Cyfrol II: Adran 4 - Rheolau Tribiwnlys a llysoedd yr Eglwys yng Nghymru
RHEOLAU’R TRIBIWNLYS A’R LLYSOEDD
Gwneir y Rheolau hyn gan y Pwyllgor Rheolau o dan adran 38 o Bennod IX o Gyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru
Rhan I: Cymhwyso a Dehongli
1. Mae unrhyw gyfeiriad at Ran, Rheol, Atodlen neu Ffurflen yn gyfeiriad at Ran, Rheol, Atodlen neu Ffurflen mewn Atodlen o’r Rheolau hyn, ac mae unrhyw gyfeiriad at Bennod neu adran yn gyfeiriad at Bennod neu adran o Gyfansoddiad yr Eglwys yng Nghymru.
2.1 Ac eithrio pan wneir darpariaeth benodol i’r gwrthwyneb yn y Rheolau hyn neu os yw’r cyd-destun yn gofyn fel arall, mae Rhannau I i X o’r Rheolau hyn yn berthnasol i bob achos yn y Tribiwnlys a Llysoedd yr Eglwys yng Nghymru.
2.2 Ac eithrio pan fo darpariaeth benodol neu’r cyd-destun yn nodi’r gwrthwyneb, mae cyfeiriad at: “y Llys” yn golygu y Tribiwnlys, Llys Esgobaeth, neu Lys y Dalaith yn ôl fel y digwydd, a chyfeiriad at: “y Cofrestrydd”, “y Canghellor” neu “y Llywydd” yn golygu Cofrestrydd, Canghellor, neu Lywydd y Tribiwnlys neu’r Llys hwnnw yn ôl fel y digwydd.
3. Gall y Llys ymdrin ag achos mewn unrhyw le sydd, ym marn y Llys, yn briodol.
4. O leiaf 21 diwrnod cyn unrhyw wrandawiad, bydd pob parti yn hysbysu’r Cofrestrydd o’r holl ieithoedd y maent yn bwriadu eu defnyddio ar lafar, neu’r ieithoedd hynny y gwyddant neu y mae ganddynt reswm dros gredu y cânt eu defnyddio ar lafar neu mewn unrhyw ddogfen yn y gwrandawiad.
5. Yn amodol ar y Rheoliadau hyn, bydd y Llys yn penderfynu ar ei weithdrefn ei hun.
6. Os bydd cwestiwn neu fater yn codi yn ystod yr achos nas darperir ar ei gyfer yn benodol yn y Rheolau hyn, gall unrhyw barti wneud cais i’r Cofrestrydd gyfeirio’r cyfryw gwestiwn neu fater at sylw’r Llywydd.
Rhan II: Ffurflenni, Dogfennau a Gwasanaeth
7. Bydd y ffurflenni a nodir yn yr Atodlenni yn cael eu defnyddio yn yr achosion y maent yn berthnasol iddynt.
8. Gall y Llys amrywio ffurflen os oes angen yr amrywiad yn ôl amgylchiadau achos penodol.
9. Ni ddylid amrywio ffurflen er mwyn hepgor unrhyw wybodaeth neu arweiniad y mae’r ffurflen yn ei rhoi i’r derbynnydd.
10. Ni fydd yn ofynnol i’r Cofrestrydd dderbyn na chyflwyno unrhyw ffurflen neu ddogfen nad yw’n unol â’r Rheolau hyn.
11. Ac eithrio dogfennau gwreiddiol neu gopïau o dystiolaeth ddogfennol, bydd yr holl ddogfennau ysgrifenedig, wedi eu teipio neu eu hargraffu yn ymddangos ar un ochr yn unig o bapur A4.
12. Ac eithrio fel y darperir yn benodol fel arall trwy Orchymyn neu Gyfarwyddyd y Llys, bydd unrhyw ddogfen y mae’n ofynnol ei chyflwyno i’r Cofrestrydd neu ei rhoi yng ngofal y Cofrestrydd yn cael ei hanfon at y Cofrestrydd drwy’r post dosbarth cyntaf a bydd unrhyw ddogfen y mae’n ofynnol ei chyflwyno i unrhyw barti arall yn cael ei hanfon drwy’r post dosbarth cyntaf i gyfeiriad hysbys olaf y person y caiff ei chyflwyno iddo.
13. Gall y Cofrestrydd neu’r Llys ar unrhyw adeg wneud Gorchymyn sy’n disodli unrhyw ffurf arall ar gyflwyno gwŷs ar gyfer yr hyn a ragnodir gan y Rheolau hyn, ac os felly bydd copi o’r cyfryw Orchymyn yn cael ei gyflwyno gyda’r ddogfen a gyflwynir.
Rhan III: Amser
14. Pan fo’r Llys yn rhoi Dyfarniad, Gorchymyn neu Gyfarwyddyd sy’n gosod terfyn amser ar gyflawni unrhyw weithred, rhaid rhoi’r dyddiad olaf ar gyfer cydymffurfio gan nodi dyddiad calendr a’r awr o’r dydd terfynol ar gyfer cyflawni’r weithred.
15. Oni bai bod y Rheolau hyn yn darparu fel arall neu os bydd y Llys yn gorchymyn neu’n cyfarwyddo fel arall, ni chaniateir i’r partïon amrywio’r amser a bennir gan Reol neu gan y Llys i berson wneud unrhyw weithred ond gall y Llys ymestyn, lleihau neu gyfyngu’r amser fel y gwêl yn briodol.
RHAN IV: Galluoedd y Llys: Darpariaethau Cyffredinol
16. Yn ddarostyngedig i unrhyw ddarpariaeth groes yn y Rheoliadau hyn, bydd unrhyw allu a roddir gan y Rheolau hyn cyn gwrandawiad yr achos yn cael ei arfer gan y Llywydd neu ei Ddirprwy penodedig priodol.
17. Yn ddarostyngedig i’r Rheolau hyn, bydd gan y Llys y gallu i gymryd unrhyw gam arall neu wneud unrhyw Orchymyn neu Gyfarwyddyd arall y mae’n ei ystyried yn fuddiol at ddibenion rheoli a hyrwyddo penderfyniad cyfiawn yr achos.
18. Gellir gwneud unrhyw Orchymyn a wneir gan y Llys yn ddarostyngedig i amodau, a gellir nodi’r canlyniadau os methir cydymffurfio â’r Gorchymyn neu’r Cyfarwyddyd.
19. Gall parti nad yw’n cydymffurfio â Gorchymyn neu Gyfarwyddyd wneud cais i’r Llys a gall y Llys roi rhyddhad.
20. Ni fydd unrhyw gamgymeriad yn y weithdrefn yn annilysu unrhyw gam a gymerir yn yr achos oni bai bod y Llys yn gorchymyn hynny; a gall y llys wneud Gorchymyn i unioni’r camgymeriad.
RHAN V: Cyflwyno Cais yn ystod Achos
21. Rhaid cyflwyno cais am Orchymyn neu Gyfarwyddyd cyn penderfynu ar yr achos drwy gyflwyno Hysbysiad Cais i’r Cofrestrydd ar Ffurflen 1 yn Atodlen 1.
22. Rhaid i’r parti sy’n cyflwyno Hysbysiad Cais i’r Cofrestrydd, ar yr un pryd, gyflwyno copi i bob parti arall o’r achos.
23. Ac eithrio mewn sefyllfa lle bo rheol 130 yn berthnasol i achos gerbron y Tribiwnlys, ni chaiff unrhyw barti gyflwyno achos i’r Llys heb fod yn hwyrach na 28 diwrnod ar ôl dyddiad cyflwyno’r Hysbysiad Cais.
RHAN VI: Tystiolaeth
24. Bydd safon y prawf sydd i’w gymhwyso mewn unrhyw achos ar sail tebygolrwydd.
25. Gall penderfyniad y Llys gael ei seilio ar dystiolaeth ysgrifenedig a/neu lafar.
26. Bydd tystiolaeth achlust yn cael ei derbyn ym mhob achos a bydd y Llys yn rhoi i’r cyfryw dystiolaeth y pwysau sydd ym marn y Llys yn briodol.
