Cynllunio eich Canllawiau Cwricwlwm
Mae Crefydd, Gwerthoedd a Moeseg (CGM) yn rhan o Faes Dyniaethau. Mae’r Maes hwn yn cwmpasu daearyddiaeth; hanes; CGM; astudiaethau busnes. Mae’r disgyblaethau hyn yn rhannu llawer o themâu, cysyniadau a sgiliau trosglwyddadwy cyffredin, ond mae ganddynt eu corff eu hunain o wybodaeth a sgiliau hefyd.
Nid oes gan rieni hawl i ofyn am dynnu eu plentyn o wersi CGM yn y Cwricwlwm i Gymru.
Ein barn ni: Mae’r Eglwys yng Nghymru’n croesawu’r ffaith bod CGM yn ofyniad statudol o’r Cwricwlwm i Gymru ac yn orfodol ar gyfer pob dysgwyr o 3 i 16 oed.
Ein barn ni: Mae’n hanfodol bod penaethiaid, uwch arweinwyr a llywodraethwyr yn deall gofynion cyfreithiol CGM yn y Cwricwlwm i Gymru. Gellir gweld y rhain yn adran CGM y Crynodeb o ddeddfwriaeth.
Ysgrifennwyd y Canllawiau CGM hyn gan ymarferwyr ac arbenigwyr addysg crefyddol i ddarparu cymorth ychwanegol ar sut y gellir addysgu CGM o fewn y Maes Dyniaethau. Mae’n pwysleisio natur annatod y pwnc o fewn y Maes hwn ac yn amlinellu’r cyfraniad unigryw ac arbennig y mae’r pwnc yn ei wneud i’r Cwricwlwm i Gymru.
Mae rhagor o wybodaeth am statws cyfreithiol y canllawiau hyn yn y crynodeb o’r ddeddfwriaeth ar gyfer Fframwaith y Cwricwlwm i Gymru.
Ein barn ni: Mae’r canllawiau ategol hyn ar gyfer ysgolion yr Eglwys yng Nghymru’n adlewyrchu’r canllawiau ar CGM yn y Cwricwlwm i Gymru yn agos gyda rhywfaint o esboniad pellach ar gyfer ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir. Mae’r diwygiadau hyn yn ymddangos ar ôl y geiriau ‘Ein barn ni:’. Mae’r diwygiadau wedi’u hysgrifennu gan aelodau o dîm addysg yr Eglwys yng Nghymru ynghyd ag ymarferwyr o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru.
Cynhyrchwyd y canllawiau hyn gyda chymorth Llywodraeth Cymru.
Mae’r canllawiau CGM yn y Maes Dyniaethau wedi’u hysgrifennu i fod yn hygyrch i bawb sy’n gyfrifol am gynllunio’r cwricwlwm. Y rhai a ddylai ystyried y canllawiau wrth gynllunio cwricwlwm yw:
- pennaeth ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir
- corff llywodraethu ysgol a gynhelir neu ysgol feithrin a gynhelir
- darparwr addysg feithrin a ariennir nas cynhelir
- yr athro sy’n gyfrifol am uned cyfeirio disgyblion
- pwyllgor rheoli uned cyfeirio disgyblion
- person sy’n darparu addysgu a dysgu i blentyn, yn rhywle heblaw ysgol a gynhelir, ysgol feithrin a gynhelir neu uned cyfeirio disgyblion, drwy rinwedd trefniadau a wnaed o dan adran 19A o Ddeddf Addysg 1996 (c. 56)
- awdurdod lleol yng Nghymru
Yn ogystal, gall y canllawiau fod yn ddefnyddiol i ymarferwyr, consortia rhanbarthol, cyrff dyfarnu, Estyn, undebau athrawon, sefydliadau crefyddol, sefydliadau anghrefyddol, rhieni a gofalwyr a chyrff eraill yng Nghymru sydd â diddordeb mewn CGM. Nid oes rhaid i’r cyrff hyn dalu sylw i’r canllawiau ond gallent fod yn ddefnyddiol ac addysgiadol iddynt er mwyn cael dealltwriaeth well o gynnwys cwricwlwm lleoliad penodol.
Gan fod CGM yn bwnc y penderfynir arno’n lleol, mae’r maes llafur cytunedig yn nodi beth ddylid ei addysgu mewn gwersi CGM ym mhob un o 22 awdurdod lleol Cymru i’r ysgolion hynny sy’n addysgu’r maes llafur cytunedig.
Mae’r canllawiau hyn felly wedi’u cyfeirio hefyd at y rhai sy’n gyfrifol am baratoi maes llafur cytunedig, y mae’n rhaid iddynt ystyried y canllawiau hyn, yn cynnwys:
- yr awdurdod lleol sy’n gyfrifol am fabwysiadu’r maes llafur cytunedig a luniwyd gan y Gynhadledd Maes Llafur Cytunedig
- y Gynhadledd Maes Llafur Cytunedig
- corff o unigolion a sefydlwyd gan Weinidogion Cymru i baratoi maes llafur cytunedig os nad yw’r Gynhadledd Maes Llafur Cytunedig wedi gallu gwneud hynny
Mae gan bob awdurdod lleol ddyletswydd gyfreithiol i alw Cynhadledd Maes Llafur Cytunedig i adolygu’r maes llafur ac argymell maes llafur priodol i’r awdurdod lleol ei fabwysiadu. Dylid adolygu’r maes llafur cytunedig ar gyfer pob awdurdod lleol bob pum mlynedd.
Unwaith y bydd maes llafur cytunedig wedi’i fabwysiadu, mae gofyn i bob ysgol a lleoliad a gynhelir dalu sylw i’r maes llafur cytunedig, yn cynnwys ysgolion o natur grefyddol, wrth gynllunio elfen maes llafur cytunedig eu darpariaeth CGM.
Pe bai awdurdod yn dymuno mabwysiadu neu addasu’r canllawiau hyn fel eu maes llafur cytunedig gallant wneud hynny.
Gall CGM yn y Cwricwlwm i Gymru gynnig cyfraniad unigryw i wireddu’r pedwar diben ar gyfer pob dysgwr. Felly, mae’r canllawiau hyn yn cefnogi ysgolion a lleoliadau i ddatblygu darpariaeth ar gyfer CGM sy’n paratoi dysgwyr yng Nghymru fel dinasyddion cyfrifol a gwybodus ar gyfer bywyd a gwaith mewn byd amrywiol sy’n newid yn gyflym.
Mae’r canllawiau CGM yn rhan o’r Maes Dyniaethau ac yn cynnwys amrywiaeth o ddulliau disgyblaethol y gall dysgwyr eu defnyddio i ymgysylltu’n gritigol ag amrywiaeth eang o gysyniadau crefyddol ac anghrefyddol. Er enghraifft, gall dulliau disgyblaethol sy’n berthnasol i CGM gynnwys astudiaethau crefyddol, athroniaeth, diwinyddiaeth, cymdeithaseg, seicoleg ac anthropoleg. Mae yna gysylltiadau cryf hefyd rhwng CGM a disgyblaethau eraill yn y Dyniaethau yn ogystal â gyda Meysydd eraill.
Mae cysyniadau’n bwysig yn CGM gan eu bod yn syniadau canolog sy’n helpu dysgwyr i wneud synnwyr o brofiad dynol, y byd naturiol a’u lle eu hunain ynddo a dehongli hynny. Bydd dysgwyr yn cael cyfleoedd i archwilio cysyniadau CGM drwy amrywiaeth o is-lensys sy’n rhan o lens ddisgyblaethol CGM. Mae’r cysyniadau a’r is-lensys hyn i’w gweld yn y canllawiau CGM hyn.
Ein barn ni: Mae’r canllawiau hyn gan yr Eglwys yng Nghymru’n cefnogi’r farn bod CGM yn y Cwricwlwm i Gymru’n wrthrychol, beirniadol aa amlblwyfol, o ran cynnwys ac addysgeg ac nad yw’n ymwneud â gwneud dysgwyr yn ‘grefyddol’ neu’n ‘anghrefyddol’. Mae’n dweud bod rhaid i addysgu CGM hyrwyddo bod yn agored a diduedd a pharch i eraill.
Mae’r geiriau ‘gwrthrychol, beirniadol a phlwraliaethol’ yn dod o gyfraith achosion y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Mae Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 yn sicrhau bod rhaid cynnig cyfleoedd drwy CGM i bob dysgwr ymgysylltu â gwahanol grefyddau a chredoau athronyddol anghrefyddol yn eu hardal leol ac yng Nghymru, yn ogystal ag yn y byd ehangach.
Un o nodweddion pedwar diben y cwricwlwm yw y bydd dysgwyr yn cael eu cefnogi i ddatblygu’n unigolion iach, hyderus, sy’n barod i fyw bywydau llawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas. Mae gan Ddatganiadau o’r hyn sy’n bwysig a CGM lawer o gyfraniadau gwerthfawr ac unigryw i’w gwneud. Mae’r datganiadau o beth sy’n bwysig i’w gweld yng Nghod yr Hyn sy’n Bwysig ac yn cynnwys y cysyniadau allweddol ar gyfer pob Maes.
Yng nghyd-destun CGM, mae datblygiad ysbrydol yn ymwneud â’n gallu naturiol i edrych am, mynegi a deall beth sy’n bwysig mewn bywyd, ac i gwestiynu pwy ydyn ni a pham ein bod ni yma. Gall datblygiad ysbrydol gynnwys crefydd ond nid oes rhaid iddo.
Ein barn ni: Mae gan dimau addysg yr Eglwys yng Nghymru fframwaith clir y gall ysgolion ei ddefnyddio i alluogi pob disgybl i wneud cynnydd pellach gyda’i ddatblygiad ysbrydol.
