Ymwybyddiaeth o Ddiogelu yr Eglwys yng Nghymru Modiwl A
Cyflwyno'r cwrs
Mae cwrs Ymwybyddiaeth o Ddiogelu yr Eglwys yng Nghymru wedi’i anelu at bob un ohonom o fewn ein cymunedau Eglwysig, gyda’r nod o’ch harfogi chi i helpu gwneud yr eglwys – a chadw’r eglwys – yn fan diogel.
Mae diogelu yn greiddiol i fywyd yr eglwys, yn greiddiol i genhadaeth a gofal fugeiliol, ac mae’n ymwneud cymaint â diwinyddiaeth, yr ysgrythur a gweinidogaeth ag y mae’n ymwneud â’r gyfraith.
Mae wyth sesiwn yn rhan o’r cwrs hwn:
- Cyflwyniad
- Beth yw Diogelu?
- Diogelu a’r Efengyl
- Pwy sydd mewn perygl (Plant ac Oedolion)
- Mathau o gamdriniaeth
- Cyd-destunau risg eraill
- Beth i wneud os (& Cyfrinachedd)
- Casgliad
Mae gan y cwrs hwn Amcanion Dysgu penodol. Golyga’r rhain y byddwch, o gwblhau’r cwrs, yn gallu:
- Esbonio’r term Diogelu ac arddangos dealltwriaeth sylfaenol o’r cyfreithiau sy’n ymwneud â diogelu.
- Deall diogelu yng nghyd-destun yr eglwys.
- Adnabod arwyddion o wahanol fathau o niwed, camdriniaeth ac esgeulustod o blant ac oedolion mewn perygl.
- Arddangos sut caiff unigolion eu gwarchod rhag niwed, camdriniaeth ac esgeulustod.
- Adnabod eich rôl chi eich hun mewn perthynas â diogelu a’i bod yn ddyletswydd arnoch i adrodd ynghylch pryderon.
- Gwybod pa gamau i’w cymryd os byddwch yn dyst i gamdriniaeth neu os bydd rhywun yn dweud wrthoch am gamdriniaeth.
- Adnabod ffiniau cyfrinachedd.