27. Gall y Llys gyflwyno fel tystiolaeth unrhyw ddatganiad neu ddogfen y mae’n ystyried sydd yn berthnasol a gall gyflwyno tystiolaeth drwy gyswllt fideo os yw’n ystyried ei bod yn briodol gwneud hynny.
28. Yn amodol ar ddisgresiwn y Llys i orchymyn fel arall, bydd unigolyn a elwir yn dyst mewn unrhyw achos gerbron y Llys, cyn rhoi tystiolaeth, yn tyngu llw neu’n cadarnhau y bydd y cyfryw dyst yn dweud y gwir, y gwir i gyd a dim ond y gwir.
29. Ar gais y naill ochr neu’r llall, gall y Llys ganiatáu i dystiolaeth unrhyw dyst gael ei chymryd drwy ddeponiad gerbron rhywun a benodir gan y Llys, ar yr amod bod y Llys yn fodlon bod sail resymol i’r cyfryw dyst beidio â mynychu’r gwrandawiad a gellir cyflwyno deponiad o’r fath mewn tystiolaeth yn y treial.
30. Gellir cyflwyno ffaith a ganfuwyd gan lys seciwlar fel tystiolaeth o’r ffaith a ganfuwyd ond, yn amodol ar Reol 31, ni fydd yn brawf pendant o’r cyfryw ffaith.
31. Bydd tystysgrif euogfarn am drosedd oddi wrth lys seciwlar yn brawf pendant bod y gweithredoedd a nodir ynddi wedi’u cyflawni gan y sawl a enwir yn y dystysgrif.
32. Bydd gan y Llys y gallu i alw arbenigwr priodol neu dystiolaeth arall yn ôl yr angen.
RHAN VII: Costau
33. Bydd gan y Llys y gallu i orchymyn unrhyw barti i roi sicrhad am gostau.
34. Gall y Llys wneud Gorchymyn arall am gostau yn ôl yr hyn y gwêl yn briodol ac eithrio na fydd y Tribiwnlys yn gwneud unrhyw Orchymyn am gostau.
35. Os yw’r swm a adneuwyd gan barti fel sicrhad am gostau yn fwy na swm y costau y gorchmynnwyd i’r parti hwnnw eu talu, bydd y Cofrestrydd yn dychwelyd y balans i’r parti hwnnw o fewn 7 diwrnod gwaith ar ôl y cyfryw Orchymyn am gostau.
36. Bydd gan y Llys y gallu i gyfarwyddo’r Cofrestrydd i asesu unrhyw fil o gostau.
RHAN VIII: Ffioedd
37. Bydd unrhyw ffioedd sy’n daladwy yn cael eu gwneud yn unol â’r rhestr o ffioedd a geir yn Atodlen 2.
38. Ni fydd yn ofynnol i’r Cofrestrydd dderbyn na chyflwyno unrhyw ddogfen neu gais heb yn gyntaf i’r ffi briodol gael ei thalu.
39. Bydd y Llywydd yn gwrando ac yn penderfynu ar unrhyw gwestiwn ynghylch y ffioedd sy’n daladwy.
40. Bydd apêl yn erbyn Penderfyniad y Llywydd ar unrhyw gwestiwn ynghylch y ffioedd yn mynd i Lys y Dalaith. Bydd darpariaethau Rhan X yn gymwys i apêl o’r fath.
RHAN IX – Y Cofrestrydd
41. Y Cofrestrydd fydd ceidwad yr holl ddogfennau yn y Gofrestrfa a bydd yn cadw cofnodion y Llys.
RHAN X – Apelau
42. Ni cheir apêl o unrhyw benderfyniad:
(i) a wnaed yn unol ag adran 6 o Bennod IV C ac adran 22(e) o Bennod IX;
(ii) gan Bwyllgor y Tribiwnlys;
(iii) gan y Tribiwnlys, ac eithrio ar y sail bod y Tribiwnlys wedi amryfuso’n sylweddol yn y gyfraith neu ar sail tystiolaeth newydd sydd wedi dod i’r amlwg ers penderfyniad y Tribiwnlys;
(iv) gan Lys y Dalaith.
43. Bydd apêl i Lys y Dalaith o dan adrannau 19 a 32 o Bennod IX neu o dan Reol 40 yn cael ei dwyn drwy gyflwyno Hysbysiad o Apêl yn Ffurflen 3 yn Atodlen 1 gerbron Cofrestrydd Llys y Dalaith heb fod yn fwy na 28 diwrnod ar ôl y Penderfyniad, Terfyniad, Dyfarniad neu Orchymyn y dygir yr apêl yn ei erbyn.
44. Ar yr un pryd â chyflwyno Hysbysiad o Apêl i Gofrestrydd Llys y Dalaith, bydd yr apelydd yn cyflwyno copi i’r cyfryw bartïon eraill.
RHAN XI – Y Llysoedd Esgobaeth
Hawlebau – Darpariaethau Cyffredinol
45. Dim ond i achos mewn Llys Esgobaeth yn unol ag adran 22 (a) o Bennod IX y mae’r Rhan hon yn gymwys.
46. At ddibenion y Rhan hon a Rhan XII, rhaid i gyfeiriadau at “eglwys” neu “tir” gynnwys unrhyw ran neu rannau o eglwys neu dir ac unrhyw osodiadau ynddynt neu arnynt.
47. At ddibenion y Rhan hon a Rhan XII, mae’r ymadrodd:
“Plwyf” yn cynnwys Eglwys Gadeiriol Sant Gwynllyw;
“Periglor” yn cynnwys Deon Mynwy;
“Cadeirlan” yn cynnwys plwyf sy’n cael ei atodi i Eglwys Gadeiriol, ond nid, oni nodir yn wahanol, Eglwys Gadeiriol Sant Gwynllyw;
ystyr “Clerc y Cabidwl” yn achos Eglwys Gadeiriol Sant Gwynllyw yw Ysgrifennydd Cyngor Plwyf Eglwysig Sant Gwynllyw;
ystyr “y Comisiwn” yw y Comisiwn Cadeirlannau ac Eglwysi.
48. Ym mhob esgobaeth sefydlir Pwyllgor Ymgynghorol yr Esgobaeth, a bydd ei gyfansoddiad a’i swyddogaethau fel y nodir yn Atodlen 4.
49. Mae’r weithdrefn hawleb a nodir yn Rhan XII yn gymwys i eglwysi a thir cysegredig a freiniwyd i Gorff y Cynrychiolwyr, i Fwrdd Cyllid Esgobaethol, neu i unrhyw ymddiriedolwyr eraill sy’n cytuno i gael eu rhwymo gan y Rheolau hyn, ac i unrhyw strwythur neu wrthrych dirprwyedig neu ategol yn yr eglwys honno neu ar dir cysegredig neu o fewn ei gwrtil.
50. [Rheol wedi’i dileu].
51. [Rheol wedi’i dileu].
52. Ac eithrio fel y darperir yn Rheolau 53, i 57, lle mae’r weithdrefn hawleb yn berthnasol, ni ellir cychwyn unrhyw un o’r canlynol heb ganiatáu hawleb:
(i) unrhyw newid yn y defnydd o adeilad neu dir;
(ii) unrhyw newid, atgyweirio neu ychwanegu at, addurno, ailaddurno, neu ddymchwel neu dynnu oddi ar adeiladwaith Eglwys;
(iii) unrhyw newid neu ychwanegu at dir, gan gynnwys adeiladu adeiladau newydd;
(iv) cyflwyno, tynnu, newid neu ail-leoli, dodrefn, ffitiadau, murluniau, henebion (gan gynnwys cerrig beddi), platiau a gwrthrychau gwerthfawr eraill, i mewn i, o neu mewn eglwys neu dir, neu atgyweirio unrhyw ddodrefn, ffitiadau, murluniau, henebion, platiau neu wrthrychau o’r fath;
(v) newid neu ychwanegu at arysgrif ar unrhyw heneb neu garreg fedd;
(vi) caffael hawl claddu unigryw neu barhaol mewn unrhyw fedd, man claddu, claddgell neu feddrod;
(vii) codi corff, neu weddillion dynol neu amlosgi, o fedd, claddgell, bedd neu lain sy’n bodoli eisoes;
(viii) unrhyw fater arall nad yw’n rhan o Restr A a Rhestr B o Atodlen 5 i’r Rheolau hyn.