Dylai’r dull o ymdrin ag ysbrydolrwydd yn ysgolion yr Eglwys yng Nghymru ganolbwyntio ar bedair agwedd: yr hunan, eraill, harddwch a chwestiynau am rywbeth y tu hwn i’r cyffredin. Esbonnir hyn yn llawnach yn y fframwaith isod.
Hunan: Mae dysgwyr ysbrydol yn dod yn gynyddol ymwybodol o’r cysyniad o’r hunan, bod yn ymwybodol o’r person mewnol ar ffordd y mae hyn yn siapio canfyddiad yr unigolyn o’i hun fel bod dynol unigryw.
Mae dysgwyr ysbrydol yn myfyrio ar y berthynas sydd ganddynt â’u hymdeimlad o fod yn berson unigryw.
Eraill: Mae dysgwyr ysbrydol yn dod yn gynyddol ymwybodol o’r cysyniad o eraill, gan ddangos empathi, consyrn a thrugaredd o ran sut i drin eraill.
Mae dysgwyr ysbrydol yn myfyrio ar sut mae eu gwerthoedd a’u hegwyddorion yn effeithio ar eu perthynas ag eraill.
Harddwch: Mae dysgwyr ysbrydol yn dod yn gynyddol ymwybodol o’r cysyniad o fyd corfforol a chreadigol, gan ddatblygu perthynas gynyddol gyda harddwch drwy’r gallu i ymateb yn emosiynol i brofiadau rhyfeddod y byd naturiol a chanlyniadau creadigrwydd dynol.
Mae dysgwyr ysbrydol yn archwilio eu dealltwriaeth o harddwch a’i effaith ar eu canfyddiad o’r byd a’u perthynas ag ef.
Y Tu Hwnt: Mae dysgwyr yn dod yn gynyddol ymwybodol o’r cysyniad o’r tu hwnt, gan ddatblygu perthynas gynyddol â’r trosgynnol a’r gallu i archwilio profiadau y tu hwnt i bethau pob dydd.
Mae dysgwyr ysbrydol yn chwilio am ystyr yn eu bodolaeth ac am eu cyflymder yn y darlun mwy.
Y syniad sy’n cysylltu’r pedair agwedd hyn yw “perthnasoedd”. Rydym yn disgrifio perthynas â’n hunain, rydym yn siarad am hunan-hunaniaeth, am adnabod ein hunain. Rydym yn disgrifio perthynas ag eraill, rhai ohonynt rydym yn eu hadnabod ac eraill nad ydym wedi’u cyfarfod erioed. Mae’r cysylltiad ehangach hwn yn dyfnhau’n dynoliaeth. Rydym yn disgrifio perthynas â harddwch, rydym yn siarad am olygfeydd trawiadol a cherddoriaeth sy’n ein symud ac mae’n bwysig bod dysgwyr yn archwilio’r profiadau hyn drostynt eu hunain i ganfod eu hystyr a’u harwyddocâd arbennig iddyn nhw wrth gael y profiadau hyn. Rydym yn disgrifio perthynas â’r tu hwnt, yr anghyffyrddadwy. Rydym yn datblygu ymwybyddiaeth gynyddol o’n lle yn y byd a bod gan fywyd broses.
Nid yw’r pedair agwedd hyn ar wahân i’w gilydd: maent yn ymblethu ac yn gorgyffwrdd ei gilydd. Mae’r cysyniad o berthynas yn awgrymu bod yna ymateb emosiynol yn rhan o’r cyfan ac mae cariad wrth wraidd hyn. Wrth iddynt archwilio eu hysbrydolrwydd efallai y bydd dysgwyr yn sôn am Dduw ond nid o angenrheidrwydd, ond dylai Duw fod yn amlwg ym mhob agwedd i Gristnogion.
Yn y pen draw, ysbrydolrwydd yw’r weithred o fod yn gwbl ddynol drwy ddatgelu ein hunain, ein perthynas ag eraill, â harddwch a’r tu hwnt a gwneud hynny drwy gariad. (1)
Bwriad yr adran hon yw cefnogi pawb sy’n gyfrifol am gynllunio CGM gorfodol yn y Maes hwn. Mae’n berthnasol iawn i ymarferwyr, lleoliadau a Chynghorau Cynghori Sefydlog, a gall gefnogi Cynadleddau Meysydd Llafur Cytunedig i ddatblygu’r maes llafur cytunedig hefyd.
Mae’n rhaid i brosesau cynllunio a datblygu’r cwricwlwm gynnwys cyfleoedd ar gyfer dysgu ac ystyried themâu trawsbynciol yn y Cwricwlwm i Gymru. Y themâu trawsbynciol yw: gyrfaoedd a phrofiadau cysylltiedig â gwaith, hawliau dynol, amrywiaeth, cyd-destunau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol a pherthnasoedd ac addysg rhywioldeb. Mae’n bwysig hefyd bod y sgiliau trawsgwricwlaidd sef llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol, yn ogystal â’r sgiliau sy’n hanfodol i’r pedwar diben (creadigrwydd ac arloesi, meddwl beirniadol a datrys problemau, effeithiolrwydd personol, cynllunio a threfnu) yn cael eu hystyried wrth gynllunio’r cwricwlwm.
Ein barn ni: Bydd angen i bob ysgol yr Eglwys yng Nghymru a gynhelir benderfynu sut mae CGM yn gweithio orau o fewn eu dull o ymdrin â’r Maes Dyniaethau. Er enghraifft, gall cynllun y cwricwlwm fod yn integredig, amlddisgyblaethol, rhyngddisgyblaethol neu’n ddisgyblaethol. Dylid gwerthuso cynllun y cwricwlwm yn rheolaidd yn unol â chanllawiau Fframwaith y Cwricwlwm i Gymru a gofynion y canllawiau ategol hyn gan yr Eglwys yng Nghymru
Mae’n rhaid i bob ysgol, yn cynnwys ysgolion gwirfoddol a gynhelir dalu sylw i’w maes llafur cytunedig lleol ar gyfer CGM wrth gynllunio eu cwricwlwm.
Ein barn ni: Dylai ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ddyrannu isafswm o 5% a hyd at 10% o amser y cwricwlwm i Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg. Mae’r isafswm hwn (5%) yn gyfwerth i 1 awr 15 munud yr wythnos, 8-9 awr bob hanner tymor neu 48 awr bob blwyddyn academaidd. Mae’n rhaid i bob ysgol gynllunio ei chwricwlwm lleol ei hun a gall ddewis addysgu gwersi CGM ar wahân am flwyddyn gyfan. Fodd bynnag, mae natur integredig, amlddisgyblaethol a rhyngddisgyblaethol y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig, a themâu trawsbynciol, yn golygu bod yna gyfleoedd da i gynnwys dull thematig o ymdrin â Chrefydd, Gwerthoedd a Moeseg.
Pan fydd dull thematig yn cael ei fabwysiadu, mae’n bwysig bod CGM mewn ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir yn fan cychwyn i gynllunio’r cwricwlwm ar gyfer cyfran sylweddol o’r themâu. Pan na fydd hyn yn wir, dylai ymarferwyr ystyried sut mae agweddau ar CGM yn perthyn yn ystyrlon i’r thema ddewisedig. Mae’n bwysig nad yw CGM allan o gyd-destun naill ai o ran dysgu blaenorol dysgwyr na Chrefydd, Gwerthoedd a Moeseg, sy’n cael ei astudio ar wahân.
Yn ôl y Ddeddf, mae’n rhaid i ysgolion gwirfoddol a reolir gynllunio cwricwlwm sy’n cyd-fynd â’r maes llafur cytunedig lleol. Fodd bynnag, rydym yn gobeithio y bydd penaethiaid ac arweinwyr CGM yn ein hysgolion yn gweld y cyngor cwricwlwm hwn yn ddefnyddiol hefyd. Er nad oes gofynion penodol ar gyfer dyraniadau amser i Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg mewn ysgolion gwirfoddol a reolir, dylid ystyried sut mae addysgu CGM yn cyfrannu at ethos yr ysgol.
Mae’r pedwar diben yn ganolog i’r Cwricwlwm i Gymru. Rhain yw’r ysgogwyr allweddol ar gyfer cynllunio’r cwricwlwm ac, felly, dylent fod yn ffocws i bob datblygiad cwricwlwm. Mae’r pedwar diben yn nodi’r dyheadau ar gyfer pob dysgwr.
Erbyn eu bod yn 16 oed, dylent fod yn:
- ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy'n barod i ddysgu gydol eu bywydau
- gyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae rhan lawn mewn bywyd a gwaith
- ddinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd
- unigolion iach, hyderus sy'n barod i fyw bywyd cyflawn fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas
Ein barn ni: Mae Datganiad ar Addysg yr Eglwys yng Nghymru’n amlinellu gweledigaeth ar gyfer addysg a dysgwyr yn eu hysgolion sy’n cyd-fynd yn glir â dyheadau’r pedwar diben.
Yn y Maes Dyniaethau, mae’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig yn cyfrannu at wireddu pedwar diben y cwricwlwm.
