Polisi, Canllawiau a Ffurflenni Diogelu Taleithiol
Mae’r Eglwys yng Nghymru’n hyrwyddo ac yn annog arferion diogel yn y gwaith wrth ymdrin â phlant ac oedolion mewn perygl ac yn awyddus i greu a chynnal diwylliant sefydliadol sy’n adlewyrchu pwysigrwydd diogelu. Mae lles plant ac oedolion mewn perygl yn bwysig bob amser ac yn cael blaenoriaeth dros bob ystyriaeth arall. Mae diogelu wrth wraidd ein ffydd ac yn nodwedd annatod o fywyd Cristnogol ein heglwysi. Mae’r Eglwys yng Nghymru yn ei gwneud yn gwbl glir bod disgwyl i’r holl glerigion, staff a gwirfoddolwyr fod wedi eu trwytho yn y Polisi Diogelu a’r canllawiau cysylltiedig ac yn eu deall. Ymhellach, disgwylir iddynt ddilyn cyngor proffesiynol y Swyddogion Diogelu Taleithiol.
Diweddariadau Polisi a Gweithdrefnau
Polisïau, canllawiau a gweithdrefnau diogelu’r Eglwys yng Nghymru
Ffurflenni diogelu’r Eglwys yng Nghymru
- Ffurflen A - Ffurllen Cynsyniad Gyffredinol (Word)
- Ffurflen B - FFurflen Cydsyniad ar Gyfer Gweithgareddau Penodol (Word)
- Ffurflen C - Ffurflen Cydsyniad ar Gyfer Tynnu a Defnyddio Delweddau (Word)
- Ffurflen D - Ffurflen Cydsyniad ar Gyfer Cyfarhrebu'n Electronig â Phlant (Word)
- Ffurflen E - Cais i Gymeradwyo Gweithgareddau (Word)
- Ffurflen F - Cofnod o Sesiwn (Word)
- Ffurflen G - Adrodd am Bryger, Honiad neu Ddatgeliad Diogelu (Word)
- Ffurflen H - Cytundeb ar Gyfer Defynddio TGCh (Word)
- Ffurflen I - Datganiad Gweithdrefnau Diogelu (Word)
- Ffurflen J - FFurlen Gais (Word)
- Ffurflen K - Cais am Eirda Enghreifftiol (Word)
- Fferflen L - Cytundeb Enghreifftion Gyda Throseddwr Hysbys (Word)
- Ffurflen M - Rhestr o BlantGyda Ffurflenni Cydsyniad Diogelu Cysylltiedig a Gwdlhawid iw Defnyddio ar Gyfer Teithiau Preswyl-Digwyddiadau (Word)
- Ffurflen N - Rhestr o Oruchgwylwyr gyda Gwiriadau Diogelu Goruchwy;iwr ar gyfer Teithiau Preswyl - Digwyddiadau (Word)
- Ffurflen O - Safonau Teithiau a Digwyddiadau ar gyfa Goruchwylwyr Plant (Word)
- Ffurflen P - Sofonau Teithiau Preswyl a Digwyddiadau ar gyfer Plant (Word)
- Ffurflen Q - Cadw'n Ddiogel (Word)
- Fferflen R - Templed Asesiad Risg (Word)
- Canllaw 1 - Arfer Da ym maes Diogelu (Word)
Hyfforddiant Diogelu
Strategaeth Hyfforddiant Diogelu (PDF)
Fframwaith Hyfforddiant Diogelu (PDF)
Gweithdrefnau Diogelu Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi Gweithdrefnau Diogelu Cymru fel canllawiau statudol i unrhyw un sy’n gweithio gyda phlant neu oedolion yng Nghymru, boed mewn swydd gyflogedig neu ddi-dâl. Mae Gweithdrefnau Diogelu Cymru’n adeiladu ar ganllawiau statudol Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i ddarparu canllawiau a disgwyliadau clir ar gyfer diogelu oedolion a phlant.
Mae’r Gweithdrefnau’n datgan yn glir bod “Diogelu’n fusnes i bawb” ac yn egluro beth sy’n ofynnol gan bobl mewn swyddi gwahanol.
Mae Gweithdrefnau Diogelu Cymru ar gael yn hawdd mewn dwy ffordd:
- Yn ddigidol, ar blatfform sy’n cael ei gefnogi gan Gofal Cymdeithasol Cymru yn https://www.diogelu.cymru/
- Fel Ap am ddim ar gyfer Android ac iOS