Diogelu a chymorth i oroeswyr
Mae’r Eglwys yng Nghymru’n cydnabod yr angen i weini’n sensitif ac ystyriol ar bobl sydd wedi dioddef neu oroesi camdriniaeth a niwed o bob math, boed yn y presennol neu’r gorffennol. Mae’r Eglwys wedi ymrwymo i ddarparu gofal bugeiliol priodol a chefnogol i ddioddefwyr a goroeswyr, eu teuluoedd ac unrhyw un arall sydd wedi’i effeithio drwy gysylltiad. Yn benodol, caiff unrhyw un a gafodd ei gam-drin yn yr Eglwys wrandawiad trugarog a gwylaidd, amgylchedd diogel i fyfyrio ar ei brofiad a chynigir iddo gymorth a gofal i ddiwallu ei anghenion. Bydd taith pob unigolyn yn unigryw iddo ef neu hi, a bydd y pethau sy’n bwysig, sy’n eu helpu ac yn rhoi gobaith a chynhaliaeth iddynt yn wahanol ym mhob achos. Wrth geisio darparu’r gofal a’r cymorth hwn, mae’n hanfodol bod llais y dioddefwr neu’r goroeswr yn cael ei glywed a bod ei wybodaeth am ei brofiad ei hun yn llywio’n hymateb.
Mae Cymorth Goroeswyr wedi'i amlinellu yn ein canllawiau.
Ymateb yn Dda i Oroeswyr Camdriniaeth
Safe Spaces
Gwasanaeth cymorth annibynnol di-dâl yw Safe Spaces sy’n darparu mannau diogel a phersonol i unrhyw un sydd wedi’i gam-drin drwy eu perthynas naill ai ag Eglwys Loegr, yr Eglwys Gatholig yng Nghymru a Lloegr neu’r Eglwys yng Nghymru.
Gallwch gysylltu â thîm Safe Spaces drwy’r dulliau canlynol:
- Gwefan: www.safespacesenglandandwales.org.uk
- Ffô: 0300 303 1056 (peiriant ateb ar gael y tu allan i oriau agor)
- E-bost: safespaces@fear-less.org.uk
Caethwasiaeth Fodern
Mae’r Eglwys yng Nghymru wedi ymrwymo i archwilio pob cyfle i gyfrannu at ddileu caethwasiaeth fodern trwy atal, darganfod a chynnig cymorth i ddioddefwyr.
Mae’r Eglwys yng Nghymru’n gweithio gyda The Clewer Initiative a rhwydweithiau ehangach yr eglwysi i godi ymwybyddiaeth o gaethwasiaeth fodern, nodi dioddefwyr a helpu i ddarparu cymorth a gofal i ddioddefwyr. Gweler ein datganiad ar gaethwasiaeth fodern hefyd.
New Pathways
- Gwefan: http://www.newpathways.org.uk
- Ffôn: 01685 379 310
Cwmni elusennol cofrestredig yw New Pathways sy’n darparu amrywiaeth o wasanaethau cwnsela ac eiriolaeth arbenigol i fenywod, dynion, plant a phobl ifanc sydd wedi’u heffeithio gan drais neu gamdriniaeth rywiol.
The Survivors Trust
- Gwefan: www.thesurvivorstrust.org
- Ffôn: 0808 801 0818
Asiantaeth ymbarél yw The Survivors Trust ar gyfer gwasanaethau trais a chamdriniaeth rywiol arbenigol yn y DU ac mae’n darparu gwybodaeth, cyngor, cymorth a therapi i oroeswyr.
MACSAS (Ministry and Clergy Sexual Abuse Survivors)
- Gwefan: www.macsas.org.uk
- Ffôn: 0808 801 0340
Mae MACSAS yn cefnogi menywod a dynion sydd wedi’u cam-drin yn rhywiol, yn blant neu’n oedolion, gan weinidogion, clerigion, neu eraill dan gochl yr Eglwys. Mae MACSAS yn cefnogi Goroeswyr sydd wedi aros yn eu cymunedau Cristnogol a’r rhai sydd wedi gadael.
NAPAC (National Association for People Abused in Childhood)
- Gwefan: www.napac.org.uk
- Ffôn: 0808 801 0331
Mae NAPAC yn cynnig cymorth i oedolion sydd wedi goroesi pob math o gamdriniaeth yn eu plentyndod, yn cynnwys camdriniaeth gorfforol, rywiol, emosiynol neu esgeulustod.
Broken Rites
- Gwefan: www.brokenrites.org
Grŵp rhyngwladol yw Broken Rites sy’n cynnig cyd-gymorth a chefnogaeth i bartneriaid a gŵyr/gwragedd clerigion, gweinidogion a Swyddogion Byddin yr Eglwys sydd wedi gwahanu neu ysgaru.
Llinell Gymorth Byw Heb Ofn
- https://welshwomensaid.org.uk/what-we-do/live-fear-free-helpline/
- info@livefearfreehelpline.wales
- 0808 8010 800
Os ydych chi, aelod o’r teulu neu ffrind, neu unrhyw un arall rydych chi’n poeni amdanynt wedi dioddef camdriniaeth ddomestig neu drais rhywiol, gallwch gysylltu â llinell gymorth Byw Heb Ofn 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos, i gael cyngor a chymorth neu drafod eich opsiynau.
National LGBT+ Abuse helpline
Rydym yn cefnogi pobl LHDT sydd wedi dioddef camdriniaeth a thrais.
Respect Phoneline
Dewiswch stopio: Rydym yn darparu cymorth ar gyfer cyflawnwyr trais domestig.
Replenished Life
Mae ‘Replenished Life’ yn elusen annibynnol sydd yn cefnogi y rhai sydd wedi profi camdriniaeth a thrawma o fewn ffydd.