Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)
Recriwtio Mwy Diogel
Mae’r Eglwys yng Nghymru yn ymrwymo i ddilyn camau diogelu wrth recriwtio pob clerig, aelod staff a gwirfoddolwr gan fod hynny’n elfen bwysig o amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl a’u cadw’n ddiogel rhag niwed. Mae gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn helpu’r Eglwys i wneud penderfyniadau recriwtio mwy diogel ac yn atal pobl anaddas rhag dod i gysylltiad â phlant ac oedolion sydd mewn perygl.
Ar gyfer ymholiadau DBS, ewch i dudalen gwybodaeth DBS yr Eglwys yng Nghymru neu cysylltwch â thîm gweinyddol DBS yr Eglwys yng Nghymru yn DBSAdmin@churchinwales.org.uk