Diogelu
... mae’n gyfrifoldeb i bawb.
Ystyr diogelu yw atal niwed i blant ac oedolion mewn perygl drwy eu hamddiffyn rhag cael eu camdrin neu eu hesgeuluo.
Mae’r Eglwys yng Nghymru wedi ymrwymo i ddiogelu fel rhan annatod o’i bywyd, ei chenhadaeth a’i gweinidogaeth.
Bydd yr Eglwys yng Nghymru yn:
- hyrwyddo lles plant ac oedolion mewn perygl
- codi ymwybyddiaeth o ddiogelu yn yr Eglwys
- gweithio i atal camdriniaeth neu niwed rhag digwydd
- ymroi i amddiffyn ac ymateb yn dda i’r rhai sydd wedi eu cam-drin.
Mae Diogelu yn gyfrifoldeb i bawb.
Os oes gennych chi wybodaeth am sefyllfa ddiogelu lle mae plentyn neu oedolyn mewn perygl uniongyrchol neu angen sylw meddygol brys, ffoniwch y gwasanaethau brys nawr ar 999 – PEIDIWCH AG OEDI.
Neges ddiogelu gan Archesgob Cymru
Cam-fanteisio ar Blant a’u Hamddiffyn Ar-lein (CEOP)
Cyfarwyddiaeth yn yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol yw CEOP, ac mae’n gyfrifol am fynd i’r afael â cham-fanteisio a cham-drin plant a phobl ifanc yn rhywiol. Mae CEOP yn helpu plant a phobl ifanc dan 18 oed sydd wedi eu gorfodi, eu camarwain, neu’n cael eu rhoi dan bwysau i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol o unrhyw fath. Gall hyn ddigwydd ar-lein ac oddi ar-lein. Mae Canolfan Ddiogelwch CEOP yn cynnig gwybodaeth a chyngor i blant a phobl ifanc, rhieni a gofalwyr a gweithwyr proffesiynol. Gallwch fynd i Ganolfan Ddiogelwch CEOP ac adrodd yn uniongyrchol i CEOP drwy glicio ar fotwm CEOP.
Ni ddylid cysylltu â CEOP ar fater bwlio ar-lein neu bryderon ar-lein eraill. Dylid cynghori plant a phobl ifanc i siarad ag oedolyn y maent yn ymddiried ynddo, a/neu eu cyfeirio at Childline, os ydynt yn awyddus i gael sgwrs â rhywun am sut maent yn teimlo.