynllun hwn i’w ddarllen yn ddarostyngedig i’r Cynllun yn dwyn y teitl “Cynllun Cynnal y Weinidogaeth yn yr Eglwys yng Nghymru 2007” (“Cynllun 2007”) ac yn achos unrhyw wrthdaro rhwng Cynllun 2007 a’r Cynllun hwn darpariaethau Cynllun 2007 fydd mewn grym.
2.
Bydd i faint pob swm, grant, taliad, cyfraniad, cyflog neu fuddged y cyfeirir atynt yn y Cynllun hwn o bryd i’w gilydd gael ei benderfynu gan Gynllun Cynnal Gorff y Cynrychiolwyr neu’r pwyllgor priodol ohono a’i argraffu yn yr Atodlen i hynyma, Atodlen na raid ei hargraffu fel rhan o’r Cynllun hwn ond y bydd i Gorff y Cynrychiolwyr argraffu ei chynnwys o leiaf yn flynyddol a’i ddosbarthu i’w aelodau ac i bob clerig a diacones sy’n gwasanaethu yn yr Eglwys yng Nghymru.
Rhan II
CRONFEYDD CYNNAL Y WEINIDOGAETH
3.
Bydd Corff y Cynrychiolwyr yn darparu swm o arian ar gyfer yr holl esgobaethau (a elwir yma rhagllaw “Cronfa Cynnal y Weinidogaeth”) tuag at gost cynnal y weinidogaeth. Bydd y swm hwn yn cael ei ddosbarthu’n chwarterol i’r esgobaethau yn unol â nifer y clerigion sydd mewn swydd ar ddechrau pob chwarter, y nifer i gael ei gynyddu gan bumed ran y gwahaniaeth, os oes gwahaniaeth, rhwng y nifer dywededig a’r nifer o glerigion a ddyfarnwyd gan Fainc yr Esgobion yn angenrheidiol ar gyfer pob esgobaeth, pryd bynnag y bydd y nifer olaf yn fwy na’r nifer cyntaf.
4.
Yn ychwanegol at y Gronfa Cynnal y Weinidogaeth, bydd Corff y Cynrychiolwyr yn dyfarnu i’r esgobaethau elw sy’n deillio o gymynroddion yn unol â’r Atodlen i hynyma.
5.
(1) Rhaid i Fwrdd Cyllid pob Esgobaeth gyflwyno’i argymhellion ar gyfer y cyflogau penodedig a’r cyfraniadau o leiaf dri mis cyn y bwriedir i’r cyfryw argymhellion ddod i rym, ac eithrio wrth benodi o’r newydd.
(2) Ar ddechrau mis olaf pob chwarter bydd Corff y Cynrychiolwyr yn hysbysu Bwrdd Cyllid pob Esgobaeth am amcangyfrif faint yn fwy fydd y draul er cynnal y weinidogaeth na’r swm chwarterol a ddarparwyd dan adran 3 o hynyma, a rhaid i’r Bwrdd Cyllid dalu’r swm priodol i Gorff y Cynrychiolwyr cyn diwedd y chwarter hwnnw.
6.
(1) Ar argymhelliad Bwrdd Cyllid Esgobaeth, bydd y taliadau canlynol yn draul briodol ar y Gronfa Cynnal y Weinidogaeth yn yr esgobaeth honno:
(a) cyflogau a chyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwr Periglorion a Chiwradiaid Cynorthwyol;
(b) cyfraniadau tŷ i Beriglorion;
(c) grantiau dros dro er galluogi’r Esgob i ddarparu mewn amgylchiadau arbennig gymorth ychwanegol yn y fywoliaeth (e.e. lle nad yw’r berigloriaeth yn wag, ond bod y Periglor yn methu gweinyddu);
(d) taliadau ar gyfer unrhyw amcan arall a fyddai’n llesol i Beriglor neu Beriglor wedi ymddeol;
(e) grant i wraig weddw, i ŵr gweddw neu rywun arall oedd yn dibynnu ar Beriglor neu Giwrad Cynorthwyol yn union wedi ei farw neu ei marw;
(f) grant i Fwrdd Cyllid Esgobaeth at dalu am ddyletswyddau mewn gofalaethau gweigion;
(g) treuliau mudo tŷ:
(i) Periglor yn symud i berigloriaeth yn yr esgobaeth, yn symud ar gais yr esgobaeth o fewn perigloriaeth neu’n symud o berigloriaeth wrth ymddeol;
(ii) gwraig weddw, gŵr gweddw neu rywun arall a oedd yn ddibynnol ar unrhyw Beriglor a fu farw y byddai ganddo hawl i grant dan (i) uchod;
(iii) Ciwrad Cynorthwyol ar ei benodiad cyntaf, wrth symud i giwradiaeth arall, neu ar gael ei benodi i fywoliaeth yn yr esgobaeth;
(h) taliadau ar gyfer gwasanaethu mewn perigloriaethau gwag, sef:
(i) tâl, os bydd tâl, am gymryd gwasanaeth pan fo gofalaeth yn wag gan glerig neu ddiacones yn y weinidogaeth daledig amser-llawn yn yr Eglwys yng Nghymru neu’n ymgymryd â gwasanaeth a gyfrifir yn “wasanaeth pensiynol” at amcanion pennod XII[1] Cyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru, neu glerig sy’n derbyn pensiwn yn rhinwedd gwasanaeth ei urddau sanctaidd, neu gan glerig yn y weinidogaeth ddi-dâl sydd dros ddeg a thrigain oed;
(ii) pan gymerir gwasanaeth gan ddarllenydd trwyddedig gwneir taliad i Gronfa Cymdeithas Darllenwyr yr Esgobaeth am bob cyfryw wasanaeth;
(iii) lwfans teithio i unrhywun fydd yn cymryd gwasanaethau mewn gofalaeth wag;
(i) lwfans costau teithio i’w dalu i glerigion neu ddiaconesau a fydd, ar gais Esgob yr Esgobaeth yn bugeilio mewn plwyfi gwag cyfagos;
(j) cydnabyddiaeth a threuliau Archddiaconiaid, Canoniaid, Deoniaid Bro a Swyddogion Esgobaethol;
(k) ad-daliad a threuliau dim mwy na thri weinidog lleyg awdurdodedig ym mhob esgobaeth, a fydd yn cael eu cyfrif yn nifer y clerigion mewn swydd yn yr esgobaeth i ddibenion y dosbarthiad chwarterol a wneir dan adran 3 o hynyma;
(l) ychwanaegu at grant i Gabidwl y Gadeirlan dan adran 20;
(m) treuliau gwarcheidwaid persondy mewn bywoliaeth wag, y darperir ar eu cyfer ym mhennod X[2] y Cyfansoddiad neu’r rheoliadau atodiadol iddi;
(n) cyfraniadau i Gronfa Bwrdd Persondai.
