Ap Aelodaeth
Mae'r Ap Aelodaeth yn darparu ffordd syml o gofnodi nifer y bobl yn y gynulleidfa yn wythnosol.
Mae'r ap yn hawdd i'w ddefnyddio a gellir ei gyrchu ar eich cyfrifiadur neu ffôn clyfar.
Trwy gofnodi presenoldeb cyfredol, gall eglwysi gyfrannu at ddealltwriaeth ehangach o ba fentrau a phrosiectau sy'n ffynnu. Mae'r wybodaeth hon yn ein galluogi i gyfeirio adnoddau a chefnogaeth lle mae eu hangen fwyaf, gan helpu i wneud yn siŵr bod pob eglwys yn cael y cyfle i dyfu a ffynnu.
Sut i gael mynediad i'r Ap Aelodaeth
I ddechrau defnyddio'r Ap Aelodaeth i gofnodi data ar gyfer eich eglwys, cysylltwch â'r e-bost perthnasol ar gyfer eich esgobaeth i ofyn am gyfrif:
- Esgobaeth Llanelwy - membership.stasaph@cinw.org.uk
- Esgobaeth Bangor - membership.bangor@cinw.org.uk
- Esgobaeth Tyddewi - membership.stdavids@cinw.org.uk
- Esgobaeth Llandaf - membership.llandaff@cinw.org.uk
- Esgobaeth Trefynwy - membership.monmouth@cinw.org.uk
- Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu - membership.swanseaandbrecon@cinw.org.uk
Bydd angen i chi ddarparu eich enw, cyfeiriad e-bost, a rhestr o’r eglwysi yr hoffech gasglu data ar eu cyfer.
Ar ôl derbyn eich manylion mewngofnodi, gallwch gael mynediad i'r Ap Aelodaeth gan ddefnyddio'r ddolen ganlynol:
Sut i ddefnyddio'r Ap Aelodaeth
Er mwyn gwneud defnyddio'r Ap Aelodaeth mor syml â phosibl, rydym wedi darparu canllaw ysgrifenedig a thiwtorial fideo, gan eich galluogi i ddewis y fformat sy'n gweddu orau i'ch anghenion.