Rhôl etholwyr
Cofresetr Etholwyr a Diogelu Data: Canllawiau (Diweddarwyd Tachwedd 2020)
Cafodd y rheolau cyfansoddiadol sy'n ymwneud â'r Gofrestr Etholwyr ("y Gofrestr") eu diwygio a'u symleiddio gan y Corff Llywodraethol ym mis Tachwedd 2020. Mae'r gofyniad i ddiwygio'r Gofrestr yn flynyddol (ac arddangos hysbysiadau yn flynyddol) wedi dod i ben. Gall pobl wneud cais i gael eu hychwanegu (neu eu tynnu) o'r Gofrestr ar unrhyw adeg.
Ni ddylid arddangos y Gofrestr yn gyhoeddus yn yr eglwys. Yn hytrach, dylai rhestr o enwau (nid cyfeiriadau) sy'n ymddangos ar y Gofrestr fod ar gael i'w harchwilio ar gais unrhyw Aelod o'r Eglwys yng Nghymru. Mae aelod o'r Eglwys yng Nghymru yn golygu:
- unrhyw ddeiliad swydd yn yr Eglwys yng Nghymru;
- unrhyw Glerig a diacones sy'n cael pensiwn gan Gorff y Cynrychiolwyr;
- unrhyw berson y mae ei enw wedi'i gofnodi ar gofrestr etholwyr Plwyf;
- unrhyw aelod o'r Corff Llywodraethol a Chorff y Cynrychiolwyr ac unrhyw bwyllgorau ohonynt.
Mae ffurflen y Gofrestr Etholwyr ddiwygiedig, yn Gymraeg a Saesneg, ar gael i'w lawrlwytho isod ar ffurf PDF a Word. Gall plwyfi ddiwygio fersiwn Word o'r ffurflen i fewnosod manylion eu plwyf ond ni ddylid eu diwygio ymhellach.
Mae Hysbysiad Preifatrwydd drafft hefyd ar gael isod ar ffurf Word. Dylai fod ar gael i unrhyw un sy'n gwneud cais i fod ar y gofrestr etholwyr. Dylai enw'r plwyf a manylion cyswllt y swyddog plwyf perthnasol gael eu cynnwys yn yr hysbysiad hwn gan bob plwyf cyn ei argraffu.
Yn 2022 a phob pum mlynedd wedi hynny, mae'n ofynnol i bob plwyf 'ailysgrifennu' y Gofrestr yn gyfan gwbl. Rhaid i bob aelod o'r rhôl ailymgeisio, neu mae eu henwau'n cael eu tynnu o'r Gofrestr. Dylid arddangos dau hysbysiad yn yr eglwys fel rhan o'r broses honno:
Hysbysiad o Ddiwygiad Arfaethedig o'r Gofrestr – mae hyn yn rhoi rhybudd ffurfiol i'r gynulleidfa bod angen iddynt (ail)wneud cais i ymuno â'r Gofrestr. Dylai manylion y plwyf berthnasol a'r dyddiadau cau perthnasol ar gyfer gwneud cais gael eu mewnosod gan bob plwyf, ac yna dylid arddangos yr hysbysiad hwn ym mhob eglwys blwyf.
- Hysbysiad o Ddiwygiad Arfaethedig o'r Gofrestr (PDF)
- Hysbysiad o Ddiwygiad Arfaethedig o'r Gofrestr (Word)
Hysbysiad o Ddiwygio'r Gofrestr wedi’i Gwblhau – mae hyn yn rhoi hysbysiad ffurfiol i'r gynulleidfa bod y broses wedi'i chwblhau a bod y Gofrestr ddiwygiedig ar gael i'w harchwilio. Rhaid ei harddangos am o leiaf 15 diwrnod cyn y Cyfarfod Festri Blynyddol.