Canllawiau ar Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg
Datganiad yr Eglwys yng Nghymru ar Addysg
Mae gan Gymru ddiwylliant cyfoethog ac unigryw gyda'i hiaith, ei harferion, ei gwyliau, ei cherddoriaeth a'i gwleidyddiaeth ei hun. Mae'n ddiwylliant lle mae llawer o safbwyntiau amrywiol yn cydfodoli mewn cymdeithas sydd wedi'i rhwymo gan werthoedd cyffredin democratiaeth a rheolaeth y gyfraith. Mae'r amrywiaeth hon yn creu cymdeithas ddeinamig a bywiog, sy'n adlewyrchu’r Gymru gyfoes, lle caiff credoau cymdeithasol, diwylliannol, crefyddol ac ysbrydol o bob math eu pwyso a’u mesur, a’r rhai sy’n eu harddel eu trin â pharch ac yn gyfartal.
Mae dathlu a thanategu’r amrywiaeth hon yn hanfodol i ethos ysgolion yr Eglwys yng Nghymru, ac mae angen ei hymgorffori ym mhob agwedd ar y cwricwlwm drwy brofiadau dysgu cyfoethog. Trwy gydol ei hanes, mae Cymru wedi croesawu pobl sy’n arddel crefyddau gwahanol ac sy'n dod o ddiwylliannau gwahanol, a thrwy addysgu pwnc crefydd, gwerthoedd a moeseg, mae'r Eglwys yng Nghymru yn cefnogi dull gweithredu sy'n hyrwyddo dealltwriaeth a pharch tuag at bob crefydd, credo a bydolygon anghrefyddol, gan adlewyrchu'r amrywiaeth sy'n bodoli yng nghymdeithas flaengar Cymru.
Mae ein dull gweithredu yn dathlu addysg greadigol, dosturiol sy'n croesawu ac yn grymuso, gan sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu cefnogi i ymgysylltu â materion "pwrpas, ffydd a chred" gan gyflawni eu rolau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas sy'n barod i gymryd rhan lawn mewn bywyd a gwaith fel dinasyddion moesegol, gwybodus Cymru a'r byd.
Is-lensys
Mae modd defnyddio is-lensys i edrych ar gysyniadau Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg, a'u harchwilio. Maen nhw'n gydgysylltiedig ac ni fwriedir iddyn nhw fod yn unedau nac yn destunau. Mae'r is-lensys yn cyd-fynd â chanllawiau Llywodraeth Cymru ac maen nhw’n cynnig cyfleoedd ychwanegol i ysgolion yr Eglwys yng Nghymru hefyd.
Adnoddau Ychwanegol
Dolenni Defnyddiol
Adnoddau'r Eglwys yng Nghymru
Caiff ein hadnoddau ychwanegol a'n dolenni eu harchwilio i sicrhau eu bod yn cefnogi canllawiau'r Eglwys yng Nghymru ar gyfer datblygu'r cwricwlwm.
Daw dyfyniadau'r Beibl o'r Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004.