(2) Ac eithrio lle darperir yn wahanol, i ddibenion yr adran hon bydd yr ymadrodd:
(a) PERIGLOR yn cynnwys clerig sy’n gofalu am berigloriaeth ataliedig neu ardal gonfensiynol a Ficer mewn bywoliaeth reithorol;
(b) CIWRAD CYNORTHWYOL yn cynnwys clerig a benodwyd gan yr Esgob drwy drwydded dan sêl i swydd amhlwyfol amser-llawn, a Diacones;
(c) RHYWUN DIBYNNOL yn golygu perthynas i’r clerig a fu farw a oedd, adeg ei farw neu ei marw, yn preswylio gydag ef neu gyda hi ac yn dibynnu arno neu arni am gynhaliaeth ariannol;
(d) SWYDDOG ESGOBAETHOL yn golygu clerig sydd, ar gais neu gyda chydsyniad yr Esgob, yn cyflawni dyletswyddau arbenigol pa un ai’n ychwanegol at ddyletswyddau plwyfol ai peidio;
(e) GWEINIDOG LLEYG AWDURDODEDIG yn golygu lleygwr a drwyddedwyd gan Esgob yr esgobaeth i gymryd rhan mewn gwaith cenhadu a gweinidogaethu yn yr esgobaeth neu mewn plwyf neu blwyfi o’i mewn.
(3) Ac eithrio gwir ad-daliad treuliau ac unrhyw dâl am gymryd gwasanaeth pan fo perigloriaeth yn wag, ni chymhwysir darpariaethau’r adran hon at glerigion sydd yng ngweinidogaeth ddi-dâl yr Eglwys yng Nghymru.
Rhan III
CLERIGION PLWYF LLEIAFSWM CYFLOG
7.
(1) Ni chaiff Bwrdd Cyllid Esgobaeth, heb gymeradwyaeth bendant Corff y Cynrychiolwyr, argymell cyflog sy’n llai na’r lleiafswm a ddarperir yn yr Atodlen ar gyfer:
(a) Periglor ar fywoliaeth reithorol;
(b) Unrhyw Beriglor arall;
(c) Ficer mewn bywoliaeth reithorol;
(d) Clerig mewn gofal ar berigloriaeth ataliedig neu ardal gonfensiynol;
(e) Clerig a benodir i swydd amhlwyfol gan Esgob drwy drwydded dan sêl.
(2) Dan yr amod mewn unrhyw achos pan fo Periglor neu Ficer mewn bywoliaeth reithorol yn dal swydd neu benodiad heb fod yng ngweinidogaeth yr Eglwys yng Nghymru, ac yn derbyn cyflog neu dâl ar wahân am hynny, gall Esgob yr esgobaeth argymell i Gorff y Cynrychiolwyr (yn gweithredu drwy’r Is-bwyllgor Cynnal y Weinidogaeth) mai swm na fydd, gyda’r taliad neu’r gyflog ar wahân a dderbynnir gan y cyfryw Beriglor neu Ficer, yn llai na’r lleiafswm priodol a enwir yn unol â darpariaethau is-adran (1) o hynyma fydd y gyflog a delir.
(3) Ni chaiff Bwrdd Cyllid Esgobaeth, heb gymeradwyaeth bendant Corff y Cynrychiolwyr, argymell lwfans sy’n llai na’r lleiafswm a ddarperir yn yr Atodlen, ar gyfer Deon Bro.
(4) Ni chymhwysir darpariaethau’r adran hon ar gyfer unrhyw glerig di-dâl.
8.
(1) Gall Bwrdd Cyllid Esgobaeth argymell grant i’w dalu i blwyf ar gyfer pob Ciwrad Cynorthwyol neu Ddiacones amser-llawn a gyflogir yn y plwyf hwnnw, ar yr amod fod y Ciwrad Cynorthwyol neu Ddiacones yn derbyn cyflog heb fod yn llai na’r hyn a osodir i lawr yn unol â darpariaethau adran 9(1) o hynyma. Ni chaiff maint grant mewn unrhyw achos fod yn fwy na’r gyflog a delir gan y plwyf.
(2) Parheir i dalu yn unol â’r gwaddol bob grant arbennig yn lle gwaddol ciwradiaeth a oedd yn bod cyn 31 Mawrth 1920 a’r incwm oddi wrth bob gwaddol a roddwyd wedi’r dyddiad hwnnw.
9.
(1) Bydd lleiafswm cyflog flynyddol Ciwrad Cynorthwyol, Caplan Cadeirlan neu Ddiacones fel y darperir yn yr Atodlen.
(2) Mewn amgylchiadau arbennig, gall Bwrdd Cyllid Esgobaeth argymell grant ar gyfer Ciwrad Cynorthwyol neu Ddiacones sydd, gyda chaniatâd yr Esgob, yn derbyn cyflog lai na’r lleiafswm penodedig.
(3) Cymhwysir y darpariaethau hyn ar gyfer unrhyw Giwrad Cynorthwyol neu Ddiacones a enwebwyd gan Beriglor, gyda chaniatâd yr Esgob, i weithredu’n Giwrad Cynorthwyol neu’n Ddiacones mewn plwyf ac sy’n cyflawni dyletswyddau amser-llawn cyflogedig.
Rhan IV
URDDASOLION A CHLERIGION ESGOBAETH
10.
Bydd Corff y Cynrychiolwyr yn darparu ac yn talu’r cyflogau a’r treuliau sy’n dilyn ar gyfer urddasolion a chlerigion esgobaeth.
11.
YR ESGOB CADEIRIOL
(1) Bydd Corff y Cynrychiolwyr yn darparu ar gyfer pob Esgob Cadeiriol gyflog bersonol a chyfraniadau tuag at gostau cynnal ei gapel a chadwraeth ei wisgoedd.
(2) Gall pob Esgob Cadeiriol hawlio’r cyfraniadau ychwanegol hyn:
(a) ad-daliad cost teithio dyletswydd ar drafnidiaeth gyhoeddus a chyfraniad teithio am deithio dyletswydd mewn car;
(b) ad-daliad treuliau rhesymol bwyd a llety ar deithio dyletswydd;
(c) dan amod ymgynghori ag Is-bwyllgor Preswylfeydd a Threuliau’r Esgobion[3], ad-daliad cost cyflog, treuliau cynhaliaeth ac Yswiriant Gwladol ar gyfer gyrrwr car;
(d) ad-daliad treuliau rhesymol swyddfa;
(e) o fewn terfynau graddfa Corff y Cynrychiolwyr ar gyfer cyflogau staff ysgrifenyddol yn 39 Heol yr Eglwys Gadeiriol, Caerdydd, ad-daliad cost cyflog ac Yswiriant Gwladol a threuliau eraill rhesymol ar gyfer ei ysgrifennydd;
(f) ad-daliad treuliau rhesymol ar groeso a llety;
(g) ad-daliad y treuliau ynglŷn ag ordeiniadau; ac
(h) ad-daliad o 75% cost cynhesu a goleuo’i breswylfa.
(3) Bydd yr Archesgob yn derbyn, heblaw cyflog a chyfraniadau ei swydd yn Esgob Cadeiriol, gyfraniad ychwanegol.
12.
ESGOBION CYNORTHWYOL
Bydd Corff y Cynrychiolwyr yn darparu cyflog ar gyfer Esgob Cynorthwyol sydd wedi ei benodi i wasanaethu yn esgobaeth yr Archesgob, y gyflog i gael ei lleihau yn ôl cyfanswm unrhyw gyflog arall daladwy i’r Esgob Cynorthwyol gan Gorff y Cynrychiolwyr.