53.1. Ni fydd Rheol 52 yn gymwys pan fo ac i’r graddau y bo gwaith yn angenrheidiol ar frys er budd diogelwch neu iechyd, er sicrhau cadwraeth adeilad neu i wneud yr adeilad yn ddiogel ac wedi’i gyfyngu i’r mesurau gofynnol sy’n angenrheidiol ar unwaith, oni bai bod cysylltiad ymlaen llaw wedi ei wneud â: Phwyllgor Ymgynghorol yr Esgobaeth a naill ai, yn achos Cadeirlan, y Deon neu’r aelod uchaf o’r Cabidwl sydd ar gael; neu, yn achos Plwyf, yr Archddiacon, neu, yn ei absenoldeb, y Deon Ardal, neu, yn achos Eglwys Gadeiriol Sant Gwynllyw, y Deon.
53.2 Mewn unrhyw achos lle bo 53.1 yn berthnasol, dylid rhoi hysbysiad ysgrifenedig yn nodi’n fanwl ac yn cyfiawnhau cyflawni’r gwaith:
(i) i Gorff y Cynrychiolwyr;
(ii) i Gofrestrydd yr Esgobaeth;
(iii) yn achos Cadeirlan, gan gynnwys Eglwys Gadeiriol Gwynllyw, i Glerc y Cabidwl;
(iv) mewn Plwyf, i Ysgrifennydd y Cyngor Plwyf Eglwysig,
a chyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol gwneir cais am Hawleb yn unol â’r Rheolau hyn.
54. Ni fydd Rheol 52 yn berthnasol i’r materion canlynol:
54.1 Cynnal a chadw (heb gynnwys amnewidiadau, ailaddurno neu ail-wifro)
Gwaith sydd, heb gyflawni amnewidiadau (heblaw bylbiau golau ac elfennau gwresogi) neu heb gynnwys ailaddurno, amnewid, pwyntio, ail-bwyntio neu ail-wifro, yn cadw’r eglwys, neu ei chynnwys neu y fynwent yn lân ac yn daclus neu sy’n cadw eitemau trydanol neu fecanyddol (gan gynnwys offer gwresogi a goleuo, offerynnau cerdd a chlychau) mewn cyflwr gweithredol dar.
54.2 Gosodiadau, symudiadau a gwarediadau
(a) Cyflwyno i eglwys neu symud o eglwys y canlynol:
(i) croesau gorymdeithiol, lampau cysegr a chlychau cysegr, lampau addunedol, canwyllbrennau, cerfluniau, cerfluniau bach, delwau, thuserau, cwpanau arogldarth, pycsisau a thabernaclau ar yr amod, mewn perthynas ag unrhyw un o’r eitemau hyn, nas bwriedir iddynt gael eu cysylltu’n sownd ag adeiladwaith yr eglwys ac ar yr amod bod Esgob yr Esgobaeth yn cytuno felly;
(ii) Llestri ewcharistaidd, costrelau, blychau afrlladau, basnau ymolchi, taenellawdwyr, ystenau, llestri elusen neu fasau.
(b) Cyflwyno, symud o fewn, neu dynnu o eglwys faneri addurniadol a ddefnyddir ar gyfer arddangosfeydd sy’n para llai na thri mis, strwythurau dros dro o werth defosiynol neu addysgol (e.e. presebau Nadolig, gerddi Pasg), lliain allor (ac eithrio blaenlenni a chefnlenni), urddwisgoedd, albau, gwenwisgoedd, casogau, gwisgoedd y côr, gwisgoedd byrllysgwyr, Beiblau, llyfrau gweddi, llyfrau emynau, sallwyrau, sgorau cerddoriaeth a deunydd printiedig arall a ddefnyddir mewn gwasanaethau dwyfol, llyfrau coffa, llenyddiaeth gymeradwy, yn achos Cadeirlannau gan gynnwys Eglwys Gadeiriol Sant Gwynllyw, gan y Cabidwl, fel arall, gan y Periglor, y Clerig â Chyfrifoldeb neu Ddeon Ardal a wardeniaid yr Eglwys, diffoddwyr tân, byrddau emynau, platiau neu fagiau casglu, clustogau pen-glin, hesorau, gorchudd seddi a chlustogau, credfyrddau, cofrestri genedigaethau, bedyddiadau, gostegion, priodasau, marwolaethau a chladdedigaethau.
(c) Cyflwyno i eglwys, symud o fewn eglwys, neu symud o eglwys, ar gyfer achlysur arbennig neu gyfnod cyfyngedig arall o amser, seddi sy’n cynnwys corau neu gadeiriau rhydd.
(d) Cyflwyno, i fynwent eglwys, gerrig beddi sy’n cydymffurfio â rheoliadau 15(1) neu 15(2) o’r Rheoliadau ar gyfer Gweinyddu Mynwentydd.
55. Ni fydd Rheol 52(i) i (v) yn gymwys pan roddir cymeradwyaeth o dan y Rheoliadau ar gyfer Gweinyddu Mynwentydd.
56. Ni fydd Rheol 52(i) yn gymwys os yw’r newid i’w ddefnyddio gan enwad arall, a weithredir o dan gytundeb a wnaed o dan Ddeddf Rhannu Adeiladau Eglwysig, 1969, nac unrhyw ddiwygiad statudol neu ailddeddfiad ohoni.
57. Ni fydd Rheol 52(iv) yn gymwys yn achos benthyciad i amgueddfa neu i sefydliad cydnabyddedig tebyg.
RHAN XII – Y Llysoedd Esgobaeth
Gweithdrefn Hawleb
58. Gall unrhyw unigolyn, unigolion neu gorff sydd â diddordeb mewn hyrwyddo wneud cais am hawleb. Gall Ceisydd ymgynghori â Phwyllgor Ymgynghorol yr Esgobaeth am unrhyw agweddau ar y cais arfaethedig, gweler Ffurflen 1 Rhan 1. Mae’r broses hon yn ddewisol a gall Ceisydd gyflwyno cais ffurfiol ar unrhyw adeg.
59. Gwneir cais am hawleb yn Ffurflen 1 yn Rhan 2 Atodlen 3 gan gynnwys asesiad priodol o’r effaith ar dreftadaeth yn y modd canlynol:
(i) Rhaid i’r Ceisydd gwblhau Ffurflen 1 Rhan 2 Atodlen 3 a’i chyflwyno i’r Cofrestrydd, ynghyd â chopi wedi’i ardystio gan Glerc y Cabidwl neu Ysgrifennydd y Cyngor Plwyf Eglwysig, o’r penderfyniad y mae’r Cabidwl neu’r Cyngor Plwyf Eglwysig, fel y digwydd, wedi’i fabwysiadu ar ôl ystyried amcanion y cais.
(ii) Os nad yw’r Ceisydd yn Gabidwl neu’n Beriglor ac yn Wardeniaid plwyf, [dylid cyflwyno] datganiad ysgrifenedig a lofnodwyd gan Glerc y Cabidwl yn enw’r Cabidwl neu gan y Periglor neu’r Clerig â Chyfrifoldeb neu Ddeon Ardal a’r Wardeniaid, fel y digwydd, yn nodi a ydynt yn gwrthwynebu amcanion y cais ai peidio.
60. Bydd y Ceisydd yn gyfrifol am sicrhau y caiff Hysbysiad o gyflwyno cais sy’n rhoi manylion rhesymol y gwaith arfaethedig ei arddangos yn gyhoeddus amlwg ar yr un pryd ag y gwneir y cais;
(i) yn achos Cadeirlan, gan gynnwys Eglwys Gadeiriol Sant Gwynllyw, yn y Gadeirlan dan sylw ac yn ei chyffiniau;
(ii) fel arall yn eglwys y plwyf a phob eglwys arall yn y Plwyf ac yng nghyffiniau pob eglwys neu eglwys o’r fath;
neu am gyfnod sydd o leiaf wyth diwrnod ar hugain o ddyddiad cyflwyno’r cais gyda’r Cofrestrydd ac ar neu cyn y dyddiad arddangos, bydd copi o’r Hysbysiad yn cael ei anfon at y Cofrestrydd. Bydd Hysbysiad o’r fath yn dilyn Ffurflen 2 yn Atodlen 3.