Mae CGM gorfodol yn gwneud cyfraniad pwysig ac unigryw at gefnogi’r pedwar diben drwy roi cyfleoedd i ddysgwyr:
- ymgysylltu â chwestiynau sylfaenol ac athronyddol am ystyr, arwyddocâd a phwrpas bywyd, ac am natur meddyliau pobl a’r bydysawd, a’r cysylltiadau rhyngddynt ac archwilio’r cwestiynau hyn
- gwneud ymholiadau ac ymgysylltu â ffynonellau doethineb ac athroniaethau sy’n eu hannog i archwilio’r heriau, y cyfleoedd ac ymatebion pobl yng nghyd-destun eu cynefin, yn lleol yng Nghymru a’r byd ehangach, yn ogystal â’u cefnogi i werthuso eu safbwyntiau eu hunain a rhai pobl eraill
- datblygu a mynegi eu safbwyntiau gwybodus eu hunain, sy’n eu paratoi ar gyfer dysgu gydol oes mewn byd amlblwyfol ac amrywiol
- defnyddio eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o gredoau ac arferion crefyddol ac anghrefyddol sefydliadol a phersonol i feddwl yn feirniadol am eu gwerthoedd eu hunain ac am sut y byddant yn gwneud penderfyniadau cymdeithasol a phersonol pwysig
- archwilio’r ffyrdd y mae crefydd ac argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol wedi dylanwadu ar brofiad pobl gydol hanes, fel eu bod yn gallu gwneud synnwyr o’u lle yn y byd, dychmygu dyfodol posibl a chreu atebion cyfrifol sy’n ystyried anghenion a hawliau amrywiol pawb
- gwerthuso a defnyddio tystiolaeth o amrywiaeth o ffynonellau crefyddol ac anghrefyddol i ymgysylltu â materion moesegol a moesol, o’r gorffennol a chyfoes, sy’n herio eu gwybodaeth a’u gwerthoedd. Mae hyn yn galluogi dysgwyr i ddatblygu dealltwriaeth o grefydd a chred, diwylliant, cymuned, eu cynefin, Cymru a’r byd ehangach nawr ac yn y gorffennol, sy’n gallu helpu i feithrin ymdeimlad o le a pherthyn
- ymateb yn sensitif i grefydd ac argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol ac archwilio credoau ac arferion pobl yn eu cymuned, yng Nghymru a’r byd ehangach, a sut y gallant effeithio ar eu gweithredoedd a’u dewisiadau
- datblygu gwerthoedd sicr a sefydlu eu credoau a’u hysbrydolrwydd moesegol drwy archwilio crefydd ac argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol ar amrywiaeth o faterion, a all yn ei dro eu galluogi i ffurfio perthnasoedd cadarnhaol yn seiliedig ar ymddiriedaeth a chyd-barch
- trafod a myfyrio ar eu safbwyntiau eu hunain a rhai pobl eraill ar amrywiaeth o faterion, sy’n eu helpu i wella eu lles meddyliol, emosiynol ac ysbrydol drwy ddatblygu hyder, gwydnwch ac empathi
Cyn i unrhyw gynllunio manwl allu dechrau, mae’n hanfodol bod ymarferwyr ac arweinwyr ysgolion yn ystyried datganiadau’r Dyniaethau o’r hyn sy’n bwysig, sy’n cyfrannu at wireddu pedwar diben y cwricwlwm gan ddysgwyr.
Dylai ymarferwyr ac arweinwyr ystyried y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig mewn meysydd eraill hefyd lle gallai CGM gyfrannu at ddysgu.
Cysyniadau CGM
Mae’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig yn y Maes hwn yn galluogi dysgwyr i archwilio ac ymgysylltu’n feirniadol ag amrywiaeth eang o gysyniadau crefyddol ac anghrefyddol, y dylid eu hystyried yn ofalus ac a ddylai fod yn sail i gynllun y cwricwlwm.
Wrth ystyried cysyniadau CGM yn eu cwricwlwm, dylai ysgolion a lleoliadau:
Ein barn ni: datblygu dealltwriaeth o’r ddisgyblaeth a’i gwerth, yn enwedig yng nghyd-destun ysgol Eglwys yng Nghymru
- darparu cyd-destunau cyfoethog i ddysgwyr fod yn chwilfrydig, i archwilio cwestiynau sylfaenol a chwilio am ddealltwriaeth o’r cyflwr dynol, yn ogystal â darparu cyfleoedd i ddysgwyr fyfyrio a chael eu syfrdanu a’u rhyfeddu, mewn amrywiaeth o gyd-destunau ystyrlon yn y byd go iawn
- datblygu cyd-destunau cyfoethog ar gyfer ymchwilio i gysyniadau crefydd, crefydd ymarferol, syniadau am y byd, seciwlariaeth, ysbrydolrwydd, safbwynt ar fywyd, hunaniaeth a diwylliant i ddatblygu dealltwriaeth gynhwysfawr dysgwyr o gredoau ac arferion crefyddol ac anghrefyddol
- darparu cyd-destunau cyfoethog ar gyfer ymgysylltu â chysyniadau cred, ffydd, gwirionedd, pwrpas, ystyr, gwybodaeth, ffynonellau awdurdod, yr hunan, tarddiad, marwolaeth a’r gwirionedd eithaf, a all alluogi dysgwyr i ddatblygu dealltwriaeth o gredoau personol a sefydliadol am natur bywyd a’r byd o’u cwmpas
- datblygu cyd-destunau cyfoethog ar gyfer archwilio cysyniadau hunaniaeth, perthyn, perthnasoedd, cymuned, cynefin, amrywiaeth, amlblwyfaeth a rhyng-gysylltedd, a all alluogi dysgwyr i gael ymdeimlad o’r hunan a datblygu ysbrydolrwydd
- archwilio cysyniadau cydraddoldeb, cynaliadwyedd, goddefgarwch, rhyddid, rhagfarn, gwahaniaethu, eithafiaeth, da a drwg, sy’n gallu rhoi cipolwg i ddysgwyr ar yr heriau a’r cyfleoedd y mae cymdeithasau’n eu hwynebu
- myfyrio ar gysyniadau a chyd-destunau crefyddusrwydd, ymarfer, defod, traddodiad, addoliad, sancteiddrwydd, symbolaeth a dathliad i ddatblygu dealltwriaeth dysgwyr o grefydd a chred
- darparu cyd-destunau cyfoethog ar gyfer archwilio cysyniadau moeseg, moesoldeb, cyfiawnder, cyfrifoldebau, awdurdod, dynoliaeth, hawliau, gwerthoedd a gweithredu cymdeithasol.
Ein barn ni: Dylai ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir yr Eglwys yng Nghymru gynnwys y cysyniadau allweddol canlynol o Gristnogaeth yn eu cwricwlwm CGM:
- Duw, y Drindod
- Y greadigaeth
- Cwymp
- Ymgnawdoliad
- Achubiaeth
- Teyrnas Dduw / Yr Efengylau / Bywyd a Dysgeidiaeth Iesu
- Testunau crefyddol / y Beibl
- Mynegiannau o Ffydd
- Hunaniaeth
- Ymrwymiad
- Cymuned/Addoliad
- Cydraddoldeb a Chyfiawnder
Bydd llawer o’r cysyniadau/meysydd astudio uchod yn fan cychwyn ar gyfer trafodaeth a chymhariaeth ehangach gyda chrefyddau a chredoau ac arferion anghrefyddol eraill. Bydd eraill yn fwy addas ar gyfer dull rhyngddisgyblaethol neu amlddisgyblaethol. Bydd angen addysgu rhai ar wahân.
Ni ddylid addysgu’r cysyniadau ar eu pen eu hunain ar unrhyw oedran neu gam datblygu, ond dylid ailedrych arnynt gydol taith y dysgwr ac adeiladu arnynt yn gynyddol fel dull o ddyfnhau dealltwriaeth ac ehangu gwybodaeth.
Ein barn ni: Pan mae ysgolion yn datblygu eu cynlluniau cwricwlwm ar gyfer CGM, mae’n bwysig hefyd eu bod yn ystyried Datganiad yr Eglwys yng Nghymru ar Addysg (insert link) gan gyfeirio at ddathlu ac ategu’r amrywiaeth sy’n bodoli yng Nghymru. Dylai ysgolion ystyried:
- pa enghreifftiau, digwyddiadau, cyfraniadau, straeon am unigolion a grwpiau pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig sydd wedi’u cynnwys yn eu cwricwlwm CGM ar hyn o bryd
- sut mae’r enghreifftiau hyn yn deillio o ardal yr ysgol a’u rhoi yng nghyd-destun Cymru amlddiwylliannol a hanes Cymru
- sut mae cyfraniadau pobl dduon, Asiaidd ac o leiafrifoedd ethnig yn cael eu cynrychioli a’u gosod yn eu cwricwlwm a’u deunyddiau addysgu CGM
- pa adnoddau newydd y gellid eu cyflwyno i wella proffil diwylliant pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig neu gyfraniadau cyfoes a phrofiad ymarferol yn eu cwricwlwm a’u deunyddiau addysgu CGM
- sut y gallant ysgogi dysgwyr i gynrychioli ac archwilio eu treftadaeth eu hunain a chael y deunydd hwn i ddylanwadu ar eu haddysgu
- sut y gallai cyfraniadau unigolion du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig ffurfio prosiect trawsgwricwlaidd, gyda CGM yn fan cychwyn iddo a chreu cysylltiadau â mwy nag un Maes.
Ein barn ni: Mae’r canllawiau hyn yn cefnogi ysgolion yr Eglwys yng Nghymru i ystyried is-lensys o safbwynt Cristnogol, gan ddatblygu cwricwlwm sy’n wrthrychol, beirniadol ac amlblwyfol.
Mae’r canllawiau hyn yn canolbwyntio ar lens ddisgyblaethol CGM ac yn gallu helpu ysgolion a lleoliadau i ystyried cynnwys perthnasol ar gyfer cynllun eu cwricwlwm. Yn y canllawiau hyn mae’r lens CGM yn cael ei rhannu’n nifer o is-lensys y gellir gweld cysyniadau CGM trwyddynt a’u harchwilio. Mae’r is-lensys wedi’u rhyng-gysylltu ac nid oes bwriad iddynt fod yn unedau na phynciau. Maent yn seiliedig ar gorff cydnabyddedig o wybodaeth ar gyfer CGM yng Nghymru ac yn helpu i sicrhau ehangder a dyfnder digonol ar gyfer CGM yn y Dyniaethau. Mae’r is-lensys yn cynnig eu hunain i’r holl ddatganiadau o’r hyn sy’n bwysig ac yn berthnasol i Feysydd eraill ac i wireddu’r pedwar diben hefyd. Maent yn helpu ysgolion a lleoliadau i ddeall agweddu arwyddocaol ar CGM a nodi cyfleoedd ar gyfer CGM yn y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig i gefnogi datblygiad y cwricwlwm.