13.
Y DEON
Bydd Corff y Cynrychiolwyr yn darparu cyflog ar gyfer Deon.
14.
CANONIAID TRIGIANNOL
(1) Bydd Corff y Cynrychiolwyr yn darparu cyflog ar gyfer pob Canon Trigiannol amser-llawn a benodwyd yn unol â rhan 3 o’r Atodlen i Gynllun Cadeirlan.
(2) Penderfynir swm y cyfryw gyflog, na fydd yn fwy na’r hyn a nodir yn yr Atodlen, o bryd i’w gilydd rhwng Esgob yr esgobaeth a Chadeirydd yr Is-bwyllgor Cynnal y Weinidogaeth.
15.
CAPLANIAID CADEIRLAN
Bydd Corff y Cynrychiolwyr yn darparu cyflogau ar gyfer dau Gaplan ym mhob un o’r cadeirlannau a ganlyn, sef:
Llanelwy; Bangor; Tyddewi; Llandâf; Eglwys Wynllyw, Casnewydd; ac Aberhonddu.
16.
ARCHDDIACONIAID
(1) Bydd Corff y Cynrychiolwyr yn darparu cyflog i bob Archddiacon, dan yr amod:
(a) y bydd y cyflog yn cael ei leihau yn ôl cyfanswm unrhyw gyflog arall daladwy i Archddiacon gan Gorff y Cynrychiolwyr; a
(b) na thelir cyflog na leihawyd yn unol â darpariaethau paragraff (a) o hynyma i fwy nag un Archddiacon ym mhob esgobaeth.
(2) Darperir preswylfod ar gyfer Archddiacon.
(3) Gall Archddiacon hawlio’r cyfraniadau pellach a ganlyn ynglŷn â’i ddyletswyddau fel Archddiacon:
(a) ad-daliad teithio dyletswydd ar drafnidiaeth gyhoeddus a chyfraniad teithio am deithio dyletswydd mewn car;
(b) ad-daliad treuliau rhesymol.
17.
TREULIAU MUDO URDDASOLION
(1) Bydd Corff y Cynrychiolwyr yn cyfrannu tuag at dreuliau rhesymol mudo tŷ ar gyfer urddasolion a’r rhai sy’n dibynnu arnynt, yn y modd a benderfyno’r Is-bwyllgor Cynnal y Weinidogaeth[4].
(2) I bwrpas yr adran hon bydd “urddasolion” yn golygu Esgobion, Esgobion Cynorthwyol, Deoniaid, Canoniaid Trigiannol amser-llawn, Archddiaconiaid a Chaplaniaid Cadeirlannau.
Rhan V
DARPARIAETHAU ARIANNOL ERAILL
18.
GRANT AR GYFER CYMDEITHAS GWEDDWON, AMDDIFAID A DIBYNYDDION
Bydd Corff y Cynrychiolwyr yn gwneud grant blynyddol i Gymdeithas Gweddwon, Amddifaid a Dibynyddion yr Eglwys yng Nghymru.
19.
CABIDWL Y GADEIRLAN
(1) Bydd i Gorff y Cynrychiolwyr wneud grant i Gabidwl pob Cadeirlan i’w ddefnyddio at unrhyw bwrpas wrth weithredu ei Gynllun Cadeirlan, a gall wneud grant ychwanegol i gabidwl Cadeirlan o swm cyfartal i’r gyflog a ddarperir ar gyfer Caplan Cadeirlan dan adran 15 o hynyma.
(2) Rhaid i Gabidwl pob Cadeirlan gyflwyno i Gorff y Cynrychiolwyr bob blwyddyn gyfrifon wedi eu harchwilio, a’r rheini’n cynnwys pob arian a dderbyniwyd oddi wrth Gorff y Cynrychiolwyr ac incwm oddi wrth eiddo a gynhwysir yng Nghorff y Cynrychiolwyr ac a weinyddir gan y Deon a’r Cabidwl.
Rhan VI
BWRDD Y PERSONDAI
20.
Bydd y cyfraniadau i Gyfrif Bwrdd Persondai’r Esgobaeth ar gyfer pob persondy yn yr esgobaeth sy’n dod o fewn y Cynllun Persondai yn y flwyddyn sy’n dechrau 1 Ionawr yn ôl un o’r graddfeydd a ddewisir gan Fwrdd Persondai’r Esgobaeth, wedi ymgynghori â Bwrdd Cyllid yr Esgobaeth, o blith y rhai a ddarparwyd yn yr Atodlen.
Rhan VII
BUDDGEDAU CLERIGION
21.
Traethir y Cynllun ar gyfer Pensiynau a Buddgedau Clerigion yn yr Atodlen i hynyma.
Rhan VIII
MATERION AMRYWIOL
22.
(1) Bwrdd Cyllid Esgobaeth, ynghyd â’r Esgob, fydd yn gyfrifol am weinyddu unrhyw grant a wneir i’r Bwrdd at dalu am ddyletswyddau mewn gofalaethau gwag.
(2) Anfonir ffurflenni cais am daliad tuag at gost dyletswyddau mewn gofalaethau gweigion at Fwrdd Cyllid yr Esgobaeth.
(3) Rhaid i Fwrdd Cyllid pob Esgobaeth ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol gyflwyno i Gorff y Cynrychiolwyr gyfrif yn dangos sut y defnyddiwyd y grant.
23.
(1) Rhaid i’r Is-bwyllgor Cynnal y Weinidogaeth[5] gadw gweithrediad y Cynllun hwn dan arolygiaeth a rhoi adroddiad fel y bo angen, ac o leiaf unwaith ym mhob cyfnod o dair blynedd, i Gorff y Cynrychiolwyr.
(2) Bydd gan Is-bwyllgor Cynnal y Weinidogaeth[6] awdurdod i benderfynu unrhyw gwestiwn o ddehongliad y bo angen ei benderfynu at amcanion y Cynllun hwn.
24.
Bydd gan Gorff y Cynrychiolwyr awdurdod i wneud y cyfryw gyfnewidiadau ag a farno’n addas i’r Cynllun hwn, a rhoddir adroddiad am y gweithrediadau hynny gan Gorff y Cynrychiolwyr i’r Corff Llywodraethol.
25.
Er gwaethaf popeth a gynhwyswyd yn hynyma ni cheir talu unrhyw bensiwn sy’n fwy nag a ganiateir gan Ddeddf Cyllid 1970, neu unrhyw amrywiad ystatudol ohoni sydd mewn grym ar y pryd, a phenderfynir “cydnabyddiaeth derfynol” clerig i’r cyfryw ddiben yn unol â darpariaethau Rhan II yr Atodlen i hynyma.
YR ATODLEN
Rhan I
MAINT SYMIAU, DYFARNIADAU, GRANTIAU, TALIADAU, CYFRANIADAU, CYFLOGAU A BUDDGEDAU Y CYFEIRIR ATYNT YN Y CYNLLUN HWN
1.
Maint Cronfa Cynnal y Weinidogaeth a grybwyllir yn adran 3 (a.3) yn y cynllun fydd £0.
2.