61. Lle byddai’r gwaith arfaethedig yn newid neu’n effeithio ar gymeriad adeilad mewn Ardal Gadwraeth neu a restrwyd o dan Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 neu unrhyw ddiwygiad statudol neu ailddeddfiad fel un sydd o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig, bydd copi o’r Hysbysiad, a ardystiwyd gan Glerc y Cabidwl neu gan Ysgrifennydd y Cyngor Plwyf Eglwysig, hefyd yn cael ei gyhoeddi ar unwaith gan y Ceisydd ar wefannau’r Dalaith a’r Esgobaeth.
62. O fewn saith diwrnod i’r Cofrestrydd dderbyn yr eitemau a grybwyllir yn Rheol 59 ac unrhyw sylwadau perthnasol a wnaed erbyn yr amser hwnnw mewn ymateb i’r Hysbysiad rhaid i’r Cofrestrydd anfon copïau ohonynt at Bwyllgor Ymgynghorol yr Esgobaeth ac at y Comisiwn mewn unrhyw achos sy’n dod o fewn Rheol 14(a) o Reolau’r Comisiwn.
63. Yn achos adeilad mewn Ardal Gadwraeth neu a restrwyd o dan Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 neu unrhyw ddiwygiad statudol neu ailddeddfiad fel un sydd o ddiddordeb pensaernïol neu hanesyddol arbennig, o fewn 14 diwrnod, bydd Ysgrifennydd Pwyllgor Ymgynghorol yr Esgobaeth yn anfon hysbysiad at CADW ac at yr awdurdod cynllunio lleol ynghyd â chopïau o’r Hysbysiad y cyfeirir ato yn Rheol 60 o’r Cais ac unrhyw ddogfennau eraill a gyflwynwyd gan y Ceisydd i’r Cofrestrydd.
64.1 Lle byddai’r gwaith arfaethedig yn newid neu’n effeithio ar gymeriad adeilad, neu’n effeithio ar bwysigrwydd archeolegol adeilad o’r fath neu olion archeolegol ynddo neu yn y cwrtil, o fewn 14 diwrnod, bydd Ysgrifennydd Pwyllgor Ymgynghorol yr Esgobaeth yn anfon at gymdeithasau amwynder cenedlaethol hysbysiad (fel y’i diffinnir yn rhan 2 o’r Rheol hon) ynghyd â chopi o’r Hysbysiad y cyfeirir ato yn Rheol 60. Os yw’r gwaith yn cynnwys dymchwel, bydd yr hysbysiad a chopi o’r Hysbysiad hefyd yn cael eu hanfon at Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru.
64.2 At ddibenion y Rheolau hyn, ystyr “cymdeithasau amwynder cenedlaethol” yw unrhyw un o’r canlynol, sef: y Gymdeithas Henebion, y Grŵp Sioraidd, y Gymdeithas Gwarchod Adeiladau Hynafol, y Gymdeithas Fictoraidd, Cyngor Archaeoleg Brydeinig Cymru, 20th Century Society ac unrhyw gorff arall a allai o bryd i’w gilydd gael ei ddynodi gan Bwyllgor Sefydlog y Corff Llywodraethol.
65. Yn achos Eglwys Gadeiriol, gan gynnwys Eglwys Gadeiriol Sant Gwynllyw, bydd y copïau y cyfeirir atynt yn Rheol 63 hefyd yn cael eu hanfon gan Ysgrifennydd Pwyllgor Ymgynghorol yr Esgobaeth i’r Comisiwn.
66.1 Yn achos unrhyw un o’r materion a bennir yn y Rheoliadau hyn, bydd y Cofrestrydd, o fewn saith diwrnod ar ôl derbyn y cais, yn anfon copïau o’r Cais, y dogfennau sy’n cyd-fynd â’r Cais ac unrhyw gyngor dilynol at Gorff y Cynrychiolwyr. Y materion hyn yw:
66.2
(i) dymchwel, newidiadau neu ychwanegiadau sylweddol i, adeiladwaith adeilad;
(ii) codi adeiladau newydd;
(iii) gosod ardaloedd o’r neilltu ar gyfer claddu gweddillion amlosgi;
(iv) cynnig o fewn y rheoliadau sy’n ymwneud â Symud Ymaith Henebion a Cherrig Beddi;
(v) gwaredu unrhyw ran o adeiladwaith neu gynnwys adeilad;
(vi) gwaith a fyddai’n effeithio’n sylweddol ar yswiriant adeilad;
(vii) gwaith y byddai’n ofynnol cael hawddfraint neu fforddfraint i’w gyflawni;
(viii) unrhyw newid mewn defnydd o adeilad neu dir.
Cynrychioliaethau neu wrthwynebiadau
67. Yn ddarostyngedig i Reol 68 bydd Corff y Cynrychiolwyr, o fewn wyth diwrnod ar hugain o dderbyn y copïau y cyfeirir atynt yn Rheol 66, yn dychwelyd y papurau i’r Cofrestrydd, ynghyd ag unrhyw sylwadau, cynrychiolaethau neu wrthwynebiadau ysgrifenedig y mae’n dymuno eu codi, neu drwy ddatganiad ysgrifenedig yn nodi nad oes ganddo unrhyw rai i’w cynnig.
68. Gall Corff y Cynrychiolwyr, drwy hysbysiad a gyfeirir at y Cofrestrydd, ei gwneud yn ofynnol i Bwyllgor Ymgynghorol yr Esgobaeth, y Comisiwn, yr Archddiacon neu rywun arall a benodir o dan Reol 69 gan yr Esgob, ddarparu adroddiad pellach ar unrhyw fater y mae’n dymuno ei godi ynghylch y Cais. O fewn wyth diwrnod ar hugain o ddyddiad yr hysbysiad hwnnw, bydd Pwyllgor Ymgynghorol yr Esgobaeth, y Comisiwn, yr Archddiacon neu’r unigolyn arall a benodir o dan Reol 69 gan yr Esgob, yn ôl y digwydd, yn cyflwyno’r adroddiad pellach yn ysgrifenedig i’r Cofrestrydd dan Ffurflen 7 Atodlen 3, a fydd wedyn yn anfon copi ohono at Gorff y Cynrychiolwyr. Bydd darpariaethau Rheol 67 yn gymwys o ran yr adroddiad y cyfeirir ato yn y Rheol hon.
69. Rhaid i Bwyllgor Ymgynghorol yr Esgobaeth neu’r Comisiwn, yn ôl fel y digwydd, o fewn 56 diwrnod o dderbyn y copïau y cyfeirir atynt yn Rheol 62, gyflwyno ei gyngor i’r Cofrestrydd, ar ffurf ysgrifenedig, wedi’i lofnodi gan ei Gadeirydd, wedi’i gyfeirio at y Canghellor, ynghylch rhinweddau artistig, esthetig neu bensaernïol y gwaith a ddisgrifir yn y Cais ynghyd ag unrhyw sylwadau gan unrhyw gyrff y cyfeirir atynt yn Rheol 64 neu’r sawl yr anfonwyd yr Hysbysiad atynt yn unol â Rheol 60. Bydd Archddiacon yr archddiaconiaeth sy’n destun y Cais, os gwêl yn dda neu os gofyn y Canghellor am hynny, yn ychwanegu ei gyngor ysgrifenedig ar wahân ar gyfer y Canghellor ynghylch rhinweddau diwinyddol y gwaith. Os yw’r archddiaconiaeth yn wag, neu os nad yw’r Archddiacon ar gael neu’n analluog, ac yn achos pob cais sy’n ymwneud ag unrhyw Eglwys Gadeiriol, gan gynnwys Eglwys Gadeiriol Sant Gwynllyw, bydd Esgob yr Esgobaeth yn penodi rhywun addas i weithredu yn lle’r Archddiacon o dan Ffurflen 8 yn Atodlen 3.
