Polisi'r Eglwys yng Nghymru ar ymgysylltiad cyn-droseddwyr
- Mae'r Eglwys yng Nghymru wedi ymrwymo i gyfle cyfartal i bob ymgeisydd am gyflogaeth, penodiadau clerigion a rolau gwirfoddolwyr, a'i nod yw dewis pobl i wneud y rolau hyn ar sail eu sgiliau, eu galluoedd, eu profiad, eu gwybodaeth, eu cymwysterau a'u hyfforddiant. Mae'r Eglwys yng Nghymru yn ymrwymo i beidio â gwahaniaethu'n annheg yn erbyn unrhyw un sy’n destun gwiriad cofnod troseddol ar sail collfarn neu wybodaeth arall a ddatgelwyd, ac efallai na fydd datgelu trosedd yn rhwystr i ymgysylltu.
- Fel sefydliad sy'n asesu addasrwydd ymgeiswyr ar gyfer swyddi sydd wedi'u cynnwys yng Ngorchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) gan ddefnyddio gwiriadau cofnodion troseddol a brosesir drwy'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG), mae'r Eglwys yng Nghymru yn cydymffurfio'n llawn â'r cod ymarfer ac yn ymrwymo i drin pob ymgeisydd am swyddi'n deg.
- Bydd yr Eglwys yng Nghymru ond yn gofyn i unigolyn ddarparu manylion euogfarnau a rhybuddiadau sydd gan yr Eglwys yng Nghymru hawl gyfreithiol i wybod amdanynt a lle y gellir gofyn yn gyfreithiol am dystysgrif DBS ar y lefel safonol neu fanylach (os yw'r swydd yn un sydd wedi'i chynnwys yng Ngorchymyn Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) 1975 fel y'i diwygiwyd, a lle bo'n briodol Rheoliadau Deddf yr Heddlu fel y'u diwygiwyd).
- Bydd yr Eglwys yng Nghymru ond yn gofyn i unigolyn am euogfarnau a rhybuddiadau nad ydynt wedi'u gwarchod.
- Mae'r Eglwys yng Nghymru wedi ymrwymo i drin ei staff, ei darpar staff neu ddefnyddwyr ei gwasanaethau yn deg, waeth beth fo'u hil, rhywedd, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol, cyfrifoldebau am ddibynyddion, oedran, anabledd corfforol/meddyliol neu gefndir troseddol.
- Mae polisi ysgrifenedig yr Eglwys yng Nghymru ar ymgysylltu â chyn-droseddwyr ar gael i bob ymgeisydd DBS ar ei wefan.
- Mae'r Eglwys yng Nghymru yn mynd ati i hyrwyddo cyfle cyfartal i bawb gyda'r cymysgedd cywir o dalent, sgiliau a photensial ac yn croesawu ceisiadau gan ystod eang o ymgeiswyr, gan gynnwys y rhai sydd â chofnodion troseddol.
- Mae'r Eglwys yng Nghymru yn dewis ymgeiswyr ar gyfer ymgysylltu yn seiliedig ar eu sgiliau, eu cymwysterau a'u profiad.
- Dim ond ar ôl i asesiad risg trylwyr ddangos bod un yn gymesur ac yn berthnasol i'r swydd dan sylw y cyflwynir cais am wiriad cofnod troseddol. Ar gyfer y swyddi hynny lle nodir bod gwiriad cofnod troseddol yn angenrheidiol, bydd pob ffurflen gais, hysbyseb swydd a briff recriwtio yn cynnwys datganiad y bydd cais am dystysgrif DBS yn cael ei gyflwyno os bydd yr unigolyn yn cael cynnig y swydd.
- Mae'r Eglwys yng Nghymru yn sicrhau bod pawb sy'n rhan o'r broses ymgeisio wedi cael eu hyfforddi'n briodol i nodi ac asesu perthnasedd ac amgylchiadau troseddau.
- Mae'r Eglwys yng Nghymru hefyd yn sicrhau eu bod wedi derbyn canllawiau a hyfforddiant priodol yn y ddeddfwriaeth berthnasol sy'n ymwneud ag ymgysylltu â chyn-droseddwyr, e.e. Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974.
- Yn y cyfweliad, neu mewn trafodaeth ar wahân, mae'r Eglwys yng Nghymru yn sicrhau bod trafodaeth agored a phwyllog yn cael ei chynnal wrth drafod unrhyw droseddau neu fater arall a allai fod yn berthnasol i'r swydd. Gallai methu â datgelu gwybodaeth sy'n uniongyrchol berthnasol i'r swydd y gwneir cais amdani arwain at dynnu cynnig ymgysylltu yn ôl.
- Mae'r Eglwys yng Nghymru yn hysbysu pob unigolyn sy’n destun cofnod troseddol a gyflwynir i'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd am fodolaeth y cod ymarfer ac yn sicrhau bod copi ar gael ar gais.
- Mae'r Eglwys yng Nghymru yn ymrwymo i drafod unrhyw fater a ddatgelir ar dystysgrif DBS gyda'r unigolyn sy'n gwneud cais am y swydd cyn tynnu cynnig amodol o ymgysylltu yn ôl.
Tachwedd 2017