Maint y dyfarniadau a nodwyd yn adran 4 fydd:
(a) £800 y flwyddyn i Esgobaeth Mynwy ar gyfer Cymynrodd Llangattock;
(b) £400 y flwyddyn i Esgobaeth Llandâf ar gyfer Cymynrodd Neale;
(c) £300 y flwyddyn i Esgobaeth Llanelwy at fywoliaeth Penarlâg ar gyfer Cymynrodd Gladstone; a
(d) £276 y flwyddyn i Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu dan Gymynroddion Syr John Llewellyn a Baker Haynes.
3.
Swm y cymorthdal a delir i Wraig Weddw, Gwr Gweddw neu Ddibynnydd arall a enwir yn a.6(1)(e) fydd £100.
4.
Maint y taliadau a grybwyllwyd yn adran 6(1)(h) am gymryd gwasanaethau mewn perigloriaethau gwag fydd (o 1 Ionawr 2024):
(a) clerig neu ddiacones yn y weinidogaeth gyflogedig amser-llawn neu mewn gwasanaeth pensiynol
£0
(b) clerig yn derbyn pensiwn yn rhinwedd gwasanaeth mewn Urddau Sanctaidd
£30.00
(c) clerig yn y weinidogaeth ddi-dâl dros ddeg a thrigain oed
£30.00
(d) Darllenydd trwyddedig
£307.00
5.
Maint y lwfans costau teithio a nodir yn yr adrannau dilynol fydd (o 6 Ebrill 2011)
(a)
clerig neu ddiacones
yn y weinidogaeth gyflogedig amser-llawn neu mewn gwasanaeth pensiynol, yn cymryd gwasanaeth mewn perigloriaeth wag a.6(1)(h) ac yn gofalau’n fugeiliol am y plwyf gwag s.6(1)(i)
(i) y 10,000 o filltiroedd cyntaf…………………………………………..
(ii) wedi hynny…………………………………………………………………
45c y filltir
25c y filltir
(b)
Esgob Cadeiriol(lle nad yw Corff y Cynrychiolwyr yn darparu car) a.11(2)(a)
(i) y 10,000 o filltiroedd cyntaf……………………………………………
(ii) wedi hynny………………………………………………………………….
45c y filltir
25c y filltir
(c)
Archddiacon a.16(3)(a)
(i) y 10,000 o filltiroedd cyntaf……………………………………………
45c y filltir
(ii) wedi hynny…………………………………………………………………
25c y filltir
Bydd maint y lwfans costau teithio a nodir yn (a) i (c) uchod yn ddarostyngedig i adolygiad y Cyllid a Thollau EM yn Ebrill bob blwyddyn. Anfonir manylion am y cyfryw adolygiad at bawb y mae’n berthnasol iddynt.
6.
(1) Maint isafswm cyflog y cyfeirir ato yn yr adrannau dilynol fydd (o 1 Ionawr 2024):
(a) Ciwrad Cynorthwyol, Caplan Cadeirlan neu Ddiacones a.9(1), a.15
£24,244
85% o gyflog periglor (yn fras)
(b) Periglor, Ficer mewn Bywoliaeth Reithorol, Clerig mewn gofal a Chlerig a benodir i swydd amhlwyfol a.7(1)(b)(c)(d)(e)
£28,522
100% o gyflog periglor (yn fras)
(c) Periglor Bywoliaeth Reithorol a.7(1)(a)
£29,948
105% o gyflog periglor (yn fras)
(2) Maint y cyflogau yn yr adrannau dilynol fydd:
(a) Canon Trigiannol a.14(2)
£32,800
115% o gyflog periglor (yn fras)
(b) Archddiacon a.16(1)
£43,639
153% o gyflog periglor (yn fras)
(c) Deon a.13
£44,209
155% o gyflog periglor (yn fras)
(d) Esgob Cynorthwyol a.12
£48,488
170% o gyflog periglor (yn fras)
(e)Esgob Cadeiriol a.11(1)
£52,766
185% o gyflog periglor (yn fras)
(f)Archesgob
£57,044
200% o gyflog periglor (yn fras)
7.
Maint y cyfraniadau a nodwyd yn yr adrannau dilynol fydd:
£
(a)
Esgob Cadeiriol – capel a gwisgoedd a.11(1)
50 y flwyddyn
(b)
Archesgob a.11(3)
700 y flwyddyn
(c)
Deon Bro a.7(3)
2,852 y flwyddyn
8.
Y graddfeydd y cyfeiriwyd atynt yn yr adrannau dilynol fydd (o 1 Ionawr 2024):
Cyfrif Bwrdd Persondai a.20:
Persondai heblaw tai a feddiennir gan Giwradiaid Cynorthwyol
Bwrdd Cyllid yr Esgobaeth £6,479
Corff y Cynrychiolwyr £0
Tai a feddiennir gan Giwradiaid Cynorthwyol
Bwrdd Cyllid yr Esgobaeth £6,479
Corff y Cynrychiolwyr £0
9.
Maint y symiau y cyfeiriwyd atynt yn yr adrannau dilynol fydd:
£
Buddged Gweddw neu ŵr gweddw Clerig:
a.19(4)(a) o Rhan II o’r Atodlen……………………………………………………….
2,500
YR ATODLEN
Rhan II
CYNLLUN PENSIYNAU CLERIGION
Darpariaethau Cyffredinol ar gyfer Pensiynau
1.
Bydd pensiynau dan y Cynllun hwn yn anghyfrannol, ac fe’u telir gan Gorff y Cynrychiolwyr.
2.
Ni ellir na throsglwyddo nac ildio unrhyw bensiwn a delir gan Gorff y Cynrychiolwyr dan y Cynllun hwn.
3.
Ac eithrio lle bo’r darpariaethau’n wahanol, peidiodd y Cynllun Pensiwn Clerigwyr blaenorol (a elwir yn y Cynllun hwn y Cynllun Blaenorol) â bod mewn grym ar 3l Rhagfyr 1977, a daeth y Cynllun presennol i rym ar 1 Ionawr 1978.
4.
Bydd i unrhyw fater yn ymwneud â’r Cynllun hwn na wnaed darpariaeth ar ei gyfer yn hynyma gael ei benderfynu gan Gorff y Cynrychiolwyr.
Gwasanaeth Pensiynol
5.
(1) Golyga gwasanaeth pensiynol y blynyddoedd o wasanaeth a roddwyd gan glerig neu ddiacones yng ngweinidogaeth gyflogedig amser-llawn yr Eglwys yng Nghymru, neu mewn lle arall fel y darperir yma rhag llaw, ond yn achos rhai’n ymddeol ar ôl 20 Medi 1983 bydd pob mis a gwblhawyd yn cyfrif fel deuddegfed ran o flwyddyn wrth gyfrif cyfanswm cyfnod y cyfryw wasanaeth pensiynol.
(2) Cyfrifir gwasanaeth cyflogedig amser-llawn yn yr Eglwys yng Nghymru, fel Ysgrifennydd Cyngor neu Bwyllgor Taleithiol, neu Swyddog Esgobaethol a benodwyd drwy drwydded dan sêl i gyflawni dyletswyddau amhlwyfol, yn wasanaeth pensiynol.