70. O fewn saith diwrnod i dderbyn ceisiadau, sylwadau, cynrychioliaethau, gwrthwynebiadau neu ddatganiadau gan Gorff y Cynrychiolwyr o dan Reol 67, Pwyllgor Ymgynghorol yr Esgobaeth a’r Comisiwn, bydd y Cofrestrydd yn anfon y cyfryw bapurau at y Canghellor.
Gwysion
71. Bydd y Canghellor, o fewn wyth diwrnod ar hugain o dderbyn y cais, y dogfennau a’r papurau, naill ai’n caniatáu’r hawleb a bydd Rheolau 84, 85 ac 86 yn gymwys, neu yn cyflwyno Gwŷs ac yn ei hanfon at y Ceisydd a Chorff y Cynrychiolwyr a phob parti arall sydd â diddordeb, gan gynnwys yr Archddiacon neu rywun arall a benodir o dan Reol 69 gan yr Esgob, a bydd y cyfryw Wŷs yn dilyn Ffurflen 14 yn Atodlen 3.
72. Yn achos cais am Hawleb sy’n ymwneud ag eglwys ac eithrio Cadeirlan neu Eglwys Gadeiriol Sant Gwynllyw, ar unrhyw adeg cyn caniatáu’r Hawleb, neu cyn cyflwyno’r Wŷs, gall y Canghellor, y Cofrestrydd, neu Bwyllgor Ymgynghorol yr Esgobaeth, ofyn am gyngor y Comisiwn ar gais o’r fath, ac ar hynny bydd yr achos o dan Reol 71 yn cael ei atal am gyfnod nad yw’n hwy nag wyth diwrnod ar hugain, ac yn ystod y cyfnod hwnnw bydd cyngor y Comisiwn yn cael ei roi ac, os gofynnir amdano gan y Cofrestrydd, neu gan Bwyllgor Ymgynghorol yr Esgobaeth, bydd yn cael ei gyflwyno ganddynt hwy i’r Canghellor.
73. Bydd yr Wŷs yn cael ei harddangos gan Glerc y Cabidwl neu wardeniaid yr Eglwys, fel y digwydd, yn y lleoliad neu’r lleoliadau a grybwyllir yn Rheol 60, am gyfnod o bedwar diwrnod ar ddeg sy’n dechrau o fewn tri diwrnod i dderbyn y Wŷs. Dychwelir y Wŷs, a gymeradwyir gan dystysgrif ac a gaiff ei harddangos yn unol â’r rheol hon, at y Cofrestrydd o fewn tri diwrnod ar ôl i’r cyfnod arddangos ddod i ben.
74. Bydd y Cofrestrydd, o fewn pedwar diwrnod ar ddeg o ddyddiad cyhoeddi’r Wŷs, yn anfon copi ohoni at unrhyw unigolyn, corff neu gymdeithas sydd wedi cyflwyno sylwadau.
75. Gall y Canghellor, ar unrhyw adeg yn ystod yr achos, orchymyn cyhoeddi Gwŷs neu Wysion pellach gan ddilyn gweithdrefn Rheolau 71 a 73.
76.1 Rhaid i unrhyw berson sy’n dymuno gwrthwynebu’r Cais (boed y cais cyfan neu ran ohono yn unig) wneud hynny trwy gyflwyno i’r Cofrestrydd Hysbysiad o Wrthwynebiad i’r Hawleb o fewn un diwrnod ar hugain i’r dyddiad y cafodd y Wŷs (neu’r Wŷs ddiweddaraf, yn ôl y digwydd) ei harddangos gyntaf o dan Reol 73.
76.2 Dylai Hysbysiad o Wrthwynebiad ddefnyddio Ffurflen 11 yn Atodlen 3 a bydd yn nodi mewn paragraffau, wedi’u rhifo’n olynol, seiliau’r gwrthwynebiad.
77. Pan fydd Gwŷs wedi’i chyhoeddi, ni ellir bwrw ymlaen i ganiatáu neu wrthod Hawleb tan i’r cyfnod ar gyfer cyflwyno Hysbysiadau o Wrthwynebiad ddod i ben.
78. Os na chyflwynwyd Hysbysiad o Wrthwynebiad i’r Hawleb erbyn y dyddiad perthnasol, gall y Canghellor ganiatáu neu wrthod yr Hawleb heb wrandawiad, ac os felly bydd yn gwneud hynny o fewn saith diwrnod ar ôl i’r dyddiad ar gyfer cyflwyno Hysbysiadau o Wrthwynebiadau ddod i ben. Fel arall, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau Rheol 79, bydd y Canghellor yn pennu dyddiad ar gyfer gwrandawiad, na fydd yn llai nag un diwrnod ar hugain nac yn fwy na phedwar deg dau diwrnod ar ôl y cyfryw ddyddiad dod i ben. Bydd y Cofrestrydd yn hysbysu’r Ceisydd, y sawl a gyflwynodd Hysbysiad o Wrthwynebiad a phob parti arall sydd â diddordeb am y dyddiad y cynhelir y Gwrandawiad.
79.1 Cyn pennu dyddiad ar gyfer gwrandawiad ac os gwêl fod trefn o’r fath yn briodol, gall y Canghellor wahodd y partïon i dderbyn dyfarniad ar sail sylwadau ysgrifenedig, yn hytrach na thrwy wrandawiad. Os yw’r partïon i gyd yn cytuno ar drefn ysgrifenedig o’r fath, bydd y Cofrestrydd yn ei gwneud yn ofynnol iddynt gyflwyno eu sylwadau priodol ger eu bron o fewn un diwrnod ar hugain ar ôl i’r cyfnod ar gyfer cyflwyno Hysbysiadau o Wrthwynebiad ddod i ben.
79.2 Ar ôl derbyn sylwadau o’r fath, bydd y Cofrestrydd yn rhoi copi o sylwadau ei gilydd i bob parti a bydd yn caniatáu un diwrnod ar hugain iddynt ateb yn ysgrifenedig.
80. O fewn pedwar diwrnod ar ddeg ar ôl derbyn hysbysiad o’r dyddiad ar gyfer gwrandawiad, neu ar ôl cyflwyno sylwadau ysgrifenedig o dan Reol 79, yn ôl fel y digwydd, bydd unrhyw berson, corff neu gymdeithas a oedd wedi cyflwyno Hysbysiad o Wrthwynebiad i’r Hawleb, naill ai’n cyflwyno i’r Cofrestrydd sicrhad ar gyfer costau y gall y Canghellor eu pennu, neu weithredu Bond yn yr un ffurf a nodir yn Ffurflen 12 o Atodlen 3 at yr un diben a’r un swm, gydag unrhyw sicrwydd sy’n ofynnol ac a gymeradwywyd gan y Canghellor. Os na ddarperir sicrwydd neu Fond o’r fath, gall y Canghellor ganiatáu’r Hawleb, gan anwybyddu’r cyfryw Hysbysiad neu Hysbysiad o Wrthwynebiad.
81. Ni fydd yr Archddiacon na neb arall a benodir dan Reol 69 gan yr Esgob, Esgob yr Esgobaeth na Chorff y Cynrychiolwyr yn atebol am gostau.
82. Mewn gwrandawiad ar gyfer Cais gall y Canghellor yn unol â thelerau y gwêl yn gyfiawn roi caniatâd i unrhyw unigolyn, corff neu gymdeithas nad oedd wedi bod yn barti i’r achos yn flaenorol gael eu clywed fel rhan o’r achos.
Rhoi Hawleb neu ei Gwrthod
83.1 Bydd y Canghellor, o fewn wyth diwrnod ar hugain ar ôl y gwrandawiad, neu’r diwrnod olaf a ganiateir gan y Cofrestrydd am gyflwyno ymatebion i unrhyw sylwadau ysgrifenedig, fel y digwydd, naill ai’n rhoi neu’n gwrthod yr Hawleb, ac yn y naill achos neu’r llall yn rhoi rhesymau dros eu penderfyniad.
