Rhoi Ar-lein drwy Rhoi yn Syth
Fel rhan o'n hymateb i'r pandemig Covid, rydym wedi datblygu adnoddau ar-lein i'ch helpu chi i reoli eich rhodd i'ch eglwys neu'ch plwyf. Gallwch ddewis i ble mae'r rhodd yn mynd, faint i'w roi a pha mor rheolaidd yr hoffech roi.
- Dechrau rhoi i'ch Eglwys neu'ch Plwyf
- Ychwanegu rhodd newydd os ydych yn rhoddwr presennol
- Newid eich rhodd bresennol i'ch eglwys neu'ch plwyf
- Canslo eich rhodd i'ch eglwys neu'ch plwyf
Drwy roi, byddwch yn ein cefnogi gyda’n gwaith ledled Cymru, gan gynnwys:
- Clerigwyr a hyfforddiant ledled y wlad
- Ymweliadau bugeiliol â phobl sy'n agored i niwed
- Cyrsiau ar gyfer derbyn yn aelod
- Cysur i'r rhai sy’n galaru
- Pob bedydd a gynigir
- Pob pregeth a roddir
- Pob cymun a ddathlir
- Gweinidogaeth a chenhadaeth yr Eglwys ym mhob cymuned.
Rhodd Cymorth
Gallwch ychwanegu Rhodd Cymorth at eich rhodd hefyd.
Rhoi yn Syth yw'r ffordd y mae'r Eglwys yng Nghymru yn rheoli rhoddion Rhodd Cymorth. Mae Rhodd Cymorth yn gymhelliant treth yn y DU sy'n galluogi unigolion i gyfrannu at elusennau yn y Deyrnas Unedig mewn ffordd sy'n effeithiol o ran treth. Mae sefydlu taliad Rhoi yn Syth yn ffordd y gallwch helpu gwaith yr Eglwys yn uniongyrchol ar lefel leol neu genedlaethol.
Gyda Rhoi yn Syth:
- Chi, y rhoddwr, sydd bob amser yn rheoli
- Mae rheoli rhoddion yn haws i chi ac i'ch eglwys
- Nid oes angen poeni am chwilio am arian mân neu lyfr siec
- Mae eglwysi'n cael swm misol rheolaidd sy'n helpu gyda gwaith cynllunio
Os ydych yn drethdalwr, gallwch hawlio Rhodd Cymorth – gan gynyddu gwerth eich rhodd. I gael rhagor o fanylion am sut mae'r system Rhoi yn Syth yn gweithio, lawrlwythwch y daflen Rhoi yn Syth (PDF), gweler ein Cwestiynau Cyffredin neu cysylltwch â giftdirect@churchinwales.org.uk
Gweinyddir Rhoi yn Syth gan Gorff Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru, sy'n elusen gofrestredig. Elusen Gofrestredig rhif 1142813.