(3) Bydd i Gorff y Cynrychiolwyr farnu ym mhob achos a ganiateir i glerig neu ddiacones yng ngwasanaeth cyflogedig rhan-amser yr Eglwys yng Nghymru gronni budd-daliadau pensiwn cyfatebol i’r rhai a gronnir gan glerigion neu ddiaconesau mewn gwasanaeth cyflogedig amser llawn.
6.
Deugain mlynedd fydd y cyfnod mwyaf o wasanaeth pensiynol ar gyfer pensiwn, a dwy flynedd fydd y cyfnod lleiaf.
7.
Yn unrhyw un o’r achosion a ganlyn
(a) lle bo Esgob Cadeiriol gyda chaniatâd Mainc yr Esgobion, unrhyw glerig arall neu ddiacones gyda chaniatâd yr Esgob mewn ysgrifen, yn gadael Cymru i wasanaethu yn y maes cenhadol dramor neu i fod yn gaplan i eglwys Gymraeg yn Lloegr, neu
(b) lle bo clerig neu ddiacones yn gwasanaethu yn gaplan amser-llawn yng Nghymru i’r Genhadaeth i Fordeithwyr, neu
(c) lle bo clerig neu ddiacones yn gwasanaethu am gyfnod yn aelod amser-llawn o staff dysgu Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan, neu Goleg Sant Mihangel, Llandaf, neu warden amser-llawn neu aelod arall amser-llawn o staff hostel eglwys yng Nghymru a gydnabyddir yn gyfryw gan Fainc yr Esgobion,
bydd i’r cyfryw wasanaeth gael ei ystyried yn wasanaeth pensiynol o fewn y Cynllun hwn, oni bai fod y cyfryw wasanaeth ynddo’i hun yn cynnwys hawliau pensiwn , ac ar yr amod y gall Corff y Cynrychiolwyr benderfynu a yw unrhyw wasanaeth arbennig dramor yn y maes cenhadol.
8.
Yn achos clerig neu ddiacones y gohiriwyd ei ordeinio am gyfnod o ganlyniad i unrhyw effaith rhyfel neu o ganlyniad i gyflawni Gwasanaeth Cenedlaethol ar gyngor Esgob yr esgobaeth cyn cael ei ordeinio, ond a oedd wedi ei dderbyn i’w ordeinio, gall Corff y Cynrychiolwyr ddatgan y bydd i’r cyfan neu unrhyw ran o’r cyfryw gyfnod gael ei gyfrif fel gwasanaeth pensiynol i ddibenion y Cynllun hwn, eithr dan yr amod lle bo’r cyfryw glerig neu ddiacones wedi derbyn pensiwn neu fuddged gan y Goron, ar wahân i bensiwn anabledd neu fuddged rhyfel, ni fydd i’r cyfnod gwasanaeth y talwyd y cyfryw bensiwn neu fuddged ar ei gyfer gael ei gyfrif fel gwasanaeth pensiynol.
9.
Mewn unrhyw achosion yn unol â darpariaethau adrannau 17 neu 18 pennod VI lle gofynnwyd i glerig neu ddiacones ymddeol, pennir swm y pensiwn ar sail blynyddoedd y gwasanaeth pensiynol yn yr un modd ag yn achos clerig neu ddiacones a ymddeolodd dan ddarpariaethau’r Cynllun hwn.
10.
Gall Corff y Cynrychiolwyr benderfynu y bydd i wasanaeth a roddwyd gan glerig neu ddiacones, gwahanol i’r hyn y cyfeirir ato’n ffurfiol yma, gael ei gyfrif yn wasanaeth pensiynol.
Graddfeydd Taliadau a Ffiniau Ariannu y Cyllid Gwladol
11.
(1) Graddfa’r pensiynau a delir i glerigion a diaconesau y cychwynnodd eu gwasanaeth pensiynol cyn 1 Ionawr 2006 fydd, am bob blwyddyn o wasanaeth pensiynol, un rhan o ddeugain o drigain y cant o leiafswm cyflog y swydd bensiynol uchaf a ddaliwyd ar unrhyw adeg yn ystod y pum mlynedd olaf o’r cyfryw wasanaeth pensiynol.
(2) Graddfa’r pensiynau a delir i glerigion a diaconesau sy’n cychwyn ar wasanaeth pensiynol neu’n dychwelyd iddo wedi 31 Rhagfyr 2005 fydd am bob blwyddyn o wasanaeth pensiynol wedi hynny un rhan o ddeugain o hanner cant y cant o leiafswm cyflog y swydd bensiynol uchaf a ddaliwyd ar unrhyw adeg yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf o’r cyfryw wasanaeth.
(3) I ddibenion isadran (1) o hynyma, bydd swyddi Archesgob, Esgob Cadeiriol, Esgob Cynorthwyol, Deon, Archddiacon a Pheriglor yn swyddi pensiynol.
(4) Bydd i glerig nad yw wedi dal un o’r swyddi pensiynol a nodwyd yn isadran (3) o hynyma a diacones dderbyn pensiwn fel pe bai ef neu hi wedi bod yn Beriglor dan yr amod y bydd i swyddi Canon Trigiannol a Rheithor mewn Bywoliaeth Reithorol gael eu hystyried yn swyddi pensiynol i ddibenion isadran (1) a (2) o hynyma yn achos clerigion yn dal y naill swydd neu’r llall ar 31 Rhagfyr 2001, neu, gan fod wedi dal y cyfryw swydd ar neu cyn y dyddiad hwnnw, a fydd yn ymddeol o weinidogaeth gyflogedig amser-llawn yr Eglwys yng Nghymru ar neu cyn 31 Rhagfyr 2006 ac wedi dal y swydd yn ystod y pum mlynedd cyn ymddeol.
(5) Nid ystyrir fod unrhyw hawliau pensiynol yn deillio o ganlyniad i unrhyw lwfans neu gyflog ychwanegol a delir i glerig yn rhinwedd gwasanaethu mewn swydd amhensiynol.
(6) (a) At ddibenion cyfrif y pensiwn a’r cyfandaliad pensiwn i’w talu yn unol â’r Cynllun hwn, ystyrir mai “cydnabyddiaeth derfynol” clerig neu ddiacones fydd y gyflog a dalwyd gan Gorff y Cynrychiolwyr i’r cyfryw glerig neu ddiacones am y flwyddyn yn union cyn ymddeol, ar yr amod os daliwyd swydd uwch ar unrhyw adeg yn ystod y pum mlynedd olaf o wasanaeth pensiynol gyda’r Eglwys yng Nghymru, yr ystyrir at amcanion y Cynllun hwn mai cyflog gyfredol y swydd uwch honno a dalwyd am y flwyddyn yn union cyn ymddeol; a
(b) Lle y gweithredwyd y Cynllun cyn 6 Ebrill 2006 o dan gyfyngu ar bensiynau gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi, cynhwysai’r “gydnabyddiaeth derfynol” at bwrpas penderfynu a oedd pensiwn o’r fath yn mynd dros y cyfyngu hwnnw y swm a ddarperir yn Atodlen Cynllun Cynnal y Weinidogaeth y cytunwyd arno fel gwerth y tŷ yr oedd ef neu hi yn ei feddiannu ar y pryd i’r cyfryw glerig neu ddiacones.