83.2 Os na fydd y Canghellor yn datgan ei benderfyniad a’i resymau ar lafar ar ddiwedd y gwrandawiad, bydd y Cofrestrydd yn hysbysu’r partïon a’r sawl neu’r cyrff y cyfeirir atynt yn Rheol 68 o’r Dyfarniad cyn gynted ag y bo modd wedi hynny a bydd yn anfon copi o’r Dyfarniad hwnnw at y partïon dim mwy na thri diwrnod ar ôl i’r Cofrestrydd dderbyn y cyfryw Ddyfarniad.
84. Gellir canatau’r Hawleb gydag amodau neu heb amodau.
85.1 Rhaid rhoi tystiolaeth ysgrifenedig o ganiatáu neu wrthod yr Hawleb, wedi’i lofnodi gan y Canghellor yn y naill achos neu’r llall. Bydd y cyfryw roi neu wrthod yn dilyn Ffurflen 10a neu Ffurflen 10b yn Atodlen 3 yn ôl y digwydd.
85.2 Bydd yr Hawleb yn cael ei gweithredu o fewn cyfnod o bum mlynedd o ddyddiad ei chaniatáu neu gyfnod byrrach arall a gyfarwyddir gan y Canghellor neu a ddaw i ben fel arall.
86. Ar ôl rhoi neu wrthod yr Hawleb, bydd y Cofrestrydd yn anfon yr hysbysiad caniatáu neu wrthod, fel y bo’n briodol, at y Ceisydd, a chopïau at Gorff y Cynrychiolwyr, Ysgrifenyddion Pwyllgor Ymgynghorol yr Esgobaeth, CADW, yr Awdurdod Lleol, Cymdeithas / Cymdeithasau Amwynderau perthnasol ac (os yw’n berthnasol) y Comisiwn, Clerc y Cabidwl neu Ysgrifennydd y Cyngor Plwyf Eglwysig (fel y digwydd), yr Archddiacon neu rywun arall a benodwyd o dan Reol 69 gan yr Esgob, a phawb arall a allai fod wedi cyflwyno sylwadau perthnasol yn ystod unrhyw achos o dan y Rheolau hyn ac a gyhoeddir ar wefannau’r Dalaith a’r Esgobaeth.
87. Ar ôl cwblhau’r gwaith a awdurdodwyd gan yr Hawleb, neu gyfryw ran o’r gwaith a gyflawnwyd, am y tro, bydd y Ceisydd yn anfon at y Cofrestrydd Dystysgrif (wedi’i llofnodi gan y pensaer, syrfëwr adeiladu siartredig neu gynghorydd proffesiynol arall, os oes un wedi’i benodi) i’r perwyl bod y gwaith wedi’i gyflawni yn unol â thelerau’r Hawleb, ac, ar yr un pryd, bydd yn anfon copi o’r cyfryw Dystysgrif i Gorff y Cynrychiolwyr ac at Ysgrifenyddion y Pwyllgor ac (os yw’n berthnasol) i’r Comisiwn. Bydd y cyfryw Dystysgrif yn dilyn Ffurflen 13 yn Atodlen 3.
88. Mewn unrhyw achos y mae’r Rhan hon yn gymwys iddo, bydd gan y Dirprwy Ganghellor yr holl bwerau a gall gyflawni holl ddyletswyddau’r Canghellor y cafodd ei benodi i weithredu ar ei gyfer yn unol ag adran 24 (3) o Bennod IX.
RHAN XIII – Y Llysoedd Esgobaeth
Achosion heblaw Hawlebau
89. Mae’r Rhan hon yn gymwys i bob achos yn y Llysoedd Esgobaeth ac eithrio achosion yn unol ag adran 22 (a) o Bennod IX.
90. Rhaid i unigolyn neu gorff sy’n dymuno dwyn achos y mae’r Rhan hon yn gymwys iddo wneud hynny drwy gyflwyno Cais i’r Cofrestrydd am orchymyn neu gyfarwyddiadau yn Ffurflen 1 yn Atodlen 1.
91. O fewn saith diwrnod ar ôl derbyn y Ffurflen Hawlio, bydd y Cofrestrydd yn cyflwyno copi o’r Ffurflen Hawlio i’r Canghellor.
92. O fewn pedwar diwrnod ar ddeg ar ôl derbyn copi o’r Ffurflen Hawlio, bydd y Canghellor yn rhoi cyfarwyddiadau rhagarweiniol ynghylch y weithdrefn sydd i’w dilyn yn yr achos. Gall y cyfarwyddiadau ddarparu ar gyfer dyrannu’r achos i aelod penodol o Lys yr Esgobaeth.
93. Mewn unrhyw achos y mae’r Rhan hon yn gymwys iddo, os na nodir y penderfyniad a’r rhesymau dros y penderfyniad ar lafar ar ddiwedd y gwrandawiad terfynol, bydd y Cofrestrydd yn hysbysu’r partïon o’r dyfarniad cyn gynted ag y bo modd wedi hynny a bydd yn anfon copi o’r dyfarniad hwnnw at y partïon dim mwy na thri diwrnod ar ôl i’r Cofrestrydd dderbyn y cyfryw Ddyfarniad.
94. Mewn unrhyw achos y mae’r Rhan hon yn gymwys iddo, bydd gan y Dirprwy Ganghellor yr Esgobaeth yr holl bwerau a gall gyflawni holl ddyletswyddau’r Canghellor y cafodd ei benodi i weithredu ar ei gyfer yn unol ag adran 24 (3) o Bennod IX.
RHAN XIV – Y Tribiwnlys Disgyblu
95. Mae’r Rhan hon yn gymwys i achosion yn Nhribiwnlys Disgyblu’r Eglwys yng Nghymru yn unig.
96. Bydd y Tribiwnlys yn gwrando ac yn penderfynu ar y cwynion hynny sy’n dod o fewn adran 9 o Bennod IX yn unig ac a gyfeirir at y Tribiwnlys gan unrhyw Esgob Cadeiriol neu Gofrestrydd yr Archesgob.
97. Bydd pob atgyfeiriad o dan Reol 96 yn ysgrifenedig ac yn cael ei gyflwyno i’r Cofrestrydd.
98. Gyda phob atgyfeiriad, darperir y cyfryw lythyrau, dogfennau, datganiadau a deunyddiau eraill y dibynnir arnynt gan y sawl sy’n gwneud yr atgyfeiriad.
99. Ymhen 14 diwrnod i’r Cofrestrydd dderbyn y geirda, bydd y Llywydd naill ai’n derbyn neu’n gwrthod yr atgyfeiriad.
100. Bydd y Llywydd yn gwrthod y geirda dim ond os:
(i) yr ymddengys o weld yr atgyfeiriad nad y person y gwneir y gŵyn yn ei erbyn (“yr Ymatebydd”) yw’r unigolyn a grybwyllir yn adran 9 o Bennod IX;
(ii) nad yw’r atgyfeiriad yn nodi sail cwyn sy’n dod o fewn adran 9 o Bennod IX;
(iii) nad oedd yr atgyfeiriad yn cynnwys unrhyw rai o’r cyfryw ddeunyddiau a grybwyllir yn Rheol 98.
101. Os yw’r Llywydd yn gwrthod y geirda, bydd y Cofrestrydd yn hysbysu’r sawl a wnaeth yr atgyfeiriad ei fod wedi’i wrthod.
102. Os yw’r Llywydd yn derbyn yr atgyfeiriad, rhaid iddo ar yr un pryd, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau adrannau 11(3) a (4) o Bennod IX, benodi aelod o’r Tribiwnlys sydd â chymwysterau cyfreithiol (neu rywun arall sydd â chymwysterau cyfreithiol yn unol ag adran 11(2) o Bennod IX) (“y Dyfarnwr Cychwynnol”) i ymgymryd â Chyfnod Cychwynnol y Tribiwnlys (“y Cyfnod Cychwynnol”). Gall y Llywydd benodi ei hun fel y Dyfarnwr Cychwynnol.