Mae is-lensys ym maes CGM yn cynnwys:
- Chwilio am ystyr a phwrpas
Sut mae pobl yn ymateb i gwestiynau dyfnach bywyd er mwyn deall y cyflwr dynol. - Y byd naturiol a phethau byw
Sut a pham y mae pobl yn dangos consyrn a chyfrifoldeb am y byd ac yn cael eu syfrdanu a’u rhyfeddu gan fyd natur. - Hunaniaeth a pherthyn
Beth sydd yn ein gwneud ni fel pobl, cymunedau a dinasyddion sy’n byw mewn byd amrywiol. - Awdurdod a dylanwad
Sut a pham mae gwahanol fathau o awdurdod yn dylanwadu ar fywydau pobl. - Perthnasoedd a chyfrifoldeb
Sut mae pobl yn byw gyda’i gilydd a pham mae datblygu perthnasoedd iach yn bwysig. - Gwerthoedd a moeseg
Sut a pham mae pobl yn gwneud dewisiadau moesol a sut mae hyn yn dylanwadu ar eu gweithredoedd. - Taith bywyd
Beth mae pobl yn ei brofi fel rhan o daith bywyd a sut mae’r profiadau hyn yn cael eu cydnabod.
Mae cynnydd dysgwyr yn ysgogwr pwysig ar gyfer cynllunio’ch cwricwlwm. Mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig ac yn y disgrifiadau o ddysgu ar gyfer y Dyniaethau, sy’n helpu i ddarparu canllawiau manylach i ymarferwyr.
Er mwyn datblygu cyd-ddealltwriaeth o gynnydd o 3 i 16 oed mewn perthynas â CGM yn y Maes hwn, darperir ‘taith ddysgu’ enghreifftiol ar gyfer pob is-lens. Mae’r teithiau dysgu hyn yn dangos sut y gall dysgwr ddatblygu ei ddealltwriaeth o gysyniadau mewn CGM drwy’r gwahanol is-lensys rhyng-gysylltiedig, a gallant fod yn ddefnyddiol wrth gynllunio eich cwricwlwm, ynghyd â’r disgrifiadau dysgu ar gyfer y Dyniaethau. Maent wedi ystyried y disgrifiadau dysgu ac annog ysgolion a lleoliadau i fod yn greadigol a hyderus wrth gynllunio ar gyfer cynnydd dysgwyr mewn CGM wrth gynllunio eu cwricwlwm. Nid yw’r teithiau dysgu’n darparu set wahanol o ddisgrifiadau dysgu, nac yn darparu pwyntiau cyfeirio neu feini prawf penodol ar gyfer cyflymdra’r cynnydd, ac ni ddylid eu defnyddio felly. Adlewyrchir yr holl ddatganiadau o’r hyn sy’n bwysig yn y Maes hwn ar draws y teithiau dysgu.
Taith ddysgu enghreifftiol 1: chwilio am ystyr a phwrpas
Mae’r daith ddysgu hon yn seiliedig ar ddau ddatganiad o’r hyn sy’n bwysig yn bennaf: ‘Mae digwyddiadau a phrofiadau dynol yn gymhleth a chânt eu hamgyffred, eu dehongli a’u cynrychioli mewn gwahanol ffyrdd’ a ‘Mae cymdeithasau dynol yn gymhleth ac yn amrywiol, ac maen nhw’n cael eu llywio gan weithredoedd a chredoau pobl’. Mae yna gysylltiadau â datganiadau eraill o’r hyn sy’n bwysig a chyda Meysydd eraill y gellir eu harchwilio drwy’r is-lens hon.
Bydd y disgrifiadau dysgu’n eich helpu i ddarparu canllawiau manylach ar gynnydd.
Mae’r daith hon yn ymwneud â ‘chwestiynau dyfnach bywyd’. Yng nghamau cynnar dysgu, mae dysgwyr yn dechrau gofyn cwestiynau dyfnach am eu hunain ac eraill, ac am y byd naturiol a’r pethau byw o’u hamgylch (er enghraifft, ‘Pwy ydw i?’ a ‘Pam mae pethau’n marw?’), yn ogystal â gwrando ar farn pobl eraill. Ymhellach ar hyd eu taith, maent yn casglu a thrafod dealltwriaeth grefyddol ac anghrefyddol ac yn ystyried eu barn, safbwyntiau a dehongliadau eu hunain ac eraill gyda mwy o soffistigeiddrwydd. Yn ddiweddarach, gellir rhannu, dadlau a gwerthuso materion gwirionedd, ystyr, pwrpas a gwerth wrth i ddysgwyr ymgysylltu’n ddyfnach ag amrywiaeth o gwestiynau heriol ar y materion hyn (er enghraifft, bodolaeth da a drwg, natur dioddef, y defnydd o gyfoeth). Gallant gydnabod bod ymatebion i gwestiynau o’r fath yn gymhleth, yn ogystal ag ymarferol ac amhendant yn aml.
Mae’r daith yn ymwneud â ‘dylanwad, dilyniant a newid’ hefyd. Yng nghamau cynnar eu taith ddysgu, mae dysgwyr yn dechrau gwybod a mynegi beth maen nhw’n ei hoffi a ddim yn ei hoffi, beth sy’n eu gwneud yn hapus a thrist, a beth yw eu gobeithion a’u breuddwydion am y dyfodol, yn ogystal ag ymateb i syniadau pobl eraill. Ymhellach ar hyd eu taith, gallant adnabod a thrafod dealltwriaeth grefyddol ac anghrefyddol yn ymwneud â theimladau ac anghenion pobl, yn cynnwys beth sy’n dylanwadu ar y rhain a sut y cânt eu mynegi yn eu bywyd eu hunain a bywydau pobl eraill. Yn ddiweddarach, gall dysgwyr ddod i adnabod dilyniant a newid mewn ymatebion i gwestiynau am ystyr a phwrpas mewn bywyd, yn eu bywydau eu hunain ac mewn cymdeithas a diwylliant, ar draws amser a lle. Maent yn gwerthuso gwerthoedd cyfoes perthnasol a syniadau o hunanwerth o safbwyntiau crefyddol ac anghrefyddol.
Mae’r daith hon yn ymwneud ag ‘ymchwiliadau a chyfraniadau dynol’ hefyd. Yng nghamau cynnar eu taith ddysgu, mae dysgwyr yn dechrau dangos ymwybyddiaeth o’r bobl a’r ‘syniadau mawr’ sydd wedi siapio eu llefydd lleol a’u bywydau bob dydd. Ymhellach ar hyd eu taith, maent yn dychmygu a thrafod beth allant ei gyfrannu nawr ac yn y dyfodol, ac yn ymgysylltu’n gynyddol â’r berthynas rhwng dyhead ac ymarfer, gan ystyried amrywiaeth o gyfraniadau o ffynonellau crefyddol ac anghrefyddol. Yn ddiweddarach, wrth i ddealltwriaeth dysgwyr ddatblygu, gallant wneud cysylltiadau cynyddol gymhleth rhwng agweddau ar iechyd a lles, anghenion a gofynion y byd heddiw a’u chwiliad eu hunain am ystyr a phwrpas.
Taith ddysgu enghreifftiol 2: y byd naturiol a phethau byw
Mae’r daith ddysgu hon yn seiliedig ar ddau ddatganiad o’r hyn sy’n bwysig yn bennaf: ‘Mae ein byd naturiol yn amrywiol a deinamig, wedi’i ddylanwadu gan brosesau a gweithredoedd dynol’ a ‘Mae dinasyddion gwybodus, hunanymwybodol yn mynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu dynoliaeth, ac yn gallu cymryd camau ystyrlon ac egwyddorol’. Mae yna gysylltiadau â datganiadau eraill o’r hyn sy’n bwysig a chyda Meysydd eraill y gellir eu harchwilio drwy’r is-lens hon.
Bydd y disgrifiadau dysgu’n eich helpu i ddarparu canllawiau manylach ar gynnydd.
Mae’r daith hon yn ymwneud â ‘gofal, consyrn a pharch’. Yng nghamau cynnar eu taith ddysgu, mae dysgwyr yn dechrau dangos gofal a pharch tuag at y byd naturiol a phethau byw o’u cwmpas. Ymhellach ar hyd eu taith, gallant ddeall sut a pham maen nhw ac eraill yn dangos gofal, consyrn a pharch, yn ogystal ag ystyried safbwyntiau crefyddol ac anghrefyddol. Yn ddiweddarach, gyda mwy o soffistigeiddrwydd, gall dysgwyr godi ac ystyried cwestiynau moesegol yn feirniadol sy’n ymwneud â gweithgarwch dynol, natur a lle; gan ymgysylltu ag ymatebion crefyddol, anghrefyddol a’u hymatebion eu hunain.
Mae’r daith yn ymwneud â ‘syfrdandod a rhyfeddod’ hefyd. Yng nghamau cyntaf eu taith ddysgu, mae dysgwyr yn dechrau rhyfeddu at fyd natur a chael eu syfrdanu ganddo, sy’n datblygu wrth iddynt archwilio’r byd o’u hamgylch, gan arsylwi a gofyn cwestiynau. Ymhellach ar hyd eu taith, mae ymdeimlad o gymhlethdod bywyd a’i ryng-gysylltedd yn tyfu, ac ymdeimlad o gyfrifoldeb gweithredol. Yn ddiweddarach, mae ymgysylltiad dyfnach ac ehangach ag eraill a chyda lle, yn ogystal â gyda’r byd naturiol a phethau byw yn rhan o’r syfrdandod a’r rhyfeddod hwn.