Talu
12.
(1) Ni thelir unrhyw bensiwn oni wneir cais amdano yn y ffurf a bennwyd gan Gorff y Cynrychiolwyr wedi ei arwyddo gan y ceisydd neu ar ei ran.
(2) Ac eithrio yn achos ceisydd dan ddarpariaethau paragraff 15(1) o hynyma neu lle mai’r Archesgob neu Esgob Cadeiriol yw’r ceisydd, bydd i’r cais gael ei adarwyddo gan yr Esgob Cadeiriol.
(3) Yn achos ceisydd dan ddarpariaethau paragraff 15(1) o hynyma bydd i’r cais gael ei anfon yn uniongyrchol at Ysgrifennydd Corff y Cynrychiolwyr.
13.
(1) Cynyddir graddfa’r pensiynau a delir am wasanaeth pensiynol a gwblhawyd cyn I Ionawr 2006 gan y ganran y cynyddir isafswm cyflogau clerigion bob blwyddyn.
(2) (a) Cynyddir graddfa’r pensiynau a delir am wasanaeth pensiynol a gwblhawyd wedi 31 Rhagfyr 2005 yn flynyddol yn ôl yr un ganran â chanran y cynnydd yn y Mynegai Prisiau Adwerthu a gyhoeddir gan Swyddfa’r Ystadegau Cenedlaethol neu ei holynwyr am y deuddeng mis blaenorol yn ddarostyngedig i uchafswm cynnydd o 5%.
(b) Os peidir â chyhoeddi’r cyfryw fynegai neu bod y dulliau a ddefnyddir i’w llunio yn ei gwneud yn amhosibl amcangyfrif y cyfryw ganran bydd i’r mynegai y cyfeirir ato wrth amcangyfrif y cyfryw gynnydd neu ddull amgen o amcangyfrif gael ei benderfynu gan y Corff Llywodraethol.
14.
Cyn ac ar unrhyw adeg tra parheir i dalu pensiwn i glerig neu ddiacones yn dioddef o anabledd parhaol o fewn adran 3 pennod XII y Cyfansoddiad, bydd gan Gorff y Cynrychiolwyr yr hawl i fynnu bod y cyfryw glerig neu ddiacones yn cael archwiliad meddygol gan feddyg a ddewiswyd gan Gorff y Cynrychiolwyr, ac os digwydd i’r cyfryw glerig neu ddiacones gael adferiad iechyd a derbyn swydd gyflogedig gall Corff y Cynrychiolwyr, os barna’n addas, ailystyried maint y cyfryw bensiwn.
Pensiynau a Glowyd neu a Drosglwyddwyd
15.
(1) Yn achos un nad yw mewn gwasanaeth pensiynol sydd wedi cyrraedd yr oedran ymddeol addas isaf dan Bennod VIII y Cyfansoddiad ar ôl 5 Ebrill 1975 ac sy’n gymwys i dderbyn pensiwn dan ddarpariaethau’r Cynllun hwn, y dull o gyfrif y cyfryw bensiwn fydd yr un a oedd mewn grym ar 1 Ionawr 1978 neu’r dyddiad pan beidiodd y cyfryw un â bod mewn gwasanaeth pensiynol, pa un bynnag a oedd ddiweddaraf. Eithr ar neu wedi 20 Medi 1983 adolygir swm y cyfryw bensiwn yn flynyddol a’i gynyddu gan ganran y cynnydd yn y Mynegai Prisiau Adwerthu am y deuddeng mis blaenorol, hyd at, ond heb fod yn fwy na phump y cant y flwyddyn. Wrth ymddeol adolygir swm y cyfryw bensiwn drachefn a’i gynyddu gan ganran y cynnydd yn y Mynegai Prisiau Adwerthu am y cyfnod ers yr adolygu blaenorol, hyd at ond heb fod yn fwy na’r ddeuddegfed ran o bump y cant am bob mis o’r cyfryw gyfnod a gwblhawyd.
(2) Pan fo rhywun yn ymddeol mewn amgylchiadau lle nad oedd mewn gwasanaeth pensiynol yn yr Eglwys yng Nghymru yn union cyn y cyfryw ymddeol, bydd ganddo/i hawl i bensiwn dan ddarpariaethau paragraff (1) o hynyma yn unol â blynyddoedd unrhyw wasanaeth pensiynol yr oedd unrhyw ran ohono’n cronni ar 5 Ebrill 1975 neu wedi hynny.
Taliadau Ex Gratia ac yn ôl Doethineb
16.
Bydd gan Gorff y Cynrychiolwyr y gallu i wneud dyfarniad ex-gratia os bydd Esgob yr esgobaeth yn cymeradwyo hynny ac ar y cyfryw amodau ag y barno Corff y Cynrychiolwyr yn gymwys, er budd clerig neu ddiacones sydd â llai na dwy flynedd o wasanaeth pensiynol wrth gefn; gellir ailystyried y cyfryw ddyfarniad ar unrhyw adeg.
17.
Pan fo cyfanswm incwm unrhyw un a fo’n derbyn pensiwn dan y Cynllun hwn yn llai nag uchafswm pensiwn Periglor, gall Corff y Cynrychiolwyr, os barna hynny’n addas, gynyddu’r cyfryw bensiwn trwy roi grant yn ôl ei ddoethineb.
Darpariaethau at Ymddeol Cynnar Gwirfoddol
18.
(1) Yn ddiymrwymiad i adran 2(2) Pennod VIII y Cyfansoddiad, gall clerig ymddeol o’r weinidogaeth gyflogedig ar yr amod iddo/i gyrraedd 55 mlwydd oed neu y bydd yn cyrraedd 55 mlwydd oed ar y dyddiad y bwriedir ymddeol.
(2) (a) Rhaid i glerig sy’n dymuno gwneud cais am gael ymddeol yn gynnar roi tri mis o rybudd i Esgob yr esgobaeth ac ni ellir lleihau’r cyfnod hwnnw ond trwy ganiatâd Esgob yr esgobaeth.
(b) Bydd rhyddhau’r pensiwn a’r cyfandaliad pensiwn yn gynnar yn ddarostyngedig i leihad actiwaraidd i gymryd cyfrif o’r ffaith bod y taliadau pensiwn yn cychwyn yn gynnar a’i bod yn bosibl y bydd cyfnod y taliad yn hwy.
(3) Lleiheir pensiwn a ganiateir mewn amgylchiadau o’r fath am yr holl gyfnod y mae’r pensiwn yn daladwy ac felly hefyd y pensiwn arfaethedig i’r priod neu bartner sifil sy’n goroesi, ac yn ystod y cyfnod hwnnw fe gynyddir y pensiwn ar yr un ganran bob mis Ionawr â phensiynau a delir ar oedran pensiwn arferol neu wedi hynny.
19.
(1) Telir cyfandaliad pensiwn i bob clerig neu ddiacones sy’n ymddeol (a elwir ar ôl hyn “y buddiolydd”) sydd â hawl i bensiwn a delir gan Gorff y Cynrychiolwyr.
(2) Gellir cynyddu’r cyfandaliad pensiwn ar gais y clerig neu’r ddiacones sy’n ymddeol a lleihau’r pensiwn blynyddol.
