Canllawiau - Ceisiadau trawsryweddol
Canllawiau a gwybodaeth am y llwybr ceisiadau sensitif ar gyfer ymgeiswyr trawsryweddol.
Cyhoeddwyd 21 Awst 2018
Oddi wrth: Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
Mae'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) yn cynnig gwasanaeth gwirio cyfrinachol ar gyfer ymgeiswyr trawsryweddol yn unol â Deddf Cydnabod Rhywedd 2004. Gelwir hyn yn llwybr ceisiadau sensitif, ac mae ar gael ar gyfer pob lefel o wiriad DBS - sylfaenol, safonol a manylach.
Mae'r llwybr ceisiadau sensitif yn rhoi'r dewis i ymgeiswyr trawsryweddol beidio â chael unrhyw wybodaeth am rywedd neu enw wedi’i ddatgelu ar eu tystysgrif DBS, a allai ddatgelu eu hunaniaeth flaenorol.
Y tîm ceisiadau sensitif
Os gofynnir i chi gwblhau gwiriad DBS a bod gennych hunaniaeth flaenorol nad ydych am iddi gael ei datgelu i'ch cyflogwr a/neu ar eich tystysgrif DBS, dylech ffonio neu e-bostio'r tîm ceisiadau sensitif penodol cyn cyflwyno'ch cais. Mae'r tîm yn brofiadol wrth ddelio ag achosion sensitif a bydd yn rhoi gwybod i chi am y broses a'r hyn sydd angen i chi ei wneud.
Sut i gysylltu â'r tîm ceisiadau sensitif
I gysylltu â'r tîm ceisiadau sensitif, ffoniwch 0151 676 1452 neu e-bostiwch sensitive@dbs.gov.uk. Nodwch fod gan y rhif ffôn beiriant ateb y tu allan i oriau hefyd lle gallwch adael eich manylion, a bydd aelod o'r tîm yn eich ffonio'n ôl.
Os ydych yn hapus i ddatgelu eich hunaniaeth flaenorol ar eich tystysgrif, nid oes angen i chi gysylltu â'r tîm ceisiadau sensitif a gallwch gyflwyno'r wybodaeth hon o dan adran 'unrhyw enwau eraill' eich cais.
Sylwer, bydd ymgeisydd sy'n defnyddio'r gwasanaeth gwirio cyfrinachol yn dal i lenwi'r un ffurflen gais ag unrhyw ymgeisydd arall.
Cyhoeddwyd 21 Awst 2018