Mae’r daith yn ymwneud â ‘chyfrifoldeb a gweithredu’ hefyd. Yng nghamau cynnar eu taith ddysgu, mae dysgwyr yn dechrau dangos ymwybyddiaeth o’r amrywiaeth o bethau byw y tu hwnt i’w hunain, a bod eu gweithredoedd yn gallu effeithio arnynt. Ymhellach ar hyd eu taith, gallant ddod i wybod ‘straeon’ crefyddol ac anghrefyddol am lefydd lleol, y byd naturiol a phethau byw, a sut maen nhw’n berthnasol iddyn nhw eu hunain ac eraill. Drwy naratifau crefyddol ac anghrefyddol (er enghraifft, am darddiad y byd), gall dysgwyr ddysgu am wahanol athroniaethau sy’n bwysig i’n dealltwriaeth o’r byd a lle pobl ynddo. Yn ddiweddarach, gyda mwy o soffistigeiddrwydd, maent yn gallu adnabod sut mae gwerthoedd a chredoau’n cael eu hadlewyrchu mewn gweithredoedd, o safbwyntiau crefyddol ac anghrefyddol, a sut maent yn berthnasol i’w profiadau eu hunain.
Mae’r daith hon yn ymwneud â ‘lle a gofod’ hefyd. Yng nghamau cynnar eu taith ddysgu, mae dysgwyr yn dechrau deall eu bod wedi’u lleoli mewn lle a gofod, a bod yna ystyr i hyn. Ymhellach ar hyd eu taith, maent yn deall bod llefydd a gofodau o’u hamgylch yn golygu gwahanol bethau i wahanol bobl, yn ogystal ag ystyried llefydd o arwyddocâd arbennig am resymau crefyddol ac anghrefyddol. Yn ddiweddarach, gall dysgwyr ddod i adnabod ac esbonio gwahanol lefydd y ceir dadlau amdanynt (crefyddol ac anghrefyddol), gan werthfawrogi sensitifrwydd ynglŷn â lle. Gallant ddeall cymhlethdod dadleuon a dylanwadau fel hunaniaeth, awdurdod, gwerthoedd, moeseg ac ystyriaethau ynghylch ystyr a phwrpas mewn bywyd.
Taith ddysgu enghreifftiol 3: gwerthoedd a moeseg
Mae’r daith ddysgu hon yn seiliedig ar ddau ddatganiad o’r hyn sy’n bwysig yn bennaf: ‘Mae digwyddiadau a phrofiadau dynol yn gymhleth a chânt eu hamgyffred, eu dehongli a’u cynrychioli mewn gwahanol ffyrdd’ a ‘Mae dinasyddion gwybodus, hunanymwybodol yn mynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu dynoliaeth, ac yn gallu cymryd camau ystyrlon ac egwyddorol’. Mae yna gysylltiadau â datganiadau eraill o’r hyn sy’n bwysig a chyda Meysydd eraill y gellir eu harchwilio drwy’r is-lens hon.
Bydd y disgrifiadau dysgu’n eich helpu i ddarparu canllawiau manylach ar gynnydd.
Mae’r daith hon yn ymwneud â ‘beth mae pobl yn ei werthfawrogi’. Yng nghamau cynnar eu taith ddysgu, mae dysgwyr yn dechrau deall beth sydd o werth iddynt (er enghraifft, tegwch, ymddiriedaeth, cariad, bywyd a charedigrwydd) ac yn gwrando ar farn pobl eraill. Gallant ddeall yr angen i barchu eraill a dangos hyn yn eu bywydau bob dydd. Ymhellach ar hyd eu taith, mae dysgwyr yn dod yn ymwybodol o wahanol ddehongliadau a mynegiannau o werthoedd cyffredin, gan werthfawrogi amrywiaeth o ddylanwadau crefyddol ac anghrefyddol. Maent yn dysgu sut mae rhai gwerthoedd a hawliau wedi newid dros amser. Wrth i’w gwybodaeth a’u profiad dyfu, gall dysgwyr ddod i drafod amrywiaeth o safbwyntiau crefyddol ac anghrefyddol ar achosion o anghydraddoldeb ac anghyfiawnder, yn ogystal â’r heriau o nodi a diogelu hawliau dynol. Yn ddiweddarach, maent yn gallu ffurfio, amddiffyn ac adolygu eu safbwyntiau moesegol yn gynyddol ar faterion o arwyddocâd crefyddol ac anghrefyddol (er enghraifft, sancteiddrwydd bywyd, rhyddid i lefaru, lles anifeiliaid a rhyfel).
Mae’r daith yn ymwneud â ‘chredoau, gweithredoedd a chanlyniadau’ hefyd. Yng nghamau cynnar eu taith ddysgu, mae dysgwyr yn dechrau dangos dealltwriaeth o beth sy’n ‘gywir’ ac ‘anghywir’ a sut mae eu gweithredoedd a’u teimladau’n cysylltu â hyn. Ymhellach ar hyd eu taith, gyda mwy o ehangder a soffistigeiddrwydd gallant esbonio sut y gall eu gweithredoedd gael canlyniadau iddyn nhw eu hunain ac eraill, ac i’r byd a phethau byw, gan fanteisio ar ddealltwriaeth o amrywiaeth o grefyddau ac argyhoeddiadau athronyddol anghrefyddol. Yn ddiweddarach, gallant ddod i ragdybio a gwerthuso’r ffactorau sy’n dylanwadu ar eu hagweddau, ymddygiad a gweithredoedd, a rhai pobl eraill, yn cynnwys ffactorau’n ymwneud â chred ac arferion crefyddol ac anghrefyddol.
Mae’r daith yn ymwneud â ‘gwneud penderfyniadau’ hefyd. Yng nghamau cynnar eu taith ddysgu, mae dysgwyr yn dechrau adnabod achosion o gyfyng-gyngor moesol ac yn cynnig atebion. Ymhellach ar hyd eu taith, gallant ddysgu rheolau a chodau ymddygiad (crefyddol ac anghrefyddol) sy’n berthnasol iddyn nhw ac i eraill o’u hamgylch, ac esbonio eu heffaith ar fywydau pobl. Yn ddiweddarach, gyda mwy o soffistigeiddrwydd, gall dysgwyr ddod i ddeall a thrafod cyfrifoldebau a heriau gwneud penderfyniadau’n feirniadol, gan ddangos dealltwriaeth o ffigurau, prosesau a sefydliadau perthnasol sy’n ffurfio rhan o’r broses wneud penderfyniadau, mewn cyd-destunau crefyddol ac anghrefyddol. Mae dysgwyr yn nodi cyfleoedd lle mae gweithredu moesol priodol yn angenrheidiol yn eu cymunedau, Cymru a’r byd ehangach.
Taith ddysgu enghreifftiol 4: hunaniaeth a pherthyn
Mae’r daith ddysgu hon yn seiliedig ar ddau ddatganiad o’r hyn sy’n bwysig yn bennaf: ‘Mae digwyddiadau a phrofiadau dynol yn gymhleth a chânt eu hamgyffred, eu dehongli a’u cynrychioli mewn gwahanol ffyrdd’ a ‘Mae cymdeithasau dynol yn gymhleth ac yn amrywiol, ac maen nhw’n cael eu llywio gan weithredoedd a chredoau pobl’. Mae yna gysylltiadau â datganiadau eraill o’r hyn sy’n bwysig a chyda Meysydd eraill y gellir eu harchwilio drwy’r is-lens hon.
Bydd y disgrifiadau dysgu’n eich helpu i ddarparu canllawiau manylach ar gynnydd.
Mae’r daith hon yn ymwneud â ‘beth sy’n gwneud pobl yr hyn ydyn nhw’. Yng nghamau cynnar eu taith ddysgu, mae dysgwyr yn dechrau dangos ymwybyddiaeth o bwy ydyn nhw a’u bod yn debyg ac yn wahanol i eraill. Ymhellach ar hyd eu taith ddysgu, maent yn trafod beth all ffurfio hunaniaeth (er enghraifft, perthnasoedd, ffordd o fyw, credoau a lle) a sut y maent yn dylanwadu ar bobl a’u cymunedau. Yn ddiweddarach, gall dysgwyr adolygu a gwerthuso amrywiaeth o athroniaethau, safbwyntiau bywyd ac arferion crefyddol ac anghrefyddol sy’n ymwneud â’r hyn y mae’n ei olygu i fod yn ddynol, a gallant ffurfio ac ystyried eu safbwyntiau eu hunain yn feirniadol.
Mae’r daith yn ymwneud â ‘chymunedau, cyfraniadau ac amrywiaeth’ hefyd. Yng nghamau cynnar eu taith ddysgu, mae dysgwyr yn dechrau deall eu bod yn rhan o wahanol grwpiau a chymunedau a beth yw ystyr perthyn. Maent yn ymwybodol o amrywiaeth o fewn cymunedau perthnasol a bod eu profiadau o berthyn yn debyg a gwahanol i rai pobl eraill. Ymhellach ar hyd eu taith ddysgu, gallant archwilio mynegiannau o berthyn mewn amrywiaeth o gyd-destunau crefyddol ac anghrefyddol. Gallant drafod arwyddocâd perthyn ym mywydau pobl, yn cynnwys eu bywyd eu hunain. Yn ddiweddarach, gyda mwy o soffistigeiddrwydd, gall dysgwyr ddod i adnabod a gwerthuso cysylltiadau rhwng perthyn, ymrwymiad a chyfraniadau i gymdeithas, diwylliant a lles.
