Cyrsiau
Dod o hyd i ysgol
Ysgolion
Mae 26,000 o blant a phobl ifanc ledled Cymru yn mynd i mynd i un o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru.
Mae yna 152 o ysgolion cynradd ac uwchradd ledled Cymru, ac mae’r 6 esgobaeth Anglicanaidd yn cefnogi dysgu o safon uchel yn ein hysgolion.
Fel darparwr addysg statudol, rydym yn gweithio ochr yn ochr ag awdurdodau lleol mewn partneriaeth gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae hyn yn ein galluogi i gefnogi gyrfaoedd mwy na 5,000 o athrawon a staff cymorth, a meithrin arweinwyr ysgolion ar gyfer y dyfodol. Mae gennym hefyd gysylltiadau eciwmenaidd cryf, gan weithio mewn partneriaeth gyda chymunedau ffydd eraill trwy Cytûn, a chyda’r Eglwys Babyddol sydd hefyd yn ddarparwr statudol llefydd ysgolion yng Nghymru.
Mae arwydd o’n partneriaeth gyda chymunedau lleol i’w weld yng ngwaith llywodraethwyr ysgolion. Rydym yn gyfrifol am benodi llywodraethwyr sylfaen, sy’n bont rhwng ysgolion a’r gymuned leol.
Mae ysgolion yr Eglwys yng Nghymru i’w cael yn y rhan fwyaf o ardaloedd awdurdodau unedol, gan gynnig amrywiaeth i bobl Cymru sydd bob amser wedi bod yn arloeswyr ym maes addysg. Mae’n hysgolion yn rhai cynhwysol wrth natur, yn gwasanaethu plant a phobl ifanc mewn ystod o gymunedau. Maent hefyd yn ffurfio canolbwynt cymunedol naturiol, boed hynny yng nghanol dinasoedd neu mewn pentrefi gwledig.
Mae’n hysgolion wedi ymrwymo i ddathlu treftadaeth gyfoethog ffydd, iaith a diwylliant ein gwlad, gan gynnig yr addysg orau un i blant Cymru mewn cyd-destun Cristnogol diogel a chadarn.
Athrofa Padarn Sant
Mae Athrofa Padarn Sant yn ddatblygiad eofn ac arloesol gan yr Eglwys yng Nghymru i ailwampio ffurfiant a hyfforddiant ledled Cymru.
Mae’r Eglwys yng Nghymru wedi ymrwymo i wireddu ei Gweledigaeth 2020 o fyw cenhadaeth weddnewidiol Duw o gariad at Gymru, o fewn cryfderau’r traddodiad Anglicanaidd, gan ymateb i anghenion y gymdeithas gyfoes.
I wneud hyn mae arni angen ffurfiant a hyfforddiant sydd wedi’u seilio ar genhadaeth i holl bobl Duw. Gan hynny mae wedi creu Athrofa Padarn Sant i fod yng nghanol holl ffurfiant a hyfforddiant yr Eglwys – i aelodau cynulleidfaoedd sy’n tyfu yn eu disgyblaeth, i’r rhai sy’n byw yn lleol ac a gomisiynwyd i wasanaethu, y rhai sy’n paratoi ar gyfer gweinidogaethau trwyddedig newydd megis Arloeswyr, Bugeiliaid a Gweithwyr Ieuenctid a Phlant, y rhai sy’n paratoi i gael eu hordeinio, ac ar gyfer datblygiad parhaus ei holl weinidogion. Bwriedir hefyd i’r Athrofa roi hwb newydd i ymchwil a myfyrdod ynglŷn â diwinyddiaeth a chenhadaeth Cymru, yn ogystal â bod yn rhan o waith meddwl a dysgu diwinyddol ehangach yr eglwys ar draws ffiniau enwadau a gwledydd.
Nid lle mo’r Athrofa, na choleg yn yr ystyr draddodiadol. Mae’n gymuned o ffurfiant ar gyfer cenhadaeth, sy’n gweithio mewn partneriaeth ag esgobion, esgobaethau a chymunedau eglwysi lleol. Mae’r cyfan y mae’n ei wneud wedi’i wreiddio mewn ysbrydolrwydd sy’n dyfnhau wrth inni ganiatáu i Dduw ein ffurfio’n bobl ffyddlon, gobeithiol a dewr, yn cael ein cynnal a’n hysbrydoli mewn gweddi.
Dewch i wybod mwy, gweddïwch drosom, ymunwch â ni.