(3) Bydd Corff y Cynrychiolwyr yn penderfynu o bryd i’w gilydd swm y cyfandaliad pensiwn a’r pensiwn a leihawyd.
20.
(1) Lle’r oedd y buddiolydd mewn gwasanaeth amser-llawn yng ngweinidogaeth yr Eglwys yng Nghymru yn union cyn ymddeol, bydd uchafswm y cyfandaliad pensiwn yn unol â’r swydd y mae’n ei dal ar ddyddiad yr ymddeol ac fe’i cyfrifir yn ôl 1½ gwaith isafswm y cyflog a argymhellir ar gyfer y swydd honno ar 31 Rhagfyr cyn dyddiad ymddeol ynghyd â 1½ gwaith deuddegfed ran y codiad cyflog blynyddol am bob mis o wasanaeth a gwblhawyd ym mlwyddyn galendr ymddeol; dan yr amod os yw wedi dal swydd uwch ar unrhyw adeg yn ystod pum mlynedd olaf gwasanaeth pensiynol yn yr Eglwys yng Nghymru cymerir i amcan yr is-adran hon mai’r swydd uwch honno a ddelid ar ddyddiad yr ymddeol.
Telir uchafswm y cyfandaliad pensiwn pan fydd 40 mlynedd o wasanaeth pensiynol wedi eu cwblhau. Os bydd y buddiolydd wedi gwasanaethu am gyfnod byrrach bydd y cyfandaliad pensiwn taladwy y cyfartaledd perthnasol i rif y blynyddoedd a’r misoedd cyfan o wasanaeth pensiynol.
(2) Lle nad oedd y buddiolydd mewn gwasanaeth amser-llawn yng ngweinidogaeth yr Eglwys yng Nghymru yn union cyn bod yn gymwys i dderbyn pensiwn taladwy gan Gorff y Cynrychiolwyr ar ôl cyrraedd yr oedran lleiaf i ymddeol yn unol â Phennod VIII y Cyfansoddiad, cyfrifir y cyfandaliad pensiwn a delir i’r buddiolydd ar y raddfa a oedd mewn grym ar 1 Ionawr 1978 neu’r dyddiad y peidiodd y buddiolydd â bod mewn gwasanaeth pensiynol amser-llawn yng ngweinidogaeth yr Eglwys yng Nghymru, pa un bynnag a fo ddiweddaraf. Eithr, ar neu wedi 20 Medi 1983, adolygir swm y cyfryw gyfandaliad pensiwn yn flynyddol, a’i gynyddu yr un faint â’r cynnydd yn y Mynegai Prisiau Adwerthu yn ystod y deuddeng mis blaenorol, hyd at, ond heb fod yn fwy na phump y cant y flwyddyn. Ar ymddeoliad, adolygir cyfanswm y cyfryw gyfandaliad pensiwn drachefn a’i gynyddu gan faint y cynnydd yn y Mynegai Prisiau Adwerthu yn ystod y cyfnod ers yr adolygu blaenorol, hyd at, ond heb fod yn fwy na deuddegfed ran o bump y cant am bob mis o’r cyfryw gyfnod a gwblhawyd.
(3) Os bydd clerig neu ddiacones yn ymddeol cyn cyrraedd yr oedran lleiaf i ymddeol oherwydd methiant parhaol ac yn cael pensiwn a delir gan Gorff y Cynrychiolwyr, bydd gan y cyfryw glerig hawl i dderbyn cyfandaliad pensiwn.
(4) Os digwydd i glerig neu ddiacones farw cyn ymddeol, a’i fod ef neu hi mewn gwasanaeth pensiynol ac wedi cyrraedd deng mlwydd a thrigain oed adeg ei f/marw, a chanddo/i hawl i gyfandaliad pensiwn dan ddarpariaethau’r Cynllun hwn ar ei h/ymddeoliad, ac nad oes hawl gan y wraig neu’r gŵr gweddw neu’r partner sifil i daliad Marw mewn Swydd yr Eglwys yng Nghymru, telir i’r wraig neu’r gŵr gweddw neu’r partner sifil sy’n goroesi y mwyaf o’r ddau swm canlynol:
(a) y swm a ddarperir yn Atodlen Cynllun Cynnal y Weinidogaeth; neu
(b) y cyfandaliad pensiwn tybiedig y byddai gan y clerig neu’r ddiacones hawl iddo dan ddarpariaethau’r Cynllun hwn os oedd wedi ymddeol yn union cyn ei f/marw.
Os na ddigwydd i’r clerig neu ddiacones adael y cyfryw weddw neu ŵr gweddw neu bartner sifil gellir talu i’r rhai sy’n dibynnu arno/i neu i berthnasau y cyfryw swm, ond heb fod yn fwy na’r symiau a osodwyd yn (a) a (b) uchod, fel y pennir gan Esgob yr esgobaeth.
21.
At amcanion paragraff 20 o hynyma, bydd yr ymadrodd “gwasanaeth amser-llawn yng ngweinidogaeth yr Eglwys yng Nghymru” yn cynnwys gwasanaeth a gyfrifir yn “wasanaeth pensiynol” at amcanion paragraffau 5 i 10 o hynyma, a bydd gan Gorff y Cynrychiolwyr awdurdod llawn i benderfynu a yw gwasanaeth a roddwyd gan glerig neu ddiacones yn “wasanaeth amser-llawn yng ngweinidogaeth yr Eglwys yng Nghymru”.
Pensiynau ar gyfer Priod neu Bartner Sifil sy’n goroesi
22.
Bydd gan briod neu bartner sifil sy’n goroesi y bu ei ph/briod neu ei ph/bartner sifil farw ar neu wedi 23 Medi 1994, hawl gyfreithiol i bensiwn,
(a) os oedd yr ymadawedig, yn union cyn ei f/marw, yn glerig neu ddiacones a oedd
(i) naill ai yn derbyn pensiwn (gan gynnwys pensiwn ex-gratia) neu grant yn rhinwedd gwasanaeth yng ngweinidogaeth yr Eglwys yng Nghymru, taladwy gan Gorff y Cynrychiolwyr, neu
(ii) mewn gwasanaeth pensiynol a bod ganddo ef/hi o leiaf ddwy flynedd o wasanaeth pensiynol wrth gefn,
a
(b) bod y priod neu’r partner sifil sy’n goroesi yn briod neu mewn partneriaeth sifil â’r ymadawedig, pe bai wedi ymddeol, adeg ei ymddeoliad.
23.
(1) Graddfa y cyfryw bensiwn fydd trigain y cant o’r pensiwn yr oedd y clerig neu’r ddiacones ymadawedig yn ei dderbyn pan fu farw neu y byddai ganddo/ i hawl i’w dderbyn dan ddarpariaethau’r Cynllun hwn pe bai’r ymadawedig wedi ymddeol yn union cyn marw.
(2) I ddiben y paragraff hwn, ac eithrio lle cyfrifir pensiwn priod neu bartner sifil sy’n goroesi ar sail hawl y priod neu’r partner sifil ymadawedig o dan baragraff 15 (1) o hynyma, ystyrir bod unrhyw gynnydd yng ngraddfa pensiynau clerigol i’w gymhwyso at bensiwn y priod neu’r partner sifil sy’n goroesi.
