Siarter Urddas
Lawrlwytho:
Cyfl wyniad
Mae’r ysgrythurau Cristnogol yn ddogfennau moesegol dros ben. Mae’r Hen Destament yn sôn am drugaredd yn gyson, ac am ofal y dieithryn, tra bod y Testament Newydd, trwy Iesu ac awduron yr epistolau yn gosod safonau uchel ar gyfer y ffordd y dylem uniaethu â’n gilydd. Yn benodol, roedd Iesu yn feirniadol iawn o arweinwyr crefyddol yn camddefnyddio grym, a byddai’n gwrthwynebu hynny’n uniongyrchol. Roedd hefyd wedi gweld ei ddilynwyr yn ceisio gwneud iddo ddilyn yr agenda roedden nhw’n ei dewis. Mae’r ysgrythurau hefyd yn dysgu bod newid yn bosibl: mae gan y gair Groeg, metanoia, a gyfieithir yn aml fel edifeirwch, ystyr gweithredol. Mae bod yn edifar yn benderfyniad i newid meddwl, yn adduned i beidio â chyfeiliorni eilwaith, gan alw pob un ohonom i gymod ac adferiad.
Mae’r Eglwys yng Nghymru yn cydnabod bod cynnal cydberthnasau positif ac amgylchedd cynhwysol a chefnogol yn rhan hanfodol o’n lles a’n perfformiad. Mae’r ffordd rydyn ni’n trin ein gilydd yn cael effaith uniongyrchol ar ein cysylltiad â’n gilydd ac ar ein hymrwymiad, ein mwynhad, a’n heffeithiolrwydd.
Mae gan bawb yr hawl i gael eu trin gydag urddas a pharch ac mae hyn yn golygu bod gan bawb ddyletswydd a chyfrifoldeb hefyd i drin eraill gyda’r un urddas a pharch. Mae trin pobl mewn modd sy’n anghwrtais ac yn ddigywilydd mewn unrhyw ffordd neu sy’n achosi niwed yn tanseilio urddas yr unigolyn yn ogystal â bywyd a gweinidogaeth yr eglwys gyfan. Bydd perthynas wael yn gwneud i bobl deimlo eu bod yn cael eu tanbrisio a theimlo’n anhapus. Gallant achosi gofid, effeithio ar les corfforol a meddyliol, a chael effeithiau andwyol ar gydberthnasau cymdeithasol.
Mae’r hawl i gael eich trin gydag urddas a pharch yn cwmpasu pob agwedd ar ein bywyd eglwysig gan gynnwys y tu allan i’r gweithle nodweddiadol, er enghraifft, wrth weithio gyda’r gymuned, yng ngwasanaethau’r eglwys, mewn cyfarfodydd busnes a digwyddiadau cymdeithasol yn ymwneud â gwaith neu wrth ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol.
Mae’r Siarter Urddas hon yn berthnasol i grwpiau ac i unigolion hefyd. Mae’n darparu fframwaith o ddisgwyliadau ar gyfer rheoli sut rydym yn ymddwyn tuag at ein gilydd. Mae’n nodi safonau y dylai pawb eu cyrraedd. Y bwriad yw creu amgylchedd cefnogol lle mae camgymeriadau’n cael eu nodi a’u cydnabod gan arwain at ddysgu cadarnhaol a newid cynyddol mewn ymddygiad. Mae’r Siarter yn nodi sut mae dangos parch a gwerthfawrogiad at unigolion yn egwyddorion sylfaenol sy’n cynyddu amrywiaeth mewn modd cadarnhaol a ffyniant ein bywyd yn gyffredinol.
Bydd y siarter hon, a ategir gan Bolisi Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yr Eglwys yng Nghymru, yn llywio’r penderfyniadau a wnawn, y modd rydym yn cyfathrebu â’n gilydd ar draws yr eglwys gyfan ac yn llywio’n ffordd o greu diwylliant o barchu a derbyn ein gilydd. Mae angen i ni arfer y safonau uchel o berthynas a gofal am ein gilydd a amlygir yn yr ysgrythurau a chofleidio ysbryd metanoia fel y gall pob un ohonom gerdded llwybr cymod, adferiad, a pharch gyda’n gilydd.
Ymrwymiadau’r Eglwys yng Nghymru
Nid yw ymddygiad annerbyniol yn cael ei oddef. Byddwn yn cefnogi pobl os ydynt wedi dioddef ymddygiad sy’n peryglu hawl unrhyw unigolyn i gael ei drin yn barchus. Mae unrhyw un sy’n ymddwyn yn annerbyniol tuag at unigolyn arall (boed yn gydweithiwr, yn wirfoddolwr, neu yn aelod o’r gymuned) o bosibl yn gweithredu’n groes i Bolisi Gwrth-Fwlio, Aflonyddu ac Erledigaeth yr Eglwys yng Nghymru yn ogystal â’r Siarter Urddas hon, a gallai o bosibl gael ei ddwyn i gyfrif yn ffurfiol o dan y Polisïau Disgyblu.