103. Yn syth ar ôl penodi’r Dyfarnwr Cychwynnol, bydd y Cofrestrydd yn hysbysu’r Ymatebydd o enw’r Dyfarnwr Cychwynnol. Bydd y Llywydd yn ystyried unrhyw wrthwynebiad ysgrifenedig a wnaed gan yr Ymatebydd ar ôl clywed pwy oedd y Dyfarnwr Cychwynnol o fewn 7 diwrnod i’r hysbysiad a bydd ganddo’r gallu i ddiwygio’r penodiad.
104. Cyn gynted ag y bo’n ymarferol ar ôl penodi’r Dyfarnwr Cychwynnol, bydd y Cofrestrydd yn anfon copi o’r atgyfeiriad at yr Ymatebydd ac o’r holl ddogfennau cysylltiedig a grybwyllir yn Rheol 98, ynghyd â chopi o’r Rheolau hyn.
105. Dim mwy na 14 diwrnod ar ôl iddo dderbyn y dogfennau a grybwyllir yn Rheol 104, bydd yr Ymatebydd yn dosbarthu i’r Cofrestrydd y cyfryw lythyrau, dogfennau, datganiadau a deunyddiau eraill y dymuna i’r Dyfarnwr Cychwynnol eu hystyried.
106. Bydd gan y Dyfarnwr Cychwynnol y gallu i orchymyn bod tystiolaeth bellach yn cael ei cheisio o’r cyfryw ffynonellau ac ar ffurf y cred sydd yn addas ac i roi Cyfarwyddyd ynghylch yr achos sydd ger eu bron.
107. [Rheol wedi’i dileu]
108. Bydd yr holl dystiolaeth a gafwyd gan y Dyfarnwr Cychwynnol yn unol â Rheol 106 yn cael ei datgelu i’r Ymatebydd heb fod yn llai na 7 diwrnod cyn unrhyw gyfarfod neu gyfarfod gohiriedig, a rhoddir cyfle rhesymol i’r Ymatebydd osod gerbron y Dyfarnwr Cychwynnol lythyrau, dogfennau, datganiadau a deunyddiau neu esboniadau eraill mewn ymateb fel y dymuna.
109. Bydd y Cofrestrydd yn rhoi dim llai na 7 diwrnod o rybudd i’r Ymatebydd o amser a lleoliad y cyfarfod gyda’r Dyfarnwr Cychwynnol ac unrhyw gyfarfod gohiriedig.
110. Bydd yr achos gerbron y Dyfarnwr Cychwynnol yn breifat a bydd y Dyfarnwr Cychwynnol yn cyflawni’r dasg gyda chyn lleied o ffurfioldeb ag sy’n gyson â thegwch ac ag ymchwiliad prydlon i atgyfeiriadau. Ni fydd y trafodion yn cael eu recordio.
111. [Rheol wedi’i dileu]
112. Gellir cynnal unrhyw gyfarfod gyda’r Dyfarnwr Cychwynnol trwy gyswllt fideo neu gynhadledd ffôn.
113. Yn ddarostyngedig i Reol 114, bydd gan yr Ymatebydd hawl mewn unrhyw gyfarfod â’r Dyfarnwr Cychwynnol i gwmni cydweithiwr neu gynrychiolydd undeb llafur ond ni fydd gan y cyfryw gydymaith hawl i annerch y Dyfarnwr Cychwynnol mewn unrhyw gyfarfod heb ganiatâd penodol y Dyfarnwr Cychwynnol.
114. Bydd y Cofrestrydd (neu berson â chymwysterau cyfreithiol a benodir gan y Cofrestrydd i weithredu fel Dirprwy Gofrestrydd) yn bresennol mewn unrhyw gyfarfod gyda’r Dyfarnwr Cychwynnol a’r Ymatebydd.
115. [Rheol wedi’i dileu]
116. Bydd gan y Dyfarnwr Cychwynnol hawl i dderbyn tystiolaeth lafar ond nid yw’n ofynnol iddo wneud hynny.
117. Bydd gan y Dyfarnwr Cychwynnol y gallu i ohirio unrhyw gyfarfod a bydd ganddo’r gallu i reoli’r achos ym mhob ffordd arall.
118. Bydd unrhyw achos gerbron y Dyfarnwr Cychwynnol yn dod i ben ar unwaith os bydd etholiad yn unol ag adran 11(3) o Bennod IX neu euogfarn droseddol berthnasol yn unol ag adran 11(4) o Bennod IX.
119. Bydd y Dyfarnwr Cychwynnol yn paratoi adroddiad, a fydd yn nodi a yw’r Dyfarnwr Cychwynnol yn canfod achos i’w ateb ai peidio (fel y’i diffinnir gan adran 11(1) o Bennod IX).
120. Bydd yr adroddiad yn cael ei anfon at yr Ymatebydd ac at y Cofrestrydd ac at unrhyw un arall a ddylai, ym marn y Dyfarnwr Cychwynnol ei dderbyn. Os bydd y Pwyllgor yn penderfynu nad oes achos i’w ateb, bydd copi o’r adroddiad hefyd yn cael ei anfon at y person a wnaeth yr atgyfeiriad.
121. Ar ôl canfod bod achos i’w ateb, os yw’r Dyfarnwr Cychwynnol o’r farn y gellid datrys y mater trwy gymodi neu ddulliau eraill o ddatrys gwrthdaro, gall y Dyfarnwr Cychwynnol ddatgan y farn honno a’r hyn sy’n sail iddi yn ei adroddiad. Ond ni fydd unrhyw ddatganiad barn o’r fath yn rhwymo’r Tribiwnlys.
122. Mewn unrhyw achos lle mae’r Dyfarnwr Cychwynnol yn dweud bod achos i’w ateb, bydd y Cofrestrydd o fewn 14 diwrnod o dderbyn yr adroddiad yn enwebu cyfreithiwr neu berson arall sydd â chymwysterau addas fel Proctor i gynnal yr achos gerbron y Tribiwnlys.
123. Dim mwy na 14 diwrnod ar ôl enwebu’r Proctor, rhaid i’r Llywydd enwebu 3 aelod (neu, yn unol ag adran 10(3) o Bennod IX, 5 aelod) i ffurfio Panel Tribiwnlys ac un o’r aelodau hynny i fod yn Gadeirydd Panel y Tribiwnlys. Gall y Llywydd enwebu ei hun fel aelod o Banel y Tribiwnlys (yn amodol ar Reol 124).
124. Ni ellir enwebu Dyfarnwr Cychwynnol ar atgyfeiriad i eistedd ar Banel y Tribiwnlys mewn perthynas â’r un atgyfeiriad.
125. Bydd y Cofrestrydd yn ddi-oed yn hysbysu’r Ymatebydd a’r Proctor pwy yw aelodau Panel y Tribiwnlys. Bydd unrhyw wrthwynebiad ysgrifenedig i gyfansoddiad Panel y Tribiwnlys yn cael ei anfon at y Llywydd i’w ystyried o fewn 14 diwrnod i’r hysbysiad a bydd gan y Llywydd y gallu i ddiwygio cyfansoddiad Panel y Tribiwnlys.
126. Gall y Llywydd arfer y gallu yn adran 15 o Bennod IX i alw pobl i weithredu fel aseswyr hyd at adeg penodi’r Cadeirydd a gall y Cadeirydd wneud hynny ar unrhyw adeg ar ôl hynny.
127. Heb fod yn fwy na 14 diwrnod ar ôl hysbysu enwebiad y Cadeirydd a’r aelodau, bydd y Proctor yn cyflwyno i’r Cofrestrydd ac yn cyflwyno hysbysiad ysgrifenedig i’r Ymatebydd o’r honiadau yn erbyn yr Ymatebydd, ynghyd â datganiadau ysgrifenedig o’r tystion a thystiolaeth y bwriedir dibynnu arnynt yn y gwrandawiad a chopïau o’r holl ddogfennau perthnasol.