24.
Bydd gan Gorff y Cynrychiolwyr, mewn achosion eithriadol, hawl i ddyfarnu pensiwn ex-gratia i briod neu bartner sifil sy’n goroesi yr oedd ei ph/briod neu ei ph/bartner sifil ymadawedig yn gymwys yn ôl gofynion naill ai paragraff (a), (b) neu (c) paragraff 28 o hynyma, er gwaethaf nad oedd wedi bod yn briod neu mewn partneriaeth sifil â’r ymadawedig am o leiaf bum mlynedd.
25.
Lle bo cyfanswm incwm unrhyw briod neu bartner sifil sy’n goroesi a fo’n derbyn pensiwn dan y Cynllun hwn yn llai na thrigain y cant o uchafswm pensiwn Periglor, gall Corff y Cynrychiolwyr, os barna hynny’n addas, gynyddu’r cyfryw bensiwn trwy roi grant yn ôl ei ddoethineb.
Darpariaethau Trosiannol
26.
Bydd i bob clerig a diacones a ymddeolodd yn y blynyddoedd 1978 hyd 1984 (yn gynhwysol) dderbyn yn ychwanegol at eu pensiynau yr ychwanegiadau a ganlyn am bob blwyddyn o wasanaeth pensiynol llai na 40 mlynedd (hyd at fwyafswm o 20 mlynedd).
Blwyddyn ymddeol Maint yr ychwanegiad
£
1978 21
1979 18
1980 15
1981 12
1982 9
1983 6
1984 3
27.
Er gwaethaf darpariaethau adran 11 o hynyma telir pensiwn i glerigion a wasanaethodd fel Deoniaid Bro ar unrhyw adeg rhwng 1 Ionawr 1992 a 31 Rhagfyr 1996 neu a fydd yn ymddeol o fewn pum mlynedd o ddal y swydd yn ystod y cyfnod hwnnw ar raddfa un rhan o ddeugain o drigain y cant o gyflog Deon Bro, a bydd yn cynnwys unrhyw lwfans neu gyflog ychwanegol a dalwyd i’r clerig yn rhinwedd gwasanaethu yn y cyfryw swydd.
28.
Bydd gan briod sy’n goroesi yr oedd ei ph/briod ymadawedig yn glerig neu’n ddiacones yn union cyn marw, ac a oedd :
(a) naill ai’n derbyn pensiwn (gan gynnwys pensiwn ex gratia) neu grant yn rhinwedd gwasanaeth yng ngweinidogaeth yr Eglwys yng Nghymru, taladwy gan Gorff y Cynrychiolwyr, neu,
(b) a fuasai’n derbyn pensiwn pe bai’r Cynllun Pensiynau blaenorol mewn grym ddyddiad ei f/marwolaeth , neu
(c) mewn gwasanaeth pensiynol gydag o leiaf ddwy flynedd o wasanaeth pensiynol wrth gefn,
hawl i bensiwn os:
(i) yn achos clerig neu ddiacones a fu farw cyn 1 Ebrill 1966, fod ganddo/i o leiaf ddeng mlynedd o wasanaeth pensiynol wrth gefn ac iddo/i fod yn briod ag ef/ hi am o leiaf bum mlynedd ac yn cyd-fyw ag ef/ hi pan fu farw;
(ii) yn achos clerig neu ddiacones a fu farw ar neu wedi 1 Ebrill 1966 a chyn 1 Ionawr 1978, fod ganddo/i o leiaf bum mlynedd o wasanaeth pensiynol wrth gefn ac iddo/i fod yn briod ag ef/ hi am o leiaf bum mlynedd ac yn cyd-fyw ag ef/ hi adeg ei f/marwolaeth ;
(iii) yn achos clerig neu ddiacones a fu farw ar neu wedi 1 Ionawr 1978 a chyn 23 Medi 1994, fod ganddo/i o leiaf bum mlynedd o wasanaeth pensiynol wrth gefn a’i fod ef/hi wedi bod yn briod â’r ymadawedig am o leiaf bum mlynedd ac yn cyd-fyw ag ef/ hi adeg ei f/marwolaeth.
3.
Y Cadeirlannau
Mae’n rhaid i bob Cadeirlan barhau i fod yn Gadeirlan yn yr Eglwys yng Nghymru bob amser. Yn amodol ar ddarpariaethau’r atodlen isod, cyfrifoldeb corff ymddiriedolwyr y Gadeirlan yw penderfynu ar ei chynllun ei hun, neu greu ei chyfansoddiad a’i rheoliadau ei hun.
Atodlen
1(a) Bydd pwerau cyfredol yr Esgob fel Ymwelydd, a’i Awdurdodaeth Gyffredin dros y gadeirlan a’r Cabidwl, yn parhau fel cynt.
(b) Gall yr Esgob gynnal Ordeiniadau, Conffyrmasiynau, Synodau a Gofwyon yn y gadeirlan ar adegau ac mewn modd y bydd ef neu hi’n penderfynu.
(c) Gyda chaniatâd y Deon gall ef neu hi gynnal gwasanaethau arbennig eraill yn y gadeirlan, ond nid sy’n ymyrryd ag addoliad dwyfol y gadeirlan.
(d) Bydd gan yr Esgob hawl i gymryd mewn Gwasanaeth Dwyfol ac i bregethu yn y gadeirlan fel y mae ef neu hi’n ei ystyried yn rhesymol, ar ôl ymgynghori â’r Deon.
2) Mae’n rhaid i gorff ymddiriedolwyr y gadeirlan gydymffurfio â Chyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru a’r Ddeddf Elusennau.
3) Amcanion corff ymddiriedolwyr y gadeirlan fydd hyrwyddo cenhadaeth gyfan yr Eglwys, yn fugeiliol, efengylaidd, cymdeithasol ac eciwmenaidd, yn y gadeirlan.
4) Bydd cyfrifoldebau corff ymddiriedolwyr y gadeirlan yn cynnwys:
a) Rheoli holl arian y gadeirlan ac eithrio ymddiriedolaethau arbennig sy’n darparu fel arall.
b) Ystyried unrhyw fater a gyfeiriwyd yn briodol i gorff ymddiriedolwyr y gadeirlan.
5) Bydd aelodaeth corff ymddiriedolwyr y gadeirlan yn fater i gynllun neu gyfansoddiad a rheoliadau pob cadeirlan fel sy’n berthnasol, ond rhaid cynnwys y Deon bob amser.
6) Rhaid i gynllun neu gyfansoddiad pob eglwys gadeiriol gynnwys cymal fel a ganlyn:
‘Ni cheir gwneud unrhyw ddiwygiad i’r [cyfansoddiad/cynllun] hwn sy’n groes i unrhyw ddarpariaeth yng Nghyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru.’
[1] Yn awr Rhan II yr Atodlen i’r Cynllun hwn
[2] Yn awr Rheoliad 14 Pennod VII
[3] Yn awr y Pwyllgor Adnoddau Dynol
[4] Yn awr y Pwyllgor Adnoddau Dynol
[5] Yn awr y Pwyllgor Adnoddau Dynol
[6] Yn awr y Pwyllgor Adnoddau Dynol