Mae’r daith yn ymwneud â ‘lle, amser a pherthnasoedd’ hefyd. Yng nghamau cyntaf eu taith ddysgu, mae dysgwyr yn dechrau bod yn ymwybodol eu bod yn bodoli mewn lle ac amser, a bod hyn yn eu siapio nhw a’r cymunedau o’u hamgylch. Ymhellach ar hyd eu taith ddysgu, gallant archwilio rhyngweithiadau rhwng amrywiaeth o gymunedau a chymdeithasau, yn lleol ac yn ehangach, a gallant drafod cyfraniadau hunaniaeth a pherthyn o safbwyntiau crefyddol ac anghrefyddol. Gallant ddod i adnabod dilyniant a newid mewn hunaniaeth a pherthyn, a sut maent yn cael eu profi’n bersonol ac yn gyfunol. Yn ddiweddarach, gall dysgwyr ymchwilio i, a gwerthuso perthnasoedd a rhyngddibyniaethau rhwng amrywiaeth o grwpiau, cymunedau a chymdeithasau (lleol, cenedlaethol a byd-eang) a sut mae’r rhain yn effeithio ar fywyd pobl a’r byd naturiol. Gallant ystyried rolau hunaniaeth a pherthyn yn feirniadol i ddeall ac ymateb i faterion cyfoes a rennir, o safbwyntiau crefyddol ac anghrefyddol.
Taith ddysgu enghreifftiol 5: awdurdod a dylanwad
Mae’r daith ddysgu hon yn seiliedig ar dri datganiad o’r hyn sy’n bwysig yn bennaf: ‘Mae digwyddiadau a phrofiadau dynol yn gymhleth a chânt eu hamgyffred, eu dehongli a’u cynrychioli mewn gwahanol ffyrdd’ a ‘Mae cymdeithasau dynol yn gymhleth ac yn amrywiol, ac maen nhw’n cael eu llywio gan weithredoedd a chredoau pobl’, a ‘Mae dinasyddion gwybodus, hunanymwybodol yn mynd i’r afael â’r heriau a’r cyfleoedd sy’n wynebu dynoliaeth, ac yn gallu cymryd camau ystyrlon ac egwyddorol’. Mae yna gysylltiadau â datganiadau eraill o’r hyn sy’n bwysig a chyda Meysydd eraill y gellir eu harchwilio drwy’r is-lens hon.
Bydd y disgrifiadau dysgu’n eich helpu i ddarparu canllawiau manylach ar gynnydd.
Mae’r daith hon yn ymwneud ag ‘awdurdodau a dylanwadau’. Yng nghamau cynnar eu taith ddysgu, mae dysgwyr yn dechrau deall bod yna bobl bwysig yn dylanwadu arnyn nhw a bod hyn yn effeithio ar sut maent yn teimlo, meddwl ac ymddwyn. Ymhellach ar hyd eu taith ddysgu, gallant adnabod ac archwilio gwahanol ffynonellau o awdurdod o fewn cyd-destunau crefyddol ac anghrefyddol (er enghraifft, arweinwyr, perthnasoedd, testunau, codau ymddygiad a thraddodiadau). Gallant ddod i ddeall bod ffynonellau o awdurdod yn dylanwadu ar fywydau pobl mewn amrywiaeth o ffyrdd. Yn ddiweddarach, wrth i ddealltwriaeth dysgwyr ddatblygu, gallant ddadansoddi a gwerthuso perthnasoedd cymhleth (yn cynnwys eu rhai eu hunain) sy’n bodoli rhwng ac ar draws ffynonellau o awdurdod. Gallant ddod i ystyried awdurdod profiad a chydwybod crefyddol ac ysbrydol, yn y gorffennol a’r presennol, a’u heffaith ar bobl, cymdeithas a diwylliant.
Mae’r daith yn ymwneud â ‘phrofiadau a dehongliadau’ hefyd. Yng nghamau cynnar eu taith ddysgu, mae dysgwyr yn dechrau bod yn ymwybodol o ddylanwadau pwysig ym mywydau eraill, a bod eu profiadau’n debyg ac yn wahanol i’w rhai nhw. Ymhellach ar hyd eu taith ddysgu, gallant archwilio sut mae ffynonellau o awdurdod yn cael eu dehongli mewn gwahanol ffyrdd gan wahanol bobl a grwpiau, o fewn cyd-destunau crefyddol ac anghrefyddol. Gallant ddod i adnabod dylanwadau ar ddehongliadau a bod rhai ffynonellau o awdurdod yn golygu mwy nag eraill i wahanol bobl, grwpiau a chymdeithasau. Yn ddiweddarach, gall dysgwyr fanteisio ar sawl ffynhonnell o awdurdod i werthuso dehongliadau crefyddol ac anghrefyddol o faterion sy’n berthnasol i’r cyflwr dynol, a gallant gyflwyno eu safbwyntiau gwybodus. Gallant ystyried yn feirniadol sut a pham y gall profiadau a chysyniadau o awdurdod newid dros amser.
Mae’r daith yn ymwneud â ‘dewisiadau a gweithredoedd’ hefyd. Yng nghamau cynnar eu taith ddysgu, mae dysgwyr yn dechrau deall bod dewisiadau’n gallu effeithio ar eu gweithredoedd. Gallant ddangos ymwybyddiaeth o ddylanwadau ar eu dewisiadau. Ymhellach ar hyd eu taith ddysgu, gallant ddod i adnabod sut mae pobl a chymunedau’n defnyddio ffynonellau crefyddol ac anghrefyddol o awdurdod i’w harwain yn eu bywydau ac i wneud penderfyniadau pwysig. Yn ddiweddarach, wrth i ddealltwriaeth dysgwyr ddatblygu, maent yn gallu defnyddio eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o amrywiaeth o ffynonellau o awdurdod i ymgysylltu’n feirniadol mewn materion neu ddadleuon moesegol cyfoes, ac i ddylanwadu ar gamau gweithredu a chanlyniadau posibl (er enghraifft, her, consensws a chymodi).
Taith ddysgu enghreifftiol 6: perthnasoedd a chyfrifoldeb
Mae’r daith ddysgu hon yn seiliedig ar ddau ddatganiad o’r hyn sy’n bwysig yn bennaf: ‘Mae ein byd naturiol yn amrywiol a deinamig, wedi’i ddylanwadu gan brosesau a gweithredoedd dynol’ a ‘Mae cymdeithasau dynol yn gymhleth ac yn amrywiol, ac maen nhw’n cael eu llywio gan weithredoedd a chredoau pobl’. Mae yna gysylltiadau â datganiadau eraill o’r hyn sy’n bwysig a chyda Meysydd eraill y gellir eu harchwilio drwy’r is-lens hon.
Bydd y disgrifiadau dysgu’n eich helpu i ddarparu canllawiau manylach ar gynnydd.
Mae’r daith hon yn ymwneud â ‘sut mae pobl yn byw gyda’i gilydd’. Yng nghamau cynnar eu taith ddysgu, mae dysgwyr yn dechrau deall eu bod yn byw mewn nifer o berthnasoedd. Maent yn ymwybodol o beth sy’n eu helpu i fyw gydag eraill. Gallant gynnig safbwyntiau ar sut i ddatrys anghytundeb. Ymhellach ar hyd eu taith ddysgu, gallant ddeall a thrafod sut mae pwysigrwydd perthnasoedd (personol, cymdeithasol, amgylcheddol a throsgynnol) yn cael ei fynegi ym mywydau pobl, gan ddefnyddio cyd-destunau crefyddol ac anghrefyddol. Yn ddiweddarach, gall dysgwyr ddod i adnabod bod perthnasoedd yn ddeinamig a chymhleth. Gallant ystyried yn feirniadol y dylanwadau a all gyfrannu at harmoni ac anghytgord ar lefel fyd-eang, leol a phersonol (yn cynnwys dylanwadau crefyddol ac anghrefyddol). Gallant adolygu a gwerthuso heriau a gyflwynir gan berthnasoedd, gan fanteisio ar amrywiaeth o brofiadau a dealltwriaeth grefyddol ac anghrefyddol.
Mae’r daith yn ymwneud â ‘chyfrifoldebau a rhyng-gysylltedd’ hefyd. Yng nghamau cynnar eu taith ddysgu, mae dysgwyr yn dechrau bod yn ymwybodol o gysylltiadau rhwng eu bywydau eu hunain a bywydau pobl eraill, y byd naturiol a phethau byw. Gallant ddangos cyfrifoldeb am eraill drwy weithredoedd syml. Ymhellach ar hyd eu taith ddysgu, gallant ddeall sut a pham mae pobl yn dangos cyfrifoldeb am bobl a llefydd y tu allan i’w perthnasoedd personol. Gallant drafod dimensiynau materol ac anfaterol pwysig perthnasoedd (yn cynnwys dimensiynau ysbrydol, crefyddol a moesol), a dod i adnabod cysylltiadau gyda thwf dynol a sut y gall pobl fyw gyda’i gilydd yn gyfrifol yn y byd. Yn ddiweddarach gall dysgwyr ddod i ddatblygu gwerthfawrogiad beirniadol o faterion arwyddocaol sy’n effeithio ar berthnasoedd ar lefel fyd-eang a dychmygu dyfodol posibl. Gallant ymgysylltu’n feirniadol ag amrywiaeth o athroniaethau crefyddol ac anghrefyddol gan archwilio rhyng-gysylltedd mewn bywyd, yn ogystal â natur a dealltwriaeth o fodau dynol ynddo.