128. Dim mwy na 14 diwrnod ar ôl cyflwyno’r datganiadau ysgrifenedig a’r dystiolaeth y cyfeirir atynt yn Rheol 127 y bydd y Proctor yn dibynnu arnynt, ar ôl ymgynghori â’r aelodau, os cred y Cadeirydd fod hynny’n angenrheidiol, bydd y Cadeirydd yn rhoi’r cyfryw gyfarwyddiadau ar gyfer rheoli’r achos yn ôl y gofyn.
129. Gall pob parti ofyn am gyfarwyddiadau pellach drwy Hysbysiad Cais yn unol â Rheol 21, unrhyw bryd. Bydd yr Hysbysiad Cais yn cael ei gyflwyno i’r Cofrestrydd a’i gyflwyno i’r partïon eraill. Heb fod yn hwyrach na 14 diwrnod ar ôl dyddiad cyflwyno’r Hysbysiad Cais, gall unrhyw barti gyflwyno sylwadau i’r Tribiwnlys.
130. Ni roddir rhybudd llai na 28 diwrnod o ddyddiad unrhyw wrandawiad terfynol i’r partïon.
131. Dim mwy na 7 diwrnod ar ôl derbyn rhybudd o ddyddiad y gwrandawiad terfynol, bydd pob parti yn cyflwyno i’r Cofrestrydd restr o enwau a chyfeiriadau’r tystion y maent yn dymuno eu galw i roi tystiolaeth lafar yn y gwrandawiad.
132. Bydd y gwrandawiad yn breifat oni bai bod y Tribiwnlys yn penderfynu, ar ôl rhoi cyfle i’r Proctor a’r ymatebwyr i gyflwyno sylwadau, er budd cyfiawnder y dylid cynnal y gwrandawiad yn gyhoeddus, ac os felly gall y Tribiwnlys yn ystod unrhyw ran o’r achos eithrio unrhyw unigolyn neu unigolion penodol fel y gwelont yn dda.
133. Ar ôl ymgynghori â’r Ymatebydd a’r Proctor gall y Cadeirydd benderfynu bod modd i unrhyw wrandawiad (gan gynnwys gwrandawiad terfynol) ddigwydd trwy gynhadledd fideo (ond nid cynhadledd ffôn).
134. Gwneir cofnod o’r achos gerbron y tribiwnlys.
135. Bydd gan yr Ymatebydd yr hawl i gael ei gynrychioli gan glerig, cyfreithiwr neu gwnsler gerbron y Tribiwnlys neu gan unrhyw berson lleyg y gall y Tribiwnlys ei ganiatáu.
136. Bydd baich y prawf a fydd yn ôl pwysau tebygolrwydd ar y Proctor
137. Ar ôl clywed y dystiolaeth bydd Panel y Tribiwnlys yn penderfynu naill ai i wrthod y Gŵyn neu i ganfod y Gŵyn neu unrhyw ran ohoni wedi ei phrofi.
138. Ar ôl rhoi cyfle i’r Ymatebydd gyflwyno sylwadau i Banel y Tribiwnlys a galw tystiolaeth i liniaru cosb, bydd y Tribiwnlys yn cyhoeddi unrhyw Ddyfarniad, Dedfryd neu Orchymyn y bydd Panel y Tribiwnlys yn ei benderfynu.
139. Bydd penderfyniad y Tribiwnlys ar y Gŵyn ac unrhyw Ddyfarniad, Dedfryd neu Orchymyn y Tribiwnlys yn cael ei wneud yn gyhoeddus yn y fath fodd ag y bydd Panel y Tribiwnlys, ar ôl rhoi cyfle i’r Ymatebydd gyflwyno sylwadau, yn ei ystyried yn addas ond bydd hysbysiad ysgrifenedig pa un bynnag yn cael ei gyflwyno i’r person a wnaeth yr atgyfeiriad ac Esgob yr Esgobaeth berthnasol (os yw’n wahanol) heb fod yn fwy na 7 diwrnod ar ôl i’r achos ddod i ben gerbron y Tribiwnlys. Yn ogystal, bydd y Cofrestrydd yn rhoi manylion cryno o’r holl Ddedfrydau a bennir gan y Tribiwnlys (ar ffurf a gymeradwywyd gan y Llywydd) i Bwyllgor Sefydlog y Corff Llywodraethol.
RHAN XV – Llys y Dalaith
140. Bydd apelau i Lys y Dalaith yn unol ag adran 32(1)(a) a (b) o Bennod IX yn cael eu cychwyn drwy Hysbysiad o Apêl yn y modd y darperir ar ei gyfer yn Rheolau 43 a 44.
141. Bydd apelau i Lys y Dalaith yn unol ag adrannau 32(1)(c) a (d) Pennod IX yn cael eu cychwyn drwy gyflwyno Hysbysiad o Apêl yn Ffurflen 3 Atodlen 1 i’r Cofrestrydd heb fod yn fwy na 28 diwrnod ar ôl dyddiad y penderfyniad sy’n destun yr apêl. Bydd yr apelydd ar yr un pryd yn cyflwyno copi o’r Hysbysiad i bob parti arall i’r achos y gwnaethpwyd y penderfyniad sy’n destun yr apêl.
142. Bydd achosion unol ag adran 32(2) o Bennod IX ac eithrio apelau yn cael eu cychwyn drwy gyflwyno Cais Gwreiddiol i’r Cofrestrydd yn Ffurflen 2 yn Atodlen 1.
143. Heb fod yn fwy na phedwar diwrnod ar ddeg ar ôl i’r Cofrestrydd dderbyn yr Hysbysiad Apêl neu Gais Gwreiddiol, bydd y Llys yn rhoi cyfarwyddiadau cychwynnol ynghylch y camau sydd i’w cymryd yn yr achos. Gall y cyfarwyddiadau hynny gynnwys cyfarwyddyd i’r partïon wneud sylwadau ysgrifenedig neu lafar ynghylch materion gweithdrefnol.
144. Heb fod yn fwy na phedwar diwrnod ar ddeg ar ôl derbyn yr Hysbysiad Apêl neu’r Cais Gwreiddiol, rhaid i’r Llywydd roi cyfarwyddiadau cychwynnol ynghylch y weithdrefn sydd i’w dilyn yn yr achos. Gall y cyfarwyddiadau ddarparu ar gyfer dyrannu’r achos i aelodau penodol o Lys y Dalaith.
145. Ac eithrio yn achos apelau oddi wrth y Tribiwnlys, cynhelir y gwrandawiadau mewn llys agored, oni bai bod y Llywydd yn cyfarwyddo fel arall.
146. Bydd gan unrhyw barti yr hawl i alw tystion ac i ymddangos yn bersonol neu gael eu cynrychioli gan glerig, cyfreithiwr neu gwnsler neu gan unigolyn lleyg y bydd y Llys yn barod i’w ganiatáu gerbron y Llys.
147. Bydd Dyfarniad y Llys yn cael ei draddodi yn ysgrifenedig a’i lofnodi gan y Llywydd, ac yn cael ei nodi gan y Cofrestrydd yng Nghofrestr Llys Taleithiol yr Eglwys yng Nghymru.
148. Bydd y Cofrestrydd yn hysbysu’r partïon o ddyfarniad y Llys cyn gynted ag y bo modd, a bydd hefyd yn anfon copi o unrhyw Ddyfarniad ysgrifenedig atynt.
149. Yn ddarostyngedig i Reol 150, bydd gan aelod o’r Eglwys yng Nghymru yr hawl i gael copi o unrhyw ddyfarniad ar ôl talu ffi briodol, ac eithrio y bydd gan yr Archesgob, Cofrestrydd yr Archesgob, unrhyw Esgob Esgobaethol ac unrhyw Farnwr Llys y Dalaith hawl i gael copi heb daliad.
150. Bydd dyfarniad ar apêl gan y Tribiwnlys yn cael ei wneud yn gyhoeddus mewn modd sy’n addas yn nhyb y Llys ar ôl rhoi cyfle i’r Ymatebydd wneud sylwadau ond pa un bynnag hysbysir yn ysgrifenedig y sawl a wnaeth yr atgyfeiriad ac Esgob yr Esgobaeth berthnasol (os yw’n wahanol) ymhen dim mwy na saith diwrnod ar ôl i’r apêl ddod i ben.