Fframwaith cyfrifoldeb personol ar gyfer Parch o fewn yr Eglwys yng Nghymru
Disgwylir i bawb sy’n gysylltiedig â’r Eglwys yng Nghymru ymddwyn yn barchus a chwrtais ac mae gan yntau/hithau hawl i ddisgwyl ymddygiad parchus a chwrtais gan eraill.
Byddwn yn:
- Dangos cwrteisi, urddas, a pharch at bawb gan sicrhau bod hawliau pobl eraill yn cael eu parchu a’u cynnal.
- Ymwybodol o’r modd y mae ein hymddygiad ni ein hunain yn effeithio ar eraill gan ymroi i newid os achosir tramgwydd, neu os yw eraill yn dweud bod hynny’n debygol o ddigwydd. Fyddwn ni byth yn ymddwyn mewn modd a nodweddir gan fwlio, aflonyddu, neu erlid.
- Meithrin diwylliant o welliant parhaus, gan gydnabod y bydd gwelliant yn achosi newid ac y bydd y newid hwnnw’n aml yn cael ei herio yn y lle cyntaf. Rydym yn derbyn y dylid bod yn gwrtais a pharchus wrth herio, ond nid yw bwlio, aflonyddu neu erlid yn gyfystyr â herio.
- Hyrwyddo amgylchedd sy’n rhoi gwerth ar wahaniaethau pob unigolyn heb achosi embaras, gwrthdaro buddiannau, aflonyddu, braw, neu ofid i unrhyw unigolyn arall, nac yn gwahaniaethu’n annheg neu’n anghyfreithlon ar unrhyw sail.
- Ymwybodol o’r grym anghytbwys a all fodoli rhwng pobl sy’n gweithio, addoli, astudio, neu weinidogaethu’n agos at ei gilydd ond bod graddau eu swyddi ar lefelau gwahanol iawn gan ymddwyn yn ystyriol o hynny.
- Dangos cwrteisi ym mhob math o gyfathrebu a chymryd agwedd bositif, ymatebol, ac ystyriol wrth ymdrin ag eraill.
- Cydnabod ein camgymeriadau a dysgu’r gwersi.
- Cynnal agwedd broffesiynol at ein gwaith, ein gweinidogaeth, a’n bywyd cyffredinol a gweithredu bob amser tuag at eraill gyda didwylledd.
- Sicrhau bod gan bawb lwybr diogel i dynnu sylw at bryderon am ymddygiad pobl sy’n gweithio ar lefel uwch (pobl a all fod yn rheolwr llinell arnynt) naill ai yn eu hesgobaeth eu hunain neu yng nghyd-destun ehangach yr Eglwys yng Nghymru.
- Sicrhau bod gan bawb lwybr diogel i dynnu sylw at bryderon am ymddygiad y sawl maen nhw’n eu harwain naill ai yn eu hesgobaeth eu hunain neu yng nghyd-destun ehangach yr Eglwys yng Nghymru.
- Cynnal ein hunain yn unol â gweithdrefnau ac arweiniad yr Eglwys yng Nghymru.
Rhoi gwybod am ymddygiad annerbyniol
Os ydym yn teimlo’n anghyfforddus gydag ymddygiadau a brofi r gennym neu yr ydym yn dyst iddynt, byddwn yn hysbysu ein rheolwr llinell / Archddiacon, neu dîm Adnoddau Dynol y Cynrychiolwyr. Dylai pryderon am ymddygiad aelodau pwyllgor gael eu hadrodd yn y lle cyntaf i ysgrifennydd yr esgobaeth berthnasol neu i Brif Weithredwr Corff y Cynrychiolwyr. Dylai pryderon am ymddygiad esgob gael eu hadrodd i Archesgob Cymru. Dylai pryderon am Archesgob Cymru gael eu hadrodd i’r Uwch Esgob[1] ac i Brif Weithredwr Corff y Cynrychiolwyr hefyd.
Monitro ac adolygu
Bydd gwaith monitro ac adolygu yn ein helpu i asesu effeithiolrwydd ein Siarter Urddas.
Bydd y tîm Adnoddau Dynol yn monitro canlyniadau ac effeithiolrwydd y siarter hon.
Cyfrifoldeb y Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol yw monitro ac adolygu’r siarter hon a chyflwyno unrhyw newidiadau i’r Pwyllgor Pobl, y Pwyllgor Sefydlog a’r Corff Llywodraethol i’w cymeradwyo.
Y Gyfraith
- Deddf Cydraddoldeb 2010
- Deddf Diogelwch rhag Aflonyddu 1997
- Deddf Iechyd a Diogelwch yn y gwaith 1974
- Rheoliadau Rheoli Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1999
[1] Yr Uwch Esgob yw’r Esgob Esgobaethol sydd wedi gwasanaethau am y cyfnod hiraf, ac eithrio’r Archesgob.