Mae’r daith yn ymwneud â ‘lles, hunaniaeth a chynhwysiant’ hefyd. Yng nghamau cynnar eu taith ddysgu, mae dysgwyr yn dechrau bod yn ymwybodol o’u profiadau a’u teimladau eu hunain wrth gymryd rhan mewn gweithgareddau gydag eraill. Gallant ddeall bod gan bobl eraill brofiadau a theimladau hefyd, sy’n debyg ac yn wahanol i’w rhai nhw. Gallant fod yn chwilfrydig am fywydau pobl eraill. Ymhellach ar hyd eu taith ddysgu, gallant archwilio sut y gall gweithredu gynnwys ymrwymiad ac aberth sylweddol (yn y gorffennol a’r presennol) a chael effeithiau sylweddol ar fywydau a lles eraill ac ar y byd ehangach. Gallant ddod i ddeall cysylltiadau rhwng gweithredoedd a hunaniaeth, yn cynnwys dylanwadau crefyddol ac anghrefyddol. Gallant weld annhegwch ac anghydraddoldeb yn eu bywydau personol ac mewn cymdeithas yn ehangach ac awgrymu heriau priodol. Yn ddiweddarach, gall dysgwyr ystyried yn feirniadol sut beth yw perthnasoedd iach a’u cyfraniadau at les, gan fanteisio ar amrywiaeth o safbwyntiau crefyddol ac anghrefyddol. Gallant ddod i ddeall a gwerthuso cysylltiadau rhwng hunaniaeth bersonol a hunaniaeth grŵp perthnasol.
Taith ddysgu enghreifftiol 7: taith bywyd
Mae’r daith ddysgu hon yn seiliedig ar ddau ddatganiad o’r hyn sy’n bwysig yn bennaf: ‘Mae digwyddiadau a phrofiadau dynol yn gymhleth a chânt eu hamgyffred, eu dehongli a’u cynrychioli mewn gwahanol ffyrdd’ a ‘Mae cymdeithasau dynol yn gymhleth ac yn amrywiol, ac maen nhw’n cael eu llywio gan weithredoedd a chredoau pobl’. Mae yna gysylltiadau â datganiadau eraill o’r hyn sy’n bwysig a chyda Meysydd eraill y gellir eu harchwilio drwy’r is-lens hon.
Bydd y disgrifiadau dysgu’n eich helpu i ddarparu canllawiau manylach ar gynnydd.
Mae’r daith hon yn ymwneud ag ‘ystyr, pwrpas a dylanwad’ hefyd. Yng nghamau cynnar eu taith ddysgu, mae dysgwyr yn dechrau deall bod gan bobl straeon bywyd personol. Mae dysgwyr yn dechrau adrodd eu stori bywyd eu hunain. Ymhellach ar hyd eu taith ddysgu, gallant archwilio amrywiaeth o lwybrau drwy fywyd y mae pobl wedi’u profi, gan fanteisio ar gyd-destunau a dylanwadau crefyddol ac anghrefyddol. Gallant ddod i adnabod cysylltiadau â chreu ystyr a phwrpas. Yn ddiweddarach, gall dysgwyr ddadansoddi ac ystyried yn feirniadol y cysyniad o alwedigaeth, yn y gorffennol a’r presennol, o safbwyntiau crefyddol ac anghrefyddol. Gallant archwilio heriau y mae pobl yn eu hwynebu mewn llwybrau bywyd a gwerthuso ymatebion crefyddol ac anghrefyddol.
Mae’r daith yn ymwneud â ‘chamau a digwyddiadau bywyd’ hefyd. Yng nghamau cynnar eu taith ddysgu, mae dysgwyr yn dechrau bod yn ymwybodol eu bod yn tyfu a newid dros amser. Maent yn profi a chymharu sut mae eu twf eu hunain a phobl eraill yn cael ei gydnabod a’i ddathlu. Gallant ddangos sut mae eu bywydau’n cael eu cysylltu ag amseroedd a thymhorau arbennig. Ymhellach ar hyd eu taith ddysgu, gallant archwilio digwyddiadau bywyd a defodau newid byd arwyddocaol, a thrafod eu rolau ym mywydau pobl drwy ddefnyddio dealltwriaeth grefyddol ac anghrefyddol. Yn ddiweddarach, gall dysgwyr ddadansoddi a thrafod yn feirniadol gamau gweithredu defodol gan bobl i ddynodi digwyddiadau ac amser arwyddocaol. Gallant ddod i werthuso athroniaethau amser perthnasol o safbwyntiau crefyddol ac anghrefyddol a dangos sut y gallant effeithio ar gredoau, arferion a gweithredoedd.
Mae’r daith yn ymwneud â ‘mynd ar daith gorfforol ac ysbrydol’. Yng nghamau cynnar eu taith ddysgu, mae dysgwyr yn dechrau deall eu bod yn mynd ar lawer o deithiau gwahanol am resymau gwahanol. Maent yn dangos diddordeb yn nheithiau pobl eraill ac yn gallu dangos sut mae eu teithiau’n debyg ac yn wahanol i’w profiadau eu hunain. Maent yn ymwybodol bod gan deithiau nodweddion corfforol yn ogystal â nodweddion anfaterol. Ymhellach ar eu taith ddysgu, gallant archwilio profiadau pobl o deithiau pwysig o safbwyntiau crefyddol ac anghrefyddol, a nodi rhesymau am y teithiau hyn. Gallant ddod i ddeall bod teithiau’n gysylltiedig â lle ac amser. Gallant ddychmygu taith bwysig yn eu bywydau eu hunain. Yn ddiweddarach, gall dysgwyr nodi a gwerthuso cysylltiadau rhwng teithiau corfforol ac ysbrydol a’u heffeithiau ar fywydau unigolion, cymunedau a’r gymdeithas ehangach (er enghraifft, mewn perthynas â hunaniaeth, ffurfio pobl, amrywiaeth, diwylliant). Gallant roi ystyriaeth feirniadol i ryng-gysylltedd teithiau, tirweddau a phobl ar draws lle ac amser, gan ddefnyddio cyd-destunau crefyddol ac anghrefyddol.
Pa bynnag ddull a fabwysiedir i ddatblygu’r cwricwlwm, mae angen i ysgolion a lleoliadau sicrhau dysgu cyfoethog mewn CGM ar draws amrywiaeth eang o brofiadau. Mae profiadau dysgu’n agwedd ganolog o athroniaeth fframwaith y Cwricwlwm i Gymru. Wrth gynllunio eu cwricwlwm dylai ysgolion a lleoliadau sicrhau bod amrywiaeth o brofiadau priodol i ddatblygiad sy’n berthnasol i Grefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn cael eu darparu i ddysgwyr.
Gall y profiadau hyn gynnwys cyfleoedd i:
- ymgysylltu â chymunedau lleol crefyddol ac anghrefyddol mewn ffyrdd y bydd dysgwyr yn eu gweld yn ystyrlon a gwerthfawr
- ymgysylltu mewn chwarae rôl a chymryd rhan mewn gweithgareddau fel dathliadau neu ailgreadau, neu arsylwi arnynt
- ystyried beth sy’n dylanwadu ar bobl, yn cynnwys Cristnogion, yn eu hymateb i gyfyng-gyngor moesol, datrys problemau go iawn a phresennol, ac archwilio digwyddiadau’r gorffennol
- profi a myfyrio ar ddirgelwch a rhyfeddod y byd naturiol, lleoliadau hanesyddol a safleoedd crefyddol a diwylliannol
- arsylwi ar a chymryd rhan mewn gweithgareddau diwylliannol sy’n helpu dysgwyr i ddeall profiadau dynol
- trafod ac archwilio arteffactau a gwrthrychau crefyddol, yn cynnwys testunau crefyddol a thestunau eraill
- ymweld â llefydd addoli lleol a mannau, tirweddau ac amgylcheddau arbennig eraill, yn cynnwys y rhai ag elfen grefyddol ac ysbrydol arwyddocaol
- cyfarfod pobl y mae ffydd a chred yn bwysig iddynt i helpu dysgwyr i archwilio profiadau bywyd
- gofyn cwestiynau mawr am bwerau uwch neu’r realiti eithaf, y byd, ystyr a phwrpas bywyd ac am eu profiadau eu hunain
- ymgysylltu â ffynonellau crefyddol ac anghrefyddol, er enghraifft arweinwyr crefyddol, pobl o ffydd a chred, athronwyr, mannau addoli, arteffactau, testunau crefyddol a gweithiau athronyddol
- dysgu ymateb i gredoau ac argyhoeddiad eraill wrth archwilio a dadansoddi eu safbwyntiau a’u gwerthoedd eu hunain.
Ein barn ni: Mae cyfoethogi profiad dysgwyr mewn CGM yn ymwneud, yn rhannol, ag ysgolion a lleoliadau’n archwilio eu lle yn y gymuned leol ac ehangach. Bydd gan ysgolion yr Eglwys yng Nghymru gysylltiadau cryf â’u Hesgobaeth a’r eglwys leol eisoes, a gall hyn fod yn ffocws defnyddiol ar gyfer rhai o’r cyfleoedd y cyfeirir atynt isod. Bydd llawer o ysgolion yn gweld bod gweithredoedd eu Hymddiriedolaeth hefyd yn ffordd o ymchwilio gwreiddiau ei le yn y gymuned leol. Mae’n bwysig bod profiadau’n cael eu cyfoethogi yn ysgolion yr Eglwys yng Nghymru drwy roi cyfleoedd i ddysgwyr ymchwilio i grwpiau ffydd a chred eraill yn cynnwys y rhai ag argyhoeddiad athronyddol anghrefyddol, sy’n cael eu cynrychioli’n lleol ac ar draws Cymru, yn ogystal â llefydd a gofodau cysegredig, ddoe a heddiw.
