Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
Mae'r Eglwys yng Nghymru wedi ymrwymo i ddiogelu. Ein nod yw cyflawni ein cyfrifoldebau i greu a chynnal amgylchedd diogel i bawb o fewn teulu ein heglwysi. Elfen allweddol o ddiogelu yw recriwtio clerigion, gweithwyr a gwirfoddolwyr yn fwy diogel a'r gofyniad bod pob clerig a chategorïau penodol o weithwyr a gwirfoddolwyr yn cael gwiriad cofnodion troseddol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) cyn arfer gweinidogaeth gyhoeddus neu ymgymryd â rhai dyletswyddau ar ran yr Eglwys yng Nghymru.
Bydd y dudalen hon yn ateb eich cwestiynau am wiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd:
- Canllawiau DBS
- Beth yw Gwasanaeth Diweddaru'r DBS?
- Beth yw'r llwybr ceisiadau sensitif?
- Lle gallaf ddod o hyd i fwy o wybodaeth am wiriadau DBS?
- Pwy yn yr Eglwys yng Nghymru fydd yn gweld fy ngwybodaeth bersonol?
- Beth yw polisi'r Eglwys yng Nghymru ar ymgysylltu cyn-droseddwyr?
Os na allwch ddod o hyd i'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch ar y tudalennau yma, cysylltwch â Phobl Fy Eglwys.
I gael rhagor o wybodaeth am wiriadau'r DBS, gweler tudalen we Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd Llywodraeth y DU.