Dylai datblygiad cwricwlwm mewn ysgolion a lleoliadau archwilio cysylltiadau clir a chyd-ddibyniaethau rhwng RVE a’r Meysydd eraill fel rhan o gwricwlwm cyfannol. Dylid tynnu ar y cysylltiadau a’r rhyngddibyniaethau hyn wrth gynllunio’r cwricwlwm, gydag ymarferwyr yn gweithio’n greadigol ac ar y cyd i gefnogi dysgwyr i wireddu pedwar diben y cwricwlwm.
Pwyntiau i’w hystyried gan ysgolion a lleoliadau
Gall ysgolion a lleoliadau ddefnyddio’r cwestiynau canlynol wrth gynllunio eu cwricwlwm ar gyfer CGM.
- Ydych chi wedi ystyried sut y bydd CGM yn gweithio orau yn y Maes Dyniaethau?
- Ydy’ch cynllun cwricwlwm ar gyfer CGM yn cefnogi gwireddu’r pedwar diben?
- Ydych chi wedi defnyddio’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig ar gyfer y Maes hwn i lywio cynllun eich cwricwlwm?
- Ydych chi wedi ystyried amrywiaeth o is-lensys i weld cysyniadau CGM drwyddynt i gefnogi cynllun y cwricwlwm?
- Ydych chi wedi ystyried cynnydd dysgu mewn CGM, gan ddefnyddio egwyddorion cynnydd a disgrifiadau dysgu'r Maes Dyniaethau?
- Ydych chi wedi ystyried y ‘teithiau dysgu’ a ddarperir i gefnogi’ch dealltwriaeth o gynnydd mewn perthynas â CGM?
- Ydych chi wedi myfyrio ar deithiau dysgu posibl eich dysgwyr i gefnogi cynllun y cwricwlwm ar gyfer CGM?
- Ydych chi wedi cynnwys cyfleoedd yng nghynllun eich cwricwlwm ar gyfer cyfoethogi profiadau dysgwyr mewn CGM?
- Ydych chi wedi gwneud cysylltiadau allweddol rhwng CGM a meysydd dysgu a phrofiad eraill?
- A yw cynllun eich cwricwlwm ar gyfer CGM yn sicrhau dyfnder, ehangder ac ansawdd dysgu priodol?
Ein barn ni:
- Ydych chi wedi ystyried eich maes llafur cytunedig ar gyfer CGM, gan fodloni gofynion gweithredoedd eich ymddiriedolaeth hefyd?
- Ydy'ch cynllun cwricwlwm ar gyfer CGM yn bodloni gofynion canllawiau ategol yr Eglwys yng Nghymru?
- Ydych chi wedi defnyddio cysyniadau CGM, yn cynnwys cysyniadau allweddol Cristnogaeth, yng nghynllun eich cwricwlwm?
- Ydych chi wedi cynnwys cyfleoedd ar gyfer datblygiad ysbrydol dysgwyr mewn CGM, gan ddefnyddio dull tîm addysg yr Eglwys yng Nghymru?
- Ydych chi wedi sicrhau bod cynllun eich cwricwlwm ar gyfer CGM yn wrthrychol, beirniadol ac amlblwyfol?
Dylid cefnogi pob dysgwr ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) i oresgyn rhwystrau i ddysgu a chyflawni ei botensial llawn mewn CGM. Dylai ysgolion a lleoliadau sy’n darparu addysg i ddysgwyr ag ADY, yn cynnwys y rhai ag anawsterau dysgu dwys a niferus, ystyried y ffordd orau o ddiwallu anghenion pob dysgwr wrth gynllunio a darparu cyfleoedd dysgu effeithiol mewn CGM.
Gall ystyriaethau gynnwys y canlynol, er enghraifft:
- dulliau amlsynhwyraidd, gweithredol o gyflwyno dysgu newydd yn CGM, gan ystyried arddulliau dysgu ac anghenion emosiynol gwahanol pob dysgwr
- cyfleoedd cynhwysol i ddysgwyr brofi rhyfeddod mewn amrywiaeth o amgylcheddau
- defnyddio amrywiaeth o ysgogiadau, fel arteffactau a chyd-destunau crefyddol ac anghrefyddol perthnasol
- dysgwyr i gymryd rhan yn llawn yn cynnwys y rhai sy’n defnyddio dull cyfathrebu heblaw siarad
- gweithgareddau sy’n cynnwys pob dysgwr y tu mewn a’r tu allan i’r ystafell ddosbarth, er enghraifft, wrth ymweld â mannau addoli lleol a llefydd arwyddocaol arbennig eraill.
Wrth weithio â dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol, dylai ymarferwyr a gofalwyr fod yn ymwybodol o ddull yr ysgol neu’r lleoliad o ymdrin â Chrefydd, Gwerthoedd a Moeseg yn y Maes Dyniaethau.
I gael rhagor o wybodaeth am ADY gweler y canllawiau ar Lwybrau Dysgu a’r Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol ar gyfer Cymru 2021.
Dylai darpariaeth CGM mewn lleoliad meithrin gael ei hystyried fel rhan o ddull cyfannol cyffredinol o ddysgu a datblygu. Mae’r adran ‘Cynllunio eich cwricwlwm ar gyfer CGM’ uchod yn darparu rhagor o wybodaeth am CGM ar gyfer plant 3-16 oed, i gefnogi ymarferwyr yn y lleoliadau hyn gyda’r dull cyfannol hwn.
Mae dysgwyr ifanc yn chwilfrydig iawn; maen nhw’n mwynhau archwilio ac ymchwilio ar eu pen eu hunain a chydag eraill, ac yn gofyn cwestiynau’n naturiol am fywyd a’r byd o’u cwmpas. Trwy weithgareddau integredig, ymarferol, ymgysylltiol yn y cyfnod dysgu hwn gallant ddechrau dysgu mwy am eu hunain, pobl eraill a’r byd ehangach.
Dylai addysgeg effeithiol sy’n canolbwyntio ar y dysgwr, sy’n ymatebol, yn ddeinamig ac wedi’i hymgorffori mewn perthnasoedd cryf, fod yn ganolog i ddatblygu darpariaeth CGM mewn lleoliad. Drwy chwarae, gall dysgwyr ddatblygu eu syniadau, safbwyntiau a theimladau gyda dychymyg, creadigrwydd a sensitifrwydd, sy’n gallu helpu i lywio eu barn am y byd. Mae treulio amser yn yr awyr agored yn cefnogi datblygiad cymdeithasol, emosiynol, ysbrydol a chorfforol dysgwyr, yn ogystal â’u lles. Mae bod yn yr awyr agored yn eu helpu i ddatblygu ymwybyddiaeth o’r angen i ddangos gofal a pharch at bethau byw hefyd.
Mae dysgwyr yn y cyfnod dysgu hwn yn dechrau deall y cysyniad o ‘wahaniaeth’. Dylai ymarferwyr eu hannog i rannu eu gwybodaeth a’u profiadau o’u credoau, eu treftadaeth a’u traddodiadau eu hunain yn ogystal â rhai pobl eraill (er enghraifft, drwy ganeuon, straeon a chwarae rôl). Gall hyn helpu dysgwyr ifanc i ddeall mwy am eu hunain, ac am brofiadau a safbwyntiau a allai fod yn wahanol i’w rhai nhw.
Gall amgylchedd cefnogol, meithringar, lle mae dysgwyr yn gallu dysgu am wahaniaethau a thebygrwydd ei gilydd, eu helpu i ddechrau datblygu perthnasoedd seiliedig ar barch ac ymdeimlad o gyfrifoldeb. Gallant ddechrau archwilio iaith hawliau a dechrau deall eu hawl i gredu gwahanol bethau a dilyn gwahanol gredoau. Drwy hyn, gall dysgwyr o oedran cynnar ddechrau adnabod a deall sut y gall eu gweithredoedd effeithio ar eraill, a dysgu i fyfyrio ar eu safbwyntiau eu hunain, a’u diwygio fel y bo’n briodol.
Mae gan bob dysgwr hawl i addysg. Wrth ystyried y ffordd orau o ddiwallu anghenion eu dysgwyr, mae gofyn i ddarparwyr addysg heblaw yn yr ysgol, yn cynnwys unedau cyfeirio disgyblion, dalu sylw i elfennau gorfodol y cwricwlwm, sy’n cynnwys CGM, a sicrhau darpariaeth mewn perthynas â nhw cyn belled ag y bydd hynny’n bosibl a phriodol i’r dysgwr unigol.
Dylai profiadau dysgwyr eu galluogi i archwilio cysyniadau CGM drwy’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig yn y Maes Dyniaethau, gan ddefnyddio gwahanol is-lensys mewn CGM sydd wedi’u darparu yn y canllawiau hyn. Nid oes rhaid i leoliadau o’r fath ddarparu’r maes llafur cytunedig. Fodd bynnag, mae’n rhaid i’r addysg CGM a ddarperir yn y lleoliadau hyn fodloni’r gofyniad amlblwyfol.
Mae rhagor o wybodaeth am ofynion deddfwriaethol ar gyfer unedau cyfeirio disgyblion ac addysg heblaw yn yr ysgol ar gael yn adran ddeddfwriaeth Fframwaith y Cwricwlwm i Gymru.
- Addaswyd o: The Red Kite: Telling the Story by Andrew Rickett, o Spiritual Development, Interpretations of spiritual development in the classroom. Hawlfraint Swyddfa Addysg Eglwys Loegr Y Gymdeithas Genedlaethol (Eglwys Loegr a’r Eglwys yng Nghymru) ar gyfer hyrwyddo addysg 2018
- O Black, Asian and Minority Ethnic Communities, Contributions and Cynefin yn y New Curriculum Working Group Interim Report. OGL Hawlfraint y Goron Tachwedd 2020.